Gweithdrefn Galluogrwydd ar gyfer Staff Cymorth Ysgolion Consortiwm Canolbarth y De
Fersiwn | 8 |
Dyddiad Adolygu | 26 Ionawr 2017 |
Gweithdrefn Galluogrwydd ar gyfer Staff Cymorth Ysgolion Consortiwm Canolbarth y De
1
RHEOLI'R DDOGFEN | ||
ENW'R POLISI | Model o'r Polisi Galluogrwydd ar gyfer Staff Cymorth Ysgolion | |
Adran | Adnoddau Dynol | |
Swyddogion Adolygu | Grŵp AD ar ran y pum Awdurdod Lleol, sef Cynghorau Bro Morgannwg, Caerdydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf | |
XXXXX DIWYGIO | ||
Dyddiad | Diwygiwyd gan | |
CYMERADWYO'R DDOGFEN | ||
Mae'r ddogfen yma wedi cael ei chymeradwyo gan: | Dyddiad Cymeradwyo | |
Cyfarwyddwyr Addysg pum Awdurdod Lleol Consortiwm Canolbarth y De | ||
Xxxxx y polisi ei adolygu ymhen blwyddyn yn unol â'n profiad yn y xxxx.
Argymhellir y Polisi Galluogrwydd yma xxx xxx un o'r pum Awdurdod Lleol sy'n rhan o Gonsortiwm Canolbarth y De.
Wedi'i fabwysiadu'n ffurfiol gan Xxxxx Llywodraethu:
Ysgol ar
CYNNWYS
Paragraff | Tudalen | |
1. | Cyflwyniad | 3 |
Adran Un - Egwyddorion Cyffredinol | ||
2. | Diben y Polisi | 4 |
3. | Cwmpas a Gwerthoedd | 4 |
4. | Y Diffiniad o Alluogrwydd | 5 |
5. | Gwaharddiadau | 5 |
6. | Egwyddorion | 6 |
7. | Cynrychiolaeth | 7 |
8. | Amserlenni | 7 |
9. | Yr hawl i ailystyried y weithdrefn | 8 |
10. | Methu/gwrthod derbyn bod mater galluogrwydd yn bodoli | 8 |
11. | Darparu geirda | 9 |
12. | Cyngor y Gweithlu Addysg | 9 |
Xxxxx Xxx - Y broses ar gyfer staff cymorth | ||
13. | Rheoli tangyflawniad | 10 |
14. | Cynllun Cymorth - Cam Anffurfiol | 10 |
15. | Cam Un - Gallu Ffurfiol (Cynllun Gweithredu) | 11 |
16. | Cam Dau - Gallu Ffurfiol | 14 |
17. | Cyflwyno xxxx yn erbyn symud y broses galluogrwydd yn ei blaen | 15 |
18. | Cam Tri - Cyfeirio at Bwyllgor Diswyddo/Disgyblu Staff y Xxxxx Llywodraethu | 16 |
19. | Gwrandawiad Pwyllgor Apeliadau - Diswyddo/Disgyblu Staff | 17 |
1. | ATODIADAU Swyddogaethau a chyfrifoldebau | 19 |
2. | Cynllun Gweithredu | 22 |
Dogfennau ychwanegol
Siart o'r broses ar gyfer staff cymorth
1. Cyflwyniad
1.1 Xxx Xxxxx Llywodraethu Ysgol wedi
ymrwymo i ddarparu addysg o safon uchel i ddisgyblion. Cydnabyddir bod gallu/galluogrwydd ac ymrwymiad ei staff yn allweddol i wireddu’r nod yma. Xxxxx, xxx’r Xxxxx Llywodraethu wedi ymrwymo i sicrhau bod xxx xxx aelod o staff y sgiliau, yr wybodaeth, y cymhwysedd a’r ddawn briodol i gyflawni ei swyddogaethau yn effeithiol.
1.2 Yn y mwyafrif llethol o achosion, mae staff yn bodloni ac yn rhagori ar ofynion eu rôl o ran cyflawniad. Serch hynny, o xxx xxx amgylchiadau, gall unigolion ei chael hi’n anodd dangos y lefelau o gymhwysedd sydd eu xxxxxx i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol.
1.3 ‘Xxx xxx unigolion gyfrifoldeb, xxx gontract, i gyflawni yn xx xxxxx foddhaol, a dylen nhw gael pob math o gymorth ac anogaeth i wneud hynny. Mae cyflogwyr yn gyfrifol am bennu safonau cyflawniad realistig y xxx xxxx eu cyflawni. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am egluro'r safonau yma i'w gweithwyr yn ofalus.'
Gweithdrefnau Disgyblu a Chwyno ACAS
1.4 Os bydd staff yn cyflawni'n waeth na’r disgwyl, cyfrifoldeb y rheolwr a enwebir/pennaeth fydd dwyn hyn i sylw’r unigolyn a chydweithio’n agos ag ef i wella ei gyflawniad i lefel dderbyniol. Nod y xxxxxx xxx fydd amlinellu dull adeiladol o wella cyflawniad gwaith trwy oruchwylio, penodi mentor, hyfforddi ac adolygu a datblygu cyflawniad yn effeithiol.
1.5 Os methir â sicrhau'r cynnydd disgwyliedig, caiff camau amrywiol o'r weithdrefn eu cymryd yn erbyn yr aelod o staff. Bydd yr aelod o staff yn cael gwybod am ei gynnydd drwy gydol y broses. Bydd yn cael gwybod yn glir y bydd methu â sicrhau'r gwelliant angenrheidiol yn rhoi'i swydd yn y fantol.
ADRAN UN - EGWYDDORION CYFFREDINOL
2. Diben y Polisi
2.1 Diben y xxxxxx xxx yw darparu’r wybodaeth sydd xx xxxxxx ar y rheolwr a enwebir/pennaeth fel bod modd:
2.1.1 helpu a chefnogi unigolyn ag unrhyw faterion cymhwysedd;
2.1.2 sicrhau bod pob aelod o staff yn ymgymryd â'i ddyletswyddau yn effeithiol ac yn fedrus;
2.1.3 trin staff sy'n tangyflawni mewn ffordd deg a chyson;
2.1.4 mynd i'r afael ag achosion mewn ffordd gefnogol, sensitif, realistig ac adeiladol;
2.1.5 sicrhau bod materion cymhwysedd yn cael eu trafod yn effeithiol o fewn amserlenni y cytunwyd arnyn nhw (yn ôl yr amgylchiadau), gyda deilliannau clir ym mhob cyfnod.
