Strategaeth Ystad Sefydliadau Diogel ar gyfer Plant a Phobl Ifanc – Dogfen Ymgynghori
Strategaeth Ystad Sefydliadau Diogel ar gyfer Plant a Phobl Ifanc – Dogfen Ymgynghori
Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb – Sgrinio Cychwynnol Perthnasedd i Ddyletswyddau Cydraddoldeb
1. Enw’r ddeddfwriaeth, polisi, strategaeth, prosiect neu wasanaeth newydd neu ddiwygiedig arfaethedig sy'n cael ei asesu.
Mae’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (BCI) a’r Weinyddiaeth Cyfiawnder wedi cyhoeddi'r Strategaeth ar gyfer yr Ystad Sefydliadau Diogel ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru a Lloegr – Cynlluniau ar gyfer 2011/12-2013/14 (Dogfen Ymgynghori).
Mae’r ddogfen yn disgrifio cynigion y BCI ar gyfer yr ystad sefydliadau diogel ar gyfer plant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod 2011/12 i 2014/15. Bydd y strategaeth hon yn galluogi'r BCI i gyflawni’i amcanion ac i osod agenda clir ar gyfer datblygu’r ystad sefydliadau diogel ar gyfer pobl ifanc xxx 18 oed.
2. Yr Uned a’r Swyddog unigol sy’n gyfrifol am gwblhau'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb.
Xxxx Xxxxxxxxxxx, Rheolwr y Prosiect, Strategaeth ar gyfer yr Ystad Sefydliadau Diogel (Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr).
3. Xxxx yw prif nod neu bwrpas y ddeddfwriaeth, strategaeth, polisi, prosiect neu wasanaeth newydd neu ddiwygiedig arfaethedig a xxxx yw'r canlyniadau y bwriedir eu cael?
Mae gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud ers i’r cyfrifoldeb dros gomisiynu’r ystad sefydliadau diogel drosglwyddo i’r BCI ym mis Ebrill 2000. Mae'r arwyddion cynnydd yn galonogol gyda llai o blant a phobl ifanc yn cael eu dedfrydu i gael eu cadw xxx glo a gostyngiad yn y cyfraddau aildroseddu ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi dod i ddiwedd eu dedfrydau xxx glo. Mae’r gostyngiad sylweddol, diweddar yn nifer y plant a phobl ifanc xxx glo yn golygu bod yr ystad sefydliadau diogel yn awr yn wynebu cyfnod o newid. Mae hyn yn gyfle i ystyried y ffordd fwyaf priodol o leihau’r capasiti gormodol a sicrhau bod y cynlluniau datgomisiynu yn adlewyrchu’r newid ym mhroffil oedran y rhai sy’n cael eu carcharu. Mae hefyd yn gyfle i ystyried a all cyfundrefnau gwahanol ddarparu canlyniadau gwell i blant a phobl ifanc a darparu gwell gwerth am arian hefyd.
Wrth baratoi ein cynigion ar gyfer yr ystad sefydliadau diogel rydym wedi ystyried y blaenoriaethau ym Mhapur Gwyrdd y Llywodraeth Breaking the Cycle a’r egwyddorion sy’n ysgogi diwygiadau ar draws y Llywodraeth, yn benodol: rhagor o atebolrwydd, gwerth gwell am arian, a thalu yn ôl canlyniadau.
Mae’r tabl isod yn disgrifio nodau ac amcanion penodol yr ymarfer ymgynghori hwn:
Nodau/amcanion | Canlyniadau |
Ailwampio’r ystad sefydliadau diogel yn dilyn gostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy’n cael eu dedfrydu neu eu remandio i'w cadw'n xxxxx. | Dull strategol o weithredu'n cael ei ddatblygu a'i roi ar waith ar gyfer darparu llefydd diogel i blant a phobl ifanc er mwyn: • cydweddu’r ddarpariaeth yn well ar gyfer diwallu’r galw • diwallu anghenion pobl ifanc yn well • adeiladu unedau gwell ar gyfer y bobl ifanc hynny nad oes modd diwallu’u hanghenion yn ddigonol fel rhan o’r gyfundrefn brif-ffrwd • darparu rhagor o arweiniad fel comisiynydd drwy osod manylebau gwasanaethau clir a, lle xx xxxx, pennu’r canlyniadau ar gyfer pobl ifanc y mae disgwyl i ddarparwyr eu cyflenwi. |
Parhau i wella’r cyfundrefnau a ddarperir i bobl ifanc. | Safonau cyfundrefnau’n gwella a phobl ifanc yn cyflawni canlyniadau gwell, gan gynnwys, yn bwysig iawn, ostyngiad mewn aildroseddu. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda chyd-gomisiynwyr i: • fod yn fwy ymatebol i anghenion pobl ifanc • comisiynu cyfundrefnau sy’n seiliedig ar ddiwrnodau pwrpasol a llawn gweithgarwch • sicrhau canlyniadau ailsefydlu llwyddiannus i bobl ifanc. |
Bodloni ymrwymiadau’r adolygiad o wariant. | Mae'r BCI yn ymrwymedig i: • gyflawni amcanion y Weinyddiaeth Cyfiawnder y cytunwyd arnynt i gyflawni targedau gwariant • sicrhau’r gwerth gorau am arian. |
4. Pa ffynonellau cyfredol o wybodaeth y byddwch yn eu defnyddio i'ch helpu i ddynodi materion cydraddoldeb tebygol grwpiau gwahanol o bobl?
