AMODAU DEFNYDDIO LLETY A CHYFLEUSTERAU YMWELWYR YM MHRIFYSGOL ABERYSTWYTH
AMODAU DEFNYDDIO LLETY A CHYFLEUSTERAU YMWELWYR YM MHRIFYSGOL ABERYSTWYTH
1. Rhwng pwy mae’r contract hwn?
Mae’r contract hwn rhwng Prifysgol Aberystwyth (y ‘Brifysgol’) a Chi (y ‘Cleient’), ar gyfer archebu llety, cyfleusterau, prydau neu unrhyw wasanaeth arall yn y Brifysgol (y ‘Gwasanaethau’) a dderbynnir gan y Brifysgol yn amodol ar y telerau a'r amodau a restrir yma (yr ‘Amodau’). Mae’r Contract hwn yn bersonol i’r Cleient. Ni fydd y Xxxxxxx yn aseinio, trosglwyddo nac ymddiried ei hawliau a’i gyfrifoldebau o xxx y Contract hwn. Bydd unrhyw gytundeb i newid yr Amodau hyn yn ddi-rym os nad ydynt wedi’u cadarnhau’n ysgrifenedig gan un ai Pennaeth Gwasanaethau Masnachol y Brifysgol neu Reolwr Datblygu Busnes y Brifysgol. Ni fydd unrhyw gontract i ddarparu unrhyw wasanaethau gan y Brifysgol yn dod i fodolaeth oni bai, a hyd nes, fod y Brifysgol wedi derbyn a chadarnhau archeb y Cleient yn ysgrifenedig.
2. Gwneud archeb ar ran grŵp
Mae pob Xxxxxxx sy’n archebu ar ran grŵp neu barti trwy hynny yn gwarantu ei fod wedi’i awdurdodi ar ran xxxx aelodau’r grŵp neu’r parti hwnnw i fynd i Gontract â’r Brifysgol, yn amodol ar yr Amodau hyn. Y Cleient sy'n gyfrifol am sicrhau bod xxxx aelodau’r grŵp yn cydymffurfio â’r telerau a'r amodau hyn. Rhaid darparu enwau xxxx aelodau’r grŵp neu’r parti yn ysgrifenedig i’r Brifysgol 4 wythnos cyn cyrraedd tir y Brifysgol. Bydd y Cleient yn llwyr gyfrifol am y grŵp neu'r parti ar xxx xxxx ar dir y Brifysgol ac am ddiogelu a goruchwylio xx xxxx aelodau.
3. Cadarnhau xxxx archeb
Bydd xxxx archeb yn cael ei chadarnhau, ar sail y telerau a'r amodau hyn, pan fydd y Brifysgol yn cael Contract Archebu heb ei newid, wedi ei lofnodi gan y Cleient ynghyd ag 10% daliad blaendal cytunedig. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i godi hyd at 50% o flaendal ar archebion a chanddynt oblygiadau sylweddol o ran anghenion gweithredol. Bydd y Contract Archebu yn nodi’r llety, y prydau a’r cyfleusterau eraill yr ydych wedi’u harchebu, ac yn cynnwys unrhyw drefniadau eraill a gytunwyd rhwng y Cleient a’r Brifysgol. Pan fyddwch yn cadarnhau archeb, bydd y Cleient yn cytuno i xxxx xxxx gostau’r llety, y prydau a'r cyfleusterau eraill a nodir yn y Contract Archebu, oni bai fod y rhain yn cael eu newid neu eu canslo o xxx y telerau a amlinellir yng nghymalau 7, 8 neu
10 isod. Yn yr achos hwnnw, rhaid i’r Cleient dalu’r costau yn unol â’r cymal perthnasol.
4. Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgen
Lle bo xxxxx xxx’r Brifysgol yn cadw’r hawl i ddarparu cyfleusterau a/neu wasanaethau amgen i’r rhai a archebwyd. Yn yr achosion hyn, bydd y Brifysgol yn ceisio sicrhau bod y cyfleusterau a/neu'r gwasanaethau amgen a ddarperir o’r un xxxxx xxx’n well na’r rhai a archebwyd, ac am yr un pris. Oni bydd y Brifysgol yn gallu darparu cyfleusterau a/neu wasanaethau amgen, bydd yn ad- dalu’n llawn unrhyw symiau a dalwyd gan y Cleient ac ni fydd ar y Brifysgol rwymedigaeth xxxxxxx, xx rhwymedigaeth arall, i’r Cleient.
