CCA Seilwaith Gwyrdd Caerdydd
CCA Seilwaith Gwyrdd Caerdydd
Gwarchod A Darparu Mannau Agored Mewn Datblygiadau Newydd
Nodyn Canllaw Technegol (NCT)
Drafft ymgynghori
Mehefin 2017
Seilwaith Gwyrdd Caerdydd: Gwarchod a Darparu Mannau Agored mewn Datblygiadau Newydd: Nodyn Cyfarwyddyd Technegol
Drafft Ymgynghori Mehefin 2017
Cynnwys
1.0 Cyflwyniad
1.1 Pwrpas y ddogfen hon
1.2 Ymgynghori
1.3 Statws y ddogfen hon
1.4 Diffiniadau
2.0 Cynllunio/ polisi arall
2.1 Cyflwyniad
2.2 Cynllun Gofodol Cymru
2.3 Polisi Cynllunio Cymru
2.4 Canllawiau Cynllunio
2.5 Cynllun Datblygu Lleol
2.6 Safon Man Agored Gwyrdd Lleol
3.0 Safonau ac Asesiad Mannau Agored
3.1 Astudiaeth Mannau Agored 2016
3.2 Dosbarthiad Mannau Agored
3.3 Xxxxxxx Xxxxxx Agored
3.4 Xxxxx Xxxxxx Agored
4.0 Gwarchod Mannau Agored
4.1 Asesu cynigion datblygu
4.2 Asesu’r ddarpariaeth leol bresennol (i)
4.3 Gwerth swyddogaethol neu amwynder mannau agored presennol
4.4 Ansawdd Mannau Agored
4.5 Gwerth Treftadaeth neu Gadwraeth Natur mannau agored
4.6 Cyfleusterau Cydadferol
5.0 Darparu mannau agored mewn datblygiadau newydd
5.1 Safonau’r ddarpariaeth
5.2 Mannau agored swyddogaethol
5.3 Mathau eraill o ddarpariaeth mannau agored
5.4 Dyluniad a chynllun mannau agored
6.0 Gofynion cyflwyniadau cynllunio ar gyfer mannau agored
6.1 Dogfennau Cyflwyno
6.2 Gwybodaeth fanwl sy’n ofynnol
7.0 Ôl-ofal o fannau agored
7.1 Dewisiadau ôl-ofal
7.2 Meini prawf allweddol ar gyfer trefniadau ôl-ofal
7.3 Mabwysiadu gan y Cyngor
7.4 Trefniadau amgen ar gyfer ôl-ofal o fannau agored
8.0 Rheoli gwaith adeiladu sy’n effeithio ar fannau agored a seilwaith gwyrdd ar safleoedd datblygu
8.1 Cynllunio’r cam adeiladu
8.2 Monitro’r gwaith adeiladu
8.3 Prif ddogfennau
8.3.1 Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (CRhAA)
8.3.2 Cynllun Gwarchod Adeiladu Seilwaith Gwyrdd (CGASG)
8.3.3 Arolwg a Chynllun Adnoddau Pridd
8.3.4 Strategaeth Rheoli Seilwaith Gwyrdd Strategol (SRhSGS)
8.4 Gwarchod Safle
8.5 Lleoli Adeiladau Safle
8.6 Diogelu coed sy’n eiddo i’r Cyngor ar neu gerllaw’r safle datblygu
8.7 Rhywogaethau anfrodorol ymledol ar safleoedd datblygu
8.8 Gwasanaethau a hawddfreintiau mewn mannau agored Atodiadau
Atodiad 1 Canllawiau ychwanegol ar ddyluniad a chynllun mannau agored Atodiad 2 Canllawiau ar ddyluniad, cynllun a rheolaeth darpariaeth chwaraeon
newydd
Atodiad 3 Canllawiau ar ddyluniad, cynllun a chynnal darpariaeth chwarae i blant Atodiad 4 Canllawiau ar ddarpariaeth i bobl ifanc yn eu harddegau a phlant hŷn Atodiad 5 Canllawiau ar ddarpariaeth o randiroedd a mannau tyfu cymunedol Atodiad 6 Y broses fabwysiadu i fan agored
Atodiad 7 Trin rhywogaethau anfrodorol ymledol ar safleoedd datblygu Atodiad 8 Rhestrau Gwirio Cynllunio
1.0 Cyflwyniad
1.1 Pwrpas y ddogfen hon
1.1.1 Dylid darllen y Nodyn Cyfarwyddyd Technegol (NCT) hwn ar ddarparu a gwarchod mannau agored ar y cyd â’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Seilwaith Gwyrdd. Mae hwn yn un o gyfres o Nodiadau Cyfarwyddyd Technegol sy'n rhoi gwybodaeth fanwl am gadw a darparu elfennau seilwaith gwyrdd mewn datblygiadau newydd.
1.1.2 Mae'r Canllawiau yn egluro dull y Cyngor o ymdrin â gwarchod yr ardaloedd presennol o fannau agored sy'n cyfrannu at adnoddau hamdden, amwynder neu gadwraeth natur y ddinas. Nodir ar ba sail yr asesir y ddarpariaeth o fannau agored ar gyfer datblygiadau tai newydd, gan gynnwys faint o fannau agored sydd i’w darparu a pha fath o ddarpariaeth a geisir.
1.1.3 Mae'n debygol y bydd y Canllawiau o fudd arbennig i'r rhai sy'n ystyried cynigion datblygu, sy’n cynnwys xxxxx xx xxxxx man agored xxx xx’n cynnig tai ychwanegol. Maent yn galluogi datblygwyr, tirfeddianwyr a gwrthwynebwyr posibl i ddeall sut mae'r Cyngor yn ystyried cynigion datblygu a safon y ddarpariaeth a geisir.
1.2 Ymgynghori
1.2.1 Bu’r Canllawiau Cynllunio Atodol Seilwaith Gwyrdd a’r Nodiadau Cyfarwyddyd Technegol yn cyd-fynd â hwy yn destun ymgynghori fel yr amlinellir yn Atodiad **. Mae Atodiad ** yn nodi’r prif newidiadau ac ymatebion eraill i’r sylwadau a dderbyniwyd. Cafodd ei gymeradwyo gan y Cyngor ar *****.
1.3 Statws y ddogfen hon
1.3.1 Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlC) yn cefnogi'r defnydd o Ganllawiau Cynllunio Atodol (CCA) i amlinellu’r canllawiau manwl ar y modd y defnyddir polisïau'r cynllun datblygu mewn amgylchiadau neu ardaloedd penodol. Rhaid i’r CCA fod yn gyson â pholisïau’r cynllun datblygu a chanllawiau polisi cynllunio cenedlaethol. Gellir eu hystyried fel ystyriaeth gynllunio berthnasol wrth wneud penderfyniadau cynllunio.
1.3.2 Mae’r NCT hwn yn ategu’r polisïau yng Nghynllun Datblygu Lleol Caerdydd 2006- 2026 sy’n ymwneud â Mannau Agored. Nodir y polisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol sy’n gysylltiedig â’r Canllawiau Cynllunio Atodol hyn yn adran 2.
1.3.3 Mae'r NCT hwn yn ymgorffori canfyddiadau'r asesiad diweddaraf o fannau agored yn y Sir (nodwch y dyddiad) (gweler Adran 3.0) ac mae'n disodli’r CCA Mannau Agored blaenorol a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Mai 2008.
1.3.4 Mae'r Canllawiau hyn yn berthnasol i xxx man agored o xxxx xxx union gerllaw’r ardal drefol. Dengys yr Adroddiad Asesiad Mannau Agored llawn leoliad ardaloedd o fannau agored o fewn y ddinas, ac mae ar gael fel dogfen gefndir ar wahân.
1.4 Diffiniadau
1.4.1 At ddibenion y ddogfen hon, mae'r diffiniadau canlynol yn berthnasol:
Man agored | Daw’r diffiniad canlynol o fannau agored o TAN16: Diffinnir man agored yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fel tir a gynlluniwyd fel gardd gyhoeddus neu a ddefnyddir gan y cyhoedd at ddibenion hamdden neu dir sy’n fynwent anarferedig At ddibenion y canllawiau hyn, dylid dehongli man agored i olygu unrhyw ofod agored x |
xxxxx i’r cyhoedd, gan gynnwys nid yn unig tir, ond hefyd arwynebeddau o ddŵr megis afonydd, camlesi, llynnoedd a chronfeydd dŵr sy’n cynnig cyfleoedd pwysig ar gyfer chwaraeon, hamdden a thwristiaeth, ac a allant hefyd weithredu fel amwynder gweledol, ac sydd hwyrach yn bwysig o ran cadwraeth a bioamrywiaeth. Gall fod gwerth fel amwynder yn perthyn i fannau sydd mewn perchnogaeth breifat er na fydd mynediad iddynt yn bosibl heb gytundeb y tirfeddiannwr. Mae mannau megis gerddi domestig yn berthnasol, gan fod lleoedd sy’n amddifad neu’n brin o erddi yn debygol o fod yn fwy dibynnol ar y ddarpariaeth o fannau cyhoeddus. | |
Man agored cyhoeddus | Defnyddir y term man agored cyhoeddus yn aml yn gyfnewidiol â'r term man agored ac mewn termau cyfreithiol, mae'r diffiniad yr un fath (gweler uchod). Mae’r mannau agored cyhoeddus sydd ym mherchenogaeth yr awdurdod lleol yn cael eu cynnal o xxx xxxxx ai: (a) dibenion adran 164 o Ddeddf Iechyd Cyhoeddus 1875 (tiroedd pleser); neu (b) yn unol ag adran 10 o Ddeddf Mannau Agored 1906 (dyletswydd awdurdod lleol i gynnal mannau agored a mynwentydd) Rhaid i unrhyw waredu o fannau agored cyhoeddus gydymffurfio â gofynion Deddf Llywodraeth Leol 1972 ac unrhyw ddiwygiadau dilynol. |
Mannau agored swyddogaethol | Mannau agored swyddogaethol yw gofod agored y gellir ei ddefnyddio at ddibenion hamdden diffiniedig neu aml ddefnyddiau. Bydd y rhain yn cynnwys defnyddiau chwaraeon a gweithgareddau hamdden ffurfiol ac anffurfiol, chwarae plant a darpariaeth ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau, xx x xxxx y cydbwysedd o ddefnyddiau difiniedig newid gydag amser yn ôl y galw lleol. |
Hamdden ffurfiol | Gweithgareddau chwaraeon awyr agored ffurfiol megis pêl-droed a chriced. Gall tir a ddynodwyd ar gyfer hamdden ffurfiol gynnwys |
caeau glaswellt artiffisial a 3G, mannau gwyrdd, cyrtiau a thraciau athletau, gan gynnwys cyfleusterau pwrpasol atodol megis llifoleuadau, ystafelloedd newid a pharcio cysylltiedig. Nid yw hamdden ffurfiol yn cynnwys cyrsiau golff, chwaraeon xxx do a chanolfannau hamdden. | |
Hamdden anffurfiol | Defnyddiau mannau agored anffurfiol fel cerdded, loncian, beicio, gemau pêl anffurfiol a hamdden gyffredinol. Gall tir a ddarperir ar gyfer hamdden anffurfiol gynnwys coridorau gwyrdd y gellir eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau hamdden egnïol oherwydd presenoldeb llwybr troed arwyneb caled parhaol. Gall y man agored gynnwys nodweddion dŵr neu SuDS lle dangosir bod y rhain yn gwasanaethu’r swyddogaeth hamdden. |
Tir amwynder | Nid oes gan dir amwynder ddefnydd ffurfiol nac anffurfiol diffiniedig ond gall wella gosodiad y datblygiad. Ni fydd ardaloedd amwynder yn cael eu cynnwys yn y cyfrifiad mannau agored swyddogaethol cyffredinol. |
Chwarae plant | Ardaloedd a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer chwarae plant gyda gweithgareddau chwarae sefydlog megis siglenni, sleidiau neu aml- unedau a/neu fwy o amgylcheddau chwarae mwy naturiol |
Cyfleusterau i bobl ifanc yn eu harddegau | Ardaloedd a gynlluniwyd ar gyfer defnydd pobl ifanc yn eu harddegau gan gynnwys Ardaloedd Gemau Amlddefnydd (MUGAs), parciau sgrialu, cyfarpar ffitrwydd awyr agored a llochesi. |
Rhandir | Tir sydd wedi ei ddynodi i ddiben tyfu a gaiff ei weinyddu o xxx y Deddfau Rhandiroedd. Yr Awdurdod Lleol a fyddai’n ymgymryd â dynodi tir fel rhandir statudol |
Tyfu cymunedol | Tir sydd wedi ei ddynodi i ddiben tyfu ond na chaiff ei weinyddu o xxx y Deddfau Rhandiroedd. |
2.0 Cynllunio/ polisi arall
2.1 Cyflwyniad
2.1.1 Mae’r adran hon yn amlinellu cynnwys polisi o ran sut mae mannau agored yn cael eu gwarchod a sut yr asesir cynigion datblygu sy'n golygu colli man agored. Cymerir i ystyriaeth y cyngor yng Nghynllun Gofodol Cymru (CGC), Polisi Cynllunio Cymru (PCC), Nodyn Cyngor Technegol 16, (TAN16), a darpariaethau Polisi C4 Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd 2006-2026 (CDLl).
2.1.2 Hefyd mae'r adran hon yn amlinellu cynnwys y polisi a ymgorfforir o ran sut yr asesir y ddarpariaeth mannau agored ar ddatblygiadau tai newydd. Ystyrir y cyngor ym Mholisi Cynllunio Cymru, TAN 16, a darpariaethau KP4 a C5 y CDLl.
2.1.3 Hefyd mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn darparu fframwaith deddfwriaethol lefel uchel ar gyfer gwarchod a darparu mannau agored mewn datblygiadau newydd, gan gydnabod sut y mae penderfyniadau a wneir yn y presennol yn cael effeithiau tymor hir yn y dyfodol. Dylai'r saith nod llesiant a’r pedair ffordd o weithio a amlinellir yn y Ddeddf fod yn sail i unrhyw ystyriaethau o ddarpariaeth mannau agored.
2.2 Cynllun Gofodol Cymru
2.2.1 Mae Pobl, Lleoedd, Dyfodol, Cynllun Gofodol Cymru (CGC) yn darparu cyd-destun a chyfeiriad teithio i Gynlluniau Datblygu Lleol ac yn amlinellu fframwaith strategol i lywio datblygiad ac ymyriadau polisi yn y dyfodol ar draws y Dywysogaeth. Amlyga’r CGC ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) i gymunedau o safon uchel, cynaliadwy gyda chysylltiadau da o fewn Dinas-Ranbarth de ddwyrain Cymru, sy'n
canolbwyntio ar ddinasoedd Caerdydd a Chasnewydd. Yn benodol, noda paragraff
19.371 (Gwerthfawrogi ein hamgylchedd):
'Xxx xxx y Ddinas-Ranbarth lawer i'w gynnig o ran ansawdd bywyd o'r radd flaenaf ac xxx xxxxx gwarchod a gwella hyn drwy:
• Gael y gorau o fywyd trefol o ansawdd uchel yn ogystal ag agosrwydd at gefn gwlad hardd, gan wneud y gorau o'r datblygiad metropolitan unigryw gwasgaredig dwysedd isel a mannau gwyrdd yn yr Ardal
2.3 Polisi Cynllunio Cymru
2.3.1 Gwarchod mannau agored: Xxx Xxxxxx Cynllunio Cymru2, argraffiad 9, (PCC) yn darparu canllawiau ar warchod mannau agored ym mhennod 11, Twristiaeth, Chwaraeon a Hamdden.Dengys y canllawiau ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi datblygiadau chwaraeon a hamdden. Amlinella'r polisïau ym Mholisi Cynllunio Cymru rôl y system gynllunio o ran darparu mannau hamdden ar gyfer chwaraeon a hamdden ffurfiol ac anffurfiol, a fydd yn cwrdd xx xxxxx y gymuned. Noda paragraff 11.1.10 Polisi Cynllunio Cymru2:
‘Dylai’r system gynllunio sicrhau y neilltuir digon o adnoddau tir a dŵr ar gyfer chwaraeon a hamdden ffurfiol ac anffurfiol, gan ystyried yr angen am fannau hamdden a lefel gyfredol y ddarpariaeth a’r diffygion, yn ogystal ag effaith datblygiadau sy’n gysylltiedig â chwaraeon a hamdden ar yr ardal leol ac ar gymunedau lleol. Rhaid ystyried hefyd rôl y cyrff dŵr wyneb wrth reoli perygl llifogydd.’
2.3.2 Hefyd dengys cynnwys polisi PCC ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i warchod mannau agored rhag datblygiad. Noda paragraff 11.1.112 PCC:
1 CGC diweddariad 2008
2 PCC argraffiad 9, Tachwedd 2016
‘Dylai mannau gwyrdd agored ffurfiol ac anffurfiol, gan gynnwys parciau sy’n hynod werthfawr o ran hamdden neu amwynder, gael eu diogelu rhag eu datblygu. Mae hynny’n arbennig o berthnasol mewn ardaloedd trefol, lle mae mannau o’r fath yn cyflawni sawl diben. Yn ogystal â chyfoethogi ansawdd bywyd, maent hefyd yn cyfrannu at fioamrywiaeth, cadwraeth natur a thirwedd, ac ansawdd aer, ac maent yn diogelu dŵr daear. Xxx xxx fannau agored o’r fath rôl i’w chwarae hefyd o ran diogelu’r hinsawdd a galluogi ardaloedd trefol i ymaddasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd, er enghraifft drwy gyfrannu at reoli llifogydd a helpu i leihau effeithiau ynysoedd gwres trefol.’
2.3.3 Mae canllawiau LlC hefyd yn annog awdurdodau cynllunio i warchod xxx cae chwarae, noda paragraff 11.1.122:
‘Dylid diogelu pob xxxx chwarae rhag cael ei ddatblygu, boed yn eiddo i gorff cyhoeddus, preifat neu wirfoddol ac eithrio:
• lle y gellir cadw a gwella cyfleusterau yn well drwy ailddatblygu xxxx xxxx o’r safle;
• lle y darperir darpariaeth arall o’r un xxxx i’r gymuned, neu
• lle y mae gormod o ddarpariaeth o’r fath yn yr ardal.’
2.3.4 Darparu mannau agored newydd: Mae PCC yn cydnabod y dylai datblygiadau tai ddarparu mannau agored ac y dylai’r cynlluniau gynnwys polisïau sy’n egluro pa ddarpariaeth a ddisgwylir ar gyfer mannau agored. Noda Paragraff 11.1.82:-
‘Dylai awdurdodau cynllunio ddarparu’r fframwaith ar gyfer cyfleusterau twristiaeth, chwaraeon a hamdden o ansawdd da, sydd hefyd wedi’u lleoli’n dda. Dylai’r mannau a’r cyfleusterau a ddarperir mewn ardaloedd gwledig a threfol fod yn sensitif i anghenion defnyddwyr, dylent gael eu cynnal a’u cadw yn dda a dylid eu diogelu rhag trosedd a fandaliaeth. Dylent fod yn ddiogel a hygyrch, gan gynnwys i gymunedau difreintiedig ac i bobl sy’n llai abl i symud, drwy amryw o ddulliau cynaliadwy o deithio, yn enwedig drwy gerdded, drwy feicio ac ar drafnidiaeth
gyhoeddus3. Ynddynt eu hunain, ac fel dull o gysylltu ag atyniadau eraill, mae llwybrau hirbell, hawliau tramwy, rheilffyrdd xxxxx a dyfrffyrdd yn gyfleusterau pwysig o ran hamdden a thwristiaeth.’
2.3.5 Noda Paragraff 11.1.102:
‘Dylai’r system gynllunio sicrhau y neilltuir digon o adnoddau tir a dŵr ar gyfer chwaraeon a hamdden ffurfiol ac anffurfiol, gan ystyried yr angen am fannau hamdden a lefel gyfredol y ddarpariaeth a’r diffygion, yn ogystal ag effaith datblygiadau sy’n gysylltiedig â chwaraeon a hamdden ar yr ardal leol ac ar gymunedau lleol. Rhaid ystyried hefyd rôl y cyrff dŵr wyneb wrth reoli perygl llifogydd.’
2.3.6 Dylai ystyriaeth o ddarpariaeth mannau agored hefyd ystyried yr angen i fodloni swyddogaethau eraill fel rhan o'r rhwydwaith seilwaith gwyrdd. Bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw dir agored a ddarperir o faint priodol ac mewn lleoliad addas i gael ei ddefnyddio gan y boblogaeth ddalgylch fwriadedig. Noda Paragraff 11.2.6:
‘Dylai cynlluniau datblygu annog defnydd amlbwrpas o fannau agored a chyfleusterau, pan fo hynny’n briodol, er mwyn eu defnyddio’n fwy effeithiol a lleihau’r angen i ddarparu cyfleusterau ychwanegol. Pan fo hynny’n bosibl, dylent sicrhau bod mannau agored a chyfleusterau adeiledig yn cael eu lleoli, eu dylunio a’u cynnal fel rhannau annatod o ddatblygiadau sydd eisoes yn bodoli a datblygiadau newydd, gyda’r bwriad o hyrwyddo eu defnydd a chwtogi ar drosedd a fandaliaeth.’
2.4 Canllawiau Cynllunio
2.4.1 Gwarchod mannau agored: Mae Canllawiau Cynllunio (Cymru) Nodyn Cyngor Technegol 16 Chwaraeon a Hamdden3 (TAN16) yn darparu canllawiau manwl ar
3 TAN 16, 2008 edition
gynllunio ar gyfer defnyddiau hamdden a chwaraeon a lefelau priodol o ddarpariaeth. Argymhellir safon ofynnol ar gyfer man chwarae awyr agored o 2.4 hectar (6 erw) am xxx 1,000 o'r boblogaeth. Mae hyn yn unol â'r canllawiau a osodwyd gan Fields in Trust (FIT, neu Gymdeithas Genedlaethol y Meysydd Chwarae gynt).
2.5 Cynllun Datblygu Lleol
2.5.1 Gwarchod mannau agored: Noda Polisi C4 y CDLl:
Ni chaniateir datblygiad ar ardaloedd o fannau agored oni bai:
i) Na fyddai'n achosi neu waethygu prinder mannau agored yn unol â'r astudiaeth mannau agored ddiweddaraf; xx
xx) Nad oes gan y man agored unrhyw xxxxx swyddogaethol neu amwynder sylweddol; ac
iii) Nad yw’r man agored o unrhyw ansawdd sylweddol; neu
iv) Bod y datblygwyr yn gwneud darpariaeth gydadferol foddhaol; ac, ym mhob achos;
v) Nad oes gan y man agored unrhyw bwysigrwydd natur neu gadwraeth hanesyddol sylweddol.
2.5.2 Noda'r testun ategol i Bolisi C4 y bydd y gwahanol fathau o fannau agored yng Nghaerdydd yn cael eu rhestru a'u hegluro yn fanwl yn y Canllawiau Cynllunio Atodol. At ddibenion y polisi hwn, mae man gwyrdd swyddogaethol yn cynnwys tir a all gynnwys defnyddiau hamdden ffurfiol ac/neu anffurfiol gan gynnwys defnydd chwaraeon a chwarae plant. Mae'r polisi'r un mor berthnasol i dir a oedd yn eiddo cyhoeddus neu breifat. Mae hefyd yn berthnasol i feysydd chwarae addysgol a bydd y rhain yn cael eu gwarchod ac eithrio lle gellir cadw a gwella cyfleusterau trwy ailddatblygu rhan fechan o'r safle, bod darpariaeth arall o fudd cymunedol cyfatebol ar gael, neu ble mae gormod o ddarpariaeth o'r fath yn yr ardal. Mae'r polisi'n
berthnasol i xxx ardal bresennol o fannau agored mewn ardal drefol neu gerllaw ardal o’r fath.
2.5.3 Darparu mannau agored newydd: Xxx Xxxxxx KP4 y CDLl (Dull Uwchgynllunio) yn rhoi set o egwyddorion i gyflenwi dull uwchgynllunio o ymdrin â safleoedd datblygu strategol a nodwyd yn y CDLl. Bwriad hyn yw darparu cyd-destun cyffredinol ar gyfer cynllun mwy manwl a gwaith gweithredu dilynol. Mae'r Polisi hwn yn berthnasol i xxx safle strategol ac unrhyw ddatblygiadau newydd mawr eraill a allai ddod i'r amlwg dros gyfnod y Cynllun. O fewn datblygiadau newydd pwysig, mae Egwyddor 8 o fewn y polisi yn ei gwneud yn ofynnol bod:
‘'Mannau agored gwyrdd amlswyddogaethol a chysylltiedig yn ffurfio cysylltiadau strategol pwysig i'r ardal gyfagos er mwyn darparu llwybrau i bobl a bywyd gwyllt, a mannau agored i chwaraeon, hamdden a chwarae.’
