Contract
CYNGOR SIR YNYS MÔN | |
Pwyllgor: | Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio |
Dyddiad: | 22/11/2023 |
Pwnc: | Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu 2023 - 2028 |
Pwrpas yr Adroddiad: | Nodi cynllun hirdymor y Cyngor i arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu mwy. |
Cadeirydd Sgriwtini: | Cynghorydd Xxxxx Xxxx |
Aelod(au) Portffolio: | Cynghorydd Xxxxxx Xxxx Xxxxxx, Xxxxxxx Xxxxxxxxxx Xxxxxxxxx, Gwastraff ac Eiddo |
Pennaeth Gwasanaeth: | Xxx Xxxxx, Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd Gwastraff ac Eiddo |
Awdur yr Adroddiad: Ffôn: E-xxxx: | Xxxxxxx Xxxxxxx, Prif Swyddog Rheoli Gwastraff 01248 752 818 |
Aelodau Lleol: | Pob aelod |
25
1 – Argymhelliad/ion |
Gofynnir i’r Pwyllgor: A1 Nodi’r Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu 2023 – 2028. A2 Argymell i’r Cyngor fabwysiadu’r Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu 2023 – 2028. |
2 – Cyswllt efo Cynllun y Cyngor / Blaenoriaethau Corfforaethol Arall |
Mae'r Cynllun yn cefnogi gweledigaeth yn Nghynllun y Cyngor 2023-28 i: "greu Ynys Môn fydd yn iach a llewyrchus lle gall pobl ffynnu" Bydd y Cynllun Adnoddau ac Ailgylchu hwn yn ein galluogi i weithredu ar yr argyfwng newid hinsawdd gan ymateb i un o Amcanion strategol Cynllun y Cyngor; Newid hinsawdd. Mae Cynllun y Cyngor yn nodi y byddwn wedi cynyddu cyfraddau ailgylchu erbyn 2028. Mae'r ddogfen hon yn nodi cynllun i weithio tuag at gyfradd ailgylchu o 70%. Mae'r Cynllun yn nodi ein nod i symud tuag at Economi Gylchol yn Ynys Môn; Cadw adnoddau'n cylchredeg yn yr economi cyhyd â phosibl cyn eu taflu, bydd hyn yn helpu tuag at ein taith tuag at allyriadau carbon sero-net erbyn 2030 |
3 - Egwyddorion fel Canllaw ar gyfer Aelodau Sgriwtini |
Er mwyn cynorthwyo Aelodau wrth graffu ar y pwnc:- 3.1 Yr effaith y mae’r eitem yn ei chael ar unigolion a chymunedau [ffocws ar y cwsmer/ dinesydd] |
3.2 Edrych ar effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd unrhyw newid arfaethedig – yn ariannol ac o ran ansawdd [ffocws ar xxxxx]
3.3 Edrych ar unrhyw risgiau [ffocws ar risg]
3.4 Sgriwtini’n cymryd rȏl rheoli perfformiad neu sicrhau ansawdd [ffocws ar berfformiad ac ansawdd]
3.5 Edrych ar gynlluniau a chynigion o safbwynt:
• Hirdymor
• Xxxx
• Integreiddio
• Cydweithio
• Cynnwys
[ffocws ar lesiant]
3.6 Effeithiau posibl y byddai’r penderfyniad hwn yn ei gael ar:
• y grwpiau a warchodir o xxx Ddeddf Cydraddoldeb 2010
• y rhai sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol yn eu bywydau (wrth wneud penderfyniadau strategol)
• y cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
[ffocws ar gydraddoldeb a’r Gymraeg]
4 – Cwestiynau Sgriwtini Allweddol |
1. Mae amcanion y Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu yn uchelgeisiol. Xxxx arall xxxx y Cyngor ei wneud i gyflawni cyfradd ailgylchu statudol o 70%? 2. Sut mae'r cynllun hwn yn helpu'r Cyngor i gyflawni ei ymrwymiad i fod yn garbon sero-net erbyn 2030? 3. Pa risgiau a nodwyd a allai effeithio ar gyflawni'r cynllun hwn? 4. Be ydy’r goblygiaudau ariannol i’r Cyngor gyflawni’r cynllun yma? |
5 – Cefndir / Cyd-destun |
Mae'r Cynllun yn nodi ein meysydd blaenoriaeth: 1. Lleihau gwastraff a chynyddu ailddefnyddio 2. Cynyddu ailgylchu a gwella ansawdd 3. Gwella glanhau strydoedd a lleihau tipio anghyfreithlon 4. Arwain trwy esiampl Drwy fabwysiadu'r cynllun, bydd yn darparu llwyfan i'r Cyngor wneud ceisiadau cryf ar sail tystiolaeth am gyllid allanol ac yn galluogi dull cyson o wella ein cyfradd ailgylchu. |
Bydd cyflawni rhai o amcanion y cynllun yn heriol ac yn dibynnu ar sicrhau cyllid allanol, ni fyddai'n ymarferol ariannu drwy gyllideb refeniw a chyfalaf gyfyngedig y Cyngor yn unig.
