Archwilydd Cyffredinol Cymru
Adroddiad Gwella Blynyddol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cyhoeddwyd: Ionawr 2012 Cyfeirnod y ddogfen: 130A2012
Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn annibynnol ar y llywodraeth ac mae’n cael ei benodi gan Ei Mawrhydi y Frenhines. Mae’n arwain Swyddfa Archwilio Cymru ac mae’n atebol i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol am waith Swyddfa Archwilio Cymru.
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol Llywodraeth Cymru a’i chyrff cyhoeddus noddedig a chysylltiedig, Comisiwn y Cynulliad a chyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Mae hefyd yn penodi archwilwyr allanol cyrff llywodraeth leol yng Nghymru, gan gynnwys awdurdodau unedol, awdurdodau’r heddlu, awdurdodau prawf, awdurdodau tân ac achub, parciau cenedlaethol a chynghorau cymuned. Mae archwilwyr penodedig yr Archwilydd Cyffredinol yn gyfrifol am archwilio’n flynyddol y rhan fwyaf o arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn o gyllid a bleidleisir i Gymru’n flynyddol gan Senedd San Xxxxxxx. Caiff bron i £5.5 biliwn o’r cyllid hwn ei drosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i lywodraeth leol ar ffurf grantiau cyffredinol a grantiau penodol. Mae llywodraeth leol, yn ei thro, yn codi £2.1 biliwn arall drwy’r dreth gyngor a threthi busnes.
Yn ogystal ag ymgymryd ag archwilio ariannol, rôl yr Archwilydd Cyffredinol yw edrych ar sut mae cyrff cyhoeddus yn rheoli ac yn gwario arian cyhoeddus, gan gynnwys sicrhau gwerth am arian wrth gyfllwyno gwasanaethau cyhoeddus. Nod Swyddfa Archwilio Cymru yw gwneud i arian cyhoeddus gyfrif, drwy hyrwyddo gwelliant, fel bod pobl yng Nghymru yn elwa o wasanaethau cyhoeddus atebol a reolir yn dda sy’n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymroddedig i nodi a lledaenu arfer da ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Cafodd Xxx Xxxxxxx Xxxxxx, Archwilydd Cyffredinol Cymru, gymorth gan Xxxxx Xxxxxx, Xxxxxxx Xxxxxx a chydweithwyr o xxx oruchwyliaeth Xxxx Xxxxxxxx i gynnal yr Asesiad Gwella ac llunio’r adroddiad hwn.
Cynnwys
Crynodeb a chynigion ar gyfer gwella 4
Adroddiad manwl
Cyflwyniad 9
Ceir gwendidau yn nhrefniadau corfforaethol y Cyngor, ac os nad ymdrinnir â hwy,
xxxxxxx xx xxxx rhag cyflawni ei flaenoriaethau gwella 10
Mae'r Cyngor yn cymryd camau i wella rhai meysydd gwasanaeth allweddol megis addysg a gwasanaethau plant, ond rhaid iddo wella ei reolaeth ar wastraff 19
Mewn rhai agweddau ar wasanaethau i xxxxx, xxx dirywiad i berfformiad y mae'r Cyngor yn mynd i'r afael ag ef, ac mae arwyddion o welliant yn y gwasanaethau i oedolion 19
Mae'r Cyngor a'i ysgolion yn cymryd camau i wella perfformiad mewn perthynas â safonau addysg, ac mae cydweithio â phartneriaid a darparwyr allweddol yn
helpu i foderneiddio gwasanaethau addysg 20
Er bod rheoli gwastraff yn flaenoriaeth cydnabyddedig i'r Cyngor, rhaid lleihau
swm y gwastraff mae'n ei anfon i safleoedd tirlenwi 21
Nid yw Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor eto'n rhoi darlun cytbwys o’i berfformiad neu'n esbonio effaith y perfformiad gwael yn ddigonol 23
Atodiadau
Atodiad 1
Statws yr adroddiad hwn 26
Atodiad 2
Gwybodaeth ddefnyddiol am Ferthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 27
Atodiad 3
Cofnodion Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a'u defnydd o adnoddau 29
Atodiad 4
Amcanion gwella a hunanasesiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 32
Atodiad 5
Cynnydd a wnaed gan y Cyngor wrth fynd i'r afael â chynigion ar gyfer gwella a
nodwyd yn Asesiad Gwella 2010 yr Archwilydd Cyffredinol 34
1 Xxx blwyddyn, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol gyflwyno adroddiad ar ba mor dda mae cynghorau, awdurdodau tân ac achub a pharciau cenedlaethol Cymru yn cynllunio ar gyfer gwella ac yn darparu eu gwasanaethau. Gan dynnu ar waith arolygiaethau perthnasol Cymru, a'i waith ei hun, mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno darlun o'r gwelliant dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r adroddiad mewn tair prif adran, sy'n cynnwys y broses o gynllunio, o ddarparu ac o werthuso gwelliant gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (y Cyngor).
2 Mae'r Cyngor, ynghyd â'i bartneriaid, wedi cytuno ar weledigaeth a rennir ar gyfer Merthyr Tudful: 'cryfhau ein sefyllfa fel canolfan ranbarthol ar gyfer Blaenau'r Cymoedd, ac i fod yn lle y gellir bod yn xxxxx ohono, ble:
• mae ar bobl eisiau byw, gweithio a chael bywyd iach a bodlon yno;
• mae ar bobl eisiau ymweld ag ef, ei fwynhau a dychwelyd yno; ac
• mae ar bobl eisiau dysgu a datblygu sgiliau yno i gyflawni eu huchelgeisiau.'
3 Yn ogystal â'i ddyletswyddau statudol, mae'r Cyngor wedi gosod wyth Blaenoriaeth Gorfforaethol ar gyfer Gwella i'w hun ar gyfer 2011-2014, sef:
• adfywiad cymdeithasol, economaidd a ffisegol, gan gynnwys cyfleoedd i helpu preswylwyr i gael gwaith ac adfywio'r fwrdeistref sirol;
• gofal cymdeithasol da, gan gynnwys adeiladu dau gartref preswyl newydd a chyfleuster gofal ychwanegol;
• cyfleoedd dysgu gydol oes, gan gynnwys datblygu Ardal Ddysgu Merthyr;
• diogelwch cymunedol, gan gynnwys canolbwyntio ar ymddygiad gwrthgymdeithasol;
• seilwaith, gan gynnwys gwella'r rhwydwaith briffyrdd;
• tai o ansawdd da, gan gynnwys datblygu tai fforddiadwy;
• gwasanaethau cyhoeddus effeithlon, gan gynnwys gwella gwasanaethau cwsmeriaid a rhesymoli lle swyddfa; ac
• ailgylchu a rheoli gwastraff, gan gynnwys symud i ailgylchu wythnosol a chasglu sbwriel xxx pythefnos.
4 Canfyddom y ceir gwendidau yn nhrefniadau corfforaethol y Cyngor, ac os nad ymdrinnir â hwy, xxxxxxx xx xxxx rhag cyflawni ei flaenoriaethau gwella.
5 Hefyd, canfyddom bod y Cyngor yn cymryd camau i wella rhai meysydd gwasanaeth allweddol megis addysg a gwasanaethau plant, ond rhaid iddo wella ei reolaeth ar wastraff. Mae'r casgliad hwn yn seiliedig ar y canlynol:
• mewn rhai agweddau ar wasanaethau i xxxxx, xxx dirywiad i berfformiad y mae'r Cyngor yn mynd i'r afael ag ef, ac mae arwyddion o welliant yn y gwasanaethau i oedolion;
• mae'r Cyngor a'i ysgolion yn cymryd camau i wella perfformiad mewn perthynas â safonau addysg, ac mae cydweithio â phartneriaid a darparwyr allweddol yn helpu i foderneiddio gwasanaethau addysg; ac
Adroddiad cryno
• er bod rheoli gwastraff yn flaenoriaeth cydnabyddedig i'r Cyngor, rhaid lleihau swm y gwastraff mae'n ei anfon i safleoedd tirlenwi.
6 Yn olaf, mae'r adroddiad yn amlinellu ein barn ar asesiad y Cyngor ei hun o'i berfformiad a'i drefniadau. Daethom i'r casgliad nad yw Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2010/11 eto'n rhoi darlun cytbwys o berfformiad y Cyngor na'n esbonio effaith perfformiad gwael yn ddigonol.