3. Cwmpas a Gwerthoedd
3.1 Mae'r Weithdrefn yn berthnasol ar gyfer pob aelod o staff cymorth a gaiff ei benodi gan y xxxxx llywodraethu o xxx bwerau dirprwyedig y llywodraethwyr. Serch hynny, mae'n eithrio: -
3.1.1 Staff sy'n gweithio mewn ysgolion drwy'r amser neu'r rhan fwyaf o'r amser, ond sydd wedi'u penodi i swyddi canolog
3.2 Mae'r weithdrefn yn amlinellu'r broses i'w mabwysiadu a'i dilyn cyn mynd i'r afael â chyflawniad anfoddhaol ymhlith staff cymorth.
3.3 Caiff yr xxxx aelodau o staff eu trin â pharch, cysondeb a thegwch.
3.4 Caiff pob mater sy'n ymwneud â rheoli cyflawniad anfoddhaol ac ymchwiliadau cysylltiedig eu trin yn gyfrinachol gan bawb sy'n rhan o'r broses galluogrwydd ac ar xxx cam. Dim ond y staff hynny sydd â rolau a chyfrifoldebau sydd wedi'u cytuno ac sy'n gysylltiedig â'r weithdrefn sydd â'r hawl i gael gafael ar yr wybodaeth.
4. Y Diffiniad o Alluogrwydd
4.1 Os bydd pryderon yn codi ynglŷn â chyflawniad anfoddhaol aelod o staff, mae'n bwysig sicrhau bod y ffeithiau'n gywir a rhoi'r weithdrefn briodol ar waith. Rhaid sicrhau dealltwriaeth glir o'r hyn a gaiff ei ystyried yn gyflawniad anfoddhaol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau a yw'r broblem yn codi o ganlyniad i afiechyd, diffyg cymhwysedd neu achos o gam-drin proffesiynol. Caiff y diffiniadau canlynol eu darparu fel arweiniad yn unig. Mae'n bwysig fod y pennaeth/rheolwr a enwebir yn cael cymorth priodol gan yr uned Adnoddau Dynol er mwyn sicrhau ei fod yn rhoi'r weithdrefn gywir ar waith.
4.2 Camymddwyn: camau gweithredu neu ddiffyg camau gweithredu sy'n mynd yn erbyn dyletswyddau contract yr aelod o staff, y rheolau a gafodd eu gosod gan y xxxxx llywodraethu a/neu'r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol sydd wedi'i nodi gan Gyngor y Gweithlu Addysg (lle y bo'n berthnasol). Mewn achosion o'r fath, bydd y weithdrefn ddisgyblu gytûn yn berthnasol.
4.3 Galluogrwydd o ganlyniad i afiechyd: mae hyn yn ymwneud a diffyg iechyd neu ddiffyg unrhyw nodweddion corfforol neu feddyliol eraill sy'n arwain at gyflawniad anfoddhaol. O xxx amgylchiadau o'r fath, bydd y gweithdrefnau salwch cytûn yn berthnasol.
4.4 Galluogrwydd yn sgil diffyg cymhwysedd: diffyg sgil neu ddawn sy'n arwain at gyflawniad anfoddhaol. O xxx amgylchiadau o'r fath, bydd y weithdrefn galluogrwydd yn gymwys.
5. Gwaharddiadau
5.1 Does dim modd ystyried y materion canlynol o xxx y weithdrefn yma:
5.1.1 Materion o gamymddwyn, y dylid mynd i’r afael â nhw o xxx y weithdrefn ddisgyblu.
5.1.2 Materion galluogrwydd o ganlyniad i afiechyd, y dylid defnyddio Polisi Absenoldeb Salwch yr Ysgol ar eu cyfer.
5.1.3 Byddwn ni'n ymdrin â phroblemau sy'n codi yn ystod cyfnod prawf drwy bolisi prawf yr ysgol.
6. Egwyddorion
6.1 Mae'n bwysig sicrhau bod sylw digonol yn cael ei roi i'r pwyntiau canlynol drwy gydol y broses galluogrwydd:-
6.1.1 Cyfathrebu – Dylai'r rheolwr a enwebir sicrhau bod yr aelod o staff yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy gydol pob cam o'r broses. Dylid trefnu cyfarfodydd rheolaidd, a chadarnhau gwybodaeth berthnasol yn ysgrifenedig.
6.1.2 Cadw cofnodion - Mae'r broses yn seiliedig ar dystiolaeth xxxxx xxx'n bwysig y caiff cofnodion cywir eu cadw a'u rhannu â'r aelod o staff. O fewn 7 diwrnod gwaith i'r cyfarfod, dylid dosbarthu copïau o'r cofnodion a'r cynllun cymorth/gweithredu. Dylid cytuno ar gywirdeb y dogfennau yma. Yn dilyn hyn, dylid anfon llythyr at yr aelod o staff, gan gadarnhau dyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod nesaf, ac amlinellu'r canlyniad o fethu â chyflawni'r gwelliant gofynnol.
6.1.3 Cyfrinachedd - Dylid ymdrin â materion yn ymwneud â chyflawniad mewn modd sensitif ac wrth ystyried preifatrwydd yr unigolion xxx sylw. Ym mhob cam, dylai'r pennaeth neu'r rheolwr sy'n gyfrifol am reoli proses galluogrwydd:-
6.1.3.1 roi diffiniad clir o'r rheiny a fydd yn rhan o'r broses sy'n mynd rhagddi, neu'n ymwybodol ohoni;
6.1.3.2 atgoffa'r partïon hynny o'u cyfrifoldeb i drin gwybodaeth yn gyfrinachol.
.
Cynghorir llywodraethwyr o bwysigrwydd cadw cyfrinachedd a chanlyniadau torri cyfrinachedd.
6.1.4 Egluro Swyddogaethau – mae'n bwysig sicrhau bod xxxx bartïon sy'n rhan o'r broses yn deall eu rhan yn y broses yn glir. Mae diffiniad swyddogaethau a chyfrifoldebau i'w cael yn Atodiad Un.
6.1.5 Lles - Ym mhob cam o'r weithdrefn, dylai'r aelod o staff fod yn ymwybodol bod modd iddo fanteisio ar wasanaethau cymorth drwy Wasanaeth Iechyd Galwedigaethol neu unrhyw gymorth arall sydd ar gael.
7. Cynrychiolaeth
7.1 Os gwahoddir aelod o staff i gyfarfod ffurfiol mewn perthynas â’r weithdrefn yma, boed hynny i gytuno ar gynllun cymorth neu fel rhan o gam un, cam dau, neu atgyfeiriad i’r pwyllgor diswyddo staff, gall ddewis cynrychioli ei hun neu ofyn am gael cwmni xxx xxxx ei gynrychioli gan gydweithiwr, neu gynrychiolydd undeb llafur. Rhoddir gwybod i aelodau o staff o'u hawl i gael cynrychiolaeth.