Wrth ddatblygu'r cynigion polisi yn y Strategaeth ar gyfer yr Ystad Sefydliadau Diogel, mae’r BCI wedi defnyddio data o ffynonellau amrywiol, sy'n cynnwys:
• Ffynonellau data mewnol megis SACHS (System Glirio Llety Diogel) a YJMIS (System Gwybodaeth Reoli Cyfiawnder Ieuenctid);
• Data Llwyth Gwaith Blynyddol y BCI/Weinyddiaeth Cyfiawnder ar gyfer 2009/10;
• Adroddiadau Ofsted ac Arolygiaeth Carchardai XX xxx gynnwys yr adroddiad chwe-misol ar farn pobl ifanc a gynhelir gan Arolygiaeth Carchardai EM;
• Ymchwil wedi'i gomisiynu – megis y gwerthusiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar o Uned Keppel yn Wetherby a chyhoeddiadau ac ymchwil allanol – sy’n cael eu nodi ar ddiwedd yr adran hon;
• Gwybodaeth reoli a gesglir gan fonitoriaid y BCI.
Y boblogaeth xxx 18 oed sy'n cael eu cadw'n xxxxx ar hyn x xxxx
Yn 2009/10, roedd 2,418 o bobl ifanc ar gyfartaledd xxx mis yn cael eu caethiwo yng Nghymru a Lloegr.
Oed
Roedd 95% o’r xxxx bobl ifanc a gafodd eu caethiwo yn 2009/10 rhwng 15 a 17 oed.
Nifer y bobl ifanc mewn caethiwed
5%
13%
54%
28%
10-14
15
16
17
Rhywedd
Bechgyn oedd 94% o’r xxxx bobl ifanc a gafodd eu caethiwo yn 2009/10.
6% | |
gwrywod benywod | |
94% |
Mae ymchwil a theori cymdeithasol-wyddonol yn awgrymu y gellir esbonio hyn drwy:
• theorïau cymdeithasoli a llai o debygolrwydd y bydd merched yn troi at drais i ddatrys anghydfod; a/neu
• triniaeth wahaniaethol gan y system cyfiawnder.
Dywed ymchwil gan y BCI1 fod nifer y merched ifanc sy'n troseddu wedi codi 18% rhwng 2004 a 2007. Yn genedlaethol, roedd 42% o'r merched ifanc a oedd wedi troseddu ar Orchmynion Cyfeirio; gyda Gorchymyn Goruchwylio yr ail ddedfryd fwyaf
1 xxxx://xxx.xxx.xxx.xx/xxxxxxxxxxxx/Xxxxxxxxx/Xxxxxxxxx/xxxxx_xxxxxxxxx_xxxxxxxxxx.xxx
cyffredin (19%). Cafodd dedfrydau caethiwo eu rhoi i 9% o’r xxxx ferched ifanc a gafwyd yn euog o droseddu. Canfu’r ymchwil fod dynion ifanc ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu dedfrydu i’w cadw’n xxxxx xx merched ifanc yn cyflawni'r un trosedd. Ond, cafodd ychydig yn fwy o fenywod gosb gymunedol mwy cyfyngol na fyddid wedi'i ddisgwyl o nodweddion eu hachos – roedd y siawns y byddai bachgen yn cael cosb gymunedol fwy cyfyngol 20% yn llai na’r siawns ar gyfer menywod. I ferched y rhoddwyd 22% o’r xxxx ddedfrydau a roddwyd i bobl ifanc yn 2009/10. I ferched ifanc y rhoddwyd oddeutu 8% (416 o 5,130) o’r xxxx ddedfrydau caethiwo a roddwyd gan y llys yn 2009/10.2
Ethnigrwydd
pobl ifanc mewn caethiwed
Xxxx oedd y rhan fwyaf o’r bobl ifanc a gafodd eu caethiwo yn 2009/10.
