Geirfa Termau
Geirfa Termau
Gwybodaeth hygyrch Gweld fformat gwahanol. Lleoliad hygyrch
Adeilad sydd wedi’i ddylunio a/neu ei addasu i sicrhau y gall unigolion, gan gynnwys pobl anabl, fynd i mewn i’r adeilad a symud o gwmpas yn rhwydd a mynychu'r digwyddiadau a defnyddio’r cyfleusterau.
Deddf
Cyfraith neu ddarn o ddeddfwriaeth sydd wedi’i gymeradwyo gan Ddau Dŷ'r Senedd ac wedi’i gytuno gan y Goron, ac yna’n rhan o gyfraith statudol (h.y. yn cael ei weithredu).
Oed
Mae hyn yn cyfeirio at berthyn i grŵp oedran penodol, gall olygu pobl o’r un oedran (e.e. pobl 32 oed) neu amrywiaeth o oedrannau (e.e. 18-30 oed, pobl dros 50 oed).
Pob cam rhesymol
Mewn perthynas ag aflonyddwch gan weithiwr cyflogedig, yr xxxx bethau rhesymol y gallai'r cyflogwr ei wneud i’w rwystro; mewn perthynas ag addasiadau rhesymol, mae ‘camau rhesymol’ yn derm arall ar gyfer y pethau rhesymol y gallai’r cyflogwr eu gwneud er mwyn cael gwared ag anfantais.
Fformat arall
Fformat cyfrwng sydd ar gael ar gyfer pobl anabl gyda nam penodol, er enghraifft Braille, disgrifiad clywedol, isdeitlau a fersiwn Hawdd ei Ddarllen.
Cwsmeriaid
Unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau.
Anghenion gwahanol
Yn cyfeirio at y gwahanol ofynion sydd gan unigolion gyda nodweddion a ddiogelir sy’n rhaid neu y dylid eu diwallu er mwyn darparu cydraddoldeb, gan gynnwys cyfleoedd cyfartal a chydraddoldeb mynediad.
Gwahaniaethu uniongyrchol
Triniaeth lai ffafriol o unigolyn o'u cymharu ag unigolyn arall oherwydd nodweddion a ddiogelir.
Anabledd
Anfantais
Niwed neu rwystr - rhywbeth y mae’r unigolyn a effeithir yn ystyried eu bod yn newid eu sefyllfa er gwaeth.
Gwahaniaethu'n anghyfreithlon
Pan fydd cyflogwr wedi trin rhywun yn llai ffafriol oherwydd rhinwedd a ddiogelir (wedi gwahaniaethu yn eu herbyn) ac nad oes ganddynt amddiffyniad dilys.
Amrywiaeth
Pan fo nifer o wahanol fathau o unigolion yn cael eu cynnwys.
Dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol
Pan fydd anfantais sylweddol ar unigolyn anabl o'u cymharu ag unigolion nad ydynt yn anabl, mae dyletswydd i gymryd camau rhesymol i ddileu'r anfantais drwy (i) newid darpariaethau, meini prawf neu arferion, (ii) addasu, dileu neu ddarparu dull gwahanol o osgoi nodweddion corfforol a (iii) darparu cymorth ategol.
Polisi Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Datganiad o ymrwymiad sefydliad i egwyddor cyfleoedd cyfartal yn y gweithle.
Hyfforddiant cydraddoldeb
Hyfforddiant ar gyfraith cydraddoldeb ac arferion cydraddoldeb effeithiol.
Eithriadau
Pan na fydd darpariaeth y Ddeddf yn berthnasol, mewn amgylchiadau penodedig.
Gweithio’n hyblyg
Gweithio oriau gwahanol neu weithio gartref er mwyn cymhwyso ar gyfer ymrwymiadau gofal plant.
Nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau
Mae nwyddau’n cyfeirio at eiddo y gellir ei symud, cyfleusterau yn cyfeirio at gyfleoedd i fwynhau xxxx xxx i wneud rhywbeth a gwasanaethau'n cyfeirio at ddarpariaethau er mwyn diwallu anghenion unigolion. Mae nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau ar gael i’r cyhoedd neu unrhyw ran ohono.
Amhariad
Cyfyngiad ymarferol all arwain at unigolyn yn cael eu diffinio fel pobl anabl yn ôl y diffiniad yn y Ddeddf.
Llai ffafriol
Yn waeth, ddim cystal.
Aelod etholedig
Unigolion sydd wedi’u hethol gan y cyhoedd i fod yn Aelod o’r Cyngor.