7.2 Os caiff y weithdrefn yma'i defnyddio mewn perthynas ag aelod o staff sy'n gynrychiolydd undeb llafur, rhaid rhoi gwybod i'r swyddfa/swyddog undeb llafur llawn amser cyn cychwyn y cam ffurfiol.
8. Amserlenni
8.1 Rhaid i gyfnodau adolygu fod yn rhesymol o ran hyd, gan ddibynnu ar natur y targedau a’r cam yn y broses. Mewn swydd lle nad oes llawer o dasgau a thasgau syml yw'r rhain, gall cyfnod o ychydig o ddyddiau fod yn rhesymol, yn enwedig lle bo'r mater galluogrwydd yn ymwneud â thasg sy'n sylfaenol i'r swydd ac yn dod i'r fei yn ystod camau cynnar y penodiad. Lle bo'r swydd yn un gymhleth, a dydy hi ddim yn bosibl asesu gwelliant dros gyfnod byr, gall cyfnod adolygu o nifer o wythnosau, neu'n hwy na hynny, fod yn angenrheidiol.
8.2 Bydd yr amserlen ar gyfer pob cam yn dibynnu ar natur y broblem o ran cyflawniad anfoddhaol, yn ogystal â'r gwelliannau angenrheidiol a gafodd eu nodi a'r cymorth a'r gwaith datblygu a gaiff ei ddarparu. Dylai'r amserlen fod yn ddigon rhesymol fel bod modd i'r aelod o staff ddangos ei fod yn gallu cyflawni lefelau cyflawniad derbyniol a gwell yn y gwaith.
8.3 Efallai y bydd hyd y cyfnod adolygu ar gyfer pob cam yn amrywio, gan ystyried amgylchiadau a chymhlethdod pob achos. Efallai y caiff y cyfnod ei ymestyn yn unol â'r weithdrefn yma. Gan ddefnyddio 8.1 fel rheol gyffredinol, bydd cyfnodau adolygu yn para rhwng 6 ac 8 wythnos. Xxx xxxx ystyried cyfnod adolygu hwy ond dylid osgoi unrhyw oedi diangen.
8.4 Os bydd yr aelod o staff yn gweithio rhan amser, dylai'r amserlen gael ei hystyried a'i haddasu'n briodol.
8.5 Yn achos tangyflawniad aelod o staff
a) Os bydd yn rhoi addysg disgybl yn y fantol, e.e. tystiolaeth ar gael sy'n dangos nad yw cynnydd disgybl wedi gwella/bod cyflawniad y disgybl wedi gwaethygu; neu
b) Os yw cyflawniad wedi gwaethygu'n ddifrifol ac yn peryglu staff/disgyblion, e.e. dydy trefnau rheoli'r dosbarth ddim wedi
gwella/maen nhw wedi gwaethygu, problemau iechyd a diogelwch
Mae'n bosibl yr ystyrir mynd â'r weithdrefn yn xxxx i Gam Dau yn dilyn cwblhau cynllun cymorth.
9. Yr hawl i ailystyried y weithdrefn
9.1 Os yw’r aelod o staff yn llwyddo i gyrraedd y safonau gofynnol yn gyson yn ystod unrhyw gam o’r gweithdrefnau hyn, a bod tystiolaeth i awgrymu y bydd y gwelliannau hyn yn parhau, yna bydd y gweithdrefnau hyn yn dod i ben. Bydd yr aelod o staff yn cael gwybod am hyn ar xxxxx xx yn ysgrifenedig.
9.2 Ar y llaw arall, os yw’r aelod o staff yn methu â chynnal y safon ofynnol o ran cyflawniad ar ôl cwblhau’r gweithdrefnau, bydd y weithdrefn yn ailgychwyn fel a ganlyn:-
Y cam pan ddaeth y broses flaenorol i ben | Amserlen (dim mwy na) | Cam lle bydd y broses yn ailgychwyn |
Anffurfiol | 60 diwrnod gwaith | Anffurfiol |
Cam Un | 130 diwrnod gwaith | Cam Un |
Cam Dau | 195 diwrnod gwaith | Cam Dau |
9.3 Caiff y broses ei dilyn yn unol â'r cam penodol.
9.4 Os bydd y cyflawniad wedi gwella, dylech chi gyfeirio at y dyddiadau uchod wrth gyfathrebu â'r aelod o staff. Caiff unrhyw gyfnodau o absenoldeb salwch eu diystyru wrth bennu dyddiad ailgychwyn. E.e. os bydd gweithiwr yn absennol o ganlyniad i afiechyd am gyfnod o 30 diwrnod, caiff y cyfnod ailgychwyn ei ymestyn ar gyfer y cyfnod hwnnw o amser.
9.5 Pan fydd angen ailgychwyn ar y camau ffurfiol o'r weithdrefn galluogrwydd yma fwy na dwywaith, efallai y bydd y rheolwr a enwebir/pennaeth o'r farn fod digon o dystiolaeth wedi'i chasglu i nodi problemau difrifol o ran cyflawniad sy'n golygu bod angen symud y weithdrefn ymlaen i Gam Tri (Y Weithdrefn Ddiswyddo a Disgyblu).
10. Methu/gwrthod derbyn bod mater galluogrwydd yn bodoli
11.1 Mewn rhai achosion, efallai na fydd yr aelod o staff yn derbyn bod yna broblem o ran ei gyflawniad. Os felly, dylai’r pennaeth/rheolwr a enwebir:
10.1.1 Rhybuddio’r aelod o staff ynglŷn â chanlyniadau methu â bodloni’r safonau gofynnol o ran cyflawniad;
10.1.2 Nodi erbyn pryd y disgwylir iddo wella ei gyflawniad;
10.1.3 Amlinellu’r cymorth y bydd yr aelod o staff yn ei gael i’w helpu i wella ei gyflawniad.
10.2 Os bydd yr aelod o staff yn gwrthod derbyn ac ymateb i gynigion o gymorth, ac os na fydd ei gyflawniad yn gwella i’r lefel ofynnol, efallai y bydd angen ystyried atgyfeirio’r achos i'r Polisi Disgyblu Staff cyn diwedd y cyfnod adolygu.
11. Darparu geirda
11.1 Cyfrifoldeb proffesiynol y rheolwr a enwebir/pennaeth yw ymateb mewn unrhyw eirda proffesiynol a ddarperir i sefydliad addysgol arall os yw’r weithdrefn galluogrwydd wedi’i defnyddio mewn perthynas ag aelod o staff.
