Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Asesiad o Gynnydd wrth Ymdrin â Phryderon Allweddol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Asesiad o Gynnydd wrth Ymdrin â Phryderon Allweddol
Blwyddyn archwilio: 2020-21 Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2021 Cyfeirnod y ddogfen: 2333A2021-22
Paratowyd y ddogfen hon fel xxxx x xxxxx a wnaed yn unol â swyddogaethau statudol.
Pe bai cais yn dod i law am wybodaeth y gallai’r ddogfen hon fod yn berthnasol iddi, tynnir sylw at y Cod Ymarfer a gyhoeddwyd o xxx xxxxx 45 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Mae cod adran 45 yn nodi’r arfer a ddisgwylir gan awdurdodau cyhoeddus wrth ymdrin â cheisiadau, yn cynnwys ymgynghori â thrydydd partïon perthnasol. Mewn perthynas â’r ddogfen hon, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Archwilio Cymru yn drydydd partïon perthnasol. Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch datgelu neu ailddefnyddio’r ddogfen hon at Archwilio Cymru yn xxxxxxx.xxxxxxxxxx@xxxxxxxxx.xxxxx.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.
We welcome correspondence and telephone calls in Welsh and English. Corresponding in Welsh will not lead to delay.
Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd.
Cynnwys
Mae’r Cyngor wedi dangos gwytnwch yn ei ymateb i heriau diweddar ac wedi gwneud cynnydd o ran datblygu cynllun gwella, ond xxx xxxxx iddo fynd i’r afael ar frys â’i ddiffyg capasiti i yrru’r trawsnewid sydd xx xxxxx, a defnyddio’r adnoddau sydd ganddo ar gael i gryfhau ei wytnwch dros y tymor canolig i’r tymor hir.
Cefndir 4
Crynodeb 5
Mae’r Cyngor wedi dangos gwytnwch yn ei ymateb i heriau diweddar ac wedi gwneud cynnydd o ran datblygu cynllun gwella, ond xxx xxxxx iddo fynd i’r afael ar frys â’i ddiffyg capasiti i yrru’r trawsnewid sydd xx xxxxx, a defnyddio’r adnoddau sydd ganddo ar gael i gryfhau ei wytnwch dros y tymor canolig i’r tymor hir. 5
Argymhellion 6
Cynnydd y Cyngor hyd yma wrth ymdrin â phryderon allweddol 7
Yr heriau sylweddol sy’n parhau 11
1 Mae’r adroddiad hwn yn nodi ein hasesiad o gynnydd y Cyngor o ran ymdrin â’r pryderon y soniwyd amdanynt yn ein llythyr a anfonwyd at y Cyngor ym mis Mai 2019, a’r rheiny a nodwyd yn adroddiad Xxxx Gilbert1 ym mis Medi 2019, ac adroddiad Asesiad Cyflym y Bwrdd Gwella a Sicrwydd ym mis Rhagfyr 2019.2 Yn yr adroddiad hwn, rydym hefyd yn nodi’r meysydd sy’n parhau i fod yn destun pryder ac yn gwneud cyfres o argymhellion xxx Ddeddf Archwilio Cyhoeddus Cymru.
2 Roedd ein llythyr i’r Cyngor ym mis Mai 2019 yn egluro’r pryderon xxx bedwar xxxx allweddol: y sefyllfa ariannol, pwysau gwasanaethau, arweinyddiaeth a chapasiti, a llywodraethu.
3 Yn dilyn y llythyr hwnnw, gofynnodd y Cyngor i Lywodraeth Cymru am gymorth. Mae’r pecyn cymorth a ddilynodd wedi cynnwys:
• sefydlu Bwrdd Gwella a Sicrwydd yn cynnwys pedwar aelod allanol sy’n gyn- swyddogion llywodraeth leol profiadol;
• cymorth gwasanaethau cymdeithasol
• cynghorwr Addysg;
• cynghorwr Adnoddau Dynol; a
• chymorth llywodraethu ac arwain.
4 Cyflwynodd y Cyngor Gynllun Adferiad, Trawsnewid a Gwella (ATG) i Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2020. Mae hwn yn rhestru cyfres o gamau gweithredu gyda’r nod o drawsnewid a gwella’r Cyngor. Mae’n tanlinellu ‘nad yw’r status quo yn ddewis’.
5 Rydym yn dra ymwybodol bod yn rhaid i unrhyw asesiad cynnydd gael ei osod yn erbyn cefndir blwyddyn ddigynsail o heriau i’r Cyngor, gyda Xxxxx Xxxxxx ac wedyn pandemig COVID-19, sy’n parhau. Er hynny, mae’n hanfodol bwysig bod y Cyngor yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r pryderon parhaus a gweithredu ei gynllun ATG.
6 Rydym yn cydnabod gwaith eithriadol o galed swyddogion ac aelodau drwy gydol 2020. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r swyddogion, aelodau a rhanddeiliaid eraill am yr amser y maent wedi ei roi i ni er mwyn inni gyflawni’n gwaith a chynhyrchu’r adroddiad hwn.
1 Adolygiad Rhychwantu Xxxx Xxxxxxx, Medi 2019
2 Bwrdd Gwella a Sicrwydd Merthyr Tudful, Asesiad Cyflym ar gyfer Llywodraeth Cymru, Rhagfyr 2019
7 Mae’r Cyngor wedi dangos gwytnwch yn ei ymateb i heriau diweddar ac mae ei sefyllfa ariannol well ar hyn x xxxx yn rhoi ffenestr o gyfle iddo i wella ei berfformiad a thrawsnewid. Ond nid yw’r ffenestr cyfle hon yn ddiddiwedd; ni all y Cyngor barhau i ddibynnu ar y gobaith y ceir setliadau ariannol cadarnhaol yn y dyfodol ac xxx xxxxx iddo ddefnyddio ei adnoddau i gryfhau ei wytnwch dros y tymor canol i’r tymor hir a chynnal gwelliant. Rydym ni o’r farn y bydd ar y Cyngor angen rhyw fath o gymorth fydd yn parhau, gan nad oes ganddo’r capasiti i ymdrin â’r problemau tymor canol i’r tymor hir ar yr un pryd â gweithredu o ddydd i ddydd yn y tymor byr. Xxx xxxxx i’r Cyngor hefyd fynd i’r afael ar frys â’i ddiffyg capasiti ac arbenigedd i drawsnewid er mwyn galluogi’r Cyngor i gynnal y newid a’r gwelliant sydd xx xxxxx.
8 Xxx xxxxx i’r Cyngor hefyd sicrhau bod ei fecanweithiau llywodraethu allweddol wedi eu canolbwyntio’n gyfan gwbl ar fusnes pennaf y Cyngor a gweithredu mewn ffordd gyflenwol i sicrhau penderfyniadau cadarn ac atebolrwydd. Xxx xxxxx i’r xxxx aelodau ddeall a chyflawni eu rolau gwahanol yn llawn wrth lywodraethu’r Cyngor. Mae hyn yn allweddol i drawsnewid y Cyngor a gwella’r canlyniadau i bobl Merthyr Tudful.