Monitor Gweler monitro. Monitro
Monitro data cydraddoldeb i wirio bod unigolion sydd â nodweddion a ddiogelir yn cyfranogi ac yn cael eu trin yn gyfartal. Er enghraifft, monitro cynrychiolaeth merched, neu bobl anabl, yn y gweithlu neu ar lefelau uwch mewn sefydliadau.
Cyfiawnhad gwrthrychol
Pan ellir cyfiawnhau rhywbeth (e.e. gweithred a fyddai’n gwahaniaethu fel arall) yn wrthrychol.
Gofyniad galwedigaethol
Sefyllfa lle y mae nodwedd a ddiogelir yn ofyniad galwedigaethol, gellir cadw rhai swyddi penodol ar gyfer unigolion sydd â’r nodwedd a ddiogelir.
Rhwystrau corfforol
Nodwedd gorfforol adeilad neu eiddo sy’n rhoi anfantais sylweddol ar bobl anabl o’u cymharu â phobl nad ydynt yn anabl wrth gael mynediad at nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau neu gyflogaeth.
Gweithred bositif
Yn cyfeirio at amrywiaeth o weithredoedd cyfreithlon sy’n ceisio goresgyn neu leihau anfanteision (e.e. mewn cyfleoedd cyflogaeth) y mae pobl sy'n rhannu nodweddion a ddiogelir wedi’u profi, neu i ddiwallu eu hanghenion gwahanol.
Caffael
Y term sy’n cael ei ddefnyddio mewn perthynas â'r amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau y xxx xxxxx cyhoeddus neu awdurdod eu xxxxxx xx yn eu darparu. Mae’n cynnwys canfod a phenodi darparwyr gwasanaethau a rheoli’r nwyddau a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu.
Cymesur
Mae hyn yn cyfeirio at fesurau neu gamau gweithredu sy’n briodol ac yn hanfodol. Mae'r cwestiwn a yw rhywbeth yn gymesur o xxx yr amgylchiadau a bydd yn cynnwys ystyried effaith gwahaniaethu’r weithred yn erbyn y rhesymau dros gyflawni’r weithred, a gofyn a oes ffordd arall o gyflawni'r amcan.
Nodweddion a ddiogelir
Y rhain yw’r seiliau y mae gwahaniaethu’n anghyfreithlon. Y nodweddion yw: Oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gredo, rhyw a thueddfryd rhywiol.
Darpariaeth, meini prawf neu xxxxx
Xxx canfod darpariaeth, meini prawf neu arfer yn allweddol er mwyn sefydlu gwahaniaethu anuniongyrchol. Er enghraifft gall gynnwys, unrhyw bolisïau ffurfiol neu anffurfiol, penderfyniadau, rheolau, arferion, trefniadau, meini prawf, amodau, rhagofyniad neu gymwysterau.
Awdurdod cyhoeddus
Sefydliadau ac unigolion sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus – byddai hyn yn cynnwys adrannau’r llywodraeth, awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd ac ysbytai, ysgolion, carcharau, a’r heddlu er enghraifft.
Swyddogaethau cyhoeddus
Unrhyw weithred neu weithgaredd a wnaed gan awdurdod cyhoeddus er mwyn darparu gwasanaeth cyhoeddus neu gyflawni dyletswyddau neu swyddogaethau o natur gyhoeddus e.e. Darparu gwasanaeth yr heddlu a charchar, gofal iechyd, gan gynnwys gofal preswyl yr henoed, llunio polisïau'r llywodraeth neu wasanaethau cynllunio'r awdurdod lleol.
Dyletswydd Cydraddoldeb Sector Gyhoeddus
Y ddyletswydd sydd ar awdurdod cyhoeddus wrth gyflawni eu swyddogaethau i ystyried bod angen cael gwared â gwahaniaethau ac aflonyddu anghyfreithiol, llunio perthnasau da a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal.
Rhesymol
Bydd yr hyn sy'n cael ei ystyried yn rhesymol yn dibynnu ar xxxx amgylchiadau’r achos gan gynnwys maint y sefydliad a’u hadnoddau, xxxx xx’n ymarferol, effeithiolrwydd yr hyn sy’n cael ei gynnig a’r amhariad posibl y byddai gweithredu'r mesur yn ei greu ynghyd ag argaeledd cymorth ariannol.
Addasiadau Rhesymol
Gweler Dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol.
Rheoliadau
Deddfwriaeth eilradd a wnaed xxx Ddeddf y Senedd (neu ddeddfwriaeth Ewropeaidd) yn gosod materion atodol sy’n cynorthwyo i weithredu’r Ddeddf.
