Cyngor Caerdydd
Cyngor Caerdydd
Amodau Gweithredwyr Llogi Preifat
Cyflwyniad
Mae'r amodau hyn yn berthnasol i weithredwyr llogi preifat.
Mae pob cyfeiriad at "Gweithredwr" yn yr amodau hyn isod yn golygu person sydd â thrwydded i weithredu cerbydau llogi preifat a roddwyd yn unol ag Adran 55 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
Mae 'Awdurdod Trwyddedu' yn cyfeirio at Gyngor Caerdydd
Xxx xxx 'swyddog awdurdodedig' yr un ystyr ag sydd iddo yn Adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976
Ystyrir bod unrhyw ofynion cyfreithiol sy'n berthnasol i weithredu trwydded gweithredwr llogi preifat yn amodau'r drwydded, p'un a ydynt wedi'u rhestru'n benodol isod neu yn y polisi ai peidio.
1. Cyffredinol
1.1 Rhaid i'r gweithredwr gynnal gwiriadau digonol i fodloni ei hun mai dim ond gyrwyr xxxxx xx'n cael eu defnyddio (ac yn parhau i gael eu defnyddio) yn ystod eu busnes. Bydd hyn yn cynnwys gwirio trwydded gyrrwr cerbyd hacni/llogi preifat pob gyrrwr a chael copi ohoni cyn i'r gyrrwr hwnnw drefnu unrhyw deithiau. Gellir cwestiynu addasrwydd a phriodoldeb y gweithredwr os bydd yn methu â sicrhau bod yr xxxx wiriadau priodol wedi’u cynnal. Hefyd gellir cwestiynu addasrwydd a phriodoldeb y gweithredwr os bydd yn methu â chymryd camau priodol yn erbyn gyrrwr sy’n torri’n gyson amodau ei drwydded.
1.2 Rhaid i weithredwr roi gwybod i’r Awdurdod Trwyddedu am unrhyw yrrwr y mae wedi’i ddiswyddo a’r rhesymau dros ei ddiswyddo o fewn 48 awr i’r diswyddo.
1.3 Rhaid i'r Gweithredwr roi gwybod i'r Swyddfa Drwyddedu, yn ysgrifenedig, o fewn 5 diwrnod gwaith
a) os bydd ef, unrhyw gyfarwyddwr cwmni, neu unrhyw unigolyn a enwir ar y ffurflen gais yn newid ei gyfeiriad cartref
b) os bydd unrhyw gwmni neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn newid ei swyddfa gofrestredig
c) os caiff unrhyw newidiadau eu gwneud i berchnogaeth/rheolaeth/partneriaeth y gweithrediad fel y nodir yn xxxx ffurflen gais. Bydd angen i berchnogion newydd neu bartneriaid ychwanegol gael gwiriad sylfaenol gan y GDG. Ni chaiff y broses o drosglwyddo trwydded y gweithredwr ei chwblhau nes y bydd yr Awdurdod Trwyddedu wedi derbyn copi o'r gwiriad.
d) Os na fydd cyfarwyddwr neu xxxxxx â chyfrifoldeb a enwebwyd yn parhau i gael ei gyflogi yn y cyswllt hwn
1.4 Rhaid i'r gweithredwr roi gwybod i’r Awdurdod Trwyddedu os na fydd xx xxx'r person sy'n gyfrifol am redeg y busnes, yn rhedeg y busnes o ddydd i ddydd am gyfnod o 2 fis yn olynol. Wrth wneud hyn, rhaid i'r gweithredwr roi enw'r person a fydd yn gyfrifol am redeg y busnes ar ei ran yn ystod y cyfnod dros dro hwn.
1.5 Rhaid i'r Gweithredwr beidio â defnyddio, na hwyluso'r defnydd o, unrhyw feddalwedd, technoleg neu ddyfais arall sy'n gallu rhwystro gweithgareddau cyfreithlon asiantaethau gorfodi neu weithgarwch rheoleiddio'r Awdurdod Trwyddedu.
2. System gwynion
2.1 Rhaid i Weithredwyr Llogi Preifat neu gynrychiolydd a benodwyd o'r busnes ddechrau ymchwiliad i unrhyw xxxx a dderbynnir gan y cyhoedd o fewn 48 awr i dderbyn y xxxx.