2,000
1,641
1,500
1,000
500
340
142
168
123
4
0
Asiaidd
Du
Arall Cymysg Xxxx Anhysbys
Du oedd 14% o’r bobl ifanc yn yr ystad sefydliadau diogel. Roedd pobl ifanc Du wedi'u gorgynrychioli yn y boblogaeth xxx 18 oed a oedd wedi’u caethiwo o'i gymharu â’r boblogaeth gyffredinol (2% o’r boblogaeth gyffredinol yn ôl Cyfrifiad 2001 oedd yn y categorïau Du Prydeinig a Du Arall).3 Pobl Ifanc Du oedd y rhan fwyaf o’r bobl ifanc o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a gafodd eu rhoi mewn sefydliadau diogel.
2 Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, y Weinyddiaeth Cyfiawner: Youth Justice Statistics 2009/10 England and Wales: Statistics bulletin, 2011 (t 3-4).
3 xxxx://xxx.xxxxxxxxxx.xxx.xx/xxxxxx0000/xxxxxxxx/xxxxxxxxxxxx/xxxxxxxxx.xxx#xxxxxx
16%
18%
22%
1%
43%
Asiaidd Du Arall Cymysg
Anhysbys
Mae pobl ifanc Asiaidd yn fwy tebygol o’u cael yn euog o drosedd yn ymwneud â chyffuriau, tra mae pobl ifanc du yn fwy tebygol o'u cael yn euog o ladrata/ysbeilio. Mae pobl ifanc Xxxx yn fwy tebygol o'u cael yn euog o fwrgleriaeth ddomestig.
100%
90%
pobl ifanc mewn caethiwed
80%
70%
60%
50%
40%
30%
20%
10%
0%
Asiaidd
Du Arall/Anhysbys/Cymysg
Gw yn
Arall
9%
8%
12%
17%
26%
29%
26%
23%
8%
6%
5%
5%
26%
35%
30%
21%
19%
4%
7%
10%
6%
7%
7%
10%
2%
16%
11%
16%
Trais yn erbyn yr unigolyn Troseddau
Rhyw iol Lladrad
Cyffuriau
Bw rgleriaeth Ddomestig
Torri Gorchymyn Statudol
Mae pobl ifanc Du ac Asiaidd yn fwy tebygol o fod wedi cael dedfryd xxx glo mwy llym na’u cymheiriaid Xxxx.
100%
90%
80%
70%
60%
50%
40%
30%
20%
10%
S90/91/226/228
24% | 27% | 24% | 18% | ||||||
21% | |||||||||
33% | 27% | ||||||||
34% | |||||||||
61% | |||||||||
49% | |||||||||
44% | |||||||||
39% | |||||||||
yn gyfunol Remand
Gorchymyn Cadw a Hyfforddi
0%
Asiaidd
Du Arall/Anhysbys/Cymysg
Gw yn
Dywedai adroddiad Pwyllgor Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin, ‘Young Black People and the Criminal Justice System’ (2006-20074) fod pobl ifanc Du, ar ôl cael eu cyhuddo o drosedd, gryn dipyn yn llai tebygol o gael mechnïaeth ddiamod ac yn fwy tebygol o gael eu remandio i'w cadw'n xxxxx xx'u cymheiriaid Xxxx. Yn 2004/05, cafodd 8.1% o bobl Ddu xxx 18 eu remandio i’w cadw’n xxxxx, o’i gymharu â 5.1% ar gyfer pobl Asiaidd a 4.4% ar gyfer pobl ifanc Xxxx o'r un grŵp oedran.
Roedd pobl ifanc o gefndir ethnig cymysg hefyd yn ddioddef mewn system cyfiawnder sy'n gwahaniaethu ar sail hil. Yn ôl yr adroddiad hwnnw “mae bobl ifanc du a phobl ifanc o ethnigrwydd ‘cymysg', pan xxxx eu dedfrydu, yn fwy tebygol o gael dedfrydau mwy cosbol na phobl ifanc xxxx. Tra oedd troseddwyr ifanc du yn gyfrifol am 6% o gyfanswm y troseddau yn 2004-05, cawsant 11.6% o gyfanswm y dedfrydau caethiwo”.5 Os oes tystiolaeth ar gael bod grwpiau ethnig gwahanol yn cael eu trin yn wahanol, mae’n bwysig canfod sut mae’r gwahaniaethau hyn yn digwydd a sut i gymryd camau effeithiol i gywiro’r sefyllfa.