Cwyn gwasanaeth
Cwyn am ddarpariaeth gwasanaeth
Darparwr gwasanaeth
Rhywun (gan gynnwys sefydliad) sy’n darparu gwasanaethau, nwyddau neu gyfleusterau i’r cyhoedd cyffredinol neu ran ohono.
Defnyddwyr gwasanaeth
Y rhai sy’n cael mynediad at wasanaeth penodol neu’n ei ddefnyddio.
Gwasanaethau
Gweler gwasanaethau, nwyddau neu gyfleusterau.
Gwasanaethau, nwyddau neu gyfleusterau
Mae hyn yn cyfeirio at wasanaethau, nwyddau neu gyfleusterau sy’n cael eu darparu ar gyfer y cyhoedd gan ddarparwyr cyhoeddus neu breifat. Nid yw'r diffiniad yn cynnwys swyddogaethau cyhoeddus a buddiannau, cyfleusterau a gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan glybiau a chymdeithasau. Gweler hefyd nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau.
UDRh
Uwch Dîm Rheoli. Mae hyn yn cynnwys Penaethiaid Gwasanaeth y Cyngor.
Telerau cyflogaeth
Gofynion contract cyflogaeth unigolyn, boed wedi'i ddarparu yn benodol yn y contract ei hunan neu wedi'i ymgorffori drwy statud, arferion neu gyfraith cyffredinol ayyb.
Ffôn testun
Math o ffôn ar gyfer pobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw, sydd wedi’i gysylltu i fysellfwrdd a sgrin lle y mae'r negeseuon sydd wedi'u hanfon a'u derbyn yn cael eu harddangos.
Undebau llafur
Sefydliadau yw’r rhain a ffurfiwyd i gynrychioli hawliau a diddordebau gweithwyr i’w cyflogwyr, er enghraifft er mwyn gwella amodau gwaith, cyflogau neu fuddiannau. Maent hefyd yn cynrychioli yn ehangach ar ran buddiannau eu haelodau ac yn cyflwyno argymhellion i'r llywodraeth, cyrff diwydiannol ac eraill sy'n llunio polisïau.
Unigolyn trawsrywiol
Yn cyfeirio at unigolyn sydd â’r nodwedd a ddiogelir o ailbennu rhywedd. Gall fod yn ddynes sydd wedi trawsnewid neu yn trawsnewid i fod yn ddyn, neu’n ddyn sydd wedi trawsnewid neu yn trawsnewid i fod yn ddynes. Nid yw’r gyfraith yn nodi bod yn rhaid i unigolyn dderbyn llawdriniaeth feddygol er mwyn eu cydnabod fel unigolyn trawsrywiol.
Symbol Tic Dwbl
Symbol sy’n cael ei roi gan y Ganolfan Waith a Mwy i gyflogwyr sydd ag ymagwedd bositif at gyflogi pobl anabl ac yn ymroi i gyflogi, cadw a datblygu staff anabl.
Gwasanaeth TextRelay y DU
Mae Text Relay yn wasanaeth ffôn cenedlaethol ar gyfer pobl byddar, trwm eu clyw, dall a byddar ac unigolion â nam ar eu lleferydd. Mae’n eu galluogi i
ddefnyddio Ffôn Testun i gael mynediad at wasanaethau sydd ar gael ar systemau ffôn cyffredin.
Anffafriol
Mae’r gair yn cael ei ddefnyddio (yn lle llai ffafriol) pan nad oes angen cymharydd i ddangos bod rhywun wedi derbyn rhwystr neu anfantais oherwydd nodwedd a ddiogelir – er enghraifft mewn perthynas â gwahaniaethu oherwydd beichiogrwydd a mamolaeth.
Anghyfreithlon
Nid yw’n cael ei ganiatáu gan gyfraith (yn wahanol i anghyfreithlon (illegal) sy’n golygu ‘wedi’i wahardd yn ôl cyfraith'). Ar adegau gall y ddau olygu'r un peth, ond mae anghyfreithlon(unlawful) yn cael ei ddefnyddio’n gywir mewn perthynas â gweithredoedd sifil (yn hytrach na rhai troseddol).
Anrhesymol
Nad yw’n rhesymol, tu hwnt i’r hyn sy’n ymarferol. Gweler rhesymol hefyd.
Gweithiwr
Yn ôl cyfraith cyflogaeth, mae gweithiwr yn gategori ehangach na dim ond gweithiwr cyflogedig ac mae’n cynnwys contract personol i wneud gwaith.