6 - Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb [gan gynnwys effeithiau ar yr Iaith Gymraeg] |
6.1 Yr effeithiau posibl ar y grwpiau a warchodir o xxx Ddeddf Cydraddoldeb 2010 |
Bydd y cynllun yn cael ei roi ar waith gydag ystyriaeth lawn i Ddeddf Cydraddoldeb 2010, bydd datblygu a gwella ein hadnoddau a'n gwasanaethau ailgylchu yn cael eu hystyried yn unol â'r Ddeddf Cydraddoldeb, er enghraifft rydym ar hyn x xxxx yn darparu casgliadau â chymorth i bobl â phroblemau symudedd. Ni ddisgwylir y byddai cyflawni'r cynllun hwn yn cael unrhyw effaith sylweddol ar grwpiau gwarchodedig. |
6.2 Yr effeithiau posibl ar y rhai sy’n profi anfantais economaidd- gymdeithasol yn eu bywydau (penderfyniadau strategol) |
Bydd cyflawni'r cynllun hwn yn darparu gwell gwasanaethau i xxx aelod o'n cymunedau leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mwy o'u gwastraff. Dylai cyflawni nodau economi gylchol ddarparu buddion economaidd trwy sicrhau bod hyd oes nwyddau yn cael eu hymestyn. |
6.3 Yr effeithiau posibl ar y cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg |
Bydd cyflawni'r cynllun hwn yn cael ei wneud yn unol â'n safonau iaith Gymraeg. |
7 – Goblygiadau Ariannol |
Bydd cyflawni'r Cynllun Adnoddau ac Ailgylchu yn dibynnu ar sicrhau rhywfaint o gyllid allanol, xxxxx, xxx'n bosibl y bydd y cynllun ond yn cael ei gyflawni'n llawn ar sail y cylch gwaith y sicrheir cyllid allanol. Pe bai hyn yn digwydd, o ran datblygu gwasanaethau a seilwaith newydd, ni fyddai unrhyw oblygiadau ariannol sylweddol ar y Cyngor ac eithrio amser swyddogion i gyflawni fel y cytunwyd mewn unrhyw gais am gyllid. |
8 – Atodiadau: |
1. Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu Ynys Môn 2023/2028 2. Adroddiad Crynodeb yn Dilyn yr Ymgynghoriad |
9 - Papurau Cefndir (cysylltwch ag awdur yr Adroddiad am unrhyw wybodaeth xxxxxxx os gwelwch yn dda): |
Mae Cynllun Gweithredu technegol ar gael ar gais. |
Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu 2023-2028
Mae’r ddogfen yma hefyd ar gael yn y Saesneg / This document is also available in English.
1
Gweledigaeth
Ein gweledigaeth gyffredinol yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus lle gall pobl ffynnu. Mae hyn yn cynnwys mynd i’r afael a’r argyfwng newid hinsawdd. Mae’r angen i weithredu xx xxxx yr hinsawdd a’n hamgylchedd yn fwy pwysig nag erioed.
Mae manteisio ar gyfleoedd i symud yn hyderus at Economi Gylchol ar Ynys Môn a Chymru’n rhan allweddol o’n hymateb tuag at yr hinsawdd. Byddwn yn defnyddio ffynonellau’n gynaliadwy drwy leihau gwastraff,
sicrhau bod eitemau’n cael eu defnyddio eto, yn cael eu hailgylchu ar gyfer
gweithgynhyrchu neu’n cael eu hanfon i’w atgyweirio.
“Symud at Economi Gylchol ar Ynys Môn fel rhan o’n taith at allyriadau carbon net sero erbyn 2030”
2
Gweledigaeth Cynllun y Cyngor yw:
‘Creu Ynys Môn fydd yn iach a llewyrchus lle gall bobl ffynnu.’
Mae Cynllun y Cyngor yn ddogfen allweddol a fydd yn bwynt canolog i benderfyniadau a fydd yn cael eu gwneud ar xxx xxxxx; bydd yn darparu fframwaith i gynllunio a gyrru blaenoriaethau yn eu blaen; llunio gwariant blynyddol; monitro perfformiad a chynnydd.
Yn ei hanfod mae a wnelo’r cynllun â’n dymuniad i weithio gyda thrigolion Ynys Môn, cymunedau a phartneriaid a sicrhau ein bod ni’n darparu’r gwasanaethau gorau posib, gwella ansawdd bywyd i bawb a chreu cyfleoedd ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Mae xx xxxx phrif amcan yn adlewyrchu’r meysydd allweddol y dylai’r Cyngor fod yn
canolbwyntio arnynt.