5. Prisiau
Mae’r xxxx brisiau a ddyfynnir gan y Brifysgol yn unol â chymal 1 yn seiliedig ar y costau sy’n gymwys ar yr adeg archebu. Gall unrhyw newidiadau i’r costau fydd gan y Brifysgol, gan gynnwys (ymhlith eraill) pris llafur, tanwydd neu fwyd ei gwneud yn ofynnol i’r Brifysgol addasu unrhyw bris a roddwyd i’r Cleient am y Gwasanaethau, ar yr xxxx bod y Brifysgol yn hysbysu’r Cleient o leiaf 6 mis cyn dyddiad dechrau’r Gwasanaethau. Bydd gan y Cleient yr hawl i ganslo’r archeb o fewn 14 diwrnod ar ôl cael yr hysbysiad a bydd y Brifysgol yn ad-dalu unrhyw symiau a dalwyd gan y Cleient o xxx y contract. Ni fydd ar y Brifysgol unrhyw rwymedigaeth xxxxxxx i’r Cleient.
6. Xxxx xxxx anfoneb
Bydd y Cleient yn cael anfoneb am yr xxxx gostau llai blaendal tua 7 diwrnod ar ôl y digwyddiad. Rhaid i’r Cleient dalu swm yr archeb yn llawn, mewn punnoedd sterling, yn unol â'r manylion a nodir ar yr anfoneb, o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr anfoneb. Bydd unrhyw oedi wrth dalu ar ôl y cyfnod hwn yn agored i log a gyfrifir ar 5% y mis neu ran ohono ar yr xxxx symiau sydd heb eu talu tan union ddyddiad y taliad (cyn ac ar ôl dyfarniad).
7. Newid xxxx archeb
Os bydd y Cleient yn newid yr archeb, drwy gytundeb ysgrifenedig â’r Brifysgol, bydd y Brifysgol yn anfon Contract Archebu newydd at y Cleient i’w lofnodi a’i ddychwelyd ymhen 14 diwrnod. Bydd y Contract Archebu newydd yn cynnwys unrhyw ffioedd ar gyfer Gwasanaethau a ganslwyd o xxx yr hen Gontract
Archebu y bydd yn rhaid talu amdanynt yn unol â Chymal
10. Bydd pob Contract Archebu newydd a gyflwynwyd gan y Brifysgol yn disodli pob Contract Archebu blaenorol, ar ôl iddo gael ei lofnodi gan y Cleient.
8. Llety, prydau neu gyfleusterau eraill ychwanegol
Os bydd y Cleient yn gofyn am xxxx, prydau neu gyfleusterau eraill ychwanegol, bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i’w darparu. Ni allwn warantu y byddwn yn gallu bodloni xxxx cais, ond fe wnawn xxx ymdrech i wneud hynny. Ni fydd arnom rwymedigaeth mewn unrhyw ffordd os byddwn yn methu â chyflawni hyn.
9. Canslo xxxx archeb neu ran ohoni ARCHEBION PRESWYL
Canslo flwyddyn a mwy cyn i’r digwyddiad ddechrau
Os bydd y Cleient yn canslo’r archeb yn llawn, ni fydd y Brifysgol yn codi tâl ar y Cleient am ganslo. Os bydd y Cleient yn canslo rhan o’r archeb, ni fydd y Brifysgol yn codi tâl ar y Cleient am ganslo’n rhannol, ond ceidw’r hawl i drosglwyddo’r archeb i gyfleusterau sy’n fwy addas ar gyfer digwyddiad o faint llai, ar yr xxxx fod cyfleusterau o'r fath ar gael.
Canslo lai na blwyddyn cyn i’r digwyddiad ddechrau
Os bydd y Cleient yn canslo’r archeb yn llawn, neu’n rhannol, lai na blwyddyn cyn i’r digwyddiad ddechrau, daw’r taliadau canslo isod i rym:
beidio â chyrraedd |
Gall y Cleient ganslo hyd at 5% o’r llety, y prydau a'r cyfleusterau eraill a archebir yn ddi-dâl, ar yr xxxx xxxx bod yn rhoi gwybod yn ysgrifenedig i’r Brifysgol o leiaf 14 diwrnod cyn y digwyddiad. Bydd y Brifysgol yn seilio’r terfyn 5% ar y nifer uchaf o ystafelloedd gwely, prydau ac eitemau eraill y cadarnhaodd y Cleient archeb amdanynt.
Os caiff archeb sydd wedi’i chanslo ei llenwi wedi hynny, gall y Brifysgol, fel y gwêl yn ddoeth, un ai credydu neu ad-dalu’r Cleient am y cyfan neu ran o unrhyw arian a dalwyd gan y Cleient, ar ôl tynnu unrhyw ddidyniadau a wnaed gan y Brifysgol i’w had-dalu am gostau rhesymol sy’n deillio o ganlyniad i ganslo yn y modd hwnnw.
Bydd y Brifysgol yn anfon anfoneb at y Cleient a fydd yn nodi’r costau canslo o fewn 14 diwrnod ar ôl cael gwybod yn ysgrifenedig am y canslo. Codir taliadau am ganslo yn rhannol ar y Cleient yn unol â Chymal 6.
