Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol ar gyfer Trawsnewid - Sir Gaerfyrddin
Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol ar gyfer Trawsnewid - Sir Gaerfyrddin
Canllawiau i Ymgeiswyr
Chwefror 2022
CYNNWYS
1. Cyflwyniad
2. Cymhwysedd
3. Lefelau Cyllido
4. Rheoli Cymorthdaliadau
5. Ardaloedd sydd wedi'u Targedu
6. Proses
7. Ceisiadau
8. Gwybodaeth sydd xx xxxxxx
9. Sicrwydd / Adfachu / Ad-dalu
10. Allbynnau
11. Monitro
12. Talu
13. Ychwanegiad
14. Xxxx i'r Gymuned - Effaith Gymdeithasol, Economaidd ac Amgylcheddol
15. Caffael
16. Gofynion Cyhoeddusrwydd
17. Dyluniad a Goruchwyliaeth
18. Themâu Trawsbynciol
19. Rheolau Euraidd
ATODIAD 1 | Arfarniad Enghreifftiol o'r Datblygiad |
ATODIAD 2 | Diffiniad o Allbynnau |
ATODIAD 3 | Prynu Nwyddau, Gwasanaethau, Ymgynghoriaeth, Ymchwil neu Waith. |
ATODIAD 4 | Gofynion Cyhoeddusrwydd |
20. Manylion Cyswllt ATODIADAU
2
1. Cyflwyniad
Mae'r cynllun yn rhoi cymorth ariannol i Ddatblygwyr a Perchen-feddianwyr ar gyfer adeiladu, ehangu neu adnewyddu adeiladau at ddefnydd diwydiannol / masnachol gyda'r prif nod o greu capasiti ar gyfer cyflogaeth yn Sir Gaerfyrddin.
Sicrhawyd cyllid ar gyfer y rhaglen xxx x Xxxxxx Gyfalaf Cyngor Sir Caerfyrddin (y Cyngor Sir). Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau a fydd yn rhoi manteision pendant i'r economi leol o ran maint ac ansawdd y swyddi a ddarperir ar eu cyfer/swyddi a gaiff eu creu, yr arwynebedd o ofod llawr a grëir, faint o dir a ddatblygir, nifer y busnesau bach a chanolig a ddarperir ar eu cyfer, effaith y datblygiad ar yr Iaith Gymraeg a nifer y mentrau sy'n mabwysiadu neu'n gwella strategaethau cydraddoldeb a systemau monitro.
Nod y rhaglen yw cefnogi ymgeiswyr xxxx xxxxx cymorth ariannol i'w prosiectau fynd rhagddynt, h.y. pe na bai cyllid ar gael, ni fyddai'r prosiect yn mynd rhagddo.
Mae'r cyllid ar xxxx x xxxx'r bwlch ariannol rhwng y costau adeiladu a gwerth yr eiddo ar y farchnad wedi'i gwblhau. Bwriedir i’r cymhelliad hwn roi hwb i nifer y safleoedd busnes o safon uchel sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin drwy gynnig arian i ddarparu unedau diwydiannol neu swyddfeydd o safon uchel
Ni ellir cael arian cyfatebol ar gyfer y grant hwn drwy gyllid cyhoeddus arall.
2. Cymhwysedd
Pennir cymhwysedd ar gyfer y rhaglen xxx xxx y meini prawf a amlinellir yn y tabl isod. Xxxxx xxx canllawiau yn unig yw'r rhain a bydd cymhwysedd yn cael ei ystyried fesul achos.
Defnydd | Diwydiannol, masnachol, busnes cymunedol, prosesu bwyd eilaidd a gweithgarwch busnes i fusnes. |
Ymgeisydd | • Datblygwyr • Buddsoddwyr • Perchnogion Tir Eraill • Perchen-feddianwyr |
Xxxx yn y Tir | Rhydd-ddaliad neu Brydles Tir (hyd y brydles - 15 mlynedd o leiaf) |
Gwariant Cymwys | Datblygwyr • Ymchwiliadau • Cyfran o gost y tir (dim ond tir a brynwyd ar ôl 21 Chwefror 2022 fydd yn cael ei ystyried yn gost gymwys ar gyfer y cynllun) nad yw'n gymwys ar gyfer cynlluniau Perchen- feddianwyr. • Dymchwel • Xxxxx tir • Paratoi safle • Seilwaith |
3
• Costau adeiladu ar y safleoedd • Ffioedd proffesiynol (bernir bod y rhain yn gostau cymwys o ddyddiad derbyn cymeradwyaeth cam 1 a/neu ddyddiad derbyn cadarnhad ysgrifenedig oddi wrth Gyngor Sir Caerfyrddin, pa ddyddiad bynnag yw'r olaf. Gellir ystyried ffioedd proffesiynol hyd at uchafswm o 10% o'r costau adeiladu, ar yr xxxx bod y cynllun yn mynd yn ei flaen. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir ystyried ffioedd sy'n uwch na'r terfyn hwn, fesul achos). Rhaid caffael gwasanaethau proffesiynol fel y nodir yn Atodiad 3 i'w hystyried yn gymwys. | |
Elw Datblygwyr (prosiectau a arweinir gan ddatblygwyr yn unig) | Fel xxxx cyllid a ddyfernir o xxx y rhaglen hon, mae elfen allweddol o'r broses arfarnu yn cynnwys asesiad o'r "enillion" neu'r "elw" a wneir gan ymgeiswyr. Mae’r arfarniad o’r datblygiad yn caniatáu lefel resymol o elw i ddatblygwyr ond dylai’r swm hwnnw fod yn gymesur ag amodau’r farchnad ar y pryd ac o’r herwydd bydd yn destun arfarniad grymus yn rhan o'r broses diwydrwydd dyladwy. Gall yr arfarniad o'r datblygiad gynnwys lefel o elw i ddatblygwyr er mwyn cyfrifo bwlch hyfywedd a chyfradd ymyrryd y grant (hyd at drothwy uchaf y cymorth gwladwriaethol). Fodd bynnag, ni ellir hawlio elw'r datblygwyr na'i dalu fel gwariant cymwys. |
Sectorau a Eithrir | • Glo • Dur • Ffibrau synthetig • Adeiladu llongau • Cynhyrchu, dosbarthu a seilwaith ynni • Trafnidiaeth a'r seilwaith cysylltiedig • Preswyl • Pysgodfeydd a Dyframaethu • Amaethyddiaeth Sylfaenol • Prosesu a marchnata cynhyrchion amaethyddol pan fo (1) swm y cymorth yn cael ei bennu ar sail xxxx xxx faint o gynhyrchion o'r fath a brynir gan gynhyrchwyr sylfaenol neu a roddir ar y farchnad gan y xxxxxx xxx sylw xxx (2) xxx'r cymorth yn amodol ar gael ei drosglwyddo'n rhannol neu'n gyfan gwbl i gynhyrchwyr sylfaenol. |
Gwariant Anghymwys | • Offer Prosesu • Peiriannau • Taliadau Cyllid • Craeniau • Egwyddor y 'llygrwr sy'n talu' • Offer symudol/arbenigol |
4
Asbestos
Os canfyddir asbestos yn yr adeilad, sy'n destun grant ac mae'n amlwg ar y dechrau, efallai y bydd yn bosibl i'r ymgeisydd gynnwys y costau hyn o fewn cost gyffredinol y prosiect. Os mai dim ond ar ôl dyfarniad grant y nodir hyn, cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd talu unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â'i symud a'i waredu'n ddiogel o'r safle.
3. Lefelau Cyllido
Prosiectau a arweinir gan ddatblygwyr
Dylai lefel y cyllid y gwnaed cais amdano gael ei sefydlu drwy arfarniad datblygu, a dylai adlewyrchu'r gwahaniaeth rhwng cost cyfalaf ddisgwyliedig y cynllun a gwerth disgwyliedig y safle ar y farchnad. Ceir enghraifft o arfarniad nodweddiadol o'r datblygiad yn Atodiad 1.
Gall y canlynol effeithio ar lefel y cyllid a gynigir:-
• Y lefel isaf yr ystyrir ei bod yn angenrheidiol i gyflawni'r prosiect yn unol ag arfarniad y datblygiad.