12. Cyngor y Gweithlu Addysg
12.1 Mewn achosion lle bo’r cyflogwr wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio gwasanaethau staff sydd wedi'u cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar sail galluogrwydd, neu le gallai fod wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio’r gwasanaethau hynny pe na bai’r Cynorthwy-ydd Addysgu wedi rhoi’r gorau i’w darparu, dylai’r Awdurdod eu cyfeirio’n uniongyrchol at Gyngor y Gweithlu Addysg. Mae rhwymedigaeth statudol i atgyfeirio yn yr achosion yma.
12.2 Os bydd xxxxx llywodraethu yn terfynu cyflogaeth aelod o staff yn ystod Cam Dau y weithdrefn galluogrwydd, yna caiff yr achos ei atgyfeirio at Gyngor y Gweithlu Addysg.
XXXXX XXX - Y BROSES AR GYFER STAFF
CYMORTH
13. Rheoli tangyflawniad
13.1 Bydd rheoli llinell staff cymorth effeithiol yn helpu i xxxx tangyflawniad drwy'i adnabod yn gynnar a chynnig cymorth ac ymyrraeth.
13.2 Os yw cyflawniad aelod o staff yn peri pryder difrifol, disgwylir i'r rheolwr a enwebir/pennaeth ddangos bod yr egwyddorion canlynol wedi'u dilyn:-
• mae agweddau o dangyflawni wedi'u trafod â'r aelod o staff;
• mae disgwyliadau wedi'u pennu;
• mae amserlen resymol ar gyfer gwella wedi'i chytuno;
• mae cymorth priodol wedi'i gytuno a'i ddarparu;
• mae'r aelod o staff yn deall sut caiff cynnydd ei werthuso.
13.3 Os dydy'r cyflawniad gofynnol ddim yn cael ei wireddu ar ôl rhoi'r egwyddorion sydd wedi'u nodi yn 13.2 ar waith, dylai'r rheolwr a enwebir/pennaeth drefnu i gyfarfod â'r aelod o staff er mwyn adolygu ei gynnydd. Yn y cyfarfod yma, bydd cyfle i'r aelod o staff gael ei gynrychioli gan gynrychiolwr o'r undeb llafur neu gydweithiwr.
13.4 Nod y cyfarfod fydd ystyried a ddylid cyflwyno cynllun cymorth. Dylai'r rheolwr a enwebir/pennaeth ofyn i ymgynghorydd Adnoddau Dynol ddod i'r cyfarfod yma.
13.5 Yn ystod y cyfarfod yma, bydd y rheolwr a enwebir/pennaeth yn siarad â'r aelod o staff ac yn rhoi tystiolaeth o'i gyflawniad anfoddhaol, gan gyfeirio at y cymorth a gafodd ei ddarparu. Bydd cyfle i'r aelod o staff a'i gynrychiolwr ymateb i hyn. Unwaith i'r xxxx wybodaeth gael ei drafod, bydd y rheolwr a enwebir/pennaeth yn penderfynu a oes angen cyflwyno cynllun cymorth.
14. Cynllun Cymorth – Cam Anffurfiol
14.1 Dylai'r cynllun cymorth fod yn ysgrifenedig a dylai:
• esbonio'r problemau yn ymwneud â chyflawni;
• pennu'r disgwyliadau;
• nodi amserlen resymol ar gyfer gwella;
• cadarnhau'r cymorth i'w ddarparu;
• nodi sut caiff cynnydd ei werthuso.
14.2 Rhagwelir y bydd y rhan fwyaf o faterion galluogrwydd yn cael eu datrys yn brydlon ac yn anffurfiol ar y xxxxx xxx. Serch hynny, dylid
cynghori’r aelod o staff y bydd methu â bodloni’r targedau gofynnol o ran gwella yn arwain at gychwyn gweithdrefn galluogrwydd ffurfiol.
14.3 Caiff rheolwr priodol ei enwebu i reoli a goruchwylio'r rhaglen gymorth a'r broses fonitro. Lle bo'n bosibl, bydd yr aelod o staff a'i gynrychiolydd undeb llafur yn cytuno ar yr unigolyn yma. Bydd gofyn i'r aelod o'r Garfan Rheoli roi xxxxxxx i'r rheolwr a enwebir/pennaeth ar gynnydd yr aelod o staff yn ystod y cyfarfod canol tymor a'r cyfarfod diwedd cam. Caiff unrhyw wybodaeth ei rhannu â'r aelod o staff cyn y cyfarfod.
14.4 Ar ddiwedd yr amserlen y cytunwyd arni, cynhelir cyfarfod i adolygu cyflawniad. Rydyn ni'n awgrymu bod y rheolwr a enwebir yn mynd i'r cyfarfod yma, ynghŷd â'r aelod o staff, ei gynrychiolydd undeb llafur, y swyddog adnoddau dynol a rhywun i gymryd nodiadau. Bydd disgwyl i'r rheolwr a enwebir/pennaeth wneud y penderfyniadau canlynol yn seiliedig ar y dystiolaeth: -
14.4.1 mae cyflawniad wedi gwella ac mae'r disgwyliadau wedi’u bodloni, sy'n golygu na fydd angen cymryd unrhyw gamau pellach. Xxxxx hyn ei gadarnhau’n ysgrifenedig.
14.4.2 xxx xxxx gwelliannau wedi'u gwneud ond efallai y caiff y cyfnod o gymorth ei ymestyn i roi amser ychwanegol i'r aelod o staff ddatrys unrhyw bryderon.
14.4.3 mae'r aelod o staff wedi methu â sicrhau'r gwelliant disgwyliedig, sy'n golygu y bydd Xxx Un y weithdrefn galluogrwydd yn cael ei roi ar waith.
14.4.4 mae addysgu a dysgu yn y fantol xxx xxx cyflawniad wedi gwaethygu'n ddifrifol, xxxxx, xxx staff/disgyblion neu'r dull o gyflawni'r gwasanaeth mewn perygl o gael niwed neu fethu. O ganlyniad i hyn, bydd y broses yn mynd yn xxxx i Gam Dau.
14.5 Os nad yw gwelliant gofynnol wedi'i gyflawni a'i gynnal ac os bydd y rheolwr a enwebir/pennaeth yn penderfynu dilyn yr opsiynau sydd wedi'u nodi yn 14.4.3 neu 14.4.4 uchod, dylen nhw drefnu cyfarfod pellach a chytuno ar gynllun gweithredu. Xxxxx'r aelod o staff gael gwybod am ei hawl i apelio yn erbyn penderfyniad yma - gweler adran 17.