ARCHEBION DIBRESWYL
Gofynnir am bedwar diwrnod ar ddeg o rybudd ar gyfer canslo, neu fel arall codir tâl canslo am 50% o’r archeb gyfan. Os ceir llai na dau ddiwrnod gwaith o rybudd neu os byddwch yn methu â chyrraedd, bydd yn rhaid talu cost yr archeb yn gyfan.
Os byddwch yn canslo’n hwyr oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth, cysylltwch â Rheolwr y Swyddfa Gynadleddau i drafod credyd ar gyfer aildrefnu’r archeb hon yn y dyfodol.
Dylid darparu’r niferoedd terfynol ar gyfer arlwyo dri
diwrnod gwaith cyn y digwyddiad.
10. Anfon y manylion terfynol atom
Rhaid i’r Cleient gadarnhau yn ysgrifenedig yr amseroedd
Cyfnod | Canslo | Canslo'n Rhannol |
Rhwng 52 a 12 wythnos cyn cyrraedd | 10% x xxxxx y Contract Archebu | 10% o’r gost ar gyfer yr unigolion na fydd yn bresennol |
Rhwng 12 a 6 wythnos cyn cyrraedd | 30% x xxxxx y Contract Archebu | 30% o’r gost ar gyfer yr unigolion na fydd yn bresennol |
Rhwng 6 a 4 wythnos cyn cyrraedd | 60% x xxxxx y Contract Archebu | 60% o’r gost ar gyfer yr unigolion na fydd yn bresennol |
Rhwng 4 a 2 wythnos cyn cyrraedd | 80% x xxxxx y Contract Archebu | 80% o’r gost ar gyfer yr unigolion na fydd yn bresennol |
Pythefnos xxx xxx cyn y dyddiad cyrraedd neu | 100% x xxxxx y Contract Archebu | 100% o’r gost ar gyfer yr unigolion na fydd yn bresennol |
terfynol, y bwydlenni a'r anghenion deietegol arbennig o
leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad arfaethedig dechrau'r digwyddiad. Os oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â gallu’r Brifysgol i ddarparu gofynion penodol, dylid cyfleu hynny’n glir ar adeg yr archebu. Oni bydd y Cleient yn darparu’r wybodaeth hon, bydd y Brifysgol yn penderfynu xxxx i’w gyflenwi ac yn codi tâl yn unol â hynny.
11. Terfynu gan y Brifysgol
Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i derfynu archeb ar
unrhyw adeg am y rhesymau canlynol:
• os yw’r Brifysgol (neu unrhyw ran ohoni) yn cau oherwydd unrhyw reswm y tu hwnt i’w rheolaeth resymol;
• os yw’r Cleient yn wynebu newid yn ei reolaeth,
yn mynd yn fethdalwr, yn methu â thalu ei
ddyledion pan fyddant yn ddyledus neu’n
peidio â bodoli oherwydd rheswm arall;
• os oes ar y Cleient ddyled ers mwy na 30 diwrnod yn ymwneud ag unrhyw dâl i’r Brifysgol am unrhyw wasanaethau blaenorol;
• os yw’r Cleient yn gwneud rhywbeth sydd xx xxxx resymol y Brifysgol yn dwyn anfri arni hi neu ar y Cleient, neu y gellid disgwyl yn rhesymol y bydd yn dwyn anfri yn y fath fodd; ac
• os ystyrir bod unrhyw ymddygiad gan y Cleient neu unrhyw aelod o’i grŵp yn amhriodol neu’n afresymol, xx xxxx resymol Cyfarwyddwr Gwasanaethau Campws a Masnachol y Brifysgol neu’r Rheolwr Datblygu Busnes.
Pan gaiff archeb ei therfynu yn y dull hwn yn unol â’r cymal hwn a bod y Cleient eisoes yn bresennol ar dir y Brifysgol, bydd y Cleient a’i westeion (os oes rhai) yn gadael tir y Brifysgol yn xxxx xx yn mynd â’u xxxx eiddo xxxx ar dir y Brifysgol.
12. Newidiadau i'r ystafelloedd a neilltuwyd
Er mwyn diwallu anghenion cynifer o gwsmeriaid â phosibl, gall y Brifysgol newid yr ystafelloedd cyfarfod, yr ystafelloedd bwyta neu'r llety sydd wedi’u pennu i’r Cleient. Ni chodir tâl ychwanegol ar y Cleient os bydd y Brifysgol yn newid yr ystafelloedd a bennwyd ar ei gyfer.
