Adroddiad ar yr ystyriaeth o’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol sy’n deillio o Fil yr Undebau Llafur (‘y Bil’)
Adroddiad ar yr ystyriaeth o’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol sy’n deillio o Fil yr Undebau Llafur (‘y Bil’)
1.0 Y Bil
1.1 Cyflwynwyd y Bil yn Nhŷ’r Cyffredin ar 15 Gorffennaf 2015 a daeth i Dŷ’r Arglwyddi ar 11 Tachwedd 2015 a chafodd ei ddarlleniad cyntaf ar yr un dyddiad. Cynhaliwyd ail ddarlleniad y Bil yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 11 Ionawr 2016.
1.2 Prif amcanion polisi Llywodraeth y DU ar gyfer y Bil, fel y nodir yn y Nodiadau Esboniadol, yw i "gyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio’r undebau llafur ac i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol rhag streiciau".
1.3 Y paragraffau perthnasol yn y Nodiadau Esboniadol sy’n ymwneud â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a darpariaethau’r Bil hwn sy’n gysylltiedig ag ef yw 14-19 (trothwy cyffredinol o 40% i weithredu’n ddiwydiannol mewn meysydd allweddol yn y sector cyhoeddus), 52-56 (amser cyfleuster) a 57-59 (gwaharddiad ar ddidynnu taliad tanysgrifiadau undeb o gyflogau yn y sector cyhoeddus).
2.0 Darpariaethau y gofynnir am gydsyniad ar eu cyfer:
2.1 Cymal 3: Trothwy cyffredinol o 40% i weithredu’n ddiwydiannol mewn meysydd allweddol yn y sector cyhoeddus.
2.1.1 Mae’r cymal hwn yn diwygio adran 226 o Ddeddf 1992 ac yn cyflwyno trothwy gofynnol newydd o 40% (o’r rhai a oedd â hawl i bleidleisio yn y balot) o ran y gefnogaeth y mae’n rhaid ei sicrhau mewn balotau ar gyfer gweithredu diwydiannol yn y gwasanaethau cyhoeddus pwysig. Mae hwn yn ofyniad newydd.
2.1.2 Caiff y gwasanaethau cyhoeddus pwysig eu nodi mewn rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig, ac a gymeradwywyd gan benderfyniad pob tŷ yn Senedd y DU (y weithdrefn gadarnhaol). Bydd y Rheoliadau yn nodi dim ond gwasanaethau sy’n dod o fewn unrhyw un o’r categorïau canlynol:
(a) gwasanaethau iechyd
(b) addysg plant a phobl ifanc o xxx 17 mlwydd oed
(c) gwasanaethau tân
(d) gwasanaethau trafnidiaeth
(e) datgomisiynu gosodiadau niwclear a rheoli gwastraff ymbelydrol a gweddillion tanwydd
(f) diogelwch ffiniau
2.1.3 Daw’r trothwy gwasanaethau cyhoeddus pwysig newydd o 40% i rym ar gyfer pob balot a gaiff ei chynnal ar ôl i’r cymal hwn ddod i rym.
2.2 Cymalau 12 a 13: amser cyfleuster
2.2.1 Cymal 12: Gofynion cyhoeddi mewn perthynas ag amser cyfleuster Mae’r cymal hwn yn mewnosod adran newydd, 172B, yn Neddf 1992 fel y gall Gweinidog y Goron (h.y. yr Ysgrifennydd Gwladol) wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i rai cyflogwyr sector cyhoeddus xxx xxx un, sydd ag un neu fwy o gynrychiolwyr undebau llafur, gyhoeddi gwybodaeth am yr amser a gymerwyd gan y cynrychiolwyr hynny ar gyfer gweithgareddau a dyletswyddau undeb lafur. Bydd y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol yn y xxxxx Xx’r Senedd neu’r llall.
2.2.2 Cymal 13: Pwerau wrth gefn mewn perthynas ag amser cyfleuster Mae’r cymal hwn yn mewnosod adran newydd, 172B, yn Neddf 1992, yn xxxx ar ôl yr adran newydd,172A, a fewnosodir gan gymal 12. Mae’r adran newydd yn caniatáu i Weinidog y Goron (h.y. yr Ysgrifennydd Gwladol) wneud rheoliadau gan arfer pwerau wrth gefn, pan fydd y Gweinidog yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny. Mae paragraff 55 o’r Nodiadau Esboniadol yn datgan, ‘the reserve powers may be exercised so as to limit the paid time off taken by the employers’ trade union representatives for facility time to a percentage of the representatives’ working time’.
2.2.3 O ran cymalau 12 a 13, fel y mae paragraff 10 o’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn nodi, mae’r darpariaethau hyn yn berthnasol i’r sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.
2.3 Cymal 14: Gwaharddiad ar ddidynnu taliad tanysgrifiadau undeb o gyflogau yn y sector cyhoeddus
2.3.1 Diwygiwyd y Bil yn ystod y cyfnod Pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin. Cyflwynodd Xxxx Xxxxx AS, y Gweinidog Gwladol dros Sgiliau welliannau llwyddiannus, a oedd yn cynnwys darpariaeth i ddiwygio Deddf 1992 sy’n gwahardd cyflogwyr y sector cyhoeddus, a ragnodir gan reoliadau, rhag didynnu tanysgrifiadau undebau o gyflogau gweithwyr ac anfon y rhain at yr undebau xxx sylw.
2.3.2 Mae paragraff 59 o’r Nodiadau Esboniadol yn dweud:
‘The regulations, which are subject to the affirmative procedure, may amend or otherwise modify existing legal entitlement, such as those contained in contracts of employment. The regulations may also make transitional provisions before the prohibition takes effect, such as specifying a commencement date after a certain period of time to enable trade unions to make alternative arrangements to check off and notify their members of these, encouraging them to switch to direct debit for example.’
3.0 Cymhwysedd deddfwriaethol
3.1 Fel yr eglura’r Memorandwm, mae’r darpariaethau y cyfeiria cymal 3 (trothwy cyffredinol o 40% i weithredu’n ddiwydiannol mewn meysydd allweddol yn y sector cyhoeddus) atynt yn ymwneud â mater o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau canlynol o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru ’06:
Paragraff 5 (Addysg a hyfforddiant):
“Addysg, hyfforddiant galwedigaethol, cymdeithasol a chorfforol”..
Paragraff 7 (gwasanaethau tân ac achub):
Gwasanaethau Tân ac Achub
Paragraff 9 (Iechyd a gwasanaethau iechyd)
‘darpariaethau gwasanaethau iechyd, gan gynnwys gwasanaethau a chyfleusterau meddygol, deintyddol, offthalmig, fferyllol ac ategol’
Paragraff 10 (Priffyrdd a thrafnidiaeth):
‘cyfleusterau a gwasanaethau trafnidiaeth’
3.2 Mae’r darpariaethau y mae cymalau 12 a 13 o’r Bil (amser cyfleuster) a Chymal 14 (gwaharddiad ar ddidynnu taliad tanysgrifiadau undeb o gyflogau yn y sector cyhoeddus) yn cyfeirio atynt yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol o xxx yr un penawdau paragraffau Atodlen 7 â Chymal 3 (uchod) gan gynnwys ychwanegu paragraff 12 (Llywodraeth Leol): pwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol a’u haelodau a’u swyddogion.
3.3 Fel y noda Llywodraeth Cymru ym mharagraff 13 o’r Memorandwm, felly, byddai’r darpariaethau yn berthnasol i gyflogwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cymryd rhan yn y pynciau hyn, gan gynnwys: Tân ac achub, byrddau iechyd lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG ac Awdurdodau Iechyd Arbennig ac awdurdodau lleol. Nid yw hon yn rhestr gyflawn.’
3.4 Xxxxx, xxx cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad yn ofynnol, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6; a hefyd, o safbwynt Llywodraeth y DU, yn unol â’r Nodyn Canllaw ar Ddatganoli diwygiedig Rhif 9.
3.5 Ymhellach, mewn datganiad ysgrifenedig ynghylch y Bil, dywedodd y Prif Weinidog:
"Mae’n amlwg bod elfennau sylweddol o’r Bil yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau cyhoeddus, sy’n bendant yn gyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli i Gymru. Nid wyf felly’n derbyn yr awgrym bod y Bil yn ymwneud â materion sydd heb eu datganoli yn unig.
Yn nyfarniad y Goruchaf Lys mewn perthynas â Bil y Sector Amaethyddol (Cymru), cafwyd cadarnhad, ar yr xxxx bod Bil Cynulliad yn bodloni mewn ffordd deg a realistig y prawf a geir yn adran 108 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac nad yw’n destun eithriad, nad yw o bwys p’un a yw’n gallu cael ei gyfrif fel ei fod yn
gysylltiedig â phwnc sydd heb ei ddatganoli, fel hawliau cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol.."
6.0 Casgliad
4.1 Ystyriodd y Pwyllgor Xxxxxx a Busnes y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn gyffredinol, yn ogystal â’r gofyniad am gynnig cydsyniad deddfwriaethol sy’n ymwneud â darpariaethau’r Bil yn y meysydd perthnasol.
4.2 Ar sail y cyngor cyfreithiol a gafwyd, roedd y Pwyllgor yn teimlo’n gryf bod cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn ofynnol mewn perthynas â darpariaethau amrywiol y Bil, ac mai’r Cynulliad a ddylai benderfynu a ddylid rhoi caniatâd ai peidio.
4.3 Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi argymell na ddylai’r Cynulliad roi cydsyniad i’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn. Nododd Aelodau’r Pwyllgor fod safbwyntiau gwleidyddol gwahanol ymysg y pleidiau gwahanol, a’i bod yn gwbl briodol i’r Cynulliad ddod i benderfyniad ar y Memorandwm yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Ionawr 2016.