Cynllun Cydraddoldeb
Cynllun Cydraddoldeb
Strategol
Adroddiad Blynyddol
2018-2019
1. Cyflwyniad
Dyma’r trydydd Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol Conwy (2016-2020) ar gyfer y cyfnod 2018-2019.
Mae'r Ddyletswydd Gyffredinol, a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, yn gofyn i ni roi sylw dyledus i:
• ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon;
• hyrwyddo cyfle cyfartal;
• a meithrin cysylltiadau da.
Mae Rheoliadau Dyletswyddau Statudol (Cymru) 2011, y cyfeirir atynt yn aml fel y Dyletswyddau Penodol, yn ei gwneud yn
ofynnol i ni adrodd ar y meysydd canlynol, er mwyn dangos ein bod wedi rhoi ystyriaeth briodol i’r Ddeddf:
1.1 Y camau yr ydym wedi'u cymryd i nodi, casglu a defnyddio Gwybodaeth Berthnasol, ac effeithiolrwydd y trefniadau hyn.
1.2 Cynnydd tuag at gyflawni pob amcan cydraddoldeb, gan gynnwys datganiad ar effeithiolrwydd y camau a gymerwyd
1.3 Gwybodaeth cyflogaeth benodedig, gan gynnwys gwybodaeth am staff, recriwtio, hyfforddi a thalu
Bydd gweddill yr adroddiad hwn yn cynnwys y tri phrif xxxx xxx.
2. Gwybodaeth Berthnasol
Rydym wedi defnyddio tystiolaeth sy’n ymwneud â chydraddoldeb i helpu i bennu’r amcanion cydraddoldeb a nodir yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020 ac rydym hefyd yn defnyddio data perthnasol wrth gynnal Asesiadau o Effaith ar bolisïau ac arferion newydd a diwygiedig. Bydd peth o’r data yn gysylltiedig ag ystadegau cenedlaethol a lle bynnag y mae ar gael, rydym yn ceisio defnyddio data lleol a rhanbarthol gan fod hyn yn fwy perthnasol i ni yng Ngogledd Cymru a Chonwy. Rydym hefyd yn ystyried gwybodaeth a gafwyd o weithgareddau ymgysylltu ac ymgynghori.
Pan aethom ati i ddatblygu ein Hamcanion Cydraddoldeb a’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020, fe wnaethom adolygu ein dogfen Data ac Ymchwil cefndirol sydd yn nodi’r data perthnasol a ddefnyddiwyd gennym wrth ddiwygio a chytuno ar ein hamcanion cydraddoldeb cyfredol. Yn aml mae oedi o ran amser ar gyfer peth data cydraddoldeb cyhoeddedig, xxxxx xxxx fod yn nifer o flynyddoedd cyn ein bod yn gallu gwneud cysylltiadau cryf rhwng canlyniadau ein Hamcanion Cydraddoldeb a'r data a adroddwyd.
A yw Cymru’n Decach? 2018
Cyhoeddodd Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ‘A yw Cymru’n Decach? 2018’ sydd yn dangos rhai meysydd bach o welliant ers cyhoeddi eu hadroddiad yn 2015, gyda llai o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET); cynnydd yn y gyfradd gyflogaeth; gwelliant yng nghyrhaeddiad bechgyn yn y blynyddoedd cynnar a phlant sy'n derbyn
prydau ysgol am ddim yn gwella’n gyflymach; mwy o bobl yng Nghymru yn ymgysylltu â democratiaeth, yn enwedig merched; y bwlch cyflog rhwng y rhywiau’n lleihau; a gostyngiad yn y plant anabl sy’n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl.
Ond, nododd yr adroddiad hefyd bod nifer o anghydraddoldebau parhaus gyda chynnydd mewn tlodi yn arwain at fwlch pellach rhwng profiadau a chyfleoedd rhai grwpiau gwarchodedig. Nododd yr EHRC argymhellion o xxx 6 thema: Addysg, Gwaith, Safonau Byw, Iechyd, Cyfiawnder a Diogelwch Personol a Chyfranogiad.
Mae’r argymhellion o ‘A yw Cymru’n Decach? 2018’ wedi’u hystyried a’u cymharu gyda data perthnasol sy’n cael ei ddal yng Nghonwy i nodi a yw neges Cymru gyfan yr un fath ar gyfer Conwy a /neu Gogledd Cymru i gynorthwyo i benderfynu xxxx ddylai ein hamcanion a’n blaenoriaethau fod ar gyfer y cyfnod 2020-2024 fel y nodwyd yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol nesaf. Fel rhan o’r gwaith hynny rydym wedi diweddaru’r ddogfen Data ac Ymchwil Cefndirol sy’n defnyddio’r wybodaeth berthnasol ddiweddaraf sydd ar gael ar gyfer Conwy a Gogledd Cymru ac mae hyn yn gymorth i lunio ein cynllun nesaf, ein hamcanion a'n meysydd gweithredu.
Ffynonellau Gwybodaeth Eraill
Mae ein xxx Gwybodaeth ac Ymchwil Corfforaethol yn cyhoeddi dogfen yn flynyddol o'r enw "Bwletin Ymchwil Ystadegau Cydraddoldeb" sy'n darparu'r data cydraddoldeb diweddaraf sydd ar gael am gyfansoddiad y bobl yn ein Sir. Cyfeirir at yr wybodaeth xxx xxx swyddogion wrth gynnal Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb ac ymgynghoriadau. Mae'r xxx Ymchwil hefyd yn cefnogi gwasanaethau pan maent yn ymgymryd ag ymgynghoriad wrth ddadansoddi'r data a gesglir o weithgareddau.
Cynhaliwyd Digwyddiad Ymgysylltu â Xxxx-ddeiliaid Cydraddoldeb xx Xxx 2018, ac fe ddarparodd y digwyddiad hwn giplun ar rai o’r prif weithgareddau yr ymgymerwyd â hwy gan y 12 sefydliad yn Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Gogledd Cymru ers cyhoeddi Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol 2016. Mae’r digwyddiad hefyd yn ceisio safbwyntiau ac adborth ar yr hyn y mae sefydliadau sector cyhoeddus Gogledd Cymru yn credu y dylem fynd i’r afael â nhw yn ein gwaith. Cyhoeddwyd adroddiad a’i ddosbarthu i’r xxxx gyfranogwyr ac mae’r wybodaeth o’r digwyddiad hwn hefyd yn llunio ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol a’n hamcanion nesaf.
Data’r Cyfrifiad
Parheir i ystyried Cyfrifiad 2011 Conwy fel y ffynhonnell ddata fwyaf dibynadwy, wrth fod yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn cael ei
effeithio’n aml gan faint y sampl, sy’n medru gwyro’r data. Adroddodd Cyfrifiad 2011 fod 95.4% o'r boblogaeth yn Wyn Prydeinig, 2.2% yn Wyn Arall a 2.4% heb fod yn Wyn (yn erbyn ffigurau Cymru gyfan o 93.2%, 2.3% a 4.8% yn y drefn honno).
Roedd 48.4% o'r boblogaeth yn ddynion, 24.8% yn anabl, a 0.9% yn Lesbiaid, Hoyw neu Ddeurywiol. Roedd 16.5% o'r boblogaeth yn 0-15 oed, 58.9% yn 16-64 oed, 24.6% yn 65+ oed a 3.8% yn 85+ oed. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth yma i gymharu yn erbyn ein data monitro cydraddoldeb ein hunain, er mwyn ceisio gweld pa mor agos y mae’n cyd-fynd â gwneuthuriad ein cymuned leol.
Mae Arolwg Poblogaeth Blynyddol 2018 yn dweud wrthym fod 4.8% o boblogaeth Cymru heb fod yn xxx xxx ddangos nad oes newid o Gyfrifiad 2011 Cymru sydd hefyd yn 4.8%. Mae’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn seiliedig ar amcangyfrifon ac xxxxx xxx’r cywirdeb ar lefel leol yn newidiol. Ond mae ethnigrwydd disgyblion mewn ysgolion yng Nghonwy yn 2019 yn dangos bod 92.9% o ddisgyblion yn Wyn Prydeinig (i xxxx 0.2), 2.1% yn Wyn Arall (i fyny 0.1%), 0.1% yn Sipsiwn/ Teithwyr (dim newid) a 4.3% yn Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig (i fyny 0.2%).
Mae amcangyfrif poblogaeth canol blwyddyn diweddaraf ONS o 2017 yn dangos bod 48.6% yn ddynion a 51.4% yn ferched yng Nghonwy. Roedd 16.2% o’r boblogaeth rhwng 0-15 oed, 56.6% yn 16-64, 27.2% yn 65-84 (sydd yn llawer uwch na Chymru: 20.6%
neu'r DU: 18.2%) a 4.1% yn 85+ oed (o gymharu â Chymru: 2.6% neu’r DU:2.4%).
Nid oes data ar gael am bobl sy’n drawsrywiol ar lefel awdurdod unedol na chenedlaethol ond mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn bwriadu nodi dewisiadau a gwneud argymhellion o ran sut i symud hyn ymlaen. Rydym yn casglu’r data gan ein staff ond nid yw'r data wedi'i gwblhau ac xxx xxxxx gwaith pellach i geisio mynd i'r afael â hyn er bod materion preifatrwydd yn berthnasol ar gyfer y nodwedd a ddiogelir gan nad yw'n ofynnol bod pobl yn datgelu eu xxxxx rhyw.
Nid oes ffynhonnell gynhwysfawr o ddata ynglŷn ag anabledd. Mae Cyfrifiad 2011 yn darparu gwybodaeth ynglŷn â salwch cyfyngol tymor hir sy’n dangos fod gan 12.1% salwch cyfyngol sy’n effeithio ar eu gweithgareddau dydd i ddydd “llawer iawn” a 12.2% pellach “ychydig” (cyfanswm o 24.2%), gyda 75.8% heb unrhyw salwch cyfyngol. Yn ôl yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn 2018, roedd 23.6% o bobl oedran gwaith yng Nghymru yn anabl i lefel a fyddai'n cyfyngu eu gallu i weithio.
Mae cofrestr o bobl sydd â nam corfforol a / neu nam ar y synhwyrau a phobl ag anableddau dysgu sy’n defnyddio’r Gwasanaethau Cymdeithasol, ond dim ond gwybodaeth am y bobl hynny sy’n defnyddio gwasanaethau’r Cyngor yw hynny ac yn 2017/18 roedd hyn ar lefel o 6.4% o’i gymharu â ffigwr Cymru gyfan o 2.6%. Yn 2018 yng Nghonwy, roedd 12% o’r boblogaeth yn hawlio Lwfans Byw i'r Anabl neu Daliadau Annibyniaeth Personol.
Xxx xxxx i 12% o boblogaeth Conwy yn darparu gofal di-dâl (13,605 o bobl) yn ôl Cyfrifiad 2011.
Ganwyd 1000 o fabanod i breswylwyr Conwy yn 2017.
Daw’r unig ddata am gysylltiadau crefyddol o Gyfrifiad 2011 gyda 65% yn Gristnogion, 26% heb unrhyw grefydd, 0.5% yn Fwslimaidd, 0.3% yn Fwdhaidd, 0.2% yn Hindŵaidd a 0.1% yn Iddewig.
Xxx xxx Gyfrifiad 2011 ddata ar yr iaith Gymraeg sydd wedi ei ddadansoddi yn ôl oedran, cenedligrwydd ac ardal ddaearyddol; ac mae’r Cyfrifiad Ysgolion yn darparu data am ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg. Does gan 60.6% o boblogaeth Conwy ddim gwybodaeth o’r Gymraeg, mae 27.4% yn siaradwyr Cymraeg a 20.6% yn siarad, ysgrifennu a darllen Cymraeg. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fwyaf cyffredin ymysg unigolion o oedran ysgol; gall 49.2% o rai 5-15 oed yn siarad Cymraeg yng Nghonwy o gymharu â 40.3% ledled Cymru.
Nid oes data dibynadwy am faint y boblogaeth hoyw, lesbiaid neu ddeurywiol yn y DU. Mae amcangyfrifon o wahanol ffynonellau yn amrywio o 0.3% i 10%, ond nid ydynt yn caniatáu ar gyfer diffyg adrodd neu gamadrodd. Mae Arolwg Poblogaeth Blynyddol 2017 yn dangos ffigyrau ar gyfer Cymru gyfan gyda 95% yn heterorywiol / xxxx, 1.3% yn Hoyw / Lesbiaid, 0.7% yn Ddeurywiol, 0.5% wedi nodi Arall, a 2.5% Ddim yn gwybod / gwrthod dweud. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o’r farn fod y ffigyrau hyn yn debygol o fod yn dangyfrif. Mae'r Adran Masnach a Diwydiant yn rhoi amcangyfrif swyddogol bod 5-7% o boblogaeth Prydain yn hoyw, lesbiaid neu ddeurywiol.