13. Gwybodaeth ynglŷn â Chyrraedd a Gadael
Bydd yr ystafelloedd gwely ar gael o 3pm ar y diwrnod cyrraedd, a rhaid gadael pob ystafell erbyn 9.00am ar y diwrnod ymadael (10.00am yn achos archebion Byncws y Brifysgol), oni chytunwyd â’r Brifysgol yn ysgrifenedig fel arall. Xxx xxxxx i gleientiaid sicrhau bod xxxx aelodau eu grŵp neu eu parti yn ymwybodol o’r amseroedd hyn gan y gall y Brifysgol xxxx xxx am adael yn hwyr. Codir tâl o £30 (a TAW) am xxx allwedd a gollwyd neu allwedd sydd heb ei dychwelyd.
14. Anifeiliaid ac anifeiliaid anwes
Dylech sicrhau bod aelodau’ch parti yn gwybod na chaniateir anifeiliaid anwes nac anifeiliaid o unrhyw fath, ac eithrio cŵn cymorth, ar dir y Brifysgol.
15. Bwyd a Diod
Caiff y Cleient, neu aelodau o grŵp neu barti’r Cleient,
ddod â bwyd a diodydd i xxxx hunanarlwyo'r Brifysgol.
Ni ddylai’r Cleient, nac aelodau o grŵp neu barti’r Cleient, ddod â bwyd na diodydd i unrhyw adeiladau eraill y Brifysgol heb gytundeb penodol rhyngddynt a’r Brifysgol ymlaen llaw. Codir tâl gweini neu gostau cyfatebol am yr xxxx ddiodydd neu fwyd sydd wedi'u cludo i mewn i eiddo’r Brifysgol a'u bwyta a’u hyfed yno.
16. Ymddygiad ar dir y Brifysgol
Rhaid i gleientiaid sicrhau eu bod hwythau ac aelodau eu grŵp neu eu parti a phawb fydd yn ymweld â nhw yn y Brifysgol yn ymddwyn mewn modd na fydd yn tarfu neu'n amharu’n afresymol ar y Brifysgol, ei haelodau a’i gweithwyr cyflogedig, nac ar unrhyw ymwelydd arall â’r Brifysgol.
Mae’r Cleient yn cydnabod bod gan Brifysgol Aberystwyth ddyletswydd o xxx Xxxxx 26 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 wrth arfer ei swyddogaethau i roi “sylw dyledus i’r angen i xxxx pobl rhag cael eu xxxx at derfysgaeth" (“y Ddyletswydd Prevent”). Bydd y Cleient yn sicrhau ei fod yn gweithredu mewn modd sy’n bodloni’r Ddyletswydd Prevent.
Rhaid i'r Cleient sicrhau nad yw'r lleoliad yn cael ei ddefnyddio gan unrhyw grwpiau neu siaradwyr i gefnogi unrhyw ideoleg eithafol.
17. Rhyddid i Lefaru
Mae’r Cleient yn cydnabod fod gan y Brifysgol ddyletswydd i sicrhau bod gan ei myfyrwyr, ei gweithwyr cyflogedig a siaradwyr gwadd ryddid i lefaru. Mae’n rhaid i’r Cleient roi gwybod i’r Brifysgol wrth archebu lle ynglŷn ag unrhyw weithgareddau dadleuol posib a allai ddigwydd yn ystod eu cyfnod ar dir y Brifysgol ac a allai effeithio ar enw da’r Brifysgol.
18. Diogelu Data
Mae'r Brifysgol yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Yn rhan o'r broses archebu ac o'r telerau a'r amodau hyn, cytunwch â'n Datganiad Preifatrwydd sydd i'w gael yn: xxxxx://xxx.xxxx.xx.xx/xx/xxxxxxxx/xxxxx&xxxxxxxxxx/
19. Cerbydau a Pharcio
Ni ddylai unrhyw gerbydau sy’n perthyn i'r Cleient neu ei grŵp, neu sydd o xxx eu rheolaeth, yrru yn gyflymach na 20 milltir yr awr ar gampws y Brifysgol. Rhaid dangos trwydded ymwelydd ar xxx cerbyd ar xxx xxxx pan fyddant ar dir y Brifysgol. Ar gyfrifoldeb y perchennog y deuir â cherbydau, beiciau neu feiciau xxxxx i dir y Brifysgol ac ni fydd y Brifysgol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gerbyd sydd ar y campws.
20. Iechyd a Diogelwch
Er bod y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech i gydymffurfio â rheoliadau cyfredol parthed diogelwch ei gwesteion, cyfrifoldeb pob gwestai'r Cleient ac arweinydd pob grŵp fydd sicrhau bod y Cleient a xxxx aelodau’r grŵp neu'r parti yn gwybod am y camau gweithredu pe bai tân neu argyfwng arall. Ceir hysbysiadau o’r rheoliadau hyn ym mhob un o adeiladau’r Brifysgol a gellir cael rhagor o wybodaeth o Swyddfa Llety’r Brifysgol.