3
Mae Cynllun y Cyngor 2023-28 yn seiliedig ar werthoedd craidd y sefydliad, sy’n cael eu defnyddio i ddatblygu ac arwain y weledigaeth, cynlluniau strategol a gwasanaethau.
4
Mae’r cylch strategol yn adnabod y cynlluniau sydd mewn lle er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cyflawni ein blaenoriaethau ac amcanion.
Mae'r cynllun hwn yn gynllun strategol allweddol sy'n cyd-fynd â Chynllun y Cyngor ac yn cyfrannu at gyflawni’r amcanion strategol a’r gweledigaeth.
5
1. Lleihau gwastraff ac ailddefnyddio
2. Gwella cyfraddau ailgylchu ac ansawdd
3. Gwella glanweithdra strydoedd a lleihau tipio
4. Bod yn esiampl dda
Themâu Cefnogol:
1. Codi ymwybyddiaeth er mwyn hyrwyddo newid
mewn ymddygiad
2. Datblygu seilwaith sy’n addas at y dyfodol
3. Gwella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd fflyd
6
symud tuag at economi gylchol. Mae hyn yn allweddol wrth leihau ein hallyriadau carbon yn sylweddol a’n gorddefnydd o
ffynonellau naturiol, a bydd yn helpu i ddadwneud y dirywiad mewn bioamrywiaeth. Gall hefyd wella canlyniadau
• Argyfwng hinsawdd byd-xxxx
• Defnydd anghynaladwy a phrinder ffynonellau byd-xxxx
economaidd a chymdeithasol. Mae’r ysgogwyr a’r fframwaith deddfwriaethol a strategol sydd ar waith i gefnogi’r camau tuag at economi gylchol wedi’u crynhoi isod:
Presennol:
• Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011
• Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015
• Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
• Datgan argyfwng hinsawdd yn 2019
• Mwy nag Ailgylchu 2021
Ar y gweill:
• Deddfwriaeth Ailgylchu, y Trydydd Sector a’r Sector Gyhoeddus (o Ebrill
2024)
• Cynllun Dychwelyd Ernes (CDE)
• Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer Deunydd Xxxxx
• Cynhwysiant Troi Gwastraff yn Ynni yn y Cynllun Masnachu Allyriadau
Byd-xxxx
Cenedlaethol
Lleol
• Datgan argyfwng hinsawdd yn 2020
• Targed i ddod yn gyngor carbon sero net erbyn 2030
• Cynllun Cyngor Sir Ynys Môn (2023-2028)
Taith Ynys Môn tuag at economi gylchol
34,500
o gartrefi’n derbyn
100
%
xxxx xxxxx glanweithdra derbyniol, neu wedi
Ein sefyllfa bresennol a’n gobeithion
erbyn 2025
casgliadau gwastraff
ac ailgylchu
gwella*
72%
Cyfradd
Ailgylchu 2021/22
Cyfradd
Ailgylchu 2025
15,000
o gwsmeriaid gwastraff gardd yn cynhyrchu
£550k
o incwm xxx blwyddyn
yw’r gyfradd ailgylchu dros ddwy Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref
62%
70%
1
safle tirlenwi sydd wedi
cau yn derbyn ôl-ofal
Blaenoriaeth Allweddol 1 – Lleihau gwastraff ac ail-ddefnyddio
Y ffordd orau o gyflawni economi gylchol carbon isel yw lleihau’r
gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu yn y lle cyntaf. Y dull pwysicaf arall o ddelio â gwastraff yw ceisio ei ail-ddefnyddio (sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio dro ar ôl tro at ei ddiben gwreiddiol am gyn hired â phosibl).
Rydym wedi ymrwymo i
• Mabwysiadu cynllun cyfathrebu lleol sy’n cyfoethogi’r ymgyrch
genedlaethol sydd eisoes ar waith ac yn cael ei ariannu gan Cymru yn Ailgylchu (xxxxxxxxxxxxx.xxx.xx) Llywodraeth Cymru.
• Annog deiliad tai i leihau gwastraff yn eu cartrefi, gan gynnwys
lleihau gwastraff bwyd.
• Datblygu partneriaethau pellach gydag elusennau ailddefnyddio a grwpiau cymunedol i ddatblygu cyfleoedd ailddefnyddio mewn Canolfan Ailgylchu Gwastraff Tai.
Er mwyn lleihau gwastraff, mae’n rhaid i bawb gydweithio. Byddwn yn blaenoriaethu cefnogi ein trigolion i leihau gwastraff a darparu neu hyrwyddo cyfleoedd i ail-ddefnyddio.
Erbyn 2028 byddwn wedi
• Gweithio mewn partneriaeth gydag ymgyrch
genedlaethol ‘Cymru yn Ailgylchu’ i rannu negeseuon am leihau ac ailddefnyddio gyda deiliad tai ar lefel leol.
• Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth ac addysgu deiliad tai ar y buddion o leihau ac ailddefnyddio fel rhan o’n Cynllun Cyfathrebu
• Sicrhau y darperir cyfleoedd I drigolion er mwyn
ailddefnyddio lle bo’n bosibl:
▪ Gweithio gyda grwpiau cymunedol i gasglu eitemau i’w
hailddefnyddio.
▪ Adnabod lleoliad posibl i agor siopau ailddefnyddio.
Blaenoriaeth Allweddol 2 – Gwella Cyfraddau ac Ansawdd Ailgylchu
Mae ailgylchu’n lleihau’r angen am ddeunyddiau crai ac yn sicrhau y defnyddir ffynonellau'n fwy effeithlon. Bydd cynyddu cyfaint y gwastraff sy’n cael ei ailgylchu yn lleihau ein hôl troed carbon a chyfrannu at gyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2030.
Rydym wedi ymrwymo i
• Gweithio gyda phartneriaid i adolygu ein gwasanaethau a
gwella’r gwasanaeth er mwyn codi lefelau ailgylchu o tua 8% i fodloni ein targedau statudol.
• Ystyried y goblygiadau o leihau capasiti gwastraff gweddillol o 80
litr xxx xxxxxxx.
• Gweithredu ymgyrch ymgysylltu â gorfodi, cnocio ar ddrysau i godi ymwybyddiaeth ac addysgu trigolion ac ymwelwyr.
• Gwneud argymhellion i’r Pwyllgor Gwaith i gyflawni’r gwelliannau gofynnol o fewn gwasanaethau i fodloni targedau ailgylchu statudol dros dro ac yn y dyfodol.
Mae gennym rwymedigaeth statudol i gyflawni cyfradd ailgylchu o 70% erbyn 2025. Xxxx xxxxx â bodloni targedau ailgylchu arwain at ddirwy o £200 am xxx xxxxxxx a fethir.
Erbyn 2028 byddwn wedi
• Recriwtio xxx prosiect ymroddedig i weithio gyda’r xxx
presennol er mwyn darparu cynllun gwella fydd yn:
• Cael gwared ar bwyntiau casglu dros dro
• Adolygu a lleihau pwyntiau casglu cyhoeddus
• Ymgyrch gyfathrebu wedi’i thargedu
• Adolygu a gweithredu polisi dim gwastraff ochr / caead wedi cau
• Adolygu a chael gwared ar finiau ychwanegol
• Lleihau capasiti biniau gwastraff gweddillol
• Cael cymeradwyaeth corfforaethol ar gyfer y cynllun gwella.
• Gweithio gyda phartneriaid i weithredu gwelliannau i wasanaethau a gwella ansawdd a chyfraddau ailgylchu.
• Adolygu y system troli bocs presennol i alluogi pobl i
ailgylchu mwy
• Cynnal y ffi am y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd.
Blaenoriaeth Allweddol 3 - Gwella glanweithdra strydoedd a lleihau tipio
Bydd cadw Ynys Môn yn lân hefyd yn cyfrannu at ddatblygu economi gryfach, ac yn gwella llesiant drwy hyrwyddo darlun cadarnhaol i drigolion ac ymwelwyr.
Mae cadw strydoedd, traethau a meysydd parcio’r Cyngor yn rhydd
rhag ysbwriel a thipio yn ofyniad statudol ar gyfer y Cyngor.
Rydym wedi ymrwymo i
• Cynnal y lefel bresennol o lanweithdra drwy sicrhau y cesglir
ysbwriel a gwastraff yn brydlon.
• Ceisio gwella effeithlonrwydd er mwyn gwneud gwelliannau
pellach i berfformiad lle bo’n bosibl.
• Datblygu cynllun i fynd i’r afael â nifer y digwyddiadau tipio
gwastraff mewn ardaloedd blaenoriaeth ar Ynys Môn.
Xxx xxx rai ardaloedd ar Ynys Môn lefel uchel o ddigwyddiadau tipio. Rydym yn effeithlon iawn o ran glanhau gwastraff tipio, ond byddai xxxx hyn rhag digwydd yn gwella glanweithdra strydoedd ac yn lleihau costau.
Erbyn 2028 byddwn wedi
• Cynnal gweithdrefnau rheoli contract grymus er
mwyn sicrhau y cynhelir lefelau glanweithdra, a’u bod
yn cael eu gwella lle bynnag y bo’n bosibl.
• Gweithio gyda Gwasanaethau eraill y Cyngor, Cynghorwyr, Cynghorau Tref, Cadw’ch Gymru Daclus, busnesau lleol, landlordiaid a’r Heddlu er mwyn creu datrysiad cydlynol i leihau nifer y digwyddiadau tipio gwastraff.
• Darparu mwy o finiau ailgylchu a gwastraff ar strydoedd.
• Cefnogi’r gwaith o ddarparu ein Cynllun Cyrchfannau i
feithrin balchder yn ein cymunedau.