Awgryma canfyddiadau mwy diweddar6 bod lefelau sylweddol o ddata ar xxxx o hyd yng nghofnodion ethnigrwydd Timau Troseddwyr Ifanc (TTI), ac xxx xxxxx gwella'r arferion cofnodi. Wrth gwrs, fe fydd adegau pan fydd pobl ifanc yn gwrthod cofnodi'u hethnigrwydd yn unol â’u dewis.
Hunaniaeth o ran rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol
Does dim digon o ymchwil yn y xxxx hwn yn y Deyrnas Unedig. Ond mae ymchwil sydd wedi’i gynnal yn yr Unol Daleithiau7 yn awgrymu y nodweddir gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid gan fethiant difrifol i dderbyn hunaniaeth Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol, yn seiliedig i raddau helaeth ar gamsyniadau am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd. Mae’r rhain yn cynnwys mythau na all pobl ifanc, oherwydd eu hoed, fod yn bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu trawsrywiol neu nad ydynt yn bodoli yn y boblogaeth cyfiawnder ieuenctid. Mewn gwirionedd, mae hunaniaeth o ran rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol i lawer o unigolion wedi'i bennu’n gynnar yn eu bywydau, ac mae ymchwil newydd yn yr Unol Daleithiau’n awgrymu bod oddeutu 13% o bobl ifanc mewn cyfleusterau caethiwo ar draws y wlad
4 xxxx://xxx.xxxxxxxxxx.xxx/xxxx/0000/xxx/xx-xxxx-xxxxx-xxxxx-xxxxxx.xxx
5 Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref: ‘Young Black People and the Criminal Justice System’ (2006-2007) - t.13
6 May T., Xxxxxxx X., Xxxxx M. Differential treatment in the youth justice system, 2010 (P VI)
7 Majd K., Xxxxxxxxx X., Xxxxx X. Hidden injustice: Lesbian, Gay, Bisexual, and Transgender Youth in Juvenile Courts, 2009
yn bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol. Mae methiant rhai gweithwyr proffesiynol yn y xxxx cyfiawnder ieuenctid i gydnabod bodolaeth pobl ifanc hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thrawsrywiol yn golygu ei bod yn anodd iawn iddynt fodloni anghenion y boblogaeth hon sy’n gudd i raddau helaeth.
Ni allwn gadarnhau bod sefyllfa debyg yn bodoli yn system cyfiawnder ieuenctid Cymru a Lloegr, ond mae’r ymchwil yn sicr yn ein gwneud yn ymwybodol o'r materion hyn.
Anabledd ac Anawsterau Dysgu
Canfu’r Arolygiad ar y Cyd o Dimau Troseddwyr Ifanc: Adroddiad Blynyddol 2006/07, fod gan 62% o’r bobl ifanc a oedd mewn cysylltiad â thimau troseddwyr ifanc ‘anawsterau addysg’ ac, mewn rhai achosion, nid oeddynt yn gallu cael gafael ar wasanaethau yn yr un ffordd â phlant eraill yn yr ardal.8
Awgryma sawl darn o ymchwil fod canran y bobl ifanc sy’n rhan o’r system cyfiawnder troseddol ac sydd â phroblemau iechyd meddwl yn amrywio rhwng 25% a 81%, ac uchaf ymysg y rheini sy’n cael eu cadw xxx glo. Ar sail y ffigurau yn y lenyddiaeth hon, gellid awgrymu bod cyfraddau problemau iechyd meddwl o leiaf dair gwaith cyn uched ar gyfer y rheini yn y system cyfiawnder troseddol ag ar gyfer y boblogaeth gyffredinol. Yr anhwylderau mwyaf cyffredin ar gyfer y boblogaeth gyffredin a'r boblogaeth troseddwyr ifanc oedd anhwylderau ymddygiad, anhwylderau emosiynol ac anhwylderau canolbwyntio. Mae camddefnyddio sylweddau’n broblem fawr hefyd.9
Ffydd neu Grefydd
Yn gyffredinol, nid yw daliadau crefyddol pobl ifanc yn y system cyfiawnder troseddol (yn arbennig y rheini mewn sefydliadau diogel) yn cael eu cofnodi’n genedlaethol. Ond, mae gwasanaethau a ddarperir i bobl ifanc sydd xxx glo yn ymatebol i anghenion crefyddol pobl ifanc.
