TÎM COMISIYNU ADRODDIAD MONITRO CONTRACT
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CAERFFILI CYFADRAN GWASANAETHAU CYMDEITHASOL
XXX COMISIYNU
ADRODDIAD MONITRO CONTRACT
Enw/Cyfeiriad y Darparwr: Cartref Nyrsio Highfields, Highfields Way, Coed Duon,
NP12 1SL
Dyddiad/Amser yr Ymweliad: Dydd Iau 07/11/2019 a Dydd Mercher 27/11/2019
Swyddog(ion) sy'n Ymweld: Xxxx Xxxxxxxx, Swyddog Monitro Contractau
Yn Bresennol: Xxxxxxx Xxxxx, Rheolwr Cofrestredig
1. Cefndir
1.1 Cofrestrwyd Highfields i ddarparu gofal preswyl a nyrsio ar gyfer hyd at 39 o bobl. Adeilad deulawr yw'r cartref, ac ystafelloedd un person yw pob ystafell.
1.2 Ar adeg yr ymweliad roedd y cartref yn llawn gyda 39 o drigolion; 29 yn derbyn gofal nyrsio (roedd 10 o’r rheiny yn cael eu hariannu gan CHC) a 10 yn derbyn gofal preswyl.
1.3 Gan ddibynnu ar ganfyddiadau’r adroddiad, efallai rhoddir camau gweithredu cywirol a datblygiadol i'r darparwr i’w cwblhau. Xxx xxxxx cywirol yn rhai y mae'n rhaid eu cwblhau fel y'u llywodraethir gan reoliadau fel y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (“y Ddeddf”). Xxx xxxxx datblygiadol yn argymhellion arfer da.
2. Argymhellion Blaenorol
2.1 Camau Cywirol
2.1.1 I nodi tystiolaeth bod yr unigolyn (neu ei gynrychiolydd) sy'n derbyn gofal wedi cymryd rhan yn y gwaith o baratoi ei gynllun personol, a lle bo'n bosibl yn llofnodi i brofi ei fod yn cytuno â'r cynnwys. (Rheoliad 15.6 y Ddeddf) Gweithred wedi’i chwblhau: Gweler xxxxx yr adroddiad.
2.1.2 Pob aelod o staff i fod yn gyfredol gyda chyrsiau hyfforddi gorfodol (yn unol â chontract cartref gofal CBSC). Gweithred wedi’i chwblhau: Dangosai'r Matricsau Hyfforddiant fod y staff yn cael yr hyfforddiant diweddaraf ac y cynllunnir amserlen lawn o hyfforddiant drwy gydol y flwyddyn.
2.2 Datblygiadol
2.2.1 Pan fo cynlluniau personol yn cael eu diwygio neu eu diweddaru, cynghorir eu bod yn cael eu diweddaru'n electronig a heb eu hysgrifennu â llaw. Gweithred wedi’i chwblhau: Roedd y cynlluniau personol a welwyd, wedi'u diwygio'n briodol.
3. Canfyddiadau'r Ymweliad
3.1 Dogfennaeth
3.1.1 Gwelwyd ffeiliau gofal dau o'r preswylwyr yn ystod yr ymweliad. Roedd un preswylydd yn derbyn gofal preswyl yn y cartref, ac roedd yr ail breswylydd yn derbyn gofal nyrsio cyffredinol. Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys ffotograff o'r preswylydd ac roedd yr asesiadau cyn-derbyn priodol wedi'u cwblhau, ac roedd y rhain yn ddogfennau trylwyr iawn ynglŷn ag anghenion gofal y preswylydd.
3.1.2 Roedd y cynlluniau personol a welwyd yn y ddwy ffeil yn ymdrin â'r xxxx feysydd cymorth a nodwyd yng nghynlluniau gofal CBSC, a oedd yn bresennol yn y ddwy ffeil. Roedd y cynlluniau personol yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cynnwys yn fanwl sut i reoli cyflwr y preswylwyr ac roeddent yn cynnwys dewisiadau a threfn bersonol.
3.1.3 Mae'r cartref yn defnyddio dogfen o'r enw 'Cytundeb i Ofalu' i ddangos bod yr unigolyn sy'n derbyn gofal (neu ei gynrychiolydd) wedi cymryd rhan yn y gwaith o baratoi ei gynllun personol. Caiff ei gadw ar flaen ffeil pob unigolyn a'i lofnodi gan y preswylydd a'r nyrs sy'n ymwneud â'r gwaith o gasglu ac adolygu'r cynlluniau gofal.
3.1.4 Roedd asesiadau risg addas yn eu lle, lle bo'n briodol, i ddiwallu anghenion y preswylwyr.
3.1.5 Roedd y cynlluniau gwasanaeth a'r asesiadau risg yn cael eu hadolygu'n fisol, sy'n arfer da, a xxxx nodwyd yr angen am newidiadau, roedd y cynlluniau gwasanaeth wedi'u diwygio.
3.1.6 Xxx xxx Highfields broses 'Preswylydd y Dydd' i sicrhau bod adolygiadau'n cael eu cynnal yn brydlon ac yn unol â'r rheoliadau. Mae hyn yn cynnwys adolygu a gwirio cynlluniau gofal a gwirio ystafelloedd.
3.1.7 Roedd yr offer asesu risg (megis MUST, Waterlow ayyb) yn cael eu cwblhau xxx mis, ac roedd pwysau'r preswylwyr hefyd yn cael ei gofnodi'n fisol.
3.1.8 Cedwir cofnodion dyddiol ar ffeiliau ar wahân, ynghyd â gwybodaeth ddyddiol arall. Edrychwyd ar un o'r ffeiliau a nodwyd bod yr xxxx siartiau (megis siartiau bwyd a hylifau, siartiau troi ac ati) yn cael eu diweddaru mewn modd amserol. Roedd yn gadarnhaol gweld bod y gofalwyr a'r nyrsys yn gwneud cofnod dyddiol ar wahân. Xxx xxx xxx preswylydd ffeil gweithgareddau ar wahân lle mae gweithgareddau cymdeithasol y maent wedi cymryd rhan ynddynt yn cael eu cofnodi.
3.1.9 Roedd tystiolaeth yn y ffeiliau a welwyd bod iechyd y preswylwyr yn cael ei fonitro'n briodol, gyda chyfeiriadau amrywiol at weithwyr iechyd proffesiynol megis meddygon teulu, deietegwyr a deintyddion.
3.1.10 Roedd pob cynllun personol yn cynnwys nodau a chanlyniadau unigol a ddilynwyd gan restr o'r cymorth sydd xx xxxxx i helpu'r preswylydd i'w cyflawni.
3.1.11 Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys cytundebau ag aelodau'r teulu/cynrychiolwyr ynglŷn â chael gwybodaeth am ddigwyddiadau, ac roedd y rhain wedi'u llofnodi gan y preswylwyr.
3.1.12 Roedd dogfennau Xxxxx Bywyd yn bresennol yn y ddwy ffeil, ac roeddent wedi'u cwblhau ar y cyd ag aelodau o'r teulu, ac roedd y rhain yn cynnwys manylion da ynghylch diddordebau, galwedigaeth a'r hyn a oedd yn bwysig iddynt.
3.1.13 Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys Cynlluniau Gofal Uwch ar gyfer y preswylwyr ac roedd ffurflenni “Peidiwch â Xxxxxxx Xxxxxxx Cardiopwlmonaidd” ar y ffeiliau a oedd hefyd wedi'u trafod ag aelodau'r teulu.
3.1.14 Roedd yr xxxx ddogfennau dyddiol a welwyd wedi'u cwblhau i safon dda, roedd y cofnodion yn ddarllenadwy ac roeddent yn cynnwys yr xxxx wybodaeth berthnasol megis cyfansymiau, targedau, dyddiadau a llofnodion.
3.2 Gweithgareddau
3.2.1 Mae'r cartref yn cyflogi cydgysylltwyr gweithgareddau, sy'n gweithio 30 awr yr wythnos dros 5 diwrnod (gan gynnwys un diwrnod xxx penwythnos). Cedwir ffeil i gofnodi'r gweithgareddau, ac i restru pa weithgareddau gwahanol y mae pob preswylydd yn eu mwynhau.
3.2.2 Xxx xxx y cartref raglen wythnosol o weithgareddau wedi'i chynllunio, sy'n cynnwys aerobeg cadair freichiau, tylino, cwisiau, sesiynau hel atgofion, gemau bwrdd, offerynnau cerdd, a phrynhawn ffilm. Cynhelir y rhan fwyaf o'r gweithgareddau yn y lolfa, ac mae'r cydgysylltydd gweithgareddau hefyd yn cynllunio 1:1 o amser ar gyfer preswylwyr sy'n treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn eu hystafelloedd gwely.
3.2.3 Ar ddiwrnod yr ymweliad roedd y preswylwyr wedi bod yn ymarfer caneuon a oedd yn cael eu xxxx xxxx phlant ysgol dros gyfnod y Nadolig.
3.2.4 Roedd yn amlwg bod cysylltiadau da gydag ysgolion lleol gyda ffotograffau o'r preswylwyr a'r plant yn mwynhau gweithgareddau gyda'i gilydd, rhannu caneuon, straeon a chwarae gemau cerddorol. Ceir ymweliadau achlysurol hefyd gan ddiddanwyr allanol. Nodwyd hefyd bod pob preswylydd wedi derbyn amserlen o weithgareddau a gynlluniwyd drwy gydol mis Rhagfyr i ddathlu'r Nadolig.
3.2.5 Edrychwyd ar y ffeil gweithgareddau, ac roedd yn gadarnhaol nodi recordiadau manwl i ddangos y gweithgareddau a oedd yn cael eu cynnal yn y cartref. Xxx xxx xxx preswylydd gofnod unigol o weithgareddau sy'n cael ei gwblhau fel arfer dwy neu dair gwaith yr wythnos. Mae'r cofnodion yn rhoi sylwadau ar y gweithgareddau sydd wedi'u cynnal, yn ogystal â nodi adborth y preswylwyr ynghylch a oeddent yn eu mwynhau ai peidio. I rai preswylwyr, cofnodir iddynt gael cynnig y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgaredd grŵp ond eu bod yn dewis peidio â gwneud hynny.
3.2.6 Roedd yn amlwg bod amrywiaeth xxxx o weithgareddau yn cael eu cynnal yn y cartref, gyda rhai yn seiliedig ar amserau'r flwyddyn. Roedd ffotograffau amrywiol yn cael eu harddangos yn y cartref yn dangos y gweithgareddau a'r partïon hyn.
3.2.7 Ar ffeil un preswylydd, cofnodwyd nad oedd yn mwynhau gweithgareddau a'i fod yn dewis treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn ei ystafell, ond mae'r staff yn gwneud ymdrechion i sgwrsio ag ef yn rheolaidd ac mae'r cydlynydd gweithgareddau yn treulio amser gydag
ef, a chofnodwyd hyn yn y ffeil. Rhoddodd ef adborth cadarnhaol am y staff yn ystod adolygiad diweddar o'r cynllun gofal.
3.2.8 Mae gwasanaethau'r Eglwys yn cael eu cynnal yn y cartref yn rheolaidd, gan ganiatáu i'r preswylwyr gyflawni eu canlyniadau personol mewn perthynas â'u hanghenion crefyddol ac ysbrydol.
3.3 Perthnasau
3.3.1 Siaradwyd â dau o berthnasau'r preswylwyr sy'n byw yn y cartref yn ystod yr ymweliad monitro.
3.3.2 Dywedodd y ddau eu bod xxx amser yn cael croeso i'r cartref, eu bod yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau, a bod yr awyrgylch a'r staff yn wych.
3.3.3 Teimlai'r ddau berthynas fod y staff a'r rheolwyr wedi mynd xxxxx o'u ffordd i wneud i'w perthynas deimlo'n gartrefol a bod y ddau breswylydd yn galw hyn yn eu cartref nawr gan eu bod wedi ymgartrefu cystal.
3.3.4 Nid oedd yr un o'r perthnasau erioed wedi cael achos i godi cwyn gyda'r cartref ond dywedodd y ddau na fyddai ganddynt unrhyw broblem yn gwneud hynny os oedd rhaid ac y byddent yn gyfforddus yn codi unrhyw faterion gyda'r rheolwr, ac roedd y ddau yn sicr y byddai unrhyw xxxx yn cael sylw ar unwaith.
3.3.5 Teimlai'r perthnasau fod y cartref wedi bod yn ardderchog o ran darparu gofal o ansawdd da i'w perthnasau.
3.4 Cyfleusterau a Sylwadau
3.4.1 Cerddodd y swyddog ymweld o amgylch y cartref yn ystod y dydd a gwelwyd bod pob man yn lân ac yn daclus. Roedd pob ystafell wely unigol wedi'i haddurno'n unigol, ac roeddent yn cynnwys sawl eitem bersonol fel addurniadau, lluniau ac ati.
3.4.2 Siaradodd y swyddogion ymweld â rhai o'r preswylwyr yn ystod yr ymweliad, ac roedd yn dda clywed sylwadau cadarnhaol am fyw yn y cartref, gan gynnwys cyfeillgarwch y staff, y bwyd a'r gweithgareddau a gynigid. Roedd y sylwadau'n cynnwys 'alla’i ddim fel arall, maen nhw'n edrych ar fy ôl i'n dda' ac 'Mae'r staff yn wych, nid jest gyda fi ond gyda phawb'.
3.4.3 Gwelwyd bod y preswylwyr yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y staff xxx amser.
3.4.4 Gwelwyd tystiolaeth o wiriadau cynnal a chadw rheolaidd yn cael eu cynnal o amgylch y cartref a oedd yn cynnwys archwilio larymau tân, drysau tân, ffyrdd o ddianc a goleuadau argyfwng. Gwiriadau wedi'u cynllunio’n rheolaidd yw'r rhain ac maent wedi'u cofnodi yn y ffeil cynnal.
3.4.5 Mae llawlyfr cynnal a chadw’r cartref cynhwysfawr ar gael sy'n dangos unrhyw welliannau a gwaith i'w gwneud o amgylch y cartref. Mae archwiliadau dyddiol,
wythnosol, misol, chwarterol a chwe misol hefyd yn cael eu cynnwys, ar gyfer gwahanol agweddau ar amgylchedd y cartref.
3.4.6 Roedd gwelliannau yn y cartref yn ystod y flwyddyn yn cynnwys uwchraddio'r ystafell ymolchi llawr gwaelod a lloriau newydd wedi’u cynllunio ar gyfer ardaloedd cymunedol y cartref.
3.4.7 Edrychwyd ar yr asesiad risg tân diwethaf ac nid oedd unrhyw argymhellion. Roedd yr asesiad risg newydd wedi'i drefnu ar gyfer mis Rhagfyr ac roedd hyfforddiant wedi'i drefnu ar gyfer y staff hefyd.
3.4.8 Cynhelir cyfarfodydd iechyd a diogelwch chwarterol gyda staff ac mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys cynnal a chadw, digwyddiadau/damweiniau, ymweliadau’r awdurdod gorfodi, a rheoli heintiau.