2.2 Rhaid i'r gweithredwr gadw cofrestr o gwynion (digidol xxx xxxx caled), a rhaid iddi gynnwys y wybodaeth ganlynol:
• Enw a chyfeiriad/cyfeiriad e-xxxx yr achwynydd
• Manylion yr achwynydd
• Amser a dyddiad y digwyddiad honedig
• Amser a dyddiad y derbyniwyd y xxxx xxx y gweithredwr
• Sut y derbyniwyd y xxxx x.x. ffôn, e-xxxx xx ati.
• Enw'r person a dderbyniodd y xxxx.
• Enw'r cyflawnwr honedig
• Os cafodd y xxxx xx chyfeirio at yr Awdurdod Trwyddedu – yr amser a’r dyddiad y cafodd ei chyfeirio a gan bwy.
• Manylion y camau a gymerwyd i ddatrys y xxxx x xxx bwy
• Dyddiad y cafodd y xxxx xx datrys
2.3 Rhaid i xxxx o'r gofrestr gwynion fod ar gael i'w archwilio ar gais swyddog awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu. Rhaid cadw'r cofnodion am 6 mis.
2.4 Ar ôl derbyn cwyn am yrrwr trwyddedig, rhaid i’r gweithredwr roi gwybod yn xxxx i’r achwynydd am ei hawl i gyfeirio xx xxxx at yr Awdurdod Trwyddedu.
2.5 Rhaid i'r Gweithredwr sicrhau bod manylion am sut y gall cwsmer gysylltu â'r gweithredwr os bydd angen gwneud cwyn ynghylch contract llogi neu gontract honedig i logi sy'n ymwneud â'i fusnes xxx xx'n deillio ohono, yn cael eu harddangos ar wefan y gweithredwr, ar ap trefnu teithiau’r gweithredwr neu os nad oes llwyfan trefnu teithiau ar-lein, yn y swyddfa trefnu teithiau.
2.6 Rhaid i'r Gweithredwr roi gwybod i'r Awdurdod Trwyddedu o fewn 48 awr os yw wedi derbyn cwyn am yrrwr a weithredir ganddo pan nodwyd bod y xxxx yn ymwneud ag unrhyw un o'r canlynol:
• honiadau o gamymddwyn rhywiol (gan gynnwys defnyddio iaith rywiol)
• ymddygiad hiliol
• trais (gan gynnwys ymddygiad ymosodol geiriol)
• anonestrwydd gan gynnwys lladrad
• Torri rheolau cydraddoldeb
• unrhyw gamymddwyn difrifol arall (gan gynnwys, er enghraifft; gyrru'n beryglus neu yfed a gyrru).
3. Cofnodion Gyrwyr a Cherbydau
3.1 Rhaid i'r Gweithredwr gadw a diweddaru'r cofnodion canlynol y mae'n rhaid iddynt fod ar gael ar unwaith i'w harchwilio ar gais unrhyw swyddog awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu neu gwnstabl yr heddlu:
a) enw a chyfeiriad cartref pob gyrrwr cerbyd llogi preifat a weithredir ganddo;
b) manylion gan gynnwys rhif trwydded a dyddiad dod i ben trwydded gyrrwr llogi preifat pob gyrrwr cerbyd llogi preifat a weithredir ganddo;
c) enw a chyfeiriad cartref perchennog pob cerbyd llogi preifat a weithredir ganddo;
d) manylion gan gynnwys rhif plât trwydded llogi breifat a dyddiad dod i ben a rhif cofrestru pob cerbyd llogi preifat a weithredir ganddo;
4. Gwiriad GDG
4.1 Rhaid i xxx unigolyn sy’n gwneud cais am drwydded Gweithredwr Llogir Preifat neu i adnewyddu trwydded Gweithredwr Llogi Preifat gyflwyno datgeliad sylfaenol (dyddiedig o fewn mis i’r cais) gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd er mwyn bodloni’r awdurdod ei fod yn xxxxxx ‘addas a phriodol’. Yn achos ceisiadau gan gwmni neu sefydliad, rhaid i xxxx gyfarwyddwyr y cwmni/sefydliad ddarparu datgeliad sylfaenol. Caiff cost y gwiriadau hyn eu talu gan yr ymgeisydd/deiliad y drwydded.
4.2 Ar ôl rhoi trwydded, rhaid i ddeiliaid trwydded gyflwyno datgeliad sylfaenol newydd i'r Awdurdod Trwyddedu xxx blwyddyn.