2.5.4 Xxx Xxxxxx KP2 yn rhoi manylion y safleoedd strategol a nodwyd yn y Cynllun Datblygu Lleol, gan gynnwys gofynion penodol ar gyfer mannau agored, hamdden awyr agored, chwarae a chwaraeon i blant, a ddylai lywio datblygiad y seilwaith gwyrdd a mannau agored o fewn y datblygiadau hyn.
2.5.5 Noda Polisi C5 y CDLl (Darpariaeth Mannau Agored, Hamdden Awyr Agored, Chwarae Plant a Chwaraeon):-
‘Ceisir darpariaeth ar gyfer mannau agored, hamdden awyr agored, chwarae plant a chwaraeon mewn cyswllt â'r xxxx ddatblygiadau preswyl newydd. Anelir y polisi hwn tuag at sicrhau darpariaeth neu wella mannau agored a hamdden awyr agored a chwaraeon priodol eraill mewn cyswllt â'r xxxx ddatblygiadau preswyl newydd dros 8 uned, a darpariaeth ar y safle o fannau agored swyddogaethol mewn cyswllt â'r xxxx ddatblygiadau preswyl newydd dros 14 o unedau. Mae’r swm priodol o fannau gwyrdd amlswyddogaethol yn seiliedig ar leiafswm o 2.43 hectar o fan agored swyddogaethol am xxx 1,000 o'r boblogaeth a ragwelir. Bydd yr xxxx ddarpariaeth
mannau agored eraill yn ychwanegol at ddarparu mannau gwyrdd amlswyddogaethol.’
2.5.6 Noda Polisi C5 ar ba sail yr asesir y ddarpariaeth mannau agored o fewn datblygiadau newydd. Mae'n berthnasol i safleoedd a nodir yng Nghynllun Datblygu Lleol Dinas Caerdydd a'r xxxx safleoedd datblygu newydd a all ddod i'r amlwg dros gyfnod y cynllun. Darpara'r polisi hwn lefel gwaelodlin o fannau agored sydd eu xxxxxx i ddibenion hamdden swyddogaethol, gan gynnwys dibenion chwarae plant, chwaraeon a thyfu cymunedol. Mae'n ofynnol i ddatblygwyr sicrhau y bydd preswylwyr y dyfodol yn cael mynediad at fannau agored sy'n gymesur â'u hanghenion.
2.5.7 Rhwymedigaethau Cynllunio
Noda Polisi KP7 (Rhwymedigaethau Cynllunio) y ceisir rhwymedigaethau cynllunio i liniaru unrhyw effeithiau uniongyrchol sy’n gysylltiedig â'r datblygiad. Cyfrifir y rhain ar sail datblygiadau unigol, a nodir y meini prawf ar gyfer y rhain yn y Canllawiau Cynllunio Atodol Rhwymedigaethau Cynllunio, y dylid eu darllen ar y cyd â'r ddogfen hon.
2.6 Safon Man Agored Gwyrdd Lleol
2.6.1 Nid yw PCC yn rhagnodi safonau penodol o ddarpariaeth mannau agored, ond mae'n annog Awdurdodau Lleol i ddatblygu eu safonau lleol eu hunain yn seiliedig ar y wybodaeth a gynhyrchir yn yr Asesiad Mannau Agored.
2.6.2 Xxx xxxxx Caerdydd yn seiliedig ar feini prawf meintiol, ansoddol a hygyrchedd yn seiliedig ar 'Feincnod Safonol' FIT o 2.43 hectar o fan agored swyddogaethol am xxx 1,000 o'r boblogaeth a ragwelir.
2.6.3 Dengys Tabl 1 fanylion y maint o ddarpariaeth mannau agored o xxxx x xxxxx. Ceir rhagor o fanylion am y ddarpariaeth a chyfrifiad o darpariaeth newydd neu gydadferol mannau agored yn y CCA Rhwymedigaethau Cynllunio.
Tabl 1: Xxxxx Xxxxxx Agored Caerdydd
Math | Swm | Dalgylch xxxxxxx xxxx |
Man agored (man gwyrdd swyddogaethol) yn cynnwys cymysgedd o’r canlynol: | 2.43 ha fesul 1000 o boblogaeth | Dibynnu ar y math o ddarpariaeth a wneir (gweler isod) |
• Tir gwastad addas i chwaraeon | 1.2 ha fesul 1000 o boblogaeth (gweler Atodiad 2) | 1000m |
• Chwarae plant | Ardal ddynodedig yn dibynnu ar fath. Lleiafswm ardal o ddarpariaeth chwarae plant pwrpasol yw 0.25 ha fesul 1000 o boblogaeth (gweler Atodiad 3) | Dylid ei ddarparu o fewn 400m i gartrefi |
• Cyfleusterau i bobl ifanc yn eu harddegau o BMX o MUGA o Llochesi i bobl ifanc yn eu harddegau o Parciau sgrialu | Ardal ddynodedig yn dibynnu ar fath lleiafswm ardal 0.3 ha fesul 1000 o boblogaeth (gweler Atodiad 4) | Dylid eu darparu o fewn 600m i gartrefi a’i leoli er mwyn xxxx unrhyw effaith negyddol o’u defnydd ar eiddo cyfagos. |
• Darpariaeth rhandiroedd/ tyfu Safleoedd strategol yn unig – ychwanegol at ddarpariaeth mannau agored. Safleoedd nad ydynt yn strategol, gellir gwneud darpariaeth o fewn y 2.43ha bob 1000 o'r boblogaeth gyda chytundeb. | Un safle rhandir 40 llain am xxx 1800 eiddo4, yn cynyddu pro rata yn ôl maint y datblygiad - safleoedd strategol yn unig. (Gweler Atodiad 5) | Dim meini prawf pellter |
4 CDLl Cyngor Caerdydd
3.0 Safonau ac Asesiad Mannau Agored
3.1 Astudiaeth Mannau Agored 2017
3.1.1 Ar y cyfan, xxx xxx Gaerdydd enw da fel dinas werdd, gydag amrywiaeth xxxx o fathau o fannau agored o xxx wahanol berchnogaeth. Cynhaliwyd asesiad llawn o'r xxxx fannau agored yng Nghaerdydd a bwriedir ei gwblhau yn gynnar yn 2017. Aseswyd mannau agored ar draws y ddinas a’u dosbarthu i ddarparu cronfa ddata ganolog y gellir ei diweddaru'n hawdd ac a fydd yn darparu data gwaelodlin ar gyfer xxxx ddadansoddi ac asesu mannau agored yn y dyfodol.
3.1.2 Mae'r asesiad yn darparu ystod o wahanol ddosbarthiadau ar gyfer mannau agored i gynorthwyo cymariaethau â data o’r gorffennol ac ar gyfer defnydd a dadansoddi yn y dyfodol. Yn Nhabl 2 drosodd ceir crynodeb o swm llawn y gwahanol fathau o fannau agored ar draws y ddinas yn seiliedig ar y deipoleg TAN 165 a hefyd mae’n dangos sut mae’r symiau hyn yn ymwneud â'r diffiniadau eraill a ddefnyddir yn yr Astudiaeth Mannau Agored. Disgrifir y dosbarthiadau yn fanylach isod.
3.1.3 Adolygir yr Astudiaeth Mannau Agored a’i diweddaru ar gyfnodau rheolaidd er mwyn darparu gwybodaeth gyfredol.
3.2 Dosbarthiad Mannau Agored
3.2.1 Teipoleg TAN16
Defnyddir teipoleg TAN16 i ddosbarthu pob man agored yng Nghaerdydd, waeth xxxx fo’i berchnogaeth. Mae'r dosbarthiad ychydig yn amwys gan fod rhai categorïau yn xxxx (e.e. parciau a gerddi), tra bod eraill yn fwy penodol (e.e. cyfleusterau chwaraeon awyr agored) a all ffurfio rhan o ddiffiniad ehangach. Am y rheswm hwn, yn yr Astudiaeth Mannau Agored, dosbarthwyd xxx man agored fel un sydd â math cynradd ac uwchradd.
.
5 Yn seiliedig ar ddyddiad asesu Ionawr 2017
3.2.2 Categorïau cynllunio
Mae dogfennau Canllawiau Cynllunio Atodol blaenorol ar gyfer Caerdydd wedi diffinio mannau agored o fewn y categorïau canlynol, sef yr unig gategorïau a fyddai'n cael eu mabwysiadu fel man agored gan y cyngor:
• hamdden ffurfiol
• hamdden anffurfiol
• gofod chwarae plant
• gofod amwynder
Darparwyd y dadansoddiad hwn er mwyn rhoi cymhariaeth gyda data hŷn, fodd bynnag mae swm sylweddol o dir o fewn y ddinas nad yw'n perthyn i’r un o'r categorïau hyn, yn enwedig gan nad y llwybr mabwysiadu traddodiadol xxxxxxx xx'r unig ffordd o gynnal darpariaeth mannau agored.
3.2.3 Mannau agored swyddogaethol/ gweledol
Man agored swyddogaethol yw man agored y gellir ei ddefnyddio i ddiben hamdden diffiniedig neu aml-ddefnydd, o’i gymharu â man agored gweledol sy'n gyffredinol anhygyrch.
3.2.4 Mannau gwyrdd naturiol hygyrch
Datblygodd Cyfoeth Naturiol Cymru Becyn Cymorth Mannau Gwyrdd i gynorthwyo awdurdodau lleol i gynllunio a gwella mannau gwyrdd naturiol ar gyfer pobl mewn trefi a dinasoedd. Mae'r Safonau Mannau Gwyrdd Naturiol Hygyrch yn rhan o'r Pecyn Cymorth a rhoddant ganllawiau i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwneud darpariaeth gytbwys o fannau gwyrdd o fewn cyrraedd pobl leol i gadw eu dinasyddion yn iach.
Bydd astudiaeth Mannau Agored Caerdydd yn darparu'r data i lywio datblygiad y map Mannau Gwyrdd Naturiol Hygyrch lleol a baratowyd gan CNC.
3.3 Ansawdd mannau agored
3.3.1 Cynhaliwyd asesiad o ansawdd a gwerth presennol mannau agored sy'n eiddo i’r awdurdod lleol ac a reolir ganddo drwy’r Gwasanaeth Parciau, sy'n gallu cyflenwi manylion am y fethodoleg ar gais. Caiff y sgoriau gwerth ansawdd ar gyfer pob man agored presennol eu mapio fel rhan o’r Astudiaeth Mannau Agored, er na fydd y data hwn ar xxxx xxx 2018.
3.3.2 Pennir y gymysgedd o ddarpariaeth mannau agored newydd gan y math o ddatblygiad ac argaeledd cyfleusterau presennol yng nghyffiniau'r datblygiad. Disgrifir y broses asesu yn Adran 4.0.
Tabl 2: Xxxxxx, symiau a diffiniadau o fannau agored
Teipoleg TAN 16 (Categori cynradd6) | Arwynebedd (ha) (Asesiad 2017) | Diffiniad o fan gwyrdd swyddogaethol/ gweledol | Arwynebedd (ha) (Asesiad 2017) | Categorïau cynllunio | (Asesiad 2017) | Man gwyrdd naturiol hygyrch (ddim yn gysylltiedig â chategorïau eraill) | Arwynebedd (ha) (Asesiad 2017) |
Parciau a Gerddi - | 574.07 | Man gwyrdd | Cyfanswm 738 | Hamdden | |||
diffiniad TAN 16 yn cynnwys | swyddogaethol | ha | anffurfiol – yn | ||||
parciau trefol a gerddi | Mae'r xxxx barciau a | cynnwys yr xxxx | |||||
ffurfiol. | gerddi, cyfleusterau | barciau a gerddi, | |||||
Eithriwyd parciau gwledig yn | chwaraeon awyr | coridorau gwyrdd | |||||
asesiad Caerdydd | agored, darpariaeth | a pheth gofod | |||||
Coridorau gwyrdd | chwarae/ i bobl | amwynder | |||||
gan gynnwys glannau | ifanc yn eu | ||||||
afonydd a chamlesi, llwybrau | harddegau a | ||||||
troed, llwybrau beicio, | choridorau gwyrdd | ||||||
llwybrau ceffylau, tir | yn fannau gwyrdd | ||||||
rheilffordd xxxxx a hawliau | swyddogaethol | ||||||
tramwy; gall y rhain gysylltu | |||||||
gwahanol ardaloedd o fewn a | |||||||
rhwng ardaloedd trefol. | |||||||
Efallai y byddant hefyd yn | |||||||
rhan o rwydwaith sy'n | |||||||
cysylltu ardaloedd trefol, | |||||||
neu’n eu cysylltu â'r wlad o | |||||||
amgylch. | |||||||
Cyfleusterau chwaraeon | 448.00 | Darpariaeth | |||||
awyr agored | hamdden ffurfiol | ||||||
(Gydag arwynebau naturiol | |||||||
neu artiffisial, perchnogaeth | |||||||
gyhoeddus neu breifat) - gan | |||||||
gynnwys cyrtiau tennis, | |||||||
lawntiau bowlio, meysydd |
6 Gweler 3.2.1
Teipoleg TAN 16 (Categori cynradd6) | Arwynebedd (ha) (Asesiad 2017) | Diffiniad o fan gwyrdd swyddogaethol/ gweledol | Arwynebedd (ha) (Asesiad 2017) | Categorïau cynllunio | Arwynebedd (ha) (Asesiad 2017) | Man gwyrdd naturiol hygyrch (ddim yn gysylltiedig â chategorïau eraill) | Arwynebedd (ha) (Asesiad 2017) |
chwaraeon, cyrsiau golff, traciau athletau a meysydd chwaraeon awyr agored eraill. (Mae diffiniad Caerdydd yn eithrio meysydd chwarae ysgolion a rhai sefydliadau eraill)) | |||||||
Darpariaeth i blant a phobl ifanc gan gynnwys mannau chwarae, meysydd ar gyfer chwarae ar olwynion, gan gynnwys sglefrfyrddio, mannau xxxxx pêl yn yr awyr agored, ac ardaloedd eraill llai ffurfiol (e.e. ardaloedd ‘cymdeithasu’, llochesi i bobl ifanc yn eu harddegau) | 10.17 | Chwarae plant | |||||
Mannau gwyrdd amwynder (yn fwyaf cyffredin, ond nid yn gyfan gwbl, mewn ardaloedd tai) - gan gynnwys mannau hamdden anffurfiol (preifat neu agored i'r cyhoedd), ymylon ffyrdd, mannau gwyrdd mewn ac o gwmpas tai ac eiddo eraill e.e. ysbytai, ysgolion a cholegau, safleoedd | 865.89 | Diffinnir ardaloedd o fannau amwynder fel rhai swyddogaethol os ydynt yn cynnwys llwybr neu fel arall yn hygyrch. Diffinnir yr xxxx fannau amwynder eraill fel rhai gweledol. | Amwynder |
Teipoleg TAN 16 (Categori cynradd6) | Arwynebedd (ha) (Asesiad 2017) | Diffiniad o fan gwyrdd swyddogaethol/ gweledol | Arwynebedd (ha) (Asesiad 2017) | Categorïau cynllunio | Arwynebedd (ha) (Asesiad 2017) | Man gwyrdd naturiol hygyrch (ddim yn gysylltiedig â chategorïau eraill) | Arwynebedd (ha) (Asesiad 2017) |
diwydiannol a busnes a meysydd pentref (Gerddi domestig wedi’u heithrio o ddiffiniad Caerdydd) | |||||||
Rhandiroedd ac ardaloedd tyfu cymunedol | 76.51 | amherthnasol | |||||
Mannau gwyrdd naturiol a lled naturiol gan gynnwys coetir, coedwigaeth drefol, prysgwydd, glaswelltir, tir mynediad agored (e.e. mynydd, gweundir, rhostir, twyndir, tir a dolydd comin) gwlyptiroedd, tir gwastraff a thir agored diffaith ac ardaloedd creigiog (e.e. clogwyni, chwareli a phyllau), a thir arfordirol | 8.69 | amherthnasol | |||||
Cefn gwlad hygyrch sy'n ffinio’n uniongyrchol neu â chysylltiad ag ardal drefol; | amherthnasol | ||||||
Man agored dinesig | 12.14 | amherthnasol | |||||
Dŵr | 332.57 | amherthnasol | |||||
Man agored addysgol wedi’i gynnwys o fewn darpariaeth ffurfiol yn TAN 16 | |||||||
Cyfanswm |
4.0 Gwarchod mannau agored
4.1 Asesu cynigion datblygu
4.1.1 Mae'r adran hon yn darparu canllawiau manwl ar y modd y mae'r Cyngor yn asesu cynigion datblygu sy'n golygu colli man agored. Y prif ffactorau yr asesir cynigion yn eu herbyn yw:-
i) Darpariaeth leol bresennol o fannau agored (4.2)
ii) Gwerth swyddogaethol neu amwynder y mannau agored (4.3)
iii) Ansawdd y mannau agored (4.4)
iv) Unrhyw bwysigrwydd cadwraeth natur neu hanesyddol sylweddol o fannau agored a all gael eu colli (4.5)
v) Unrhyw ddarpariaeth gydadferol am golli mannau agored (4.6)
4.2 Asesu’r ddarpariaeth leol bresennol (i)
4.2.1 Diffinnir man agored swyddogaethol yn adran 1.8. Gall fod mewn perchnogaeth gyhoeddus neu breifat, ond rhaid iddo fod ar gael at ddefnydd y cyhoedd i ddibenion hamdden ffurfiol/ anffurfiol, ar gyfer chwarae plant neu i'w ddefnyddio gan bobl ifanc yn eu harddegau. Mae man agored swyddogaethol yn cynnwys ardaloedd chwarae i blant gyda chyfarpar, mannau chwarae anffurfiol ac ardaloedd hamdden ffurfiol, megis caeau chwarae, lawntiau, traciau athletau, cyrtiau a thir addysgol a gynlluniwyd i ddarparu ar gyfer hamdden ffurfiol.
4.2.2 Ystyria'r broses asesu sut y mae cynnig datblygu'n effeithio ar ddarpariaeth mannau agored swyddogaethol yn yr ardal leol a hefyd y goblygiadau ehangach a fyddai'n achosi diffyg o fannau agored i’r ddinas gyfan.
4.2.3 Gwneir asesiad Ardal Leol drwy ddefnyddio set o bellteroedd xxxxxxx xxxx i wahanol gategorïau o fannau agored ar gyfer hamdden, er mwyn cyflawni dalgylch lleol a
fyddai'n cael ei effeithio gan golled o fan agored. Cymerir y pellter xxxxxxx xxxx o ganol y mannau agored ac mae’n rhoi radiws lle gellir archwilio’r ddarpariaeth o fannau agored swyddogaethol. Gweler isod yn Nhabl 3 y pellteroedd xxxxxxx xxxx i’r gwahanol gategorïau o fannau agored a ddefnyddir ar gyfer hamdden.
4.2.4 Rhaid addasu asesiadau i gynnwys unrhyw rwystrau i symudiad sy'n bodoli, megis prif ffyrdd, rheilffyrdd ac afonydd. Ym mhob achos, mae'n rhaid dangos nad effeithir yn andwyol gan y datblygiad ar fynediad lleol i amrywiaeth o fannau agored swyddogaethol.
Tabl 3: Pellteroedd Xxxxxxx Xxxx ar gyfer dadansoddiad o ddarpariaeth leol o fannau agored swyddogaethol.
Categori Man Agored Swyddogaethol | Pellter Xxxxxxx Xxxx o ganol y safle |
Ardaloedd Chwarae Plant gyda Chyfarpar Mae'n cynnwys ardaloedd chwarae gyda gweithgareddau chwarae sefydlog megis siglenni a sleidiau a lle chwarae glaswelltog neu gydag arwyneb ac ardaloedd wedi'u cynllunio i ddibenion chwarae gan ddefnyddio ffurf tir naturiol a nodweddion eraill | 600 metr |
Darpariaeth i bobl ifanc yn eu harddegau Ardaloedd a gynlluniwyd at ddefnydd pobl ifanc yn eu harddegau gan gynnwys ardaloedd gemau amlddefnydd (MUGAs), parciau sglefrio, cyfarpar ffitrwydd awyr agored a llochesi. | 1,000 metr |
Mannau Agored Hamdden Anffurfiol Yn cynnwys yr ardaloedd hynny er nad ydynt wedi’u marcio a’u gosod xxxxx ar gyfer gweithgareddau hamdden egnïol ffurfiol yn benodol, ond eu bod yn gallu darparu hamdden egnïol anffurfiol a chwarae plant. | 1,000 metr |
Mannau Agored Hamdden Ffurfiol Yn cynnwys ardaloedd o fannau agored wedi’u marcio a'u gosod xxxxx ar gyfer dibenion hamdden egnïol ffurfiol ac ar gael i'r cyhoedd, megis caeau chwaraeon, lawntiau, cyrtiau a thraciau athletau. | 1,500 metr |
4.2.5 Archwilir mannau agored swyddogaethol yn erbyn y safon ofynnol o 2.43 hectar am xxx 1,000 o'r boblogaeth fel y nodir ym Mholisi C5 o’r Cynllun Datblygu Lleol (gweler Adran 2.3.3).
4.2.6 Sefydlir poblogaeth y dalgylch dethol drwy adio'r ardaloedd cynnyrch sy'n cynnwys y ffit gorau o fewn y radiws dalgylch. Cyfrifir y canlyniad ar gyfer categori penodol o fannau agored hamdden drwy adio'r xxxx fannau agored o'r math hwnnw o fewn y radiws.
4.2.7 Mae Astudiaeth Mannau Agored Caerdydd, a ddisgrifir yn adran 3.2, yn rhoi'r cefndir i'r asesiad hwn ac mae ar gael fel dogfen ar wahân.
4.2.8 Gellir cynhyrchu gwerthusiad o'r mannau agored o fewn dalgylch datblygiad newydd drwy gymharu faint o fath penodol o fannau agored gyda'r isafswm o'r math hwnnw o fan agored a argymhellir yn y safon man agored (gweler Tabl 2) To be completed
4.2.9 Canfyddir y boblogaeth o fewn y radiws drwy adio'r dosbarthau cyfrifo ffit gorau o fewn y dalgylch.
4.3 Gwerth swyddogaethol neu amwynder mannau agored presennol
4.3.1 Mae asesiad x xxxxx swyddogaethol mannau agored yn rhan hanfodol o'r asesiad o ddarpariaeth mannau agored a ddisgrifir yn 4.2.
4.3.2 Bydd y broses asesu hefyd yn archwilio a yw cynnig datblygu'n effeithio ar y ddarpariaeth o fannau agored hamdden ac amwynder ar draws y ddinas. Xxx xxxx ardaloedd o fannau agored hamdden â phwysigrwydd ar draws y ddinas oherwydd bod ganddynt fwy na swyddogaeth hamdden xxxx xxx oherwydd eu nodweddion penodol. Mae mannau agored sydd â phwysigrwydd ar draws y ddinas yn cynnwys y rhai sydd â nifer fawr o gaeau chwaraeon sy’n cyflawni rôl ehangach na’r un leol a chyfleusterau "arbenigol", megis caeau chwarae artiffisial a stadia athletaidd, sy'n gyfyngedig o ran nifer ac sy’n rhoi darpariaeth i’r ddinas gyfan. Caiff yr ardaloedd hyn eu gwarchod oherwydd ystyrir y byddai colli ardaloedd o'r fath yn cael effaith niweidiol sylweddol ar y ddarpariaeth gyffredinol o fannau agored hamdden. Mewn amgylchiadau lle mae cyfleuster hamdden newydd dinas-gyfan i’w ddarparu, sydd â
darpariaeth gyfwerth, well neu fwy o gyfleusterau hamdden, yna gellir gwneud achos ar gyfer amnewid y cyfleusterau presennol. Yn yr achosion hyn, ni fyddai unrhyw effaith niweidiol ar y ddarpariaeth gyffredinol o fannau agored hamdden ar draws y ddinas.
4.3.3 Xxx xxx rai mannau agored xxxxx arbennig i amwynder yr ardal, er nad ydynt yn amlwg yn darparu manteision aml-swyddogaethol. Gall y rhain gynnwys:
• Coetiroedd
• Rhandiroedd
• Gerddi addurnol
• Mynwentydd
• Cyrff dŵr
• Cyfleusterau golff
• Mannau trefol
4.3.4 Gall nodweddion y mannau agored hyn amrywio'n sylweddol a gall eu gwerth amwynder penodol fod yn seiliedig ar ffactorau gwahanol. Bydd sail asesu gwerth amwynder ardal, boed yn fan agored hamdden neu fan agored amwynder, yn ymwneud â’r canlynol:
a) Amwynder gweledol - Er mwyn i safle feddu ar xxxxx amwynder gweledol, rhaid iddo gael ei leoli lle y gall y cyhoedd gael "mynediad gweledol" sylweddol ato. Rhaid iddo gyfrannu at gymeriad gweledol ac ansawdd amgylcheddol yr ardal gyfagos. Gwrthwynebir cynigion a fyddai'n cael effaith andwyol ar olwg mannau agored sy'n cyfrannu'n sylweddol at olwg weledol ardal.
b) Amwynder hamdden - Nid ystyrir coetiroedd, rhandiroedd, gerddi addurnol a hawliau tramwy cyhoeddus, trwy ddiffiniad, yn addas ar gyfer chwaraeon a hamdden egnïol. Fodd bynnag, gall mannau agored amwynder o'r fath
ddarparu adnodd mannau agored anffurfiol pwysig i bobl leol a chynnwys gweithgareddau goddefol megis cerdded, ymarfer cŵn ac astudiaethau natur. Mae pwysigrwydd ardaloedd o'r fath yn fwy os yw mannau agored hamdden ac amwynder eraill yn gyfyngedig yn yr ardal, neu os yw'r ardaloedd yn cyfrannu at y ddarpariaeth mannau agored ar draws y ddinas. Gwrthwynebir cynigion a fyddai'n achosi niwed annerbyniol i ardaloedd x xxxxx amwynder hamdden.