15 Cam Un – Gallu Ffurfiol (Cynllun Gweithredu)
15.1 Bydd Cam Un y weithdrefn galluogrwydd yn cychwyn:-
15.1.1 Pan fydd y rheolwr a enwebir/pennaeth wedi cychwyn cynllun cymorth ond nad yw’r targedau wedi’u bodloni a bod y cyflawniad yn anfoddhaol o hyd;
1.15.2 Os yw Cam Un y weithdrefn galluogrwydd wedi’i ddefnyddio mewn perthynas â'r aelod o staff o fewn y 130 diwrnod gwaith diwethaf, a arweiniodd at welliant. Serch hynny, mae cyflawniad wedi hynny wedi gwaethygu i safon anfoddhaol.
15.2 Yn dilyn penderfyniad i roi Xxx Xx y weithdrefn ffurfiol ar waith, caiff cyfarfod ei drefnu er mwyn trafod a chytuno ar gynllun gweithredu os yw hynny'n bosibl. Bydd hyn yn helpu i wella cyflawniad a sicrhau ei fod yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig. Bydd hyn yn cynnwys:-
15.2.1 egluro i’r unigolyn ble a sut mae'n cyflawni'n waeth na'r disgwyl;
15.2.2 rhoi cyfle i’r aelod o staff esbonio ac archwilio materion yn ymwneud â’i dangyflawniad;
15.2.3 pennu disgwyliadau'n glir;
15.2.4 cytuno ar strategaethau cymorth i'w cyflwyno. Gallan nhw gynnwys hyfforddiant ychwanegol, penodi mentor, ymweld ag ysgolion eraill i arsylwi arfer da, arsylwi ar gyfoedion;
15.2.5 cytuno ar ddulliau gwerthuso, e.e. adolygu dogfennau, arsylwadau dosbarth, cyfrannu at y broses o ddatblygu gwaith disgyblion, adroddiadau archwilio, cadw cofnodion ac ati, neu dasgau sy'n briodol o ran disgrifiad y rôl.
15.2.6 nodi amserlen ar gyfer gwella.
15.3 Bydd y cyfarfod yn cynnwys:-
15.3.1 y pennaeth;
15.3.2 y rheolwr a enwebir, os yw'n berthnasol;
15.3.3 yr aelod o staff gyda'i gynrychiolydd;
15.3.4 ymgynghorydd adnoddau dynol;
15.3.5 unrhyw un arall sy wedi bod yn rhan o'r broses, fel y cytunir â'r aelod o staff a'i gynrychiolydd, e.e. mentor;
15.3.6 y xxxx xx'n cymryd cofnodion.
15.4 O fewn 7 diwrnod gwaith i'r cyfarfod, dylid dosbarthu copïau o'r cofnodion a'r cynllun gweithredu. Dylid cytuno ar gywirdeb y dogfennau yma. Yn dilyn hyn, dylid anfon llythyr at yr aelod o staff, gan gadarnhau dyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod ar gyfer yr adolygiad canol tymor a diwedd cam, ac amlinellu'r canlyniad o fethu â chyflawni'r gwelliant gofynnol.
Monitro ac adolygu
15.5 Dylid cynnal cyfarfodydd rheolaidd yn ystod y cam yma er mwyn sicrhau bod yr aelod o staff yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ei gynnydd.
15.6 Argymhellir fod y rheolwr a enwebir/pennaeth yn cymryd rhan mewn cyfarfod adolygu canol tymor fel bod modd rhoi'r newyddion diweddaraf i'r aelod o staff o ran ei gynnydd. Hefyd, bydd y cyfarfod adolygu canol tymor yn gyfle i'r aelod o staff a/neu ei gynrychiolydd/gydweithiwr i nodi unrhyw bryderon er mwyn sicrhau bod modd mynd i'r afael â nhw.
15.7 Ar ddiwedd yr amserlen y cytunwyd arni, cynhelir cyfarfod ffurfiol. Cyn y cyfarfod, rhoddir copïau o'r dogfennau i bawb, a chyfeirir atyn nhw. Bydd y cyfarfod yn cynnwys y bobl hynny sy wedi'u hamlinellu ym mharagraff 15.3.
15.8 Diben y cyfarfod yma fydd adolygu'r cynllun gweithredu ac asesu p'un a yw'r disgwyliadau o ran gwella wedi'u cyflawni. Bydd modd i bawb sy'n rhan o'r cyfarfod gael cyfle i wneud sylw ar y cynnydd hyd yma er mwyn galluogi'r rheolwr a enwebir i wneud penderfyniad ar sut i barhau.
15.9 Yn ystod y cyfarfod yma:
15.9.1 Bydd y rheolwr a enwebir/pennaeth yn atgoffa pawb o’r safon o ran cyflawniad a ddisgwylir gan yr aelod o staff a’r xxxx/meysydd sy’n cael eu hystyried. Bydd hyn wedi'i nodi'n glir yn y cynllun gweithredu cytunedig ar gychwyn y broses.
15.9.2 Bydd gofyn i'r rheolwr gyflwyno'r cynllun gweithredu yn ogystal ag unrhyw ddogfennau perthnasol.
15.9.3 Bydd cyfle gyda'r aelod o staff/cynrychiolydd neu gydweithiwr i gyflwyno sylwadau ar effeithiolrwydd y cymorth sy'n cael ei roi a'r cynnydd.
15.10 Ar ôl ystyried yr xxxx wybodaeth a'r cynrychiolaethau, bydd raid i'r rheolwr a enwebir/pennaeth ddewis un o'r deilliannau canlynol:-
15.10.1 Mae cyflawniad wedi gwella ac mae’r safon foddhaol wedi’i bodloni, felly fydd dim angen cymryd unrhyw gamau pellach. Rhaid i’r rheolwr a enwebir/pennaeth hysbysu’r aelod o staff yn ysgrifenedig am ddeilliant boddhaol yr adolygiad ac anfon copi o’r llythyr yma at ei gynrychiolydd AD fel y xxxx xx roi ar ffeil bersonol yr aelod o staff. Os bydd yr aelod o staff yn methu â chynnal y cyflawniad disgwyliedig, efallai'r ailgychwynir y weithdrefn yn unol â pharagraff 10 y weithdrefn yma. Dylid nodi mai cyfrifoldeb yr aelod o staff fydd cyflawni ar y xxxxx xxx heb yr angen am oruchwyliaeth neu gynlluniau gweithredu personol y tu hwnt i’r xxxxxx xxx; xxx
15.10.2 Er bod yna dystiolaeth o welliant, dyw hynny ddim yn ddigon i xxxx x xxxxxx – xxxx y rheolwr a enwebir/pennaeth benderfynu ymestyn Cam Un am gyfnod o 6 wythnos; neu
15.10.3 Os yw'r dystiolaeth yn dangos nad yw cyflawniad wedi gwella digon, bydd y rheolwr a enwebir/pennaeth yn mynd ymlaen i
Gam Dau'r weithdrefn. Mae’n ofynnol i’r rheolwr a enwebir/pennaeth gadarnhau’r penderfyniad yma yn ysgrifenedig, gan xxxxxxxxx hawl yr aelod o staff i apelio yn erbyn y penderfyniad (gweler paragraff 17). Os na fydd yr aelod o staff yn apelio, dylai'r llythyr hefyd ei wahodd i gyfarfod mewn perthynas â Cham Dau'r weithdrefn galluogrwydd.