Er mwyn gallu sicrhau bod adeiladau wedi'u gwacáu os bydd tân, ni chaniateir i westeion newid ystafelloedd gwely yn y llety heb ganiatâd blaenorol y Brifysgol. Gwaherddir unigolion nad ydynt yn westeion cofrestredig rhag aros ar y Campws. Ni fydd y nifer sy’n aros yn y llety yn uwch na'r nifer yn y parti a nodir ar y contract archebu.
Mae’r Brifysgol yn gweithredu polisi ‘dim ysmygu’ ac ni chaniateir ysmygu mewn unrhyw adeilad nac o fewn 5 metr iddynt. Mae fflamau agored wedi'u gwahardd yn llwyr yn adeiladau’r Brifysgol.
Os difrodir offer diogelwch, neu os ymyrrir ag offer diogelwch, mae'n bosib y dywedir wrth yr unigolion sy’n gyfrifol neu’r grŵp y maent yn aelod ohono am adael tir y Brifysgol. Bydd y Cleient yn indemnio’r Brifysgol yn erbyn pob math o golled a/neu ddifrod sy’n codi o ganlyniad i gamddefnyddio larymau tân, diffoddwyr tân a/neu unrhyw offer arall yn y Brifysgol, gan gynnwys yr xxxx gostau am atgyweirio eiddo’r Brifysgol neu am brynu eitemau newydd, ac unrhyw gostau eraill a godir gan y Gwasanaeth Tân neu gorff cyhoeddus arall.
Bydd y Cleient yn gyfrifol am roi gwybod i’r Brifysgol cyn y dyddiad y disgwylir i’r Gwasanaethau gael eu cyflawni os oes unrhyw aelod o’r grŵp wedi dioddef salwch heintus neu wedi bod mewn cysylltiad â salwch heintus yn ystod y pedair wythnos cyn cyrraedd tir y Brifysgol. Bydd gan y Brifysgol ryddid, fel y gwêl yn ddoeth, ar ôl asesu’r risg, i ganslo archeb y grŵp cyfan os yw o’r farn (a chan weithredu’n rhesymol), ei bod yn angenrheidiol ac yn briodol gwneud hynny.
21. Xxxx cyfrifoldebau dros unigolion xxx 18 oed yn xxxx parti
Mae’n rhaid i archebion ar gyfer grwpiau sy’n cynnwys unrhyw xxxxxx xxx 18 oed neu oedolion bregus (yn unol â diffiniad Deddf Diogelu Grwpiau Agored i Niwed 2006) ddatgan y nifer o'r bobl o'r fath, ynghyd â datganiad o nifer ac enwau'r oedolion sy’n gyfrifol am y grŵp, Bydd y Cleient yn sicrhau bod isafswm nifer yr oedolion sydd eu xxxxxx yn ôl y gyfraith yno i oruchwylio’r grŵp ar xxx xxxx, yn ogystal â sicrhau bod yr xxxx bobl ifanc o xxx 18 oed neu'r oedolion bregus yn cael eu goruchwylio ganddynt a bod gan yr xxxx oedolion sy’n goruchwylio’r grŵp y cymwysterau priodol a’r profiad i wneud hynny. I gadarnhau, ni ddylid gadael neb sydd o xxx 18 oed ar eu pen eu hunain yn y llety na mannau cyhoeddus ar unrhyw adeg. Dylid rhoi plant sy’n 2 oed neu'n hŷn mewn ystafell sengl, a chaniateir un plentyn xxx 2 oed ar y mwyaf mewn ystafell wely.
Bydd y Cleient hefyd yn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r xxxx ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol ynglŷn â diogelu plant neu oedolion bregus, ac y cydymffurfir â’r xxxx reolau, canllawiau a deddfwriaeth berthnasol eraill yn llawn. Bydd hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, (i) cynnal asesiad risg priodol, (ii) sicrhau bod xxxx staff wedi’u hyfforddi’n gywir ac wedi cael gwybod am y
gweithdrefnau ar gyfer trafod pryderon ynglŷn ag amddiffyn plant, (iii) ceisio a sicrhau lefelau priodol o wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ("DBS") ar gyfer y staff hyn a (iv) sicrhau bod gennych drefniadau yswiriant priodol ar waith. Cyfrifoldeb y Cleient yw sicrhau bod yr xxxx wiriadau o gofnodion troseddol sy’n ofynnol yn ôl y ddeddfwriaeth hon wedi’u gwneud a bod yr xxxx unigolion sy’n goruchwylio plant neu oedolion bregus mewn unrhyw ffordd wedi’u cofrestru gyda’r xxxxx priodol ac nid ydynt yn anaddas i gyflawni’r rôl mewn unrhyw ffordd.