4.3.5 Mae gwerth amwynder rhai ardaloedd o fannau agored yn bwysig yn lleol ac yng nghyd-destun y ddinas gyfan, gan gynnwys parciau mawr fel Parc y Rhath a Pharc Bute a'r Parciau Gwledig a ddynodwyd yn Fferm y Fforest a Pharc Cefn Onn.
4.3.6 Mae coridorau afonydd Elái, Taf, Rhymni, Nant Fawr a Nant Glandulais yn darparu coridorau parhaus o fannau agored sy'n cysylltu'r ardal drefol â chefn gwlad. Er nad ydynt i gyd yn hygyrch i'r cyhoedd, mae’r ardaloedd hyn yn creu nodweddion o bwysigrwydd ar draws y ddinas, ac mae ganddynt y potensial ar gyfer gwelliannau pellach. Gwrthwynebir cynigion a allai achosi niwed annerbyniol i gyfanrwydd yr ardaloedd hyn. Ceir rhagor o wybodaeth berthnasol yn y CCA Coridorau Afon.
4.4 Ansawdd mannau agored
4.4.1 Mae’r Gwasanaeth Parciau yn defnyddio offeryn asesu gwerth ansawdd i asesu cyflwr cymharol a gwerth mannau agored presennol o fewn eu math. Gwrthwynebir cynigion sy'n effeithio ar fannau agored o ansawdd uchel ac/ neu x xxxxx uchel.
Gellir darparu manylion y dull asesu a sgoriau cyfartalog cyfredol ar gais.
4.5 Gwerth Treftadaeth neu Gadwraeth Natur mannau agored
4.5.1 Mae'r CCA Treftadaeth Adeiledig yn ymdrin ag effaith y datblygiad ar dreftadaeth sy'n gysylltiedig â mannau agored presennol, gan gynnwys yr effaith ar unrhyw
henebion cofrestredig, adeiladau neu strwythurau rhestredig a pharciau a gerddi hanesyddol cofrestredig. Bydd unrhyw asesiad o'r xxxxx xxxxx cyflwyno digon o wybodaeth i allu penderfynu ar effaith y datblygiad ar xxxxx treftadaeth y safle.
4.5.2 Mae'r Nodyn Cyfarwyddyd Technegol Ecoleg a Bioamrywiaeth yn amlinellu sut y bydd cynigion datblygu sy'n effeithio ar fuddiannau cadwraeth natur yn cael eu hasesu, ac mae’n ymhelaethu ar y fframwaith polisi statudol. I grynhoi, mae asesiad angen cyflwyno digon o fanylion er mwyn sefydlu p’un a fyddai datblygiad yn niweidio gwerth cadwraeth natur y safle. Bydd yn sefydlu pa mor dderbyniol yw unrhyw fesurau cydadferol arfaethedig a p’un a ellir gosod xxxx ar y cynnig i beidio ag achosi unrhyw niwed i fuddiannau cadwraeth natur yn ystod cyfnod datblygu'r safle.
4.5.2 Argymhellir cyfeirio at y Nodyn Cyfarwyddyd Technegol Ecoleg a Bioamrywiaeth os gallai cynnig datblygu effeithio, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ar fuddiannau cadwraeth natur.
4.5.3 Mae'r Nodyn Cyfarwyddyd Technegol ar gyfer Coed yn darparu gwybodaeth am effeithiau datblygiadau tai newydd hyd at berimedr coetir mewn ardaloedd presennol o fannau agored a sut y gellir lliniaru effeithiau andwyol. Ni fydd yn dderbyniol i gynnig strwythurau neu erddi mor agos at goetiroedd fel bod y coed ymyl angen eu tocio’n rheolaidd er mwyn eu gwneud yn dderbyniol i breswylwyr.
4.5.4 Os yw coetir cyfagos yn eiddo i’r Cyngor neu i gael ei drosglwyddo i'r Cyngor o xxx gytundeb cynllunio, bydd rhagdybiaeth o blaid i’r Cyngor gymryd drosodd y cyfrifoldeb am unrhyw barthau clustogi a ddarperir i liniaru effaith y datblygiad ar yr ardal goetir, yn amodol ar daliadau gohiriedig, ond dim ond os yw cynllun y datblygiad yn golygu bod hyn yn anochel. Os yw’r coetir mewn dwylo preifat a’i fod i aros felly, ni fydd yn briodol i’r llain clustogi drosglwyddo i'r Cyngor ac yn yr amgylchiadau hyn bydd yn ofynnol i'r datblygwr wneud trefniadau eraill ar gyfer
rheoli a chynnal y llain i foddhad yr awdurdod cynllunio. Bydd angen mynedfeydd priodol ar gyfer rheoli.
4.6 Cyfleusterau cydadferol
4.6.1 Lle y gallai cynnig datblygu sy’n cynnwys colli man agored achosi neu waethygu diffyg o fannau agored hamdden yn lleol neu ar draws y ddinas, gallai man agored cydadferol neu ddarpariaeth arall o fudd cymunedol cyfatebol fod yn dderbyniol. Ceir manylion am hyn yn y CCA Rhwymedigaethau Cynllunio.
5.0 Darparu mannau agored mewn datblygiadau newydd
5.1 Safonau’r ddarpariaeth
5.1.1 Bwriad yr adran hon yw rhoi set glir o ganllawiau i ddarparwyr ar gyfer darpariaeth a chynllun mannau agored, wedi’u hatgyfnerthu gan wybodaeth fanylach a ddarperir fel atodiadau i'r ddogfen hon. Bydd xxx safle xxxxx ateb dylunio unigol, ond mae llawer o'r canllawiau yn parhau i fod yn berthnasol, a dylid ei dilyn.
5.1.2 Prif nod y cynllun ddylai fod i greu mannau agored ansawdd uchel o faint ystyrlon, sy'n darparu cyfleoedd ar gyfer defnydd hamdden egnïol, cyfrannu'n gadarnhaol at olwg a swyddogaeth y datblygiad, darparu bioamrywiaeth a buddiannau amgylcheddol eraill, a mannau y gellir eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr hyfyw, gan addasu dros amser i anghenion y preswylwyr.
5.1.3 Asesir maint, ansawdd a hygyrchedd y ddarpariaeth mannau agored newydd yn erbyn y safonau a benderfynwyd yn adran 3.3. Ceir gwybodaeth fanwl am yr asesiad hwn yn y CCA Rhwymedigaethau Cynllunio.
5.2 Mannau agored swyddogaethol
5.2.1 Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud yn bennaf â dylunio mannau agored swyddogaethol (mannau agored sy'n gallu darparu ystod o ddefnydd hamdden), a all gynnwys chwaraeon ffurfiol ac anffurfiol, hamdden, chwarae i blant a darpariaeth ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau, er bod y cydbwysedd o ddefnyddiau a ddiffinnir yn gallu newid gydag amser yn ôl y galw lleol.
5.2.2 Fel arfer, ceisir mannau agored swyddogaethol ar-safle ar safleoedd datblygu mwy na 14 uned. Gellir derbyn arwynebedd â lleiafswm maint o 0.08ha fel man agored swyddogaethol, er na fydd y Cyngor fel arfer yn mabwysiadu arwynebedd sy’n llai na
0.2 hectar. Ceir manylion pellach o hyn yn y CCA Rhwymedigaethau Cynllunio.
5.3 Mathau eraill o ddarpariaeth mannau agored
5.3.1 Dylai mannau agored swyddogaethol gael eu hategu gan ardaloedd eraill o amwynder neu fannau agored gweledol, nad ydynt â swyddogaeth hamdden egnïol ond eu bod yn darparu amwynder gweledol ecolegol a llawer o fanteision eraill ar gyfer y datblygiad cyffredinol. Y nod ddylai fod i greu rhwydwaith sy'n cysylltu mannau gwyrdd drwy’r cyfan o’r datblygiad.
5.3.2 Rhaid i ddarpariaeth mannau agored ar ddatblygiad preswyl newydd ddiwallu anghenion preswylwyr y dyfodol a nodweddion arbennig y safle. Er enghraifft, os cynigir tai i deuluoedd, bydd yn ofynnol cael lle chwarae i blant gyda chyfarpar, ynghyd â mannau agored swyddogaethol ffurfiol ac anffurfiol i bobl ifanc ac oedolion. Dylid anelu at sicrhau bod gan bawb fynediad hawdd lleol at gyfleusterau hamdden a mannau agored ffurfiol ac anffurfiol, trwy ddulliau heblaw car.
5.3.3 Yn y blynyddoedd diweddar, mae’r mannau agored newydd a ddarparwyd yn sgil datblygiadau newydd wedi adlewyrchu’r nodweddion cadarnhaol a negyddol a amlinellir yn Nhabl 6 isod. Arweiniodd diffyg darpariaeth hamdden ffurfiol newydd mewn datblygiad at gynyddu dibyniaeth ar ardaloedd presennol o hamdden ffurfiol, sydd wedi cynyddu'r pwysau ar gyfleusterau presennol.
Tabl 6: Nodweddion cadarnhaol a negyddol mannau agored newydd
Nodweddion cadarnhaol | Nodweddion negyddol |
• Gwell cydgysylltedd rhwng mannau agored • Darpariaeth dda o ardaloedd chwarae i blant iau | • Mannau agored bach neu gul yn cynnig gwerth hamdden cyfyngedig • Ychydig iawn o fannau agored mawr sy'n gallu cefnogi defnydd aml-swyddogaeth |
• Darpariaeth gyfyngedig o hamdden ffurfiol (mannau nad ydynt yn ddigon mawr i gynnal caeau chwarae, ac ychydig o ystyriaeth wedi’i rhoi i'r math o chwaraeon a ddarperir, xxx do xxx yn yr awyr agored) | |
• Diffyg darpariaeth rhandiroedd newydd | |
• Diffyg darpariaeth i bobl ifanc yn eu harddegau a chyfleusterau i blant hŷn |
5.4 Dyluniad a chynllun mannau agored
5.4.1 Dylai pob man agored newydd gael ei gynllunio gan bensaer tirlun cymwysedig, gyda'r wybodaeth dechnegol i ddeall:
• sut fydd y man agored yn gwasanaethu’r boblogaeth a ragwelir
• nodweddion ffisegol y safle a'i effaith ar y dyluniad
• pa fesurau fydd eu xxxxxx xx mwyn amddiffyn y seilwaith gwyrdd presennol sydd i’w gadw
• dyluniad technegol pob elfen o’r tirlun caled a meddal
• rheolaeth tymor hir a datblygiad y man agored dros gyfnod o amser.
5.4.2 Amlinellir yr egwyddorion dylunio yn Nhabl 7 isod a dylid eu defnyddio fel canllawiau i gyflawni datblygiad mannau agored llwyddiannus.
Tabl 7: Egwyddorion dylunio ar gyfer cynllun man agored llwyddiannus
1. Dylunio integredig
Dylai seilwaith gwyrdd a mannau agored gael eu hintegreiddio i mewn i'r broses ddylunio o'r dechrau, cyn penderfynu ar gynllun yr adeiladau.
2. Lleoliad hygyrch
Oni bai y pennir fel arall gan nodweddion safle naturiol, dylai'r prif fannau agored gael eu lleoli’n ganolog xxx xxxx mynediad hawdd o xxx xxxx o'r datblygiad newydd (a datblygiadau cyfagos eraill lle bo’n briodol), gan ei wneud yn ganolbwynt canolog. Bydd hyn yn annog defnydd gan y gymuned gyfan ac yn helpu i gyfeirio ymwelwyr.
3. Maint priodol
Dylai'r prif fannau agored fod yn ddigon mawr i gynnwys amrywiaeth o swyddogaethau hamdden o fewn tirlun deniadol, gan alluogi hamdden egnïol sydd ddigon pell oddi wrth eiddo i leihau aflonyddwch.
4. Gwyliadwriaeth dda
Dylai mannau agored gael eu cynllunio gyda nifer o dai yn eu hwynebu fel eu bod yn darparu gwyliadwriaeth naturiol dda i greu ymdeimlad o berchnogaeth a diogelwch. Dylid osgoi ardaloedd a guddir yng nghornel y safle, neu sydd tu ôl i dai, gan fod hyn yn arwain at broblemau tymor hir o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gwelir mannau agored xxxx xxxxx o'r golwg ac yn anodd cael mynediad atynt fel bygythiad yn hytrach nag ased cadarnhaol gan breswylwyr.
5. Cynllun sythweledol
O fewn man agored dylai’r ardaloedd mwyaf gweithgar (e.e. mannau chwarae, mannau i bobl ifanc yn eu harddegau, seddi) fod mewn mannau gweladwy, ond yn ddigon pell oddi wrth eiddo er mwyn lleihau aflonyddwch (gweler y nodiadau ar elfennau dylunio unigol). Dylid dylunio mannau agored i ddefnyddio llinellau dymuniad, alinio llwybrau troed i lwybrau
allweddol, tra'n ceisio cadw lle defnyddiadwy rhwng llwybrau troed. Dylai hefyd fod yn hygyrch i gerbydau cynnal a chadw.
6. Defnydd amlswyddogaethol
Dylai mannau agored fod yn amlswyddogaethol a hyblyg i gymryd i ystyriaeth gwahanol anghenion y rhai sy'n byw, gweithio ac yn ymweld â'r ardal. Gall y cynllun esblygu dros amser i adlewyrchu anghenion newidiol y boblogaeth. Er enghraifft, efallai y bydd ardal a ddynodwyd ar gyfer hamdden a chaeau chwaraeon ffurfiol yn dod yn lle mwy anffurfiol wrth i'r galw newid gydag amser. Lle xx xxxx, dylai man agored ddarparu ystod o weithgareddau a buddion.
7. Gwydnwch a lliniaru
Gall mannau agored ymgorffori gwydnwch rhag newid yn yr hinsawdd, gan ddarparu lliniaru llifogydd mewn digwyddiadau eithafol er mwyn gwarchod adeiladau a seilwaith o gwmpas. Fodd bynnag, prif swyddogaeth man agored ddylai fod yn fan y gellir ei ddefnyddio’n weithredol ar gyfer hamdden, gyda chyflwr daear sy'n draenio'n dda yn caniatáu draeniad ac adferiad da ar ôl tywydd eithafol. Dylai’r dyluniad sicrhau na ddylai dŵr lifo o'r man agored i eiddo cyfagos ar xx xxxx.
8. Integreiddio nodweddion presennol
Lle bynnag y xx xxxx, dylai'r man agored geisio cadw ac integreiddio nodweddion naturiol a nodweddion safle er mwyn sicrhau mwy o gymeriad, tra’n dal i allu cwrdd â gofynion hamdden.
9. Cynaliadwyedd
Dylai mannau agored gael eu dylunio fel y gellir eu cynnal i safon uchel, heb fod angen gweithrediadau drud sy’n cymryd amser maith. Dylid eu dylunio gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy o ran cyrchu a'u gwydnwch dros amser, a chaniatáu mynediad i gerbydau cynnal a chadw.
10. Mynediad i bawb
Dylai mannau agored ddarparu ar gyfer anghenion pobl ag anableddau neu anghenion arbennig eraill drwy ddarpariaeth briodol ac/neu amgen. Dylai hefyd ddarparu ar gyfer amrywiaeth xxxx o oedrannau, i gynnwys darpariaeth i bobl hŷn (e.e. xxxxx xxxxx) a phlant a phobl ifanc (e.e. darpariaeth chwarae ffurfiol ac anffurfiol)
5.4.3 Maint y mannau agored
Ar ddatblygiadau newydd o dros 50 o dai, dylai un man agored fod yn ddigon mawr i gynnwys ystod o swyddogaethau hamdden o fewn amgylchedd deniadol, yn hytrach na nifer o ardaloedd bach a all gynnig gwerth hamdden cyfyngedig yn unig.
Fel canllaw cyffredinol, y math o swyddogaethau xxxx xxxxx eu cynnwys mewn man agored ddylai bennu’r isafswm arwynebedd sydd xx xxxxx. Er enghraifft xxx xxxxx i fan hamdden ffurfiol ystyried maint y caeau chwaraeon gan gynnwys dŵr ffo, lle
cylchdroi, mynediad llwybr troed, plannu/sgrinio, eitemau ategol eraill fel ystafelloedd newid a pharcio. Xxx xxxxx i fan agored sy'n cynnwys ardal chwarae ystyried nid yn unig y man chwarae, ond lle cylchdroi, plannu, parthau clustogi i dai a chyfleoedd anffurfiol eraill ar gyfer chwarae.
5.4.4 Gellir gweld gwybodaeth fanwl am ddyluniad a chynllun mannau agored yn yr atodiadau fel a ganlyn:
Atodiad 1: Dyluniad a chynllun man agored
Atodiad 2: Dyluniad a chynllun ddarpariaeth chwaraeon ffurfiol mewn man agored Atodiad 3: Dyluniad a chynllun darpariaeth chwarae plant mewn man agored Atodiad 4: Dyluniad a chynllun darpariaeth pobl ifanc yn eu harddegau mewn man agored
Atodiad 5: Dyluniad a chynllun darpariaeth o randiroedd a thyfu cymunedol mewn man agored
6.0 Gofynion cyflwyniadau cynllunio ar gyfer mannau agored
6.1 Dogfennau cyflwyno
6.1.1 Dylai gwybodaeth mannau agored a gyflwynir ar gyfer caniatâd cynllunio gynnwys y canlynol
• Lluniadau a dogfennau arolwg
• Lluniadau cynllun
• Lluniadau tirlun manwl, gan gynnwys adrannau lle xx xxxxx
• Gwybodaeth am lefelau
Os yw’r Cyngor i fabwysiadu’r man agored, bydd hefyd angen y canlynol
• Lluniadau adeiladu technegol
• Manylebau a rhestrau meintiau/ amserlenni lle xx xxxxx
• Gwybodaeth ategol arall, yn cynnwys manylion technegol gan gyflenwyr, a gwybodaeth am iechyd a diogelwch lle xx xxxxx
6.2 Gwybodaeth fanwl sy’n ofynnol
6.2.1 Fel rhan o'r cais cynllunio, bydd angen gwybodaeth fanwl am y canlynol lle mae man agored neu seilwaith gwyrdd presennol neu arfaethedig
Tynnu a chadw nodweddion presennol y safle Lefelau tir a pharatoi7
Draenio
Gwaith Tirlun Meddal Gwaith Tirlun Caled
Amserlen ar gyfer gweithredu Rheolaeth a Chynnal a Chadw
Ceir rhestr wirio fanwl yn Atodiad 8 i gynorthwyo gyda chasglu'r wybodaeth angenrheidiol.
7 Dylai gwybodaeth ffurfio rhan o'r Cynllun Adnoddau Pridd. Gweler gwybodaeth ychwanegol yn y Nodyn Dylunio Technegol Priddoedd a Datblygu
7.0 Ôl-ofal o fannau agored
7.1 Dewisiadau ôl-ofal
7.1.1 Mae tri dewis yn bodoli ar gyfer ôl-ofal o fan agored a seilwaith gwyrdd
• Mabwysiadu a chynnal a chadw / rheoli mannau agored / seilwaith gwyrdd gan y Cyngor
Bydd perchnogaeth y tir yn cael ei throsglwyddo, ynghyd â swm gohiriedig i dalu am reoli a chynnal y tir am gyfnod penodol o amser, ac ar ôl hynny bydd y cyfrifoldeb am ariannu'r ôl-ofal yn xxxx xxxx'r cyngor.
• Cynnal a chadw / rheolaeth o fan agored / seilwaith gwyrdd gan Gwmni Rheoli Preifat
Mae'r tir yn parhau i fod ym mherchenogaeth y datblygwr neu barti arall a phenodir busnes er elw preifat gan y tirfeddiannwr, yn cael ei gyllido fel arfer o dâl gwasanaeth y preswylwyr
• Cynnal a chadw / rheolaeth o fan agored / seilwaith gwyrdd gan
Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol a sefydlwyd at y diben hwnnw.
Caiff perchnogaeth y tir ei throsglwyddo i ymddiriedolaeth neu sefydliad nid-er- elw i reoli safle am byth, a reolir gan fwrdd o ymddiriedolwyr, ynghyd â chynrychiolwyr Cyngor, aelodau xxxx, preswylwyr a rhanddeiliaid eraill. Gall y cyllid ddod o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys cronfa waddol gychwynnol neu dâl gwasanaeth preswylwyr, gyda chyllid ychwanegol yn deillio o ddigwyddiadau cymunedol ayb.
7.1.2 Ym mhob un o'r opsiynau hyn, gellir cael amrywiadau yn y ffordd y mae rheolaeth / cynnal a chadw yn cael ei wneud, ond mewn egwyddor, byddai opsiwn 1 yn golygu y byddai perchnogaeth a chyfrifoldeb am y tir yn cael ei breinio’n gyfan gwbl gyda
Chyngor Caerdydd. Byddai Opsiynau 2 a 3 yn golygu nad oedd gan y Cyngor berchnogaeth neu gyfrifoldeb am y tir, ond byddai'r Cyngor yn dal i gadw cyfrifoldeb am ddelio ag unrhyw faterion cynllunio sy'n deillio o ddefnydd tir dilynol a goruchwylio materion draenio.
7.1.3 Rhaid i drefniadau ôl-ofal ar gyfer mannau agored sy'n deillio o ddatblygiadau newydd ystyried:
a) Cynnal a chadw - gweithrediadau ffisegol o ddydd i ddydd i gadw'r amgylchedd mewn cyflwr glân defnyddiadwy
b) Rheolaeth – yn y tymor byr - xxxxx xxxx materion cyhoeddus, e.e. archebion caeau chwaraeon, ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan weithio gyda phreswylwyr, awdurdodau statudol ac aelodau etholedig lleol; a buddsoddi hirdymor i wella lleoedd/ cyfleusterau dros amser mewn ymateb i anghenion y cyhoedd a blaenoriaethau sy'n newid.
c) Buddsoddi mewn Seilwaith – trwsio, amnewid ac uwchraddio asedau e.e. mannau chwarae neu gydrannau draenio allweddol xxxx xxxxx symiau cyfalaf mwy.
7.2 Meini prawf allweddol ar gyfer trefniadau ôl-ofal
7.2.1 Rhaid i unrhyw drefniadau ôl-ofal ar gyfer mannau agored fodloni'r meini prawf a amlinellir yn Nhabl 8 isod.
Tabl 8: Meini prawf ar gyfer trefniadau ôl-ofal
Rhaid i drefniadau ôl-ofal: |
1. Ymdrin â’r elfennau yn y man agored gan gynnwys: • Systemau draenio cynaliadwy (SUDS) • Man agored, gan gynnwys mannau chwarae, cyfleusterau pobl ifanc yn eu harddegau, meysydd chwaraeon a chyfleusterau newid, rhandiroedd a thyfu cymunedol • Seilwaith gwyrdd arall (coetiroedd, gwrychoedd, glaswelltir, rheoli rhywogaethau a warchodir a bioamrywiaeth eraill) • Rheoli hawliau tramwy cyhoeddus |
• Tirweddau priffyrdd, e.e. plannu coed stryd a lleiniau ymyl • Asedau eraill y gellid eu cynnwys e.e. celf gyhoeddus, tir y cyhoedd arall (e.e. sgwariau caled wedi'u tirlunio), nodweddion dŵr parhaol, seddi, goleuadau, arwyddion, biniau a dodrefn eraill ar y safle |
2 Ymdrin â phob un o'r tair lefel hanfodol o fuddsoddiad gweithredol • Cynnal a chadw asedau i'w cadw mewn cyflwr glân, gweithredol a defnyddiadwy • Rheoli asedau o rheoli digwyddiadau cyhoeddus, ymddygiad gwrthgymdeithasol, materion yn ymwneud â choed neu ddraenio, tresmasu, cysylltu â chlybiau chwaraeon, cyswllt parhaus gyda'r heddlu, awdurdodau statudol, Aelodau Lleol a'r etholwyr.(Yn draddodiadol, gwnaed y rolau hyn gan wasanaethau Parciau, Draenio a meysydd gwasanaeth eraill y Cyngor) o datblygiad tymor hir a gwella'r ased dros gyfnod o amser, ar y cyd â'r gymuned leol, er mwyn caniatáu i fannau agored gyrraedd eu potensial llawn ac ymateb i anghenion newidiol y boblogaeth • Buddsoddi mewn seilwaith dros gyfnod o amser drwy fuddsoddiad ychwanegol (e.e. cyfarpar chwarae, llwybrau troed, amnewid coed, offer draenio) i sicrhau bod y mannau agored yn parhau i weithredu ar lefel optimwm a diogel wrth i ddarnau cyfarpar gyrraedd ‘diwedd oes’. |
3. Darparu ar gyfer cynnwys y gymuned, drwy ganllawiau ceidwad cymunedol neu reolwr tir, y mae eu rôl yn cynnwys cyswllt gyda'r gymuned, a chyfranogiad ffisegol grwpiau cymunedol, i ddylanwadu ar sut mae’r seilwaith gwyrdd yn datblygu ac yn cael ei ddefnyddio dros gyfnod o amser. |
4. Caniatáu mynediad cyhoeddus agored yn hytrach nag ardaloedd sydd mewn ‘perchnogaeth’ grwpiau lleol a all fod yn ariannu eu gwaith cynnal a chadw, ac efallai ddim eisiau i bobl eraill ddefnyddio'r man agored |
5. Bod yn gadarn yn ariannol, xxxx xxxxx o adnoddau ariannol yn y tymor hir a chynllunio i gyflawni'r xxxx swyddogaethau uchod am byth |
7.3 Mabwysiadu gan y Cyngor
7.3.1 Mae Atodiad 6 yn darparu gwybodaeth fanwl am broses fabwysiadu mannau agored gan y Cyngor.
7.4 Trefniadau amgen ar gyfer ôl-ofal o fannau agored
7.4.1 Os cynigir model xxxxx xx Cwmni Rheoli preifat neu Ymddiriedolaeth Gymunedol ar gyfer ôl-ofal, bydd angen sefydlu mecanwaith cyllido diogel a nifer o fesurau gwarchod cyfreithiol.