Blaenoriaeth Allweddol 4 – Bod yn Esiampl Dda
Mae’n rhaid i bawb gydweithio i gyflawni’r buddion o symud tuag
at economi gylchol. Byddwn yn flaenllaw ac yn sicrhau bod
ailgylchu’n gwella yn xxxx adeiladau’r cyngor, gan ddangos ein
hymrwymiad at sero net.
Rydym wedi ymrwymo i
• Cydweithio ar draws Gwasanaethau er mwyn sicrhau bod adeiladau’r Cyngor yn derbyn y gefnogaeth a’r arweiniad gofynnol.
• Caffael contractwr newydd i gasglu a phrosesu gwastraff ac
ailgylchu o adeiladau’r Cyngor.
• Gweithio tuag at gyflawni cyfradd ailgylchu 70% o ran y
gwastraff a gesglir o adeiladau’r Cyngor.
Bydd casglu deunydd ailgylchu o ansawdd o eiddo annomestig yn ofyniad statudol o Ebrill 2024.
Erbyn 2028 byddwn wedi
• Sefydlu gwasanaeth ailgylchu a gwastraff sy’n galluogi adeiladau’r Cyngor i ailgylchu mwy o wastraff.
• Cynnal prawf ymlaen llaw er mwyn profi gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu i helpu i gynnig cyngor ar broses fanylu a chaffael newydd.
• Penodi contractwr newydd i gasglu gwastraff ac
ailgylchu o adeiladau’r Cyngor erbyn Mehefin 2023
- bydd y gwasanaeth yn dechrau ym Medi 2023.
• Cyfathrebu gyda rheolwyr adeiladau’r Cyngor, staff ac ysgolion i godi ymwybyddiaeth am y gwasanaeth newydd.
Hwylusydd 1 – Codi Ymwybyddiaeth i Hyrwyddo Newid Mewn Ymddygiad
Erbyn 2028 byddwn wedi
• Penodi rheolwr prosiect (os yw cyllid yn caniatáu) fydd yn datblygu ac yn gweithredu cynllun cyfathrebu wedi'i dargedu
• Darparu ymgyrchoedd cyfathrebu wedi’u targedu at drigolion am yr hyn y xxxxxxx xx wneud i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff yn eu cartrefi.
• Hyrwyddo ymgyrchoedd cenedlaethol megis Hoffi Bwyd Casau Gwastraff i hyrwyddo lleihau gwastraff bwyd.
Mae cyfathrebu’n glir yn hanfodol o ran codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd symud i economi gylchol a hyrwyddo newid cadarnhaol mewn ymddygiad.
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cyfathrebiadau cydlynol a chyson, gan dargedu eiddo sy’n anodd i’w cyrraedd er mwyn codi ymwybyddiaeth o: leihau gwastraff, lleihau llygredd ac ailgylchu mwy.
Rydym wedi ymrwymo i
• Byddwn yn defnyddio amrywiaeth xxxx o ddulliau cyfathrebu,
gan gynnwys addysg wedi’i thargedu.
• Parhau i weithio gyda’r xxx cyfathrebu corfforaethol i gyfoethogi tudalennau cyfryngau cymdeithasol gwastraff ac ailgylchu Ynys Môn.
• Defnyddio negeseuon e-xxxx fel dull o gyfathrebu er mwyn rhoi
gwybodaeth a xxxxx i drigolion ailgylchu mwy.
• Darparu ymgyrch caffael wedi’i thargedu i godi ymwybyddiaeth,
addysgu ac annog trigolion ac ymwelwyr i ailgylchu mwy.
Hwylusydd 2 - Gwella Adeiladau a Strwythur
Er mwyn darparu gwasanaethau sy’n addas ar gyfer y dyfodol
mae’n rhaid cael yr adeiladau a’r strwythurau cywir sy’n cynnig
effeithlonrwydd gweithredol.
Xxx xxxxx strwythurau er mwyn cynnal gweithgareddau busnes
diogel ac i reoli tunelli ychwanegol o ailgylchu sy’n deillio o
Rydym wedi ymrwymo i
• Adeiladu ar y rhwydwaith presennol o gydweithio er mwyn adolygu adeiladau gweithredol a strwythurau sefydlog ar safleoedd gweithredol er mwyn pennu a ellir gwneud addasiadau effeithlon ar y safleoedd.
• Rydym wedi paratoi cynllun buddsoddi cyfalaf 5 mlynedd, sy’n dangos yr angen i fuddsoddi hyd at £9.9m er mwyn cynnal a gwella ein strwythurau.
• Adolygu darpariaeth HWRC presennol y Cyngor er mwyn pennu
a ddylid cynyddu neu leihau darpariaeth bresennol y
welliannau i’r gwasanaeth.
gwasanaeth.