• Gwerth y prosiect i'r economi leol yn seiliedig ar nifer a math y swyddi a ddarperir ar eu cyfer, yr arwynebedd llawr a grëir, y darn o dir a ddatblygir, nifer y busnesau bach a chanolig sydd i'w cefnogi a mentrau sy'n mabwysiadu neu'n gwella strategaeth cydraddoldeb a systemau monitro. (gweler y diffiniadau yn Atodiad II)
• Lefelau Rheoli Cymorthdaliadau a Ganiateir yn unol â'r tabl yn adran 4:-
• bydd cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail gystadleuol o fewn paramedrau cyfanswm y gyllideb sydd yn dal ar gael
Prosiectau a arweinir gan Berchen-feddianwyr
Bydd hefyd yn ofynnol i brosiectau a arweinir gan berchen-feddianwyr (sy'n meddiannu 50% neu fwy o'r adeilad arfaethedig) ddangos cyfleoedd creu swyddi a bydd grant yn cael ei bennu ar £20,000 fesul swydd a xxxxx xxx'r gyfradd ymyrryd ganlynol pa un bynnag yw'r ffigur lleiaf:
Mentrau Bach | Mentrau Canolig | Mentrau Mawr |
45% | 35% | 25% |
Ni ellir cael arian cyfatebol ar gyfer y grant hwn drwy gyllid cyhoeddus arall.
Bydd uchafswm yr arian a ddyfernir ar gyfer pob prosiect yn ôl disgresiwn yr awdurdod a bydd y penderfyniad yn derfynol. Ni fydd yr uchafswm a ddyfernir yn fwy na £750k;
4. Rheoli Cymorthdaliadau
Cymhorthdal cyhoeddus yw'r cynllun Cronfa Datblygu Eiddo hwn a bydd yn ddarostyngedig i Reolau Rheoli Cymorthdaliadau'r DU. Mae Rheolau Rheoli Cymhorthdal y DU yn golygu Cytundeb Masnach a Chydweithredu'r UE-DU ac (fel y bo'n berthnasol) Protocol Gogledd Iwerddon; rheolau Sefydliad Masnach y Byd; unrhyw Gytundeb Masnach sydd gan y DU ar waith ac unrhyw ddeddfwriaeth ddilynol neu ddeddfwriaeth gysylltiedig.
5
Bydd lefelau cymhorthdal y Gronfa Datblygu Eiddo yn cael eu cyfyngu i'r trothwyon canlynol:-
Trothwy | Maint y Cwmni |
45% | Xxxxxx fach h.y. <50 o weithwyr, trosiant blynyddol nad yw'n fwy na £10.2 miliwn |
35% | Xxxxxx ganolig h.y. <250 o weithwyr, trosiant blynyddol nad yw'n fwy na £36 miliwn |
25% | Xxxxxx fawr - cwmnïau dros 250 o weithwyr |
5. Ardaloedd sydd wedi'u Targedu
Mae'r rhaglen hon yn targedu'n benodol nifer o safleoedd cyflogaeth strategol yn Sir Gaerfyrddin ym mherchnogaeth breifat a chyhoeddus fel y nodwyd yn Strategaeth Drawsnewid Cyngor Sir Caerfyrddin
Gallai ymgeiswyr sy'n berchen ar dir neu a allai gaffael tir yn yr ardaloedd canlynol fod yn gymwys i gael cymorth:
• Xxxxx Twf Cross Hands
• Caerfyrddin
• Rhydaman
• Llanelli
• Xxxxx Xxxxxxxxxx
• Sir Gaerfyrddin Wledig
Cynghorir ymgeiswyr sy'n dymuno datblygu ar unrhyw un o'r safleoedd hyn i siarad â Chyngor Sir Caerfyrddin a all drefnu cyfarfod er mwyn rhoi arweiniad cadarn ar yr hyn a fyddai'n dderbyniol ar xxx safle datblygu a nodwyd.
Bydd prosiectau eithriadol nad ydynt yn rhan o'r safleoedd hyn ond yn Sir Gaerfyrddin hefyd yn cael eu hystyried fesul achos. Os nad xx xxxx prosiect yn rhan o'r ardaloedd uchod dylech gysylltu â'r Swyddog Prosiect i gael rhagor o gyngor cyn mynd ati i gyflwyno cais.
6. Proses
Er mwyn osgoi unrhyw waith neu gost ddiangen ar ran yr ymgeisydd, mae’r awdurdod lleol yn
gweithredu proses gymeradwyo dau gam:
Mynegiant o Ddiddordeb - Asesiad Cychwynnol | Cymeradwyaeth mewn Egwyddor | Yn rhoi arwydd cychwynnol o gymhwysedd prosiectau, hyfywedd, lefel y cyllid sydd ar gael. |
Cam 2 - Asesiad Manwl | Awdurdod i Ymrwymo | Yn diffinio’r union gynigion o gyllid a’r telerau ac amodau cysylltiedig. |
6
Ymdrinnir â phob cais fesul achos yn ôl disgresiwn yr awdurdod lleol a bydd ei benderfyniad yn derfynol. Ni ellir cynnig y cyllid ond yn yr achosion hynny lle mae’r awdurdod lleol yn fodlon na fyddai’r prosiect yn gallu mynd rhagddo heb y cyfryw gymorth.
Ni roddir cyllid yn awtomatig. Mae'r awdurdod lleol yn cadw'r hawl i sefydlu blaenoriaethau o fewn cyfanswm y gyllideb sydd ar gael yn y sir, er enghraifft gwerth am arian, hyfywedd, allbynnau a grëwyd, ac ati, ac i osod telerau ac amodau o'r fath, fel y gwêl yn briodol.
Ni fydd gwariant gan yr ymgeisydd i ddatblygu a chyflwyno ceisiadau Cam 1 e.e. ffioedd cyfreithiol, penseiri, ymgynghorwyr ac ati, yn cael ei ad-dalu gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Fodd bynnag, bydd canran a gytunwyd (cyfradd ymyrryd y grant) o'r gwariant cymwys gan ymgeiswyr llwyddiannus ar ôl cael cymeradwyaeth Cam 2 yn cael ei had-dalu yn y cam hawlio. Fodd bynnag, bernir bod ffioedd proffesiynol yn gostau cymwys ar ôl dyddiad derbyn cymeradwyaeth Cam 1 neu ar ôl derbyn cadarnhad ysgrifenedig oddi wrth Gyngor Sir Caerfyrddin. Rhoddir awdurdodiad ar ôl derbyn dyfynbrisiau boddhaol. Bydd y rhain hefyd yn cael eu had-dalu ar ôl cwblhau'n ymarferol.
7. Proses Gwneud Cais
Amlinellir y broses gwneud cais isod:
7.1 Rhaid cyflwyno ffurflenni cais Mynegiant o Ddiddordeb, brasluniau, cynllun o leoliad y safle, cyfrifon y cwmni ac arfarniad cychwynnol o'r prosiect yn electronig erbyn 4pm ar 20 Ebrill 2022.
Gellir gweld y Mynegiant o Ddiddordeb ar-lein drwy ddilyn y cyfeiriad canlynol: xxxxx://xxxxxxxxx.xxxxxxxxxxxxxxx.xxx.xxxxx/xx/xxxxxxx/Xxxxxxx_Xxxxxx
7.2 Yna bydd y panel gwneud penderfyniadau yn asesu ac yn ystyried pob cais a bydd yn rhoi gwybod i ymgeiswyr a ydynt wedi bod yn llwyddiannus yn ystod y cam Mynegiant o Ddiddordeb ai peidio.
7.3 Os yw'r cais yn llwyddiannus, gofynnir i'r ymgeisydd gyflwyno cais manylach ar gyfer Cam 2 ynghyd â'r dogfennau gofynnol o fewn amserlen y cytunwyd arni.
7.4 Yna bydd y panel gwneud penderfyniadau ac Aelod Cabinet y Cyngor yn asesu ac yn ystyried y ceisiadau unigol yn ystod Cam 2. Bydd yr ymgeisydd yn cael gwybod am y penderfyniad.
7.5 Bydd yn ofynnol cwblhau'r prosiect heb fod yn hwyrach na 31ain Mawrth 2024
8. Gwybodaeth sydd xx xxxxxx
Rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno’r wybodaeth ganlynol a rhaid iddo ddefnyddio ymgynghorwyr proffesiynol sy’n meddu ar y profiad priodol.
MYNEGIANT O DDIDDORDEB: Asesiad Cychwynnol – Cymeradwyaeth mewn Egwyddor
• Ffurflen Gais wedi’i chwblhau
• Cynllun Lleoliad y Safle
• Y cynllun arfaethedig/prif gynllun/lluniau
7
Gofynnir am y wybodaeth ganlynol fel rhan o'r asesiad o'r Mynegiant o Ddiddordeb.
• Arfarniad cychwynnol o’r datblygiad (cost a gwerth) – Enghraifft yn Atodiad 1 (prosiectau a arweinir gan ddatblygwyr yn unig)
• Cyfrifon y cwmni (y tair blynedd ddiwethaf)
• Polisi Amgylcheddol / Polisi Iaith Gymraeg / Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
• Copïau o ddyfynbrisiau / tendrau ar gyfer gwasanaethau proffesiynol (os oes angen i fod yn gymwys ar ôl cymeradwyo'r Mynegiant o Ddiddordeb)
Os yw’r Awdurdod Lleol yn fodlon bod gofynion y Mynegiant o Ddiddordeb wedi cael eu bodloni a bod y cynllun yn gymwys, yn hyfyw ac yn xxxxx xx gefnogi, bydd yn estyn gwahoddiad i gyflwyno cam 2 o’r cais.