9 Er ein bod yn cydnabod y cynnydd y mae’r Cyngor wedi ei wneud i ymdrin â’r pryderon a godwyd, yn enwedig yn ystod amgylchiadau mor heriol, xxx xxx y Cyngor xxxx ffordd i fynd eto i fynd i’r afael â’r rhain yn llawn. Oherwydd hynny, teimlwn ei bod yn bwysig i’r Cyngor ddal i ganolbwyntio ar yr heriau parhaus hyn ac rydym wedi gwneud cyfres o argymhellion xxx Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, y mae’n ofynnol i’r Cyngor eu hystyried ac ymateb iddynt yn y dull a ddisgrifir ym mharagraff 10 isod. Byddwn yn parhau i fonitro cynnydd y Cyngor dros y 12 i 18 mis nesaf.
10 Mae’r tabl isod yn cynnwys ein hargymhellion ar gyfer y meysydd yr ydym yn teimlo bod yn rhaid i’r Cyngor roi blaenoriaeth iddynt. Rydym yn gwneud argymhellion ysgrifenedig yn unol ag adran 25(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Xxx xxxxx 25(4) o Ddeddf 2004, rhaid i’r Cyngor ystyried yr adroddiad a’r argymhellion mewn cyfarfod a gynhelir o fewn mis i’r amser y mae’n derbyn yr adroddiad. Xxx Xxxxx 25(5) yn nodi bod yn rhaid i’r Cyngor benderfynu yn y cyfarfod hwnnw a yw’r argymhellion i gael eu derbyn a pha gamau (os dim o gwbl) y bydd yn eu cymryd mewn ymateb i’r adroddiad a’r argymhellion. Sylwch, os gwelwch yn dda, os bydd ar y Cyngor angen mwy o amser i gydymffurfio â’i ddyletswyddau o xxx is-adrannau (4) a (5) mewn perthynas â’r adroddiad a’r argymhellion, yna xxx xxx yr Archwilydd Cyffredinol ddisgresiwn i ymestyn y cyfnod o un mis, a grybwyllir yn is-adran (4) mewn perthynas ag adroddiad neu argymhelliad, os bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn fodlon ei bod yn rhesymol caniatáu’r amser ychwanegol i’r Cyngor.
Arddangosyn 1: argymhellion
Argymhellion |
A1 Dylai’r Cyngor ymdrin â’r diffyg capasiti ac arbenigedd i yrru a chynnal agenda’r trawsnewid. |
A2 Dylai’r Cyngor sicrhau mwy o barhad yn ei strwythur uwch-reoli ar y cyfle cyntaf. |
A3 Dylai’r Cyngor barhau gyda’i adolygiad capasiti i adlewyrchu’r trawsnewid sydd xx xxxxx a dysgu oddi wrth y pandemig. Dylid gwneud hyn mewn cysylltiad ag ystyriaethau ynghylch siâp a sgiliau gweithlu’r Cyngor yn y dyfodol. |
A4 Dylai’r Cyngor fireinio’r Cynllun ATG a sicrhau ei fod wedi cael ei gostio’n llawn, a bod ganddo’r adnoddau ariannol a dynol sydd eu xxxxxx i’w gyflawni. |
A5 Dylai’r Cyngor gryfhau ei gyfathrebu a’i ymgysylltiad â’r staff er mwyn sicrhau bod yna berchnogaeth, a dealltwriaeth, o gynlluniau ac uchelgeisiau’r Cyngor. |
Argymhellion |
A6 Rhaid i’r Cyngor adeiladu ar ei sefyllfa ariannol bresennol i gryfhau ei wytnwch ariannol. Mae’n rheidrwydd iddo fabwysiadu dull o gynllunio mwy tymor canol i’r tymor hir gan gynnwys ystyried lefel yr arbedion y mae’n realistig yn disgwyl eu sicrhau drwy drawsnewid, a lefel y buddsoddiad sydd xx xxxxx i gyflawni’r Cynllun ATG. |
A7 Dylai’r Cyngor sicrhau ei fod fel xxxxx corfforaethol yn parhau i ganolbwyntio ar wella deilliannau addysgol yr xxxx xxxxx a phobl ifanc. |
A8 Dylai’r Cyngor barhau i gryfhau ei drefniadau a’i ddiwylliant rheoli perfformiad. Xxx xxxxx iddo ddefnyddio trefniadau’n effeithiol i fonitro a herio perfformiad ar lefel yr unigolyn, y gwasanaeth a’r gorfforaeth, a sicrhau bod y trefniadau hyn yn gadarn i gefnogi cyflawni’r Cynllun ATG. |
A9 Dylai’r Cyngor gryfhau ei drefniadau craffu gan gynnwys sut y gallai craffu gael swyddogaeth fwy manwl a dylanwadol. Er enghraifft, gallai pwyllgorau craffu ystyried eu rôl yn y meysydd canlynol: • y cynllun ATG; a |
A10 Dylai’r Cyngor adeiladu ar xx xxxxx partneriaeth diweddar a sefydlu trefniadau i’w sicrhau ei hun bod ei weithgareddau partneriaeth yn rhoi gwerth am arian. |
Cynnydd y Cyngor hyd yma i fynd i’r afael â phryderon allweddol
11 Mae’r Cyngor wedi dangos llawer iawn o wytnwch yn y ffordd y mae wedi ymateb i heriau’r pandemig. Mae’r Cyngor wedi darparu grantiau busnes yn effeithlon, wedi parhau i ddarparu prydau ysgol am ddim, ac wedi cyflawni’r rhaglen brofi dorfol, ymhlith llu o ymatebion xxxx eraill.
12 Mae’r arolygiaeth addysg, Estyn, wedi nodi sawl cryfder yn ymateb y Cyngor i’r pandemig, megis arweinyddiaeth ymatebol a phwrpasol, a’i ddull o gefnogi dysgwyr sy’n agored i niwed xxx xx’n anodd eu cyrraedd. Nododd arolygiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru o wasanaethau cymdeithasol y Cyngor,
3 Canllawiau i Gynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol yng Nghymru ar Drefniadau Gweithrediaeth a Threfniadau Amgen 2006, paragraff 2.18
oedd yn canolbwyntio ar ddiogelwch a lles, gryfderau a meysydd i’w gwella. Canfu AGC fod y Cyngor yn ymateb yn brydlon i bryderon diogelu ac yn blaenoriaethu risgiau i ddiogelwch pobl yn briodol. Nododd AGC rai cryfderau hefyd o ymateb y Cyngor i’r pandemig. Roedd hyn yn cynnwys defnydd effeithiol y Cyngor o gyfathrebu i gadw mewn cysylltiad â phobl ynghyd â diwylliant sy’n gefnogol i staff.
13 Mae pethau cadarnhaol eraill hefyd yn deillio o’r pandemig i’r Cyngor eu defnyddio wrth symud ymlaen. Er enghraifft, perthnasoedd mewnol ac allanol cryfach, a’r gallu i ymgymryd â heriau mawr a chyflawni’n gyflym.
14 Bu’r Cyngor yn gweithio’n adeiladol gyda’r Bwrdd Gwella a Sicrwydd a’r cymorth allanol arall a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Cyngor yn fwy ymwybodol o’r heriau y mae’n eu hwynebu, a’r meysydd lle xxx xxxxx gwella.