16. Cam Dau – Gallu Ffurfiol
16.1 Yn dilyn y penderfyniad i fwrw ymlaen â Cham Dau, caiff cyfarfod pellach ei drefnu er mwyn trafod unrhyw newidiadau i'r cynllun gweithredu a gafodd eu hamlinellu yng Ngham Un (neu'r cynllun cymorth os yw'r broses wedi'i blaenoriaethu), a chytuno arnyn nhw. Dylai'r rheolwr a enwebir/pennaeth, rheolwr, aelod o staff a'i gynrychiolwr/cydweithiwr, ymgynghorydd Adnoddau Dynol ddod i'r cyfarfod yma, yn ogystal â rhywun i gymryd nodiadau.
16.2 Dylid ystyried a thrafod y materion canlynol yn y cyfarfod: -
16.2.1 Adolygu'r cynllun gweithredu a gafodd ei fabwysiadu yn ystod Cam Un, a'i newid yn ôl yr angen.
16.2.2 Sicrhau bod yr aelod o staff yn xxxxx xxx hyn yw cam xxxx x xxxxxx, ac efallai y byddai parhau i fethu â sicrhau a chynnal cyflawniad boddhaol yn rhoi'i swydd yn y fantol.
16.2.3 Cytuno ar ddyddiadau ar gyfer cynnal cyfarfod adolygu canol tymor a'r cyfarfod adolygu olaf.
16.3 O fewn 7 diwrnod gwaith i'r cyfarfod, dylid dosbarthu copïau o'r cofnodion a'r cynllun gweithredu. Dylid cytuno ar gywirdeb y dogfennau yma. Yn dilyn hyn, dylid anfon llythyr at yr aelod o staff, gan gadarnhau dyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod ar gyfer yr adolygiad canol tymor a diwedd cam, ac amlinellu'r canlyniad o fethu â chyflawni'r gwelliant gofynnol.
Monitro ac adolygu
16.4 Mae'r weithdrefn i'w mabwysiadu yn ystod y cyfnod adolygu
ar gyfer Cam Dau wedi'i hamlinellu ym mharagraffau 15.3 i 15.8
16.5 Ar ôl ystyried yr xxxx dystiolaeth a'r cynrychiolaethau, bydd raid i'r rheolwr a enwebir/pennaeth ddewis un o'r deilliannau canlynol: -
16.5.1 mae cyflawniad wedi gwella ac mae’r safon foddhaol wedi’i bodloni, felly fydd dim angen cymryd unrhyw gamau pellach. Rhaid i’r rheolwr a enwebir/pennaeth hysbysu’r aelod o staff yn ysgrifenedig am ganlyniad boddhaol yr adolygiad ac anfon copi o’r llythyr yma at ei gynrychiolydd AD fel y xxxx xx roi ar ffeil bersonol yr aelod o staff am ddwy flynedd. Os bydd yr aelod o staff yn methu â chynnal y cyflawniad disgwyliedig, efallai yr
ailgychwynir y weithdrefn yn unol â pharagraff 10 y weithdrefn yma. Dylid nodi mai cyfrifoldeb yr aelod o staff fydd cyflawni ar y xxxxx xxx heb yr angen am oruchwyliaeth neu gynlluniau gweithredu personol y tu hwnt i’r xxxxxx xxx; xxx
16.5.2 er bod yna dystiolaeth o welliant, dyw hynny ddim yn ddigon i xxxx x xxxxxx – xxxx y rheolwr a enwebir/pennaeth benderfynu ymestyn Cam Un am gyfnod o 6 wythnos; neu
16.5.3 mewn achosion lle nad yw'r dystiolaeth sydd wedi'i chasglu yn dangos bod cyflawniad wedi gwella digon, bydd y rheolwr a enwebir/pennaeth yn mynd ymlaen i Gam Tri'r weithdrefn. Mae’n ofynnol i’r rheolwr a enwebir/pennaeth gadarnhau’r penderfyniad yma'n ysgrifenedig a rhoi cyfle i'r aelod o staff apelio yn erbyn y penderfyniad. Os na fydd yr aelod o staff yn apelio, bydd y rheolwr a enwebir/pennaeth yn gofyn i glerc y xxxxx llywodraethu alw cyfarfod o'r Pwyllgor Diswyddo a Disgyblu Staff ar gyfer gwrandawiad ffurfiol. Rhoddir ystyriaeth yn y gwrandawiad yma i'r dystiolaeth a gesglir drwy'r broses, ac a yw hyn yn cyfiawnhau terfynu contract yr aelod o staff ar sail galluogrwydd.
16.6 Yn ystod y cyfnod yma, efallai y bydd angen i Gadeirydd y Llywodraethwyr ystyried xxxx yr aelod o staff o'i waith yn ôl yr xxxxx
x.x. i ddiogelu plant staff neu eiddo, neu os y gallai presenoldeb yr aelod o staff yn yr ysgol gael effaith niweidiol ar addysg neu ddysg y disgyblion, neu ar y ffordd y caiff y gwasanaeth ei ddarparu. O xxx amgylchiadau o'r fath, dylai'r ysgol gynnal cyfarfod diarddel yn unol â'r canllawiau sydd wedi'u hamlinellu yn y Weithdrefn Disgyblu a Diswyddo i Ysgolion. Dylid hefyd ofyn am gyngor gan yn ymgynghorydd AD.
17. Cyflwyno xxxx yn erbyn symud y broses galluogrwydd yn ei blaen
17.1 Os bydd aelod o staff am apelio yn erbyn y penderfyniad i symud ei (h)achos i gam nesaf y weithdrefn, rhaid hysbysu’r rheolwr a enwebir/pennaeth yn ysgrifenedig o fewn pum diwrnod gwaith i ddyddiad yr hysbysiad ffurfiol o benderfyniad y rheolwr a enwebir/pennaeth. Rhaid i’r aelod o staff amlinellu sail yr xxxx.