Xxxxxx - Xxxxxx bod costau sy'n gysylltiedig â gwasanaethau proffesiynol e.e. penseiri, syrfewyr meintiau, aseswyr BREEAM ac ati yn rhai cymwys yn dilyn dyddiad derbyn cymeradwyaeth Mynegiant o Ddiddordeb a/neu yn dilyn derbyn cadarnhad ysgrifenedig oddi wrth Gyngor Sir Caerfyrddin. Rhaid cael caniatâd ysgrifenedig Cyngor Sir Caerfyrddin cyn cyflogi ymgynghorwyr. Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn awdurdodi'r taliad ar ôl derbyn dyfynbrisiau neu dendrau boddhaol, pa un bynnag sy'n berthnasol (gweler Atodiad 3)
Er mwyn sicrhau bod yr ymgeisydd yn manteisio i'r eithaf ar eu costau cymwys, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn argymell bod gwasanaethau proffesiynol yn cael eu caffael fel rhan o'r broses ymgeisio Mynegiant o Ddiddordeb neu mor fuan â phosibl wedi hynny. Dim ond os caiff eu cais Cam 2 ei gymeradwyo a bod y cynllun yn cael ei ddarparu y gall ymgeiswyr hawlio yn erbyn y costau hyn.
Cam 2: Asesiad Manwl - Awdurdod i Ymrwymo Prosiectau a arweinir gan ddatblygwyr:
• Ffurflen Gais wedi’i chwblhau
• Arfarniad diwygiedig o'r datblygiad
• Cynllun marchnata lle nad yw tenant terfynol wedi'i nodi eto neu gopïau o'r cytundebau cyn gosod / cyn gwerthu.
• Rhagolygon llif arian (ar gyfer cyfnod yr adeilad)
• Caniatâd cynllunio llawn a chaniatâd statudol arall
• Darluniadau a Manylebau Manwl
• Copïau o ddyfynbrisiau / tendrau ar gyfer gwasanaethau a gwerthusiadau proffesiynol (os nad ydynt eisoes wedi'u cyflwyno yng Ngham 1 y cais) *** (gweler y nodyn uchod)
• Copïau o dendrau contractwyr***
• Adroddiad tendr gan syrfëwr meintiau'r ymgeisydd
• Xxxxxxx Xxxxxxxxxx (i'w gael gan Gyngor Sir Caerfyrddin
• Prawf o arian cyfatebol
• Tystiolaeth o berchenogaeth tir/eiddo (rhydd-ddaliad/prydles 15 mlynedd o leiaf ynghyd â chaniatâd y landlord, ar ffurf gweithredoedd eiddo, dogfen y gofrestrfa dir neu gytundeb prydles). Gofynnir i chi nodi y bydd yn rhaid gwneud pridiant cyfreithiol (gyda’r gofrestrfa dir) mewn perthynas â’r eiddo os bydd xxxx prosiect yn llwyddiannus.
Prosiectau Perchen-feddiannwr:
• Ffurflen Gais wedi’i chwblhau
• Cynllun Busnes 3 blynedd a rhagolygon llif arian
8
• Caniatâd cynllunio llawn a chaniatâd statudol arall
• Darluniadau a Manylebau Manwl
• Copïau o ddyfynbrisiau / tendrau ar gyfer gwasanaethau a gwerthusiadau proffesiynol (os nad ydynt eisoes wedi'u cyflwyno yn y cais Mynegiant o Ddiddordeb ) *** (gweler y nodyn uchod)
• Copïau o dendrau contractwyr***
• Adroddiad tendr gan syrfëwr meintiau'r ymgeisydd
• Prawf o arian cyfatebol
• Tystiolaeth o berchenogaeth tir/eiddo (rhydd-ddaliad/prydles 15 mlynedd o leiaf ynghyd â chaniatâd y landlord, ar ffurf gweithredoedd eiddo, dogfen y gofrestrfa dir neu gytundeb prydles). Gofynnir i chi nodi y bydd yn rhaid gwneud pridiant cyfreithiol (gyda’r gofrestrfa dir) mewn perthynas â’r eiddo os bydd xxxx prosiect yn llwyddiannus.
*** Rhaid caffael contractwyr a gwasanaethau proffesiynol gan ddefnyddio proses sy'n dderbyniol gan yr Awdurdod Lleol (gweler Atodiad 3)
Rydym yn cadw’r hawl i ofyn am ragor o wybodaeth.
Os yw'r Awdurdod Lleol yn fodlon ar ofynion cam 2 ac yn bwriadu cefnogi'r cynllun, ar hyn x xxxx bydd awdurdod i ymrwymo yn cael ei anfon at yr ymgeisydd. Rhaid llofnodi’r ddogfen hon a’i dychwelyd i’r Awdurdod Lleol cyn pen 14 diwrnod. Ar ôl gwneud hyn, cyhyd â bod yr xxxx ganiatâd sydd xx xxxxx wedi’i dderbyn, gall yr ymgeisydd ddechrau ar y gwaith. Rhaid nodi fodd bynnag y bydd yr ymgeisydd yn gwneud hyn ar ei gyfrifoldeb ei hun gan na fydd yr xxxx delerau ac amodau wedi cael eu cwblhau a’u llofnodi ar yr adeg hon.
Ni ddylai unrhyw ymgeisydd ddechrau na rhoi’r prif gontract nes y bydd “Awdurdod i Ymrwymo” wedi cael ei gyhoeddi a’i dderbyn gan yr ymgeisydd. Os bydd prosiect yn dechrau neu’r prif gontract yn cael ei roi cyn cwblhau’r cam hwn bydd yr Awdurdod Lleol yn dod i’r casgliad nad oes angen cymorth ariannol ar y prosiect.
Xxxxxx y bydd yn rhaid ichi gydymffurfio â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Rheoliadau Adeiladu, Dylunio a Rheoli 2015.
9. Sicrwydd / Adfachu / Ad-dalu
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn mynnu tâl cyfreithiol ar yr eiddo i ddiogelu rhag yr amgylchiadau canlynol (Mae’r dyddiadau’n ymwneud â “Dyddiad y Dystysgrif Cwblhau Ymarferol”):
Newid Diben y Prosiect o fewn 5 mlynedd i dderbyn y taliad grant terfynol | Ad-daliad Llawn |
Twyll / Gwybodaeth Gamarweiniol | Ad-daliad Llawn |
Xxxxx Xxxxxx | Ad-xxxxxx Xxxxx |
Gwerthu o fewn 5 mlynedd – prosiectau a arweinir gan ddatblygwyr | Cyfrannol - bydd yr adfachiad yn seiliedig ar werthiant sy'n fwy na'r prisiad wrth gymeradwyo'r grant |
9
Gwerthu o fewn 5 mlynedd – Prosiectau xxx arweiniad perchen-feddianwyr | Cyfrannol – Efallai y bydd angen adfachu'n rhannol neu'n gyfan gwbl. |
Methiant i gyflawni targedau / allbynnau | Adfachu Cyfrannol |
Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd hefyd yswirio’r eiddo am gyfnod o 5 mlynedd ar lefel sy’n ddigonol i sicrhau y gellir ei ailadeiladu os digwydd unrhyw ddifrod a bod xxxx y bartneriaeth yn yr eiddo yn cael ei restru ar y polisi.
10. Allbynnau (gweler Atodiad 2)
Gofynnir i chi nodi y bydd yr allbynnau yn cael eu hystyried wrth asesu xxxx cais ac y bydd disgwyl i chi eu gwirio ar ôl cwblhau’r cynllun a chyn y bydd yr arian yn cael xx xxxx. Byddwn yn ystyried yr allbynnau canlynol:-
• Swyddi y darperir ar eu cyfer/Swyddi a grëir
• Buddsoddiad y Sector Preifat
• Arwynebedd y llawr sy’n cael ei greu / ei wella
• Tir a ddatblygir
• Busnesau Bach a Chanolig y darperir ar eu cyfer
Rhaid cadw cofnodion am 10 mlynedd o ddyddiad y taliad grant diwethaf.
11. Monitro
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd gadw unrhyw anfoneb wreiddiol, cyfrif neu ddogfen arall (gan gynnwys rhifau cyfresol o nwyddau a brynir) sy'n ymwneud â'ch prosiect cymeradwy am ddeng mlynedd o ddyddiad y taliad grant terfynol.
Xxx xxx Gyngor Sir Caerfyrddin yr hawl i archwilio gweithgareddau'r grant ar brosiectau cymeradwy ar xxx xxxxx o ddarpariaeth, ar sail samplu briodol a byddant, cyn belled ag y xx xxxx, yn cael eu cynnal cyn i'r taliad terfynol gael ei wneud ar gyfer prosiect ond gall ddigwydd ar ôl cwblhau'r prosiect.
Ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol, mae'r Cyngor Sir yn cadw'r hawl i archwilio'r eiddo/gwaith neu'r prosiect cymeradwy ar unrhyw adeg rhwng derbyn cais am grant ac o fewn 5 mlynedd o ddyddiad y taliad grant terfynol. Caiff y Cyngor Sir benodi unrhyw weithwyr proffesiynol y gwêl yn dda i gynnal arolygiad o'r fath ar ei ran.
Dyfernir y gronfa grant hon o xxx Reolau Rheoli Cymhorthdal y DU, ac xxxxx xxx'r Cyngor Sir yn ei gwneud yn ofynnol i chi roi gwybod i ni am unrhyw gyllid cyhoeddus a dderbynioch dros unrhyw gyfnod o 3 blynedd ariannol yn olynol yn union cyn xxxx cais.
12. Talu
Gellir talu ar sail taliad interim a hawliad terfynol, neu ar ôl cwblhau'r gwaith yn ymarferol, a bydd hyn yn cael ei gytuno fesul achos a bydd yn amodol ar gyflwyno'r dogfennau canlynol:-
• Ffurflen hawlio / holiadur allbynnau yn cynnwys y llofnod gwreiddiol
10
• Anfonebau gwreiddiol
• Cyfriflenni banc gwreiddiol yn dangos prawf o’r taliadau a wnaed
• Tystysgrif brisio wreiddiol Syrfëwr Meintiau/Pensaer a/neu dystysgrif cwblhau ymarferol wreiddiol
• Tystysgrif cwblhau rheoliadau adeiladu (hawliad terfynol)
Mae'n RHAID i Gyngor Sir Caerfyrddin gytuno ar unrhyw newidiadau o'r prosiect a gymeradwywyd ymlaen llaw er mwyn sicrhau y bydd unrhyw newidiadau yn gymwys i gael cymorth.
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw copïau ardystiedig o'r dogfennau gwreiddiol. Byddwch yn ymwybodol y bydd prosesu hawliad interim a therfynol yn destun ymweliad safle ac adroddiad gan Syrfëwr Meintiau CSC.
Nodwch y dylech ganiatáu 28 diwrnod ar ôl cyflwyno gwaith papur hawlio wedi'i gwblhau a'i ddilysu ar gyfer talu'r grant.
Os yw’r gwariant cymwys yn is na’r hyn a ragwelwyd yn y llythyr cynnig, bydd y cymorth
ariannol yn cael ei leihau ar sail pro rata.
13. Ychwanegiad
Mae'n rhaid i ymgeiswyr ddangos bod angen cymorth ariannol gan Gronfa Datblygu Eiddo Masnachol ar gyfer Trawsnewid - Sir Gaerfyrddin er mwyn i'r prosiect fynd yn ei flaen ac na fyddai’r prosiect yn digwydd heb yr arian hwnnw. Yn benodol rhaid i ymgeiswyr ddangos sut y bydd cymorth ariannol:
▪ yn arwain at ganlyniadau ychwanegol a chysylltiadau clir rhyngddo â’r arian ychwanegol
▪ yn cynyddu gallu’r ymgeisydd i gyflenwi ei wasanaethau
▪ yn cynyddu graddfa’r prosiect
▪ yn gwella ansawdd y prosiect
▪ yn rhyddhau adnoddau i ganiatáu i brosiectau eraill fynd rhagddynt.
Hefyd, mae'n rhaid i xxx cais amlinellu’r buddiannau ychwanegol sy’n debygol o ddod i'r ardal o ganlyniad i’r datblygiad a’r modd y bwriedir lleihau cymaint â phosib ar unrhyw effaith negyddol ar gystadleuwyr lleol/y farchnad gosod eiddo masnachol sy'n bodoli ar hyn x xxxx.
14. Xxxx i'r Gymuned - Effaith Gymdeithasol, Economaidd ac Amgylcheddol
Er mwyn sicrhau bod cynlluniau sy'n cael cymorth gan Gronfa Datblygu Eiddo Masnachol ar gyfer Trawsnewid - Sir Gaerfyrddin yn cael effaith gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol gadarnhaol, mae'r Awdurdod yn annog pob ymgeisydd llwyddiannus i ddefnyddio arferion gwaith sy'n darparu buddion cymunedol yng nghyswllt pob cynllun datblygu. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo Datblygu Cynaliadwy, gan sicrhau bod ein gweithredoedd yn cyfrannu at lesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol nawr ac yn y dyfodol. Y nod yw adeiladu cymunedau cryfach, lleihau allgáu cymdeithasol a thlodi a hybu datblygiad yr economi.
11
Lle xx xxxx, bydd yr awdurdod yn cefnogi ymgeiswyr llwyddiannus i ddarparu 'Buddion Cymunedol' a fydd yn cynnig xxxx tymor-hir i breswylwyr ac i fusnesau yn y gymuned ehangach. Gellir gwneud hyn drwy:
• Hyfforddiant a chyflogaeth – e.e. ystyried y cyfleoedd i recriwtio a hyfforddi pobl sydd heb fod yn weithgar yn economaidd ers amser maith, cynnig prentisiaethau/cyfleoedd hyfforddi i bobl ifanc, ystyried datblygu sgiliau masnach yn xxxx gweithlu presennol ac ati.
• Cynlluniau Cadwyn Gyflenwi - e.e. ymgysylltu â chyflenwyr, cyfleoedd yn ail xxxx y gadwyn gyflenwi, ac ati
• Gweithio gyda'r 3ydd sector a busnesau a ffatrïoedd â chymorth lle bo'n berthnasol.
• Mentrau Cymunedol - e.e. diwrnodau gwirfoddoli, cymorth i grwpiau ieuenctid lleol a grwpiau cymunedol eraill, cystadlaethau chwaraeon ar raddfa fach, ac ati.
• Cyfrannu at Addysg - e.e. lleoliadau gwaith/ysgol, sgyrsiau i blant am lwybrau gyrfa, ac ati
Bydd yr awdurdod hefyd yn annog ymgeiswyr i gydweithio gyda'u his-gontractwyr, fel eu bod hwythau'n cyfrannu at fuddion cymunedol y cynllun datblygu.
Bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi yn fanwl yn dilyn cymeradwyo'r Mynegiant o Ddiddordeb .
15. Caffael
Mae'n ofynnol i'r xxxx wasanaethau a gwaith gael eu caffael gan weithdrefn dendro gystadleuol gymeradwy fel y nodir yn Atodiad 3 – 'Prynu nwyddau, gwasanaethau, ymgynghoriaeth, ymchwil neu waith'. Rhaid i xxx ymgeisydd lynu wrth y weithdrefn hon.
16. Gofynion Cyhoeddusrwydd
Rhaid cymryd camau cyhoeddusrwydd priodol i godi ymwybyddiaeth o'r ffynonellau cyllid a dderbynnir. Os bydd prosiect yn llwyddo i gael cymorth ariannol o xxx y rhaglen hon, bydd y telerau a'r amodau yn manylu ar y mesurau cyhoeddusrwydd sydd i'w cyflawni gan yr ymgeisydd. Gweler Atodiad 4 - Gofynion Cyhoeddusrwydd.
17. Dyluniad a Goruchwyliaeth
Rhaid i dderbynwyr grantiau ddefnyddio swyddogion proffesiynol sy’n meddu ar y cymwysterau priodol (h.y. Syrfëwr Meintiau a Phensaer) i asesu tendrau, darparu lluniadau, goruchwylio gwaith prosiect a darparu tystysgrifau ar gyfer gwaith sydd wedi’i gwblhau. Gellir cynnwys y gost hon yn y gwariant cymwys ar gyfer cymorth grant hyd at derfyn o 10% o gyfanswm cost y prosiect ar yr xxxx y rhoddwyd cyfrif amdano ar y ffurflen gais a cheisiwyd cytundeb ysgrifenedig penodol y Cyngor Sir cyn ymgysylltu ag ymgynghorwyr a darparwyd tystiolaeth ddigonol o wariant cyfalaf i gefnogi'r lefel y cytunwyd arni o ran ffioedd. Rhaid i'r ymgynghorydd proffesiynol feddu ar gymhwyster sy'n briodol i natur y gwaith arfaethedig.
Mae ffioedd proffesiynol yn gost gymwys o ddyddiad cymeradwyo'r Mynegiant o Ddiddordeb a / neu gymeradwyaeth ysgrifenedig gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer ceisiadau sydd wedi cael awdurdod i ymrwymo.