15 Ym mis Awst 2020, lluniodd y Cyngor Gynllun Adferiad, Trawsnewid a Gwella (ATG) 2020-25, sy’n tanlinellu bod angen ‘trawsnewid y Cyngor yn gyfan gyda newid manwl mewn gwasanaethau’ i fynd i’r afael â’r heriau y mae’n eu hwynebu. Caiff cynnydd yn erbyn y cynllun ei fonitro yn y Bwrdd Gwella a Sicrwydd. Ceir cynlluniau cyflawni manwl o xxx amrywiol agweddau y Cynllun ATG. Mae’r Cyngor wedi llwyddo i ddatblygu rhai agweddau ar y Cynllun ATG, megis rhai newidiadau i’w drefniadau rheoli perfformiad, ond, fel sy’n ddealladwy, cafodd cynnydd ei lesteirio gan heriau’r pandemig.
16 Mae sianelau cyfathrebu yn eu lle i aelodau’r gwrthbleidiau ddeall a herio cynnydd y Cynllun ATG; fe’u cynrychiolir ar y Bwrdd Gwella a Sicrwydd, y Bwrdd Adferiad Economaidd, a’r Panel Partneriaeth Addysg. Mae’r Arweinydd newydd hefyd wedi cychwyn cyfarfodydd cyswllt anffurfiol ag arweinwyr y ddau grŵp gwleidyddol arall.
17 Mae’r Cyngor yn creu portffolio Cabinet newydd ar gyfer trawsnewid a masnacheiddio gan gydnabod yr angen am ffocws yn y meysydd hyn.
18 Mae sefyllfa ariannol tymor byr y Cyngor wedi gwella ers yr adeg pan ysgrifenasom at y Cyngor ym mis Mai 2019. Yn ystod 2020-21, mae’r Cyngor wedi ychwanegu
£300,000 at ei gronfeydd cyffredinol wrth gefn ac xxxxx xxx’r xxxxx xxxxxxx yn £5 miliwn. Ar hyn x xxxx, nid oes gan y Cyngor unrhyw gynlluniau i ddefnyddio cronfeydd cyffredinol wrth gefn yn ystod y ddwy flynedd ariannol nesaf. Mae’r Cyngor ar y trywydd cywir ar y cyfan gydag arbedion wedi eu cynllunio ar gyfer 2020-21 ac ar hyn o xxxx xxx’n rhagweld gwarged o £73,000 ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21. Mae’r Cyngor wedi gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2021-22 yn seiliedig ar gynnydd o 3.55% yn Nhreth y Cyngor.
19 Cododd ein llythyr ym mis Mai 2019 bryderon am y gorwariant o £1.3 miliwn yn ei gyllideb gofal cymdeithasol yn 2018-19 a’r galw digynsail ynghylch plant sy’n derbyn gofal. Yn 2019-20, roedd gan y gyllideb plant sy’n derbyn gofal ddiffyg net o
£669,000 er bod gwarged yng nghyllideb y gwasanaethau cymdeithasol yn gyffredinol o £376,000. Fel y mae pethau’n sefyll, er y rhagwelir y bydd cyllideb y Cyngor ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yn gorwario o £863,000 yn 2020-21, mae’r Cyngor o’r farn fod y gyllideb gofal cymdeithasol gyffredinol xxx reolaeth, ac yn Chwarter 3 rhagwelid tanwariant cyffredinol o £505,000 ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r Cyngor wedi cymryd rhai camau i liniaru’r gorwariant yn ei
gyllideb ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac mae’n datblygu agweddau ar y Cynllun ATG sydd â’r nod o leihau yn ddiogel nifer y plant sy’n derbyn gofal. Mae cyllideb refeniw y Cyngor ar gyfer 2021-22 yn cynnwys £591,000 ar gyfer pwysau galw ychwanegol ar gyfer gwasanaethau lleoliadau preswyl i blant sy’n derbyn gofal.
20 Mae’r berthynas rhwng y Cabinet a’r uwch dîm rheoli wedi gwella; soniai’r rhai a gyfwelwyd gennym fod yna fwy o ymddiriedaeth. Mae swyddogion ac aelodau wedi cymryd rhan gadarnhaol yn y gweithdai a hwyluswyd gan y cynghorwr allanol, Xxx Xxxxxx, sy’n teimlo bod cynnydd wedi ei wneud o ran dod â swyddogion ac aelodau’n nes at ei gilydd a bod ganddynt agenda gyffredin.
21 Roedd y Cyngor yn cydnabod bod ganddo rai materion capasiti xxxx a symudodd ymlaen gydag adolygiad o’i gapasiti ar draws y sefydliad yn gynnar yn 2020. Canfu hyn fylchau amrywiol a phwyntiau dibyniaeth unigol. Xxx xxxx o’r bylchau hynny wedi cael sylw erbyn hyn neu wrthi’n cael sylw. Mae cyllideb refeniw 2021-22 y Cyngor yn cynnwys £705,000 ar gyfer adnoddau i helpu i lenwi’r bwlch capasiti. Mae’r Cyngor wedi llenwi, neu wrthi’n llenwi, llawer o’r bylchau a nodwyd gan gynnwys swyddi ychwanegol yn Iechyd yr Amgylchedd, tai, anghenion dysgu ychwanegol, peirianneg a’r gwasanaethau cymdeithasol.
22 Mae’r Cyngor wedi gwneud peth cynnydd o ran gwella agweddau ar ei drefniadau rheoli perfformiad, a nodwyd fel testun pryder yn adroddiadau Xxxx Xxxxxxx ac Asesu Cyflym. Mae wedi datblygu dangosfwrdd corfforaethol a dangosfwrdd ar gyfer y Cynllun ATG ac mae’n cyflwyno proses arfarnu rheoli perfformiad unigol newydd. Mae’r Cabinet hefyd wedi cael trafodaethau perfformiad/datblygu unigol gyda’r cyn-Arweinydd. Mae’r Cyngor yn cydnabod bod xxxxx xxxx wella cywirdeb a dibynadwyedd ei ddata a’r defnydd ohono ac mae wedi bod yn siarad â chynghorau eraill, fel Powys, i ddeall sut y gall wneud hyn.
23 Mae effaith economaidd y pandemig yn debygol o fod yn sylweddol yn ardal Merthyr Tudful, ac mae’r adferiad yn debygol o gymryd peth amser. Roedd lefelau amddifadedd yn bryder cyn y pandemig. Mae’r Cyngor wedi bod yn rhagweithiol yn sefydlu Bwrdd Adferiad Economaidd (BAE) sydd ag amcanion clir ac a fydd yn gweithio ar y cyd â’r Bartneriaeth Twf Economaidd (PTE) a’r Bartneriaeth Addysg a Hyfforddiant Busnes (PAHB). Mae aelodaeth y PTE a’r PAHB yn cynnwys rhanddeiliaid ehangach yn ychwanegol at gynrychiolwyr y Cyngor. Mae’r bwriad y tu ôl i’r XXX, yr EGP a’r BETP yn gadarnhaol, ond mae’n rhy gynnar i ganfod unrhyw effaith bendant oddi wrthynt hyd yma.