Oni bai y gwneir datganiad o’r fath a bod y Brifysgol yn cadarnhau ei bod yn derbyn yr archeb, ceidw’r Brifysgol yr hawl i drosglwyddo grwpiau o'r fath i xxxx arall xxx i ofyn iddynt adael tir y Brifysgol. Ceidw’r Brifysgol yr hawl i gadw’r xxxx xxxxx, xxx ran o’r arian a dalwyd neu i fynd ar ôl xxxxx xx’n ddyledus gan y Cleient.
22. Gwasanaethau a gyflenwir gan rywun o’r tu xxxxx i’r
Brifysgol
Os bydd y Cleient yn gofyn i’r Brifysgol drefnu i wasanaeth gael ei ddarparu gan drydydd parti, ni fydd y Brifysgol ond yn gweithredu fel asiant i'r Cleient. Bydd unrhyw gontract a geir o ganlyniad yn gontract rhwng y Cleient a’r trydydd parti a fydd yn darparu’r gwasanaeth a bydd y Cleient yn llwyr gyfrifol am dalu ffioedd, costau a threuliau’r trydydd parti. Ceidw’r Brifysgol yr hawl i godi ffi weinyddol a fydd yn 15% o'r cyfanswm a anfonebir am y nwyddau a'r gwasanaethau a archebir gan y Brifysgol ar gais y Cleient. Bydd y Brifysgol yn trin y trydydd parti fel person sy’n ymweld â’r Cleient yn y Brifysgol (gweler cymal 17).
Bydd y Cleient hefyd yn sicrhau bod unrhyw drwyddedau, hawliau neu ganiatâd trydydd parti sydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith neu fel arall wedi’u cael cyn i’r Gwasanaethau ddechrau.
23. Statws xxxxx cymwys
Gall rhai cyrff hawlio statws xxxxx cymwys a gall y Brifysgol felly, fel y gwêl yn dda, ac ar ôl derbyn gan y Cleient ddatganiad o’ch cymhwysedd, eithrio’r cyflenwad o ran treth ar xxxxx (TAW). Ceidw’r Brifysgol yr hawl i adennill TAW y dylid fod wedi ei chodi ar gwsmeriaid sydd wedi datgan yn anghywir eu bod yn gymwys i’w heithrio.
24. Defnyddio enw a logo’r Brifysgol heb ganiatâd
Nid yw’r Brifysgol yn rhoi caniatâd i’w henw na’i logo gael eu defnyddio ar unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd nac adroddiadau i’r wasg ar gyfer digwyddiadau ac eithrio rhai’r Brifysgol heb ganiatâd ymlaen llaw. Ni cheir gosod deunydd cyhoeddusrwydd na marchnata ar unrhyw ran o dir/adeiladau’r Brifysgol heb ganiatâd ysgrifenedig o flaen llaw gan y Brifysgol.
25. Difrod i Eiddo/Colli Eiddo
Mae’r Brifysgol yn cyflwyno pob gwybodaeth ac yn gwneud pob datganiad yn ddidwyll a bydd yn gwneud pob ymdrech resymol i wirio’r xxxx wybodaeth a roddir i Gleientiaid a’u hasiantau. Ni fydd y Brifysgol yn atebol am unrhyw ddifrod na cholled i eiddo, pethau gwerthfawr nac xxxxx xx’n deillio o wybodaeth a ddarparwyd gan y Brifysgol neu unrhyw asiant neu weithiwr cyflogedig sy’n gweithredu ar ran y Brifysgol, ac eithrio pan fo’r golled neu'r difrod wedi’u hachosi gan weithred fwriadol neu esgeulus gan xxxxxx o’r xxxx.
Er bod y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau diogelwch yr xxxx unigolion a’u heiddo sydd ar dir y Brifysgol, nid yw’r Brifysgol na’u gweision, eu hasiantau na'u cynrychiolwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros ofalu am eiddo o unrhyw ddisgrifiad, gan gynnwys arian, pethau gwerthfawr, bagiau, dillad na cherbydau xxxxx xx’n perthyn i’r Cleient, aelodau x xxxxx’r Cleient, ymwelwyr a/neu westeion ac eithrio pan fo’r golled neu'r difrod wedi’u hachosi gan weithred fwriadol neu esgeulus gan xxxxxx o’r xxxx. Xxx xx’n gyfrifol am sicrhau bod yr xxxx ystafelloedd sy'n berthnasol i'ch parti wedi’u cloi pan nad ydynt yn cael eu defnyddio a bod xxxx aelodau’ch grŵp yn mynd â’u xxxx xxxxx a phethau gwerthfawr gyda nhw.
Y Cleient fydd yn gyfrifol am unrhyw ddifrod a achosir gan y Cleient neu aelod x xxxxx’r Cleient i dir, adeiladau neu eiddo’r Brifysgol, gan gynnwys offer wedi’i fenthyca neu’i logi, a bydd yn talu’r Brifysgol yn llawn, pan ofynnir iddo wneud hynny, er mwyn gwneud yn iawn neu unioni’r difrod.