7.4.2 Cyllid – byddai’n well cael mecanwaith cyllido hybrid sy'n cynnwys ardoll preswylwyr ar gyfer cynnal a chadw, gyda swm gohiriedig a delir gan y datblygwr ar gyfer projectau seilwaith mawr. Gallai dibynnu ar ardoll preswylwyr ar gyfer yr xxxx gyllid
xxxxxx at gostau uchel ac anrhagweladwy i breswylwyr ar gyfer amnewid y seilwaith yn y dyfodol.
7.4.3 Bydd angen diogelu unrhyw fecanwaith cyllido, boed yn ardoll preswylwyr neu gyfandaliad gohiriedig, petai’r cwmni yn methu, yn hytrach na chael xx xxxxx fel ased i Weinyddwr a benodwyd. Xxx xxxxx i'r arian fod ar gael i gyflogi cwmni arall neu i dalu i'r Cyngor am gymryd y gwaith ymlaen. Yn yr un modd, rhaid i'r tir gael ei ddiogelu rhag cael ei drosglwyddo i Stad y Goron mewn achos o fethiant cwmni.
7.4.3 Mesurau gwarchod cyfreithiol - Bydd angen mecanwaith cyfreithiol i ddarparu hawliau camu i mewn ar gyfer y Cyngor neu breswylwyr mewn achos o fethiant cwmni rheoli/ ymddiriedolaeth i oroesi’n ariannol neu i berfformio i safon ddigon uchel.
7.4.4 Nodir y rhwymedigaethau ariannol a chyfreithiol ar gyfer ôl-ofal mewn dogfennau adran 106 ar gyfer pob cynllun. Bydd y rhain yn cynnwys y manylion canlynol i'w cyflwyno i Gyngor Caerdydd am gymeradwyaeth
Manylion sydd eu xxxxxx gan ddatblygwyr ynghylch rheolaeth a chynnal a chadw: |
1. Cynllun rheoli a’r math o sefydliad i gael ei benodi Cynllun Rheoli sy'n dangos sut mae rheoli tymor hir a chynnal a chadw pob man agored i gael ei gyflwyno a'r math o sefydliad (cwmni rheoli, ymddiriedolaeth gymunedol, cwmni buddiant cymunedol neu endid arall) a fydd yn cael eu dynodi i reoli / cynnal a chadw. 2. Sefyllfa ariannol y sefydliad a benodwyd Dangos bod sefydliad o'r xxxx xx enw da ariannol digonol i gyflawni'r rhwymedigaethau sydd eu xxxxxx i gynnal y mannau agored 3. Cynigion mewn achos o fethu â chydymffurfio Cynigion diofyn mewn achos o Gynllun Rheoli o’r fath yn methu â dod yn weithredol neu i gael ei gynnal a'i gadw'n briodol am byth 4. Safon cynnal a chadw Y safon cynnal ar gyfer pob man agored. |
5. Mynediad at fannau agored
Darpariaeth ar gyfer mynediad i xxx man agored gan
• breswylwyr yn y datblygiad a'r cyhoedd yn gyffredinol
• Cyngor Caerdydd er mwyn archwilio a monitro’r safon rheoli
6. Cyswllt a enwir
Manylion y rheolwr a enwir sy'n gyfrifol am gysylltu â Chyngor Caerdydd, preswylwyr a phartïon eraill gan gynnwys Aelodau'r Xxxx
7. Manylion y gwasanaeth a thaliadau eraill
Manylion y taliadau gwasanaeth, rheoli neu daliadau ychwanegol i gael eu codi ar adeiladau/ preswylwyr yn y datblygiad ar gyfer rheoli a chynnal a chadw'r mannau agored a'r system draenio gynaliadwy lle bo'n berthnasol. Xxx xxxxx i hyn wahaniaethu'n glir rhwng taliadau y gellir eu priodoli i'r mannau agored a'r system draenio gynaliadwy
8. Angen posibl am aelodaeth rhannu cyffredinol neu offeryn arall gan y Cyngor
Lle cynigir bod trydydd parti yn rheoli'r mannau agored neu SuDS, bydd y cyfansoddiad, erthyglau neu ddogfennau rheoli eraill yn darparu (os yw'n ofynnol gan Gyngor Caerdydd) ar gyfer aelodaeth rhannu cyffredinol neu offeryn arall i fod yn xxxxx a’i weithredu’n unig pan fo diffyg gan y trydydd parti o ran ei rwymedigaethau rheoli neu gynnal a chadw unwaith y bydd y cynllun mannau neu SuDS agored yn cael ei drosglwyddo iddo
9. Hawliau camu i mewn pan fo diffyg
Hawliau camu i mewn gan Gyngor Caerdydd mewn achos o ddiffyg gan y perchnogion/ datblygwr neu eu hasiantau a benodwyd i reoli neu gynnal y mannau agored yn iawn, gyda chost gwneud hynny yn dod yn ddyledus i Gyngor Caerdydd ar gais
Unwaith y bydd y trosglwyddiad wedi ei gwblhau i'r sefydliad penodedig sy’n gyfrifol am reoli a chynnal a chadw, bydd angen y canlynol:
1. cyfamod i ganiatáu mynediad i'r cyhoedd ar xxx xxxx xx x xxxxx'r mannau agored yn unol â thelerau'r Cynllun Rheoli.
2. rhwymedigaeth i roi hawddfreintiau priodol mewn perthynas â'r SUDS
3. cyfyngiad priodol ar y gofrestrfa tir a fydd yn ymddangos ar y teitl i'r Man Agored, i sicrhau ei bod yn ofynnol i unrhyw olynwyr mewn teitl i'r Man Agored ymrwymo i wneud cyfamod â Chyngor Caerdydd i gadw at a gweithredu telerau'r Cynllun Rheoli a gymeradwywyd
8.0 Rheoli gwaith adeiladu sy’n effeithio ar fannau agored a seilwaith gwyrdd ar safleoedd datblygu
8.1 Cynllunio’r cam adeiladu
8.1.1 Nod y broses adeiladu a rheoli yw trosi'r manylion a gytunwyd yn ystod y cam cynllunio yn ddarpariaeth ar y safle, o ran gwarchod seilwaith gwyrdd, priddoedd, coed ac elfennau eraill presennol, hyd at adeiladu tirlun caled a meddal newydd i'r xxxxx xx'n ofynnol ar gyfer mabwysiadu neu gynnal a chadw tymor hir.
8.1.2 Xxx xxxxx i’r broses hon gymryd i ystyriaeth y newid sylweddol mewn personél o’r cam Cynllunio i’r cam Adeiladu. Xxx xxxxx cyfathrebu gwybodaeth yn glir i reolwr safle’r prif gontractwr yn y cyfnod cyn cychwyn y gwaith (gan gynnwys dymchwel), a rhoi strwythur yn ei le i alluogi trosglwyddo'r wybodaeth hon i'r staff eraill sy'n ymwneud â'r broses adeiladu. Bydd hyn hefyd yn golygu archwiliadau rheolaidd, canllawiau a chyflwyno adroddiadau monitro yn ôl y gofyn gan wyddonydd pridd ymgynghorol, coedyddwr, ecolegydd a dylunydd tirlun/ clerc gwaith, i oresgyn problemau ar y safle a dangos cydymffurfiaeth â dogfennau cynllunio. Dylai'r broses hefyd gael ei monitro gan arolygwyr y Cyngor.
8.1.3 Oni bai y gwneir y broses hon mewn ffordd strwythuredig ac effeithiol, yn anaml iawn y cyflawnir amcanion y broses gynllunio o ran darparu mannau agored a seilwaith gwyrdd i'r safon ofynnol.
8.2 Monitro’r gwaith adeiladu
8.2.1 Bydd yn ofynnol monitro drwy gydol y broses adeiladu ac yn enwedig ar gyfnodau allweddol:
• I gymeradwyo gosod xxxxx mesurau gwarchod coed a seilwaith gwyrdd arall, cyn y gwaith dymchwel ac adeiladu (a ddilynir gan fonitro parhaus)
• Wrth sefydlu adeiladau ar y safle a ffyrdd cludo
• Ar ddechrau pob cyfnod newydd o'r datblygiad
• Ar ôl cwblhau'r gwaith isbriddo ar xxx man agored a chyn gosod uwchbridd
• Wrth gychwyn ac wrth gwblhau plannu
• Ar ôl cwblhau xxx man agored yn ymarferol
• Ar ôl cwblhau a throsglwyddo pob man agored yn derfynol
8.3 Prif ddogfennau
8.3.1 Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (CRhAA)
Dylai'r ddogfen hon nodi rheolaeth y safle yn ystod y gwaith adeiladu, gan gynnwys rhaglen weithredu, rheoli traffig, manylion adeiladau gwaith a chyfarpar, storio deunydd, cynllun draenio adeiladu, a Chynllun Gwarchod Adeiladu Seilwaith Gwyrdd.
8.3.2 Cynllun Gwarchod Adeiladu Seilwaith Gwyrdd (CGASG)
Dylai’r lluniad hwn neu gyfres o luniadau ddangos y mesurau sydd eu xxxxxx ar y safle yn ystod gwaith adeiladu ar gyfer diogelu ecolegol, coedyddiaeth, tirlun, pridd, mannau agored, a SUDS, gan gynnwys elfennau presennol a'r rhai y bwriedir eu creu a'u gwella. Dylai'r CGASG gyd-fynd â'r Asesiad Effaith Coedyddiaeth, Datganiad Dull Coedyddiaeth a Chynllun Amddiffyn Coed a gymeradwywyd. Xxxxx’r datblygiad gydymffurfio’n llawn â'r rhain, oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig gyda'r Cyngor.
Ceir rhagor o wybodaeth am y gofyniad hwn yn y Nodyn Cyfarwyddyd Technegol Coed a Datblygu.
8.3.3 Arolwg a Chynllun Adnoddau Pridd
Mae cynlluniau mannau agored sy'n cynnwys gwarchod, dileu, symud, storio neu wella priddoedd angen arolwg adnodd pridd (AAP) a chynllun adnodd pridd (CAP). Dylai hyn gyd-fynd â'r "Cod Ymarfer Adeiladu ar gyfer Defnydd Cynaliadwy o Briddoedd ar Safleoedd Adeiladu" (Defra 2009 neu unrhyw ddiweddariadau dilynol). Am wybodaeth xxxxxxx gweler y Nodyn Cyfarwyddyd Technegol Priddoedd a Datblygu.
8.3.4 Strategaeth Rheoli Seilwaith Gwyrdd Strategol (SRhSGS)
Dylai'r ddogfen hon nodi manylion cyflenwi, sefydlu, rheoli parhaus a monitro seilwaith gwyrdd.
8.4 Gwarchod Safle
8.4.1 Dylai ardaloedd o seilwaith gwyrdd gan gynnwys mannau agored neu gynefinoedd gwarchodedig presennol gael eu ffensio gan y datblygwr yn ystod gwaith adeiladu oni bai bod y datblygwr yn derbyn caniatâd ymlaen llaw gan y Cyngor. Dylid nodi hyn yn y Cynllun Gwarchod Adeiladu Seilwaith Gwyrdd (CGASG) a’r Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu.
8.5 Lleoli adeiladau safle
8.5.1 Mae lleoliad adeiladau safle, mannau parcio a storio ar dir a ddynodwyd ar gyfer mannau agored neu ardaloedd seilwaith gwyrdd cadwedig eraill yn arwain at broblemau tymor hir gyda chywasgu a difrod i strwythur y pridd, sy'n aml yn anodd ac yn ddrud i'w lliniaru. Arweinia hyn at broblemau draenio tymor hir ac anhawster i sefydlu coed a llystyfiant arall.
8.5.2 Ar safleoedd xxxx glas, xxx x xxxx mawr i gadw tir ar gyfer mannau agored newydd ar ei ffurf 'amaethyddol' gwreiddiol lle mae proffil pridd a draeniad wedi ffurfio dros gyfnod sylweddol o amser, yn hytrach na stripio uwchbridd, cywasgu’r safle ac yna ceisio ailadeiladu, a all fod yn ddrud a chymryd llawer o amser, ac sy’n aflwyddiannus yn aml. Y dewis gorau yw lleoli adeiladau a ffyrdd cludo ar ardaloedd a fydd yn y pen draw yn ardaloedd adeiladu caled (xxx xxx ffyrdd).
8.5.3 Oni chytunir yn ysgrifenedig gyda'r Cyngor, dylai’r datblygwr osgoi lleoli adeiladau’r adeiladwyr, ardal storio, man parcio neu fynediad at unrhyw ran o'r seilwaith gwyrdd, gan gynnwys tir a ddynodwyd ar gyfer adeiladu mannau agored lle mae
eisoes wedi’i ffurfio o uwchbridd, isbridd neu wedi’i osod fel tirlun meddal. Pe caniateir gwaith adeiladu ar yr ardaloedd uchod, bydd angen manyleb fanwl sy'n dangos sut y gall yr ardal ddarparu man agored sy'n draenio'n rhwydd, yn unol â'r cynllun adnoddau pridd.
8.5.4 Pan fo tir a ddynodwyd ar gyfer adeiladu mannau agored wedi ei osod ar hyn x xxxx fel arwyneb xxxxx xxx sylfeini adeilad, mae’r un peth yn wir pan fydd yr arwyneb caled a/neu sylfeini wedi eu tynnu a’r gwaith adeiladu wedi cychwyn, gan gynnwys paratoi ar gyfer isbriddo.
8.6 Diogelu coed sy’n eiddo i’r Cyngor ar neu gerllaw’r safle datblygu
8.6.1 Rhaid i goed sy'n eiddo i'r Cyngor ar neu gerllaw’r safle, y gall y datblygiad effeithio arnynt, gael eu gwarchod mewn modd addas, yn unol â'r Cynllun Gwarchod Coed a dogfennau eraill. Dylai hyn gynnwys y canlynol:
• Cynnwys y coed sydd ym mherchnogaeth y Cyngor mewn unrhyw Asesiad Effaith Coedyddiaeth, Datganiad Dull Coedyddiaeth a Chynllun Gwarchod Coed, gyda manylion am fonitro yn ystod y gwaith adeiladu gan goedyddwr neu xxxxxx â chymwysterau addas tan y cwblhau terfynol. Dylai hwn ddangos sut mae'r mesurau gwarchod coed cymeradwy wedi cael eu bodloni.
• Hysbysiad i Swyddog Coed y Parciau neu Gynllunio y gall coed sy'n eiddo i'r Cyngor gael eu heffeithio gan y datblygiad
• Cyn cychwyn unrhyw waith ar y safle, gan gynnwys dymchwel, bydd y datblygwr yn cyfarfod gyda Swyddog Coed y Cyngor ar ôl rhoi cyfnod rhybudd o leiaf saith niwrnod i gytuno ar fesurau gwarchod coed a nodir ar y safle
• Ni leolir adeiladau adeiladwyr, adeiladau dros dro, ardal storio, man parcio neu ffordd fynediad o fewn yr ardal gwarchod gwreiddiau a gytunwyd, neu ardal arall a nodir yn y Cynllun Gwarchod Coed yn ystod y gwaith adeiladu, oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig gyda'r Cyngor.
8.6.2 Os, xx xxxx y Cyngor, bod y Datblygwr yn methu â chydymffurfio â'r rhwymedigaethau a nodir yn y Datganiad Dull Coedyddiaeth a'r Cynllun Gwarchod Coed a gymeradwywyd a’r cyfarfod gwarchod coed cyn cychwyn, gan arwain at ddifrod i Goed y Cyngor ar neu gerllaw’r safle, gall y Cyngor ddarparu asesiad ysgrifenedig o'r difrod a’r costau xxxxx yn seiliedig ar ddull CAVAT, gyda'r gost o wneud hynny yn ddyledus gan y Datblygwr i'r Cyngor ar gais.
8.7 Rhywogaethau anfrodorol ymledol ar safleoedd datblygu
8.7.1 Rhywogaethau anfrodorol ymledol yw'r rhai a gyflwynwyd i'r DU, sy’n addas iawn i'r amodau sydd ar gael, ac wedi ymledu’n gyflym, gan nad oes unrhyw fecanweithiau rheoli, neu dim ond rheolaeth fach iawn. Achosodd hyn broblemau economaidd, cymdeithasol neu ecolegol mewn llawer o leoliadau.
8.7.2 Nodir y rhywogaethau ymledol yn Neddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Xxxx XX o Atodlen 9 ac unrhyw ddiweddariadau dilynol) ac maent yn cynnwys Llysiau’r Dial, Jac y Neidiwr, Efwr Enfawr, Llysiau'r Gingroen a Rhododendron ponticum. Ceir rhestr gyfredol o rywogaethau ymledol ar wefan NNNS (rhywogaethau anfrodorol
ymledol) 8.
8.7.3 Mae’n hanfodol gwaredu a rheoli deunydd planhigion rhywogaethau ymledol mewn modd cywir yn unol â'r arferion gorau cyfredol er mwyn:
a) Xxxx lledaenu o fewn y safle ac osgoi halogi mannau cyhoeddus/ preifat yn y tymor hir
b) Xxxx lledaenu y tu hwnt i'r safle
8.7.4 Os oes amheuaeth, dylai'r datblygwr xxx amser gysylltu â'r asiantaeth berthnasol i gael cyngor ar y gofynion cyfredol ar gyfer gwaredu a thrin (gan gynnwys rheoli
8 NNNS xxx.xxxxxxxxxxxxxxxx.xxx
8.7.5 Xxx xxx Lysiau’r Dial yn enwedig y potensial i greu problemau tymor hir, yn ffisegol ar y safle ac o ran effeithio’n andwyol ar werthiant eiddo oni bai y rhoddir y mesurau cywir yn eu lle.
8.7.6 Ceir gwybodaeth fanwl am driniaeth rhywogaethau planhigion anfrodorol ymledol yn Atodiad 7.
8.8 Gwasanaethau a hawddfreintiau mewn mannau agored
8.8.1 Ni chaiff y gwasanaethau a/neu hawddfreintiau canlynol fynd uwchben, oddi tan na thrwy'r mannau agored/ seilwaith gwyrdd heb ganiatâd ysgrifenedig y Cyngor
• Llwybr unrhyw bibell, carthffos, draen, cwrs dŵr, cebl, gwifren neu gyfrwng arall
ar gyfer darparu trydan, nwy, dŵr, telathrebu, neu ddraenio ar gyfer y datblygiad
• Hawddfraint neu fforddfraint ar gyfer darparu, cynnal a chadw neu ailosod unrhyw wasanaethau
8.8.2 Pan fo’r Cyngor yn cymeradwyo gosod gwasanaethau neu fforddfraint, bydd angen y wybodaeth ganlynol:
9 Canllawiau defnyddiol ar reoli chwyn ymledol ar gael gan
1 Nodyn Canllawiau PCA " Legislation and Policy for Invasive Non-native Plant Species including Japanese Knotweed” 2 “Darpariaethau Rheoli Rhywogaethau" Llywodraeth Cymru Ionawr 2016 (cod ymarfer drafft ar hyn x xxxx)
Dylid trin Llysiau’r Dial yn unol â’r dogfennau canlynol:
1 “Rheoliadau Rheoli Llysiau’r Dial mewn Contractau Adeiladu a Thirwedd" (Llywodraeth Cymru 2011 – lawrlwytho o xxx.xxxxx.xxx)
2 “Japanese Knoweed and Residential Property” (RICS 2012 - lawrlwytho o xxx.xxxx.xxx i aelodau RICS)
3 Property Care Association “Code of Practice for the Management of Japanese Knoweed”
Dylid trin Jac y Neidiwr yn unol â’r dogfennau canlynol:
1 Property Care Association “Guidance Note on treatment of Jac y Neidiwr”
2 Xxxxx, Xxxxxxx and Xxxxxxxx (2008) Best practice Guidelines Himalayan Balsam”
Dylid trin yr Efwr Enfawr yn unol â’r dogfennau canlynol:
1 Property Care Association “Guidance Note on treatment of Giant Hogweed”
2 2 Xxxxx, Xxxxxxx and Xxxxxxxx (2008) “Best practice Guidelines Giant Hogweed”
Mae gwybodaeth arall ar gael gan CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru) a RICS (Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig)
• Y dull o weithio a rhaglen waith i gael eu defnyddio wrth ddarparu, cynnal neu ailosod y gwasanaethau
• Y dull o xxxxx tir i'w gyflwr gwreiddiol neu well ar ôl cwblhau'r gwaith
• Bydd angen i'r Datblygwr gysylltu â'r Cyngor i sefydlu a oes angen trwydded neu ganiatâd i'r gwaith
8.8.3 Rhaid i’r xxxx xxxxx xx’n ymwneud â darparu, cynnal ac/neu ailosod gwasanaethau gael ei wneud yn gyflym a chyda cyn lleied o niwed â phosibl. Dylai'r man agored neu seilwaith gwyrdd gael ei xxxxx yn ddi-oed ac i foddhad cyflawn y Cyngor.
Atodiadau
Atodiad 1 Canllawiau ychwanegol ar ddyluniad a chynllun mannau agored Atodiad 2 Canllawiau ar ddyluniad, cynllun a rheolaeth darpariaeth chwaraeon
newydd
Atodiad 3 Canllawiau ar ddyluniad, cynllun a chynnal darpariaeth chwarae i blant Atodiad 4 Canllawiau ar ddarpariaeth i bobl ifanc yn eu harddegau a phlant hŷn Atodiad 5 Canllawiau ar ddarpariaeth o randiroedd a mannau tyfu cymunedol Atodiad 6 Y broses fabwysiadu i fan agored
Atodiad 7 Trin rhywogaethau anfrodorol ymledol ar safleoedd datblygu Atodiad 8 Rhestrau Gwirio Cynllunio
Atodiad 1: Canllawiau ychwanegol ar ddyluniad a chynllun mannau agored A1.1 Yn gyffredinol
Mae’r Atodiad hwn yn darparu gwybodaeth atodol am ddyluniad cyffredinol a
chynllun mannau agored o xxx y penawdau canlynol:
A1.2 Llwybrau troed a thriniaethau arwyneb A1.3 Ffensys a ffiniau
A1.4 Seddi
A1.5 Biniau sbwriel
A1.6 Modelu daear a draenio A1.7 Tirlun meddal
A1.2 Llwybrau troed a thriniaethau arwyneb
a) Yn gyffredinol:
Dylai dyluniad llwybrau troed ystyried mynediad gan gerbydau cynnal a chadw, yn ogystal â cherddwyr, gan sicrhau bod llwybrau a gynlluniwyd i gario symudiadau cerbydau o adeiladwaith, dyfnder a lled cywir.
b) Defnydd a rennir
Dylai llwybrau troed a gynlluniwyd ar gyfer defnydd deuol i gerddwyr a beicwyr gael eu cynllunio a'u gosod xxxxx i fwyafu diogelwch ac osgoi gwrthdaro traffig.
c) Lled llwybrau a argymhellir
Ar lwybrau prysur, mae mannau pasio yn arbennig o bwysig. Lle bo'n briodol gall y rhain hefyd ddarparu seddi. Dylai llwybrau sy’n rhedeg ger ochr adeiladau gael eu dylunio i ystyried ffenestri sy'n agor tuag xxxxx.