24 Er nad ydym wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau’r Cyngor a’i berfformiad, nid ydym o’r farn fod gwasanaethau mewn perygl xxxx o fethu. Nododd arolygiad diweddar AGC o’r gwasanaethau cymdeithasol gryfderau a meysydd i’w gwella ac, ar wahân i Addysg, dengys y dangosyddion cenedlaethol o 2018-19 ddarlun cymysg o berfformiad. Ni chafwyd casgliad cenedlaethol o fesurau perfformiad yn 2019-20 (ar wahân i’r ffigurau ailgylchu) oherwydd y pandemig. Xxx xxxx meysydd o berfformiad da, megis cyflymder clirio digwyddiadau tipio anghyfreithlon a chyflymder penderfynu ar geisiadau cynllunio yn brydlon. Mae yna feysydd o berfformiad gwaelach hefyd, megis prosesu
grantiau cyfleusterau i’r anabl a nifer y sefydliadau bwyd sy’n cyrraedd safonau hylendid.
25 Er bod canlyniadau addysgol gwan, yn enwedig yn y sector uwchradd, yn broblem hirsefydlog i’r Cyngor, rydym yn gweld rhai arwyddion cadarnhaol cynnar bod y Cyngor yn cymryd camau i fynd i’r afael â hyn. Mae’r Cyngor wedi bod yn dal ysgolion i gyfrif, er enghraifft, drwy sesiynau panel corfforaethol rheolaidd gydag ysgolion, ac mae’r Cyngor wedi rhoi rhybudd anffurfiol i ddwy ysgol. Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi cynghorwr addysg allanol i gynorthwyo’r Cyngor. Mae’r Cyngor wedi sefydlu panel Partneriaeth Addysg gyda chynrychiolaeth ar draws rhanddeiliaid allweddol ac wedi hynny wedi cymeradwyo’r Strategaeth Codi Dyheadau, Codi Safonau (RARS) ar 25 Tachwedd 2020. Dywedodd y Cyngor wrthym fod gwaith eisoes wedi dechrau ar weithredu’r strategaeth, ond oherwydd y pandemig mae lansiad ffurfiol y strategaeth wedi ei ohirio tan hydref 2021.
26 Mae gobaith o fewn y Cyngor y gall y strategaeth newydd hon arwain at welliant parhaus mewn addysg. Mae’r Cyngor wedi dweud wrthym y bu trafodaethau mwy adeiladol hefyd gyda’r consortiwm addysg ynglŷn â’i rôl i wella’r canlyniadau addysgol i blant ym Merthyr Tudful.
27 Canfu ein hadroddiad ym mis Mehefin 2019 ar Wasanaethau Hamdden fod ‘rhoi gwasanaethau hamdden a diwylliannol y Cyngor ar gontract allanol wedi diogelu’r gwasanaethau rhag toriadau, ond bod y gwasanaethau yn ddiffygiol o ran cyfeiriad strategol, eu bod wedi cael eu cyfyngu gan y contract presennol a bod angen eu goruchwylio’n fwy effeithiol’. Barn y Cyngor yw fod y berthynas bresennol â’r Ymddiriedolaeth Hamdden wedi gwella dros y 18 mis diwethaf. Deallwn fod yr Ymddiriedolaeth wedi gweithio’n adeiladol gyda’r Cyngor yn ystod y pandemig, er enghraifft, i ddefnyddio’r ganolfan hamdden ar gyfer y rhaglen profion torfol. Mae gwaith yn mynd rhagddo i adolygu’r contract hamdden presennol. Mae’r Cyngor wedi gweithio drwy bwyntiau dadleuol blaenorol gyda’r Ymddiriedolaeth Hamdden, ac mae’r Cyngor wedi sefydlu Cerbyd Diben Arbennig (SPV) i ddatblygu prosiect Cyfarthfa. Bydd llyfrgelloedd yn xxxx xxxx’r Ymddiriedolaeth, a bu trafodaethau ynghylch gwella Canolfan Hamdden Merthyr Tudful. Mae’r Cyngor, yr Ymddiriedolaeth a Bwrdd y SPV wedi ffurfio grŵp llywio partneriaeth i ddatblygu’r amserlen ar gyfer trosglwyddo asedau a gweithredu cynllun Cyfarthfa. Deallwn fod sefyllfa ariannol yr Ymddiriedolaeth wedi gwella, er na ddarparwyd unrhyw wasanaeth yn ystod y pandemig. Xxx xxxxx i’r Cyngor sicrhau ei fod yn dysgu oddi wrth ddiffygion y gorffennol o ran y contract Hamdden ac y gwneir penderfyniadau cadarn a chwbl wybodus ynglŷn â’i wasanaethau hamdden a diwylliannol yn y dyfodol.
Yr heriau sylweddol sy’n parhau
28 Yn yr adran hon, nodwn yr hyn a welwn fel yr heriau presennol sy’n wynebu’r Cyngor a’r meysydd lle yr ydym yn teimlo y xxx xxxxx i’r Cyngor ganolbwyntio ei sylw. Caiff y rhain eu cynnwys xxx y themâu allweddol canlynol:
• Llywodraethu
• Arweinyddiaeth
• Trawsnewid
• Capasiti
• Sefyllfa ariannol y tymor canolig a gwytnwch ariannol
• Heriau gwasanaeth
• Rheoli perfformiad
• Gweithio mewn partneriaeth
29 Fel y nodwyd gennym yng nghrynodeb yr adroddiad hwn, mae’r setliad ariannol mwy cadarnhaol yn rhoi cyfle i’r Cyngor gymryd camau pendant i gyflawni’r newid a’r gwelliant sydd eu xxxxxx. Rydym yn cydnabod bod y pandemig yn parhau, ond xxx xxxxx i’r Cyngor hefyd ddatblygu ei Gynllun ATG er mwyn ei osod ei hun mewn gwell sefyllfa i gefnogi adferiad y fwrdeistref sirol.
Llywodraethu
30 Xxx xxxxx i’r Cyngor ddatblygu perthynas gref ac adeiladol rhwng aelodau, peth sydd heb ddigwydd xxx amser. Mae yna fwy i’w wneud i ddatblygu’r berthynas rhwng y Cabinet a’r gwrthbleidiau. Mae’r Cabinet yn dal heb raglen waith gyfredol o hyd a dylid ymgysylltu’n well â chadeiryddion craffu er mwyn helpu i lywio gwaith y pwyllgorau craffu. Dylai hyn sicrhau bod mecanweithiau llywodraethu allweddol yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar fusnes pennaf y Cyngor ac yn gweithredu mewn ffordd gyflenwol i sicrhau penderfyniadau cadarn ac atebolrwydd.
31 Mae’r Cabinet wedi dechrau gweithio’n fwy fel xxxxx xxxx’i gilydd a chydag eraill, ond xxx xxxxx i’r xxxx Aelodau gydnabod a pharchu eu priod swyddogaethau i weithio’n adeiladol er mwyn gwella canlyniadau i bobl Merthyr Tudful.
32 Ceir adran gwella llywodraethu yn y Cynllun ATG, ac mae CLlLC a Max Caller yn rhoi cymorth i gryfhau trefniadau llywodraethu’r Cyngor. Nododd CLlLC a Xxx Xxxxxx eu bod yn cael eu calonogi gan y trafodaethau y maent yn eu cael gyda’r Cyngor, ond mae’r pandemig wedi oedi nifer o weithgareddau datblygu arfaethedig sy’n gysylltiedig â llywodraethu.