26. Cwynion
Rhaid i xxx cwyn sydd heb eu datrys rhwng y xxxxx ochr a’r llall cyn ymadael gael ei chyflwyno drwy Drefn Gwynion y Brifysgol ar gyfer Gwasanaethau’r Campws. Mae’r drefn honno i’w gweld yn y cyfeiriad isod: xxxxx://xxx.xxxx.xx.xx/xx/xxxxxxxx/xxxxx&xxxxxxxxxx/
27. Atebolrwydd
Yn amodol ar y cymal 29 hwn yn unig, ni fydd y Brifysgol yn atebol i’r Cleient (boed mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeuluster), esgeuluso dyletswydd statudol, gwneud iawn neu fel arall) am unrhyw golled anuniongyrchol neu am unrhyw golled economaidd gan gynnwys (heb gyfyngiadau) colli elw, busnes, ewyllys da, enw da, refeniw na chyfle busnes boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn codi o gysylltiad neu mewn cysylltiad â chyflawni'r Gwasanaethau, neu fethiant i'w cyflawni, nac unrhyw achos lle y torrir yr Amodau hyn gan y Brifysgol.
Yn amodol ar y cymal 29 hwn yn unig, ni fydd atebolrwydd y Brifysgol o xxx yr Amodau hyn yn fwy na gwerth y Gwasanaethau sy’n daladwy trwy hyn.
Ar yr xxxx na fydd dim byd yn yr Amodau hyn yn gweithredu i: -
eithrio atebolrwydd aneithriadwy'r Brifysgol o ran marwolaeth neu anaf personol a achoswyd gan esgeuluster y Brifysgol, ei gweision neu ei asiantau.
effeithio ar hawliau statudol y Cleient pan fo’r Cleient yn ddefnyddiwr o fewn ystyr Deddf Telerau Contract Annheg; neu
eithrio gweithredu Adran 12 o Ddeddf Gwerthu Nwyddau 1979; neu
eithrio atebolrwydd am gamliwiad twyllodrus.
28. Cyffredinol
Ni fydd gan y xxxxx ochr na’r llall atebolrwydd am unrhyw fethiant i gyflawni neu am unrhyw oedi wrth gyflawni (ac eithrio’r talu) unrhyw rwymedigaethau sydd ganddi o xxx y Contract hwn a achosir gan unrhyw ffactor y tu hwnt i’w reolaeth resymol.
Xxx xxxx gwahanu darpariaethau’r Amodau hyn ac maent ar wahân i’w gilydd ac os daw unrhyw rai o’r darpariaethau yn annilys, yn anghyfreithlon neu’n anorfodadwy ar unrhyw adeg, ni fydd hynny'n effeithio nac amharu ar ddilysrwydd, cyfreithlondeb nac orfodadwyedd y darpariaethau eraill mewn unrhyw fodd.
Ni fydd hawliau a rhwymedïau’r Cleient mewn cyswllt â’r Contract hwn yn cael eu lleihau, eu hepgor na’u diddymu drwy roi unrhyw oddefgarwch, maddeugarwch nac estyniad amser gan y Brifysgol i’r Cleient na thrwy unrhyw fethiant neu oedi gan y Brifysgol wrth ddarganfod neu arfer y cyfryw hawliau neu’r rhwymedïau. Ni fydd rhyddhau, hepgor neu gyfaddawdu neu unrhyw drefniadau eraill o unrhyw fath (sef, rhyddhad) gan y Brifysgol yn effeithio ar ei hawliau a’i rhwymedïau o ran unrhyw grŵp arall nac ychwaith ei hawliau a’i rhwymedïau yn erbyn y Cleient y'u rhoddir neu y gwneir hwy o’i blaid, ac eithrio i'r graddau a geir yn nhelerau datganedig y rhyddhad ac ni chaiff unrhyw ryddhad o’i fath ddod i rym os nad yw wedi'i roi neu ei wneud yn ysgrifenedig. Mae’r hawliau a’r rhwymedïau yn y Contract hwn yn gronnol ac nid ydynt wedi’u heithrio o unrhyw hawliau a/neu rwymedïau a ddarparwyd gan y gyfraith.
Ni fydd yr Amodau hyn a’r Contract hwn yn golygu, ac ni chânt eu hystyried fel petaent yn golygu, fod unrhyw berthynas o bartneriaeth, xxxxxx ar y xxx, penadur ac asiant neu gyflogwr a gweithiwr cyflogedig rhwng y Brifysgol a’r Cleient ac ni fydd mewn unrhyw ffordd yn llunio prydles o eiddo’r Brifysgol.