Math | Angen mynediad cynnal a chadw ar hyd y llwybr | Lleiafswm lled (lled a ffefrir) | Mynediad i bawb |
Llwybr troed | Na | 1.2m (1.8m) | 2.0m yn caniatáu lle i 2 gadair olwyn, neu ddau |
Math | Angen mynediad cynnal a chadw ar hyd y llwybr | Lleiafswm lled (lled a ffefrir) | Mynediad i bawb |
Llwybr troed | Oes | 2.2m (2.5m) | o bobl ochr yn ochr. 1.5m yn caniatáu lle i 1 gadair olwyn ac 1 cerddwr wrth ei hymyl. 1.0m yn caniatáu lle i 1 gadair olwyn heb unrhyw le wrth ei hochr |
Llwybr defnydd a rennir | Oes | 3m (4m ar lwybrau prysur) |
d) Deunyddiau llwybr troed
Dylai deunyddiau wyneb ar gyfer llwybrau ac arwynebau caled gael eu dewis yn ofalus i sicrhau mynediad diogel a chyfforddus. Dylai arwynebau llwybr gael eu hadeiladu’n dda i roi mynediad gwastad cadarn, gwrth-lithro (pan yn wlyb neu'n sych).
Mae tarmac, graean wedi xx xxxxxx â resin xxx xxxxx wedi’i daenu â resin, slabiau palmant a choncrid gweadog yn darparu arwyneb xxxxx. Ni ddylid defnyddio deunyddiau llac neu anwastad ar balmentydd, fel graean, llwch cerrig, neu gerrig crynion, i brif lwybrau cylchrediad.
Math o arwyneb | Nodweddion cadarnhaol | Nodweddion negyddol |
Tarmac / bitmac | Cost effeithiol a pharhaol | Ddim yn arbennig o ddeniadol |
Graean wedi xx xxxxxx â resin | Gwydn ac addurniadol | Yn gymharol ddrud i’w osod |
Graean wedi ei daenu â resin | Gwydn ac addurniadol | Yn gymharol ddrud i’w osod (llai costus na graean wedi xx xxxxxx ond llai o wydnwch) |
Llwch cerrig | Cynnil a rhad | Yn dueddol o erydu ac i chwyn dyfu, xxxxx xx dopio i fyny’n rheolaidd, yn anaddas ar gyfer ardaloedd o draul xxx xxxxx |
Math o arwyneb | Nodweddion cadarnhaol | Nodweddion negyddol |
Graean xxx xxxxx cyflynol | Cynnil a chymharol rad, mwy gwydn na llwch cerrig | Yn debyg i lwch cerrig |
e) Ymylon llwybr troed
Xxxxx pob llwybr troed gael ei ddylunio gydag ymyl neu gwrbyn cynnal. Mae hwn yn rhoi cryfder a gwydnwch tymor hir i'r strwythur llwybr troed. Y dewis gorau yw cwrbyn pin ac ymyl brics. Mae ymyl pren yn rhatach ond yn llai gwydn xx xxxxx ei newid yn fwy rheolaidd.
f) Mynediad i bobl ag anabledd
Er mwyn cyflawni safon dda o ddylunio cynhwysol, dylid cynllunio llwybrau i fod yn hygyrch i bobl sydd â nam synhwyrau a symudedd cyfyngedig, lle bynnag y xx xxxx. Bwriedir y nodiadau hyn fel canllawiau sylfaenol ac nid fel manylebau manwl. Mae'n hanfodol bod unrhyw ddyluniad yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu cyfredol.
Gall graddiannau, cambr a grisiau effeithio ar ddefnyddwyr â symudedd cyfyngedig. Mae graddiant yn gallu bod yn beryglus a blinedig:
• 1:15 - graddiant mwyaf a argymhellir
• 1:20 - graddiant mwyaf a ffefrir.
Graddiant o 1:12 yw'r uchafswm a roddir yn y Safonau Prydeinig, ond yn ymarferol mae’r graddiant hwn yn rhy serth i lawer o bobl, yn enwedig pobl hŷn a defnyddwyr cadeiriau olwyn gyda chryfder xxxxx uchaf cyfyngedig. Rhaid ystyried y graddiant a hyd y llethr gyda'i gilydd.
Weithiau gall graddiant ychydig yn fwy serth dros bellter byrrach fod yn fwy derbyniol nag un llai serth dros bellter hir. Mae'n rhaid i raddiannau parhaus o
fwy na 1:20 gael eu torri ar draws llwyfannau gorffwys gwastad (hir tua 1.8m) ar gyfnodau uchafswm o 30m.
Efallai y bydd angen canllawiau ar gyfer llethrau mwy serth Gall cambr llwybrau eu gwneud yn lletchwith i'w ddefnyddio:
• 1:50 - uchafswm a argymhellir
• 1:100 – uchafswm a ffefrir
Mae cambrau yn creu anawsterau i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a phobl â nam ar eu golwg.
Mae grisiau yn anodd i lawer o bobl ag anableddau ac fel arfer yn amhosibl i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Fodd bynnag, i rai pobl mae grisiau yn well na rampiau. Mae’n bwysig dylunio grisiau yn ofalus er mwyn sicrhau eu bod mor hygyrch â phosibl. Dylai grisiau fod yn unffurf o fewn cyfres, gyda chodwyr a throediad cyson. Dylid osgoi un gris sengl oherwydd yn aml nid yw pobl yn gallu gweld y rhain. Mae grisiau ramp neu onglog yn anodd i'r rhan fwyaf o bobl eu defnyddio. Mae'n hanfodol bod unrhyw ddyluniad yn bodloni’r Rheoliadau Adeiladu cyfredol.
A1.3 Ffensys a ffiniau
a) Yn gyffredinol
Xxx xxxxx gwahaniaethu clir rhwng mannau cyhoeddus a phreifat drwy driniaethau ffin sydd wedi’u dylunio'n dda. Dylai ffensys fod yn briodol ac i’r diben.
Dylai pob ffens wrth ymyl glaswellt neu blanhigion fod ag o leiaf 300mm o drimiad torri gwair llydan (concrid neu floc palmantog) i leihau mewnbwn cynnal a chadw.
b) Mathau o ffensys a thriniaeth ffiniau
Math | Pwrpas y ffens | Uchder y ffens | Manylion ar gael |
Rheiliau bar fertigol | Ffens berimedr ddiogel ar gyfer mannau agored | 1.8 – 2.1m | Ydy |
Pyst dur a rheiliau (ffensys 2 a 3 bar). Gall pyst coed a rheiliau fod yn dderbyniol mewn rhai safleoedd, yn dibynnu ar lefel bosibl o fandaliaeth | Bariau ffens berimedr ar gyfer man agored heb ei ddiogelu | 1.0 – 1.5m | Ydy |
Ffens bwa dur | O amgylch cae chwarae | 1.2m | Ydy |
Ffens weiren rwyllog haenedig | O amgylch cae chwarae | 1.2m | Ydy |
Ffens derfyn weiren rwyllog haenedig | Defnyddio lle mae diogelwch yn bwysig neu ffens wedi ei chynllunio i fod yn anymwthiol | 1.8 – 2.4m | Ydy |
Ffens ddiogelwch xxxxx - gorffeniad galfanedig neu haenedig. Mae gorffeniadau gwyrdd haenedig yn well na galfanedig plaen ond yn dibynnu ar leoliad | Defnyddio lle mae diogelwch yn bwysig (e.e. o amgylch rhandiroedd). Arddull y xxxxxx i fod yn briodol i leoliad a swyddogaeth y ffens | 1.8 – 3m | Ydy |
Rheiliau pen-glin (dur yn unig i gael ei ddefnyddio) | Xxxx cerbydau o amgylch man agored heb ei ddiogelu | Hyd at 500mm | Ydy |
c) Cywiriadau a Gorffeniadau
Dylid defnyddio gosodion gwrth-ymyrryd i leihau'r risg o dynnu ymaith elfennau unigol.
d) Gorffeniadau Paent
Rhaid i orffeniadau paent a ddefnyddir ar reiliau, offer neu strwythurau eraill fod yn gryf i xxxx yr xxxxx i ail-baentio’n rheolaidd. Mae'r rhain yn cynnwys systemau paent wedi’u haenu â phowdwr a ddefnyddir mewn ffatrïoedd. Mae’r manylebau
manwl ar gyfer gorffeniadau paent gwydn ar gael gan y Gwasanaeth Parciau ar gais.
e) Gwrychoedd a ffiniau wedi’u plannu
Dylid osgoi’r defnydd o xxxxxx xxxxx gwrychoedd presennol neu newydd i ddiffinio ffiniau eiddo cyhoeddus/ preifat gan mai anaml y mae hyn yn arwain at gadw’r gwrychoedd yn llwyddiannus, ac yn aml mae’n achosi anghydfod ynghylch union xxxxxx derfyn yr eiddo ar ôl i'r datblygiad gael ei gwblhau.
Dylai gwrychoedd a gedwir gael eu hymgorffori'n llawn yn y cynllun mannau agored a rhoi digon o le i sicrhau y xxxxxxx xxxx eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da.
f) Giatiau
Rhaid ystyried mynediad i gerddwyr a chynnal a chadw man agored o gyfnod cynnar yn y broses ddylunio.
Dylai giât mynediad cerbyd fod o leiaf 3.5m - 4.5m o led, yn dibynnu ar hwylustod mynediad a math o gerbyd, er mwyn galluogi cerbydau i gael mynediad heb ddifrod. Dylai giatiau fod yn rhai y gellir eu cloi (e.e. xxxx xxxxx llithro a xxxxx glo) i xxxx mynediad i gerbydau heb awdurdod. Bydd mynediad oddi ar balmant neu ffordd angen cyrbau is. Lle xxx xxxxx i gerbydau barcio wrth y fynedfa, neu ar dir gwlyb, dylid gosod atgyfnerthiad daear, yn enwedig ar safleoedd gwlyb.
Y dewis arall ar gyfer mynediad i gerbydau yw defnyddio bolardiau is. Unwaith eto, dylai'r rhain fod yn rhai y gellir eu cloi i xxxx mynediad heb awdurdod a chael eu lleoli wrth ymyl cwrbyn is.
Gall dyluniad giatiau ar gyfer mynediad i gerddwyr amrywio, yn dibynnu ar y safle. Dylid rhoi ystyriaeth i fynediad gan gadeiriau gwthio a cherbydau symudedd. Ar gyfer giatiau mewn mannau chwarae, gweler yr adran ar ddylunio darpariaeth chwarae.
Mae rheoli beiciau a beiciau xxxxx i fan agored yn aml yn broblem. Mae'r rhan fwyaf o rwystrau a gynlluniwyd i xxxx beiciau xxxxx hefyd yn xxxx mynediad i gadeiriau olwyn, felly dylid eu defnyddio gyda gofal. Bydd dyluniad math rhwystr igam-ogamu yn dal i ganiatáu mynediad ond yn arafu unrhyw feiciau neu feiciau xxxxx xxxx yn mynd i mewn i’r man agored.
A1.4 Seddi
a) Dewis seddi
Yn ychwanegol at eu hedrychiad, mae’r ffactorau i'w hystyried wrth ddewis seddi yn cynnwys gwydnwch, defnyddioldeb mewn tywydd gwahanol (gwlyb, sych neu boeth), rhwyddineb cynnal a chadw ac atgyweirio, a hygyrchedd ar gyfer pobl ag anabledd. Bydd seddi gyda chefnau a breichiau yn fwy priodol ar gyfer defnyddwyr hŷn a llai symudol. Gall seddi mainc ddenu defnyddwyr iau.
b) Deunyddiau seddi
Deunydd Nodweddion cadarnhaol | Nodweddion negyddol | |
Dur galfanedig wedi’i baentio | Para'n hir ac yn gallu gwrthsefyll fandaliaeth | Gall fod yn boeth mewn lleoliadau heulog agored iawn |
Dur galfanedig a phren wedi’i baentio | Deniadol a gall fod yn wydn os dewisir y math cywir o bren | Llai gwydn ac yn fwy agored i fandaliaeth na dur yn unig |
Pren | Deniadol a gall fod yn wydn os dewisir y math cywir o bren | Ddim yn addas mewn lleoliadau sy’n destun i fandaliaeth sylweddol |
Deunydd Nodweddion cadarnhaol | Nodweddion negyddol | |
Plastig wedi'i ailgylchu | Pan mae wedi’i gynllunio a’i adeiladu’n dda gall fod yn ddeniadol ac yn wydn | Mae plastig wedi'i ailgylchu sydd heb graidd dur yn dueddol o anffurfio. Gall fod yn agored i losgi bwriadol |
Carreg neu goncrid | Para'n hir ac yn gallu gwrthsefyll fandaliaeth | Gall fod yn anghyfforddus wrth eistedd am gyfnodau hir. Tueddol i ddioddef o graffiti |
c) Lleoliad seddi
Xx xxx seddi wrth ymyl llwybrau yw’r lleoliad mwyaf hygyrch, dylid hefyd ystyried seddi mewn rhannau eraill o'r man agored er mwyn darparu dewis o leoliad llai cyhoeddus a phrysur.
d) Gosod seddi
Dylai xxxxx xxx feinciau gael eu gosod ar arwyneb caled sy'n ymestyn o leiaf 0.6 m o flaen y fainc i osgoi erydiad daear a chaniatáu mynediad atynt mewn amgylchiadau gwlyb. Dylai unrhyw arwyneb o amgylch y sedd gysylltu ag unrhyw lwybr cyfagos neu arwyneb caled. Dylai sylfaen y sedd hefyd ymestyn 1.5m i un ochr er mwyn darparu ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio, os yw'r sedd mewn lleoliad hygyrch.
e) Mathau eraill o seddi
Mae meinciau picnic yn ychwanegiad defnyddiol mewn man agored ac ardaloedd
chwarae, gan annog defnydd grŵp a defnydd ehangach o'r man agored.
A1.5 Biniau sbwriel
a) Yn gyffredinol
Er mwyn osgoi sbwriel mewn mannau agored, xxx xxxxx cael nifer digonol o finiau mewn lleoliadau allweddol i ganiatáu i’r cyhoedd gael gwared â gwastraff
yn hawdd. Dylai biniau sbwriel ganiatáu’r defnydd o leinin plastig tafladwy fel y gellir eu defnyddio ar gyfer sbwriel a baw cŵn. Nid oes rhaid cael biniau gwastraff cŵn ar wahân.
b) Xxxxxxxx xxxxxx
Dylai biniau gael eu gosod mewn lleoliadau y gall cerbydau casglu eu cyrraedd yn hawdd, i ostwng amseroedd cynnal a chadw a chodi a chario. Y lleoliadau a ffefrir yw rhai gerllaw mynedfeydd neu ar hyd llwybrau troed xxxxx xxxx i gymryd cerbydau cynnal a chadw. Dylid hefyd ystyried gosod biniau ar y briffordd union y tu xxxxx i fannau agored
Mae biniau sbwriel a leolir union gerllaw seddi yn achosi niwsans, yn enwedig yn yr haf oherwydd pryfed ac arogl. Dylai biniau gael eu gosod o leiaf 1m oddi wrth seddi.
Mae’n bwysig cael biniau sbwriel o fewn ardaloedd chwarae, ond rhaid cynnwys biniau ychwanegol o fewn y prif ofod agored i xxxx rhoi baw cŵn mewn mannau chwarae lle y gall achosi problem iechyd.
c) Maint ac arddull biniau sbwriel
Dylai biniau fod yn ddigon mawr (90 litr neu fwy) i leihau amlder gwagio. Biniau gyda chaead arnynt sydd orau, i rwystro xxxx xxx wiwerod rhag mynd i ganol y sbwriel a’i wasgaru. Gall y Cyngor ddarparu manyleb ar gyfer y biniau safonol a ddefnyddir ym mharciau Caerdydd.
d) Gosod biniau sbwriel
Er hwylustod cynnal a chadw ac i osgoi difrod gan beiriannau torri gwair, dylid gosod biniau ar arwyneb caled sy'n ymestyn o leiaf 75mm tu hwnt i berimedr y bin.
e) Ailgylchu
Gall biniau ailgylchu o fewn mannau agored ddod yn fwyfwy pwysig, ond dim ond os yw’r dulliau casglu yn caniatáu gwahanu defnyddiau y byddant yn effeithiol.
A1.6 Modelu daear a draenio mewn mannau agored
a) Modelu daear
Xxx xxxxx ystyried lefelau a chyfuchliniau'r man agored yn fanwl yn ystod y broses ddylunio ac adeiladu. Mae hyn er mwyn darparu man agored y gall y cyhoedd ei ddefnyddio, galluogi cynnal a chadw yn rhwydd ac yn ddiogel, ac osgoi gollwng dŵr o'r man agored i mewn i eiddo cyfagos sydd ar lefel is.
Xxx xxxxx ystyried lefelau o fewn y man agored a lefelau eiddo/ ffyrdd cyfagos sy’n cael eu hadeiladu gyda’i gilydd. Ni ddylid defnyddio man agored i wneud iawn am unrhyw amrywiadau sy'n deillio o lefelau anghywir mewn ardaloedd xxx xxx briffyrdd. Gall hyn arwain at fan agored â llethr, mwy o raddiant, neu absenoldeb ardal wastad, a all gael effaith andwyol ar ei ddefnydd ar gyfer hamdden, yn ogystal ag arwain at fwy o broblemau draenio.
Wrth adeiladu llethrau a nodweddion eraill ar raddiannau, mae'n bwysig ystyried goblygiadau cynnal a chadw dyluniadau o'r fath. Yn seiliedig ar ddeddfwriaeth a phrofiad, mae’r canlynol yn dangos y rheolau cyffredinol ynghylch y mwyafswm o raddiant ar lethrau, gan ddefnyddio gwahanol fathau o beiriannau.
Tractor torri gwair a pheiriannau torri gwair y gellir eistedd arnynt - 15 gradd Peiriant torri gwair cerdded a strimio – 30 gradd
Mae llethrau dros 30 xxxxx xxxxx xxxxxx ochr sy’n ysgwyd, neu beiriant torri gwair a gaiff xx xxxxx x xxxx
b) Draenio
Mae’n hanfodol cael draenio da er mwyn caniatáu defnydd o fannau agored drwy gydol y flwyddyn (ac eithrio mewn amodau gwlyb iawn). Ar nifer o safleoedd, yn enwedig y rhai sydd â phridd trwm, xxxx xxxxx dros ddeunydd halogedig neu isbridd cywasgedig sy’n deillio o weithrediadau safle a diffyg draenio greu llawer o broblemau, gan olygu na ellir defnyddio’r ardal am rannau helaeth o'r flwyddyn. Gyda photensial defnyddio SUDS mewn mannau agored, mae’r cydbwysedd rhwng mannau agored a draenio hyd yn oed yn fwy critigol.
Dylai dyluniad sicrhau:
• bod llwybrau troed yn parhau i fod yn rhydd o lifogydd rheolaidd, gan eu codi os oes angen
• bod ardaloedd chwarae wedi'u gosod ar lefel sy'n xxxx arwynebau diogelwch (a chyfarpar pren) rhag cael ei socian yn rheolaidd, gan xxxxxx at ddirywiad xx xxxxx ar gyfer ailosod rheolaidd
• pan osodir caeau chwaraeon neu ardaloedd glaswellt i gicio pêl, dylai'r datblygwr ddarparu system i ddraenio cae sydd o ddyluniad cymeradwy gan y Cyngor, oni bai y gwyddys bod y safle’n draenio'n rhwydd
• bod mecanwaith yn cael ei roi yn ei le i ganiatáu i ddŵr gael ei ddraenio o'r prif fannau agored, trwy beipiau draenio i xxxxx, arllwys i nant bresennol, neu ei gasglu i fasn SUDS. Ni dderbynnir draenio o fannau agored i system ddraenio priffordd drwy geunant oherwydd y problemau a xxxxx xxxx mabwysiadu gan Ddŵr Cymru.
A1.7 Tirlun meddwl mewn mannau agored
a) Yn gyffredinol
Dylai pbensaer tirlun gynllunio’r xxxx xxxxx tirlun meddal a dild ei wneud yn unol â’r Safonau Prydeinig canlynol neu fersiynau wedi'u diweddaru:
BS 4428:1989 Cod Ymarfer ar gyfer gweithrediadau tirlun cyffredinol BS 8545 : 2014 Coed: o'r feithrinfa i annibyniaeth yn y tirlun
BS 3936 -1:1992 - Stoc meithrinfa : Manyleb ar gyfer coed a llwyni BS 3936 -2:1990 - Stoc meithrinfa : Manyleb ar gyfer rhosod
BS 3936 -9:1998 - Stoc meithrinfa : Manyleb ar gyfer bylbiau, cormau, cloron BS 3882 : 2015 Manyleb ar gyfer Uwchbridd
b) Dyfnder pridd ar gyfer plannu
Dylai gwaith pridd ar gyfer plannu a hadu gael ei wneud yn unol â’r Cynllun Adnoddau Pridd sydd yn y cynllun a Nodyn Cyfarwyddyd Technegol ar Briddoedd y Cyngor.
Dylai priddoedd ddeillio o briddoedd sydd eisoes ar y safle, neu a gludir yno. Ar gyfer defnydd a lliniaru priddoedd sydd eisoes yno a chludo pridd newydd i mewn, gweler Nodyn Cyfarwyddyd Technegol ar Briddoedd y Cyngor. Dylai'r xxxx uwchbridd a gludir i’r safle gydymffurfio â BS3882 a BS4428 a chael ei gymeradwyo gan y gwyddonydd pridd neu’r pensaer tirlun.
Ceir canllawiau cyffredinol ar gyfer dyfnderau uwchbridd ac isbridd isod:
Math o blannu | Dyfnder pridd a argymhellir |
Plannu coed | • 300m uwchbridd dros 600mm isbridd |
Llwyni a phlanhigion llysieuol, gwrychoedd | • 300m uwchbridd dros 300mm isbridd |
Glaswellt Amwynder ac ardaloedd Bylbiau | • 150m uwchbridd dros 150mm isbridd |
Dolydd blodau gwyllt | • 300mm isbridd, neu 150m uwchbridd ffrwythlondeb xxxx xxxx 150mm isbridd |
c) Amseru ar gyfer gweithrediadau tirlun
Amseroedd plannu
▪ Coed collddail a llwyni: Hydref hwyr i ddiwedd mis Mawrth.
▪ Conwydd a choed bytholwyrdd: Medi/ Hydref neu fis Ebrill/ Mai
▪ Planhigion llysieuol: Medi/ Hydref neu fis Mawrth/ Ebrill
▪ Planhigion a dyfir mewn potiau: Unrhyw xxxx os yw cyflwr y tir a'r tywydd yn ffafriol. Sicrhau dyfrio digonol a rheoli chwyn os yn plannu tu xxxxx i'r tymor
▪ Bylbiau sych, cormau a chloron: Medi/ Hydref, ac eithrio Colchicum (crocws): Gorffennaf/ Awst
▪ Bylbiau gwyrdd: Ar ôl blodeuo yn y gwanwyn
Y gwaith i gael ei wneud pan fo cyflwr y pridd a'r tywydd yn addas. Peidiwch â phlannu yn ystod cyfnodau o rew, tir dirlawn neu wyntoedd cryf.
d) Cynlluniau plannu a gweithredu
Mae’r xxxx xxxxx plannu i gael eu nodi mewn cynllun plannu manwl gydag amserlen planhigion, yn dangos rhywogaethau, maint, maint/math o gynhwysydd, pellter plannu neu ddwysedd. Pryd bynnag y xx xxxx, dylai hyn gael ei gynllunio fel rhan o'r prif gais cynllunio. Dylid cael cymeradwyaeth i unrhyw amnewidiadau arfaethedig mewn rhywogaethau planhigion neu'r fanyleb cyn plannu.
Dylai pob gwely plannu llwyni dderbyn dyfnder o 75mm o domwellt rhisgl amwynder a ddefnyddir ar ôl dyfrio. Dylai lefel orffenedig y tomwellt fod 30mm yn is nag ardaloedd glaswelltog neu balmantu cyfagos. Y planhigion i gael eu dyfrio ar ôl plannu ac yn ystod cyfnodau sych nes ei sefydlu.
Pan fo’r Cyngor ar fin mabwysiadu, dylid rhoi rhybudd ar osod xxxxx, cyflenwi’r planhigion a choed, a chwblhau plannu, er mwyn caniatáu i ymweliad safle gael ei gynnal.
Bydd yr xxxx blannu a fabwysiedir gan y Cyngor yn cael ei gynnal am o leiaf ddeuddeng mis ynghynt yn dilyn plannu, gydag unrhyw blanhigion diffygiol yn cael eu newid cyn i fabwysiadu ddigwydd.
e) Plannu coed mewn mannau agored
I gael gwybodaeth am blannu coed, gweler y Nodyn Dylunio Technegol Coed a Datblygu. Ar safleoedd sydd i'w mabwysiadu gan y Cyngor, dylid cydgysylltu ag adrannau Parciau, Coed neu Ddylunio.
Atodiad 2: Canllawiau ar ddyluniad, cynllun a rheolaeth darpariaeth chwaraeon newydd
A2.1 Yn gyffredinol
Bwriedir i'r Atodiad hwn roi set glir o ganllawiau i ddatblygwyr ar gyfer darpariaeth chwaraeon ffurfiol mewn datblygiadau newydd.