Erbyn 2028 byddwn wedi
• Cytuno ar gynllun cyfalaf 5 mlynedd er mwyn diffinio’r lefel debygol o wariant cyfalaf sydd xx xxxxx yn y dyfodol i gyd-fynd â Strategaeth newydd (2023-2028).
• Darparu adolygiad/opsiynau arfarnu llawn ar adeiladau a strwythurau sefydlog erbyn diwedd 2024.
• Darparu opsiynau arfarnu er mwyn adolygu darpariaeth gwasanaeth HWRC erbyn diwedd 2024.
• Cwblhau opsiynau arfarnu ar y cylfat ym Mhenhesgyn erbyn Ebrill 2024.
• Cyflawni proses gaffael ar gyfer contract cynhyrchu ynni newydd ym Mhenhesgyn erbyn Awst 2024.
Hwylusydd 3 - Gwella Cerbydau Fflyd a Diwydiannol
Erbyn 2028 byddwn wedi
• Cytuno ar gynllun cyfalaf 5 mlynedd er mwyn diffinio’r lefel debygol o wariant cyfalaf sydd xx xxxxx yn y dyfodol i gyd-fynd â’r Strategaeth newydd (2023-2028).
• Datblygu cynllun gweithredu ar gyfer gofynion arfaethedig cerbydau fflyd casglu ailgylchu/ gwastraff a cherbydau diwydiannol newydd i
sicrhau bod ‘busnes yn parhau fel normal’, a bod
cynllun pontio’n bodoli o gerbydau disel i gerbydau
allyriadau isel iawn ar waith.
Rydym angen cerbydau fflyd a diwydiannol effeithlon er mwyn
darparu gwasanaethau sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
Byddwn yn cynnal cerbydau fflyd a diwydiannol diogel a phriodol er mwyn rheoli tunelli ailgylchu ychwanegol fydd yn deillio o welliannau i wasanaeth, ac yn symud at gerbydau allyriadau isel iawn yn unol â’n hamcanion sero net.
Rydym wedi ymrwymo i
• Adolygu’r gofynion newydd ar gyfer cerbydau fflyd yn unol â
thargedau a ULEV Llywodraeth Cymru.
• Adolygu’r cerbydau fflyd casglu ailgylchu/gwastraff cyfan a gofynion peiriannau safleoedd y Cyngor er mwyn rhoi cynllun pontio ar waith gan newid o gerbydau disel i gerbydau allyriadau isel iawn.
Cynllun Strategol Adnoddau a Gwastraff
Er mwyn cyflawni ein blaenoriaethau strategol byddwn yn datblygu tri cynllun gweithredu allweddol.
Mae’r cylch strategol yn adnabod y cynlluniau sydd ar xxxxx xx mwyn sicrhau y gallwn gyflawni ein blaenoriaethau a’n hamcanion.
Ymgynghorwyd gyda cymdogion Ynys Môn ar y cynllun strategol yma. Bydd yr adborth a dderbyniwyd yn ein helpu i lunio y cynlluniau gweithredu yma.
Mae cyflawni'r canlyniadau delfrydol ar gyfer y Cynllun Strategol hwn yn dibynnu ar
sicrhau’r cyllid cywir
Nid yw’r cyllid ar gyfer darparu’r meysydd blaenoriaeth allweddol o fewn y Strategaeth, y Cynllun Gwella a’r Cynllun Cyfalaf heb ei adnabod yn benodol ar hyn x xxxx.
Gellid defnyddio nifer o ffrydiau ariannu posibl gan gynnwys:
• Refeniw cyffredinol a thanwariant Rheolaeth
Gwastraff,
• Cyfleoedd ariannu grant Economi Gylchol,
• Llywodraeth Cymru - rydym wedi cael trafodaethau adeiladol gyda swyddogion o Lywodraeth Cymru ynghylch anghenion ein seilwaith yn y dyfodol a’r lefel o fuddsoddiad rydyn ni’n ei gynnig ar gyfer ein Gwasanaeth Gwastraff er mwyn gwella perfformiad/bodloni targedau ailgylchu statudol yn y dyfodol dros y blynyddoedd sydd i ddod.
Ar hyn x xxxx, rydym yn gweithio gyda chydweithwyr o Lywodraeth Cymru ar ‘Asesiad Prosiect Dechreuol’, sy’n dilyn y model busnes 5 Achos, cyn symud ymlaen i ddatblygu Achos Busnes Amlinellol a derbyn cyllid cyfalaf ychwanegol.
Er mwyn gweithredu’r Cynllun Strategol hwn byddwn yn defnyddio gweithdrefnau llywodraethu presennol.
• Bwrdd rhaglen adnoddau ac effeithlonrwydd; gan gynnwys cynrychiolwyr o’r Cyngor, CLlLG a WRAP Cymru,
• Cyfarfodydd rheoli contractau gyda chontractwyr,
• Grwpiau llywio eisoes wedi’u sefydlu er mwyn darparu gwasanaeth gwastraff gwyrdd gardd, casgliadau ailgylchu a gwastraff o adeiladau’r cyngor.