7 Nid oes unrhyw argymhellion ffurfiol, ond gwneir y cynigion canlynol i'r Cyngor i gefnogi gwelliant:
Cynigion ar gyfer gwella |
C1 Datblygu'r strategaeth ariannol tymor canolig, y strategaeth rheoli asedau a strategaeth y gweithlu ymhellach a'u halinio i gyfeirio a chefnogi cyflawni amcanion y Cyngor.* |
C2 Sicrhau bod amcanion gwella'n canolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach na gwasanaethau, ac wedi'i eirio'n gyson rhwng y gwahanol gyhoeddiadau.* |
C3 Cynnwys datganiad cyffredinol o fewn y cynllun blynyddol sy'n wynebu ymlaen ar sut mae'r Cyngor yn ceisio cyflawni ei ddyletswydd statudol gyffredinol i gael trefniadau yn eu lle i sicrhau gwelliant ar draws yr ystod ei swyddogaethau.* |
C4 Sicrhau bod y systemau a'r rheolaethau o amgylch data a mesurau perfformiad yn ddigon cadarn i'r Cyngor a'i randdeiliaid fod â xxxxx yn eu cywirdeb.* |
C5 Datblygu ymagwedd strategol tuag at gynnwys y cyhoedd a fydd yn cefnogi gwelliannau i'r dull gweithredol at brosiectau unigol i gynnwys y Cyngor.* |
C6 Adolygu terminoleg amcanion a gweithgareddau gwella a mesurau llwyddiant dethol er mwyn sicrhau eu bod wedi'u mynegi'n glir, y byddant yn arwain at gyflawni'r amcan gwella perthnasol, ac yn gallu caniatáu i ddinasyddion lleol fonitro'r gwahaniaeth y mae'r Cyngor yn ei wneud i'w bywydau. |
C7 Dylai arweinyddiaeth wleidyddol a rheolaethol y Cyngor hyrwyddo a sicrhau diwylliant sy'n gofyn am hunansesu perfformiad corfforaethol a gwasanaeth priodol agored a chytbwys, ac sy'n fwy arfarnol a realistig o ran cynnydd y Cyngor wrth gyflawni ei amcanion gwella. |
C8 Wrth asesu ac adrodd am berfformiad, dylai'r Cyngor sicrhau: • bod digon o ddata priodol sy'n xxxxxx xxxx a faint mae'r Cyngor yn ei wneud, ac hefyd y gwahaniaeth mae'r Cyngor yn ei wneud o ran canlyniadau i'w ddinasyddion; a • bod digon o wybodaeth yn rhoi'r rhesymau am unrhyw danberfformio, ei effaith a'r camau adferol i'w cymryd. |
Cynigion ar gyfer gwella
Cynigion ar gyfer gwella (xxxxxx) |
C9 Adolygu amseriad a chynnwys adroddiadau cynnydd a pherfformiad i hwyluso gwneud penderfyniadau mwy deallus a herio perfformiad y gwasanaeth yn gadarn, gan ganolbwyntio ar y mesurau a'r tasgau cywir ac sy'n gofyn bod swyddogion yn cymryd camau adferol lle bo'n briodol. |
C10 O ran hunanasesu perfformiad, dylai'r Cyngor sicrhau ei fod yn gweithredu'n fwy unol â chanllawiau a dyluniadau Llywodraeth Cymru, ac yn gweithredu trefniadau herio a chraffu priodol. |
* Gwnaed y cynigion hyn i'r Cyngor gyntaf ym mis Awst 2011.
Adroddiad manwl
8 Paratowyd yr adroddiad hwn gan Swyddfa Archwilio Cymru ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru. Ar dudalen 2, mae esboniad cryno o'r hyn y mae Archwilydd Cyffredinol yn ei wneud. Mae'r adroddiad yn amlinellu barn yr Archwilydd Cyffredinol am berfformiad y Cyngor wrth gyflawni ei ddyletswydd statudol i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus. Cyfeirir y farn xxx xxx xxxxx Swyddfa Archwilio Cymru, Estyn, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
9 O xxx Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (y mesur), rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol adrodd xxx blwyddyn ar ba mor dda mae cynghorau, awdurdodau tân ac achub a pharciau cenedlaethol Cymru yn cynllunio ar gyfer gwelliant ac yn darparu eu gwasanaethau. Mae Atodiad 1 yn rhoi mwy o wybodaeth am bwerau a dyletswyddau'r Archwilydd Cyffredinol o xxx y mesur. Gyda chymorth gan arolygiaethau Cymru, Estyn (ar gyfer addysg) ac AGGCC, rydym wedi dwyn darlun ynghyd o'r hyn y mae pob Cyngor neu awdurdod yng Nghymru yn ceisio'i gyflawni a sut mae'n mynd ati i wneud hynny. Mae'r adroddiad hwn hefyd yn amlinellu'r cynnydd y mae'r Cyngor wedi'i wneud ers i'r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi ei Adroddiad Gwella Blynyddol diwethaf, gan dynnu ar hunanasesiad y Cyngor ei hun.
10 Trwy gydol yr adroddiad, rydym yn amlinellu'r hyn y mae'n rhaid i'r Cyngor ei wneud i wella ei wasanaethau. O ystyried yr ystod xxxx o wasanaethau a ddarperir a'r heriau sy'n wynebu'r Cyngor, byddai'n anarferol peidio â dod o hyd i bethau y gellir eu gwella. Gall yr Archwilydd Cyffredinol:
• argymell i weinidogion Llywodraeth Cymru eu bod yn ymyrryd mewn rhyw ffordd;
• cynnal arolygiad arbennig a chyhoeddi'r adroddiad gydag argymhellion manwl;
• gwneud argymhellion ffurfiol ar gyfer gwella - os gwneir argymhelliad ffurfiol, rhaid i'r Cyngor ymateb i'r argymhelliad hwnnw yn gyhoeddus o fewn 30 niwrnod; a
• gwneud cynigion ar gyfer gwella - os byddwn yn gwneud cynigion i'r Cyngor, byddem yn disgwyl iddo wneud rhywbeth yn eu cylch, a byddwn yn ymchwilio i'r hyn sy'n digwydd.
11 Rydym yn awyddus i gael gwybod os yw'r adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i chi, ac a yw'n hawdd ei ddeall. Xxxxxxx roi xxxx barn i ni drwy e-bostio xxxx@xxx.xxx.xx neu drwy ysgrifennu atom yn 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ.
Cyflwyniad
12 Mae'r adran hon yn nodi sylwadau ar gynllunio a threfniadau'r Cyngor ar gyfer cyflwyno gwelliant, gan gynnwys:
• canfyddiadau blaenorol gan yr Archwilydd Cyffredinol ar y trefniadau ar gyfer gwella;
• trefniadau rheoli pobl;
• defnyddio adnoddau a threfniadau i fynd i'r afael â'r heriau ariannol sy'n wynebu pob cyngor;
• sut mae'r Cyngor yn cynnwys y cyhoedd a chymunedau lleol;
• sut mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth ac yn cydweithio ag eraill;
• trefniadau craffu;
• trefniadau rheoli perfformiad; a
• trefniadau'r Cyngor i gefnogi'r iaith Gymraeg.
13 Nid ydym yn cynnal adolygiad blynyddol cynhwysfawr x xxxx drefniadau na gwasanaethau'r Cyngor. Canolbwyntiodd ein gwaith ar y prif amcanion y mae'r Cyngor wedi gosod i'w hun ac yn adeiladu ar adborth archwilio cynt ac adroddiadau a gyhoeddwyd i'r Cyngor. Mae'r casgliadau yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar ein gwybodaeth cronnus a rennir ac ar ganfyddiadau'r gwaith a wnaed eleni.
14 Cytunodd y Cyngor yn 2011, ar y cyd â sectorau'r heddlu, iechyd, tân, gwirfoddol a chymunedol, ar weledigaeth a rennir ar gyfer Merthyr Tudful i ‘gryfhau ein sefyllfa fel canolfan ranbarthol ar gyfer Blaenau'r Cymoedd, ac i fod yn lle y gellir bod yn xxxxx ohono, ble:
• mae ar bobl eisiau byw, gweithio a chael bywyd iach a bodlon yno;
• mae ar bobl eisiau ymweld ag ef, ei fwynhau a dychwelyd yno; ac
• mae ar bobl eisiau dysgu a datblygu sgiliau yno i gyflawni eu huchelgeisiau.'
Amlinellir y weledigaeth a rennir mewn dogfen a elwir yn gynllun cymunedol 'It's Looking Good – Merthyr Tydfil 2020 – Turning Aspirations into Reality'.