4.3 Nid oes angen i ymgeiswyr sydd eisoes â thrwydded gyrrwr cerbyd hacni neu logi preifat gyda'r awdurdod hwn gyflwyno'r datgeliad sylfaenol yn rhan o'u cais am drwydded gweithredwr llogi preifat. Nid oes angen i ddeiliaid trwydded sy’n parhau â thrwydded gyrrwr cerbyd hacni neu logi preifat gyda’r awdurdod hwn gyflwyno datganiad sylfaenol xxx blwyddyn.
4.4 Er mwyn asesu addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded bydd yr awdurdod trwyddedu yn ystyried 'Canllaw ar bennu addasrwydd ymgeiswyr a thrwyddedeion yn y masnachau hacni a llogi preifat' Cyngor Caerdydd.
4.5 Fel arfer ni chaiff troseddau gyrru eu hystyried yn rhan o'r asesiad ar gyfer deiliaid trwydded gweithredwr llogi preifat.
5. Hysbysiad o Euogfarnau
5.1 Rhaid i ddeiliad y drwydded (gan gynnwys cyfarwyddwr y cwmni neu unigolyn a enwyd ar y ffurflen gais) roi gwybod i'r Awdurdod Trwyddedu o fewn 48 awr am unrhyw euogfarn, rhwymo, rhybudd, cerydd neu arestiad am unrhyw fater troseddol neu fodurol (p'un a yw wedi’i gyhuddo neu beidio) yn ystod cyfnod y drwydded ynghyd â manylion llawn y mater(ion).
Yr hyn y mae’n rhaid rhoi gwybod amdano:-
• Unrhyw euogfarn (mater troseddol neu fodurol);
• Unrhyw rybudd (a roddwyd gan yr Heddlu neu unrhyw asiantaeth arall);
• Gwŷs Llys Ynadon sydd wedi’i chyhoeddi yn xxxx erbyn;
• Hysbysiad cosb benodedig sydd wedi’i gyhoeddi i chi am unrhyw fater
• Unrhyw aflonyddu neu fath arall o rybudd neu orchymyn o fewn y gyfraith droseddol gan gynnwys gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol neu debyg;
• Arestiwyd am unrhyw drosedd (p’un a ydych wedi xxxx cyhuddo neu ddim)
• Unrhyw ryddfarn yn dilyn achos troseddol a glywyd gan lys.
• Unrhyw fath o drwydded a wrthodwyd gan unrhyw awdurdod rheoleiddio arall neu unrhyw
drwydded sydd wedi’i gohirio, ei dirymu neu heb ei hadnewyddu.
6. Safleoedd Busnes
6.1 Rhaid i'r Gweithredwr roi i'r Awdurdod Trwyddedu gyfeiriad y safle o fewn ardal yr Awdurdod Trwyddedu y bydd y busnes yn ei weithredu ohono.
6.2 Rhaid cadw safle’r gweithredwr yn lân, yn ddigon twym ac wedi’i awyru a’i oleuo’n ddigonol os bydd y cyhoedd yn ei ddefnyddio.
6.3 Rhaid i’r gweithredwr sicrhau bod digon o seddi mewn unrhyw ardal aros ar gyfer darpar logwyr a bod yr ardal aros honno ar wahân i unrhyw ardal orffwys i yrwyr neu ystafell weithredu.
6.4 Rhaid arddangos trwydded y gweithredwr llogi preifat mewn man amlwg mewn unrhyw safleoedd y mae'r gweithredwr yn gweithredu ohonynt. Dylid cuddio unrhyw fanylion personol fel cyfeiriad cartref deiliad y drwydded cyn arddangos y drwydded.
6.5 Bydd y gweithredwr yn rhoi copi o amodau’r drwydded hon i’r cyhoedd ar gais.
7. Cofnodion Trefnu Teithiau
7.1 Rhaid i’r gweithredwr gadw cofnod o xxx taith logi breifat a drefnir xxxxx xx’n ysgrifenedig mewn llyfr cadarn addas sydd â thudalennau wedi’u rhifo neu ar system trefnu teithiau ar gyfrifiadur. Os defnyddir llyfr, rhaid i xxx cofnod fod yn glir, yn Saesneg ac yn hawdd ei ddarllen, heb unrhyw fylchau rhwng y llinellau na thudalennau gwag. Os defnyddir system trefnu teithiau ar gyfrifiadur, rhaid iddi allu argraffu unrhyw gofnodion y gofynnir amdanynt gan swyddog awdurdodedig neu gwnstabl yr heddlu xxx amser.