18.2 Dylai xxxx xxxx ei hystyried yn brydlon gan gadeirydd y xxxxx llywodraethu, oni bai pan:-
• fydd achos o wrthdaro buddiannau;
• na fydd ef/hi'n gallu gweithredu'n deg; neu
• mae ef/hi xxxxxx wedi clywed xxxx.
Os yw un o'r uchod yn berthnasol, caiff trefniadau eu gwneud drwy glerc y xxxxx llywodraethu i gysylltu ag aelod arall o'r xxxxx llywodraethu neu lywodraethwr ymgynghorol.
17.3 Bydd yr aelod o staff yn cael gwybod am ddyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod i ystyried yr xxxx 7 diwrnod gwaith ymlaen llaw.
17.4 Bydd gofyn i Gadeirydd y Llywodraethwyr neu Lywodraethwr a enwebir ganolbwyntio ar reswm/rhesymau'r aelod o staff dros apelio. Bydd aelod o'r garfan Adnoddau Dynol hefyd yn bresennol. Bydd gan yr aelod o staff hawl i gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad xxxx xxx yn unol â pharagraff 7.
17.5 Ar ôl y cyfarfod, bydd Cadeirydd y Llywodraethwyr neu'r Llywodraethwr sydd wedi'i enwebu yn:
17.5.1 Cadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol a mynd ymlaen i’r cam nesaf;
17.5.2 Dirymu’r penderfyniad gwreiddiol gyda’r bwriad o ymestyn y cyfnod adolygu yn y cam presennol; neu
17.5.3 Gwneud penderfyniad gwahanol.
17.6 Bydd yr aelod o staff yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad cyn gynted â phosibl, fel arfer o fewn wythnos i’r cyfarfod xxxx. Chaiff xxxx arall mo'i chaniatáu.
18. Cam Tri - Atgyfeirio at Bwyllgor Diswyddo/Disgyblu Staff y Xxxxx Llywodraethu
18.1 Os na lwyddwyd i gyflawni’r gwelliannau gofynnol ar ôl cyflwyno'r camau perthnasol, dylid cyfeirio’r mater i Bwyllgor Diswyddo a Disgyblu Staff y Xxxxx Llywodraethu a chynnal gwrandawiad ffurfiol. Dylai'r gwrandawiad gynnwys:-
18.1.1 Aelodau o'r Pwyllgor;
18.1.2 Y rheolwr a enwebir/pennaeth (a fydd yn cyflwyno'r achos);
18.1.3 Yr aelod o staff gyda'i gynrychiolydd/gydweithiwr;
18.1.4 Rheolwr, os yw'n berthnasol;
18.1.5 Swyddog AD i gynghori'r pwyllgor ar agweddau o'r weithdrefn;
18.1.6 Unrhyw un arall yr ystyrir yn berthnasol i'r broses;
18.1.7 Clerc y xxxxx llywodraethu a fydd yn cymryd cofnodion o'r cyfarfod.
18.2 Bydd clerc y xxxxx llywodraethu yn trefnu'r gwrandawiad a bydd yr aelod o staff yn cael hysbysiad ysgrifenedig, o leiaf 7 diwrnod gwaith cyn hynny, am y canlynol:
18.2.1 Dyddiad ac amser y gwrandawiad;
18.2.2 Diben y gwrandawiad;
18.2.3 Yr hawl i gynrychiolydd undeb llafur neu gydweithiwr siarad ar ei ran; a
18.2.4 Y mater xxx ystyriaeth a'r amrediad o ddeilliannau posibl.
18.3 Rhaid i'r Pwyllgor Diswyddo/Disgyblu Staff a'r aelod o staff gael gafael ar gopïau o'r dogfennau perthnasol, sydd wedi'u casglu yn ystod y weithdrefn, 10 diwrnod cyn y gwrandawiad. Dylai'r dogfennau ddarparu tystiolaeth o'r canlynol :-
18.3.1 Y broses sydd wedi'i dilyn a'r xxxx/meysydd lle methodd yr aelod o staff â bodloni’r safon foddhaol o ran cyflawniad;
18.3.2 Goblygiadau tangyflawni’r aelod o staff i’r ysgol/xxxx gwasanaeth;
18.3.3 Y camau a gymerwyd i helpu’r aelod o staff i fodloni’r lefel cyflawniad gofynnol.
18.4 Rhaid darparu'r dogfennau i'r aelod o staff 5 diwrnod cyn y gwrandawiad.
18.5 Caiff y weithdrefn i'w dilyn ei hamlinellu yng Ngweithdrefn Disgyblu'r Ysgol.
19. Pwyllgor Apeliadau - Diswyddo/Disgyblu Staff
19.1 Os canlyniad y gwrandawiad yw penderfynu diswyddo'r aelod o staff, xxx xxxx ganddo i apelio yn erbyn y penderfyniad. Os yw’n penderfynu gwneud hyn, dylai ysgrifennu at Gadeirydd y Llywodraethwyr o fewn 7 diwrnod gwaith i dderbyn llythyr sy’n cadarnhau’r penderfyniad.
19.2 Rhaid i’r aelod o staff/cynrychiolydd/cydweithiwr amlinellu sail yr xxxx.
19.3 Dylai'r xxxx xxxx ei hystyried yn brydlon gan y Pwyllgor Apeliadau Diswyddo/Disgyblu Staff. Mae’r weithdrefn i’w dilyn yng Ngweithdrefn Disgyblu'r ysgol.
19.4 Rhaid i'r dogfennau sy'n atgyfnerthu achos y rheolwyr gael eu cyflwyno i'r Pwyllgor a'r aelod o staff 10 diwrnod cyn y gwrandawiad.
19.5 Rhaid darparu'r dogfennau i'r aelod o staff 5 diwrnod cyn y gwrandawiad.
ATODIAD UN - Swyddogaethau a Chyfrifoldebau
Dyma, isod, swyddogaethau a chyfrifoldebau'r bobl a wnelo hyn â nhw. Y disgwyl yw i bawb gyd-dynnu er mwyn ceisio gwella cyflawniad yr aelod o staff.
Cyfrifoldebau'r aelod o staff (a allai fod yn ymwneud â'r weithdrefn)
• dilyn y weithdrefn a chytuno ar amcanion cyflawniad,
• gweithio gyda'r rheolwr llinell i gyrraedd lefel foddhaol o gyflawniad yn gyffredinol,
• cymryd cyfrifoldeb am faterion hyfforddi a datblygu a bod yn weithredol o ran gwneud trefniadau lle bo anghenion wedi'u pennu,
• tynnu sylw'r rheolwr llinell at unrhyw ffactorau allanol ac effeithio’n andwyol ar gyflawniad,
• gwneud pob ymdrech i fynd i unrhyw gyfarfodydd neu wrandawiadau o xxx yr
weithdrefn yma,
• trafod gyda Charfan Materion Iechyd Galwedigaethol yr awdurdod lleol neu weithiwr iechyd proffesiynol lle bo’n briodol.