12
18. Themâu Trawsbynciol
18.1. Yr Iaith Gymraeg
Bydd angen i ymgeiswyr amlinellu'r ffyrdd y mae'r cynllun yn annog datblygiad y Gymraeg. Dylai'r adeilad ddarparu arwyddion dwyieithog. Rhaid cyflwyno'r datganiad polisi yng Ngham 1.
19. Rheolau Euraidd
• Pennir lefel y cyllid yn ôl disgresiwn llwyr yr awdurdod lleol;
• Peidiwch ag ymrwymo na chyhoeddi'r prosiect cyn cael cymeradwyaeth;
• Os ydych yn ansicr ynghylch rhywbeth - GOFYNNWCH.
20. Manylion Cyswllt:-
I gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Chyngor Sir Caerfyrddin:
XxxxxxxxXxxxxxxxxx@xxxxxx.xxx.xx
13
Atodiad 1
Arfarniad enghreifftiol o'r datblygiad – ar gyfer prosiectau a arweinir gan ddatblygwyr yn unig
(Xxx xxxx Excel electronig o’r daenlen hon ar gael ar gais).
Dyma ganllaw hyblyg ichi ei ddefnyddio. Nid oes yn rhaid ichi ddarparu arfarniad o'r datblygiad ar y ffurf hon. Gallwch adael meysydd gwag a/ neu gallwch ychwanegu llinellau cost gymwys. Dylech nodi xxxx cyfraddau cost xxxx hun yn seiliedig ar gyngor proffesiynol. Rhowch ffigurau yn y blychau llwyd yn unig gan y bydd y rhain yn cyfrifo'n awtomatig.
Atodiad 2
Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol ar gyfer Trawsnewid - Sir Gaerfyrddin
Diffiniadau o Allbynnau
TIR A DDATBLYGIR
Tir a ddatblygir - diffiniad: Nifer yr hectarau o dir llwyd neu dir glas a ddatblygir.
Datblygu: gwneud tir yn addas i'w ddefnyddio drwy gael gwared ar gyfyngiadau ffisegol er mwyn ei ddatblygu neu gynnwys darparu gwasanaethau er mwyn ei ddatblygu.
Tir glas: Tir na fu unrhyw ddatblygiad trefol arno yn y gorffennol; fel arfer cymerir ei fod wedi’i
leoli ar ymylon ardal adeiledig bresennol (Asiantaeth yr Amgylchedd Ewropeaidd, 2007).
Tir llwyd: yn cynnwys tir halogedig, tir diffaith neu dir a ddatblygwyd yn flaenorol, sy'n cael ei feddiannu neu a oedd yn cael ei feddiannu gan strwythur parhaol (ac eithrio adeiladau amaethyddol neu adeiladau coedwigaeth), a seilwaith arwyneb sefydlog cysylltiedig o fewn cwrtil y datblygiad.
Gall categorïau safleoedd tir llwyd gynnwys: tir gwag a ddatblygwyd yn flaenorol; adeiladau gwag sydd heb eu meddiannu am flwyddyn neu fwy; tir ac adeiladau diffaith; tir neu adeiladau, a ddefnyddir ar hyn o xxxx, xxxx wedi’u nodi ar gyfer eu datblygu yn y cynllun mabwysiedig xxx xxx caniatâd cynllunio ar eu cyfer; tir neu adeiladau a ddefnyddir ar hyn x xxxx y gwyddys bod potensial i’w hailddatblygu, ond nid ydynt wedi’u nodi ar y cynllun ac nid oes caniatâd cynllunio ar eu cyfer; adeiladau amddiffyn; neu dir a ddefnyddir i dynnu mwynau neu i waredu gwastraff.
Tir diffaith: Tir wedi’i andwyo gan gloddio neu brosesau diwydiannol eraill ac wedyn wedi cael
ei adael (Asiantaeth yr Amgylchedd Ewropeaidd, 2007)
Tir halogedig: Tir xxxx xxxxxxx, oherwydd gweithgareddau dynol, yn peri peryglon annerbyniol i ecosystemau ac iechyd dynol (addasiad o ddiffiniad Asiantaeth yr Amgylchedd Ewropeaidd o ‘safle halogedig’, 2007).
Wedi'u heithrio o'r dangosydd hwn mae: tir ac adeiladau a ddefnyddir ar hyn x xxxx at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth; tir mewn ardaloedd adeiledig sydd heb ei ddatblygu'n flaenorol, e.e. parciau, tir hamdden, rhandiroedd a mynwentydd; a thir a ddatblygwyd yn flaenorol, ond lle xxx xxxxx unrhyw strwythur neu weithgaredd wedi ymdoddi i'r dirwedd dros amser, e.e. defnydd amwynder, cyfraniad at gadwraeth natur (OffPAT, 2005a, t.17).
Gall gweithgareddau xxxxx gynnwys: xxxxx â halogiad, arwynebau presennol a strwythurau wedi'u claddu; sefydlogi; gwastatáu; darparu amddiffynfeydd rhag llifogydd; darparu cyfleustodau a gwasanaethau eraill; neu welliannau amgylcheddol.
Tystiolaeth:
Dylid cofnodi'r allbwn hwn ar ôl cwblhau'r gwaith.
Chwefror 2022
Ardal y safle – cyfeiriad post llawn gan gynnwys cod post, cofnod/gweithredoedd y gofrestrfa tir, manylion cofrestr yr Awdurdod Lleol/NLUD (ar gyfer defnydd blaenorol er mwyn sicrhau nad yw'n gategori wedi'i eithrio).
Tir halogedig – cofnod wedi’i lenwi ynghylch cyflwr y tir a thystysgrif cwblhau gwaith xxxxx.
Gwaith – tystysgrif cwblhau'r gwaith yn ymarferol. Ardystiad Syrfëwr Meintiau o’r gwaith a wnaed e.e. gwasanaethau/cyfleustodau ac isadeiledd y safle, y sylfeini a osodwyd a’r muriau a’r toeau a godwyd.
Manylion o ran Categori / Meini prawf
Math o dir (Xxx Xxxxx – adfeiliedig, Xxx Xxxxx – halogedig, Tir Glas)
Awdurdod Unedol Sir Gaerfyrddin
SWYDDI Y DARPERIR AR EU CYFER
Swyddi y Darperir ar eu Cyfer - diffiniad: Nifer y swyddi y darperir ar eu cyfer yn y safleoedd a'r eiddo.
Swyddi y darperir ar eu cyfer: Uchafswm nifer y swyddi y mae potensial iddynt gael eu lleoli ar unrhyw un adeg. Nid y nifer y darperir ar eu cyfer yn ystod oes yr eiddo. Os yw'r prosiect yn ymwneud ag adnewyddu eiddo, yna dylai hyn fod yn nifer y swyddi ychwanegol y darperir ar eu cyfer (h.y. dylid didynnu unrhyw swyddi y darperir ar eu cyfer cyn y gwaith adnewyddu o'r nifer a adroddwyd i Lywodraeth Cymru; os bydd hynny’n rhoi ffigur negyddol dylai’r prosiect ailystyried ai dyma’r dangosydd canlyniad mwyaf priodol iddynt hwy).
Tystiolaeth: Tystysgrif cwblhau ymarferol a lluniadau yn dangos yr arwynebedd llawr net sydd ar gael fel lle cyflogaeth. Bydd nifer y swyddi y darperir ar eu cyfer ar yr arwynebedd llawr hwn yn amrywio yn ôl math y defnydd terfynol a wneir o’r adeilad a chaiff ei gyfrif yn unol â’r tabl isod:
Math o Ddefnydd | Metr sgwâr fesul swydd | Metr sgwâr fesul swydd |
Diwydiannol | ||
Diwydiannol Cyffredinol | 34 | 365 |
Busnes Bach | 32 | 340 |
Ymchwil a Datblygu Uwch-Dechnoleg (Parc nad yw'n Barc Gwyddoniaeth) | 29 | 310 |
Parc Gwyddoniaeth | 32 | 340 |
Swyddfa | ||
Swyddfa Gyffredinol | 19 | 205 |
Canolfan Fusnes â Gwasanaeth (Unedau a Reolir) | 20 | 215 |
Parc Busnes | 16 | 170 |
Canolfan Alwadau | 12.8 | 140 |
Warws | Ffigurau Xxxxxxx Xxxx | |
Warws Cyffredinol | 50 | 540 |
Graddfa Fawr a Silffoedd Uchel | 80 | 860 |
Swyddfa |
Manylion o ran Categori / Meini Prawf Awdurdod Unedol Sir Gaerfyrddin
Xxxxxx – unrhyw endid sy'n ymwneud â gweithgaredd economaidd, waeth xxxx fo'i ffurf gyfreithiol. Mae hyn yn cynnwys partneriaethau a phersonau hunangyflogedig, Cwmnïau Cyfyngedig neu gymdeithasau sy'n ymwneud yn rheolaidd â gweithgarwch economaidd.