Y mae cwestiwn yn codi am y berthynas rhwng gwahaniaethu ar sail crefydd a gwahaniaethu sy'n gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig eraill. Mae’n bwysig iawn cofio 'i xx xxxxxx y xxx gwahaniaethu ar sail crefydd yn gorgyffwrdd â gwahaniaethu ar sail hil'. Yn y gwyddorau cymdeithasol, mae’r traddodiad trechaf yn hanesyddol wedi tueddu i ystyried crefydd fel newidyn dibynnol o ethnigrwydd a/neu ddiwylliant. Yn y traddodiad hwn, i wahanol xxxxxx, xxx crefydd wedi cael ei weld yn sicr yn atgyfnerthiad swyddogaethol ac weithiau’n atgyfnerthiad hanfodol bron o un o’r prif gategorïau ethnigrwydd.10
5. Elfennau unigol y strategaeth
Wrth gyflawni’r amcanion a nodir uchod, mae’r Strategaeth ar gyfer yr Ystad Sefydliadau Diogel yn cynnwys nifer bychan o gynigion penodol sy'n destun ymgynghoriad â rhanddeiliaid. Gellir crynhoi'r rhain fel a ganlyn:
- Mewn ymateb i’r gostyngiad cyson yn y galw am lefydd xxx glo, parhau i ddatgomisiynu llefydd diogel. Gan adlewyrchu’r gostyngiad yn y galw am lefydd ar
8 Xxxxxx X. No one knows: prisoners voice: experiences of the criminal justice system by prisoners with learning disabilities and difficulties 2008 (T 74)
9 Xxxxxxxx J., Xxxxxx J. Vulnerable Defendants in the Criminal Courts: a review of provision for adults and children, 2009 (T 37)
10 Xxxx Xxxxxx. Religious discrimination in Britain: A review of research evidence, 2000-10, 2011 (T 9 – 10)
gyfer pobl ifanc 10-14 oed, mae’r gostyngiadau yn y llefydd a gomisiynir yn awr yn debygol o fod yn gyfatebol uwch yn y sector cartrefi diogel i blant a’r sector Canolfannau Hyfforddi Diogel. Bydd hyn yn sicrhau y gall yr ystad weithredu’n effeithlon drwy gyflawni arbedion wrth leihau'r capasiti gormodol.
- Adeiladu ar yr ymarfer da sy’n cael ei sefydlu lle mae cymorth dwys yn cael ei ddarparu mewn unedau xxxxx xxxxx Uned Xxxxxx yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc Wetherby ac Uned Willow yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc Hindley. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gall anghenion y bobl ifanc mwyaf heriol a bregus sydd xxx glo gael eu diwallu'n effeithiol a thrwy hynny, gobeithio, gwella'r broses adsefydlu a lleihau aildroseddu.
- Datblygu’r gwaith sy’n digwydd eisoes gydag Awdurdodau Lleol i helpu pobl ifanc â’r broses ailsefydlu. Yn y tymor hwy (ac mewn cyfnod a all ymestyn y tu hwnt i’r strategaeth hon), byddwn yn ystyried datblygu nifer bach o is-safleoedd llai a fydd xxxxx xx’n cynorthwyo pobl ifanc i ailsefydlu yn ôl i'r gymuned ar ôl cael eu rhyddhau, gan gynnig llety byw agored, xxx xxxx lled-ddiogel cam-i-xxxx. Rydym yn ymwybodol o faint ein pwerau comisiynu ar gyfer datblygu'r cynigion hyn, a byddwn, mewn sawl achos, yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr yn y trydydd sector ac Awdurdodau Lleol. Nod hyn fydd ceisio sicrhau bod y canlyniadau adsefydlu i bobl ifanc yn cael eu gwella a thrwy hynny leihau aildroseddu.
- Canfod a yw’r pwerau xxx Ddeddf Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000, fel y’i diwygiwyd gan adran 34 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007, yn caniatáu ar gyfer comisiynu llety amgen ar gyfer nifer bach o droseddwyr ifanc, er mwyn gwella ein gallu i reoli risg a sicrhau canlyniadau gwell i bobl ifanc. Byddai’n rhaid cael deddfwriaeth i roi’r cynnig hwn ar waith.
Asesu
- Datgomisiynu
Rydym yn cydnabod y risgiau sydd ynghlwm wrth ragor o ddatgomisiynu ac mae’n debygol y bydd yn cael effaith niweidiol ar fechgyn 10-14 oed a merched 10-16 oed. Ond, mae hyn yn cael ei liniaru gan y gostyngiad cyson yn y galw a thrwy ddarparu darpariaeth briodol amgen yn yr ystad. Mae’r BCI yn adolygu ei ddarpariaeth bresennol yn gyson yn erbyn y galw posibl yn y dyfodol ac yn gwneud newidiadau i'r penderfyniadau comisiynu yn unol â hynny. Wrth wneud hynny, mae nodweddion penodol pobl ifanc xxx glo yn cael eu hystyried – gan gynnwys oed, rhywedd, ethnigrwydd yn ogystal â’u hanghenion penodol unigol.
Efallai y bydd rhagor o ostyngiad yn yr ystad sefydliadau diogel yn cael effaith niweidiol ar allu teuluoedd i gael cyswllt rheolaidd wyneb yn wyneb â'r person ifanc. Lliniarir yr effaith hon drwy ddarparu lleoliadau a all ddelio orau ag unrhyw anghenion arbenigol.
Wrth leoli pobl ifanc mewn sefydliad diogel, mae’r BCI yn gweithio’n galed i sicrhau mai’r sefydliad hwnnw yw'r gorau ar gyfer eu hanghenion unigol hwy. Pellter o’r cartref yw un o’r problemau sy’n cael ei ystyried gan dîm lleoliadau’r BCI. Ond, mae gostyngiad ym maint yr ystad sefydliadau diogel, mewn ymateb i lai o bobl ifanc yn cael eu dedfrydu i’w cadw’n xxxxx, yn golygu y bydd person ifanc ar brydiau o bosibl yn cael ei gadw'n xxxxx ymhellach o'i gartref. Y brif ystyriaeth fydd sicrhau'r lleoliad mwyaf priodol er mwyn diwallu anghenion person ifanc.
- Canfod a diwallu anghenion pobl ifanc
Rydym yn cydnabod bod bodloni anghenion yr xxxx bobl ifanc yn yr ystad sefydliadau diogel yn her i'r gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar hyn x xxxx. Xxx xxx leiafrif
bychan anghenion iechyd corfforol a meddyliol cymhleth iawn. Bydd datblygu darpariaeth well yn galluogi'r BCI i ddiwallu anghenion pob person ifanc yn well, yn arbennig y rheini sydd ag:
• anawsterau dysgu
• problemau iaith a lleferydd
• problemau ymddygiad
• cyflyrau iechyd meddwl.
Bydd hyn, yn ei dro, yn helpu i sicrhau y gall anghenion y bobl ifanc mwyaf heriol sydd xxx glo gael eu diwallu'n effeithiol a thrwy hynny wella'r broses adsefydlu a lleihau aildroseddu. Mae’r Gwerthusiad o Brosesau Uned Keppel 201111 a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn awgrymu bod yr amgylchedd unigryw yn fwy tebygol o gyfrannu at ostyngiad cadarnhaol mewn ffactorau risg na phetai'r bobl ifanc wedi cael eu lleoli rywle arall.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r BCI wedi rhoi strategaeth datblygu’r gweithlu ar waith ac wedi sefydlu Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid, mewn cydweithrediad agos â chynghorau sgiliau sector perthnasol. Rydym yn ymrwymedig i barhau i wella mynediad i hyfforddiant achrededig, perthnasol a throsglwyddadwy ar gyfer pob ymarferydd cyfiawnder ieuenctid sy'n gweithio mewn sefydliadau diogel. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant angenrheidiol ar ganfod a rhoi sylw i anghenion penodol plant a phobl ifanc.
Bydd anghenion pobl ifanc yn cael eu diwallu’n effeithiol os oes prosesau rhannu gwybodaeth ac asesu cynhwysfawr ar gael. Bydd y BCI yn parhau i wella’r ymarfer hwn drwy gyhoeddi arweiniad sy’n rhannu cyfrifoldebau'n glir ar draws timau aml- asiantaeth. Bydd hyn yn rhoi darlun cynhwysfawr i reolwyr ac ymarferwyr o sut i gynllunio a chydlynu gwasanaethau ar sail yr hyn a wyddom am ymarfer effeithiol, darparu eglurder o ran gofynion cynllunio dedfrydu a rheoli achosion sefydliadau diogel, a sicrhau cysondeb â’r dulliau gweithredu a ddefnyddir gan Dimau Troseddwyr Ifanc i helpu i sicrhau dull mwy cysylltiedig gydol y broses ar gyfer cynllunio dedfryd.