15 Er mwyn helpu i wneud i hyn ddigwydd, mae dogfen bolisi allweddol y Cyngor, Y Cynllun Corfforaethol 2011/14, yn nodi'r wyth Blaenoriaeth Corfforaethol ar gyfer Gwella y mae'r Cyngor wedi gosod i'w hun i gefnogi darparu'r cynllun cymunedol a'r weledigaeth a rennir ar gyfer Merthyr Tudful, sef:
• adfywiad cymdeithasol, economaidd a ffisegol, gan gynnwys cyfleoedd i helpu preswylwyr i gael gwaith ac adfywio'r fwrdeistref sirol;
• gofal cymdeithasol da, gan gynnwys adeiladu dau gartref preswyl newydd a chyfleuster gofal ychwanegol;
• cyfleoedd dysgu gydol oes, gan gynnwys datblygu Ardal Ddysgu Merthyr;
• diogelwch cymunedol, gan gynnwys canolbwyntio ar ymddygiad gwrthgymdeithasol;
• seilwaith, gan gynnwys gwella'r rhwydwaith briffyrdd;
• tai o ansawdd da, gan gynnwys datblygu tai fforddiadwy;
• gwasanaethau cyhoeddus effeithlon, gan gynnwys gwella gwasanaethau cwsmeriaid a rhesymoli lle swyddfa; ac
• ailgylchu a rheoli gwastraff, gan gynnwys symud i ailgylchu wythnosol a chasglu sbwriel xxx pythefnos.
Ceir gwendidau yn nhrefniadau corfforaethol y Cyngor, ac os nad ymdrinnir â hwy, xxxxxxx xx xxxx rhag cyflawni ei flaenoriaethau gwella
Mae'r Cyngor yn datblygu ei drefniadau gwella, ond mae'r tasgau a'r mesurau llwyddiant y mae wedi'u nodi'n anhebygol o gefnogi cyflawni'r Blaenoriaethau Corfforaethol ar gyfer Gwella
16 Mae amcanion gwella'r Cyngor (y cyfeirir atynt fel Blaenoriaethau Corfforaethol ar gyfer Gwella) a'i gynllun gwella (o'r enw Cynllun Corfforaethol 2011/14) yn bodloni gofynion y mesur a'r canllawiau a'r arweiniad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, er mwyn dilyn y canllawiau statudol yn llawnach, dylai'r cynllun gynnwys datganiad cyffredinol yn disgrifio'r trefniadau sydd gan y Cyngor ar waith i gyflawni ei ddyletswydd statudol i sicrhau gwelliant ar draws xx xxxx swyddogaethau.
17 Cyhoeddwyd y cynllun gwella a'r crynodeb cyhoeddus yn Gymraeg ac yn Saesneg o fewn yr amserlen a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ddau ar gael ar ffurf electronig ar wefan y Cyngor ac fe'u hyrwyddwyd trwy'r wasg leol. Mae copïau caled o'r crynodeb cyhoeddus dwyieithog ar gael yn nerbynfeydd swyddfeydd y Cyngor, canolfannau hamdden, canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a Chastell Cyfarthfa.
18 Esbonnir y sail ar gyfer dewis wyth Blaenoriaeth Corfforaethol ar gyfer Gwella ar gyfer 2011-2014, ynghyd â sut mae'r cynllun gwella'n cyd-fynd â strategaethau a chynlluniau eraill, gan gynnwys y cynllun cymunedol. Wrth benderfynu ar xxxx i ganolbwyntio arno, adeiladodd y Cyngor ar ei ddealltwriaeth o anghenion lleol a ddatblygwyd trwy ymgynghori'n helaeth â
dinasyddion, busnesau a phartneriaid lleol. Roedd ymgynghori'n cynnwys dau ddigwyddiad gwahanol yng nghanol tref Merthyr Tudful, lle roedd Arweinydd y Cyngor ac aelodau eraill y Cabinet yn ceisio barn trigolion ar gyllideb a blaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer 2011-12.
19 Mae'r cynllun gwella'n nodi'r hyn y mae'r Cyngor am ei gyflawni a'r hyn y bydd yn ei wneud nesaf. Mae'n cynnwys cynlluniau gweithredu ar gyfer pob blaenoriaeth gwella oedd yn amlinellu tasgau i'w cyflawni ac yn esbonio sut y caiff cynnydd ei fonitro gan fesurau llwyddiant a nodwyd gyda thargedau a cherrig milltir perfformiad cysylltiedig. Er bod y dull hwn yn un rhesymegol mewn egwyddor, mae nifer o faterion a fydd yn tanseilio cadernid yr asesiad perfformiad a'r broses adrodd presennol os nad ymdrinnir â hwy. Yn arbennig, yn seiliedig ar ein hadolygiad o'r tasgau a'r mesurau penodol yng nghynllun gwella'r Cyngor, nid yw'n glir y bydd cyflawniad cronnus y tasgau allweddol a nodwyd yn arwain at gyflawni amcanion gwella'r Cyngor.
20 Rhaid i'r Cyngor fynegi ei amcanion gwella'n well (a elwir yn Flaenoriaethau Corfforaethol ar gyfer Gwella). Byddai mwy o eglurder a chysondeb yn y derminoleg a ddefnyddir i ddisgrifio'r canlyniadau y mae'r Cyngor yn dymuno ei gyflawni yn helpu i sicrhau y caiff negeseuon allweddol eu cyfleu a'u deall yn glir. Yn arbennig, nid yw xxx amser yn glir xxxx xxx'r Cyngor yn bwriadu ei wneud yn wahanol er mwyn sicrhau gwelliant, neu'r gwahaniaeth y bydd yn ei wneud i ddinasyddion lleol.
21 Dylai'r Cyngor hefyd yn adolygu'r berthynas rhwng y tasgau, y mesurau a'r canlyniadau a nodir yn ei Gynllun Corfforaethol 2011/14 er mwyn sicrhau bod y mesurau'n briodol ac y bydd y tasgau'n arwain at ganlyniadau cadarnhaol sy'n cyd-fynd yn glir â chyflawni amcanion gwella'r Cyngor.
22 Mae'r Cyngor wedi cydnabod bod rhaid gwella'i fesur a'i adrodd ar berfformiad, ac mae'n gweithio gyda phenaethiaid gwasanaeth a chyfarwyddwyr corfforaethol i sicrhau y caiff y rhain eu gwella ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dosbarthwyd holiadur yn ddiweddar i xxx pennaeth gwasanaeth a rheolwr i gasglu barn ar brosesau rheoli perfformiad presennol y Cyngor ac awgrymiadau ar sut y gellir eu gwella.
Mae heriau sylweddol yn wynebu'r Cyngor, yn enwedig o ran cynllunio ariannol a chynllunio'r gweithlu, a her briodol o berfformiad y gwasanaeth
23 Ym mis Awst 2011, cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol lythyr Diweddariad Asesu Corfforaethol i'r Cyngor. Nododd y llythyr sylwadau ar ddatblygiadau ers yr adroddiadau blaenorol, a chadarnhaodd yr Archwilydd Cyffredinol ei fod yn fodlon bod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau o xxx y mesur ac yn debygol o gydymffurfio â'i ofynion yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae'r asesiad hwn yn seiliedig ar ein canfyddiadau:
• Derbyniodd y Cyngor yr xxxx feysydd i'w gwella a nodwyd gennym yn ein asesiad 2010 ac mae'n gwneud cynnydd rhesymol wrth fynd i'r afael â hwy (gweler Atodiad 5).
• Mae'r Cyngor yn mynd i'r afael â gwelliannau angenrheidiol i reoli adnoddau dynol, ond mae trefniadau strategol megis cynllunio'r gweithlu heb eu datblygu'n ddigonol o hyd.
• Mae'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn gam ymlaen i'r Cyngor, ond nid yw wedi'i ddatblygu'n dda na wedi'i ymgorffori yn y prosesau cynllunio tymor canolig neu wella gwasanaethau.
• Gall y Cyngor ddangos ymrwymiad cryf i ymgysylltu â'r cyhoedd. Fodd bynnag, nid oes ganddo gyfeiriad strategol clir na fframwaith ar waith eto i gynnal ymagwedd gynaliadwy at ymgysylltu â'r cyhoedd yn effeithiol.
• Mae'r Cyngor yn croesawu'r agenda partneriaeth a chydweithio a hyrwyddir gan Lywodraeth Cymru, ac yn sefydlu seiliau da i symud gwasanaethau ymlaen ac i gyflawni arbedion effeithlonrwydd.
• Nid yw trefniadau craffu'n ddigon effeithiol eto i hwyluso her gadarn i berfformiad gwasanaethau er bod y Cyngor yn gweithio i ddatblygu sgiliau aelod ac i wella gwybodaeth er mwyn i'r materion cywir gael eu harchwilio'n effeithiol ar yr adeg iawn.
• Mae'r Cyngor yn ymgorffori fframwaith rheoli perfformiad newydd, ond nid yw data perfformiad yn ddigon cadarn i fod â xxxxx yn ei ddefnydd i fesur a monitro cyflawniad y Cyngor o'i flaenoriaethau gwella.
• Mae trefniadau'r Cyngor ar gyfer datblygu, defnyddio a chefnogi technoleg yn debygol o gefnogi gwelliant parhaus.
• Amlygodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg fethiannau o ran gallu'r Cyngor i fodloni gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg, ac nid yw'r Cyngor wedi datblygu cynllun sy'n bodloni ei bryderon eto.
Mae'r Cyngor yn mynd i'r afael â gwelliannau angenrheidiol i reoli adnoddau dynol, ond mae trefniadau strategol megis cynllunio'r gweithlu heb eu datblygu'n ddigonol o hyd
24 Mae agweddau gwerthuso swyddi a rheoli adnoddau dynol rhaglen effeithlonrwydd y Cyngor wedi rhoi pwysau sylweddol ar adnoddau canolog adnoddau dynol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Effeithiwyd ar gynnydd mewn meysydd strategol, megis strategaeth datblygu'r gweithlu, trefniadau cynllunio olyniaeth a chynllunio datblygiad personol, o ganlyniad, a bu'r cynnydd yn gyfyngedig.
25 Ym mis Rhagfyr 2010, ar gais y Cyngor, cynhaliodd Gwella a Datblygu Llywodraeth Leol (IDeA gynt) adolygiad gan gymheiriaid o reoli pobl o fewn y Cyngor. Nododd yr adolygiad nifer o feysydd i'w gwella, gan gynnwys cynllunio'r gweithlu. Mae'r Cyngor wedi gwneud rhywfaint o gynnydd mewn sawl xxxx a awgrymwyd ar gyfer gwelliant, ond nid oes cynllun gweithredu penodol ar waith i fynd i'r afael â'r argymhellion.
26 Fel rhan o'i ymateb i ganfyddiadau'r adroddiad, mae'r Cyngor wedi ailstrwythuro ei wasanaeth adnoddau dynol er mwyn hwyluso ei strategaeth o symud i swyddogaeth adnoddau dynol hunanwasanaeth yn well gyda chefnogaeth adnoddau dynol technegol a phroffesiynol a ddarperir gan y ganolfan. Mae'r newidiadau hyn yn rai diweddar, ac mae gofyn bod y rheolwyr yn cymryd perchnogaeth gynyddol o agweddau adnoddau dynol ar eu cyfrifoldebau rheoli.
27 Mae'r Cyngor yn cydnabod yr angen am welliannau yn ei ddata adnoddau dynol sylfaenol, ac mae yn y broses o uwchraddio ei system rheoli data adnoddau dynol.
Mae'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn gam ymlaen i'r Cyngor, ond nid yw wedi'i ddatblygu'n dda na wedi'i ymgorffori yn y prosesau cynllunio tymor canolig neu wella gwasanaethau
28 Xxx xxx y Cyngor ddealltwriaeth gadarn o'i safle ariannol yn y tymor canolig, gan nodi bwlch ariannu o £995,000 yn 2011-12,
£3,671,000 yn 2012-13 a £4,248,000 yn
2013-14. Mae'r dadansoddiad hwn o sefyllfa ariannol y Cyngor dros y cyfnod o dair blynedd yn seiliedig ar fodelau gwasanaeth cyfredol.
29 Cynyddwyd ymwybyddiaeth gyffredinol staff ac aelodau o'r sefyllfa ariannol yn y tymor canolig drwy gyflwyniadau gan dîm arweinyddiaeth y Cyngor a chyfranogiad aelodau'r Cyngor mewn gweithdai effeithlonrwydd a thrwy gymeradwyaeth y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.
30 Xxx xxx y Cyngor xxxxx o gyflawni yn erbyn ei gyllideb flynyddol, ac ar gyfer 2010-11, mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau'n adrodd tanwariant yn erbyn y gyllideb, ac mae'r arbedion y mae eu xxxxxx ar gyllideb 2011- 12 yn cael eu cyflwyno yn gynt na'r disgwyl. Fodd bynnag, hyd yma, nid yw'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig wedi cael ei ddefnyddio fel ffordd i reoli'r bwlch ariannu mae'n nodi.
31 Yn unol â hynny, tra bod y Cyngor wedi nodi'r angen am newid yn erbyn cefndir y dirywiad economaidd a bod nifer o brosiectau gyda'r nod o leihau costau yn y Cyngor wedi cael eu
cychwyn, rhaid cael aliniad agosach rhwng blaenoriaethau'r Cyngor, y broses cynllunio ariannol a'r rhaglen effeithlonrwydd. Yn ogystal, rhaid cynnal cynllunio senario'n fwy manwl er mwyn asesu a blaenoriaethu risgiau ariannol yng nghyd-destun amrywiaeth o amgylchiadau posib.
32 Mae'r Cyngor yn y broses o adolygu'r gallu o fewn ei adran gyllid i ddatblygu'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ymhellach, ac i reoli'r heriau ariannol sylweddol y mae'n eu hwynebu yn yr amgylchedd economaidd presennol.
Gall y Cyngor ddangos ymrwymiad cryf i ymgysylltu â'r cyhoedd. Fodd bynnag, nid oes ganddo gyfeiriad strategol clir na fframwaith ar waith eto i gynnal ymagwedd gynaliadwy at ymgysylltu â'r cyhoedd yn effeithiol
33 Mae'r Cyngor wedi ymrwymo'n gryf i ymgysylltu â'r cyhoedd fel ffordd o alluogi ac annog deialog a dadl agored gyda'r cyhoedd. Er enghraifft, wrth osod blaenoriaethau'r gyllideb ar gyfer 2011, cynhaliodd aelodau'r Cabinet, gan gynnwys yr arweinydd, drafodaethau ar y stryd gydag aelodau o'r cyhoedd. Mae swyddogion ac aelodau ei weld fel proses hanfodol i nodi barn y cyhoedd yn ystod adegau o newid i ddarpariaeth gwasanaeth ac i helpu i nodi blaenoriaethau allweddol y Cyngor.
34 Mae'r Cyngor yn gwerthfawrogi egwyddorion a manteision tryloywder, trafodaeth agored a chonsensws ac yn buddsoddi symiau sylweddol o amser swyddogion ac aelodau i hysbysu ac ymgynghori â'i gyhoedd. Er enghraifft, cylchdrodd y Cyngor leoliad cyfarfodydd y Cabinet ar draws y sir er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch i'r cyhoedd.
35 Er gwaethaf ymrwymiad gwirioneddol gan y Cyngor i hysbysu ac ymgynghori a'i gyhoedd, mae cyflwyno'r uchelgais hwn wedi'i rwystro ar hyn o bryd gan ddiffyg eglurder a strategaeth. Mae'r Cyngor yn awyddus i annog prif-ffrydio egwyddorion a gweithgarwch ymgysylltu â'r cyhoedd, er mwyn i wasanaethau allu sicrhau bod craffu a thrafodaeth briodol am gynlluniau i newid gwasanaethau. Fodd bynnag, mae diffyg strategaeth yn cael effaith uniongyrchol ar allu'r Cyngor i brif-ffrydio gweithgarwch ymgysylltu â'r cyhoedd yn effeithiol. Nid oes unrhyw ysgogiad i sefydlu safonau corfforaethol i asesu a gwerthuso ansawdd ac effeithiolrwydd gweithgarwch ymgysylltu â'r cyhoedd neu ganllawiau gweithdrefnol sylfaenol sydd yn eu lle i amlinellu'r broses neu'r dull deiwsol o ymgysylltu. Nid oes unrhyw gyfrwng cyffredinol i gynllunio neu raglennu tymor hir ar ba weithgarwch ymgysylltu a gynhelir yn y flwyddyn sydd i ddod. Mae pob enghraifft o ymgysylltu â'r cyhoedd a roddwyd yn ymddangos fel ymateb i ofynion uniongyrchol prosiect neu gynnig yn yr xxxxx xxxx arnynt i geisio barn y dinasyddion.
Mae'r Cyngor yn croesawu'r agenda partneriaeth a chydweithio a hyrwyddir gan Lywodraeth Cymru, ac yn sefydlu seiliau da i symud gwasanaethau ymlaen ac i gyflawni arbedion effeithlonrwydd
36 Ers i ni adrodd ym mis Awst 2011, mae'r Cyngor wedi gwneud cynnydd cadarnhaol i gydnabod pwysigrwydd cydweithio wrth ddarparu ei wasanaethau, ac mae'n lleoli ei hun yn dda mewn perthynas â'r agenda hon. Er enghraifft, mae'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol yn mynd i gyfarfodydd y Xxx Rheoli Gweithredol ar Fwrdd Iechyd Cwm Taf, ac mae'r Cyngor ar hyn x xxxx yn gweithio gyda staff iechyd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl i wella gwasanaeth y Cyngor mewn perthynas ag ail-alluogi ac adsefydlu dinasyddion sy'n gadael yr ysbyty.