33 Dywedodd y bobl y gwnaethom eu cyfweld fod y berthynas rhwng y Cabinet a’r pwyllgorau craffu yn rhesymol. Er hynny, nid yw’r pwyllgorau craffu yn dal y Cabinet i gyfrif yn effeithiol; mae cwestiynau’n tueddu i gael eu cyfeirio at swyddogion ac xxx xxxxx i ansawdd yr her gan aelodau wella. Mae canllawiau
statudol o xxx Ddeddf Llywodraeth Leol 20004 yn nodi mai un o rolau pwyllgorau trosolwg a chraffu yw ‘galw’r weithrediaeth i gyfrif am arfer swyddogaethau gweithredol yn effeithlon – yn enwedig perfformiad y weithrediaeth fel y’i mesurir yn erbyn y safonau, yr amcanion a’r targedau a nodir yn y polisïau a’r cynlluniau y mae’n eu gweithredu’. Roedd ein hadroddiad ym mis Medi 2018 ar waith craffu yn y Cyngor5 yn cynnwys cynnig i wella o ran sicrhau bod y Cabinet yn cael ei ddal i gyfrif, ac mae hwn yn parhau i fod yn faes y xxx xxxxx mynd i’r afael ag ef. Xxx xxxxx i xxx aelod wneud ei ran yn llawn er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn llywodraethu’n effeithiol.
34 Nodai ein Papur trafod Craffu Addas i’r Dyfodol a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2019 chwe xxxx allweddol i gynghorau eu hystyried er mwyn gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd eu swyddogaethau craffu. Mae’r Cyngor yn cymryd camau i ddatblygu ei drefniadau craffu. Er enghraifft, ar hyn o xxxx xxx’n cynnal rhaglen hunanarfarnu craffu, mae’n datblygu Strategaeth graffu ar Dudalen (SOAP) gyda’r bwriad o ddangos yn well yr effaith y mae pwyllgorau craffu yn ei chael, ac mae wedi datblygu Canllaw Ymarferol i Graffu i fod o gymorth i aelodau. Mae hefyd yn gweithio gyda CLlLC i ddatblygu deunyddiau e-ddysgu.
35 Mae’r Cyngor wedi darparu hyfforddiant a chymorth i aelodau craffu yn y gorffennol ac mae’n cynllunio digwyddiadau hyfforddi pellach yn 2021-22. Byddwn yn arbennig o awyddus i weld cynnydd yn y xxxx hwn gan fod gennym bryderon parhaus am effeithiolrwydd ac effaith trefniadau craffu’r Cyngor. Byddem yn annog y Cyngor i ystyried sut y xxxx xx bwyllgorau craffu ganolbwyntio eu gweithgarwch i ddefnyddio adnoddau cyfyngedig yn fwy effeithiol ac ystyried gwahanol ffyrdd o gyflawni eu rôl.
36 Mae yna gyfle i drefniadau craffu’r Cyngor chwarae rhan allweddol mewn craffu a monitro gweithrediad y Cynllun ATG, gan ei fod mor ganolog i ddyfodol y Cyngor. Mae’r Cynllun ATG wedi dechrau ymddangos yn rhaglenni gwaith rhai pwyllgorau craffu ar gyfer Mawrth 2021.
Arweinyddiaeth
37 Bu’r 12 mis diwethaf yn gromlin ddysgu enfawr i arweinwyr y Cyngor ar lefel y swyddogion ac ar lefel wleidyddol fel y bu i lawer o sefydliadau’r sector cyhoeddus. Mae’r pryderon a godwyd gennym wedi cael mwy o dderbyniad, a dangosodd y pandemig y gall uwch aelodau a rheolwyr gydweithio a gweithredu’n gyflym pan fo angen. Xxx xxxxx i arweinwyr y Cyngor yn awr symud eu ffocws y tu hwnt i oroesi’r gyllideb yn flynyddol tuag at gynllunio tymor canolig a thymor hwy i
4 Canllawiau i Gynghorau Sir a Bwrdeistrefi Sirol yng Nghymru ynghylch trefniadau Gweithredu a Threfniadau Gwahanol 2006, paragraff 2.18
5 Trosolwg a Chraffu: Addas ar gyfer y Dyfodol?– Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Medi 2018
weithredu ei Gynllun ATG. Xxx xxxxx i weithredoedd yn awr gyd-fynd â dyhead arweinwyr y Cyngor.
38 Mae’r math o drawsnewid a ddisgrifir yn y Cynllun ATG yn gofyn am ymgysylltu sylweddol â staff er mwyn i’r Cyngor gario’r sefydliad gydag ef, a sicrhau bod eglurder ynglŷn â’r cyfeiriad y mae’r Cyngor yn mynd iddo. Dyma lle gall arweinyddiaeth glir a gweladwy greu’r egni sefydliadol i sbarduno’r gwelliannau sydd eu xxxxxx. Hyd xxx, cynhaliwyd dau weithdy aelodau ar y Cynllun ATG a chynrychiolir aelodau’r gwrthbleidiau ar nifer o wahanol fforymau. Ym mis Chwefror 2021, rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r staff am y Cynllun ATG, ac esboniwyd hefyd y câi rhagor o fanylion am y Cynllun eu rhannu â’r staff xxxx o law. Bu cyfathrebu hefyd â staff ynglŷn ag agweddau ar y Cynllun ATG, megis gwybodaeth am y prosiect ‘Canolbwyntio ar xxxx Perfformiad’. Deallwn fod y Cyngor yn datblygu cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu, fydd yn cynnwys sesiynau pellach gydag aelodau, grwpiau ffocws gyda staff a chylchlythyr chwarterol. Byddwn yn awyddus i weld y Cyngor yn symud ymlaen â’r cynllun cyfathrebu hwn, gan fod angen i’r gwaith o greu perchnogaeth, ymrwymiad a dealltwriaeth o’r cynllun ymhlith y staff a’r aelodau fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor. Nodwn hefyd nad oes crynodeb o’r Cynllun ATG wedi’i gyhoeddi eto. Byddem yn annog y Cyngor i fynd i’r afael â hyn o ystyried arwyddocâd y Cynllun.
39 Mae cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor yn awr yn fwy bregus xx xxxx gyhoeddwyd ein llythyr ym mis Mai 2019. Yn dilyn xxxx yr Arweinydd dros dro yn ddiweddar, ar hyn o xxxx xxx 15 aelod o’r prif grŵp Annibynnol, 15 aelod Llafur a dau Gynghorydd Annibynnol arall. Mae’r Cyngor wedi symud yn gyflym i benodi Arweinydd newydd, ond mae’r cydbwysedd yn gyfryw fel bod perygl y gallai hyn lesteirio gallu’r Cyngor i wneud penderfyniadau anodd. Xxxx xxxxxxx gwleidyddol olygu ei bod yn fwy anodd datblygu trafodaethau a chynlluniau cyllidebol, ac xxxxx xxx’n bwysicach cael trefniadau llywodraethu cryf a chyfathrebu clir rhwng y weithrediaeth ac aelodau’r gwrthbleidiau.
Trawsnewid
40 Ni lwyddodd ymdrechion blaenorol y Cyngor i drawsnewid i symud ymhell. Ar gamau cynnar iawn ei daith o drawsnewid y mae’r Cyngor ac mae wedi ceisio datblygu agweddau ar y Cynllun ATG ond mae’n cydnabod bod ei weithredu wedi cael ei lesteirio gan heriau’r pandemig. Rydym yn cydnabod bod trawsnewid yn xxxxxx tymor hir ond, er bod y pandemig wedi cael y flaenoriaeth ddyledus, mae’n hanfodol bod y Cyngor yn awr yn gosod y blociau adeiladu yn eu lle ar gyfer ei ddyfodol hirdymor.