Cwynion yn ymwneud â Chydraddoldeb
Mae ein Xxxxx Gwasanaethau Gwybodaeth a Chwsmeriaid Corfforaethol yn monitro nifer y canmoliaethau a’r
cwynion a dderbyniwyd. Yn ystod 2018-19, cafwyd 425 o ganmoliaethau (gan gyrff allanol neu'r cyhoedd) i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a 299 o gwynion (gostyngiad o 14.6%). Datryswyd 86% o gwynion ar Gam 1. Nid oedd unrhyw gwynion yn ymwneud â chydraddoldeb. Atgyfeiriwyd 36 o gwynion at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Nid oedd 34 ohonynt wedi arwain at archwiliad ac aeth 2 ymlaen i archwiliad, gydag un yn cael ei ollwng a’r llall yn aros am benderfyniad.
Derbyniwyd 25 o gwynion ffurfiol gan Ofal Cymdeithasol ar gyfer y cyfnod 01/04/2018 - 31/03/2019. Daeth 24 o gwynion i ben yng Ngham 1, a daeth 1 cwyn ffurfiol i ben yng Ngham 2. Tra bod rhai o’r cwynion wedi eu categoreiddio o xxx adrannau o’r gwasanaeth yn ymwneud ag Anabledd a Phobl Hŷn; nid oedd yr un ohonynt yn ymwneud yn uniongyrchol â materion cydraddoldeb nac yn honni bod o ganlyniad i wahaniaethu yn erbyn eu nodweddion gwarchodedig. Roedd un cwyn yn ymwneud ag oedi cyn derbyn Bathodyn Glas ond datryswyd hyn gydag ymddiheuriad ysgrifenedig ac eglurhad o ran sut yr oedd Llywodraeth Cymru wedi newid y broses.
Rydym yn cydnabod bod bylchau yn y data o hyd, rhai ohonynt y gallwn ddylanwadu’n uniongyrchol yn eu cylch o ran y gweithlu ac wrth gasglu data gan ddefnyddwyr gwasanaeth, ond mae llawer ohonynt y tu hwnt i’n rheolaeth. Lle y gallwn, byddwn yn cymryd camau i ddylanwadu ar hyn drwy ein cyswllt gyda chyrff eraill sy'n cyhoeddi data drwy adrodd yn ôl iddynt am bwysigrwydd cael data cydraddoldeb wedi’i ddatgyfuno megis y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar gyfer Cyfrifiad 2021.
3. Cynnydd tuag at gyflawni pob Xxxxx Xxxxxxxxxxxx
Mae Amcanion Cydraddoldeb Conwy wedi'u hamlinellu yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol. At ddiben yr adroddiad hwn, mae amcanion 2016-2020 fel a ganlyn:
• Lleihau anghydraddoldeb Iechyd
• Lleihau canlyniadau anghyfartal mewn Addysg i wneud y gorau o botensial unigolion
• Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn Cyflogaeth a Chyflog
• Lleihau anghydraddoldeb o ran Diogelwch Personol
• Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn Cynrychiolaeth a Llais
• Lleihau anghydraddoldeb o ran cael Mynediad at wybodaeth, gwasanaethau, adeiladau a’r amgylchedd
Xxx xxx xxx Xxxxx Cydraddoldeb nifer o feysydd gweithredu yn nodi meysydd penodol o flaenoriaeth ac mae ein Cynllun Gweithredu yn amlinellu'r gweithgareddau penodol a fydd yn cyflawni'r amcanion a'r blaenoriaethau hyn.
Xxx xxx xxx xxxx gwasanaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Gefnogwr Cydraddoldeb sy'n cydlynu’r gwaith o gwblhau’r camau gweithredu a nodwyd ar gyfer eu xxxx gwasanaeth. Mae Cefnogwyr Cydraddoldeb yn cyfarfod xxx chwarter i drafod amrywiaeth xxxx o faterion Cydraddoldeb yn ogystal ag adolygu cynnydd ar y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol. Mae’r cynnydd o ran cwblhau’r camau gweithredu yn ein cynllun gweithredu presennol wedi bod yn gadarnhaol, gyda 191 o gamau gweithredu i’w cwblhau ym mlynyddoedd 1-3 ac mae 176 (92%) ohonynt wedi’u cwblhau’n llwyddiannus.
Xxx 4 blynedd pan fyddwn yn adnewyddu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol, rydym yn adolygu effaith ein camau gweithredu ar gyfresi amrywiol o ddata sy'n cael eu ,darparu yn ein dogfen Data Cefndirol.
Isod mae’r camau yr ydym wedi’u cymryd yn ystod trydedd flwyddyn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol presennol ynghyd â chamau eraill sydd wedi bod ar y gweill sydd wedi cyfrannu at wella bywydau pobl gyda nodweddion gwahanol a ddiogelir sy’n byw ac yn gweithio yng Nghonwy.
Amcan 1 - Lleihau anghydraddoldeb Iechyd
1.1 Cynyddu nifer o bobl mewn grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol sy’n dewis ffyrdd iach o fyw.
1.3 Gwella urddas a pharch mewn gofal i bawb, yn enwedig pobl hŷn, pobl ddiamddiffyn, a phobl drawsrywiol, lesbiaid, hoyw a deurywiol.
1.5 Mynd i’r afael yn well â hawliau a dyheadau pobl â phroblemau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu.
1.6 Gweithio mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus eraill yng Ngogledd Cymru i wella ein hymdrechion ar y cyd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd lle bynnag y xx xxxx.
1.7 Cynyddu’r nifer o bobl hŷn ddiamddiffyn a phlant mewn cymunedau difreintiedig sy’n cael eu himiwneiddio.
Sylwer: Nid yw meysydd gweithredu 1.2 a 1.4 wedi cael eu mabwysiadu gan Xxxxx gan eu bod yn berthnasol i weithgareddau’r GIG
Bwydo o’r Fron yng Nghonwy
Rydym wedi cefnogi ymgyrch hyrwyddo bwydo o'r fron Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae adnoddau canllawiau hawdd ar gael. Mae’r adnoddau canllawiau hawdd a’r ffurflen gofrestru, sydd wedi’u diweddaru, ar gael ar y wefan. Yn ddiweddar rydym wedi bod yn annog sefydliadau i ddefnyddio posteri Unicef gan nad yw’r sticeri
blaenorol ar gael mwyach. Mae gwybodaeth ar gael hefyd trwy gysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy. Xxx xxx Gonwy Grŵp Facebook Cyfeillion Bwydo o’r Fron ac mae Grwpiau Cyfoedion yn cael eu cynnal o amgylch Conwy gyda phrynhawniau Llun yn y Pod ym Mae Colwyn xxx arweiniad Bydwragedd, boreau Iau yn Nhŷ Llywelyn, Llandudno ac ar brynhawniau Iau yng Nghanolfan Dewi Sant, Pensarn. Mae Strategaeth Bwydo Babanod Bwrdd Iechyd Prifysgol Xxxxx Cadwaladr ar ffurf drafft terfynol ac mae ein cydweithwyr yn aros am benderfyniad gan Lywodraeth Cymru.
Rhoi’r Gorau i Ysmygu yn ystod Beichiogrwydd
Mae Xxx Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Xxx Bydwragedd wedi gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu Gwasanaeth Rhoi'r Gorau i
Ysmygu yn ystod Beichiogrwydd, o’r enw ‘Helpa fi roi'r gorau er mwyn y babi' sy'n cyflogi Gweithwyr Cefnogi Rhoi'r Gorau i Ysmygu, i annog mamau ifanc sy'n dymuno rhoi'r gorau iddi tra'n feichiog i gynyddu pwysau geni plant yng Nghonwy. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi ymweld â nifer o’n lleoliadau gwaith i godi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth ‘Helpa fi Stopio’ sydd ar gael i staff.
Ymgyrch Sgrinio am Oes
Ni roddwyd sylw pellach i’r cam gweithredu hwn yng Nghonwy gan fod Partneriaethau COG 2 yn adolygu eu blaenoriaethau ar yr un pryd. Serch hynny, mae hon yn flaenoriaeth i Iechyd Cyhoeddus Cymru ac maen nhw’n hyrwyddo rhaglenni sgrinio ar gyfer y perfedd,
ceg y xxxxx, bronnau ac ymlediad aortaidd xxx blwyddyn yn uniongyrchol i grwpiau sydd mewn perygl, felly gweithredwyd hyn xxxx bynnag.
Cefnogi pobl sy’n byw gyda Dementia
Mae Cyngor Conwy yn gweithio tuag at fod yn sefydliad sy’n Gyfeillgar i Ddementia. Mae 60 o staff hyd yma wedi derbyn hyfforddiant Cyfeillion Dementia ac mae pump ohonynt yn
Gefnogwyr Dementia gyda’r nod o wneud cais ffurfiol am statws Cyfeillgar i Ddementia yn y dyfodol agos.
Hyd yma xxx xxx Gymuned sy’n Gyfeillgar i Ddementia yn Sir Conwy yn Abergele a Deganwy. Mae ystod o weithgareddau yn y gymuned wedi’u cynnal. Yn Abergele – mae Home Instead gydag ‘Itaca’ wedi lansio eu Grŵp Cyfeillion Abergele sy’n gynhwysol i ddementia ac yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Yn y grŵp cyfeillion, gall y rhai sy’n bresennol fwynhau sgyrsiau anffurfiol, gweithgareddau a thrafodaethau grŵp ac mae’n caniatáu’r cyfle i gysylltu ac ymgysylltu gyda phobl leol eraill mewn awyrgylch hamddenol. Yn Neganwy mae’r cysyniad cyfeillgar i ddementia yn cael ei gefnogi gan y Xxx Xxxx Cymunedol ac fe gynhelir cyfarfodydd rheolaidd yn Eglwys yr Xxxx Saint, Deganwy. Mae grwpiau eraill yn cyfarfod yn Llandrillo-yn-Rhos (grŵp Cymysgu a Sgwrsio) a Bae Cinmel (Caffi Atgofion a gynhelir yn Llyfrgell Gymunedol Bae Cinmel) sy’n agored i unrhyw un, gan gynnwys y rhai yr effeithir arnynt oherwydd problemau’r cof a’u gofalwyr.
Fel rhan o ymgyrch swyddfa genedlaethol Home Instead ‘Caneuon i’w Cofio’ crëwyd gêm gardiau o ganeuon eiconig rhaglenni teledu a
ddewiswyd. Syniad y gêm oedd nodi a pharu’r rhaglen deledu gyda’r gân, xxxxx xx gyda llun o'r cyflwyniad neu'r enw ysgrifenedig. Ar gyfer y rhai sydd yn mwynhau mwy o her roedd taflenni gwag lle y gallent ddyfalu'r gân heb unrhyw gliw. Roedd pawb yn y grŵp wedi mwynhau hyn ac roedd yn annog sgwrs drwy hel atgofion.
Mae’r Xxx Xxxx Cymunedol wedi sefydlu caffi cyfeillgarwch yn Llanrwst ar gyfer pobl sy’n byw gyda Dementia a’u gofalwyr. Mae’r sesiynau’n cael eu darparu gan un o’u swyddogion Lles ac yn cael ei gynnal ar ddydd Mawrth olaf xxx mis yn y Ganolfan Iechyd yn Llanrwst. Mae
oddeutu 11 o bobl yn mynychu’r sesiynau misol yn rheolaidd. Yn ystod y sesiynau xxx xxx yr unigolion gyfle i gyfranogi mewn gweithgareddau amrywiol megis celf a chrefft, boccia neu ganu. Mae grŵp llywio i edrych sut y gall Llanrwst fod yn gymuned sy'n gyfeillgar i Ddementia ac xxx xxxx unigolion allweddol eisoes wedi'u nodi yn y gymuned sy'n dymuno cefnogi'r caffi Cyfeillgarwch ac yn fodlon derbyn cyfrifoldeb i redeg y grŵp.
Mae grŵp llywio newydd ‘Cyfeillgar i Ddementia’ wedi’i ffurfio i wella mynediad at leoliadau diwylliannol ar gyfer pobl yr effeithir arnynt gan Ddementia yng Nghonwy ac yn agored i unrhyw leoliad diwylliannol yn y sir sy’n awyddus i wella profiadau ymwelwyr drwy wella mynediad, arwyddion a gweithgareddau. Drwy adeiladu ar lwyddiannau presennol megis dangosiadau poblogaidd Theatr Colwyn sy’n Gyfeillgar i Ddementia, mae’r grŵp newydd yn edrych ar xxxx arall y gellir ei gyflawni. Mae cynrychiolwyr o Ganolfan Ddiwylliant Conwy, Gwasanaeth Llyfrgelloedd Conwy, Venue Cymru, Theatr Colwyn, Amgueddfa Llandudno, Amgueddfa Penmaenmawr a Llyfrgell Gymunedol Penmaenmawr ond maent yn awyddus i groesawu eraill. Mae’r grŵp yn ceisio creu Canolfan Ddiwylliant sy’n Gyfeillgar i Ddementia ac wedi bod yn rhannu syniadau a chynllunio ar y cyd ac wedi derbyn mewnbwn gan ystod o weithwyr iechyd proffesiynol a’r Gymdeithas Alzheimer. Mae casgliadau cyffwrdd y Ganolfan Ddiwylliant yn cynnwys 14 blwch o wrthrychau dyddiol o’r 1940au hyd at yr 1970au. Aethpwyd â’r casgliad cyffwrdd i gaffi atgofion a gynhaliwyd yn Ysbyty Llandudno fel rhan o Wythnos Weithredu Dementia (Ysbyty Llandudno oedd yr ysbyty cyntaf ym Mwrdd Iechyd Xxxxx Xxxxxxxxx i gyflawni statws Cyfeillgar i Ddementia). Croesawodd y caffi atgofion ddisgyblion o Ysgol Ffordd Dyffryn a fu’n canu ar gyfer y cleifion ac yn mwynhau archwilio eu casgliadau gyda nhw.
Nodwyd drwy ddata ardaloedd bod nifer yr unigolion sy’n byw gyda Dementia yn ardal Bae Colwyn bron ddwbl cyfartaledd Cymru.
Rydym wedi comisiynu Dawns i Bawb i gyflwyno ‘Dawnsio’r Degawdau’ mewn sawl cartref gofal / lleoliadau ar draws sir Conwy ar gyfer pobl hŷn. Derbyniodd y Gwasanaeth Celfyddydau a Diwylliant gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu hyn fel xxxx x xxxxxx allgymorth y Ganolfan Ddiwylliant. Roedd y cyllid wedi galluogi’r daith ac yn caniatáu i Ddawns i Bawb gael amser i ddatblygu’r darn gan ddefnyddio eitemau o'r archifau sy'n gallu ychwanegu at y profiad o hel atgofion. Roedd yr eitemau a ddefnyddiwyd yn y perfformiadau yn cynnwys y ‘blychau cof’ a ailddyluniwyd o’r gwaith gwreiddiol a wnaed yn y 1990au gan yr artist Xxxxx Xxxx (artist arbenigol). Mae themâu i’r blychau cof ac maent yn gysylltiedig â chyfnodau penodol, ar hyn x xxxx drwy’r 1950au. Mae pobl sy’n byw gyda dementia a phobl sy’n gweithio gyda nhw wedi nodi bod llawer o’r ddarpariaeth yn canolbwyntio ar genhedlaeth hŷn o 75+ felly rydym wedi nodi bod angen gwaith pellach ar y casgliadau i ddiwallu anghenion pobl iau ond gan gydnabod y ffaith bod hel atgofion yn llawn mwynhad ac yn iach ar gyfer pob oedran a bod y ffrâm amser yn symud yn barhaus.
Mae’r 12 blwch atgofion presennol yn hawdd eu cludo a’u defnyddio ac yn cynnwys cyfres o awgrymiadau a chyfarwyddiadau o ran sut i gael y mwyaf o'r adnoddau, mae'r cynnwys yn cael eu diweddaru i adlewyrchu oedran y bobl sydd fwyaf tebygol o elwa o'r casgliadau ac maent wedi'u rhannu fesul thema mewn testunau hygyrch megis ysgol, gwyliau a bywyd y cartref. Aethpwyd i ymweld â deg cartref gofal fel rhan o'r daith gydag oddeutu 130 o gyfranogwyr / aelodau yn y gynulleidfa. Roedd y prosiect ar Facebook wedi cyrraedd 1,309 ac wedi derbyn diddordeb gan gartrefi gofal /lleoliadau eraill yn y sir ac rydym yn gobeithio gweithio gyda'r rhain yn ystod ail gam y prosiect.
‘The Toddlers who Took on Dementia’
Fis Mehefin 2018 roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n rhan o ffilm ddogfen ar y BBC a oedd yn dilyn arbrawf unigryw gan seicolegwyr ym Mhrifysgol Bangor. Daethpwyd ynghyd ag oedolion yn eu 70au a’u 80au a phlant bach i gymryd rhan mewn gweithgareddau a rhannu straeon ac atgofion yng nghanolfan ddydd Llys Xxxxx. Bu’r amser a dreuliodd pawb gyda’i gilydd yn fuddiol iddynt oll ac erbyn hyn mae’r arbrawf wedi troi’n gynllun rheolaidd sy’n golygu bod y xxxxx garfan a’r llall yn dal i ddysgu oddi wrth ei gilydd.
Datblygu Strategaeth Llety Iechyd Meddwl
Roedd y Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn wedi’i ddylunio i helpu’r bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas i adennill neu gadw eu hannibyniaeth a’u lles a sicrhau eu bod yn cael eu diogelu. Mae’n wasanaeth amrywiol yn cynnwys wyth xxx penodol; iechyd meddwl, pobl ddiamddiffyn, ymgynghorwyr personol, atgyfnerthu teuluoedd, ymyrraeth i deuluoedd, cyswllt, uned dirprwyon a thimau trefniadau diogelu rhag colli rhyddid. Ein huchelgais a’n gweledigaeth yw fod pawb yn cael cartref ‘am oes’ sy’n sefydlog ac yn leoliad diogel lle y gellir datrys materion eraill. Bydd hyn yn cael ei alluogi drwy ddarparu cefnogaeth gofleidiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cael ei arwain gan anghenion xxxx xxxx aml broffesiwn / asiantaeth cydlynol yn darparu cynllun cefnogi cydlynol, wedi'i gydgynhyrchu gyda'r unigolyn.
Mae’r gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn wedi datblygu Strategaeth Llety 2019-2025 sy’n cynnwys y rhai gyda chyflyrau iechyd meddwl difrifol a pharhaus. Bydd y gwasanaeth yn parhau i ddefnyddio portffolio o 21 o gynlluniau sydd ar gael a thros 140 o welyau, gyda'r nod o weithredu model Tai yn Gyntaf wedi'i addasu i ddiwallu anghenion o ran meysydd â bylchau fel tai symud ymlaen a llety seibiant.
Gwella’r cyfraddau sy’n derbyn brechlynnau
Rydym wedi hyrwyddo’r niferoedd sy’n derbyn Brechlyn y Ffliw gan gynghori bod xxxx xxxxx ysgolion cynradd o’r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6 yn derbyn eu brechlynnau gan y Gwasanaeth Nyrsys Ysgol. Dylai bod plant mewn grŵp risg clinigol e.e. clefyd siwgr neu asthma yn cael cynnig y brechlyn. Mae brechlyn y ffliw yn chwistrell ddiogel, syml ac effeithiol i’r trwyn. Mae cynrychiolydd o Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi drafftio llythyr am frechlyn y ffliw a ddefnyddiwyd gan Ganolfannau Teulu i hyrwyddo’r niferoedd sy’n derbyn brechlyn y ffliw ymysg teuluoedd. Mae Sefydliad Iechyd y
Byd yn nodi pa fathau o’r firws ddylid eu cynnwys yn y brechlyn. Mae Ymwelwyr Iechyd yn rhoi brechlyn i bobl ddiamddiffyn yn eu cartrefi ac mae’r polisi wedi bod yn llwyddiannus iawn. Cysylltwyd ag ysgolion ynglŷn â brechlynnau ffliw.
Annog Ffyrdd o Fyw Egnïol a Chreadigol
Mae canran yr archebion hamdden sy’n cael eu cyflawni ar-lein wedi cynyddu i 31.5% ac mae 65% o’r rhai sydd wedi
cwblhau rhaglen Atgyfeirio Ymarfer Xxxxx Cenedlaethol wedi nodi eu
bod wedi profi gwelliannau o ran eu hiechyd. Rydym yn parhau i gynnal Diwrnodau Olympaidd a Pharalympaidd ym Mharc Eirias ac eleni bu 460 o ddisgyblion yn cymryd rhan gan olygu bod cyfanswm y cyfranogwyr ers dechrau hyn dros 4,500. Derbyniwyd adborth rhagorol. Mae 32 o bobl sy’n ymwneud â chwaraeon wedi derbyn cyllid gan Gronfa Ragoriaeth Conwy i ddatblygu eu camp mewn Athletau, Bocsio, Criced, Pysgota, Pêl-droed, Hoci, Judo, Caiacio, Pŵl, Hwylio, Sgïo, Snwcer, Sboncen, Nofio, Codi Pwysau, Pêl- Fasged mewn Cadeiriau Olwyn, Bordhwylio a Thriathlon.
Cyflawnodd 812 o ddisgyblion o flynyddoedd 5/6 hyfforddiant beicio gyda 404 o ddisgyblion 4-6 oed yn derbyn hyfforddiant cyn-pedlo.
Darparwyd 47,000 o gyfleoedd cyfranogi mewn chwaraeon anabledd yn 2018 gyda 15 o gystadlaethau / digwyddiadau strategol.
Amcan 2: Mynd i’r afael â chanlyniadau anghyfartal mewn Addysg er mwyn gwneud y gorau o botensial unigolion
2.1 Lleihau’r bwlch cyrhaeddiad addysgol rhwng gwahanol grwpiau
2.2 Lleihau achosion o fwlio mewn Addysg sy’n seiliedig ar hunaniaeth
2.3 Pobl ifanc yn cael eu cefnogi wrth drosglwyddo o Addysg i Gyflogaeth
Plant 3 oed yng Nghonwy’n cael cynnig Addysg Rhan Amser am ddim Xxx xxxx blant Conwy sy’n 3 oed rhwng 1 Medi a 31 Mawrth yn gymwys i dderbyn cyllid Addysg Gynnar y Cyfnod
Sylfaen. Mae’r Cyfnod Sylfaen yn gwricwlwm datblygu ar gyfer plant 3-7 oed yng Nghymru. Mae’n annog plant i fod yn greadigol, yn llawn dychymyg ac yn eu hannog i gael hwyl gan sicrhau bod dysgu'n fwy effeithiol. Rhoddir cyfleoedd i blant archwilio’r byd o’u cwmpas a deall sut mae pethau’n gweithio drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol sy’n berthnasol i’w cyfnodau datblygiadol. Ni fydd plant sy’n dair oed rhwng 1 Ebrill i 31 Awst yn gymwys gan y byddant yn cael cynnig eu hawl o fis Medi ymlaen mewn addysg
rhan amser mewn Meithrinfa Ysgol. Mae ffurflenni cais ar gael ar y wefan ac yn cael eu dosbarthu xxx tymor i’r xxxx leoliadau gofal plant sy’n rhan o’r cynllun. Yn ystod 2018/19 - ariannwyd 770 o blant tair oed i fynychu lleoliadau nas cynhelir.
Osgoi Digartrefedd ymysg Ieuenctid
Xxx xxx Gynllun Gweithredu Strategaeth Digartrefedd 2019-20 thema ar gyfer Digartrefedd Ieuenctid a fydd yn cefnogi pobl ifanc i fod yn Xxxxx i dderbyn Tenantiaeth ac yn Xxxxx i Rentu i'w galluogi i gynnal eu tenantiaeth. Mewn ymateb i’r heriau o ran digartrefedd pobl ifanc, mae Conwy wedi mabwysiadu model Llwybr Cadarnhaol Pobl Ifanc. Mae nifer o bobl ifanc yn wynebu risg uwch o ddigartrefedd ac oherwydd eu sgiliau byw'n annibynnol cyfyngedig maent yn aml yn wynebu rhwystrau ychwanegol sy'n eu hatal rhag derbyn llety. Mae rhwystrau megis llai o hawl i dderbyn xxxx- daliadau yn golygu y bydd canfod llety rhent preifat yn her i bobl ifanc (mae pobl sengl o xxx 35 sy’n dibynnu ar fudd-daliadau yn gymwys i dderbyn £58.47 yr wythnos am gyfradd rhannu ystafell).
Mae diffyg dewisiadau tai a rennir yng Nghonwy hefyd. Mewn ymateb i hyn rydym wedi nodi rhai landlordiaid lleol sy’n cynnig tai a rennir ac er mwyn rhoi mwy x xxxxx iddynt fod gan bobl ifanc sy'n cael eu hatgyfeirio gan Ddatrysiadau Tai Conwy y sgiliau i fyw'n annibynnol ac yn gwneud tenantiaid da, rydym yn annog pobl ifanc yr ydym yn gweithio gyda nhw i gwblhau cwrs Bod yn Xxxxx ar Gyfer Rhentu. Mae hwn yn Gwrs Hyfforddi Tenantiaid. Yna bydd rhai landlordiaid lleol yn ystyried pobl ifanc sydd wedi cwblhau'r cwrs gan ei fod yn dangos eu gallu i reoli tenantiaeth a bod ganddynt y sgiliau sylfaenol sydd eu xxxxxx i fyw'n annibynnol. Darperir y cwrs mewn partneriaeth gyda Phrosiect Going It Alone (prosiect xxxx digartrefedd pobl ifanc) a Chartrefi Conwy, sef ein prif xxxxxxx xxx ar gyfer Datrysiadau Tai Conwy. Rydym yn bwriadu hyfforddi nifer o gydweithwyr i ddarparu Cwrs Xxxxx i Rentu er mwyn i ni allu cynnig y cwrs i fwy o aelwydydd o xxx oedran yn y gobaith y bydd hyn yn lleihau'r rhwystrau sy'n xxxx rhentu preifat a hyrwyddo ymddygiad tenantiaeth cadarnhaol ar gyfer pobl sy'n derbyn cymorth y Xxx Datrysiadau Tai.
Ysgol y Gogarth
Ysgol y Gogarth yw’r unig ysgol arbennig yng Nghonwy. Mae’n darparu addysg ar gyfer disgyblion (3-19 oed) gydag ystod xxxx o anghenion addysgol arbennig cymhleth gan gynnwys: anawsterau dysgu dwys a
lluosog, anhwylderau’r sbectrwm awtistig ac anabledd dysgu sylweddol.
Arolygwyd Ysgol y Gogarth gan Xxxxx ym mis Hydref 2017, gan dderbyn "Rhagorol" ym mhob Xxxx o'r Arolwg. Roedd Adroddiad yr Arolwg yn nodi “Mae disgyblion yn Ysgol y Gogarth yn ymateb yn gadarnhaol iawn i strategaethau hynod effeithiol yr ysgol i gefnogi datblygiad eu sgiliau cyfathrebu ac annibyniaeth. O ganlyniad, xxx xxxx yr xxxx ddisgyblion yn cyflawni cynnydd cryf iawn dros amser mewn perthynas â'u hanghenion a'u galluoedd unigol. Xxx xxxx yr xxxx ddisgyblion yn gwrtais a pharchus tuag at ei gilydd, y staff ac ymwelwyr. Mae cwricwlwm yr ysgol yn diwallu anghenion y disgyblion yn dda. Mae’r ystod helaeth o brofiadau dysgu yn hyrwyddo datblygiad gallu ac aeddfedrwydd y disgyblion wrth iddynt symud drwy’r ysgol. Mae athrawon, cynorthwywyr addysgu a staff arbenigol yn gweithio gyda’i gilydd yn dda i nodi anghenion unigol y disgyblion ac yn sicrhau bod gwersi yn ategu at eu galluoedd a'u diddordebau. Mae’r ysgol yn gweithio’n hynod effeithiol gyda rhieni a phartneriaid i sicrhau ei bod yn darparu cyfleoedd llawn ysgogiad ar gyfer disgyblion i ddatblygu sgiliau sy’n eu paratoi'n effeithiol ar gyfer bywyd yn y dyfodol. Mae'r Pennaeth a'r uwch dîm arweinyddiaeth yn dangos arweinyddiaeth ragorol. Maent wedi datblygu gweledigaeth strategol gydlynol ar gyfer yr ysgol sy’n rhoi anghenion pwysicaf y disgyblion wrth wraidd yr xxxx agweddau o waith yr ysgol.”
Mae Ysgol y Gogarth yn un o ddim ond dwy Ysgol Arbennig yng Nghymru sydd wedi cyflawni Gwobr Awtistiaeth Cenedlaethol.
Cefnogaeth Gemau Cyfrifiadur / Clwb Xxxxx
Xxx Llyfrgell Conwy wedi helpu 17 o blant i greu eu gemau cyfrifiadurol ac animeiddiad
unigryw eu hunain drwy ddefnyddio meddalwedd Scratch. Mae’r clwb yn xxxx ystod xxxx x xxxxx i ddysgu codio cyfrifiadurol mewn awyrgylch hamddenol a llawn hwyl. Yn ystod 2018/19 sefydlwyd grŵp Clwb Codio yn Llyfrgell Bae Colwyn a derbyniodd naw ysgol ar draws Conwy wledig “hyfforddiant Codio”, prosiect a ariannwyd trwy raglen LEADER o xxx Xxxxxx Datblygu Gwledig Conwy. Nod y prosiect oedd sefydlu rhwydwaith o glybiau codio ar draws Conwy wledig yn ogystal â darparu cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau codio a rhaglennu cyfrifiaduron, i'w galluogi i gystadlu yn y farchnad waith ddigidol. Roedd y prosiect yn golygu cydweithio
rhwng ysgolion cynradd gwledig Conwy trwy'r Grŵp Gweithredu Lleol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Choleg Meirion Dwyfor i gyflwyno cyfres o weithdai a chefnogaeth barhaus gan ddarparu cyfleoedd i blant ysgolion cynradd ddysgu sut i godio.
Amcan 3 – Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn Cyflogaeth a Chyflog
3.1 Nodi a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb o ran prosesau recriwtio, cadw, hyfforddi a dyrchafu
3.2 Bydd unrhyw fwlch cyflog rhwng y gwahanol nodweddion gwarchodedig yn cael eu canfod a’u datrys
Datblygu Sgiliau Sylfaenol dinasyddion i wella cyfleoedd gwaith
Daeth Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben ym mis Mawrth 2018 ond rydym wedi defnyddio cyllid Etifeddiaeth Cymunedau yn Gyntaf i barhau i
gefnogi pobl i gael cyflogaeth a gwella eu sgiliau. Defnyddir y cyllid i gynnal 3 Clwb Swyddi wythnosol ym Mae Colwyn, Pensarn a Llandudno, 50 wythnos y flwyddyn. Rydym hefyd yn cynnal Clwb TG ddwywaith yr wythnos i gefnogi pobl i ddatblygu sgiliau llythrennedd digidol, cwblhau eu Curriculum Vitaes, ceisiadau am swyddi ac ati. Rydym wedi cefnogi pobl i gael cymwysterau achrededig a rhai nad ydynt yn achrededig, gan gynnwys sgiliau sylfaenol, i sicrhau fod gan bobl y sgiliau gofynnol i dderbyn gwaith.
Mae prosiect OPUS Conwy’n cefnogi pobl 25 oed a hŷn i ddod o hyd i waith. Mae’r xxx yn cynnwys mentoriaid, ymgynghorwyr hawliau lles a therapyddion galwedigaethol ac maent yn cefnogi pobl i ddymchwel rhwystrau gwaith, gwirfoddoli neu i dderbyn cymwysterau yn ymwneud â gwaith. Mae’r xxx wedi cefnogi bron i 200 o bobl ar eu taith i gael gwaith gyda 58% yn llwyddo i gwblhau hyfforddiant, 12% yn cyflawni gwaith gwirfoddol a 10% yn derbyn dros 16 awr o waith.
Mae xxx ADTRAC Gwasanaeth Lles Cymunedol Conwy’n cefnogi pobl ifanc rhwng 18- 24 oed i symud i waith, hyfforddiant neu gyfleoedd gwirfoddoli. Hyd yma mae’r xxx wedi cefnogi mwy na 100 o bobl ifanc sydd wedi ennill cymwysterau Lefel 3, mynd ymlaen i addysg xxxxxxx a chael gwaith am dros 16 awr yr wythnos.
Adolygiad o Effaith Gwaith Rhan Amser ar Yrfaoedd Merched (Cam gweithredu 3.2.6.)
Mae’r cam gweithredu hwn wedi’i ohirio nes adroddiad blwyddyn 4 oherwydd materion o ran adnoddau ond hefyd i gyfuno cam gweithredu 3.2.5 i ddadansoddi llwyddiant camu ymlaen mewn gyrfa ar gyfer gwahanol grwpiau gwarchodedig i nodi unrhyw gamau gweithredu sydd eu xxxxxx gan y sefydliad i ddiddymu unrhyw rwystrau ar gyfer grwpiau penodol, er enghraifft, merched yn dychwelyd o gyfnod mamolaeth, staff gydag anabledd.
Hyfforddiant Dangos Tuedd Heb Wybod
Y llynedd ein cam gweithredu oedd archwilio dewisiadau i ddarparu hyfforddiant Dangos Tuedd Heb Wybod ac o ganlyniad, rydym wedi darparu gweithdy byr ar Ddangos Tuedd Heb Wybod yn un o gyfarfodydd y Fforwm Rheolwyr ac fe groesawyd
yr hyfforddiant.
Cefnogaeth y Ganolfan Byd Gwaith Rydym wedi datblygu partneriaeth hynod lwyddiannus gyda'r Ganolfan Byd Gwaith
ymhellach, drwy Lyfrgell Bae Colwyn sy'n cynnal Digwyddiadau Darparwyr xxx chwarter pan fo cyfle i xxx xx'n ceisio gwaith sydd wedi'u hatgyfeirio dderbyn cyngor a chefnogaeth a dysgu mwy am hyfforddiant, gwirfoddoli a chyfleoedd gwaith. Mae’r digwyddiadau hyn wedi xxxx hyd at bymtheg o ddarparwyr a chefnogi dros xxxx o unigolion ar xxx achlysur.
Amcan 4 – Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb o ran Diogelwch Personol
4.1 Cynyddu nifer y troseddau casineb a’r achosion o aflonyddu yr adroddir amdanynt a bod camau’n cael eu cymryd i ostwng nifer y troseddau casineb a’r achosion o aflonyddu gan gynnwys camdriniaeth a bwlio ar-lein.
4.2 Mwy o adrodd am gam-drin domestig a chamau’n cael eu cymryd i leihau cam-drin domestig
4.3 Cynyddu ymwybyddiaeth mewn cymunedau diamddiffyn ynglŷn â thwyll ar-lein a thros y ffôn.
Codi Ymwybyddiaeth o Drosedd Casineb Nid oedd camau gweithredu ffurfiol o xxx Ddiogelwch Personol yn y Cynllun Gweithredu eleni. Ond, rydym wedi parhau i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb ym mis Hydref drwy gyhoeddiadau ar ein mewnrwyd ar gyfer staff a defnyddio
posteri a thaflenni yn ein derbynfeydd cyhoeddus ac ar hysbysfyrddau, ynghyd â’n gwefan gyhoeddus ac annog cefnogaeth aelodau’r cyngor yn ystod wythnos yr ymgyrch, gyda’r bwriad bod y cyfan yn cynyddu’r achosion o adrodd am droseddau casineb a thrais domestig. Rydym wedi cefnogi Diwrnod Cofio'r Holocost ar 27 Ionawr. Mae ein xxx Gwarchod y Cyhoedd hefyd yn cefnogi digwyddiadau codi ymwybyddiaeth amrywiol yn rheolaidd drwy'r flwyddyn.
Ymwybyddiaeth o Drais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Roedd hyfforddiant yn orfodol ar gyfer ein xxxx staff i ymgymryd â hyfforddiant ar Drais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) ac mae hyfforddiant wedi’i ddarparu’n llwyddiannus, xxxxx xx drwy ddefnyddio modiwl e-ddysgu, ond ar gyfer staff sydd heb fynediad at gyfrifiadur fel rhan o'u swydd, mae hyfforddiant wyneb yn wyneb wedi'i ddarparu. Yn ogystal â hyn, mae hyfforddiant Diogelu gorfodol wedi’i ddarparu yn ystod y flwyddyn, ynghyd â hyfforddiant ar Gaethwasiaeth Fodern, ac maent oll yn ymwneud â’r agenda diogelwch personol.
Diogelwch ar y Rhyngrwyd
Mae sesiynau diogelwch ar y we wedi’u darparu i 1,650 o ddisgyblion yn ystod 2018-2019, gan gynnwys y rhai sy’n gadael blwyddyn 6 o 10 ysgol gynradd. Mae 68 o ddisgyblion hefyd wedi derbyn sesiynau delwedd iach o'r xxxxx.
Amcan 5 – Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn Cynrychiolaeth a Llais
5.1 Bod cyrff sy’n gwneud penderfyniadau’n dod yn fwy cynrychioliadol o’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
5.2 Bod ymgynghori ac ymgysylltu yn gwella trwy gryfhau’r cysylltiadau rhwng y Sector Cyhoeddus a grwpiau lleol a chenedlaethol sy’n cynrychioli pobl o xxx grŵp gwarchodedig.
Cynnwys Rhieni wrth Gynllunio / Darparu Rhaglenni Rhianta
Mae Timau Cefnogaeth i Deuluoedd Conwy’n darparu amrywiaeth o grwpiau mynediad agored, grwpiau a dargedwyd/strwythurwyd megis
cyrsiau rhianta, a chefnogaeth un i un. Yn Xxxx Xxx, Llandudno, mae’r xxx wedi sefydlu cysylltiadau cryf gyda rhai o‘r cymunedau anos i’w cyrraedd, a gyda’r ysgolion lleol. Xxx xxxx gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r xxx ac maent yn treialu rhaglen Llysgenhadon Lles gyda rhieni lleol.
Cynrychiolydd Cyngor yr Ifanc Conwy yn gwella cysylltiadau gyda swyddogion ac aelodau etholedig y Cyngor
Mae aelodaeth Cyngor yr Ifanc wedi tyfu dros y flwyddyn ddiwethaf ac rydym yn xxxxx o glywed bod tri aelod o gyngor yr ifanc
Conwy wedi’u hethol i Senedd yr Ifanc Cymru Gyfan. Xxxxx Xxxxxxx, Xxxx Xxxxxxx a Xxxxxxxx Xxxxxxx. Xxx Xxxxx yn cynrychioli Anabledd Ieuenctid Cymru yn Senedd yr Ifanc Cymru tra bo Xxxx x Xxxxxxxx yn cynrychioli Aberconwy a Gorllewin Clwyd.
Cynhaliwyd cyfarfod rhanbarthol cyntaf Senedd yr Ifanc yng Ngogledd Cymru ym mis Ionawr ac aeth Xxxxx, Xxxx x Xxxxxxxx i’w cyfarfod cyntaf yng Nghaerdydd ym mis Chwefror.
Dewisodd Senedd yr Ifanc Cymru (WYP) dri mater i ganolbwyntio arnynt am y ddwy flynedd nesaf. Y rhain oedd Cefnogaeth Emosiynol ac Iechyd Meddwl, Sgiliau Bywyd yn y Cwricwlwm a Sbwriel a Gwastraff Plastig.
Yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol gyda Phartneriaeth y Bobl Conwy, mae Cyngor yr Ifanc wedi dewis Diogelwch ar y Rhyngrwyd ac yn benodol, Peryglon a Risgiau sy’n gysylltiedig â Radicaleiddio Ar-lein - fel eu testun ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Ym mis Ionawr 2019, cynhaliwyd cyfarfod gyda Xxx Xxxxxxx o Wasanaethau Ieuenctid Conwy i drafod sut y gall Cyngor yr Ifanc weithio i gyfrannu tuag at godi ymwybyddiaeth xxxxxxx o’r mater pwysig hwn. Yn ddiweddar bu Cyngor yr Ifanc ar ddiwrnod i ffwrdd i drafod sut i symud ymlaen gyda’u prosiect. Roeddent wedi penderfynu cyfarfod gyda Xxxx Xxxxxx o Heddlu Gogledd Cymru sy’n darparu hyfforddiant am Wrth-Radicaleiddio. Ar ôl rhagor o adborth xxx Xxxx, penderfynodd Cyngor yr Ifanc y dylid ystyried ymyrraeth gynnar o ran magu perthynas amhriodol ar-lein a dylanwadu. Mae poster wedi’i gwblhau yn awr a bydd yn cael ei rannu gyda’r gwahanol wasanaethau a phwyntiau cyswllt ar gyfer plant a phobl ifanc.
Cefnogi Canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB) Lleol
Xxx xxx y Ganolfan Cyngor ar Bopeth bresenoldeb yn llyfrgelloedd Bae Colwyn a Llanrwst lle maent yn defnyddio ystafelloedd preifat a gofodau eraill o fewn y llyfrgell am un diwrnod yr wythnos. Gall hyd at bum aelod o staff Cyngor ar Bopeth ymgysylltu ar sail galw heibio gyda chleientiaid xxxx xxxxx cyngor a chefnogaeth gydag ystod xxxx o faterion. Cynhelir apwyntiadau ar gyfer ymholiadau manylach yn ddiweddarach yn y prynhawn. Mae nifer eu cleientiaid a’r unigolion sydd wedi derbyn cymorth wedi gwella wythnos ar ôl wythnos ers i ni gynnal hyn.
Gweithgareddau Eraill i Godi Ymwybyddiaeth
Yn ogystal â chefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb a Diwrnod Cofio'r Holocost, rydym hefyd wedi cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar ym mis Mai 2018 ( a 2019) ac wedi cael gwesteion o Sign Solutions am Interpreterslive!, Canolfan Arwyddo, Golau a Xxxx (COS) a Gwasanaethau Cefnogi a Chyfieithu i'r Byddar yng Nghonwy (CDTSS) yn ymweld â'r swyddfa i siarad â staff, ac wedi cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.
Gwella Mynediad at Gymorth Digidol
Mae gwella mynediad at gymorth digidol yn allweddol i sicrhau fod pawb sydd eisiau yn cael llais drwy dechnoleg digidol. Comisiynodd Grŵp Gweithredu Lleol (LAG)
LEADER yng Nghonwy ddarn o waith i ystyried Manteisio ar Gyfleoedd Technoleg Ddigidol yn ardal wledig Conwy. Yn dilyn proses dendro penodwyd Pinacl Solutions UK Ltd o Lanelwy mewn partneriaeth gyda Bridge Fibre ac fe wnaethant fapio’r ardal a dod i’r casgliad bod oddeutu 3200 o “eiddo xxxx” (eiddo heb unrhyw wasanaeth rhyngrwyd / band xxxx xxx xxx xx 2Mbit/e) yng Nghonwy. Buont yn arolygu argaeledd presennol Band xxxx xx argaeledd nodau ffibr, cynnal arolygon safle a chysylltu’n uniongyrchol gyda chynghorwyr gwledig ac maent wedi nodi prosiect a datrysiadau posibl.
Mae gwaith gan Grŵp Cysylltedd Digidol Gogledd Cymru a phrosiect llwyddiannus Rhwydwaith Ffibr Lleol Llawn (LFFN) i sicrhau bod isadeiledd digidol lleol i’n heconomi ffynnu a bod ein dinasyddion yn derbyn y lefel o gysylltiad y maent yn ei haeddu. Bydd hyn yn darparu cysylltedd ffibr llawn i adeiladau cyhoeddus – ysgolion, meddygfa meddyg teulu, Cynghorau Tref a Chymuned ac ati, ar draws y rhanbarth gyda'r gallu i'r gymuned (preswyl a busnes) gysylltu ag ef, gan leihau costau cysylltu hanesyddol yn sylweddol.
Yn y cyfamser, rydym wedi ehangu mynediad at gysylltiad WiFi am ddim i gynnwys y sgwâr yn Llanrwst, tu xxxxx i'r Orsaf Drenau ym Metws-y-coed ac ar hyd y stryd fawr yn Abergele, ynghyd ag i 4 ysgol wledig; Ysgol Bro Cernyw, Ysgol Bro Aled, Ysgol Cerrigydrudion ac Ysgol Pentrefoelas. Dyma'r un lefel o wasanaeth sydd ar gael ar hyn x xxxx yn Swyddfeydd y Cyngor, Canolfannau Hamdden, Ysgolion ac adeiladau cyhoeddus eraill. Mae hwn yn dreial tair blynedd lle bydd y defnydd yn cael ei fonitro trwy’i gydol. Rydym hefyd yn gweithio gyda Phrifysgol Glyndŵr i ddysgu aelodau o Glwb Dydd Glan Conwy, sy’n hŷn, sut i ddefnyddio ffonau symudol, tabledi electronig, WiFi ac ati.
Arolwg Dinasyddion – Gofal Cymdeithasol
Yn 2018 fe anfonom yr Arolwg Dinasyddion i 1508 o Ofalwyr, plant a phobl ifanc a detholiad o oedolion a
oedd yn derbyn gofal a chymorth gennym. Cafwyd 474 o ymatebion. Anfonwyd copïau o’r holiadur mewn arddull hawdd ei ddarllen at rai pobl ag anableddau dysgu.
Gwrando ar Lais ein Plant a’n Pobl Ifanc
Mae Fforwm Lleisiau Uchel yn sicrhau bod Plant a Phobl Ifanc yn ein gofal yn cael llais. Rydym yn hwyluso dau fforwm ymgynghori yn rheolaidd, sy’n agored i blant rhwng 5 a 15 oed, ac yn cael eu cynnal yn y Clwb Ieuenctid lleol.
Mae gennym grŵp Siapio’r Dyfodol ar gyfer pobl ifanc 16-25 sydd mewn gofal a /neu’n paratoi i adael gofal ac maent yn cyfranogi drwy ymgynghoriadau a gweithdai amrywiol e.e. Gwasanaeth Ieuenctid Conwy, Gweithdy Deall Xxxx Hawliau, Deall xxxx Xxxx- daliadau, Cyfarfod gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, Lleisiau gan xxx xx'n Derbyn Gofal a chyfrannu at adroddiad Uchelgeisiau Xxxx.
Amcan 6- Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb o ran cael Mynediad at wybodaeth, gwasanaethau, adeiladau a’r amgylchedd
6.1 Gwella mynediad at wybodaeth a chyfathrebu, a’r profiad i gwsmeriaid, yn enwedig i bobl â nam ar y synhwyrau a phobl lle nad yw Cymraeg neu Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.
6.2 Gwella mynediad ymarferol at wasanaethau, cludiant, yr amgylchedd adeiledig a llefydd agored.
Gwella Mynediad at Wasanaethau ar gyfer Pobl gyda Nam ar y Synhwyrau Dechreuodd cynllun peilot ym mis Ionawr 2019 i ddarparu gwasanaeth
dehongli BSL (Iaith Arwyddion Prydain) ar alw ar draws yr xxxx adeiladau cyhoeddus yng Nghyngor Conwy. Fe hysbysebwyd hyn yn helaeth a darparwyd hyfforddiant cynhwysfawr i staff derbynfeydd rheng flaen. Mae’r gwaith wedi derbyn adborth cadarnhaol gan gymuned pobl Fyddar a byddwn yn parhau â hyn y tu hwnt i'r cyfnod peilot.
Gwasanaeth Lloches Dros Nos ar gyfer Pobl Ifanc sy’n Ddigartref
Mae’r Gwasanaeth Lloches Dros Nos yn weithredol yng Nghonwy, Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Mae’r Gwasanaeth Lloches Dros Nos yn darparu llety argyfwng i rai 16-21 oed sy'n dod yn ddigartref xx xxxxx rhywle i aros ar unwaith. Gall pobl ifanc aros mewn lleoliad Lloches Dros Nos am rhwng 1 a 28 diwrnod, nes y gellir canfod llety sefydlog. Mae’r gwasanaeth yn darparu ystafell wedi’i dodrefnu a phrydau bwyd, cefnogaeth i nodi llety symud ymlaen addas os nad oes modd neu nad yw’n briodol mynd adref, cymorth i gael mynediad ac ymgysylltu ag addysg a chyflogaeth, cefnogaeth i xxxx xxxx-daliadau os yw'r unigolyn ifanc yn gymwys, cymorth i dderbyn cefnogaeth arbenigol yn unol ag anghenion yr unigolyn ifanc a chymorth gyda thocyn teithio, pecyn pethau ymolchi a dillad os yn briodol.
Cefnogi aelwydydd sydd xxx fygythiad o ddigartrefedd
Mae Strategaeth Digartrefedd Rhanbarthol: Pobl, Cartrefi, Gwasanaethau, wedi’i ddatblygu ar draws
Gogledd Cymru i fynd i’r afael â digartrefedd ar draws y rhanbarth. Cymeradwywyd y Strategaeth ym mis Rhagfyr 2018 ac mae cynllun gweithredu i'w chefnogi. Xxx xxx xxx awdurdod lleol gynllun gweithredu digartrefedd lleol hefyd.
Mae Conwy wedi datblygu Partneriaeth Datrysiadau Tai Conwy sy’n cefnogi anghenion amrywiol aelwydydd xxx fygythiad o ddigartrefedd. Ym mis Mawrth 2019 i gyflawni 'Safon Sail Cyfartal’ a ddyluniwyd gan Shelter Cymru, Cymorth a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (sy'n ganllaw ar gyfer xxxx wasanaethau digartrefedd awdurdodau lleol Cymru), asesodd Datrysiadau Tai
Conwy pa mor groesawgar yw ein gwasanaeth i bobl sy'n nodi eu bod yn ddigartref.
Roedd yr asesiad yn cynnwys amgylchedd ffisegol cartref newydd Datrysiadau Tai Conwy yng Nghoed Pella, Bae Colwyn, sut mae staff yn gweithio gyda phobl sy'n ddigartref, a'r gefnogaeth gychwynnol a ddarparwyd.
Dywedodd Xxxxx Xxxxxx, Pennaeth Gwasanaethau Tai, Gogledd Cymru, ar gyfer Shelter Cymru: “Mae gofyn am gymorth pan yn wynebu bod yn ddigartref yn brofiad hynod anodd i bawb, mae cyfeillgarwch yr amgylchedd a'r ffordd y caiff y bobl hyn eu cynorthwyo a'u cefnogi yn hanfodol bwysig. Xxx xxxxx trin pobl â thosturi a dealltwriaeth, ond gydag agwedd anfeirniadol. Xxx xxxxx gwrando arnyn nhw a'u helpu yn y sefyllfaoedd anodd hyn.”
Dyma eiriau un o’r gwirfoddolwyr a gymerodd ran yn y gwerthusiad gan Dîm Take Notice Shelter Cymru: “Mae'r gwasanaethau tai yn Natrysiadau Tai Conwy yn dîm proffesiynol llawn ysgogiad sydd wedi croesawu'r dull cyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n cael ei annog gan Safon Sail Cyfartal. Roedd yn gyfle da i ddefnyddwyr gwasanaeth a gweithwyr proffesiynol weithio gyda'i gilydd i werthuso a gwella gwasanaethau digartrefedd"
O ganlyniad i’r adolygiad a gynhaliwyd gan wirfoddolwyr Shelter Cymru, adroddwyd yn ôl wrth Gyngor Conwy am enghreifftiau o arferion da iawn, ynghyd â rhai argymhellion, a gwelwyd fod y Safon Sail Cyfartal wedi’i sefydlu’n dda ar lefel rheng flaen a rheoli.
Datrysiadau Tai Conwy yw’r xxx digartrefedd awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i weithio tuag at hyn. Mae hyn yn gyflawniad gwych i Gonwy ac mae’n gosod y meincnod ar gyfer awdurdodau lleol eraill i wneud yr un fath.
Cynllun Gweithredu Digartrefedd Ieuenctid Conwy
Mae datblygiad Llwybr Cadarnhaol Pobl Ifanc wedi disodli Cynllun Gweithredu Digartrefedd Ieuenctid. Mae Xxx Llwybrau a Thîm Ymgynghorydd Personol yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc sydd wedi gadael gofal yr awdurdod lleol hyd at 21 oed, neu hyd at 25 oed os ydynt yn parhau i fod mewn addysg neu hyfforddiant a gytunwyd gyda’r awdurdod lleol a’i gofnodi yn y Cynllun Llwybr.
Mae’r gefnogaeth yn cynnwys cynnig cyngor a chefnogaeth gydag addysg, hyfforddiant a chyflogaeth ynghyd â llety a lles cyffredinol, cefnogi ac annog pobl i fod yn annibynnol, a'u cynorthwyo i symud ymlaen pan fyddant yn gadael gofal.
Gwasanaeth Paru Eiddo wedi’i Addasu (APMS) gan ddarparu dewisiadau xxx xxxxx ar gyfer pobl anabl.
Mae’r Gwasanaeth Paru Eiddo wedi’i Addasu yn weithredol ac yn elwa o Therapydd
Galwedigaethol sydd wedi’u cyflogi o fewn y Xxx Gwelliannau Tai.
Gwella effeithlonrwydd ynni a lleihau tlodi tanwydd
Mae’r Gwasanaeth yn parhau i wella effeithlonrwydd ynni tai yn y sir. Mae Cynllun Adnewyddu Bae Colwyn yn parhau i wella eiddo sector preifat gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Cyflwynwyd cais i Lywodraeth Cymru i osod prif gyflenwad nwy i bentref Llysfaen a gwelliannau effeithlonrwydd ynni eraill, a disgwylir canlyniad y cais. Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi ei Ddatganiad o Fwriad sy’n caniatáu darpariaeth Cynllun Rhwymedigaeth Ynni yn y fwrdeistref sirol sy’n darparu gwelliannau effeithlonrwydd ynni ar gyfer aelwydydd sydd fwyaf tebygol o brofi tlodi tanwydd a’r rhai sy’n agored i niwed mewn cartref oer. Mae’r cam gweithredu wedi’i gwblhau ac mae’r gwaith yn parhau.
Mae Gofal Plant yng Nghonwy yn hygyrch i Blant gydag Anghenion Ychwanegol
Mae Xxx Addysg Gynnar a Gofal Plant Conwy yn comisiynu Cynllun Cefnogaeth Cyn-Ysgol Conwy ar y cyd gyda Theuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg. Mae’r plant sy’n derbyn cefnogaeth gan y cynllun yn profi ystod xxxx o anawsterau. Mae lleoliadau yn derbyn cefnogaeth i annog rhieni i gysylltu gyda gweithiwr iechyd proffesiynol. Mae nifer o blant yn derbyn asesiad gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol e.e. Therapydd Lleferydd ac Iaith a'r Xxx Datblygiad Plant. Mae’r anawsterau’n cynnwys: Anawsterau Cymdeithasol a Chyfathrebu, Anhwylderau Sbectrwm Awtistig, Oedi Datblygiadol Cyffredinol, Oedi Datblygiadol Corfforol, Atacsia, Clefyd cynhenid y galon, materion yn codi o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Anhwylderau Prosesu Synhwyrau ac ati. Mae ymyraethau’n cynnwys cefnogaeth gyffredinol a darparu cyfleoedd i drafod arsylwadau a phryderon gan leoliadau a rhieni. Mae datblygiad ac addasiad technegau yn cefnogi lleoliadau i integreiddio plant gydag anghenion ychwanegol i arferion ac amgylchedd y lleoliad.
Mae cyswllt gydag Asiantaethau eraill, Canolfan Datblygiad Plant, Dechrau'n Deg, Therapi Lleferydd ac Iaith, Ffisiotherapi, Ymwelwyr
Iechyd, Seicoleg Addysg, Seicoleg Clinigol a Portage, yn cefnogi dull cyson.
Mae Bwrdeistref Sirol Conwy hefyd yn gweithredu Cynnig Gofal Plant Cymru yn llawn. Mae Conwy’n derbyn rhywfaint o gyllid ychwanegol i gefnogi rhieni cymwys sydd â phlant xxxx xxxxx
cefnogaeth ychwanegol i fynychu lleoliadau gofal plant nas cynhelir. Yn ystod 2018/19 mae Conwy wedi cefnogi 5 o blant. Xxx xxx y Xxx Addysg Gynnar a Gofal Plant Grant Gofal Plant Lleoedd â Chymorth sy’n gymorth ariannol i gynorthwyo tuag at gostau gofal plant ac mae ar gael i gynorthwyo teuluoedd mewn angen (yn ariannol neu os oes gan blant anghenion dysgu ychwanegol neu os yw’r teulu angen cefnogaeth). Mae hyd at 50% o nawdd os yw’n fwy na 6 awr y dydd a hyd at 70% o nawdd os yw am lai na 6 awr y dydd. Bydd pob cais yn cael ei asesu'n unigol, ac mae’n rhaid ei wneud ar sail tymor unigol hyd at uchafswm o £300 y teulu. Gwneir y taliadau’n uniongyrchol i'r lleoliad, ac mae rhieni a gofalwyr yn gyfrifol am dalu am unrhyw weddill sydd ar ôl. Yn ystod tymor yr haf 2018, mae 14 o deuluoedd wedi derbyn cymorth gyda chyllid gan Grant Gofal Plant Lleoedd â Chymorth, gyda 16 o deuluoedd yn derbyn cyllid yn nhymor yr Hydref a 19 o deuluoedd yn derbyn cyllid yn nhymor y gwanwyn 2019.
Yn ogystal â hyn, gwahoddwyd Chwarae Xxxxx, partneriaeth rhwng Xxx Addysg y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Conwy, Xxx Datblygu Chwarae CVSC, a Chynghorau Tref a Chymuned Conwy i
brynu i mewn i’r cynllun sydd wedi ein galluogi i ddarparu'r rhaglen mewn 23 o safleoedd ar draws y sir yn ystod y gwyliau. Xxx xxx Chwarae Xxxxx weithiwr cynhwysiant dynodedig ar gyfer plant a oedd angen cefnogaeth ychwanegol i gymryd rhan yn y sesiynau. Roedd hyn yn galluogi i blant anabl a phlant ag anghenion ychwanegol fwynhau Chwarae Xxxxx.
Strategaeth Twf Economaidd Conwy
Mae gwaith ar gyfer 5 uchelgais Conwy wedi dechrau sicrhau bod Conwy'n fwy cynhwysol ac yn datblygu'r economi. Er enghraifft mae Eiddo Busnes o’r Radd Flaenaf yn cael eu datblygu mewn sawl lleoliad yng Nghonwy gan gynnwys Penmaen Road, Rhos Point, Tir Llwyd, Abergele, Swyddfeydd Dinesig Colwyn; rydym yn hyrwyddo economi'r nos a thwristiaeth y gaeaf xxxx xxxx digwyddiad gan gynnwys marchnadoedd tymhorol, golau'r gaeaf ac ailfodelu Venue
Cymru; rydym hefyd wedi cyflawni asesiad ynni adnewyddadwy sy’n cael ei adolygu ar hyn o xxxx xx rydym wedi gosod 3 mainc glyfar Steora yn Llangernyw, Llanfair Talhaiarn a thref Conwy, y meinciau cyntaf i gael eu gosod yn y DU. Mae’r meinciau clyfar yn cael eu pweru gan solar ac yn aml bwrpasol - mae pad gwefru diwifr, pyrth gwefru ar gyfer ffonau (a dyfeisiau clyfar eraill), golau nos, prif reolydd arbed ynni a chasglu data (faint o bŵer sydd wedi’i gynhyrchu, faint o ddefnydd gan y cyhoedd a faint o ddata WiFi sydd wedi'i ddefnyddio).
Datblygu Canolfan Ddiwylliant Conwy
Mae adeilad newydd i ddisodli Llyfrgell Conwy wedi’i ddatblygu, bydd yn cynnwys caffi, gwybodaeth am dreftadaeth, gweithgareddau celf, gardd synhwyrau sy'n gyfeillgar i ddementia ac ystod o fideos Iaith Arwyddion Prydain / Hawdd eu Darllen/ gydag
Is-deiltlau ar gael er mwyn galluogi mynediad ehangach.
Gwasanaeth Cefnogi Llyfrgell Llandudno Yn 2018-19, derbyniodd Libraries Connected is-gontract ar gyfer darparu
gwasanaethau cefnogi fisa biometrig digidol ar ran Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI). Mae Llyfrgell Llandudno yn awr un o ddim ond 3 llyfrgell yng Nghymru (Caerdydd a Chasnewydd yw’r lleill) i ddarparu’r gwasanaeth hwn i gwsmeriaid. Rhwng y lansiad ym mis Tachwedd 2018 a diwedd Ebrill 2019, bu 165 o apwyntiadau, sydd hefyd yn cynhyrchu incwm ar gyfer y gwasanaeth. Mae’r gwasanaeth yn cefnogi pobl sydd wedi cwblhau eu cais am fisa ar- lein i sganio a chyflwyno eu dogfennau a data biometrig, gan osgoi'r angen i bostio dogfennau allweddol. Mae gwaith diweddar wedi ehangu i gynnwys cipio data biometrig i gefnogi ceisiadau Cynllun Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
Yn ogystal â hyn, mae Libraries Connected yn gyflenwyr Fframwaith Gwasanaethau Cefnogi a Hyfforddiant Digidol y Llywodraeth (GDS) sydd wedi caniatáu i Lyfrgell Llandudno dendro am gyfleoedd â thâl i ddarparu gwasanaethau cymorth digidol a chynhwysiant digidol.
Y ogystal â defnydd am ddim o gyfrifiaduron cyhoeddus, sesiynau sgiliau WiFi a Digidol, mae contractau fel hyn yn ychwanegu at bortffolio cynyddol o wasanaethau digidol a gwybodaeth y mae Llyfrgelloedd yn eu darparu yng nghanol eu cymunedau lleol.
4. Gwybodaeth Cyflogaeth Benodol
4.1 Adroddiadau Monitro Cyflogaeth
Mae adroddiadau monitro cyflogaeth blynyddol Cyngor Conwy wedi eu cyhoeddi ar ein gwefan xxx blwyddyn . Mae’r Dyletswyddau Penodol, a nodir yn Rheoliadau Dyletswyddau Statudol (Cymru) 2011, yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau cyhoeddus adrodd yn flynyddol ar y meysydd canlynol ar gyfer pob un o’r nodweddion a ddiogelir:
• Gweithwyr sy’n gweithio i ni ar 31 Mawrth xxx blwyddyn
• Ymgeiswyr am swyddi dros y flwyddyn ddiwethaf
• Gweithwyr sydd wedi gwneud cais yn fewnol i newid swydd (olrhain ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus)
• Ymgeiswyr ar gyfer hyfforddiant a faint a lwyddodd
• Gweithwyr a gwblhaodd yr hyfforddiant
• Gweithwyr sy’n rhan o weithdrefnau cwyno fel achwynydd neu fel person y gwnaed cwyn yn ei erbyn
• Gweithwyr sy'n ddarostyngedig i weithdrefnau disgyblu
• Gweithwyr sy'n gadael a'u rhesymau dros adael
Yn ogystal â hyn, mae’n rhaid i sefydliadau cyhoeddus gymharu dynion a merched sydd wedi’u cyflogi, yn ôl Swydd, Graddfa, Cyflog, math o gontract (gan gynnwys contractau parhaol a
chyfnod penodol) a Phatrymau gwaith (gan gynnwys llawn amser, rhan amser a phatrymau gwaith hyblyg eraill).
Defnyddir yr adroddiadau hyn i adolygu effeithiolrwydd ein polisïau a’n harferion cyflogaeth ac i ystyried a fu unrhyw ddiffyg posibl o ran tegwch neu hyd yn oed o ran gwahaniaethu. Eir ati i ymchwilio mewn rhagor o fanylder i ddata sy'n dangos y gallai fod diffyg tegwch neu wahaniaethu ac os bydd angen, cymerir camau adferol i’w ddileu drwy adolygu'r polisi neu arferion perthnasol. Rydym yn adolygu ein xxxx bolisïau x xxxx i’w gilydd ac yn cynnal Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb gan ddefnyddio’r data o’n Hadroddiad Monitro Cyflogaeth diweddaraf.
Rydym wedi cymryd camau i wella data sy’n cael ei gipio o ran monitro cydraddoldeb ein staff, tra’n derbyn fod yn rhaid i ni barchu'r ffaith nad yw’r xxxx weithwyr yn dymuno darparu’r wybodaeth bersonol neu sensitif hon. Rydym yn credu ei bod yn bwysig rhoi cyfle i weithwyr gael eu cyfrif os ydynt yn dymuno hynny. Mae’r ffurflen gais ar bapur (a ddefnyddir am resymau hygyrchedd yn unig yn awr) a’r ffurflen gais ar-lein yn darparu eglurhad o ran xxx y cesglir gwybodaeth monitro cydraddoldeb a sut y caiff ei defnyddio, gan ddarparu sicrwydd o ran y Ddeddf Diogelu Data a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a chyfrinachedd.
Mae’n ofynnol bod ymgeiswyr yn llenwi ein ffurflen monitro cydraddoldeb fel rhan o e-recriwtio ac mae’r adran hon yn orfodol, ond rydym yn caniatáu i bobl nodi: “mae’n well gen i beidio â dweud". Rydym wedi ehangu’r defnydd o’n cyfleuster “hunanwasanaeth” sy’n caniatáu i staff addasu manylion personol am eu hunain ac rydym yn parhau i geisio canfod dulliau eraill o wella'r data cydraddoldeb sydd gennym ar gyfer ein staff.
Mae gennym y data canlynol ar gyfer staff yng Nghonwy:
100% | Rhyw |
100% | Oedran |
99.5% | Statws priodasol/ partneriaeth sifil |
51.7% | Hil |
47% | Anabledd |
41.3% | Crefydd / Cred |
41.2% | Tueddfryd Rhywiol |
35% | Trawsrywedd |
Mae’r data a gasglwyd ym mhob categori heb law am dueddfryd rhywiol wedi gwella unwaith eto yn y cyfnod hwn. Mae’r ffigyrau hyn yn dangos nifer y staff sydd wedi darparu gwybodaeth am xxx nodwedd a ddiogelir, nid nifer y bobl yn y grŵp hynny. Mae gwaith yn parhau i wella casgliad data yn y xxxx hwn.
Xxx ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer 2018-19 yn dangos ein bod yn cyflogi 4098 o staff parhaol neu ar gontract cyfnod penodol (50 yn llai na’r llynedd), ac mae 73% ohonynt yn ferched a 27% ohonynt
yn ddynion; 56% wedi nodi eu bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil; 2% gydag anabledd (ychydig yn uwch na'r llynedd); 0.9% yn Lesbiaid, Hoyw neu Ddeurywiol (hefyd ychydig yn uwch na'r llynedd); 1.5% o Gefndir Ethnig Du a Lleiafrifol (BME). Mae ein gweithlu staff achlysurol yn cynnwys 2064 o staff yn cynnwys 77% o ferched a 23% o ddynion, er na fydd pob aelod o staff wedi eu cynnwys yn y cyfrif hwn yn y gwaith drwy'r amser, gan eu bod fel arfer yn cael eu galw i weithio yn ôl yr angen. Mae’r niferoedd hyn yn adlewyrchu’r nifer gwirioneddol o bobl oedd gennym wedi’u cyflogi ar 31.3.19. Efallai bydd y bobl yr ydym yn eu cyflogi yn cyflawni mwy nag un swydd felly roedd gennym 4505 o swyddi parhaol / cyfnod penodol wedi’u llenwi gan 4098 o bobl a 2991 o swyddi achlysurol wedi’u llenwi gan 2064 o bobl.
Rydym yn parhau i gyflogi mwy o staff rhan amser (52%) na staff llawn amser (48%). Mae 57% o’r staff parhaol llawn amser yn ferched a 87% o’r staff rhan-amser yn ferched mewn swyddi parhaol neu gontract cyfnod penodol (yn debyg i’r llynedd). Mae 75% o staff Contract Cyfnod Penodol llawn-amser yn ferched a 89% o staff contract cyfnod penodol rhan amser yn ferched. Merched sydd â mwyafrif helaeth y swyddi achlysurol, sef 77%.
Cafwyd 3168 o geisiadau am y 470 swydd sy’n cael eu hysbysebu yn ystod 2018-2019, gan roi cyfartaledd o 6.7 ymgeisydd fesul pob swydd wag sy'n uwch na'r llynedd pan oedd gennym 4.7 cais fesul pob swydd wag. Roedd 64% o'r xxxx ymgeiswyr yn ferched a 36% yn ddynion. Rydym wedi xxxx 4% (127) o ymgeiswyr anabl, a oedd yn uwch na’r llynedd. Rydym wedi xxxx 1.6% o ymgeiswyr Du a Lleiafrifoedd Ethnig, sy’n gyfystyr â 50 sef y nifer uchaf ers 2012 ond mae’r nifer yn ymddangos yn isel o gymharu â Chyfrifiad 2011 (2.2%).
Cafodd 48% o ferched eu rhoi ar restr fer, 50% o ymgeiswyr anabl (4.17% o’r cyfanswm a roddwyd ar y rhestr fer).
Roedd 35% o’r ymgeiswyr BME wedi cyrraedd y rhestr fer (1.13% o’r cyfanswm a roddwyd ar y rhestr fer).
Gwnaed 399 o benodiadau yn ystod y flwyddyn, 64% ohonynt yn ferched a 36% yn ddynion, 3.8% ohonynt yn anabl (o gymharu â 2% o'r gweithlu) a 0.5% yn BME (o gymharu â 1.5% yn y gweithlu).
Roedd 59% o'r xxxx achosion Salwch, Cwyno/Bwlio ac achosion Disgyblu/Galluedd yn ymwneud â gweithwyr benywaidd, sydd yn is na'r proffil gweithlu o 73% yn fenywod a 27% yn wrywod.
Roedd niferoedd uwch o achosion o Salwch, Cwyno / Bwlio a Disgyblu/Galluedd yn ymwneud â gweithwyr o fewn yr ystod oedran 45-54 (29%), sydd wedi bod yn debyg am y ddwy flynedd ddiwethaf ac yn eithaf cymharol â phroffil y gweithlu ar gyfer yr ystod oedran o 32%.
Roedd 80% o’r achosion Cwyno / Bwlio yn ymwneud â dynion sy’n groes i’r llynedd lle bo 80% yn ymwneud â merched ond ar y cyfan mae’r niferoedd yn isel. Roedd 66% o’r achosion o absenoldebau salwch yn ferched sydd ychydig yn is na phroffil y gweithlu.
Roedd nifer uwch (70%) o achosion Disgyblu / Galluedd ar gyfer dynion ac wrth gymharu â phroffil y gweithlu o 73% yn ferched a 27% yn ddynion mae'n anghymesur. Ond mae’r darlun hwn yn debyg i dueddiadau’r gorffennol ac yn cyd-fynd â’r hyn y mae cyrff cyhoeddus eraill yn ei adrodd.
Roedd llai o unigolion yn gwirfoddoli i adael yn y cyfnod (396) sy’n 76% o’r xxxx xxx xxxx wedi gadael, ac o'r rhain roedd 71% yn ferched sy'n agos at broffil y gweithlu. O'r rhai a adawodd yn anwirfoddol, roedd 51% ohonynt yn staff yr oedd eu contract dros dro wedi dod i ben, gadawodd 15% o’r gweithwyr oherwydd diswyddiadau gorfodol a chafodd 34% o’r gweithwyr eu diswyddo yn y cyfnod (o’u plith, cafodd 55% eu diswyddo ar sail iechyd gwael). Gadawodd 10 o weithwyr anabl y sefydliad yn ystod y cyfnod, 7 yn wirfoddol. Ni adawodd unrhyw weithiwr BME yn ystod y cyfnod. Gadawodd 7 o weithwyr LGB y sefydliad yn ystod y cyfnod, 6 yn wirfoddol.
Mae manylion llawn a dadansoddiad o'r data i'w gweld yn Adroddiad Monitro Cyflogaeth 2018-19 ar ein gwefan.
4.2 Cyflog Cyfartal a Gwahaniaethau Cyflog
Mae Xxxxx Xxxxxxxxxxxx 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i ferched a dynion gael eu talu ar delerau'r un mor ffafriol pan fônt
wedi eu cyflogi i wneud ‘gwaith tebyg’ neu ‘gwaith a ystyrir yn gyfwerth’ neu ‘waith x xxxxx cyfartal’. Cynhaliodd Cyngor Conwy broses gynhwysfawr yn gwerthuso swyddi a gwblhawyd yn ystod
2010/11 gyda'r amcan o sicrhau cyflog cyfartal yn unol â’r telerau sydd wedi eu diffinio uchod.
Cynhaliom Archwiliad Cyflog Cyfartal yn 2009 wrth Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb wrth Werthuso Swyddi. Roedd yr archwiliad hwn yn cynnwys dadansoddiad cynt ac wedyn o’r hen raddfeydd a’r graddfeydd newydd arfaethedig yn ôl rhyw.
Yn 2010 pan weithredwyd y system raddio bresennol, gwnaethpwyd penderfyniad ymwybodol fel rhan o'r ymarfer modelu cyflog i bwysoli'r gyllideb a oedd ar gael i swyddi ar y graddfeydd isaf wrth fynd ati i werthuso swyddi, er mwyn cydnabod y nifer uchel o staff mewn swyddi cyflog is, y mae’r mwyafrif ohonynt yn ferched.
Cafodd hyn ei groesawu gan yr xxxx Undebau ar y pryd.
Rydym wedi cofnodi data bylchau cyflog yn rheolaidd ers hynny a gellir gweld hyn yn y tabl isod, sy'n dangos y cynnydd ers hynny ar y bwlch cyflog gan ddefnyddio'r un cyfrifiad ar gyfer rhyw, anabledd, hil ac oedran.
Bwlch Cyflog | 2009 Cyn JE | 2009 Ar ôl JE | 31.3. 2011 | 31.3. 2015 | 31.3. 2017 | 31.3. 2018 | 31.3. 2019 |
Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau rhwng Graddau G01-G12 | +1.1- 0% | +0.8- +1.9% | -1.8- +0.4% | -1.8- +0.39% | -1.85- +1.2% | ||
Cyfanswm Bwlch cyflog rhwng y rhywiau Graddfeydd G01-G12 | +13.1% | +9.3% | +7.53% | +7.15% | +5.47% | ||
Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ar gyfer yr xxxx Swyddi | +16.2% | +15.8% | +8.83% | +6.5% | +4.39% | +3.56% | +2.8% |
Bwlch Cyflog Anabledd | -10% | 0% | -9.78% | -0.9% | |||
Bwlch Cyflog BME | +2.45% | +6.35% | +5.10% | +8.07% | |||
Bwlch Cyflog Oedran: O xxx 50 oed fel % o 50+ | -1.37% | -2.47% | -2.21% | ||||
Bwlch Cyflog Oedran 50+ fel % o xxx xxx 50 oed | +1.35% | +2.41% | +2.16% |
[Sylwch: mae bwlch cyflog negyddol (-) yn dangos bod y bwlch cyflog yn ffafriol ar gyfer y grŵp hwnnw o’i gymharu â gweddill y grŵp, ac mae positif (+) yn dynodi bwlch cyflog negyddol]
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn argymell y dylid ystyried bylchau cyflog o 5% neu fwy fel rhai sylweddol.
O’r 1 Ebrill 2019 gweithredwyd strwythur cyflog diwygiedig yn dilyn setliad cyflog y Cydgyngor Cenedlaethol ar gyfer 2018 a 2019, sydd wedi gostwng yr amser i staff ar raddfeydd is i gyrraedd brig eu graddfeydd i adlewyrchu bod y gwaith yn llai cymhleth ac felly'n cymryd llai o amser i dderbyn y profiad perthnasol. Felly, ar gyfer ein graddau isaf: Graddau G01, G02 a G03 dim ond 2 fand sydd gan olygu y bydd staff fel arfer yn symud i frig eu graddfa ar ôl 12 mis. Xxx xxx G04 3 band o fewn y raddfa sydd fel arfer yn cymryd 2 flynedd i gyrraedd brig y raddfa ac xxx xxx y bandiau cyflog Statws Sengl sy'n weddill 4 band o fewn graddfa, gan olygu y bydd staff yn cyrraedd y band uchaf ar ôl 3 blynedd. Mae symud o un band i’r un nesaf o fewn graddfa yn ddibynnol ar fod staff yn perfformio'n foddhaol ond yr hyn sy’n arferol yw bod pobl yn codi’n flynyddol (oni bai eu bod ar lwybr carlam oherwydd perfformiad eithriadol neu at ddibenion cadw rhywun mewn swydd gyda chytundeb ymlaen llaw gan y Pennaeth Gwasanaeth a Phennaeth Adnoddau Dynol Corfforaethol, ond hyd yn oed wedyn, byddant yn aros o fewn y Raddfa ar gyfer y swydd).
Nid oes gennym gynlluniau bonws yn eu lle ar gyfer y grŵp yma o staff gan eu bod wedi'u diddymu ar ôl gweithredu Amodau a Thelerau Statws Sengl yn 2010. Mae staff yn derbyn taliadau uwch os ydynt yn gweithio oriau anghymdeithasol ond mae’n cael ei gymhwyso'r un fath i'r xxxx staff yn y Cyngor ac yn cael xx xxxx'n awtomatig yn seiliedig ar ddata'r taflenni amser.
Mae gennym Bolisi Ychwanegiad y Farchnad i sicrhau os yw ein swyddi sydd wedi'u gwerthuso yn disgyn yn is na chyfradd y farchnad ar gyfer swyddi penodol, gallwn ychwanegu at y raddfa er mwyn iddo fod yn unol â chyfraddau’r farchnad. Mae unrhyw drefniadau o’r fath yn cael eu cyfiawnhau’n wrthrychol drwy gyfeirio at dystiolaeth glir a thryloyw o gymariaethau perthnasol y farchnad gan ddefnyddio ffynonellau data o du mewn a thu xxxxx i Lywodraeth Leol. Mae'n bolisi gan y Cyngor bod unrhyw daliadau ychwanegol o'r fath yn cael eu cadw i’r lleiaf posib ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd er mwyn gallu eu tynnu'n ôl pan na ystyrir eu bod yn angenrheidiol mwyach. Nid oes unrhyw ychwanegiadau'r farchnad yn weithredol ar hyn x xxxx.
Nid ydym yn gweithredu cyflog sy’n gysylltiedig â pherfformiad neu gymhwysedd (heblaw’r hyn a ddisgrifiwyd uchod o fewn y raddfa).
Disgwylir i weithwyr newydd ddechrau ar waelod y raddfa ar gyfer y swydd oni bai bod rheswm y gellir ei gyfiawnhau dros ddechrau ar bwynt uwch o fewn y raddfa. Yn yr amgylchiadau hynny, mae’n rhaid derbyn cymeradwyaeth gan Adnoddau Dynol Corfforaethol.
Mae trefniadau diogelu tâl eraill yn bodoli lle mae sefyllfa ddiswyddo yn bodoli ac yn unol â pholisi'r Cyngor, xxx xxx staff hawl i ddiogelwch tâl o 12 mis os yw eu cyflog yn lleihau o un raddfa neu lle bo'r swydd wedi newid o ganlyniad i fân ailstrwythuro sy'n effeithio ar eu sgôr Gwerthusiad Swydd o un raddfa. Bydd unrhyw adleoli i swydd pan fo gostyngiad o fwy nag un raddfa yn arwain at weithredu’r cyflog ar gyfer y raddfa honno wrth ddechrau yn y swydd newydd.
Rydym yn talu lwfansau am fod wrth gefn ac ar alw pan fo angen i staff weithio y tu xxxxx i'w horiau arferol ac mae gwaith wedi’i gyflawni i safoni taliadau.
Mae Cyflog cyfartal yn ymwneud â thalu pobl am waith x xxxxx cyfartal. Trwy weithredu ein Cynllun Gwerthuso Swyddi, rydym yn hyderus y gallwn nodi nad oes gennym faterion yn
ymwneud â chyflog cyfartal yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae ein xxxx swyddi o xxx Statws Sengl yn cael eu sgorio gan ddefnyddio Cynllun Cyngor Taleithiol Llundain Fwyaf (GLPC) sy’n mesur swyddi yn unol â lefel goruchwyliaeth, gwybodaeth, creadigrwydd sy'n ofynnol, cymhlethdod cysylltiadau gydag eraill, yr adnoddau y maent yn gyfrifol amdanynt, lefel ac effaith y penderfyniadau maent yn eu gwneud a chyd-destun y gwaith. Yn yr un xxxx xxx ein swyddi Prif Swyddog yn cael eu sgorio o xxx XXX a chyflog Athrawon yn cael ei drafod yn genedlaethol.
Mae bwlch cyflog yn ymwneud â'r gwahaniaeth mewn cyflog rhwng grwpiau o bobl gyda grwpiau gwahanol a ddiogelir e.e. y gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae dynion fel arfer yn ei ennill mewn sefydliad o gymharu â chyflog merched, waeth xxxx fo'u rôl neu lefel. Xxxxx xxx unrhyw fwlch cyflog yn fwy o adlewyrchiad o broffil ein gweithlu na gwobrau anghyfartal ar gyfer pobl gyda gwahanol nodweddion a ddiogelir yn gwneud yr un swydd.
Yng Nghonwy, rydym yn cyflogi cyfran sylweddol uwch o ferched na dynion (74%) ac mae mwy o’n staff yn rhan-amser (52%) nag yn llawn amser sy'n dangos ein bod yn cynnig hyblygrwydd mewn cyflogaeth ond mae hyn yn cael effaith ar y bwlch cyflog ac ni
fyddem eisiau tynnu'r hyblygrwydd hwnnw gan fod nifer o'n staff yn gwerthfawrogi cydbwysedd bywyd / gwaith.
Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau
Os ydym ni’n ystyried Graddfeydd G01 – G12, mae’r gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau rhwng y graddau yn eithaf cyson rhwng - 1.85% a +1.2%. O fewn G01, G04, G05, G09 a G12 mae cyflog ychydig o blaid merched, gan awgrymu nad oes bwlch cyflog sylweddol rhwng y rhywiau rhwng graddfeydd unigol G01-G12 ac mae'n debyg bod bwlch o 5.47% ar gyfer yr xxxx raddfeydd statws sengl G01-G12 yn deillio am fod nifer uchel o ferched yn cael eu cyflogi yn G01 (41.2% o’r rhai sydd wedi’u cyflogi yng ngraddfeydd G01-G12). Nid yw hyn yn anghyffredin yn y sector cyhoeddus oherwydd natur llafur-ddwys y gwaith a wneir. Gan ddefnyddio’r un cyfrifiad, mae bwlch cyflog cyffredinol rhwng y rhywiau o 2.8% wrth gynnwys yr xxxx staff sydd wedi’u cyflogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer yr xxxx swyddi yng Nghyngor Conwy wedi gostwng xxx blwyddyn ers 2009.
Ar 6 Ebrill 2017 daeth Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau) i rym, gan ei gwneud yn ofynnol i'r xxxx sefydliadau sy'n cyflogi 250 neu fwy o weithwyr i adrodd eu Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau, gan ddefnyddio cyfrifiad penodol, ar eu gwefan ac ar wefan ddynodedig y llywodraeth ar xxxxx://xxx.xxx.xx/xxxxxx-xxxxxx-xxx-xxx-xxxx. Yng Nghymru, mae sefydliadau’r sector cyhoeddus wedi’u heithrio o’r gofyniad hwn gan fod ganddynt Reoliadau Dyletswyddau Statudol (Cymru) 2011 sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt adrodd ar y bwlch cyflog, nid yn unig ar gyfer rhyw ond hefyd ar gyfer y grwpiau eraill a ddiogelir.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyfrifo ei fwlch cyflog rhwng y rhywiau gan ddefnyddio’r cyfrifiad rhagnodedig yn Rheoliadau 2017 fel ar 31 Mawrth 2019 sy’n dangos ffigur ychydig yn wahanol i’r rhai uchod fel a ganlyn:
Cyfrifiad Cenedlaethol Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ar 31 Mawrth 2019
Cyfradd fesul awr ar gyfer merched | Cyfradd fesul awr ar gyfer dynion | Gwahania eth yn y gyfradd fesul awr | Cymedr Bwlch Cyflog rhwng y rhywiau fel % | Canolrif Bwlch Cyflog rhwng y rhywiau fel % | |
Cymedr (cyfartalog) cyfradd rhyw fesul awr | 13.20 | 13.82 | 0.62 | 4.48 | |
Canolrif (Canol) cyfradd rhyw fesul awr | 9.73 | 10.91 | 1.18 | 10.82 | |
Chwartel | Xxxx | Xxxx Xxxx | Chwartel | Proffil y | |
Uchaf | Uchaf y | y | Xxxx | Xxxxxxxx | |
Chwart | Chwartel | (2019) | |||
el | Canol | ||||
Canol | |||||
% o ddynion | 28.7% | 35.9% | 24.8% | 18.7% | 26.6% |
Xxxxx y dynion | 387 | 486 | 334 | 251 | |
% Females | 71.3% | 64.1% | 75.2% | 81.3% | 73.4% |
Xxxxx y merched | 963 | 866 | 1013 | 1090 |
Mae cymedr y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn defnyddio cyfrifiad cyfartalog gan ddefnyddio’r categorïau rhagnodedig o staff i'w cynnwys, ac mae'r cyfrifiad canolrif yn rhoi'r xxxx staff mewn colofn o'r rhai â'r cyflog lleiaf i'r rhai â'r cyflog mwyaf ac yn cymryd y gyfradd fesul awr canol ar gyfer dynion a merched ac yn cymharu'r gwahaniaeth. Er ein bod wedi dilyn y cyfrifiad a nodwyd mewn deddfwriaeth, mae’n ymddangos bod ACAS hefyd wedi cyhoeddi canllawiau o ran xxxx i'w gynnwys a'i eithrio o'r cyfrifiad sydd ychydig yn wahanol xxxxx xxx'n ymddangos efallai nad yw'r sefydliadau'n cymhwyso cyfrifiad cyson i wneud cymariaethau teg. Felly xxx xxxxx mwy x xxxxx i fireinio’r cyfrifiad hwn cyn i ni ei gyhoeddi ar wefan y Llywodraeth.
Rydym wedi nodi camau gweithredu pellach yn ein cynllun gweithredu ar gyfer y Cynllun Cydraddoldeb Strategol i archwilio’r materion o ran gwahaniaethu swyddi a rhyw, ac rydym yn credu mai dyma un o'r prif resymau xxx bod bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn parhau i fodoli.
Bwlch Cyflog Oedran
Rydym wedi rhannu’r data oedran yn ddau gategori, y rheiny sydd o xxx 50 a’r rheiny sy’n 50 a throsodd. Yng ngraddfeydd G01-G12, mae’r bwlch cyflog yn y xxxx xxx 50 fel canran o’r rhai dros 50 yn amrywio o -1.32 i +2.26 sy’n fychan iawn ac yn yr un xxxx xxx’r bwlch yn y rhai dros 50 fel canran o'r rhai o xxx 50 yn amrywio o -
2.31 i +1.29. Mae'r swyddi ar lefel Pennaeth Gwasanaeth yn dangos bwlch cyflog o blaid y rhai sydd dros 50 o 6% ac mae Penaethiaid, Dirprwy Benaethiaid a staff Addysgu ar amodau Soulbury yn dangos bwlch cyflog o blaid pobl dros 50 oed o oddeutu 7%. Mae’r bwlch cyflog cyffredinol yn dangos fod gweithwyr dros 50 yn cael eu ffafrio o drwch blewyn o 2.16%, tra bo 62% o gyfanswm y gweithlu o xxx 50 oed.
Bwlch Cyflog Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig
Mae data hanesyddol yn dangos amrywiant yn y bwlch cyflog ar gyfer lleiafrifoedd ethnig yn amrywio o 2.45% i 8.07%. Mae’r ffigur diweddaraf yn dangos bwlch cyflog uwch rhwng y categorïau lleiafrifoedd ethnig a xxxx. Ond, dim ond data monitro ar gyfer 51.7% o’r gweithlu sydd gennym a fydd yn effeithio ar gywirdeb y ffigur.
Bwlch Cyflog Anabledd
Mae data hanesyddol yn dangos amrywiant yn y bwlch cyflog ar gyfer pobl anabl yn amrywio o -10% i 0%, gan ddangos, os yw'n dangos unrhyw xxxx, bod y bwlch cyflog ar gyfer pobl anabl yn ffafriol i bobl anabl. Ond effeithir ar ddibynadwyedd y data gan mai dim ond ar gyfer 47% o’n gweithlu y mae gennym wybodaeth am anabledd.
Nid oes gennym ddata bwlch cyflog ar gyfer gweddill y grwpiau a ddiogelir gan fod y set ddata’n fach iawn ac felly’n llai ystyrlon. Byddwn yn parhau i weithio ar wella ein casgliad data lle bo bylchau i wella ein data adrodd.
5. Casgliad
Ar gyfer cyfnod 2018/2019, nodwyd 21 cam gweithredu ar gyfer trydedd flwyddyn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016 - 2020. Mae 1 cam
gweithredu wedi'i uno xxxx xxxx gweithredu o flwyddyn 4 a
bydd yn cael ei adrodd y flwyddyn nesaf. Nid yw ail gam gweithredu wedi’i gyflwyno yng Nghonwy oherwydd adolygiad o waith Partneriaethau COG 2 er bod y cam gweithredu wedi'i gyflawni ac yn parhau drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru. Xxxxx xxx’r xxxx gamau gweithredu perthnasol wedi’u cofnodi fel rhai wedi’u cwblhau’n llwyddiannus.
Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys camau pellach sydd wedi’u cyflawni yn ystod y flwyddyn sy’n berthnasol i’n Hamcanion Cydraddoldeb. Mae mwy o waith yn parhau i gael ei gyflawni i symud tuag at gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb. Gyda datblygiad ein Hamcanion Newydd a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024, byddwn yn parhau â’n gwaith i wella tegwch, tryloywder, mynediad a chydraddoldeb i bawb wrth ddarparu gwasanaethau a chyflogi. Rydym yn parhau i ymrwymo i welliant parhaus o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth, tra’n sicrhau ein bod yn rheoli ein cyllidebau a’n hadnoddau’n effeithlon mewn amgylchedd sy’n heriol yn barhaus.