37 Ar lefel strategol, adolygodd y Cyngor xx xxxx bartneriaethau'n ddiweddar, gan sefydlu un 'Bwrdd Partneriaeth'. Mae'r Bwrdd hwn yn cynnwys yr hen Fwrdd Iechyd, Bwrdd Gofal Cymdeithasol a Lles, y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc a'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Mae'r Bwrdd newydd wedi'i
gyd-gadeirio gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol ar y Cyngor a'r Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus yng Nghwm Taf, ac mae ei aelodau'n cynnwys partneriaid iechyd, yr heddlu, y sector gwirfoddol a phartneriaid eraill.
38 Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol, a sefydlwyd ar y cyd gyda Bwrdd Iechyd Cwm Taf, Heddlu De Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a'r sector gwirfoddol rai blynyddoedd yn ôl, xxxxxxx yn datblygu i gefnogi'r Fframwaith Cydweithredu Rhanbarthol newydd, a bydd yn cael ei gadeirio gan Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Xxxxx Xxxxxxx. Xxx hyn yn dangos bod y
Cyngor yn cefnogi agenda cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar wasanaethau a rennir ac i sicrhau arbedion effeithlonrwydd.
Nid yw trefniadau craffu'n ddigon effeithiol eto i hwyluso her gadarn i berfformiad gwasanaethau er bod y Cyngor yn gweithio i ddatblygu sgiliau aelodau ac i wella gwybodaeth er mwyn i'r materion cywir gael eu harchwilio'n effeithiol ar yr adeg iawn
39 Yn ddiweddar, cyflwynodd y Cyngor drefniant craffu perfformiad xxx chwarter fel rhan o'i broses herio a monitro perfformiad. Mae'r egwyddor hon yn gam cadarnhaol ac yn un a argymhellir fel arfer da. Fodd bynnag, yn seiliedig ar ein harsylwadau o gynnal y cyfarfodydd hyn, mae llawer i'w wneud o hyd i'r broses hon ddarparu her effeithiol a helpu i wella perfformiad.
40 Gall y ffordd y cyflwynir y data perfformiad mewn cyfarfodydd ei wneud yn anodd i gynghorwyr ganolbwyntio ar feysydd y maent eisiau gofyn cwestiynau amdanynt neu eu herio. Gan bod ffocws y cyfarfodydd ar adolygiad trwy eithriad - hynny yw, y meysydd 'coch' o xxx system goleuadau traffig - mae rhagdybiaeth bod yr xxxx feysydd 'gwyrdd' wedi cael eu hadrodd yn gywir, ac nad ydynt yn cyfiawnhau adolygiad. Hefyd, mae cyfarfodydd yn canolbwyntio'n bennaf ar gyflawni tasgau allweddol ar draul ystyriaeth briodol o fesurau perfformiad allweddol a'u targedau cysylltiedig. Byddai o fudd i drafod crynodeb gyffredinol o berfformiad ar ddechrau'r cyfarfod er mwyn gallu nodi ac ystyried y materion mwy strategol yn hytrach na chanolbwyntio ar y manylion yn rhy gyflym wrth drafod.
41 Er bod rhai cwestiynau da gan gynghorwyr o ran craffu ar berfformiad y Cyngor a adroddwyd, gellir derbyn yr ymateb gan swyddogion yn rhy hawdd heb gynhyrchu unrhyw gamau pellach neu gwestiynau pellach. Er enghraifft, pan ddywedwyd na fyddai'r targedau gwastraff cenedlaethol yn cael eu bodloni, hyd yn oed gyda newidiadau i'r contract ailgylchu cyfredol a chyflwyno casgliadau xxx pythefnos, ni wnaeth aelodau herio'r sefyllfa hon ymhellach.
42 Yn fwy cyffredinol, mae pwyllgorau craffu'n datblygu rhaglenni gwaith sy'n cyd-fynd yn glir â'r Blaenoriaethau Corfforaethol ar gyfer Gwella. Er enghraifft, canfuom dystiolaeth y gwnaeth craffu gais am gyflwyniadau gan ysgolion lle mae presenoldeb yn wael i fynd i'r afael â rhai o argymhellion arolygiad Estyn 2010, a gwnaeth y cadeirydd craffu y pennaeth a chadeirydd y llywodraethwyr yn atebol am bresenoldeb gwael yn yr ysgol. Mae'r dull hwn yn dangos bod y Cyngor yn cymryd ei gyfrifoldeb corfforaethol o ddifrif a bod ysgolion a dargedir yn dechrau gweld manteision yr ymagwedd hon drwy well presenoldeb.
43 Mae'r Cyngor wedi cydnabod ers peth amser bod rhaid cryfhau rôl a swyddogaeth craffu. Mae'n gweithio gyda Swyddfa Archwilio Cymru, ynghyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), i helpu i ddatblygu'r trefniadau craffu cyfredol. Mae cyfres o weithdai a rhaglenni hyfforddi cymorth a her ar y gweill, wedi'u cynllunio i ategu gwaith gwerthfawr xxx cefnogi craffu'r Cyngor.
44 Nod ein gwaith yw helpu'r Cyngor i wneud y defnydd gorau o'r amser a dreulir ar graffu, a chyflawni gwelliannau penodol y mae wedi'u nodi y xxx xxxxx amdanynt, sy'n cynnwys:
• canolbwyntio rhaglenni gwaith craffu ar ganlyniadau a'u heffaith ar gyfer dinasyddion Merthyr Tudful;
• sicrhau bod yr wybodaeth a gyflwynir i'w graffu yn berthnasol, yn gymesur ac yn amserol; a
• gwneud y gorau o fanteision cyfleoedd hyfforddi aelodau a defnyddio'r dysgu i wella effeithiolrwydd craffu.
Mae'r Cyngor yn ymgorffori fframwaith rheoli perfformiad newydd, ond nid yw data perfformiad yn ddigon cadarn i fod â xxxxx yn ei ddefnydd i fesur a monitro cyflawniad y Cyngor o'i flaenoriaethau gwella
45 Mae'r Cyngor wedi buddsoddi llawer o amser ac ymdrech wrth weithredu fframwaith rheoli perfformiad diwygiedig, gan ddefnyddio'r system Ffynnon. Mae'r fframwaith newydd yn rhesymegol, ond yn cofnodi gwybodaeth ar sail gwasanaeth, ac nid yw'n addas iawn ar gyfer camau gweithredu trawsbynciol neu a rennir lle mae nifer o wasanaethau'n cyfrannu at gyflawni amcanion gwella. Fodd bynnag, dylai alluogi alinio cynllunio gwasanaethau â'r Blaenoriaethau Corfforaethol ar gyfer Gwella, gan gynnwys amrywiaeth o ddangosyddion perfformiad er mwyn monitro cynnydd o ran cyflawni ei amcanion.
46 Fel rhan o'n harchwiliad statudol o wybodaeth am berfformiad, nodom bod pryderon sylweddol ynghylch cadernid rhywfaint o ddata perfformiad y Cyngor. Adroddodd yr Archwilydd Penodedig fod ei archwiliad o'r dangosyddion y mae'r Cyngor yn eu defnyddio i fesur perfformiad yn dibynnu ar waith a wneir gan y Cyngor. Nododd y gwaith hwn wendidau yn y systemau sydd ar waith ar gyfer casglu'r data a gwirio ei ansawdd. Rhaid cynnal gwaith pellach i ddatrys y materion hyn er mwyn i'r Cyngor a'i randdeiliaid i xxxx xxxxx yng nghywirdeb y data a ddefnyddir i fesur a monitro cyflawniad y Cyngor o'i flaenoriaethau gwella.
47 Cyflwynwyd cynllunio busnes ar gyfer 2011- 2014 ar draws y Cyngor ar lefelau strategol a gweithredol, a dechreuwyd monitro perfformiad yn chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol 2011-12. Wrth barhau i ddatblygu a sefydlu ei drefniadau rheoli perfformiad, bydd rhaid i'r Cyngor werthuso cynnydd ar gamau allweddol i sicrhau bod y fframwaith newydd yn addas i'r diben, yn gymesur â'r xxxxx xx yn gynaliadwy yn y tymor hir.
48 Mae Xxx Rheoli Perfformiad y Cyngor wedi gweld gostyngiad mewn gallu o ran sgiliau a phrofiad tua diwedd y cyfnod adrodd perfformiad blynyddol. Mae'r gostyngiad hwn mewn arbenigedd wedi golygu bod llai o amser gan y xxx i herio ac i weithio gyda gwasanaethau. Cydnabyddir bod rhaid i ansawdd data a chwblhau gwybodaeth rheoli perfformiad arall fod yn gyfrifoldeb ar y xxxx gwasanaeth. Fodd bynnag, gan fod y Cyngor yn dal i ddatblygu ei ddull o reoli perfformiad, mae llai o adnoddau yn y xxx perfformiad canolog yn debygol o gael effaith negyddol ar ansawdd y data a gasglir o fewn system rheoli gwybodaeth Ffynnon.