A2.2 Rhesymeg ar gyfer y ddarpariaeth
Mae'r cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon yn elfen bwysig o gymuned gynaliadwy a dylid rhoi ystyriaeth briodol a phwysau sylweddol i anghenion chwaraeon yn y broses ddatblygu.
Bydd datblygiad newydd yn creu mwy o ofynion a rhai amrywiol ar gyfer chwaraeon, y bydd angen eu cynnwys drwy wella cyfleusterau presennol neu drwy ddarparu rhai newydd. Bydd hefyd angen gwarchod cyfleusterau presennol. O ystyried y darnau o dir xxx sylw, xxx rhoi sylw i chwaraeon mewn uwchgynllunio cynnar a dyluniad datblygiadau yn hanfodol er mwyn sicrhau'r lefel ofynnol o ddarpariaeth a chyflawni lefel dda o gyfranogiad y cyhoedd mewn chwaraeon.
A2.3 Mathau o ddarpariaeth chwaraeon
Gall darpariaeth chwaraeon gynnwys y canlynol:
• Cyfleusterau xxx do ffurfiol, megis canolfannau hamdden (a redir gan y Cyngor, preifat neu gymunedol) neu gyfleusterau ysgol/ clwb a rennir (darparu cyfleoedd ar gyfer campfeydd, dosbarthiadau ymarfer xxxxx, badminton, sboncen ayb.)
• Caeau chwaraeon glaswellt awyr agored (gan gynnwys pêl-droed, rygbi, hoci, criced, pêl fas, rownderi, lacrós)
• Cyfleusterau chwaraeon awyr agored artiffisial h.y. Caeau 3G neu 4G
• Cyfleusterau eraill e.e. cyrtiau tennis, MUGA, lawntiau bowlio, pêl-fasged, cyfarpar ffitrwydd
Bydd angen i ddatblygiadau newydd ddarparu cyfleoedd chwaraeon trwy gyfuniad o ardaloedd sylweddol o dir a osodir o’r neilltu ar gyfer caeau chwaraeon, ynghyd â chaeau artiffisial sy'n gallu darparu defnydd dwysedd uwch, a'r potensial ar gyfer cyfleusterau xxx do, a redir xxxxx xx’n fasnachol neu gan y gymuned.
A2.4 Egwyddorion ar gyfer darpariaeth chwaraeon llwyddiannus mewn datblygiadau newydd
Noda'r tabl isod yr egwyddorion ar gyfer darpariaeth chwaraeon llwyddiannus mewn datblygiadau newydd
Dylai darpariaeth chwaraeon da: | |
1. Gwrdd ag anghenion y gymuned leol gyfan | Dylai'r ddarpariaeth gynnig amrywiaeth xxxx o gyfleusterau, xxx do ac yn yr awyr agored yn yr ardal |
2. Fod yn seiliedig ar angen lleol | Dylai darpariaeth cyfleusterau chwaraeon newydd neu uwchraddio cyfleusterau presennol fod yn seiliedig ar asesiad manwl o ddarpariaeth chwaraeon sydd eisoes yn bodoli ac asesiad o'r cyfleusterau sydd eu xxxxxx i wasanaethu'r boblogaeth newydd. |
3. Fod wedi eu lleoli yn dda | Dylai cyfleusterau chwaraeon gael eu lleoli mewn mannau amlwg yn y datblygiad newydd, gan godi ymwybyddiaeth am eu bodolaeth, ysbrydoli pobl i'w defnyddio a sicrhau y xxxxxxx ddod yn ganolbwynt ar gyfer y gymuned a rhyngweithio cymdeithasol. Dylent fod yn ffisegol hygyrch i ystod xxxx o bobl drwy drafnidiaeth gynaliadwy, gyda mynediad da i gerddwyr, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus |
4. Gael eu lleoli mewn hybiau neu glystyrau aml-chwaraeon er mwyn caniatáu rhannu cyfleusterau | Dylai cyfleusterau aml-chwaraeon, hamdden a chyfleusterau eraill gael eu cydleoli pryd bynnag y xx xxxx er mwyn creu hyb aml-chwaraeon, i ganiatáu dewis o weithgaredd mewn un lleoliad, a hyrwyddo cyd-reolaeth effeithlon ar gyfleusterau. Fel arall, gellir eu lleoli gyda chyrchfannau eraill a ddefnyddir yn weithredol, megis ysgolion neu gyfleusterau cymunedol eraill. Ble xx xxxxx parcio, dylid gwneud ymdrech i rannu cyfleusterau gyda defnyddiau eraill. |
Dylai darpariaeth chwaraeon da: | |
5. Gael ei hintegreiddio â rhwydwaith ehangach o fannau gwyrdd | Dylai caeau chwaraeon ffurfiol gael eu hintegreiddio o fewn fframwaith y tirlun ehangach i greu man agored deniadol a darparu amrywiaeth o swyddogaethau hamdden ffurfiol ac anffurfiol. Dylai’r safle fodloni nifer o ofynion ffisegol er mwyn cyflawni ei lawn botensial: osgoi lleoliadau gwyntog agored iawn, bod yn weddol wastad xxx xxxx lle i greu arwyneb gwastad, bod ag amodau daear addas - sefydlog, heb ei halogi, â dyfnder da o bridd, yn draenio’n dda neu â photensial ar gyfer system ddraenio; argaeledd gwasanaethau os oes angen goleuadau neu ystafelloedd newid. |
6. Fod wedi eu lleoli i ystyried preswylwyr cyfagos | Xxx xxxxx ystyried lleoliad cyfleusterau chwaraeon a hamdden ffurfiol mewn perthynas ag ardaloedd preswyl cyfagos er mwyn lleihau sŵn, gorlifiad o'r llifoleuadau, a mwy o draffig, tra'n gwneud y mwyaf o nodweddion cadarnhaol megis gwyliadwriaeth naturiol. Dylai unrhyw wrthdaro posibl rhwng defnyddwyr ag eiddo cyfagos gael xx xxxxx'n briodol a’i osgoi trwy ddylunio da. |
7. Fod yn addas i’r diben | Xxx xxxxx i gyfleusterau chwaraeon fod yn addas i’r diben a chael eu cynllunio i gyd-fynd xx xxxxx gorau priodol (gan gyfeirio at ganllawiau Sport England, Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol a sefydliadau eraill fel Fields in Trust). |
8. Gofynion ar gyfer ystafelloedd newid a chyfleusterau eraill | Dylai unrhyw ddarpariaeth o gyfleuster chwaraeon ystyried y gofynion ar gyfer ystafelloedd newid, storio cyfarpar, goleuadau a chyfleusterau cymdeithasol cysylltiedig. Er enghraifft, bydd caeau chwaraeon oedolion angen ystafelloedd newid. |
9. Fod yn hyfyw o ran cynnal a chadw tymor hir a rheolaeth | Rhaid dangos hyfywedd, rheolaeth a chynnal a chadw tymor hir unrhyw gyfleuster chwaraeon, gan ystyried materion fel cadw caeau glaswellt mewn cyflwr da, yn enwedig os ydynt yn destun i lifogydd, a’r buddsoddiad cyfalaf sydd xx xxxxx i sicrhau bod y cyfleusterau chwaraeon yn parhau i fod mewn cyflwr da dros gyfnod hir, ac o ble y daw’r cyllid hwn. |
A2.5 Cyfleusterau Defnydd Deuol
Efallai bod cyfleoedd ar gyfer defnydd ar y cyd o gyfleusterau gydag ysgolion neu glybiau chwaraeon preifat, drwy negodi Cytundeb Defnydd Cymunedol i sicrhau eu bod ar gael i'r cyhoedd yn gyffredinol. Fodd bynnag, er mwyn cael eu hystyried fel rhan o'r dyraniad hamdden ffurfiol ar gyfer unrhyw ddatblygiad newydd, bydd rhaid cael sicrwydd y bydd cyfleusterau a leolir o fewn ysgol neu glwb ar gael at ddefnydd y gymuned am byth (neu gyn hired ag y mae’r ysgol neu'r clwb yn bodoli) ac y byddant yn cael eu cynnal mewn cyflwr da.
a) Manteision cyfleusterau defnydd deuol
Mae datblygu safleoedd gyda chyfleusterau chwaraeon deuol yn dod â llawer o fanteision i xxx parti. Gall cyfleusterau chwaraeon ysgolion a meysydd chwarae gael eu cynllunio i alluogi eu defnyddio gan ddisgyblion yn ystod oriau ysgol a chan y gymuned ehangach gyda’r nos ac ar benwythnosau. Gellir cyflawni hyn wrth ddylunio ysgolion newydd, neu wella’r rhai presennol.
Gall osgoi’r angen i adeiladu a chynnal dwy set o gyfleusterau arwain at arbediad cost sylweddol, drwy:
• llai o feddiannu tir, gan ryddhau tir ar gyfer defnyddiau eraill megis xxx xxx fannau agored
• lleihau costau adeiladu tra’n buddsoddi mewn cyfleusterau o ansawdd uwch
• lleihau costau cynnal a chadw
Yn achos ysgol neu glwb, xxx xxx ddefnydd deuol nifer o fanteision posibl:
• Gwell cyfleusterau oherwydd fwy o fuddsoddiad
• Y potensial i greu llif incwm i'r ysgol neu glwb
• Yn benodol, yn achos ysgolion
o Gwell iechyd disgyblion a staff o ganlyniad i’r cyfleusterau
o Gostyngiad yn y risg o fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ôl oriau ysgol trwy oruchwyliaeth anuniongyrchol y bobl sy'n defnyddio'r cyfleusterau
b) Cyfleusterau defnydd deuol yn ysgolion Caerdydd
Mae nifer o rwystrau i ddefnyddio cyfleusterau deuol yn ysgolion Caerdydd:
• Yr angen i gynnal amgylchedd diogel (yn enwedig mewn ysgolion cynradd)
• Yr anhawster i warantu argaeledd tymor hir os yw ysgolion yn optio xxxxx o reolaeth awdurdod lleol neu bennaeth newydd yn gwrthod cefnogi'r dull defnydd deuol
• Bygythiad pan fo ysgol yn ehangu yr adeiledir ar gyfleusterau chwaraeon.
Yng Nghaerdydd y dull polisi cyfredol yw ystyried darpariaeth defnydd deuol ysgol fel lle 'ychwanegyn' i fan agored, nid rhywbeth sy’n cymryd ei le.
Os gwneir darpariaeth chwaraeon at ddefnydd y gymuned mewn ysgol, ni fydd hyn yn arwain at ostyngiad yn y cyfraniad Addysg. Bydd unrhyw ofynion ychwanegol sy'n codi o rannu cyfleuster chwaraeon (e.e. parcio, cyfleusterau newid, arian ar gyfer cynnal a chadw ychwanegol) yn gorfod cael eu hariannu ar wahân.
Os yw’r sefyllfa hon yn newid yn y dyfodol neu ddyluniad defnydd deuol yn cael ei ddefnyddio mewn ysgol, dylid cymryd sylw o’r ystyriaethau canlynol.
c) Dylunio ar gyfer defnydd deuol
Wrth agor cyfleusterau ysgolion at ddefnydd y gymuned, mae'n hanfodol bod anghenion y defnyddwyr a'r ysgol yn cael eu hystyried. Xxx xxxxx i glybiau a
• Y lefel, math a maint o gyfleusterau chwaraeon a fydd yn ofynnol gan yr ysgol a'r gymuned yn gyffredinol
• Y dulliau cynllunio ac adeiladu a fydd yn cynhyrchu cyfleusterau gwydn o ansawdd uchel ar gyfer y ddwy set o ddefnyddwyr
• Dyluniad y cyfleusterau newid ar gyfer defnydd ar y cyd
• Sut y gellir rheoli diogelwch yr ysgol
• Sut y gellir grwpio’r cyfleusterau i gyflawni gwell gwahaniad rhwng defnyddwyr o’r gymuned a phoblogaeth yr ysgol
• Sut y gellir cynllunio’r cyfleusterau ar gyfer defnydd cynhwysol
Dengys y tabl isod y gofynion dylunio ar gyfer cyfleusterau defnydd deuol mewn ysgolion neu glybiau.
Gofynion dylunio ar gyfer cyfleusterau chwaraeon defnydd deuol | |
Mynedfa i'r safle | • Arwyddion clir • Llwybrau diogel wedi'u goleuo'n dda ar gyfer cerddwyr, beicwyr a cheir |
Derbynfa | • Mannau croesawgar gydag ardal i ateb ymholiadau a monitro diogelwch • Llwybrau rhesymegol o'r dderbynfa i ystafelloedd newid |
Ystafelloedd newid | • Yn lân a chyfforddus • Cawodydd mewn ciwbiclau a mynediad at loceri • Newid yn yr awyr agored gyda mynediad uniongyrchol i'r caeau chwaraeon a chyrtiau • Mannau newid hygyrch. • Ystafelloedd newid hyblyg i ganiatáu defnydd newid gan dîm ar adegau penodol yn ogystal â newid i ddynion a menywod ar wahân. |
Parthau | • Clystyru cyfleusterau cymunedol gyda’i gilydd |
10 Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar y pwnc hwn ar gael ar wefan Sport England – xxxxx://xxx.xxxxxxxxxxxx.xxx/xxxxx/0000/xxxxxxxx-xxxxxxxx-00.xxx and xxxxx://xxx.xxxxxxxxxxxx.xxx/xxxxx/0000/xxxxxxxxxx- management-of-dual-use-cricket-and-football-sites-12256.pdf
Gofynion dylunio ar gyfer cyfleusterau chwaraeon defnydd deuol | |
• Sicrhau bod gallu i ynysu systemau diogelwch, gwresogi a goleuo. | |
Clybiau | • Gwahanu ystafelloedd newid timau a swyddogol ar gyfer cystadlaethau • Mynediad at ystafell gyfarfod/ hyfforddi • Storio diogel ar gyfer cyfarpar • Hysbysfwrdd neu ardal i hyrwyddo eu sesiynau. |
Gwylwyr/ gwylio | • Lle addas i rieni/ gwylwyr gyfarfod a gwylio |
Diogelwch | • Mannau ymarferol sy'n glir o annibendod a chyfarpar • Hawdd i lanhau - yn enwedig lloriau chwaraeon ac arwynebau yn yr awyr agored • Gwasanaethau’n cael eu cynnal yn dda (goleuadau a chyfarpar). |
Costau effeithlon/ rhedeg | • Dyluniad sy’n arbed ynni (goleuo awtomatig, defnydd hyblyg o ofod, defnydd o dechnolegau adnewyddadwy ayb) • Pwyntiau ailgylchu gwastraff • Arwyddion clir i annog defnyddwyr cymunedol i arbed ynni. |
A2.6 Hybiau Chwaraeon
Mae hybiau chwaraeon cymunedol yn darparu cartref integredig i chwaraeon, gan ddod â nifer o chwaraeon gwahanol at ei gilydd. Fel arfer, maent yn seiliedig ar ganolfan chwaraeon, canolfan gymunedol, ysgol, neu bafiliwn cae chwarae. Mewn rhai achosion, mae hyb chwaraeon cymunedol yn cyfuno nifer o'r lleoedd hyn mewn un lleoliad, neu gall yr hyb ganoli ar un lleoliad sy’n cynnwys nifer o glybiau.
Mae'r hyb chwaraeon yn darparu amgylchedd cynaliadwy a arweinir gan y gymuned ar gyfer chwaraeon lleol. Pan yn gysylltiedig â strwythur clwb cryf, gall hyn hefyd fod yn ganolbwynt allweddol i’r gymuned, o ran chwaraeon ac yn gymdeithasol. Mae hyn yn arbennig o werthfawr wrth greu ymdeimlad o hunaniaeth a chymuned o fewn datblygiad newydd, xxxxx xxx'n bwysig cynnwys sefydliadau/ clybiau a lleoliadau posibl ar gyfer chwaraeon yn gynnar yn y broses ddatblygu.
A2.7 Darpariaeth caeau chwaraeon awyr agored
Mae'r tabl isod yn darparu gwybodaeth gyffredinol am y gofynion ar gyfer darpariaeth caeau chwaraeon awyr agored.
Darpariaeth caeau chwaraeon awyr agored | |
1. Safle gwastad | Uchafswm graddiant 1:80-1:100 ar ei hyd, neu 1:40-1:50 ar draws y cae Xx x xxxx graddiant bychan annog dŵr wyneb i redeg i ffwrdd a gwella draenio (yn enwedig ar glai neu bridd silt), dylai caeau chwaraeon gael eu lleoli ar dir eithaf gwastad Mae caeau mwy serth yn ei gwneud yn anodd i chwaraewyr. Y ffordd orau i osgoi’r broblem yw trwy ddewis safle addaso’r cychwyn cyntaf, neu drwy ddefnyddio torri a llenwi i greu terasau, er bod hyn yn opsiwn drutach. |
2. Draenio da | Dylai caeau chwaraeon gael eu lleoli ar dir sy'n draenio'n dda, sy'n gallu cefnogi defnydd ddwywaith yr wythnos yn ystod y gaeaf heb ddirywio'n sylweddol. Mae draenio yn chwarae rhan bwysig yn ansawdd yr arwyneb ac mae draenio rhesymol yn ofyniad hanfodol ar gyfer glaswellt naturiol. Os ar orlifdir, dylai'r ardal fod yn destun risg llifogydd o 1:100 mlynedd xxx xxx. Efallai y bydd angen cynllun draenio i gael gwared â dŵr xxxx xxx o'r arwyneb neu i ostwng lefel y trwythiad. Xxx xxxxxx o ddraenio yn cynnwys pibell, hollt neu flanced. Bydd y math o gynllun draenio yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys dwysedd defnydd, swbstrad sylfaenol a’r math o uwchbridd/ isbridd, a dylid ei ddylunio gan xxxxxx â chymwysterau addas ac ar y cyd â'r cynllun adnoddau pridd. Ceir rhagor o wybodaeth gan sefydliadau fel Sport England neu’r Gymdeithas Adeiladu Chwaraeon a Chwarae. |
3. Cyfeiriadedd y cae | Cyfeiriad y chwarae a argymhellir ar gyfer caeau chwaraeon yw yn fras gogledd (rhwng 285° a 20°) / de Bydd hyn yn lleihau effaith machlud haul ar y chwaraewyr |
4. Atgyfnerthu’r ddaear | Atgyfnerthu ardaloedd sy’n dioddef xxxxx Os yw'r caeau i’w xxxxxx xxxxx yn yr un lle flwyddyn ar ôl blwyddyn, dylid rhoi ystyriaeth i ryw fath o atgyfnerthu’r ddaear fel y gellir rheoli’r draul ar ardaloedd a ddefnyddir yn helaeth yn ystod misoedd y gaeaf. |
A2.8 Maint caeau chwaraeon awyr agored
Mae'r tabl isod yn dangos yr ystod o feintiau caeau ar gyfer gwahanol chwaraeon. Dangosir y maint ar gyfer cyfleusterau Hamdden. Yn achos meintiau caeau Clwb a Sir/ Rhanbarthol, dylid holi’r cyrff llywodraethu chwaraeon am ganllawiau.
Grŵp Oed | Maint y xxx | Dimensiynau a Argymhellir heb ddŵr ffo Hyd x lled | Isafswm/ Uchafswm Dimensiynau heb ddŵr ffo Hyd x lled | Dimensiynau a Argymhellir yn cynnwys dŵr ffo Hyd x Lled | Uchafswm / isafswm dimensiynau yn cynnwys dŵr ffo Hyd x Lled |
Pêl-droed bach D7/D8 | 5 v 5 | 37 x 27m | Isafswm 27.45 x 18.3m Uchafswm 45.75 x 27.45m | 43 x 33m | |
Pêl-droed bach D9/D10 | 7 v 7 | 55 x 37m | Isafswm 45.75 x 27.45m Uchafswm 54.9 x 36.6m | 61 x 43m | |
Ieuenctid D11/D12 | 9 v 9 | 73 x 46m | Isafswm 68.25 x 42m Uchafswm 82 x 50.77m | 79 x 52m | Isafswm 71.91 x 49.12m Uchafswm 88 x 56.77m |
Ieuenctid D13/D14 | 11 v 11 | 82 x 50m | Isafswm 72.8 x 45.5m Uchafswm 91 x 56m | 88 x 56m | Isafswm 76.46 x 49.16m Uchafswm 97 x 62m |
Ieuenctid D15/D16 | 11 v 11 | 91 x 55m | Isafswm 82.3 x 45.5m Uchafswm 100.6 x 64m | 97 x 61m | Isafswm 85.96 x 49.16m Uchafswm 106.6 x 70m |
Ieuenctid D17/D18 | 11 v 11 | 100 x 64m | Isafswm 90 x 45.5m Uchafswm 120 x 90m | 106 x 70m | Isafswm 93.66 x 49.16m Uchafswm 126 x 96m |
Oedolion | 11 v 11 | 100 x 64m | Isafswm 90 x 45.5m Uchafswm 120 x 90m | 106 x 70m | Isafswm 93.66 x 49.16m Uchafswm 126 x 96m |
Grŵp Oed | Dimensiynau a Argymhellir heb ddŵr ffo ond yn cynnwys ardal mewn gôl | Dimensiynau a argymhellir gan gynnwys ardal gôl a dŵr ffo Hyd x Lled |
11 Gwybodaeth o wefan y Gymdeithas Bêl-droed: xxxx://xxx.xxxxx.xxx/xx-xxxxxxxx/xxxxxxxx- volunteers/runningaclub/yourfacilities/technicalstandards
12 Gwybodaeth o wefan Undeb Rygbi Cymru: xxxx://xxx.xxx.xx.xx/xxxxxxxxx/XxxxxXxxxxxx.xxx
Hyd x lled | ||
Rygbi bach D7/D8 | 60 x 30m | 70 x 40m |
Rygbi bach D9/D10 | 60 x 35m | 70 x 45m |
Rygbi Canolig D11/D12 | 70 x 43m | 80 x 53m |
Uwch ac oedolion | 144 x 70m | 154 x 80m |
Grŵp Oed | Maint | Dimensiynau a argymhellir i Griced Hamdden | Dimensiynau a argymhellir i Griced Clwb |
Oedolion (Hamdden) | 6 llain | 111.56 x 106.69m | 111.56 x 106.69m |
Oedolion (Hamdden) | 9 llain | 111.56 x 115.84m | 111.56 x 115.84m |
Oedolion (Hamdden) | 12 llain | 111.56 x 128.04m | 111.56 x 128.04m |
Meintiau caeau chwaraeon eraill12 | ||
Grŵp Oed | Dimensiynau a Argymhellir heb ddŵr ffo Hyd x lled | Dimensiynau a Argymhellir yn cynnwys dŵr ffo Hyd x Lled |
Hoci | ||
Hoci bach (7 v 7) | 55 x 43m | 63 x 50.7m |
Hoci hŷn (11 v 11) | 91.4 x 55m | 101.4 x 63m |
Xxxxxx | ||
Xxx oed | 100 x 55m (Dynion) 100 x 50m to 122 x 60m (Menywod) | 106 x 61m (Dynion) 106 x 56m to 128 x 66m (Menywod) |
Pêl fas | ||
D13 | 21.34 x 21.34m | 73.16 x 73.17m |
D16 | 24.38 x 24.38m | 88.4 x 88.4m |
Oedolion | 27.43 x 27.43m | 115.82 x 115.82m |
Pêl fasged | ||
Xxx xxx | 26 x 14m isafswm 28 x 15m dewisol 13 x 14m Xxxxxx cwrt | 30.1 x 18.1 x 7m isafswm 32.1 x 19.1 x 7m dewisol |
Tennis |
13 Gwybodaeth o wefan Sport England: xxxxx://xxx.xxxxxxxxxxxx.xxx/xxxxx/0000/xxxxxxxxxxx-xxxxx-xxxxxxx.xxx
Meintiau caeau chwaraeon eraill12 | ||
Grŵp Oed | Dimensiynau a Argymhellir heb ddŵr ffo Hyd x lled | Dimensiynau a Argymhellir yn cynnwys dŵr ffo Hyd x Lled |
Xxx xxx | 23.77 x 10.97m | 34.75 x 17.07m isafswm 36.57 x 18.29m dewisol |
A2.9 Darpariaeth ar gyfer pêl droed
Yn y gorffennol, roedd caeau pêl-droed yn cael eu marcio drwy ddefnyddio uchafswm a lleiafswm meintiau caeau fel yr amlinellid yn y deddfau pêl-droed. O ganlyniad, mae maint caeau chwaraeon yn amrywio'n aruthrol ac yn aml cânt eu haddasu i ffitio’r mannau sydd ar gael. Mae'r Gymdeithas Bêl-droed xxxxxxx wedi cynhyrchu meintiau cae cenedlaethol ar gyfer pêl-droed bach, 9v9, pêl-droed Ieuenctid a phêl-droed Oedolion, a geir yn y tabl uchod, ac yng ngwybodaeth canllawiau’r Gymdeithas10.