SWYDDI A GRËIR
Swydd uniongyrchol - Swydd Cyfwerth ag Amser Llawn barhaol (30awr+) y gellir ei chyfrif a'i monitro fel rhan o'r prosiect e.e. un sy'n cael ei chreu o ganlyniad i gymorth i'r busnes hwnnw
ARWYNEBEDD Y LLAWR SY’N CAEL EI GREU / EI WELLA
Arwynebedd y llawr sy'n cael ei greu neu ei adnewyddu - diffiniad: Nifer y metrau sgwâr o le adeiladu sy’n cael ei greu neu ei adnewyddu at ddefnydd busnes a/neu addysg. Nid yw hyn yn cynnwys ardal a ddefnyddir ar gyfer parcio xxxx xxx dirweddu allanol
Creu: codi adeilad newydd.
Adnewyddu: adnewyddu adeilad sy’n bodoli.
Tystiolaeth: Gwaith – tystysgrif cwblhau ymarferol. Ardystiad Syrfëwr Meintiau o’r gwaith a wnaed e.e. gwasanaethau/cyfleustodau ac isadeiledd y safle, y sylfeini a osodwyd a’r muriau a’r toeau a godwyd.
Manylion o ran Categori / Meini prawf
Diben y safle (Busnes – swyddfa, Busnes – gweithgynhyrchu, Busnes – dosbarthu)
Awdurdod Unedol Sir Gaerfyrddin
BUSNESAU BACH A CHANOLIG Y DARPERIR AR EU CYFER
Busnesau Bach a Chanolig y darperir ar eu cyfer - diffiniad: Nifer y Busnesau Bach a Chanolig y darperir ar eu cyfer ar y safle ac yn yr eiddo y cyfeirir atynt yn y dangosydd “Eiddo a xxxxx xxx a adnewyddir.”
Darperir ar eu cyfer: Uchafswm y nifer y mae potensial i’w lleoli ar unrhyw un adeg. Nid y nifer y darperir ar eu cyfer yn ystod oes yr eiddo yw hwn. Busnesau Bach a Chanolig: “Mae’r categori mentrau micro, bach a chanolig eu maint yn cynnwys mentrau sy’n cyflogi llai na 250 o unigolion ac y mae eu trosiant blynyddol yn llai na 50 miliwn ewro, a/neu y mae cyfanswm eu cyfriflen flynyddol yn llai na 43 miliwn ewro.”
Tystiolaeth: Tystysgrif cwblhau ymarferol a lluniadau yn dangos yr arwynebedd llawr net sydd ar gael yn ofod ar gyfer cyflogaeth gan Fusnesau Bach a Chanolig. Dylai’r adeilad fod wedi’i gwblhau cyn adrodd nifer y Busnesau Bach a Chanolig y darperir ar eu cyfer.
Manylion o ran Categori / Meini prawf Awdurdod Unedol Sir Gaerfyrddin
BUDDSODDIAD Y SECTOR PREIFAT
Buddsoddiad y Sector Preifat - Diffiniad: Yn cael ei fesur fesul £, dyma swm gros y buddsoddiad uniongyrchol diriaethol neu anniriaethol gan y sector preifat neu: sefydliadau masnachol, elusennol a di-elw ac unigolion preifat. Mae’r ffigur hwn yn cynrychioli cyfraniad y sector preifat i gyfanswm cost y prosiect ar ôl tynnu unrhyw gyllid grant a chyllid sector
cyhoeddus.
Atodiad 3
Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol ar gyfer Trawsnewid - Sir Gaerfyrddin
Prynu Nwyddau, Gwasanaethau, Ymgynghoriaeth, Ymchwil neu waith
Rheolau ynghylch Caffael Grantiau gan Drydydd Parti | ||
Gofyniad | Gwerth | Y Broses Gaffael |
Pob Un | hyd at £4,999 | Rhaid cael a chadw o leiaf 1 dyfynbris ysgrifenedig. Mae'n rhaid cael y gwerth gorau am arian ac mae'n rhaid cymryd gofal rhesymol i gael nwyddau, gwaith neu wasanaethau o ansawdd digonol am bris cystadleuol. Mae'n rhaid cadw cofnod dogfennol i gefnogi'r penderfyniad at ddibenion archwilio. Gofynnir i ymgeiswyr 'Meddwl Sir Gâr yn Gyntaf' wrth geisio dyfynbrisiau ar gyfer prynu Nwyddau/Gwasanaethau. Felly, edrychwch ar y farchnad i weld a oes unrhyw fusnesau yn Sir Gaerfyrddin a all ddarparu'r nwyddau / gwasanaeth yr ydych yn ceisio eu prynu. Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi ceisio dyfynbrisiau o'r fath. |
Pob Un | £5,000 a £24,999 | Rhaid ceisio o leiaf 3 dyfynbris ysgrifenedig o ffynonellau cystadleuol*. Mae'n rhaid i'r dyfynbrisiau fod yn seiliedig ar yr un fanyleb a chael eu gwerthuso ar sail 'tebyg am debyg'. Mae'n rhaid cofnodi'r dyfynbrisiau a geisiwyd, y broses werthuso a'r penderfyniad dyfarnu mewn dogfen gofnodedig. Gofynnir i ymgeiswyr 'Meddwl Sir Gâr yn Gyntaf' wrth geisio dyfynbrisiau ar gyfer prynu Nwyddau/Gwasanaethau. Felly, edrychwch ar y farchnad i weld a oes unrhyw fusnesau yn Sir Gaerfyrddin a all ddarparu'r nwyddau / gwasanaeth yr ydych yn ceisio eu prynu. Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi ceisio dyfynbrisiau o'r fath. |
Pob Un | £25,000 a £74,999 | Rhaid ceisio o leiaf 3 dyfynbris ysgrifenedig o ffynonellau cystadleuol*. Mae'n rhaid fod y dyfynbrisiau'n seiliedig ar: • yr un fanyleb • yr un meini prawf gwerthuso a'u gwerthuso ar sail 'tebyg am debyg'. Yr arfer gorau yw sefydlu panel gwerthuso • yr un dyddiad cau. Mae'n rhaid cofnodi'r dyfynbrisiau a geisiwyd, y broses werthuso a'r penderfyniad dyfarnu mewn dogfen gofnodedig at ddibenion archwilio. **Os na ddaw mwy nag un dyfynbris i law mae'n rhaid cysylltu â'r Rheolwr Prosiect o Gyngor Sir Caerfyrddin (CSC), i roi'r manylion a chyfiawnhau'r broses gaffael a ddefnyddiwyd gennych. Bydd yn rhaid i'r penderfyniad i symud ymlaen i brynu gael ei gymeradwyo gan CSC, fesul achos. Mewn amgylchiadau lle mae'n amlwg y gellid |
Chwefror 2022
ceisio mwy nag un dyfynbris, efallai y bydd yn ofynnol hysbysebu ar wefan GwerthwchiGymru. | ||
DS – Nid yw trothwyon gwario o £75,000 ac yn is yn cynnwys TAW. | ||
Nwyddau a Gwasanaethau | £75,000 a £213,477 | Rhaid ceisio o leiaf 4 tendr o ffynonellau cystadleuol*, gydag isafswm o 2 dendr yn dod i law**. Mae'n rhaid rhoi'r un wybodaeth i bawb sy’n tendro: yr un fanyleb a'r un gofynion, • amlinelliad o'r meini prawf gwerthuso a ddefnyddir wrth ddyfarnu'r contract ac • yr un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau, gydag ymrwymiad i beidio â derbyn ceisiadau ar ôl hynny. Mae'n rhaid i'r broses werthuso a ddefnyddir gyd-fynd â'r meini prawf gwerthuso a bennwyd yn wreiddiol a rhaid llunio adroddiad gwerthuso sy'n nodi ar ba sail y dyfarnwyd y tendr llwyddiannus. Yr arfer gorau yw sefydlu panel gwerthuso i werthuso tendrau. ** Os na ddaw mwy nag un tendr i law mae'n rhaid cysylltu â'r Rheolwr Prosiect o Gyngor Sir Caerfyrddin (CSC), i roi'r manylion a chyfiawnhau'r broses gaffael a ddefnyddiwyd. Bydd yn rhaid i'r penderfyniad i symud ymlaen i brynu gael ei gymeradwyo gan CSC, fesul achos. Mewn amgylchiadau lle mae'n amlwg y gellid ceisio mwy nag un tendr, efallai y bydd yn ofynnol hysbysebu ar wefan GwerthwchiGymru. |