49 Yn ddiweddar, cyflwynodd xxx Archwilio Mewnol y Cyngor bapur i'r Bwrdd Gweithredol yn amlygu'r materion data hyn ac yn nodi nifer o argymhellion i wella'r sefyllfa hon. Bydd yn bwysig bod y Cyngor yn mabwysiadu ac yn gweithredu'r argymhellion hyn yn gyflym er mwyn sicrhau bod xxxxx yn y system rheoli perfformiad presennol a'r data sydd ynddi.
Mae trefniadau'r Cyngor ar gyfer datblygu, defnyddio a chefnogi technoleg yn debygol o gefnogi gwelliant parhaus
50 Yn ein hadolygiad o'r ffordd y mae'r Cyngor yn defnyddio technoleg, sy'n hanfodol i drawsnewid darparu gwasanaethau cyhoeddus, i wella canlyniadau i ddinasyddion ac i gyflawni arbedion effeithlonrwydd, casglwyd bod:
• y Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd technoleg, wedi gwneud gwelliannau sylweddol i isadeiledd ei dechnoleg a xxxxxxx â'r sylfeini technoleg a'r trefniadau llywodraethu yn eu lle i gyflwyno effeithlonrwydd a sicrhau trawsnewid gwasanaeth, ond gall ddatblygu a manteisio ar dechnoleg ymhellach i wneud y gorau o fanteision ac effeithlonrwydd;
• trefniadau presennol yn gadarn gydag enghreifftiau o arfer da, ond rhaid i gynaladwyedd a chynhaliaeth y seilwaith TGCh gael xx xxxxxx â dibyniaeth gynyddol y Cyngor ar dechnoleg;
• perfformiad yn gadarn ac yn gwella, bydd ffurfioli trefniadau rheoli rhaglenni a defnyddio gwybodaeth am berfformiad yn well yn gefnogi gwelliant pellach, ond rhaid cysylltu cynnydd ac uchelgais ag adnodd medrus sydd ar gael.
Amlygodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg fethiannau o ran gallu'r Cyngor i fodloni gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg, ac nid yw'r Cyngor wedi datblygu cynllun sy'n bodloni ei bryderon eto
51 Canfu Bwrdd yr Iaith Gymraeg y llwyddodd y Cyngor i fodloni rhai o'i ymrwymiadau'n unig yn ei Gynllun Iaith Gymraeg. Cododd y prif anawsterau gyda gwefan y Cyngor a'i diffyg darpariaeth iaith Gymraeg. Esboniwyd methiannau'r wefan i'r Cyngor yn flaenorol, ac nid yw'r Bwrdd wedi gweld cynllun derbyniol ar gyfer gwella'r ddarpariaeth eto. Yn ein hadolygiad o Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2010/11 y Cyngor, nodom y bydd yr adroddiad llawn ond ar gael yn Gymraeg ar gais, er y cyhoeddodd y Cyngor fersiwn ddwyieithog o'r crynodeb cyhoeddus.
52 Mae gwaith i'w wneud o hyd ar argaeledd gwybodaeth a data am staff gyda sgiliau iaith Gymraeg, a chyda chynllunio'r gweithlu. Rhaid i'r Cyngor hefyd ganolbwyntio ar brif- ffrydio'r iaith Gymraeg i fusnes y Cyngor ac wrth gontractio gwasanaethau allanol.
53 Mae cynllun diwygiedig wedi cael ei oedi, ac mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn disgwyl y bydd y ddogfen ddiwygiedig yn cynnwys cynigion i fynd i'r afael â rhai o'r diffygion presennol mewn gwasanaethau Cymraeg.
54 Mae'r rhan hon o'r adroddiad yn amlinellu pa mor dda rydym yn credu bod y Cyngor yn gwella'i wasanaethau. Cyfeirir ein casgliadau gan y gwaith rydym wedi'i wneud eleni wrth adolygu perfformiad a chynnydd y Cyngor tuag at gyflawni ei amcanion gwella. Rydym yn adlewyrchu barn yr AGGCC mewn perthynas â gwasanaethau'r Cyngor i oedolion a phlant mewn angen, a rhai Estyn mewn perthynas â gwasanaethau addysg.
Mewn rhai agweddau ar wasanaethau i xxxxx, xxx dirywiad i berfformiad y mae'r Cyngor yn mynd i'r afael ag ef, ac mae arwyddion o welliant yn y gwasanaethau i oedolion
55 Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi dibynnu ar farn, gwaith a gwerthusiadau a gynhaliwyd gan yr AGGCC yn ystod y flwyddyn i asesu pa mor dda mae'r Cyngor yn cefnogi pobl mewn angen. Crynhoir gwerthusiadau'r AGGCC yn ei Adolygiad a Gwerthusiad Perfformiad Blynyddol 2010-11 mwyaf diweddar fel yr amlinellir mewn llythyr at Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor ym mis Hydref 2011. Crynhoir y prif gasgliadau o werthusiad yr AGGCC yn y paragraffau canlynol.
56 Mae'r duedd welliant sydd wedi nodweddu perfformiad yn y blynyddoedd diwethaf mewn perthynas ag asesu a rheoli achosion yn y gwasanaethau plant wedi lefelu, ac xxx xxxx agweddau ar berfformiad wedi dirywio. Er bod perfformiad yn dal i gymharu'n dda â gweddill Cymru mewn sawl ffordd, bydd y Cyngor yn awyddus i gymryd camau i xxxx unrhyw ddirywiad pellach ac i sicrhau ei fod yn bodloni ei rwymedigaethau statudol i xxx
plentyn. Mae tystiolaeth arolygu'n cadarnhau bod y Cyngor yn cymryd camau i wella ansawdd arfer gwaith cymdeithasol, ond mae gwaith i'w wneud o hyd, gan gynnwys sicrhau bod gweithgareddau sicrhau ansawdd yn arwain at welliant amserol.
57 Mae gwell cynllunio strategol wedi arwain at ddatblygiad sylweddol yn amrywiaeth y gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae hyn wedi galluogi'r Cyngor i ennill statws blaengaredd mewn partneriaeth ag awdurdodau cyfagos, ar gyfer y Xxx Cymorth Dwys i Deuluoedd a mentrau Teuluoedd yn Gyntaf. Mae'r mentrau hyn yn cynyddu'r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael yn sylweddol i deuluoedd mewn xxxxx, xx xxx arwyddion yn dod i'r amlwg y gallai'r rhain fod yn dechrau cael effaith gadarnhaol ar nifer y plant sy'n derbyn gofal gan y Cyngor. Mae'r mwyafrif helaeth o blant a phobl ifanc y mae'r Cyngor yn gofalu amdanynt ar hyn x xxxx yn destun gorchmynion statudol: mae cyfrifoldeb i'r plant a'r bobl ifanc hyn yn ymrwymiad rhianta corfforaethol tymor hir i'r Cyngor. Mae cyfyngiadau ar hyn x xxxx at argaeledd a dewis lleoliadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Rhaid i'r Cyngor wella hyn i gynnig lleoliadau sefydlog tymor hir sy'n galluogi plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal i gyflawni canlyniadau da. Mae cynnwys asiantaethau partner hefyd yn elfen bwysig wrth gefnogi'r plant a'r bobl ifanc hyn.
Mae'r Cyngor yn cymryd camau i wella rhai meysydd gwasanaeth allweddol megis addysg a gwasanaethau plant, ond rhaid iddo wella ei reolaeth ar wastraff
58 O fewn gwasanaethau oedolion, mae'r Cyngor wedi canolbwyntio ar gomisiynu ac ehangu'r amrywiaeth o wasanaethau a ddarperir i bobl ddiamddiffyn. Mae'r Cyngor yn gweithio i gynnwys grwpiau anodd eu cyrraedd, wedi ymgymryd ag amrywiaeth o ymarferion ymgynghori ac wedi defnyddio cefnogaeth sefydliadau allanol i ddatblygu ei sylfaen wasanaeth graidd. Mae arwyddion cadarnhaol bod ad-drefnu gwasanaethau'n gwella canlyniadau i bobl, er bod llawer mwy i'w wneud mewn rhai meysydd, megis gwasanaethau gofalwyr a darparu taliadau uniongyrchol. Mae gwaith pellach hefyd wedi'i nodi i ymgorffori systemau a phrosesau ansawdd, cysondeb comisiynu a chyflwyno cynllun gweithredu'r Cyngor ar gyfer gwasanaethau oedolion. Mae hyn yn cynnwys comisiynu llety gofal preswyl pwrpasol newydd a datblygu'r gwasanaethau llety â chymorth ymhellach.