41 Mae’r Cynllun ATG yn fan cychwyn credadwy, ond xxx xxxxx i’r Cyngor barhau i fireinio’r cynllun fel ei fod yn canolbwyntio’n ddigonol ac yn gyson ar ei amcanion cyffredinol. Mae lle hefyd i’r Cyngor fod yn gliriach ynglŷn â xxxx yn union y mae’n ei olygu wrth drawsnewid yn y Cynllun ATG. Gwelsom ni fod dryswch ymysg y bobl y gwnaethom eu cyfweld ynglŷn â xxxx yn union yw gweledigaeth y Cyngor. Cyfeiriodd rhai at y gwaith parhaus sy’n cael ei wneud gan ymgynghorwyr i
ddatblygu gweledigaeth economaidd ar gyfer yr ardal, tra roedd eraill yn cyfeirio at y Cynllun ATG. Er nad oes arnom eisiau annog y Cyngor i ddatblygu gweledigaeth dim ond er mwyn ‘ticio blwch’, teimlwn fod xxxxx xxxx sicrhau bod cytundeb eglur ynglŷn â’r cyfeiriad y mae’n mynd iddo fel sefydliad. Cawsom ar ddeall fod y gweithdai rhwng uwch aelodau a rheolwyr, a hwylusir gan Xxx Xxxxxx, yn gymorth i wneud hyn. Ar hyn o xxxx, xxx llawer iawn yn y cynllun; mae llawer o’r camau gweithredu yn ymwneud â datblygu neu sefydlu mwy o systemau, byrddau a phroses.
42 O ystyried bod capasiti yn broblem fawr yn y Cyngor, efallai y bydd xxxxx xxxx hefyd ailedrych ar ei allu i wneud popeth sydd yn y cynllun. At hynny, nid yw’r Cynllun ATG wedi cael ei gostio’n llawn eto ac xxx xxxxx ei ystyried ym mhroses ei gynllun ariannol tymor canolig a chyllidebu.
43 Mae’r Cyngor yn ymwybodol bod xxxxx xxxx gryfhau ei drefniadau Adnoddau Dynol i’w gynorthwyo i gyflawni ei Gynllun ATG. Yn ddiweddar, penododd Llywodraeth Cymru gynghorwr allanol, fydd yn edrych ar yr hyn sy’n ofynnol gan y swyddogaeth Adnoddau Dynol er mwyn iddi gefnogi trawsnewid yn effeithiol.
44 Cyflwynwyd y Cynllun ATG i’r aelodau ym mis Medi 2020. Fodd bynnag, yn ystod ein gwaith xxxx, ni chawsom deimlad clir fod yr aelodau gyda’i gilydd wedi cymryd meddiant o’r Cynllun. Yn ein tyb ni, mae hyn yn hanfodol er mwyn i’r Cyngor fedru symud ymlaen. Fel gyda phob cyngor, fe fydd yna wahaniaethau gwleidyddol, ond o ran gosod y Cyngor ar sail gynaliadwy, mae’n anodd anghytuno ag egwyddorion y cynllun, o gofio’r pryderon a godwyd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a rhai o’r problemau hirsefydlog y mae’r Cyngor wedi eu hwynebu.
45 Mae xxx uwch-reolwyr y Cyngor yn ddiamau wedi dangos gwytnwch gwirioneddol yn y ffordd y maent wedi gweithio gyda’i gilydd a chydag eraill i ymateb i’r pandemig ac mae’r ewyllys yno i adeiladu ar hyn er mwyn symud y Cynllun ATG yn ei flaen. Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod gan y Cyngor ar hyn x xxxx y capasiti na’r arbenigedd a’r profiad o drawsnewid i yrru’r trawsnewid gofynnol yn ei flaen, hyd yn oed heb ystyried y gofynion sy’n cael eu gosod arnynt gan y pandemig. Pwysleisiai adroddiad Xxxx Xxxxxxx y diffyg gallu i arwain ac arbenigedd mewn newid trawsnewidiol. Mae’r Cyngor wedi creu portffolio Cabinet newydd ar gyfer trawsnewid a masnacheiddio. Yn ein barn ni, byddai’r Cyngor hefyd yn elwa o fwy o arbenigedd trawsnewid, safbwyntiau newydd a phrofiad i yrru hyn yn ei flaen a sicrhau bod ethos newid a thrawsnewid yn treiddio drwy’r Cyngor.
Capasiti
46 Xxx xxxxx i’r Cyngor gwblhau a diweddaru ei adolygiad o gapasiti a gychwynnodd yn gynnar yn 2020. Pwysleisiodd y pandemig y cyfyngiadau capasiti o fewn y sefydliad wrth i staff gael eu hadleoli ac i rai trefniadau a gweithgareddau, oedd yn eu lle i ddatblygu’r Cynllun ATG, gael eu rhoi o’r neilltu dros dro; bu rhaid mabwysiadu dull ymarferol gyda phawb yn cydweithio i ymateb i’r pandemig. Mae capasiti, yn amlwg, yn parhau i fod yn broblem sylweddol.
47 Er gwaethaf yr elfennau cadarnhaol o ran cyllideb y gwasanaethau cymdeithasol a nodwyd ym mharagraff 19 uchod, mae’r gwasanaeth yn dal yn fregus ac mae capasiti’n dal i achosi pryder. Darparwyd cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi cael derbyniad da iawn, ond nid yw’r cymorth hwnnw’n ddibendraw. Mae cynlluniau yn eu lle i recriwtio prif swyddog arall yn y gwasanaethau i oedolion cyn bo hir ac mae’r Cyngor wedi ymestyn swydd Newid Busnes Trawsnewid Oedolion tan fis Medi 2021.
48 Yn yr adran Addysg, mae’r rôl arweiniol ran-amser Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi cael ei llenwi, ond er gwaethaf dwy ymgais i recriwtio i’r swydd ADY uwch, mae hon yn dal yn wag. Mae cyllideb refeniw 2021-22 hefyd yn cynnwys adnoddau ar gyfer capasiti ychwanegol yn nhîm data Addysg.
49 Er y bu rhai newidiadau i gylch gwaith rhai swyddi uwch reolwyr, nid yw’r Cyngor wedi cwblhau adolygiad o rolau a chyfrifoldebau uwch reolwyr fel yr argymhellwyd yn yr Adroddiad Asesu Cyflym oherwydd y pandemig.
50 Mae swyddi’r Prif Weithredwr Dros Dro a’r Dirprwy Brif Weithredwr Dros Dro wedi cael eu hymestyn tan fis Medi 2021. Mae rôl Prif Swyddog flaenorol y Dirprwy Brif Weithredwr Dros Dro yn cael ei rhannu rhwng dau bennaeth gwasanaeth. Xxxxx, xxx swydd wag yn dal i fod ar lefel yr uwch reolwyr. Er mwyn gwella capasiti a sefydlogrwydd, xxx xxxxx i’r Cyngor roi trefniadau uwch reolwyr mwy parhaol ar waith, gan gynnwys ystyried sut y xxx xxxx iddo gael y capasiti a’r arbenigedd i yrru’r trawsnewid sydd xx xxxxx. Deallwn fod y Cyngor yn gobeithio penodi Prif Weithredwr parhaol ym mis Medi 2021.
51 Fel llawer o sefydliadau, mae’r pandemig wedi galluogi’r Cyngor i edrych i mewn i ffyrdd mwy ystwyth o weithio. Mae’r Prif Weithredwr Dros Dro yn cydnabod bod angen i’r Cyngor nodi sgiliau a ffurf ei weithlu yn y dyfodol a’i fod wedi gofyn am gyngor gan gynghorwr Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru ynglŷn â hyn.
Sefyllfa ariannol y tymor canolig a gwytnwch ariannol
52 Ym mis Mawrth 2020 cyhoeddwyd adroddiad gennym ar gynaladwyedd ariannol y Cyngor.6 Ein casgliad cyffredinol oedd: ‘Er gwaethaf setliad uwch na’r disgwyl, mae sefyllfa ariannol y Cyngor yn dal i fod yn heriol, a byddai methu â chyflawni yn unol â’r gyllideb neu fethu â gwneud yr arbedion cynlluniedig yn bygwth lleihau cronfeydd wrth gefn i xxxxx xxxx.
53 Er bod sefyllfa ariannol tymor byr y Cyngor wedi gwella ers yr adeg pan ysgrifenasom at y Cyngor ym mis Mai 2019, nid ydym wedi ein sicrhau hyd yma fod y Cyngor yn cynllunio’n effeithiol ar gyfer yr her ariannol bosibl yn y tymor canolig i’r tymor hir. Derbyniodd gynnydd o 4.8% yn xx xxxxx cynnal refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21 ac mae ei setliad dros dro ar gyfer 2021-22 yn gynnydd o 4.6%, y trydydd uchaf yng Nghymru. Ni ellir dibynnu ar setliadau cadarnhaol o’r
6 Archwilio Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Asesiad Cynaladwyedd Ariannol, Hydref 2020
fath yn y blynyddoedd i ddod. Hyd yma, mae’r Cyngor wedi bod yn canolbwyntio ar gyllidebau blynyddol yn hytrach nag ar arbedion effeithlonrwydd hirdymor cynlluniedig neu arbedion trawsnewidiol. O’r blaen, mae’r Cyngor wedi defnyddio mecanweithiau cyfrifyddu sylweddol i gwrdd â diffygion yn y gyllideb, megis newid polisi’r Ddarpariaeth isafswm Refeniw (MRP) ac ailddosbarthu cronfeydd wrth gefn, sy’n annhebygol o fod ar gael drwy gydol cyfnod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC).
54 Yn awr, mae ffenestr fechan o gyfle i’r Cyngor gynllunio ar gyfer y tymor canolig i’r tymor hir ac ystyried y ffordd orau iddo ddefnyddio ei adnoddau i ddod yn fwy gwydn yn ariannol a chyflawni ei Gynllun ATG. Xxx xxxxx i’r Cyngor hefyd ystyried pa arbedion y gellir eu cyflawni’n realistig drwy ei gynllun trawsnewid, yn ogystal â nodi unrhyw fuddsoddiad fydd xx xxxxx i gyflawni’r cynllun.
55 Mae’r Cyngor wedi cymeradwyo cynnydd o 3.55% yn y Dreth Gyngor yn hytrach na’r 4.99% y cynlluniwyd ar ei gyfer yn wreiddiol o fewn ei CATC. Mae’r gostyngiad hwn o 1.44% yn cyfateb i £343,000, y mae’r Cyngor wedi ei ariannu o warged dros dro y gyllideb o £288,000 a gostyngiad o £55,000 yn y Ddarpariaeth Dyfarnu Cyflogau.
56 Y llynedd, gostyngodd y Cyngor y cynnydd yn y Dreth Gyngor i 4.99% o’r 5.99% a ragdybiwyd yn wreiddiol dros dymor CATC Mawrth 2019. Penderfyniad gwleidyddol yw pennu’r Dreth Gyngor, ond mae’n hanfodol bod yr aelodau’n gwbl ymwybodol o oblygiadau’r dewisiadau posibl ar gyfer y tymor canolig a’r tymor hir.
57 Rydym yn ymgymryd ag adolygiad cynaladwyedd ariannol arall ym mhob un o’r 22 cyngor yng ngwanwyn 2021. Drwy hyn, byddwn yn edrych yn fanylach ar sefyllfa ariannol a chynllunio ariannol tymor canolig y Cyngor. Disgwyliwn gyhoeddi adroddiad ym mis Ebrill 2021.
Heriau gwasanaeth
58 Fel y nodwyd ym mharagraff 24 uchod, cymysg yw perfformiad y Cyngor yn erbyn dangosyddion cenedlaethol. Er bod rhai meysydd arwyddocaol o berfformiad gwael, nid yw yn Gyngor sy’n perfformio’n wael ym mhob cyfeiriad. Er hynny, mae’r Cyngor yn cydnabod bod xxxxx xxxx sicrhau ei fod yn gwella’r canlyniadau ar gyfer ei breswylwyr – gwella perfformiad xx xxxx o’i achos dros newid yn ei Gynllun ATG. Mae adroddiad perfformiad blynyddol y Cyngor am y flwyddyn 2019- 20 yn datgan bod perfformiad y Cyngor yn 2019-20 (yn seiliedig ar y dangosyddion sydd ar gael) wedi gwella mewn 46% o ddangosyddion ac wedi syrthio’n ôl mewn 54% o fesurau ers y flwyddyn flaenorol.
59 Dengys y diagram isod, a ddefnyddir yng Nghynllun ATG y Cyngor, nifer y mesurau atebolrwydd cyhoeddus ym mhob chwartel yn seiliedig ar ei berfformiad yn 2018-19.
Arddangosyn 2: asesiad y Cyngor o’i sefyllfa gymharol yn 2018-19 mewn perthynas â Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus Cymru
Ffynhonnell: Cynllun ATG y Cyngor
60 Dengys asesiad y Cyngor o’i berfformiad yn erbyn y dangosyddion cenedlaethol sydd ar xxxx xxxx y bum mlynedd ddiwethaf fod canran y mesurau yn y chwartel isaf wedi cynyddu ers 2015-16. Nid yw’r Cyngor wedi gallu gwneud y dadansoddiad cymharol hwn ar gyfer 2019-20, oherwydd na chafwyd unrhyw gasgliad cenedlaethol o fesurau perfformiad yn 2019-20, ac eithrio’r dangosyddion ailgylchu.
61 Gwella perfformiad addysgol a chryfhau gwytnwch ei wasanaethau cymdeithasol yw’r ddwy brif her o ran gwasanaethau; ond mae’r Cyngor wedi nodi meysydd gwasanaeth eraill, megis digartrefedd a hamdden, sy’n gofyn am welliant sylweddol. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn bwysau gwasanaeth enfawr i’r Cyngor fynd i’r afael â hwy, yn awr a thros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
62 Mae’r Cyngor yn gwybod bod xxxxx xxxx sicrhau gwelliannau cynaliadwy mewn deilliannau addysgol yn fuan, ac mae hon yn flaenoriaeth allweddol o fewn y
Cynllun ATG. Bu mewn mesurau arbennig addysg rhwng 2012 a 2016 ac ni lwyddodd wedyn i gynnal y gwelliant a wnaed.