7.2 Ar gyfer yr xxxx deithiau a drefnir, rhaid creu cofnod yn y llyfr cofnodion neu ar y system trefnu teithiau ar gyfrifiadur a fydd yn cynnwys:
a) Enw'r person sy'n gwneud y cofnod (os nad yw wedi'i wneud gan system gyfrifiadurol)
b) Yr amser a’r dyddiad y cafodd y daith ei threfnu ac
c) Enw’r unigolyn y cafodd y daith ei threfnu ar ei gyfer
d) Yr amser a’r man casglu y cytunwyd arnynt, neu, os oes mwy nag un, yr amser a’r man y cytunwyd arnynt ar gyfer y casgliad cyntaf
e) Y gyrchfan – dylai hyn gynnwys enw'r stryd a/neu'r adeilad a'r ardal xxxx o leiaf. Lle y bo'n bosibl, dylai gynnwys cod post llawn.
f) Yr amser y cwblhawyd y daith
g) Cyfanswm cost y daith wedi'i chwblhau
h) Rhif trwydded y gyrrwr cerbyd hacni/llogi preifat
i) Rhif cofrestru’r cerbyd a ddefnyddiwyd ar gyfer y daith
j) Enw'r person a anfonodd y cerbyd (os na chafodd ei anfon gan system gyfrifiadurol)
k) Os yw’n berthnasol, enw’r gweithredwr arall y derbyniwyd y daith a drefnwyd ganddo a / neu y cafodd y daith a drefnwyd ei his-gontractio iddo.
7.3 Rhaid gwneud unrhyw ddiwygiad i'r cofnod gwreiddiol drwy ychwanegiad.
7.4 Rhaid cadw xxxx gofnodion teithiau llogi preifat a drefnwyd, p'un a ydynt yn cael eu cadw mewn llyfr neu ar fformat digidol, am o leiaf 6 mis o ddyddiad y cofnod diwethaf a bod ar gael yn hawdd er mwyn eu rhoi i swyddog awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu neu gwnstabl yr heddlu i'w harchwilio ar unrhyw adeg yn ystod yr oriau gweithredu.
8. Data Personol
8.1 Rhaid i'r gweithredwr gymryd camau i sicrhau bod yr xxxx staff sy'n ymwneud â thrin data personol, fel staff trefnu teithiau, rheolwyr ac ati, o gymeriad da a sicrhau ei fod wedi ystyried unrhyw euogfarnau a fyddai'n dangos ar dystysgrif GDG Sylfaenol yn unol â'i bolisi ar gyflogi cyn-droseddwyr. Dylai'r gweithredwr hefyd sicrhau bod xx xxxxxx ar gyflogi cyn-droseddwyr ar gael i'r Awdurdod Trwyddedu ar gais.
8.2 Rhaid i'r Gweithredwr sicrhau bod unrhyw wybodaeth bersonol a geir wrth gyflawni ei fusnes yn cael ei storio'n ddiogel, a'i chadw dim ond am y cyfnod y mae xx xxxxxx. Dim ond pobl a fydd yn defnyddio’r wybodaeth hon at y diben y’i casglwyd a fydd yn cael ei gweld.
8.3 Ni ddylid defnyddio gwybodaeth bersonol at unrhyw ddiben arall heblaw am at y diben y'i casglwyd, heb ganiatâd penodol yr unigolyn y mae'r wybodaeth yn berthnasol iddo.
8.4 Rhaid rhoi gwybod i’r Awdurdod Trwyddedu am unrhyw gofnodion a ddygwyd neu a gollwyd mewn ffordd arall yn ysgrifenedig o fewn 24 awr gan roi gwybod yn xxxx i’r heddlu os amheuir eu bod wedi’u dwyn. Efallai y bydd angen i chi hefyd roi gwybod i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am y data a gollwyd, i gael mwy o wybodaeth ewch i: xxxxx://xxx.xxx.xx/xxx- organisations/report-a-breach/
9. Oriau Gwaith
9.1 Rhaid i'r gweithredwr gymryd camau i sicrhau nad yw gyrwyr yn gweithio oriau rhy hir. Ni ddylid caniatáu i yrwyr yrru am fwy na 10 awr y dydd a rhaid iddynt gael egwyl sy'n para o leiaf 30 munud ar ôl gyrru am 5.5 awr. Rhaid i'r gyrrwr hefyd gael egwyl ar ddiwedd y cyfnod hwn, oni bai bod ei ddiwrnod gwaith wedi dod i ben.
10. Yswiriant
10.1 Rhaid i weithredwyr sicrhau bod y canlynol ar waith trwy’r amser ar gyfer yr xxxx gerbydau llogi preifat a weithredir: polisi yswiriant ar gyfer cludo teithwyr sydd wedi llogi cerbyd neu archebu cerbyd ymlaen llaw’n unig neu ar gyfer unrhyw ddiogelwch yn unol â gofynion Rhan VI o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988.
10.2 Rhaid bod Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus gan unrhyw safle y gall aelodau o’r cyhoedd ei ddefnyddio.
10.3 Pan fo cerbyd wedi’i yswirio gan bolisi yswiriant fflyd, rhaid i weithredwyr sicrhau bod gyrwyr yn ymwybodol o gynnwys y polisi, gan gynnwys ei gyfyngiadau a’i eithriadau. Rhaid i'r gweithredwr gadw cofnod, wedi'i lofnodi gan y gyrrwr, yn ffeil gofnodion pob unigolyn pan fydd hyn wedi'i gwblhau. Rhaid rhoi copi o gofnodion unigolyn i unrhyw swyddog awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu pan fydd yn gofyn am hynny.
11. Xxxxxx xxxxxxxx/Xxxxxx xxxxxxxx
11.1 Ni chaniateir Xxxxxx Xxxxxxxx/Xxxxxx Xxxxxxxx.
12. Safonau Gwasanaeth
12.1 Rhaid i'r gweithredwr ddarparu gwasanaeth prydlon, effeithlon a dibynadwy i aelodau'r cyhoedd ar xxx xxxx resymol ac at y diben hwn rhaid iddo’n benodol:
a) Ddarparu technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, cyfleusterau a staff digonol, fel y bo'n briodol.
b) Sicrhau'r lefel uchaf o wasanaeth a gofal i gwsmeriaid.
c) Pan fydd cerbyd llogi preifat wedi'i logi i fod mewn lleoliad penodol ar amser penodol, sicrhau y bydd y cerbyd, oni bai ei fod yn cael ei oedi neu ei xxxx am reswm digonol, yn cyrraedd y lleoliad hwnnw ar yr amser penodol yn brydlon.
d) Sicrhau bod unrhyw gyfleusterau ffôn ac offer radio (y gallai fod angen Trwydded Radio OFCOM ar eu cyfer) yn cael eu cadw mewn cyflwr da a bod unrhyw ddiffygion yn cael eu hatgyweirio'n brydlon.
13. Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus
13.1 Ni cheir defnyddio Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus i gyflawni taith logi breifat a drefnwyd, oni bai y ceir cydsyniad ar sail gwybodaeth y llogwr.
Nodiadau
I. Dylid darllen yr amodau hyn ar y cyd â darpariaethau Xxxx XX o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
II. Rhaid i weithredwyr gynnal eu busnes yn unol â'r xxxx ddarpariaethau statudol perthnasol. Mae hyn yn cynnwys deddfwriaeth iechyd, diogelwch a lles, deddfwriaeth amgylcheddol a deddfwriaeth cydraddoldeb.
III. Atgoffir gweithredwyr na ddylent fethu neu wrthod derbyn taith gan xxxxxx anabl sydd yng nghwmni ‘ci cymorth’, neu gan rywun ar ei ran, pan mai’r rheswm dros fethu neu wrthod ei dderbyn yw bod y person anabl yng nghwmni ‘ci cymorth’.
IV. Bydd methu â datgan unrhyw euogfarn o fewn yr amserlen ofynnol ynghyd â natur yr euogfarn yn cael ei ystyried wrth benderfynu a yw deiliad trwydded yn xxxxxx addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni/llogi preifat. Gallai hyn arwain at
xxxx xxx ddirymu trwydded gyrrwr llogi preifat neu wrthod adnewyddu trwydded gyrrwr llogi preifat.
V. Xxxxxx xxxxx'r amodau trwyddedu arwain at xxxx xxx ddirymu'r drwydded.
VI. Caiff unrhyw unigolyn a dramgwyddir gan unrhyw amodau a nodir yn y drwydded apelio i lys ynadon o fewn 21 diwrnod i gyhoeddi’r drwydded.
VII. Dylai’r drwydded gael ei hadnewyddu ymlaen llaw i sicrhau dilyniant. Nid oes cyfnod gras awtomatig. Mae defnyddio cerbydau llogi preifat heb eu trwyddedu yn drosedd.