59 Cyflawnwyd adolygiad corfforaethol o drefniadau cynllunio'r Cyngor, a datblygwyd Fframwaith Rheoli Perfformiad a Risg newydd. Mae'r fframwaith newydd ar hyn x xxxx yn y broses o gael ei gweithredu ar draws y Cyngor, ac mae cynlluniau strategol a gweithredol yn y broses o gael eu datblygu fel rhan o'r fframwaith. Mae'r Cyngor yn ystyried xx xxxxxx gyllideb gwasanaethau cymdeithasol yn gadarn. Mae'n adrodd, er gwaethaf pwysau a grëir gan natur anwadal ac anrhagweladwy y galw am wasanaethau, y caiff cyllidebau eu monitro'n ofalus ac y cymerir camau i leihau pwysau ac i nodi meysydd lle gallai adnoddau gael eu rhyddhau.
Mae'r Cyngor a'i ysgolion yn cymryd camau i wella perfformiad mewn perthynas â safonau addysg, ac mae cydweithio â phartneriaid a darparwyr allweddol yn helpu i foderneiddio gwasanaethau addysg
60 Mae'r rhan hon o'r adroddiad yn nodi pa mor dda mae'r Cyngor yn gwella'r ffordd y mae'n helpu pobl i ddatblygu. Wrth ddod at ein casgliad, rydym wedi ystyried barn Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, sydd i’w weld ym mharagraffau 61-63.
61 Pan ystyrir amrywiaeth o wybodaeth gyd- destunol, mae perfformiad yn is na'r cyfartaledd yng nghyfnodau allweddol 1, 2 a
3. Yng nghyfnod allweddol 3, roedd tri chwarter o'r xxxx ysgolion uwchradd yn y 25 y cant isaf, ac nid oes unrhyw ysgol yn uwch na'r cyfartaledd o'i chymharu ag ysgolion tebyg. Yng nghyfnod allweddol 4, mae perfformiad yn sylweddol is na'r cyfartaledd ar ddau ddangosydd, ac yn uwch na'r cyfartaledd ar eraill, er nad oes digon o ysgolion yn y 25 y cant uchaf yn gyffredinol.
62 Yn dilyn nifer o flynyddoedd pan roedd perfformiad yng nghyfnodau allweddol 3 a 4 yn seiliedig ar hawl i brydau ysgol am ddim yn bodloni neu'n rhagori ar feincnodau Llywodraeth Cymru, nid yw hyn yn wir xxxxxxx. Un targed meincnodi yn unig y rhagorwyd arno yn 2010, y flwyddyn olaf y mae data ar ei chyfer.
63 Er bod presenoldeb wedi parhau i fod yn anfoddhaol mewn ysgolion cynradd, cafwyd gwelliant da mewn presenoldeb mewn ysgolion uwchradd. Mae hyn xxxxxxx wedi cyrraedd cyfartaledd Cymru, ac mae wedi cyrraedd neu'n uwch na'r hyn y gellid ei ddisgwyl. Mae nifer y gwaharddiadau parhaol o ysgolion yn parhau i fod yn isel iawn. Fodd bynnag, mae nifer cyfartalog y diwrnodau a gollwyd trwy xxx cyfnod penodedig o waharddiad ym Merthyr Tudful yn dal i dyfu tra bo cyfartaledd Cymru'n lleihau.
64 Mae'r Cyngor wedi ymgysylltu â chwmni sector preifat, sefydliad sy'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi gwaith yr uned Safonau Ysgolion. Fe'u comisiynwyd gan y Cyngor i gynnal adolygiad yn canolbwyntio ar wella safonau a chanlyniadau lles yn ysgolion Merthyr Tudful. Mae'r Cyngor yn defnyddio'r adolygiad hwn i nodi arfer da ar draws y fwrdeistref sirol ac i'n helpu i nodi meysydd i'w datblygu.
65 Mae'r Cyngor wedi gweithio ar y cyd â Chonsortiwm De Canolog a Bwrdd Rhaglen Addysg Blaenau'r Cymoedd i symud gwasanaethau addysg yn eu blaenau. Mae hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Morgannwg a Choleg Merthyr i gefnogi moderneiddio ei ddarpariaeth chweched dosbarth, a elwir yn Ardal Ddysgu Merthyr.
Er bod rheoli gwastraff yn flaenoriaeth cydnabyddedig i'r Cyngor, rhaid lleihau swm y gwastraff mae'n ei anfon i safleoedd tirlenwi
66 Mae'r rhan hon o'r adroddiad yn nodi pa mor dda mae'r Cyngor yn gwella'r ffordd y mae'n creu ac yn cynnal yr ardal fel lle diogel, llewyrchus a dymunol. Eleni, canolbwyntiodd ein gwaith ar werthuso pa mor dda mae'r Cyngor yn perfformio ar gasglu ac ailgylchu ei wastraff trefol.
67 Mae rheoli gwastraff ac ailgylchu yn her i'r xxxx gynghorau oherwydd bod targedau Llywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd yn dod yn fwyfwy heriol, ac yn cynnwys cosbau ariannol sylweddol. Mae'r Cyngor yn cydnabod yr her hon ac yn ceisio rhoi sylw iddo trwy sefydlu systemau rheoli gwastraff ac ailgylchu fel blaenoriaeth gorfforaethol, ond mae cynnydd ar ei hôl hi o'i gymharu â blaenoriaethau corfforaethol eraill a chynghorau eraill Cymru.
68 Mae'r Cyngor yn dda iawn am ailgylchu gwastraff cartref mewn safleoedd amwynder, ond mae dangosyddion yn dangos bod perfformiad gwael yn parhau mewn llawer o feysydd allweddol rheoli gwastraff ac ailgylchu, lle mae'r Cyngor yn chwartel isaf cynghorau Cymru. Mae'r Cyngor hefyd mewn perygl o fynd yn fwy na'r lwfans tirlenwi a chael dirwyon canlyniadol gan Lywodraeth Cymru.
69 Mae meincnodi costau gwastraff yn dangos cyfartaledd costau ar gyfer y rhan fwyaf o elfennau darpariaeth gwasanaeth, ond mae'r gost o gasglu ailgylchu ymyl y ffordd o xxx cartref a wasanaethir yn gymharol uchel. Xxx xxxx arwyddion calonogol bod y Cyngor wedi gwella effeithiolrwydd casgliadau gwastraff, ond rhaid cynnal adolygiad o safleoedd amwynder gwastraff cartref.
70 Wrth ymuno â Rhaglen Newid Cydweithredol Llywodraeth Cymru, mae cyfle i'r Cyngor ddysgu gan eraill a rhannu arfer da i wella'i wasanaethau gwastraff yn y dyfodol. Mae'r Cyngor yn gweithio ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf tuag at y broses o gaffael y gallu angenrheidiol i drin gwastraff bwyd a gwastraff gweddilliol i gyflawni targedau gwastraff ar ôl 2014, ac i sicrhau rheoli gwastraff mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
71 Tynnodd Gwastraff Covanta yn ôl yn ddiweddar o gynnig i adeiladu gwaith ynni o wastraff ger Merthyr Tudful, ac mae'r Cyngor yn cynnal trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth Cymru am ariannu amgen a chyfleoedd ar y cyd. Mae'r Cyngor yn cydnabod bod y caffaeliadau hyn yn hanfodol ac y gallai unrhyw oedi hir olygu cosbau ariannol i'r Cyngor am fethu â bodloni targedau dargyfeirio gwastraff ac ailgylchu statudol.
72 Mae Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2010/11 y Cyngor yn adrodd y cynnydd yn erbyn y gyfres o dasgau a mesurau y cytunwyd arni o xxx xxx blaenoriaeth gorfforaethol. Mae'r tasgau a'r mesurau wedi'u crynhoi yn adran gychwynnol adroddiad y Cyngor ac wedi'u hatgynhyrchu yn Arddangosyn 1.