Bydd y Bwrdd Rhaglen Perfformiad ac Effeithlonrwydd yn chwarae rhan allweddol o ran cynghori ar sut rydym yn cyflawni’r gyfradd ailgylchu o 70% a chyflawni amcanion y strategaeth hon.
Bydd y trefniadau hyn yn sicrhau eglurdeb, atebolrwydd, cydlyniad a strwythur er mwyn monitro cynnydd yn effeithiol. Bydd cynnydd yn cael ei adolygu xxx chwarter a llunnir adroddiadau er mwyn rhoi crynodeb o weithgareddau.
Llywodraethu
Strategol
Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo
Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu 2023- 2028
Crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad
1. Cyflwyniad
Cynhaliwyd ymgynghoriad chwe wythnos rhwng 11 Medi a 20 Hydref 2023. Cafodd ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor a’i hysbysebu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Cafodd hefyd ei rhannu â fforymau heneiddio’n dda Ynys Môn.
Fe dderbyniom 175 o ymatebion. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o’r canlyniadau a’r prif themâu a nodwyd.
Dyluniwyd yr ymgynghoriad i gael adborth gan drigolion Ynys Môn ar y Cynllun
Strategol a’n prif ffrydiau gwaith i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mwy o wastraff o gartrefi.
Ar y cyfan roedd yr ymatebwyr yn cefnogi’r Cynllun Strategol a’r pedwar xxxx blaenoriaeth allweddol. Mae meysydd y dylid eu hystyried yn ofalus o hyd, sef y system troli biniau ar gyfer casglu gwastraff i’w ailgylchu. Bydd y meysydd hyn yn cael eu hystyried yn y tri chynllun gweithredu yr ydym ni wedi’u nodi.
2. Crynodeb
2.1. Pwy wnaeth ymateb
Fe dderbyniom 190 o ymatebion:
• roedd y rhan fwyaf (169) gan drigolion drwy arolwg ar-lein
• cafwyd un ymateb ysgrifenedig ar y cyd ar ran 20 aelod o grŵp cymunedol 50+ Amlwch
• cafwyd 1 ymateb gan y contractwyr Biffa
3. Roedd canlyniadau’r arolwg yn dangos y canlynol:
3.1. Xxxxxxxxxxxx xxxxxx
Roedd y rhan fwyaf yn 65 oed a hŷn (35%). Mae’r xxxxx isod yn dadansoddi’r ymatebwyr yn ôl oedran.
3.2. Fe ofynnom
3.2.1. Xxxx ydi’ch barn chi ar ein meysydd blaenoriaeth?
Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â’n pedwar xxxx blaenoriaeth allweddol.
Fe wnaeth 62 o’r ymatebwyr gynnwys sylwadau pellach mewn ymateb i’n meysydd blaenoriaeth allweddol. Gellir rhannu’r sylwadau hyn i chwe thema. Roedd yr
ymatebwyr yn poeni am y canlynol:
• Cael mwy o finiau gwastraff ac ailgylchu ar y stryd
• Ailgylchu mwy, yn cynnwys plastigau meddal a phecynnau tetra ar garreg y drws
• Maint y troli biniau – dim digon o le i blastigau a chardfwrdd
• Addasrwydd y troliau biniau – maent yn chwythu drosodd yn ystod gwyntoedd cryfion
• Mwy o wybodaeth i atgoffa trigolion ynghylch xxxx y gellir ac na ellir eu hailgylchu
• Gweithio gyda busnesau, parciau carafanau a chartrefi gwyliau ac adeiladau cyhoeddus (Ysgolion) i ailgylchu mwy
3.2.2. Sut allwn ni ailgylchu mwy yn xxxx barn chi?
Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â’n tri phrif ffordd o gael pobl i ailgylchu mwy.
Fe wnaeth 60 o’r ymatebwyr gynnwys sylwadau pellach ynglŷn â sut y gallwn ailgylchu mwy. Gellir rhannu’r sylwadau hyn i bedwar thema. Roedd yr ymatebwyr yn poeni am y canlynol:
• Addasrwydd a chost newid i fflyd carbon is
• Annog mwy o ailddefnyddio yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref
• Gwella’r ddarpariaeth yn y Canolfannau Ailgylchu:
o mwy o ganolfannau (yng ngogledd yr ynys)
o cynyddu oriau agor
o cael gwared ar yr angen i archebu lle yng Ngwalchmai
• Lleihau faint o sbwriel sy’n chwythu / cael ei ollwng o’r lorïau casglu
3.3.3 Xxxx ydi’ch barn chi ar y gwasanaethau ailgylchu gwastraff cartrefi sy’n cael eu darparu ar hyn x xxxx?
Dywedodd y rhan fwyaf o ymatebwyr eu bod yn meddwl bod y gwasanaethau ailgylchu presennol yn dda neu’n dda iawn.