Nodir y gofynion dylunio penodol ar gyfer darpariaeth bêl-droed yn y tabl isod.
Gofynion dylunio ar gyfer darpariaeth pêl droed | |
Cynllun y cae | • Ar gyfer cynlluniau cae (gan gynnwys marcio) gweler Canllawiau’r Gymdeithas Bêl-droed am fanylion pellach10. • Mae gwybodaeth xxxxxxx am byst goliau a llinellau marcio hefyd ar gael yng Nghanllawiau’r Gymdeithas Bêl-droed. |
Lleiniau agored | • Dylai ardaloedd lleiniau agored (y tu hwnt i'r cae) fod yn rhydd o unrhyw rwystr (gan gynnwys twll ymochel a cholofnau llifoleuadau) i sicrhau nad yw chwaraewyr a swyddogion yn anafu eu hunain trwy redeg i mewn i unrhyw wrthrych sefydlog • Dylai lleiniau agored fod ag arwyneb sydd union yr un arwyneb â’r xxxx chwarae. |
Gofynion dylunio ar gyfer darpariaeth pêl droed | |
Darparu mannau i wylwyr | • Gweler Rhaglen Xxxxx y Gymdeithas Bêl-droed14 sy'n darparu gwybodaeth am feysydd dynodedig i wylwyr, a gyflwynwyd yn 2008. Mae'r rhain yn cynnwys parthau sydd wedi'u cynllunio i xxxx gwylwyr rhag sefyll ar y llinell ystlys neu redeg ar y cae. |
Cynllun caeau lluosog | • Gweler Canllawiau’r Gymdeithas Bêl-droed am enghreifftiau • Dylai fod o leiaf chwe metr o glirio (tri metr o lain agored o xxx cae) rhwng caeau chwaraeon er mwyn osgoi anafiadau i chwaraewyr. • Os ychwanegir ardal wylwyr, yna mae hyn yn ychwanegol at y chwe metr o lain agored. |
Caeau Iau | • Dylai caeau Iau (bach a chanolig) gael eu gosod mewn lluosrifau o ddau i gyflawni'r defnydd mwyaf posibl. • Gall un cae pêl-droed oedolion gynnwys dau gae chwarae bach wedi’u cyfeirio ar draws y prif gae. • Nid yw caeau chwaraeon bach angen cyfleusterau newid. |
Pêl-droed Cynghrair | • Efallai y bydd angen i gaeau chwaraeon sydd wedi’u dylunio ar gyfer defnydd clwb fodloni gofynion ychwanegol e.e. maint, rheiliau i wylwyr, ystafelloedd newid ayb. • Ewch i wefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru am wybodaeth |
A2.10 Darpariaeth ar gyfer criced
Er y gellir darparu caeau criced o fewn mannau agored, y dewis gorau i sicrhau cyfleusterau criced llwyddiannus a chynaliadwy yw bod yn gysylltiedig ag ysgol neu glwb criced lleol, gyda’r dyluniad i gael ei wneud ar y cyd â hwy. Xxx xxxxx i gaeau annibynnol mewn man agored fod yn gysylltiedig â chyfleusterau eraill, a bod yn rhai y gellir eu cynnal a'u cadw i'r lefel ofynnol.
14 Gwybodaeth ar gael o wefan y Gymdeithas Bêl-droed – gweler Canllawiau i Ddyfarnwyr yn xxxx://xxx.xxxxx.xxx/xxx- involved/more/respect/respect-resources
Gellir cael canllawiau manwl ar gyfer y gofynion yng nghanllawiau’r ECB neu'r clwb criced xxx sylw. Fel arfer bydd clybiau angen un neu ddau o gaeau sy'n darparu naw o stribedi, neu gorau oll ddeuddeg ohonynt, i ganiatáu chwarae gemau am dymor llawn ar xxx un (yn unol â’r meintiau a ddangosir yn y tabl). Bydd angen draenio'r xxxx allanol yn dda, gan alluogi chwarae criced yn yr haf a gweithgareddau chwaraeon eraill megis pêl-droed yn ystod y gaeaf (rhaid neilltuo’r sgwariau eu hunain ar gyfer criced yn unig). Gofynion posibl eraill yw stribed artiffisial (heb fod yn dywarchen) ar gyfer gemau iau, rhwydi criced, adeilad clwb gyda chyfleusterau newid a chymdeithasol, xxxx parcio, a storfa ar gyfer cyfarpar a pheiriannau.
A2.11 Cyfleusterau chwaraeon awyr agored eraill
Mae dyluniad rhai cyfleusterau chwaraeon penodol angen cyfranogiad cwmnïau arbenigol o gyfnod cynnar er mwyn penderfynu ar y dull gweithredu technegol gorau a sicrhau y paratoir brîff clir a chynhwysfawr. Mae'n llawer mwy tebygol o arwain at gyfleuster sydd wedi’i gynllunio a’i adeiladu’n dda, sy'n bodloni anghenion ei ddefnyddwyr ac yn un y gellir ei gynnal a’i gadw’n rhwydd.
Gellir cael gwybodaeth gan y cyrff llywodraethu perthnasol a sefydliadau arbenigol ar gyfer y chwaraeon canlynol:
A2.12 Cyfleusterau Newid
15 Cymdeithas Tennis Lawnt (LTA)
16 Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB)
17 Cymdeithas Adeiladu Chwaraeon a Chwarae (SAPCA)
18 Cymdeithas Ryngwladol Ffederasiynau Athletau (IAAF)
Pryd bynnag y xx xxxx, dylai cyfleusterau newid gael eu hintegreiddio i mewn i adeiladau aml-swyddogaethol, megis ysgolion neu ganolfannau hamdden. Gall ystafelloedd newid hefyd gael eu hintegreiddio i mewn i adeilad cymunedol sy'n darparu swyddogaeth gymdeithasol i glwb a'r gymuned ehangach. Mae cyfleusterau newid annibynnol yn ddrutach i’w hadeiladu a’u rheoli. Maent hefyd yn fwy tueddol o ddioddef fandaliaeth o ganlyniad i ddiffyg defnydd yn ystod cyfnodau hir.
Bydd nifer yr ystafelloedd newid sydd eu xxxxxx yn amrywio yn dibynnu ar nifer y caeau chwaraeon a’r chwaraeon xxx sylw, gydag ystafell dyfarnwyr ar gyfer chwaraeon xxx.
A2.13 Gosod caeau artiffisial 3G, 4G a chenedlaethau dilynol o gaeau glaswellt artiffisial Mae'r datblygiadau technolegol mewn glaswellt artiffisial yn y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at ddefnydd xxxx o arwynebau glaswellt artiffisial ar gyfer hyfforddiant a chwarae cystadleuol yn rygbi'r gynghrair, pêl-droed, hoci a rygbi’r undeb.
Gweler diffiniadau o’r arwynebau hyn yn y tabl isod.
Arwyneb cae 3G | Ar gae 3G, mae’r gorchudd (y glaswellt artiffisial) yn cael ei gynnal gan xxxx sylfaen denau o dywod, a chan fewnlenwi briwsion rwber. Mae uchder y gorchudd yn amrywio o 40mm i 65mm dibynnu ar ba chwaraeon cynradd sydd i gael ei chwarae ar yr arwyneb. |
Arwyneb cae 4G | Mae glaswellt artiffisial 4G yn cyfuno’r dechnoleg dylunio edafedd a thusw mwyaf newydd a mwyaf chwyldroadol i greu caeau o safon eithriadol o uchel, sy’n hawdd eu cynnal a’u cadw, ac sy'n cyrraedd y safonau uchaf. Gosodir caeau 4G ar bad sioc, ac nid oes angen tywod na mewnlenwi rwber. |
Arwyneb cae 5G | Ar hyn x xxxx, dim ond offeryn marchnata yw arwyneb chwaraeon 5G (2016) a ddefnyddir gan gynghreiriau pêl-droed sy’n dweud eu bod â’r arwyneb chwarae synthetig 5G mwyaf newydd. Mae'r rhain fel arfer wedi’u haddasu o gaeau 4G neu 3G, ond nid oes dull adeiladu diffiniedig ar gyfer yr arwynebau hyn. |
Gall newid yr arwyneb cywir fod yn anodd gan fod xxx xxx xxxx o chwaraeon eu gofynion perfformiad penodol eu hunain a meini prawf profi dilynol, ac mae'r darlun yn cael ei gymhlethu ymhellach gan yr ystod xxxx o wahanol gynhyrchion glaswellt artiffisial sydd â nodweddion chwarae arbenigol. Nid yw'n bosibl darparu arwyneb sy'n gallu cwrdd ag anghenion pob math o chwaraeon. Xxxxx, xxx'n hanfodol bod yr arwyneb glaswellt artiffisial cywir yn cael ei ddewis i uchafu'r xxxx o'r buddsoddiad.
O gofio natur y dechnoleg glaswellt artiffisial sy'n datblygu'n gyflym, argymhellir yn gryf bod arbenigwr cae glaswellt artiffisial yn cael ei gyflogi i gynorthwyo gyda'r broses o gynllunio a gweithredu.
Dylai’r gwaith adeiladu gael ei wneud gan gwmni â chymwysterau addas a xxxxx profedig o adeiladu caeau o’r fath, i sicrhau bod caeau chwaraeon yn cael eu gosod i’r ansawdd gofynnol.
Mae Nodyn Cyngor Technegol 16 Chwaraeon a Hamdden (1998), ac unrhyw adolygiad dilynol, yn darparu canllawiau ychwanegol ar y materion cynllunio sy'n gysylltiedig â chwaraeon a chyfleusterau hamdden a'r gofynion atodol a gynhyrchir ganddynt.
Mae Nodyn Cyngor Technegol 11 Sŵn (1997) yn rhoi canllawiau ar ystyried effaith y sŵn a gynhyrchir o gyfleusterau hamdden.
A2.14 Ystyriaethau dylunio ar gyfer caeau glaswellt artiffisial
a) Xxxxx y math o gae
Er mwyn penderfynu ar y math mwyaf priodol o gae, bydd angen ateb nifer o gwestiynau allweddol er mwyn penderfynu ar y lleoliad gorau a'r math o adeiladu:
• Pa chwaraeon a nodwyd fel blaenoriaeth ar gyfer defnydd y cae a xxxx?
• Pa safon o ddefnydd a gynigir ar gyfer pob math o chwaraeon – achlysurol, hamdden, defnydd ysgol/ clwb neu ranbarthol?
• A fydd y cyfleuster cae artiffisial yn disodli neu’n ategu’r ddarpariaeth bresennol sydd gerllaw?
• A oes unrhyw gynlluniau a dyheadau realistig tymor hir ar gyfer y chwaraeon xxx sylw, xxx glybiau lleol y xxx xxxxx eu hystyried?
• A oes safleoedd penodol sydd wedi'u nodi ar gyfer at ddefnydd chwaraeon penodol, a xxxx?
• Faint o ddefnydd a ddisgwylir ar y cae, o ran amlder a chyfanswm nifer yr oriau xxx wythnos/ mis/ blwyddyn?
Bydd ymgynghorydd cae artiffisial arbenigol yn gallu cynghori ar y math mwyaf addas o gae ar gyfer yr amgylchiadau.
b) Lleoliad y cae
Dylanwadir yn fawr ar ddyluniad a chost cae glaswellt artiffisial newydd gan y safle bwriadedig, a dylid cydnabod nad yw rhai safleoedd yn gost effeithiol i’w datblygu. Amlinella'r tabl isod y meini prawf y xxx xxxxx eu hystyried ar gyfer lleoliad cae.
Dylid lleoli caeau glaswellt artiffisial: | |
Yn agos at xxxx newid | • Mae caeau chwaraeon angen cyfleusterau cefnogi i fod yn hyfyw |
Ar dir gymharol wastad | • Er mwyn lleihau cymhlethdod adeiladu a chostau • Bydd hefyd yn xxxx halogiad arwyneb y cae chwarae o ddŵr ffo o ochrau tir cyfagos, ayb. |
Mewn lleoliad cysgodol | • I ffwrdd o dir agored i wneud y mwyaf o hirhoedledd yr arwyneb chwarae |
Yn agos at wasanaethau (trydan a draenio) | • Cynllun gwasanaethau yn hanfodol a gall fod yn afresymol o ddrud |
Gyda mynediad da i gerbydau | • Mynediad rhwydd i gerbydau cynnal a chadw ac achosion xxxx yn hanfodol |
Dylid lleoli caeau glaswellt artiffisial: | |
I ffwrdd oddi wrth goed | • Gall gwreiddiau a sbwriel dail achosi problemau strwythurol a chynnal a chadw parhaus |
Lle mae’r mynediad yn dda i chwaraewyr a gwylwyr | • Dylai chwaraewyr, gwylwyr a chyfarpar cynnal a chadw xxxx xxxx mynediad i'r cae heb groesi ardaloedd glaswellt naturiol • Bydd llaid, malurion a halogyddion eraill i gyd yn cyfrannu at ddirywiad yr arwyneb chwarae |
Gyda chyfeiriadedd cywir i'r haul | • Y prif gyfeiriad chwarae yw tua’r gogledd (rhwng 285° a 20°)/ de gan y bydd hyn yn lleihau effaith machlud haul ar y chwaraewyr • Nid oes rhaid i'r anallu i gyflawni’r cyfeiriadedd hwn xxxx y cae rhag cael ei adeiladu. |
c) Ystyriaethau dylunio eraill
Dengys y tabl canlynol ystyriaethau dylunio eraill ar gyfer adeiladu cyfleusterau cae artiffisial.
Ystyriaethau dylunio eraill ar gyfer caeau chwarae artiffisial: | |
Ffens derfyn | • Uchder ffens ar xxx ochr y cae artiffisial a argymhellir gan y Gymdeithas Bêl-droed yw 4.5m |
Giatiau | • Dylid darparu mynediad giât sengl ac o leiaf un pâr o giatiau dwbl er mwyn caniatáu mynediad cynnal a chadw a cherbydau argyfwng. • Xxxxx'r adran bellaf i ffwrdd o'r fynedfa i wylwyr fod â giât sengl ychwanegol i gynorthwyo cael y bêl yn ôl |
Gwylwyr | • Dylai mannau gwylio gael eu cynnwys ar xxx cae artiffisial, wedi’u lleoli o leiaf 3m i ffwrdd o ochr y cae. |
Llwybr mynediad | • Xxxxx'r llwybr mynediad i'r cae fod yn ddigon llydan i sicrhau bod chwaraewyr yn osgoi dod â malurion ar yr arwyneb chwarae |
Marcio llinellau | • Dylai prif linellau’r cae a llinellau hyfforddiant gael eu gwau i mewn yn ystod y broses weithgynhyrchu |
Llifoleuadau | • Gall llifoleuadau ymestyn oriau defnydd, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf, a dylid eu hystyried yn ystod y broses ddylunio. • Dylai cynigion dylunio gael eu hategu gan gynllun gorlifo goleuadau ar gyfer y safle a'r ardal amgylchynol, gan na ddylai goleuadau effeithio ar breswylwyr lleol |
Ystyriaethau dylunio eraill ar gyfer caeau chwarae artiffisial: | |
• Gellir rhoi amodau ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio i gyfyngu oriau gweithredu. • Bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer llifoleuadau o 4m neu fwy. • Dylid ceisio cyngor technegol arbenigol annibynnol ynghylch dewis a pherfformiad y system oleuadau, gofynion goleuo ar gyfer y chwaraeon penodol xxx sylw, a rheoli'r system oleuadau • Yn gyffredinol dylai pedwar o lifoleuadau gael eu gosod, un ar xxx xxxxxx. • Pan fo caeau chwaraeon wedi'u goleuo, dylid ystyried gosod goleuadau amwynder ar hyd llwybrau mynediad i gynyddu diogelwch pobl sy'n gadael y cyfleuster ar ôl iddi dywyllu. |
A2.15 Cynnal a chadw
Mae’n hanfodol cynnal a chadw caeau glaswellt artiffisial yn briodol er mwyn sicrhau hirhoedledd ac iechyd a diogelwch defnyddwyr. Xxx xxx xxx cae amserlen cynnal a chadw yn ei lle, yn unol â'r hyn a argymhellir gan y gwneuthurwr.
Adnewyddu cae
Os yw arwyneb yn cael ei esgeuluso ac yn dod yn halogedig iawn, bydd yn gorgywasgu, ac effeithir ar y draeniad, gan leihau'r nodweddion perfformiad ac oes y cae. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen newid y mewnlenwi am un newydd, trwy broses adnewyddu.
Cynnal a chadw llifoleuadau
Bydd angen ymestyn cynnal a chadw i gynnwys y system llifoleuadau, ac ar ôl cwblhau'r cyfnod atebolrwydd am ddiffygion, awgrymir bod y contractwr llifoleuadau arbenigol yn cael ei gadw ymlaen i gynnal y system.
A2.16 Cronfa amnewid (Cronfa Ad-dalu)
Xxx xxx gaeau glaswellt artiffisial hyd oes o tua saith i ddeng mlynedd yn dibynnu ar ffactorau megis y math ac ansawdd o gae, ei ddefnydd a chynnal a chadw, felly xxx xxxxx gwneud lwfans ar gyfer amnewid yr arwyneb fewn yr amserlen hon. Mae'r
19 Gwybodaeth gan y Gymdeithas Bêl-droed: “The FA Guide to 3G Football Turf Pitch Design Principles and Layouts 2013” (Lawrlwytho o Google)
Atodiad 3: Canllawiau ar ddyluniad, cynllun a chynnal darpariaeth chwarae i blant
A3.1 Yn gyffredinol
Bwriedir i'r Atodiad hwn roi canllawiau manwl i ddatblygwyr ar ddarpariaeth amgylcheddau chwarae wedi’u dylunio’n dda ac o ansawdd dda.
A3.2 Rhesymeg dros y ddarpariaeth
Mae chwarae yn hanfodol i ddatblygiad corfforol, cymdeithasol a gwybyddol plant a pobl ifanc. Mae chwarae awyr agored yn arbennig o werthfawr gan ei fod yn rhoi cyfleoedd unigryw i brofi’r elfennau a’r ymdeimlad o lesiant a mwynhad y mae bod yn yr awyr agored yn ei greu. Hefyd mae mynediad i'r awyr agored yn rhoi cyfleoedd i blant symud yn rhydd a rhedeg o gwmpas, yn wahanol i'r byd 'rhithwir' a brofir gan lawer o blant heddiw.
Hefyd xxx xxx fannau chwarae xxxxx cymdeithasol penodol i rieni a gofalwyr plant ifanc, fel mannau i oedolion a phlant gwrdd yn anffurfiol, gan dynnu rhywfaint o'r pwysau sy’n dod yn sgil cyfrifoldebau gofal plant unigol.
A3.3 Chwarae yn yr amgylchedd ehangach
Lle bynnag y maent yn byw, dylai pob plentyn a xxxxxxx ifanc gael mynediad hawdd, rhad ac am ddim i fannau a chyfleusterau lle xxxxxxx chwarae'n rhydd. Dylai cyfleoedd chwarae gael eu lleoli o fewn 400m i gartrefi, ac mae darpariaeth o well mynediad a rheolaeth o dir y cyhoedd mor bwysig â darparu mannau chwarae.
Xxx xxxxx i fannau chwarae fod o ansawdd uchel ac o ddyluniad da i ddenu plant a theuluoedd. Ni fydd mannau diddychymyg o ansawdd wael yn y lleoliad anghywir yn cael eu gwerthfawrogi gan y gymuned leol ac maent yn debygol o ddod yn lleoedd xxxxx adfeiliedig.
Dylid integreiddio mannau chwarae yn sensitif i ddyluniad ehangach tir y cyhoedd, gan gynnwys strydoedd a gynlluniwyd ar gyfer chwarae diogel, mannau agored,
meysydd chwarae gyda chyfarpar sefydlog, canolfannau chwarae xxx oruchwyliaeth, cefn gwlad ehangach, a gerddi preifat.
A3.4 Dyluniad mannau chwarae pwrpasol
Dylai mannau chwarae gael eu cynllunio'n benodol ar gyfer y lleoliad, gan ddefnyddio dull a arweinir gan ddylunio, lle mae gwerth chwarae, tirlunio, cyfarpar a nodweddion i gyd yn rhan annatod o syniadau’r dylunydd o'r cychwyn cyntaf.
Bydd y dull hwn yn cynhyrchu amgylcheddau chwarae sy'n gynlluniau tirlun gyda chyfarpar chwarae a nodweddion yn hytrach na 'meysydd chwarae' mwy confensiynol a ddominyddir gan gyfarpar a’u ffinio gan ffensys.
Mae cynnwys dylunydd proffesiynol profiadol i ddylunio mannau chwarae yn hanfodol i'r dull hwn. Mae sgiliau technegol da mewn dylunio tirlun a dealltwriaeth o chwarae ill dau yn hanfodol.
Nid y nod wrth ddylunio mannau chwarae yw rhoi'r gorau i ddefnyddio cyfarpar chwarae a weithgynhyrchir ond yn hytrach i ddylunio mewn ffordd sy'n defnyddio'r cyfarpar yn greadigol, a gyda dealltwriaeth glir o'r gwahanol ffyrdd y xxx xxxxx i blant chwarae.
A3.5 Egwyddorion ar gyfer dylunio ardal chwarae lwyddiannus
Noda’r tabl isod yr egwyddorion ar gyfer dylunio ardal chwarae lwyddiannus20
20 Addaswyd o Play England
Dylai ardal chwarae dda: | |
1. Gael ei dylunio i wella’r lleoliad | Dylai cyfarpar a nodweddion chwarae gael eu dewis am eu bod yn gallu ategu a gwella eu lleoliad yn ogystal ag am eu gwerth chwarae. Dylai gwybodaeth o'r ardal leol fod yn ysbrydoliaeth. |
2. Gael ei lleoli yn y lle gorau posibl | Wedi'i lleoli ble byddai plant eisiau chwarae yn naturiol - i ffwrdd oddi wrth ffyrdd peryglus, sŵn a llygredd, ond ar lwybrau a ddefnyddir yn aml. Mae plant yn hoffi teimlo eu bod i ffwrdd oddi wrth oruchwyliaeth oedolion, ond xxx xxxxx cael y cydbwysedd iawn rhwng bod o’r neilltu a bod yn anghysbell ac wedi’u cuddio’n ormodol. |
3. Bod yn agos at natur | Mae mynediad at yr amgylchedd naturiol yn bwysig – mae tomenni glaswelltog, clogfeini a phlannu gerllaw i gyd yn ychwanegu at yr amgylchedd chwareus |
4. Caniatáu i blant chwarae mewn ffyrdd gwahanol | Mae dychymyg a chreadigrwydd yn bwysig felly xxx xxxxx cynnwys elfennau heb unrhyw swyddogaeth ddiffiniedig |
5. Caniatáu i blant chwarae gyda'i gilydd | Mae mannau chwarae llwyddiannus yn caniatáu i blant ag anableddau chwarae ochr yn ochr â'u cyfoedion nad ydynt yn anabl, tra’n derbyn nad yw popeth yn hygyrch i bawb |
6. Bod wrth fodd y gymuned | Mae mannau chwarae llwyddiannus yn cwrdd ag anghenion plant a'u cymunedau. |
7. Caniatáu i blant o wahanol oedrannau chwarae gyda'i gilydd | Mae mannau chwarae da yn osgoi gwahanu, gan alluogi gwahanol batrymau o ddefnydd drwy gydol yr wythnos |
8. Xxxxxxx risg a her briodol | Xxx xxxxx i xxxxx xxxx profi eu galluoedd a'u sgiliau eu hunain, cael cyfleoedd i brofi her a chyffro yn eu chwarae |
9. Cael ei chynnal am xxxxx chwarae a chynaliadwyedd amgylcheddol | Mae cynnal a chadw tymor hir a chynaliadwyedd yn hanfodol bwysig, ond ni ddylai'r rhain fwrw cysgod dros xxxxx chwarae |
10. Esblygu wrth i'r plant dyfu | Dylid ystyried lleoliad a chynllun yn ofalus er mwyn caniatáu i'r safle newid wrth i amser fynd heibio. |
A3.6 Darpariaeth Meysydd Chwarae Caerdydd
Mae Strategaeth Chwarae Drafft 2013-2018 y Cyngor yn defnyddio dull dau gategori syml i ddosbarthu meysydd chwarae. Bydd datblygwyr yn cael eu harwain yn ystod y cam cynllunio o ran pa lefel o ddarpariaeth fydd xx xxxxxx.
• Meysydd Chwarae lleol
Meysydd chwarae plant â chyfarpar yw’r rhain, i ddiwallu anghenion y gymuned leol, o fewn 400 metr i'r cyfleuster. Bydd meysydd chwarae lleol yn amrywio o ran maint yn ôl natur y datblygiad ac yn cynnwys categorïau LAP, LEAP a NEAP o chwarae a ddiffiniwyd yn safon FIT21. Pwrpas ddefnyddio'r diffiniad ehangach hwn yw sicrhau bod meysydd chwarae a ddarperir yn cael eu cynllunio nid yn gymaint yn ôl fformiwla ragnodol, ond yn fwy i gyd-fynd ag anghenion plant lleol.