- Ailsefydlu
Ni fydd y gwelliannau sy’n cael eu hystyried i'r ddarpariaeth ailsefydlu yn cael effaith andwyol ar unrhyw grŵp penodol o bobl ifanc sy’n cael eu rhoi xxx glo ar hyn x xxxx. Fel comisiynwyr, bydd y BCI yn sicrhau y bydd yn rhaid i unrhyw ddarparwr posibl fod â strategaeth glir ar gyfer dethol a gweithio gyda phobl ifanc. Rhaid i’r strategaethau hyn fod â ffocws glir ar gael gweithdrefnau ar waith i fodloni anghenion unigol pob person ifanc yn effeithiol.
Bydd hyn yn cynnwys cael trefniadau yn eu lle i fonitro canlyniadau yn ôl nodweddion gwarchodedig. Pan geir darpariaeth gan ddarparwyr allanol, mae’r angen i fonitro hyn yn ofyniad xxx y contract.
- Llety amgen
Rydym yn cydnabod bod bodloni anghenion yr xxxx bobl ifanc yn yr ystad sefydliadau diogel yn her i'r gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar hyn x xxxx. Fel y nodwyd uchod, xxx xxx leiafrif bychan o bobl ifanc anghenion iechyd corfforol a meddyliol cymhleth iawn, yn enwedig y rheini sydd ag:
• anawsterau dysgu
• problemau iaith a lleferydd
• cyflyrau iechyd meddwl difrifol a dwfn
11 Gweler xxxx://xxx.xxxxxxx.xxx.xx/xxxxxxxx/xxxxx-xxxxxxx/xxxxxxxxxx-xxxxxxxxx/xxxxxx-xxxx/xxxxx.xxx
• anhwylderau seiciatrig.
Rydym yn ystyried a allem leoli’r mathau hyn o droseddwyr ifanc mewn llety amgen gan ddefnyddio pwerau o xxx xxxxx 34 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007. Bydd hyn, yn ei dro, yn helpu i sicrhau y gall anghenion y bobl ifanc mwyaf heriol sydd xxx glo gael eu diwallu'n effeithiol a thrwy hynny wella'r broses adsefydlu a lleihau aildroseddu. Os bydd y BCI yn defnyddio'r ddarpariaeth hon yn y dyfodol, bydd trefniadau monitro cadarn ar waith i fonitro’r canlyniadau ar gyfer pobl ifanc a leolir mewn darpariaeth amgen.
6. A oes unrhyw fylchau mewn gwybodaeth sy’n ei gwneud yn anodd neu’n amhosibl llunio barn ynglŷn â sut y gallai xxxx cynigion effeithio ar grwpiau gwahanol o bobl?
Mae data mewnol yn cefnogi datblygu’r cynigion polisi a ddisgrifir yn y strategaeth. Xxx xxxxx o wybodaeth wedi’i ddadansoddi yn ôl oed, rhywedd ac ethnigrwydd ar gael ac sy’n caniatáu gwneud asesiadau rhesymol.
Ond, ar hyn o xxxx xxx bwlch wrth gofnodi anabledd. Y rheswm pennaf am hyn yw'r problemau sy'n gysylltiedig â diffinio anableddau'n iawn a'u cofnodi mewn offer rheoli achosion cyfredol. Mae cynlluniau eisoes ar waith i roi sylw i’r anghysondeb hwn fel rhan o’r broses o gyflwyno system cynllunio dedfryd ac asesu newydd – eAsset. Fel rhan o’r datblygiadau hyn, bydd iechyd a chyflyrau meddygol pobl ifanc yn cael eu cofnodi a bydd adroddiadau ar gael. Cwblhawyd Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar wahân yn ystod cam dichonoldeb ac ymgynghori'r prosiect hwn. Mae datganiad o fwriad ar y Fframwaith Asesu ar gael ar wefan y BCI.
7. Ymgynghori
Bydd y ddogfen ymgynghori yn cael ei chyhoeddi ar dudalen Cyfiawnder Ieuenctid y wefan Xxxxxxx.xxx.xx. Bydd fersiwn Cymraeg o’r ddogfen ymgynghori ar gael hefyd. Mae blwch postio pwrpasol wedi’i greu i sicrhau bod yr xxxx ymatebion yn cael eu rheoli'n briodol: xxxxxxxxxxxxxxxxxxxx@xxx.xxx.xx
Y gynulleidfa darged fydd: darparwyr cyfredol yr ystad sefydliadau diogel; ymarferwyr a darparwyr gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid; elusennau plant a grwpiau pwysau cysylltiedig yn y trydydd sector; cyd-gomisiynwyr ym meysydd iechyd ac addysg; rheolwyr gwasanaethau plant awdurdodau leol; grwpiau fforwm ar gyfer grwpiau amrywiaeth gwahanol; Seneddwyr; a phobl ifanc.