Swyddogaeth y cynrychiolydd
• bod yn gwmni i'w aelod yn ystod xxxx gamau ffurfiol y weithdrefn galluogrwydd,
• cefnogi’r aelod i gyflwyno tystiolaeth a gofyn am eglurhad ar unrhyw faterion a godir yn ystod y cyfarfod,
• ymgynghori â’r aelod, fel bo’r angen, yn ystod unrhyw gyfarfod,
• cynrychioli’r aelod os nad yw’n gallu bod yn bresennol,
• gofalu bod yr aelod yn gyfarwydd â chynnwys y weithdrefn,
• gofalu'i fod ar gael ar gyfer yr amserlenni sydd wedi'u nodi yn y
• weithdrefn.
Swyddogaeth y Pennaeth (rheolwr)
• cynorthwyo ac ymgynghori â rheolwyr llinell sy'n mynegi pryderon am gyflawniad anfoddhaol aelod o staff,
• cymryd camau priodol wrth reoli cyflawniad anfoddhaol,
• sicrhau safonau tegwch, gwrthrychedd a chysondeb wrth drin athrawon ym mhob achos,
• penodi, lle bo’n briodol, aelod dynodedig o’r staff i ymchwilio i ddarparu cymorth priodol,
• sicrhau bod rhaglen briodol o gymorth ac arweiniad yn cael ei chyflwyno i’r athro y tybir ei fod yn cyflawni’n anfoddhaol,
• cyngor yr awdurdod lleol (neu'r awdurdod esgobaethol),
• sicrhau bod polisïau’r xxxxx llywodraethu yn cael eu gweithredu a bod y xxxxx llywodraethu’n rhan o’r broses gallu ar y camau priodol.
Swyddogaeth y Rheolwr
• sicrhau bod yr aelod o staff wedi cael gafael ar wybodaeth am ei rôl a'i gyfrifoldebau,
• bod yn effro i xxxx bolisïau perthnasol yr ysgol,
• cyfleu'r safonau cyflawniad y mae'r ysgol yn eu disgwyl. Cymryd camau a dull ystyriol ym mhob achos lle mae pryderon am gyflawniad aelod o staff,
• cyflwyno tystiolaeth a chynghori’r pennaeth (neu’r sawl y mae'r pennaeth wedi dirprwyo'r cyfrifoldeb iddo o ran gweithredu'r broses gallu) ar xxx xxxx gydol y broses,
• gofyn am arweiniad pellach gan y pennaeth (neu’r sawl y mae'r pennaeth wedi dirprwyo'r cyfrifoldeb iddo o ran gweithredu'r broses gallu) lle bo’n briodol ar unrhyw xxxxx xx’n gysylltiedig â’r polisi a’r gweithdrefnau hyn.
Rôl Cadeirydd y Llywodraethwyr neu'r Llywodraethwr a Enwebir
• sefydlu a chynnal trefniadau effeithiol a chyfathrebu da gyda'r pennaeth ynglŷn â chyflawniad a blaenoriaethau'r ysgol, yn ogystal â darparu gwasanaethau,
• cael cyngor oddi wrth adran Adnoddau Dynol yr awdurdod lleol os bydd unrhyw bryderon am dangyflawniad staff,
• cysylltu â'r awdurdod lleol, fel y xx xxxxx, i sicrhau bod digon o lywodraethwyr er mwyn gweithredu'r weithdrefn gallu.
Swyddogaeth y xxxxx llywodraethu
• bod yn gyfarwydd iawn â'r polisïau perthnasol mewn perthynas â rheoli cyflawniad,
• sicrhau bod polisïau sy’n ymwneud â chyflawniad anfoddhaol aelodau staff yn cael eu gweithredu a’u bod yn gweithio’n effeithiol law yn llaw â pholisïau perthnasol eraill,
• sicrhau bod yr xxxx bolisïau perthnasol ar gael i athrawon a phenaethiaid a’u bod yn cael eu hadolygu’n rheolaidd,
• sicrhau bod pwyllgorau priodol y xxxxx llywodraethu yn cael
• eu sefydlu a bod llywodraethwyr yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau ac yn derbyn hyfforddiant priodol i’w cefnogi wrth eu gwaith,
• er mwyn sicrhau bod y polisi yn cael ei fabwysiadu cyn i unrhyw brosesau gael eu rhoi ar waith.
Swyddogaeth y Clerc i'r Xxxxx Llywodraethu
• trefnu cyfarfod y Pwyllgor Disgyblu/Diswyddo os daw cais i law am hynny, a dosbarthu'r papurau perthnasol,
• trefnu cyfarfod y Pwyllgor Apeliadau - Disgyblu/Diswyddo os daw cais i law am hynny, a dosbarthu'r papurau perthnasol.
Swyddogaeth yr awdurdod lleol
• rhoi cyngor a chymorth i’r rheolwr a enwebir/pennaeth a’r xxxxx llywodraethu ynglŷn â rheoli cyflawniad anfoddhaol aelod o'r staff,
• sicrhau bod cyngor o safon ynglŷn â rheoli gan adran Adnoddau Dynol ar gael,
• arfer, fel sy'n briodol, yr hawl i fod yn bresennol yn xxxx gyfarfodydd ffurfiol y
xxxxx llywodraethu a'i bwyllgorau ar ddibenion rhoi cyngor,
• arfer, fel sy'n briodol, bwerau 'camu-i-mewn' er mwyn sicrhau bod y gweithdrefnau priodol yn cael eu rhoi ar waith, a'u dilyn,
• cynnal neu gomisiynu hyfforddiant priodol i alluogi Cadeirydd y Xxxxx Llywodraethu a'r Xxxxx Llywodraeth ei hunan i fodloni'u rhwymedigaethau o xxx y weithdrefn hon yn effeithiol,
• cysylltu â'r xxxxx llywodraethu i sicrhau bod digon o lywodraethwyr i weithredu'r camau amrywiol yn y prosesau gallu ac apelio.
ATODIAD DAU - Cynllun Gweithredu
Xxxx i'w wella | Xxxxx | Xxxxxxx i'w roi | Xxxxx prawf ar gyfer llwyddiant | Sut caiff gwelliant ei fesur | Xxxxxxxx y targed |
Enw’r gweithiwr: Enw'r Rheolwr:
Dyddiad: Dyddiad: