Swyddog insport
Swyddog insport
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 11eg Rhagfyr 2020, am 5pm
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn chwilio am Swyddog insport deinamig, profiadol ac arloesol i ymuno â’n xxx ni i dylanwadu a chefnogi Cyrff Llywodraethu Chwaraeon Cymru cynhwysol, a chefnogi’r cyflwyniad effeithiol o rhaglenni insport.
Cyflog: £26,000 y flwyddyn (contract cychwynnol am flwyddyn)
Lleoliad: Xxx XxXX yn Sefydliad Cenedlaethol ac mae ein
presenoldeb ledled Cymru yn bwysig i ni. Bydd posib trafod lleoliad y swydd.
Mae'r Pencadlys wedi'i leoli yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia yng nghanol Caerdydd, a xxxx fydd yn ddiogel gwneud hynny, bydd angen teithio fel rhan o’r swydd.
Y Cwmni:
Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru (neu Chwaraeon Anabledd Cymru (ChAC)) yw'r sefydliad arweiniol yng Nghymru ar gyfer chwaraeon anabledd a chwaraeon ar gyfer pobl anabl. Rydym yn gwmni cyfyngedig drwy warant ac yn elusen gofrestredig.
Rydym yn rhannu'r weledigaeth ar gyfer chwaraeon yng Nghymru (cenedl actif lle gall pawb gael mwynhad gydol oes o chwaraeon) a'n cenhadaeth yw
dylanwadu, cynnwys, ysbrydoli, insport
Rydym yn dîm bychan o unigolion hynod ymroddedig ac angerddol a'n nod cyffredin yw eiriol dros ddull cynhwysol o weithredu yn y sector. Rydym wedi datblygu strategaeth newydd yn ddiweddar sy'n datgan gweledigaeth gyffrous ac uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Mae’r rhaglenni insport yn ganolog i'r weledigaeth hon, gan ein bod yn anelu at gefnogi sector cynhwysol trwy'r blaenoriaethau strategol canlynol:
1. Sefydlu partneriaethau effeithiol ar gyfer diwylliant sector cynhwysol
2. Grymuso gweithlu cynhwysol
3. Galluogi llwybrau cynhwysol cadarn
4. Tyfu fel sefydliad iach, atebol sy'n arwain y sector
Y Rôl:
Pwrpas y rôl hon yw:
1) Gweithio fel Swyddog Achos gyda sefydliadau penodol yng Nghymru yn cyflawni'r 4 lefel insport.
2) Cefnogi Swyddogion Achos sy'n gweithio gyda gyrff Rheoli Cenedlaethol a Sefydliadau 3ydd Sector
3) Cefnogi a gweinyddu pob rhaglen insport yn effeithiol
Pwy ddylai wneud cais am y swydd?
• Bod yn rhan o dîm cefnogol, deinamig a rhagweithiol
• Polisïau a gweithdrefnau â’u ffocws ar bobl
• Gwyliau blynyddol hael a phensiwn
• Gweithio i gyflogwr teg ac amrywiol gyda moeseg a gwerthoedd proffesiynol cadarn
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch drwy:
ebost xxxxxx@xxxxxxxxxxxxxxxxxxxx.xxx
neu ffoniwch/tecst Xxx Xxxxxx, 07458031779