Ni fydd y Cleient mewn unrhyw ffordd yn rhwystro’r Brifysgol (na’i hasiantau a’i gweision) wrth i’r Brifysgol arfer ei hawl i feddu ar xxx xxxx o dir ac eiddo’r Brifysgol a'u rheoli.
Bydd pob hysbysiad o xxx y Contract hwn yn rhai ysgrifenedig a gellir eu cyflwyno drwy’r post neu drosglwyddiad ffacs wedi’u cyfeirio at y derbynnydd i’r
cyfeiriad a roddwyd yn y Contract neu unrhyw gyfeiriad arall y bydd y xxxxx xxx’r llall yn ei hysbysu’n ysgrifenedig o dro i dro i’r llall at ddibenion cyflwyno hysbysiadau o xxx y Contract hwn. Ystyrir bod pob hysbysiad o’r fath wedi’i gyflwyno drwy’r post ar ddiwedd 3 diwrnod ar ôl ei xxxxx xxx os y'i hanfonwyd drwy drosglwyddiad ffacs ddeg awr yn yr amser lleol ar Ddiwrnod Busnes arferol nesaf y derbynnydd ar ôl ei anfon ac er mwyn profi ei fod wedi'i gyflwyno bydd yn ddigonol dangos yn achos llythyr ei fod wedi’i gyfeirio a’i dalu yn briodol a’i bostio yn y dull a benodwyd ac yn achos trosglwyddiad ffacs bydd yn ddigonol dangos ei fod wedi’i anfon i’r rhif ffôn cywir. Ni chaiff dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc eu trin yn ddyddiau pan fo'r cyflwyniad wedi dod i rym arnynt, ac ystyrir bod y cyflwyno wedi digwydd ar Ddiwrnod Busnes arferol nesaf y derbynnydd.
Er mwyn osgoi amheuaeth, nid oes unrhyw xxxx yn yr Amodau hyn sy’n rhoi i unrhyw drydydd parti unrhyw fudd neu’r hawl i orfodi unrhyw ddarpariaeth yn yr Amodau hyn.
Mae’r Amodau hyn yn cynnwys yr xxxx delerau y mae’r Cleient a’r Brifysgol wedi cytuno arnynt parthed y Gwasanaethau ac maent yn disodli unrhyw gytundebau, gosodiadau neu ddealltwriaethau ysgrifenedig neu xxxxx cyn hynny rhwng y xxxxx ochr a’r llall sy’n ymwneud â Gwasanaethau o’r fath. Mae’r Cleient yn cydnabod nad yw wedi dibynnu ar unrhyw ddatganiad, addewid na gosodiad a wnaed neu a roddwyd gan neu ar ran y Brifysgol nad ydynt wedi’u nodi yn yr Amodau hyn.
Caiff yr amodau hyn a’r Contract rhwng y Brifysgol a’r Cleient mewn cysylltiad ag archebu Gwasanaethau'r Brifysgol eu rheoli a’u dehongli yn unol â Chyfraith Lloegr. Cyfeirir unrhyw anghydfod sy’n codi o archeb o unrhyw fath neu mewn cysylltiad ag archeb, na ellir ei ddatrys yn gyfeillgar, i’w gymrodeddu o xxx y cynllun arbennig a luniwyd gan y Sefydliad Cyflafareddu trwy drefniant â Chymdeithas Asiantaethau Teithio Prydain ar gyfer y diwydiant gwyliau. Rhoddir manylion y cynllun hwn ar gais.
At ddibenion yr Amodau hyn, bydd y term “Cleient” yn golygu unrhyw unigolyn, partneriaeth, sefydliad neu gwmni sy’n archebu ac, yn achos archeb grŵp, ar ran unrhyw bartneriaeth, sefydliad neu gwmni a hefyd y bartneriaeth, sefydliad neu gwmni perthnasol.
At ddibenion yr Amodau hyn, bydd y term “Contract” yn golygu’r contract rhwng y Cleient a’r Brifysgol ar gyfer cyflenwi’r Gwasanaethau.
Mewn cyswllt ag unrhyw archeb lle mae’r Cleient yn ddefnyddiwr, nid yw’r Amodau hyn yn effeithio ar ei hawliau statudol. Gallwch, os dymunwch, gael manylion yr hawliau hyn gan xxxx canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
Mae’r Cleient yn cydnabod bod y Brifysgol yn gorfod bodloni gofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a bydd yn cynorthwyo ac yn cydweithredu â’r Brifysgol (ar draul y Cleient) i alluogi’r Brifysgol i gydymffurfio â’r gofynion datgelu gwybodaeth hyn.
Ff: 01970621960 E: xxxxxxxxxxx@xxxx.xx.xx Gw: xxx.xxxx.xx.xx/xx/xxxxxxxx/ Dyddiad yr adolygiad diwethaf: Ionawr 2024