Gwaith | £75,000 a £5,336,937 | Rhaid ceisio o leiaf 4 tendr o ffynonellau cystadleuol*, gydag isafswm o 3 thendr yn dod i law**. Mae'n rhaid rhoi'r un wybodaeth i bawb sy’n tendro: • yr un fanyleb a'r un gofynion, • amlinelliad o'r meini prawf gwerthuso a ddefnyddir wrth ddyfarnu'r contract ac • yr un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau, gydag ymrwymiad i beidio â derbyn ceisiadau ar ôl hynny. Mae'n rhaid i'r broses werthuso a ddefnyddir gyd-fynd â'r meini prawf gwerthuso a bennwyd yn wreiddiol a rhaid llunio adroddiad gwerthuso sy'n nodi ar ba sail y dyfarnwyd y tendr llwyddiannus. Yr arfer gorau yw sefydlu panel gwerthuso i werthuso tendrau. ** Os na ddaw mwy nag un tendr i law mae'n rhaid cysylltu â'r Rheolwr Prosiect o Gyngor Sir Caerfyrddin (CSC), i roi'r manylion a chyfiawnhau'r broses gaffael a ddefnyddiwyd. Bydd yn rhaid i'r penderfyniad i symud ymlaen i brynu gael ei gymeradwyo gan CSC, fesul achos. Mewn amgylchiadau lle mae'n amlwg y gellid ceisio mwy nag un tendr, efallai y bydd yn ofynnol hysbysebu ar wefan GwerthwchiGymru. Yn achos contractau sy'n xxxxx mwy na £250k: • Wrth ddewis contractwyr ar gyfer y rhestr dendrau, argymhellir cynnal y diwydrwydd dyladwy a'r gwiriadau ariannol priodol ar y partïon hyn. |
• Mae'n rhaid, o leiaf, cynnal diwydrwydd dyladwy a gwiriadau ariannol ar y contractwr a ffefrir yn dilyn y gwerthusiad a chyn dyfarnu'r contract. | ||
DS - Nid yw trothwyon gwario ar gyfer Nwyddau / Gwasanaethau o xxx £213,477 a gwaith o xxx £5,336,937 yn cynnwys TAW | ||
Nwyddau a Gwasanaethau | Mwy na £213,477 | Os yw contract am Nwyddau neu Wasanaethau yn debygol o fod yn fwy na £213,477 mae'n rhaid i'r ymgeisydd gysylltu â rheolwr y prosiect i gael gwybod a fydd Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gaffael gan Lywodraethau yn berthnasol i'r contract. |
Gwaith | Mwy na £5,336,937 | Os yw contract am Waith yn debygol o fod yn fwy na £5,336,937 mae'n rhaid i'r ymgeisydd gysylltu â rheolwr y prosiect i gael gwybod a fydd Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gaffael gan Lywodraethau yn berthnasol i'r contract. |
* Wrth gyfrifo gwerth amcangyfrifedig y contract er mwyn penderfynu a yw rheoliadau llawn y DU yn berthnasol, rhaid i'r amcangyfrif x xxxxx y contract (ar gyfer y gwerthoedd hyn yn unig - nid yn is) fod yn cynnwys TAW ar 1 Ionawr 2022. Y rheswm dros hyn yw bod y DU yn aelod annibynnol o'r GPA (Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau). |
Canllawiau Pwysig
Hysbysebu trwy Gwerthwchigymru
*Mae'n bosibl ichi hysbysebu ar y wefan Gaffael Genedlaethol, xxx.xxxxxxxxxxxxxxx.xx.xx os yw'n anodd ichi bennu isafswm nifer y cyflenwyr sydd xx xxxxx a/xxx os hoffech newid cyflenwyr neu ddenu cyflenwyr newydd i gyflwyno dyfynbris neu dendr. Bernir mai hysbysebu ar wefan GwerthwchiGymru yw'r arfer gorau, ond efallai y byddai'n well gennych nodi cyflenwyr posibl a allai ddarparu'r cynnig gorau cyffredinol i chi.
Mae'r cyfleuster hwn ar gael i chi yn rhad ac am ddim, ewch i wefan GwerthwchiGymru xxx.xxxxxxxxxxxxxxx.xxxx.xxxxx/ a chysylltwch â llinell gymorth y wefan ar 0800 222 9004 i gael rhagor o wybodaeth.
Ceisio Dyfynbrisiau/Tendrau
Yn achos gwariant sy'n fwy na £5,000, mae'n hanfodol bod y dyfynbrisiau/tendrau yn cael eu ceisio gan gyflenwyr priodol ar gyfer y nwyddau, y gwaith neu'r gwasanaethau sy'n ofynnol. Mewn amgylchiadau lle mae'n amlwg bod dyfynbrisiau/tendrau anaddas wedi'u ceisio, efallai y bydd yn ofynnol hysbysebu ar wefan GwerthwchiGymru.
Cyllidwyr Eraill
Os yw prosiect yn cynnwys unrhyw ffrydiau cyllido eraill neu ffrydiau cyllido ychwanegol, mae'n rhaid, o leiaf, ddilyn y Rheolau Caffael Grant Trydydd Parti hyn ar gyfer cyfanswm gwariant amcangyfrifedig y gofyniad.
Osgoi gwrthdaro buddiannau
Rydym yn sylweddoli y gallai ymgeiswyr/datblygwyr, neu unigolion sy’n gysylltiedig â nhw (megis perthnasau, partneriaid busnes neu gyfeillion), ddymuno tendro am gontract sy’n cael ei gynnig gan yr ymgeisydd/datblygwr. Mae hynny’n dderbyniol ond bydd angen i’r ymgeisydd sicrhau bod y broses dendro yn cael ei chynnal mewn modd agored, a’i bod yn dryloyw a theg, fel yr
xxxxxxxxxx uchod, heb roi unrhyw fantais i un unigolyn neu gwmni dros un arall. Rhaid cymryd mesurau priodol i xxxx nodi ac union unrhyw achosion o wrthdaro buddiannau.
Os oes gan ymgeisydd / datblygwr neu unrhyw xxxxxx xx'n gysylltiedig â nhw'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, fuddiant ariannol, economaidd, gwleidyddol neu bersonol arall y gellid ystyried ei fod yn peryglu eu didueddrwydd a'u hannibyniaeth yng nghyd-destun y weithdrefn gaffael:
• mae'n rhaid i’r ymgeisydd / datblygwr, neu unrhyw xxxxxx xxx xxxxx arall sydd â buddiant, ddatgan y cyfrwy fudd yn ysgrifenedig wrth Swyddog y Prosiect a fydd yn rhoi cyngor yn unol â hynny.
• mae'n rhaid sicrhau nad yw manylebau a meini prawf gwerthuso yn ffafrio nac wedi’u teilwra ar
gyfer un datrysiad nac unrhyw un parti dros un arall.
• ni ddylai’r unigolyn neu barti xxxx x xxxx gymryd unrhyw ran o gwbl yn y gweithdrefnau i arfarnu’r tendrau er mwyn sicrhau bod y broses yn deg i bawb. Cydnabyddir y gallai fod yn ofynnol i'r ymgeisydd xxxxx roi'r gymeradwyaeth derfynol.
• Mae'n rhaid cofnodi pob cam o'r weithdrefn yn ffurfiol.
• Pe bai'r contract fel rheol yn destun un weithdrefn dendro, argymhellir y dylai'r noddwr ofyn am ddyfynbrisiau ysgrifenedig gan o leiaf ddau gyflenwr arall (h.y. yn dilyn y weithdrefn a nodir uchod ar gyfer contractau rhwng £5000 a £25,000)
Pwrpas y canllawiau hyn yw sicrhau bod yna degwch wrth wario arian cyhoeddus ac nad yw gonestrwydd yr ymgeisydd yn cael ei beryglu.
Newidiadau i'r fanyleb neu'r contract
Os oes angen gwneud unrhyw newidiadau i'r fanyleb ar ôl ceisio dyfynbrisiau/tendrau sy'n effeithio ar gwmpas gwreiddiol y gofyniad, efallai y bydd angen cynnal ymarfer caffael newydd i sicrhau'r gwerth gorau am arian. Gall hyn ddigwydd o ganlyniad i ychwanegiadau annisgwyl i'r gofyniad gwreiddiol, lle derbynnir tendrau sy'n fwy na'r gyllideb sydd ar gael, lle mae lefelau cyllido yn newid ac ati. Mae'n rhaid i'r ymgeisydd am grant hysbysu'r Swyddog Prosiect a fydd yn cynnig cyngor yn unol â hynny.
:
• Xxxx methiant i gadw at y gweithdrefnau perthnasol a amlinellir uchod gael ei ystyried yn ddiffyg cydymffurfio a gallai hynny arwain at dynnu’n ôl y cynnig x xxxxx a xxxxxx'r arian yn ôl o bosibl.