Asesir y ddarpariaeth ar yr ystod o weithgareddau a gynigir yn y xxxx chwarae (neu gyfuniad o feysydd chwarae), priodoldeb oedran y cyfleuster, yr ystod o alluoedd y darperir ar eu cyfer a'r cyfleoedd i blant chwarae ar eu pennau eu hunain (a all fod yn addas i blant sy'n cael anawsterau gyda chymdeithasu) ac mewn grwpiau o allu cymysg.
• Meysydd Chwarae Cyrchfan a Meysydd Chwarae Mawr
Meysydd chwarae plant â chyfarpar yw’r rhain, i ddiwallu anghenion lleol ond sydd â nodweddion gwell i ddenu defnyddwyr o ardaloedd pellach i ffwrdd, ac sy’n rhan o ystod ehangach o atyniadau yn y lleoliad. Mae meysydd chwarae cyrchfan yn cynnig mwy o amrywiaeth a dewis o gyfleoedd chwarae a chânt eu lleoli mewn parciau hygyrch neu fannau agored gyda chyfleusterau hamdden eraill sy'n addas i deuluoedd, a byddant yn addas ar gyfer datblygiadau ar raddfa fawr lle darperir man agored canolog ar raddfa fawr.
A3.7 Briff dylunio ar gyfer mannau chwarae penodol newydd
Bydd y cyflwyniadau dyluniad ar gyfer xxxxx xx mannau chwarae cyrchfan neu fannau chwarae leol, fel y cynghorir yn y cyfnod uwchgynllunio neu yn ystod y trafodaethau cynllunio dilynol.
21 FIT (Fields in Trust) Xxxxx Xxxx Chwarae Plant
Dylai mannau chwarae gael eu cynllunio a'u paratoi i alluogi plant o wahanol oed a gallu chwarae gyda'i gilydd. Yn ddelfrydol, dylent gynnwys safleoedd nodweddion naturiol ar gyfer chwarae, wedi’i gyfuno ag eitemau dewisol o gyfarpar traddodiadol i wella gwerth chwarae.
Pan ddarperir mwy nag un xxxx chwarae o fewn datblygiad, dylai'r meysydd chwarae gael eu cynllunio i ddarparu amrywiaeth a gweithgareddau ategol ar draws y datblygiad, gan sicrhau bod pob lleoliad yn bodloni isafswm y gofynion a ddisgrifir.
a) Lleoliad darpariaeth chwarae
Dylai darpariaeth chwarae gael ei lleoli fel ei bod yn weladwy o eiddo o'i chwmpas, ffyrdd, neu ddefnyddwyr eraill. Ni ddylid ei lleoli mewn ardal anghysbell neu y tu ôl eiddo, lle na ellir gweld i mewn iddi - mae hyn yn arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol, fandaliaeth ac yn aml yn arwain at i’r ardal chwarae gael ei symud mewn amser.
Dylid lleoli’r man chwarae o fewn y man agored mewn lleoliad sy'n lleihau niwsans i breswylwyr lleol, yn unol â'r parthau clustogi a ddangosir.
b) Arwynebedd/ maint y ddarpariaeth chwarae
Bydd arwynebedd a maint y meysydd chwarae yn dibynnu ar y grwpiau oedran y darperir ar eu cyfer a nifer yr amrywiaeth o gyfleusterau chwarae o fewn y datblygiad. Dengys y tabl isod arwynebedd/maint meysydd chwarae sy'n darparu ar gyfer gwahanol grwpiau oedran.
Ystod oedran | Cyfwerth FIT | Lleiafswm pellter o ffin yr eiddo agosaf | |
Meysydd chwarae lleol |
22 Y xxxxx gweithgarwch yw’r ardal lle mae’r cyfarpar. Ni ddylai gynnwys unrhyw faes glaswellt ar gyfer chwarae rhydd, ond gall gynnwys ardaloedd o ddarpariaeth chwarae naturiol.
Ystod oedran | Cyfwerth FIT | Lleiafswm pellter o ffin yr eiddo agosaf | |
Xxx 3 a 3-8 | LEAP | 400m2 | 20m |
Xxx 3, 3-8 ac 8-14 | NEAP | 1000 – 1500m2 | 30m |
Meysydd chwarae cyrchfan | |||
Y cwbl o’r uchod | amherthnasol | Dros 30m |
Lle mae'r tir a ddyrannwyd ar gyfer xxxx chwarae newydd yn fach iawn (meysydd ar gyfer plant ifanc iawn) ac yn agos at ffiniau eiddo, rhaid i'r datblygwr sicrhau bod preswylwyr eiddo cyfagos yn cael gwybod am y cynigion yn ystod y cam dylunio amlinellol a chytuno ar eu datblygu.
c) Dyluniad
Rhoddir blaenoriaeth i gynlluniau llawn dychymyg sy'n gwneud y mwyaf o gyfleoedd chwarae i blant a lleihau goblygiadau cynnal a chadw hirdymor. Dylai’r dyluniad ddarparu ystod xxxx o wahanol gyfleoedd ar gyfer chwarae,
dysgu cymdeithasol a datblygiadol, chwilfrydedd a darganfod, gan roi cyfle i blant ddefnyddio eu dychymyg wrth chwarae, yn hytrach na defnyddio cyfarpar fformiwläig syml.
Dylid ymgorffori nodweddion y safle fel ardaloedd ar lethr a llystyfiant presennol yng nghynllun y cyfleuster i osgoi addasiadau costus yn ddiweddarach. Lle bo'n briodol, dylai meysydd chwarae gael eu lleoli o fewn mannau digon mawr i gynnwys swyddogaethau eraill mannau agored, gan gynnwys llwybrau troed, seddi a lle xxxxx pêl glaswelltog anffurfiol.
d) Cyfarpar chwarae
Mae ystod xxxx o gyfarpar chwarae ar gael sy'n gwasanaethu llawer o wahanol oedrannau. Bydd y dewis o gyfarpar yn dibynnu ar leoliad, math ac ystod oedran man chwarae, ond dylai’r xxxx gyfarpar:
• Gydymffurfio ag EN 1176 (safon gyfatebol neu yn briodol)
• Fod yn gadarn, gan wrthsefyll defnydd sylweddol dros gyfnod hir
• Cael ei gynnal yn hawdd, gydag argaeledd rhannau sbâr
• Darparu gwerth chwarae da ar y cyd â chyfarpar arall
• Bod â ffitiadau allanol gwrth-ymyrraeth
• Osgoi bod yn or-gymhleth
Xxx xxxx eitemau o gyfarpar â phroblemau penodol neu maent yn achosi problemau cynnal a chadw penodol, a dylid eu hosgoi neu eu pennu mewn ffordd arbennig er mwyn osgoi problemau yn y dyfodol:
• Dylai siglenni fod ag atalyddion gwrth-xxxxx xx mwyn osgoi achosi difrod yn y dyfodol pan fydd y cadwyni’n lapio o amgylch y ffrâm
• Mae rhedfeydd neu geblau awyr yn boblogaidd iawn, ond xxx xxxxx lefel uchel o fewnbwn i’w cynnal a’u cadw i redeg yn iawn (mae’r atalyddion yn gwisgo’n gyflym iawn ac efallai y bydd angen eu hailosod xxx 6 mis)
• Dylid osgoi cylchfannau sy’n ffitio’n wastad oherwydd cymhlethdod a'r gost o atgyweirio
• Nid yw cyfarpar pren yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o feysydd chwarae yng Nghaerdydd oherwydd yr hinsawdd laith. Lle defnyddir cyfarpar pren, dylid gosod traed dur arno os yn ei osod ar y ddaear. Os yw’r xxxx chwarae i gael ei fabwysiadu gan y cyngor a'r defnydd o gyfarpar pren wedi cael ei gytuno, codir swm gohiriedig uwch i adlewyrchu'r angen i ailosod yn amlach.
Xxxx y Cyngor roi cyngor ar eitemau unigol o gyfarpar xxxx x xxxxx da o ran gwerth chwarae, gwydnwch a rhwyddineb cynnal a chadw.
e) Chwarae naturiol
Gall y defnydd o fodelu daear a deunyddiau naturiol (er enghraifft clogfeini, boncyffion, coed wedi’u torri) ychwanegu at xxxxx chwarae meysydd chwarae, ond ni fydd hyn yn disodli'r defnydd o gyfarpar sefydlog oni bai bod tystiolaeth dda i gefnogi'r cynnig. Mae xxx amser xxxxx ystyried cynnal a chadw a gwydnwch tymor hir wrth ddylunio neu ddefnyddio nodweddion chwarae naturiol.
f) Arwynebau
Mae nifer o wahanol arwynebau chwarae ar gael:
• systemau carped xxxxxxxxx wedi’u trin â thywod
• rwber a dywelltir yn wlyb
• teils rwber
• matiau gwair
• rhisgl chwarae
• tywod
• glaswellt.
Rhaid i unrhyw arwyneb a ddefnyddir gydymffurfio â'r uchder disgyn perthnasol ar gyfer y cyfarpar lle y’i gosodwyd, ac mae'n rhaid iddo gydymffurfio â BS EN 1177.
Er mwyn hwyluso atgyweirio a chynnal a chadw cyfarpar ac arwyneb diogelwch, dim ond o fewn xxxxx diogelwch cymeradwy’r cyfarpar y dylai’r arwyneb a ddewisir gael ei ddefnyddio. Tuedda ardaloedd mawr o arwyneb mwy diogel fod yn anodd i’w hatgyweirio fesul darnau, ac maent yn gostus i’w hamnewid, felly dylai mannau chwarae newydd osgoi eangderau mawr di-dor o arwyneb perchnogol sy'n cynhyrchu costau atgyweirio gormodol a phroblemau cynnal a chadw hirdymor sylweddol i'r Cyngor. O fewn y meysydd chwarae, xxx xxxxx arwyneb caled i gysylltu cyfarpar, gan fod glaswellt yn gwisgo’n gyflym. Gellir defnyddio graffeg daear ar arwyneb caled i roi gwerth chwarae ychwanegol.
Ceir crynodeb o'r gwahanol systemau arwyneb diogelwch a’u defnydd yn y tabl isod:
Math o arwyneb | Addasrwydd | Manteision | Anfanteision |
Systemau carped diogelwch ar xxxx dywod gydag isgarped VHAF a phadiau sioc | Yr xxxx gyfarpar | • Deniadol • Gwydn • Ddim yn pylu • Hawdd i’w glytio a’i drwsio • Gellir defnyddio graffeg daear | • Drud • Angen ychwanegu at yr xxxx dywod yn flynyddol |
Rwber wedi ei dywallt yn wlyb | Anaddas – ar wahân i eitemau cylchdroi. Defnyddio du gyda smotiau lliw yn unig os cymeradwyir defnydd. Defnyddio ymyl rhag- gastiedig toriad-L er mwyn lleihau problemau grebachu | • Heb ei ystyried | • Gwydnwch cyfyngedig (yn ôl pob tebyg yn gysylltiedig â’r hinsawdd leol) • Drud • Materion crebachu o gwmpas yr uniadau • Anodd paru atgyweiriadau • Drud i’w amnewid • Graffeg daear yn broblemus (crebachu) |
Teils rwber | Anaddas | • Dim | • Ddim yn wydn • Crebachu • Glynu’n wael a chodi dros amser |
Matiau glaswellt | Dim ond eu defnyddio ar dyweirch sefydledig - da ochr yn ochr â sleidiau neu ar ben sleidiau ar lethr | • Cost effeithiol • Anymwthiol • Da i reoli erydu | • Anaddas i ardaloedd xxxxx uchel (e.e. xxx siglenni, eitemau symudol) |
Rhisgl a graean | Rhagdybiaeth yn erbyn eu defnyddio, ond xxxxxxx fod yn briodol mewn rhai sefyllfaoedd. Angen mynediad da i gerbydau er mwyn eu hadnewyddu. | • Deniadol ac amlbwrpas • Rhad i’w gosod | • Xxxxx xxxxx uchel x xxxxx cynnal a chadw (cael gwared â halogyddion e.e. gwydr, nodwyddau ayb) • Anaddas xxx gyfarpar symudol |
Math o arwyneb | Addasrwydd | Manteision | Anfanteision |
Tywod | Fel gyda rhisgl | • Deniadol ac amlbwrpas • Rhad i’w osod | • Xxxxx xxxxx uchel x xxxxx cynnal a chadw (cael gwared â halogyddion e.e. gwydr, nodwyddau ayb) • Anaddas xxx gyfarpar symudol |
Glaswellt | Dim ond yn addas o xxx gyfarpar isel (cyfeirier at BS EN 1177) | • Rhad i’w osod | • Anaddas i ardaloedd xxxxx uchel • Angen cynnal a chadw rheolaidd (torri ac atgyweirio ardaloedd sydd wedi gwisgo) |
Yn seiliedig ar brofiad y Cyngor o gynlluniau chwarae presennol, profodd y system carped diogelwch xxxx xxxx dywod i fod yr arwyneb mwyaf gwydn, cost effeithiol a hawdd ei gynnal. Er ei fod yn cael ei ddefnyddio'n xxxx, profodd rwber wedi ei dywallt yn wlyb i fod â nifer o broblemau, gydag angen ailosod yr arwyneb mewn llai na phum mlynedd, yn enwedig ar safleoedd gwlyb.
g) Ffensio perimedr
Gall y cyfan neu ran o'r man chwarae gael ei ffensio neu fod heb ei ffensio, yn dibynnu ar y lleoliad. Dylid ystyried p’un a oes angen ffensio’r xxxx chwarae a xxxx fyddai diben codi’r ffens. Xxxxx'r penderfyniad i ffensio neu beidio ystyried y ffactorau canlynol:
• Lleoliad y man chwarae o fewn y parc neu fan gwyrdd
• Agosrwydd y xxxx chwarae at briffyrdd a/neu lwybrau beicio prysur
• Ardal o ddefnydd trwm sy'n debygol o ddenu plant i groesi o flaen y cyfarpar symudol
• P'un ai yw cŵn yn debygol o amharu ar y defnydd o'r xxxx chwarae neu beidio (er enghraifft - os yw'r parc yn hysbys/debygol o fod yn boblogaidd gyda cherddwyr cŵn)
Os nad ystyrir bod ffens yn angenrheidiol, xxx xxxxx i'r cynllun ystyried materion megis rheoli cŵn neu symudiad plant mewn perthynas ag ardaloedd cyfagos. Yn gyffredinol mae ardaloedd chwarae plant iau yn fwy tebygol o xxxx xxxx o ffensys oherwydd y teimlad o ddiogelwch ychwanegol y mae'n ei roi.
Os ystyrir bod ffens neu rwystr yn angenrheidiol, dylid dewis y ffens neu rwystr gwydn gyda gwaith cynnal a chadw isel, i gyd-fynd â'r lleoliad, a (lle xx xxxx) i roi gwerth chwarae i'r safle.
Amlinella’r tabl isod y mathau o ffensys a rhwystrau y gellir eu defnyddio o fewn meysydd chwarae. Dylid cymryd gofal i sicrhau bod y fath o ffin a ddewisir yn cydymffurfio â BS EN 1176 - gan roi sylw arbennig i faterion caethiwo.
Math | Defnydd | Manteision | Anfanteision |
Ffens bariau dur â phen fflat | Ffin xxxx chwarae (diogelu rhag gŵn) wedi’i baentio neu alfanedig | Deniadol a gwydn | Drud Xxxxx xx ail- baentio’n rheolaidd |
Ffens bariau dur â phen bwaog | Ffin xxxx chwarae (diogelu rhag gŵn) wedi’i baentio neu alfanedig | Wedi ei brofi Deniadol a gwydn | Drud Xxxxx xx ail- baentio’n rheolaidd |
Pyst dyr a weiren rwyllog | Ffin xxxx chwarae (diogelu rhag gŵn) gwahanol orffeniadau (wedi’i baentio, galfanedig, gorchuddio gyda phlastig) | Economaidd i’w osod Systemau deniadol ar gael | |
Pyst xxx bwysau a weiren rwyllog (coed unionsyth) | Ffin xxxx chwarae (diogelu rhag gŵn) wedi ei alfaneiddio gyda choed unionsyth | Rhad i’w osod | Angen amnewid yn aml os defnyddir pyst coed. |
Gwrychoedd | Ffin (wedi'u cyfuno o bosibl gyda ffens postyn | Edrych yn naturiol | Drud i’w cynnal |
Math | Defnydd | Manteision | Anfanteision |
a gwifren). Dim ond rhywogaethau nad ydynt yn bigog na gwenwynig. | Ychwanegu at xxxxx chwarae | Angen trwsio ac adnewyddu parhaus | |
Palis logiau | Anaddas i’w defnyddio (anaddas i hinsawdd laith) | Deniadol ac edrych yn naturiol | Pydru yn hawdd Drud i gynnal ac amnewid |
Rhwystr tiwbaidd | Rhwystrau siglenni perchnogol neu rwystrau eraill o xxxx x xxxx chwarae i xxxx rhedeg o flaen y cyfarpar symudol | Eitemau perchnogol ar xxxx | Xxxx fod yn broblem os yw’n ddeniadol fel eitem chwarae |
h) Giatiau i feysydd chwarae
Os yw’r xxxx chwarae i gael ei ffensio, yna dylid ystyried sut mae'r mynedfeydd i gael eu rheoli. Mae'n rhaid i xxx xxxx a mathau eraill o fynedfa gael eu darparu a'u gosod yn unol â BS EN 1176 a BS EN 1177.
Dylid darparu o leiaf ddwy giât ar gyfer meysydd chwarae sydd wedi’u ffensio a dylai'r xxxxx xxxx tuag at xxxxx o’r xxxx chwarae i ddarparu modd o ddianc mewn achos o fwlio ar y xxxx chwarae.
Mae'n rhaid gosod giatiau sy'n cau eu hunain er mwyn darparu amser cau rheoledig o 6-7 eiliad i xxxx clepian/malu. Mae giatiau parod hunan-gau yn fwy gwydn na mecanweithiau hunan-gau a ychwanegir at giatiau safonol. Dylai giatiau fod o liw cyferbyniol i'r ffens, i'w gwneud yn gwbl weladwy i xxx defnyddiwr.
Xxx xxxxx darparu mynediad cynnal a chadw i’r xxxx feysydd chwarae sydd wedi'i ffensio, ar ffurf giât cynnal a chadw ddwbl wedi’i chloi i roi mynediad i gerbydau er mwyn ymgymryd â gwaith atgyweirio neu adnewyddu cyfarpar. Xxx xxxxx i'r rhain fod o leiaf 3m o led.
i) Planhigion a chwarae
Gall ymgorffori coed aeddfed presennol a llystyfiant arall i mewn i amgylchedd chwarae neu ddarparu plannu newydd (coed, llwyni, bylbiau a blodau gwyllt) greu gwerth chwarae ychwanegol, rhoi mwy o synnwyr o le, a helpu i integreiddio man chwarae i mewn i’r ardal o'i amgylch. Bydd planhigion newydd angen amddiffyniad cadarn i ganiatáu iddynt sefydlu. Dylid ystyried lleoliad planhigion yn ofalus er mwyn osgoi sbwriel dail a malurion eraill rhag effeithio'n andwyol ar yr arwyneb diogelwch.
j) Dodrefn safle
Bydd angen cynnwys y dodrefn canlynol fel rhan o ddyluniad ardal chwarae.
• Seddi - 2 sedd hir 1.8m neu seddi cyfatebol ar gyfer 6 o bobl
• Biniau sbwriel - biniau gyda chaeadau. Rhaid cael biniau eraill yn ogystal o fewn y mannau agored i ganiatáu cael gwared â baw cŵn i ffwrdd o'r ardal chwarae lle y gall achosi perygl
• Rheseli beiciau - o leiaf 2
• Arwydd dim cŵn – i’w arddangos ym mhob mynedfa i ardaloedd chwarae wedi’i ffensio
• Arwydd gwybodaeth safle – yn rhoi manylion am reolaeth y safle, gan gynnwys enw a chyfeiriad y xxxx chwarae, rhif ffôn argyfwng a rhif ffôn i gysylltu â phersonél cynnal a chadw
A3.8 Chwarae cynhwysol
Dylai mannau chwarae deimlo'n groesawgar i xxx plentyn. Yn aml, mae rhwystrau cymdeithasol i gael mynediad yn fwy na rhai corfforol; mae'n bwysig datblygu awyrgylch sy’n croesawu pawb. Dylai llwybrau troed gael eu hadeiladu ar ffurf arwyneb caled sy'n galluogi mynediad i xxx plentyn trwy gydol y flwyddyn.
Erbyn hyn mae nifer o ddarnau o gyfarpar ‘hygyrch’ a gynlluniwyd yn arbennig sy’n boblogaidd gyda phlant o xxx xxxxx, fodd bynnag, gall cyfarpar sydd wedi'i gynllunio'n arbennig ar gyfer plant anabl annog arwahanu felly dylid eu defnyddio gyda gofal.
Mae cyfarpar sy'n caniatáu defnydd hyblyg gan ystod o wahanol alluoedd yn cynnwys siglenni basged, sleidiau llydan, rocwyr sbring gyda seddi ategol a rhai mathau o gyfarpar sy’n cylchdroi.
Bydd cyfarpar y gellir ei ddefnyddio mewn modd hyblyg ac sydd 'heb fod yn rhagnodol' o ran ei ddefnydd yn annog ystod xxxx o ddefnyddwyr.
A3.9 Asesu dyluniad meysydd chwarae
Bydd sgoriau gwerth chwarae yn cael eu defnyddio i gynorthwyo'r Cyngor i asesu gwerth cymharol unrhyw gynllun chwarae a gyflwynir. Ystyrir y dyluniad ymhellach yn erbyn y rhai a ffefrir gan dimau dylunio a gweithredol y Cyngor, pan fo’r tir i gael ei fabwysiadu gan y Cyngor.
Asesir gwerth chwarae ar gyfer:
(a) Nodweddion safle
(b) Nodweddion cyfarpar
(c) Mynediad i bawb a chydweithrediad chwarae
Mae'r agweddau hyn ar xxxxx chwarae yn ymgorffori ystod xxxx o gyfleoedd chwarae, dysgu, cymdeithasol a datblygiadol yn ogystal â diogelwch, goruchwylio a ffactorau amgylcheddol.
Lle nad yw eitem yn bodloni safonau diogelwch a gofynion gweithredol cyfredol, e.e. nad yw'r dyluniad yn cynnwys effaith arwyneb sy’n lliniaru trawiad neu badiau gwisgo xxx gyfarpar neu os yw’n cyflwyno gwrthdaro traffig posibl rhwng eitemau o gyfarpar,
bydd pob eitem yn dal yn cael ei sgorio ond didynnir un pwynt o'r cyfanswm sgôr ar gyfer pob eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion diogelwch a gweithredol. Fodd bynnag, dylid nodi na fydd y Cyngor yn mabwysiadu meysydd chwarae gyda chyfarpar neu gynllun nad yw’n cydymffurfio.
Dylai'r cyflwyniad dyluniad arddangos mewn fformat cynllun 2D syml sut y bydd y xxxx chwarae newydd yn cael ei leoli o fewn y parc cyhoeddus a/neu leoliad preswyl. Bydd xxxx chwarae nad yw mor hawdd gweld i mewn iddo yn cael sgôr is ar 'oruchwyliaeth anffurfiol'.
Er bod y system sgorio yn seiliedig ar ddisgrifiadau pwynt bwled, rhoddir y sgôr uchaf i fannau chwarae cytbwys, a gynlluniwyd gyda dychymyg. Ni fydd dyluniadau sydd â nifer dda o feinciau parc a biniau sbwriel yn cael sgôr uchel os mai dim ond ychydig o gyfarpar chwarae ffisegol sydd ar gael. Yn yr un modd ni fydd cynigion sydd â nifer o eitemau o gyfarpar chwarae wedi eu gwthio i mewn i fannau a gynlluniwyd yn ddiddychymyg ychwaith yn derbyn sgôr uchel. Bydd cyfarpar chwarae a nodweddion safle yn cael eu sgorio fesul eitem a rhoddir sgôr ychwanegol ar gyfer hygyrchedd i bawb a chwarae cydweithredol. Tynnir un pwynt o sgoriau unigol cyfarpar xxxx chwarae, nodweddion safle a chwarae cydweithredol cael am xxx diffyg cydymffurfio neu ddiffyg yn y cynllun, a bydd cyfanswm pob sgôr yn cael ei asesu yn erbyn y gofynion sylfaenol a nodir ar ddiwedd pob tabl.
Mae'r tabl gyferbyn yn darparu methodoleg meini prawf a sgorio ar gyfer asesu cynlluniau chwarae sy’n deillio o nifer o ffynonellau. Os yw’r cynlluniau a gyflwynir yn methu â bodloni'r sgoriau ansawdd trothwy canlynol, bydd angen eu hailgyflwyno.
Rhoddir y sgoriau gofynnol ar gyfer gwahanol feysydd chwarae isod.
Math o faes chwarae | Isafswm sgoriau | ||