Mae’r BCI hefyd wedi comisiynu Barnardos a Voice i gynnal astudiaeth i gael barn pobl ifanc sy’n cael eu cadw’n xxxxx ar hyn x xxxx. Pan fyddant yn cyflawni'r gwaith hwn, bydd Voice a Barnardos yn sicrhau bod y sampl yn adlewyrchu cyfansoddiad presennol y boblogaeth garcharol ehangach.
Bydd y BCI hefyd yn cysylltu’n benodol â chynrychiolwyr o’r trydydd sector yn Llundain. Bydd y BCI yn sicrhau bod cynrychiolwyr adrannau gwahanol o gymdeithas yn cael eu cynnwys ar restr y rhai a wahoddir i ymateb er mwyn hybu trafodaeth ystyrlon.
Yn olaf, hoffem glywed gennych os bydd gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau am yr asesiad uchod. Rydym yn awyddus iawn i ddeall a ellid gwneud mwy i sicrhau'r effeithiau cadarnhaol gorau posibl o ran cydraddoldeb neu leihau'r effeithiau andwyol i’r eithaf. Bydd xxxx sylwadau’n cael eu cynnwys yn yr ymatebion ehangach a wneir fel
rhan o’r broses ymgynghori. Rydym wedi ymrwymo i gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a dderbynnir.
Dylech anfon unrhyw sylwadau a all fod gennych i xxxxxxxxxxxxxxxxxxxx@xxx.xxx.xx.
8. Rhowch fanylion sut y byddwch yn monitro, gwerthuso neu adolygu xxxx cynigion a phryd bydd yr adolygiad yn digwydd.
Mae'r ymgynghoriad yn parhau ar y cynigion polisi yn y ddogfen. Bydd Asesiadau Llawn o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael eu cwblhau'n ddiweddarach a bydd adborth o'r ymgynghoriad yn gymorth i gyfrannu at yr asesiadau hynny. Fel rhan o’r broses o gyhoeddi'r Strategaeth derfynol ar gyfer yr Ystad Sefydliadau Diogel, bydd cynllun gweithredu'n cael ei ddatblygu yn nodi sut bydd y Llywodraeth am weithredu'r ymrwymiadau a wnaethpwyd yn y strategaeth. Wrth ddatblygu'r cynigion polisi terfynol, yn ogystal â'r cynllun gweithredu hwn, bydd rhagor o Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael eu cwblhau ar gyfer pob xxxx gwaith a materion cydraddoldeb a ddynodir gan broses yr ymgynghoriad cyhoeddus a bydd Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer y strategaeth hon yn gymorth i gyfrannu at y cynigion polisi.
9. Crynodeb
Mae’r ddogfen ymgynghori, y Strategaeth ar gyfer yr Ystad Sefydliadau Diogel, yn amlinellu’r cynigion ar gyfer yr ystad sefydliadau diogel ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru a Lloegr yn ystod y cyfnod 2011/12 i 2014/15. Bydd y strategaeth hon yn galluogi'r BCI i gyflawni’i flaenoriaethau ac i osod agenda clir ar gyfer datblygu’r ystad sefydliadau diogel ar gyfer pobl ifanc xxx 18 oed. Ei phrif nod yw sicrhau bod y BCI yn cyflawni’i amcanion cyffredinol, sef:
- ailwampio’r ystad sefydliadau diogel i fod yn gydnaws â’r gostyngiad yn y galw
- parhau i wella’r cyfundrefnau a ddarperir ar gyfer pobl ifanc; a
- sicrhau bod ymrwymiadau’r adolygiad o wariant yn cael eu cyflawni.
Rhagwelir y bydd y cynigion polisi yn y ddogfen ymgynghori'n cael effaith gadarnhaol ar ddiwallu anghenion penodol pobl ifanc ar draws yr ystad sefydliadau diogel. Bydd crynodeb o ganlyniadau’r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi yn y man a bydd y Strategaeth a'r asesiadau perthnasol o'r effaith ar gydraddoldeb yn cael eu cwblhau a'u cyhoeddi.
Mae hyrwyddo cydraddoldeb, gweithio mewn ffordd nad yw’n gwahaniaethu a gwerthfawrogi amrywiaeth yn hanfodol. Bydd y BCI yn parhau i gasglu data am wahaniaethu ac yn adolygu gwybodaeth ansoddol er mwyn hyrwyddo ymarfer effeithiol.
Enw’r Uwch Reolwr: Xxx Xxxx Xxxxx: Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Dyddiad: Gorffennaf 2011