3.5 Hyfforddiant
3.5.1 Mae Highfields yn defnyddio cymysgedd o hyfforddiant mewnol a darparwr hyfforddiant allanol.
3.5.2 Mae'r staff yn gallu nodi eu hanghenion hyfforddi eu hunain yn ystod sesiynau goruchwylio.
3.5.3 Roedd y matrics hyfforddiant yn dangos bod yr xxxx hyfforddiant gorfodol yn cael ei gynnal yn rheolaidd, a bod y staff i gyd yn gyfredol.
3.5.4 Roedd tystiolaeth hefyd o ystod dda o hyfforddiant anorfodol yr oedd staff wedi'i gyflawni i'w galluogi i gyflawni gofynion eu rôl a chwrdd ag anghenion y preswylwyr unigol.
3.5.5 Mae amserlen lawn o hyfforddiant wedi ei gynllunio ar gyfer pob aelod o staff drwy gydol y flwyddyn, ac mae wedi ei arddangos yn y swyddfa.
3.5.6 Roedd yn gadarnhaol nodi bod staff y gegin a'r staff domestig yn mynychu'r rhan fwyaf o gyrsiau fel POVA, dementia, a Symud a Thrin.
3.6 Staffio
3.6.1 Yn ystod y bore mae 2 nyrs ac 8 o ofalwyr, yn y prynhawn mae 2 nyrs a 6 gofalwr, ac yn y nos mae un nyrs a 4 gofalwr. Mae'r Rheolwr yn gweithio oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac nid yw wedi'i chynnwys ar y rota.
3.6.2 Edrychwyd ar ddwy ffeil staff. Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys y rhan fwyaf o'r wybodaeth angenrheidiol, gan sicrhau bod gwiriadau priodol wedi'u gwneud fel rhan o'r broses ymgeisio, megis ffurflen gais, dau eirda, a chofnod cyfweliad. Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys contract cyflogaeth wedi'i lofnodi, a disgrifiad swydd. Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys xxxxx cyflogaeth llawn.
3.6.3 Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys tystiolaeth bod gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi'i gwblhau cyn i'r aelod o staff ddechrau gweithio, a chadarnhaodd y Rheolwr fod y rhain yn cael eu cwblhau xxx 3 blynedd.
3.6.4 Dim ond un o'r ffeiliau staff a welwyd oedd ddim yn cynnwys tystysgrif geni fel dull adnabod. Er nad oedd gan y ffeil dystysgrif geni roedd ganddo drwydded yrru a phasbort fel dull adnabod.
3.6.5 Gwelwyd y ffeil oruchwylio, ac roedd yn amlwg bod sesiynau goruchwylio yn cael eu cynnal xxx 6-8 wythnos, sy'n fwy aml na gofynion y rheoliadau. Mae'r rheolwr wedi dirprwyo cyfrifoldeb goruchwylio i rai staff penodol. Gwelwyd tystiolaeth o arfarniadau blynyddol hefyd.
3.6.6 Siaradodd y swyddog ymweld â rhai aelodau o'r staff yn ystod yr ymweliad. Rhoddodd pob aelod o'r staff adborth cadarnhaol am weithio yn y cartref, ac roeddent yn canmol y gefnogaeth gan y rheolwr, ansawdd yr hyfforddiant a'i argaeledd. Roedd y staff hefyd yn ymwybodol o'r gweithdrefnau y dylid eu dilyn.
3.7 Sicrhau Ansawdd
3.7.1 Darparwyd copi o'r adroddiad sicrhau ansawdd. Ceir tystiolaeth glir o gynnwys preswylwyr, perthnasau, staff a rhanddeiliaid eraill yn y broses sicrhau ansawdd. Mae hefyd yn cynnwys ansawdd bywyd a lles cyffredinol.