63 Er bod optimistiaeth o fewn y Cyngor y gall sicrhau gwelliant parhaus o fewn addysg, a bod mwy o gyfrifoldeb corfforaethol xxxxxxx i wneud hyn, mae gwaith sylweddol yn dal i fod os am gyflawni’r gwelliant sydd xx xxxxx ac nid oes tystiolaeth o welliant pendant hyd yn hyn. Ar hyn x xxxx, oherwydd y pandemig, ni chafwyd unrhyw ddata perfformiad eleni. Dylai’r Cyngor ystyried sut y gall werthuso gwelliant yn barhaus a mesur effaith y newidiadau y mae’n eu gwneud, er mwyn ailedrych ar newidiadau wrth fynd ymlaen. Deallwn fod y Cyngor yn dechrau gweithio gydag ysgolion i ddatblygu fframwaith cynnydd ar gyfer gwneud hyn.
64 Xxx xxxxx i’r Cyngor adeiladu ar y trafodaethau adeiladol y mae wedi eu cael gyda’r consortiwm addysg (Canol y De) er mwyn sicrhau bod ganddo drefniadau yn eu lle i wneud yn siŵr ei fod yn cael gwerth am xxxxx xxx y consortiwm.
65 Mae ffactorau economaidd-gymdeithasol yn yr ardal yn ei gwneud yn bwysicach fyth i blant ym Merthyr Tudful gael mynediad at addysg o safon uchel yn gyson, fydd yn eu galluogi i lwyddo a chyflawni eu huchelgeisiau.
Rheoli Perfformiad
66 Cododd adroddiad Xxxx Xxxxxxx a’r adroddiad Asesu Cyflym bryderon ynghylch rheoli perfformiad. Edrychodd ein hadolygiad ar dair elfen rheoli perfformiad: trefniadau rheoli perfformiad staff unigol; trefniadau rheoli perfformiad cyfarwyddiaethau/gwasanaethau a rheoli perfformiad strategol.
67 Ym mis Awst 2020, dechreuodd y Cyngor gyflwyno fframwaith rheoli perfformiad unigol newydd. Cyn hynny, nid oedd gan y Cyngor drefniadau rheoli perfformiad staff cadarn ac nid oedd y rhan fwyaf o’r staff yn cwblhau gwerthusiadau. Os caiff ei gymhwyso’n effeithiol, dylai’r fframwaith newydd helpu i ddatblygu diwylliant cryfach o reoli perfformiad ymhlith staff. Xxx xxxxx i’r Cyngor sicrhau bod y fframwaith yn cael ei ddefnyddio fel offeryn parhaus i helpu i gynllunio, monitro ac adolygu perfformiad staff, yn hytrach nag fel un digwyddiad yn unig. Cynigiwyd hyfforddiant i reolwyr ac xxx xxxxx i’r Cyngor fonitro ansawdd ac effeithiolrwydd y fframwaith newydd a’r ffordd y mae’n cael ei gymhwyso.
68 Argymhellodd adroddiad Xxxx Xxxxxxx y dylid datblygu dangosfwrdd corfforaethol i wella rheolaeth perfformiad strategol y sefydliad. Datblygwyd dangosfwrdd corfforaethol gyda’r bwriad o ddefnyddio data byw, ond xxx xxxxx gwneud rhagor o waith i lanhau’r data fel bod mwy x xxxxx yn y wybodaeth sy’n cael ei defnyddio i gefnogi’r dangosfyrddau. Ar hyn x xxxx, mewn ffordd gyfyngedig yn unig yng nghyfarfodydd y Xxx Rheoli Corfforaethol y mae’r dangosfwrdd yn cael ei ddefnyddio, ac nid gan y Cabinet.
69 Gyda golwg ar ei drefniadau rheoli perfformiad gwasanaeth, mae’r Cyngor yn bwriadu diweddaru ei Strategaethau ar Dudalen (SOAPs) i fod yn rhan o’r Dangosfwrdd Corfforaethol ac adolygiadau busnes chwarterol y mae’r Cyngor yn mynd i’w hail-sefydlu.
70 Yn gyffredinol, mae’r Cyngor yn cymryd camau i wella ei drefniadau rheoli perfformiad, ond mae llawer o’r newidiadau wedi cael eu gohirio oherwydd y pandemig, ac nid ydym eto’n gweld canlyniadau’r trefniadau gwell hyn. Xxx xxxxx gwneud rhagor o waith i weithredu a defnyddio’r trefniadau’n effeithiol, fel sail i’r broses o wneud penderfyniadau, a chyflwyno diwylliant llawer cryfach o reoli perfformiad. Mae a wnelo rheoli perfformiad gymaint ag ymddygiad, eglurder a sgyrsiau agored ag y mae â systemau. Mae’r naws o’r top a’r cymorth a ddarperir i staff a rheolwyr i helpu i gael y gorau xxxxx o’r trefniadau yn bwysig. O ystyried yr xxxx wahanol gamau gweithredu a dyheadau yn y Cynllun ATG, mae’n hanfodol bod trefniadau rheoli perfformiad y Cyngor yn cael eu defnyddio’n effeithiol i fonitro a chyflawni’r cynllun a chyrraedd y lefel o welliant a ddymunir.
Gweithio mewn partneriaeth
71 Ceir rhai arwyddion cychwynnol o welliant yng ngwaith partneriaeth y Cyngor, gafodd ei ysgogi i raddau helaeth gan bwysau’r pandemig. Dywedai’r adroddiad Asesu Cyflym fod ‘gweithio mewn partneriaeth yn ymddangos yn rhywbeth oedd yn cael ei wneud pan oedd o fantais yn hytrach nag yn rhan o gyfeiriad teithio strategol’. Mae’r datganiad hwnnw’n dal yn berthnasol, ond mae yna gyfle i’r Cyngor ddod xxxxx o’r pandemig gyda pherthynas gryfach â’i bartneriaid. Xxx xxxxx i’r Cyngor ystyried sut y gellir cynnal a chadw unrhyw enillion a wnaed ym mherthynas y Cyngor â phartneriaid (er enghraifft, y trydydd sector) yn ystod y pandemig. Xxx xxxxx i’r Cyngor hefyd wneud yn siŵr fod ei drefniadau’n caniatáu iddo gael y gorau xxxxx o’i xxxxx partneriaeth a sicrhau ei hun bod y trefniadau hyn yn darparu gwerth am arian. Xxx xxxxx iddo ddysgu o’i brofiadau gyda’r consortiwm addysg a’r ymddiriedolaeth hamdden, er enghraifft. Mae’n fwriad gennym wneud gwaith pellach o gwmpas partneriaethau fel rhan o’n rhaglen waith ar gyfer 2021-22, gan ganolbwyntio o bosibl ar ôl troed Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a’r newid i drefniadau newydd ers i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr ymuno ag ef yn 2019.
Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ
Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ffôn destun: 029 2032 0660
Cyfeiriad e-xxxx: xxx@xxxxx.xxxxx Gwefan: xxx.xxxxx.xxxxx
We welcome correspondence and telephone calls in Welsh and English. Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.