• Mewn achosion lle na allwch gydymffurfio â gofynion y gweithdrefnau hyn, rhaid ichi roi gwybod i reolwr y prosiect.
• Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch sut i weithredu’r gweithdrefnau hyn,
cysylltwch â Rheolwr y Prosiect i gael eglurhad a chyfarwyddyd pellach.
Cynghorion ynghylch Tendro
Pethau i'w gwneud | Pethau i beidio â’u gwneud |
• gofalwch fod unrhyw wrthdaro buddiannau posibl yn cael ei ddatgan ar y cyfle cyntaf posibl. | • Peidiwch â gogwyddo’r fanyleb er mwyn diystyru neu wahaniaethu yn erbyn cyflenwyr h.y. cyfyngu'r fanyleb i frand penodol. |
• cydymffurfiwch â'r rheolau priodol. | • Peidiwch â newid y fanyleb ar ôl iddi gael ei dosbarthu. |
• gofalwch fod y fanyleb yn fanwl-gywir a heb fod yn fwy na'r gofynion. | • Peidiwch â newid y meini prawf gwerthuso yn ystod y broses. |
• gofalwch fod y Meini Prawf Gwerthuso yn uniongyrchol berthnasol i bwnc y contract. | • Peidiwch â rhoi rhy ychydig o amser i gwmnïau gyflwyno dyfynbris. |
• gofalwch lenwi a chadw cofnodion llawn er gwybodaeth ar gyfer y dyfodol ac at ddibenion archwilio. | • Peidiwch â rhoi gormod o fanylion ar xxxxx pan fyddwch yn ateb cwestiynau penodol gan gyflenwyr. Mae'n rhaid darparu'r un wybodaeth i'r xxxx gyflenwyr i sicrhau bod y broses yn un deg. |
• gofalwch fod y dyfynbrisiau/tendrau yn cael eu gwerthuso ar sail 'tebyg i'w debyg. | • Peidiwch â datgelu prisiau i gyflenwyr posibl. |
• gofalwch xxxx bod yn xxxxx â chyflenwyr mewn modd agored, tryloyw a hynny heb wahaniaethu. | • Peidiwch â thorri'r rheolau ynghylch cyfrinachedd. |
• caniatáu digon o amser i gwmnïau gyflwyno eu dyfynbris. | • Peidiwch xx xxxx dyfynbrisiau/tendrau cyn y dyddiad cau. |
• sicrhau bod gwerth y Nwyddau / Gwaith neu'r Gwasanaeth yn cael ei amcangyfrif yn gywir ar ddechrau'r broses i gymhwyso'r broses gaffael gywir. Rhaid defnyddio'r gwerth cyfunol lle bo'n berthnasol | • Peidiwch ag ystyried ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau. |
Diffiniadau Caffael
Teitl | Disgrifiad |
Cyfuno | Cyfuno gwerth y contractau ar wahân ar gyfer yr un cyflenwad, gwasanaeth neu waith. |
Contract | Ystyr Contract at ddibenion y Rheolau hyn fydd unrhyw gytundeb (boed yn ysgrifenedig ai peidio) rhwng yr ymgeisydd am grant ac un neu fwy o bartïon eraill ar gyfer: - • gwerthu nwyddau neu ddeunyddiau. • cyflenwi nwyddau neu ddeunyddiau. • cyflawni gwaith • darparu gwasanaethau (gan gynnwys adeiladau a chyfleusterau). |
Ffynhonnell Gystadleuol | darparwr annibynnol yn gwneud cynnig yn erbyn darparwr annibynnol arall. |
Nwyddau | eitemau materol, h.y. offer, bwyd, cerbydau ac ati. |
Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gaffael gan Lywodraethau | rheolau a rheoliadau yw’r rhain y mae’n rhaid i sefydliadau yn y Sector Cyhoeddus eu dilyn wrth gaffael Nwyddau, Gwaith a Gwasanaethau dros drothwy penodol a rhaid cynnal Ymarfer Tendro swyddogol yn unol â Chytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gaffael gan Lywodraethau. |
Gwerthuso | dull o bennu pa gynnig yw'r gorau o ran darparu gwerth yr arian yn unol â'r meini prawf gwerthuso a bennwyd ymlaen llaw. |
Meini Prawf Gwerthuso | Rhestr o'r gofynion allweddol a dynnwyd o'r fanyleb a fydd yn galluogi'r cyflenwyr i esbonio sut y maent yn bwriadu darparu'r gofynion a gaiff eu gwerthuso. Mae'r meini prawf a ddefnyddir i benderfynu pa dendr yw'r mwyaf economaidd fanteisiol yn seiliedig ar gyfuniad o feini prawf pris/cost ac ansawdd. |
Panel Gwerthuso | Yr arfer gorau yw sefydlu panel gwerthuso i gynnal yr ymarfer gwerthuso. Fe all fod yn briodol cael panel traws-swyddogaethol. Dylai'r panel gytuno ar y fanyleb a'r meini prawf gwerthuso. Dylai'r Panel weithredu'n gyson ym mhob cam o'r ymarferiad caffael. |
GwerthwchiGymru | Gwefan Gaffael Genedlaethol yw hon lle caiff xxxx gontractau’r sector cyhoeddus eu hysbysebu. Gall Derbynwyr Grant Trydydd Parti hefyd hysbysebu trwy'r wefan, a hynny yn rhad ac am ddim, ewch i wefan GwerthwchiGymru xxx.xxxxxxxxxxxxxxx.xxxx.xxxxx/ a chysylltwch â llinell gymorth y wefan ar 0800 222 9004 i gael rhagor o wybodaeth. |
Gwasanaethau | tasgau a wneir gan bobl h.y. gwasanaethau ymgynghoriaeth, gwasanaethau cyfieithu ac ati. |
Manyleb | datganiad ysgrifenedig yw hwn sy’n diffinio'r gofynion. Bydd y fanyleb yn amrywio yn ôl y gwaith, y cynnyrch neu’r gwasanaeth xxx sylw. Efallai mai disgrifiad byr fydd yn achos cynnyrch syml, ond yn achos gofyniad cymhleth, bydd yn ddogfen gynhwysfawr. Ni ddylai disgrifiad o'r nwyddau, y gwaith neu'r gwasanaethau gyfeirio at wneuthuriad, brand neu ffynhonnell benodol. |
Tendr/Dyfynbris | y ddogfen y bydd darpar gyflenwr yn ei llunio mewn ymateb i wahoddiad i gyflwyno dyfynbris/tendr. Mae'r ddogfen yn nodi gwybodaeth gyffredinol drwy arddangos gallu a chymhwyster y cyflenwr - gan gynnwys gwybodaeth fanwl am sut y mae'n bwriadu cyflawni manylebau'r gofyniad. |
Gwaith | gan gynnwys tirweddu, adeiladu, gwaith adeiladu ac ati |
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch sut i weithredu’r gweithdrefnau hyn,
cysylltwch â Swyddog y Gronfa Datblygu Eiddo i gael eglurhad a chyfarwyddyd pellach.
Atodiad 4
Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol ar gyfer Trawsnewid - Sir Gaerfyrddin
Gofynion Cyhoeddusrwydd
Os dyfernir cyllid tuag at brosiect penodol, mae'n rhaid i'r datblygwr / ymgeisydd sicrhau y rhoddir cydnabyddiaeth i'r xxxx gyrff a restrir isod:-
• Cyngor Sir Caerfyrddin
Mae’r Canllaw yn nodi sut y gall datblygwyr / ymgeiswyr fodloni’r gofynion o ran cyhoeddusrwydd ar xxx cyfle priodol (e.e. defnyddio logos ar bapur ysgrifennu, taflenni a gwefannau, ac ati) ac â phwy y dylid cysylltu i gael rhagor o wybodaeth a chyngor, a chaniatâd pan fo hynny’n berthnasol (e.e. maint y logo).
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu byrddau arwyddion ar gyfer y cyfnod adeiladu yn rhoi gwybodaeth am y cyllid a phlaciau ar gyfer eu harddangos wedi cwblhau’r gwaith.
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw’r hawl i gynhyrchu datganiadau i’r wasg ar adegau penodol o’r prosiect, er enghraifft wedi derbyn cymeradwyaeth neu ar ôl dechrau’r cynllun ac ar ôl ei gwblhau.
Bydd manylion ynghylch unrhyw ddyfarniadau dros 500k ewro a roddir xxx y cynllun hwn ar gael i'r cyhoedd drwy wefan cymorth gwladwriaethol o fewn 2 flynedd i weithredu'r cynllun hwn.
Cynghorir ymgeiswyr i gysylltu â Swyddogion Datblygu Economaidd i gael rhagor o arweiniad.
Chwefror 2022