3.7.2 Cynhelir cyfarfodydd staff yn rheolaidd gyda phob adran. Cynhelir cyfarfodydd iechyd a diogelwch hefyd xxx tri mis a chynhelir trafodaethau ynghylch archwiliadau iechyd a diogelwch a gynhelir yn y cartref, unrhyw ddamweiniau, hyfforddiant a chynnal a chadw eiddo. Caiff y cyfarfodydd hyn eu cofnodi ac mae cofnodion yn cael eu cadw ar ffeil i'r staff eu darllen.
3.7.3 Cynhelir cyfarfodydd Preswylwyr a Pherthnasau a chofnodir y cofnodion. Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys bwydlenni tymhorol ac amserlen gweithgareddau.
3.7.4 Ceir trosglwyddiad sy'n cael ei arwain gan nyrs cyn i xxx xxxxx ddechrau, ac mae'r xxxx staff gofal a staff nyrsio yn ei fynychu. Yn ystod y broses drosglwyddo, rhennir gwybodaeth a diweddariadau am yr xxxx breswylwyr, gan gynnwys unrhyw newidiadau pwysig.
3.7.5 Roedd gan yr xxxx ffeiliau preswylwyr yr edrychwyd arnynt Gynllun Gwacáu Xxxx Personol ar gael a oedd yn nodi bod anghenion codi a chario unigol yn cael eu hasesu pe byddai angen gwacáu'r adeilad.
3.7.6 Mae llawlyfr cynnal a chadw’r cartref cynhwysfawr ar gael sy'n dangos unrhyw welliannau a gwaith i'w gwneud o amgylch y cartref. Mae archwiliadau dyddiol, wythnosol, misol, chwarterol a chwe misol hefyd yn cael eu cynnwys, ar gyfer gwahanol agweddau ar amgylchedd y cartref.
3.7.7 Mae'r Unigolyn Cyfrifol ar gyfer y gwasanaeth yn ymweld â'r cartref xxx mis i gynnig cymorth i'r rheolwr a thrafod unrhyw faterion.
3.7.8 Rhoddwyd i'r swyddog monitro hefyd adroddiad monitro chwarterol yr Unigolyn Cyfrifol i fonitro perfformiad y gwasanaeth. Roedd hon yn ddogfen gynhwysfawr ac yn enghraifft dda o adroddiad monitro chwarterol ac roedd yn cynnwys adborth gan y preswylwyr, adborth y staff, cynllunio gofal a chofnodion dyddiol, cynnal a chadw adeiladau ac unrhyw ddamweiniau neu ddigwyddiadau.
4. Camau Gweithredu Cywirol / Datblygiadol
4.1 Camau Cywirol
4.1.1 Rhaid anfon copi o'r xxxx hysbysiadau Rheoliad 60 i AGC at y Xxx Comisiynu (yn unol â chontract cartref gofal CBSC).
4.1.2 Ffeiliau staff i gynnwys copi o dystysgrif geni'r unigolyn fel dull adnabod. (Rheoliad 59 Atodlen 2 y Ddeddf).
4.2 Camau Datblygiadol
4.2.1 Ni chanfuwyd unrhyw gamau datblygiadol yn ystod yr ymweliad hwn.
5. Casgliad
5.1 Gwelwyd sawl enghraifft o arfer da yn ystod yr ymweliad, ac roedd yn amlwg bod y safonau uchel a welwyd yn ystod yr ymweliad blaenorol wedi'u cynnal.
5.2 Siaradwyd â nifer o breswylwyr drwy gydol yr ymweliadau, ac roeddent i gyd yn fodlon â'r gofal a'r cymorth a dderbyniant yng nghartref nyrsio Highfields.
5.3 Roedd yr awyrgylch yn gynnes ac yn gyfeillgar, gyda phresenoldeb da gan y staff, a chafwyd adborth cadarnhaol gan breswylwyr ac ymwelwyr.
5.4 Hoffai'r swyddog ymweld ddiolch i'r staff am eu croeso yn ystod yr ymweliad.