Fe wnaeth 75 o’r ymatebwyr ddarparu sylwadau pellach ynglŷn â’r Gwasanaethau Ailgylchu presennol. Roedd 68% o’r ymatebwyr yn meddwl bod y gwasanaeth yn dda neu’n dda iawn. Gellir rhannu’r sylwadau hyn i bedwar thema allweddol. Roedd yr ymatebwyr yn poeni am y canlynol:
• Dydi’r troli biniau presennol ddim yn ddigon mawr i ddal popeth; Plastigau a Chardfwrdd yn bennaf
• Methu ailgylchu mwy o eitemau megis haenau plastig, pecynnau tetra
• Mae’r criwiau casglu’n difrodi xxx xxxxx’r biniau a’r bocsys
• Mwy o wybodaeth i atgoffa trigolion ynghylch xxxx y gellir ac na ellir eu hailgylchu
3.3.4 Xxxx allwn ni ei wneud i’w gwneud hi’n xxxx i chi ailgylchu mwy o’ch gwastraff cartref? Er enghraifft, ydi’r troli biniau yn addas ar xxxx cyfer chi?
Fe wnaeth 144 o ymatebwyr ateb y cwestiwn hwn. Gellir rhannu’r sylwadau hyn i bum thema allweddol ac roedd y themâu yn debyg i’r cwestiynau uchod:
• Dim digon o le yn y troli biniau. Mae’r bin gwydr a chardfwrdd yn rhy fach ac mae’r bin papur yn rhy fawr
• Yn gyffredinol roedd nifer o ymatebwyr yn hapus gyda’r system bresennol
• Pryder bod y biniau’n chwythu drosodd yn ystod tywydd gwyntog a sbwriel ar y stryd
• Mwy o wybodaeth ynghylch xxxx y gellir ac na ellir ei ailgylchu
• Derbyn mwy o eitemau i’w hailgylchu e.e. plastigau medal a chartonau / xxxxxxxx xxxxx
3.3.5 Hoffech chi dderbyn diweddariad gennym ni ar y prosiect hwn yn y dyfodol?
Roedd 57 o’r ymatebwyr yn dymuno cael eu diweddaru ar y prosiect. Bydd manylion cyswllt yr unigolion hyn yn cael eu hychwanegu i restr ddosbarthu’r gwasanaeth
Gwastraff er mwyn eu diweddar ar y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu.
3.3.6 Ymateb ysgrifenedig
Cafwyd adborth gan Grŵp 50+ Amlwch a oedd yn cynrychioli 20 aelod o’r gymuned leol. Roedd eu sylwadau’n cynnwys yr isod:
• Mae pawb yn defnyddio’r gwasanaeth ailgylchu presennol
• Cytuno’n gryf â’r angen i gadw’n strydoedd, traethau ac ardaloedd cyhoeddus yn lân a lleihau tipio anghyfreithlon
• Holodd y grŵp xxx bod xxxxx archebu lle o flaen llaw yng Nghanolfan Ailgylchu Gwalchmai o hyd
• Mae’r troli biniau yn anodd i bobl sy’n byw mewn cartrefi llai
• Pryder nad ydi’r sbwriel o’r lorïau yn cael ei lanhau
• Pryder nad ydi troliau biniau a biniau du xxx amser yn cael eu rhoi mewn lle diogel ar y palmant ar ôl cael eu gwagio er mwyn helpu pobl gyda phroblemau symudedd.
4. Crynodeb
Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cefnogi’r Cynllun Strategol Ailgylchu a Gwastraff.
Roedd 68% o’r ymatebwyr yn meddwl bod y canolfannau ailgylchu’n dda neu’n dda iawn. Fe dderbyniom nifer o sylwadau ynglŷn â’r gwasanaethau ailgylchu presennol ac awgrymiadau ar gyfer eu gwella. Rydym wedi addasu’r Cynllun tudalen 10 i ddweud y byddwn yn adolygu y system troli bocs presennol.
Byddwn yn ystyried y sylwadau rydym wedi dderbyn wrth ddatblygu’r Cynlluniau Gweithredu Gwella a Chyfathrebu a fydd yn nodi sut y byddwn yn cyflawni’r meysydd blaenoriaeth yn y Cynllun Strategol. Rydym wedi diwygio xxxxxxx 00 x xxxxxxxx hyn.
Thema allweddol a gododd yn y sylwadau a dderbyniwyd gan yr ymatebwyr oedd maint y gwahanol finiau yn y troli a bod y bin gwydr a chardfwrdd yn rhy fach.
Byddwn yn diwygio’r cynllun i gydnabod y gwaith yr ydym ni’n ei wneud gyda WRAP Cymru i adolygu’r troli a maint y biniau.