Arddangosyn 1: Crynodeb o gyflawniad y Cyngor o dasgau a mesurau allweddol a gynlluniwyd i'w cwblhau yn 2010-11 ar gyfer pob blaenoriaeth gorfforaethol
Blaenoriaeth gorfforaethol | Tasgau allweddol a gwblhawyd | Mesurau allweddol a fodlonwyd | |||
Rhif | Y cant | Rhif | Y cant | ||
1 | Adfywiad Cymdeithasol, Economaidd a Ffisegol | 21 o 22 | 95% | 21 o 22 | 95% |
2 | Ffocws Cwsmeriaid a Chynnwys Cwsmeriaid | 17 o 21 | 81% | 3 o 3 | 100% |
3 | Bywydau Bodlon a Chymunedau Cefnogol | 29 o 30 | 97% | 18 o 22 | 82% |
4 | Diogelwch Cymunedol | 14 o 15 | 93% | 3 o 7 | 43% |
5 | Tai o Ansawdd Da | 5 o 6 | 83% | 3 o 5 | 60% |
6 | Ailgylchu a Rheoli Gwastraff | 5 o 7 | 71% | 6 o 11 | 55% |
7 | Gwasanaethau Cyhoeddus Effeithlon | 0 o 1 | 0% | 4 o 5 | 80% |
8 | Isadeiledd gan gynnwys Priffyrdd | 1 o 3 | 33% | 3 o 3 | 100% |
9 | Cyfleoedd Dysgu o Ansawdd Uchel | 18 o 19 | 95% | 7 o 11 | 64% |
Asesiad cyffredinol | 110 o 124 | 89% | 68 o 89 | 76% |
Ffynhonnell: Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2010/11
Nid yw Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor eto'n rhoi darlun cytbwys o’i berfformiad neu'n esbonio effaith y perfformiad gwael yn ddigonol
73 Yn gynharach yn yr adroddiad hwn (gweler paragraffau 19-22) nodwn ein pryderon nad yw'r Cyngor wedi alinio'r tasgau a'r mesurau llwyddiant y bwriedir iddynt gefnogi cyflawni ei Blaenoriaethau Corfforaethol ar gyfer Gwella. Mae ein hadolygiad o Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2010/11 y Cyngor yn dangos ymhellach nad yw'r berthynas rhwng y tasgau a gwblhawyd a'r mesurau a gyflawnwyd wedi'u halinio'n briodol. Yn aml, mae canran sylweddol uwch o dasgau a gyflawnir na mesurau cysylltiedig. Mae enghreifftiau da o hyn yn cynnwys blaenoriaethau corfforaethol Diogelwch Cymunedol, Ailgylchu a Rheoli Gwastraff a Chyfleoedd Dysgu.
(Arddangosyn 1). Er y gellir esbonio rhywfaint o'r diffyg aliniad hwn gyda materion amseru o ran pryd y mae'r tasgau i gael eu cwblhau, mae'n cadarnhau ein barn y dylai'r Cyngor adolygu'r berthynas rhwng y tasgau, y mesurau a'r canlyniadau hyn.
74 Mae anghysondeb hefyd yn y ffordd y mae'r Cyngor yn adrodd am gynnydd wrth gwblhau tasgau/prosiectau allweddol, yn enwedig mewn perthynas â phrosiectau tymor hir sy'n symud trwy wahanol gamau gweithredu a datblygu, a lle mae prosiectau wedi cael eu gohirio. Er enghraifft, xxx xxxx prosiectau sydd wedi cael eu gohirio yn cael eu marcio fel rhai a gwblhawyd tra bod eraill sydd wedi'u marcio fel rhai a gwblhawyd ond wedi cwblhau cam dichonoldeb. Ar gyfer nifer sylweddol o dasgau, mae dyddiad cwblhau'r gwaith ar ryw bwynt y tu hwnt i 2010-11, felly nodwyd 'nid yw'n ddyledus eto'. Nid yw'r adroddiad yn nodi a yw'r tasgau hyn ar amser neu fel arall.
75 Nid yw'r Cyngor yn defnyddio data cymharol yng nghorff ei Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2010/11, yn hytrach, mae dangosyddion strategol cenedlaethol/craidd wedi'u cynnwys mewn adran arunig. Xxxxx, xxx'n anodd penderfynu ar berfformiad o'i gymharu ag eraill. Mae hyn wedi arwain at golli cyfleoedd i roi perfformiad mewn cyd- destun o bersbectif cadarnhaol a negyddol. Er enghraifft, mae'r Cyngor yn nodi'n gywir ei fod wedi methu â chyflawni ei darged ar gyfer nifer y disgyblion a waharddwyd yn barhaol o'i ysgolion uwchradd. Fodd bynnag, o'i gymharu â chynghorau eraill Cymru, mae hwn yn faes lle mae perfformiad y Cyngor yn uwch na'r cyfartaledd. Ar y llaw arall, xx xxxx rheoli gwastraff, mae'r Cyngor yn adrodd yn gywir ei fod wedi methu â chyflawni ei dargedau, ond nid yw'n darparu'r cyd-destun bod ei berfformiad ymysg y gwaethaf yng Nghymru.
76 Lle mae'r perfformiad a adroddwyd wedi bod yn wael, boed oherwydd methu â chwblhau tasgau neu gyflawni targedau, nid yw pob gwasanaeth yn rhoi esboniad digonol o'r rhesymeg nac, yn bwysicach, effaith y perfformiad gwael. Mae enghraifft dda o hyn o fewn rheoli gwastraff, lle nad yw'r naratif o amgylch tanberfformio'n nodi'r rhesymeg neu'r effaith. Mae'r Cyngor yn ymwybodol o'r materion pwysig o amgylch cyflawni targedau gwastraff cenedlaethol a'r dirwyon posib os na chaiff y gwastraff i safleoedd tirlenwi ei leihau. Er bod Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2010/11 yn tynnu sylw at dargedau a fethwyd, nid yw'n mynegi arwyddocâd y materion hyn yn ddigonol, nac ychwaith fod gan y Cyngor un o'r perfformiadau ailgylchu gwaethaf yng Nghymru. Nid oes unrhyw gamau adferol wedi'u cynllunio i wella'r perfformiad a ddisgrifiwyd chwaith.
77 Rhaid i'r Cyngor sicrhau bod y targedau perfformiad mae'n eu gosod yn ddigon cadarn, ac wrth adrodd ar gynnydd cymharol yn Adroddiad Blynyddol Perfformiad 2010-11, mae hyn wedi'i osod yn xxxxx xxx-destun o flwyddyn i flwyddyn a pherfformiad cymharol. Er bod Xxx Rheoli Perfformiad y Cyngor wedi darparu arweiniad ar bennu targedau, mae pennu targedau'n amrywio ar draws y gwasanaethau. Mae'r amrywiaeth hon yn cynnwys targedau nad ydynt yn ddigon ymestynnol, targedau sy'n ymddangos yn rhy ymestynnol a thargedau yr ymddangosir eu bod yn seiliedig ar ddata anghywir.
78 Mae'r mesur yn gofyn bod cynghorau'n fwy hunan-feirniadol ac arfarnol o ran sut y maent yn darparu eu gwasanaethau. Xxxxxxx, rhaid i gynghorau ganolbwyntio'n llawer mwy clir ar amcanion gwella a nodwyd ac effaith gwasanaethau wedi'u gwella ar ddinasyddion, gan sicrhau bod dinasyddion yn cydnabod bod canlyniadau gwell wedi'u cyflawni. Nid yw Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2010-2011 yn nodi sut y caiff meysydd o danberfformio eu trin yn y dyfodol. Byddai adran ar gynllunio ar gyfer y dyfodol yn ddefnyddiol wrth symud materion y mae'r Cyngor wedi dod yn ymwybodol ohonynt ymlaen trwy gyflawni'r hunanasesiad hwn.
79 Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi penderfynu bod y Cyngor wedi cyflawni xx xxxx ddyletswyddau mewn perthynas â chyhoeddi gwybodaeth am welliannau. O ran ei hunanasesiad o'i berfformiad, byddwn yn parhau i weithio gyda'r Cyngor i wella i xx xxxxxx y xxx'n cydymffurfio â chyfarwyddyd y Llywodraeth Cymru ymhellach.
Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (y Mesur) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol ymgymryd ag Asesiad Gwella blynyddol, ac i gyhoeddi Adroddiad Gwella Blynyddol, ar gyfer pob awdurdod gwella yng Nghymru. Mae’r gofyniad hwn yn cynnwys cynghorau lleol, parciau cenedlaethol, ac awdurdodau tân ac achub.
Mae’r adroddiad hwn wedi’i lunio gan yr Archwilydd Cyffredinol i gyflawni ei ddyletswyddau o xxx xxxxx 24 y Mesur. Mae’r adroddiad hwn hefyd yn cyflawni dyletswyddau o xxx xxxxx 19 i gyhoeddi adroddiad sy’n ardystio ei fod wedi cynnal Asesiad Gwella o xxx xxxxx 18 a datgan a ydyw, o ganlyniad i’w archwiliad o’r cynllun gwella o xxx xxxxx 17, o’r farn fod yr awdurdod wedi cyflawni ei ddyletswyddau cynllunio gwelliant o xxx xxxxx 15.
Xxx xxx awdurdodau gwella ddyletswydd gyffredinol i ‘wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus wrth arfer [eu] swyddogaethau’. Diffinnir awdurdodau gwella fel cynghorau lleol, parciau cenedlaethol, ac awdurdodau tân ac achub.
Yr Asesiad Gwella blynyddol yw’r prif ddarn o xxxxx xx’n galluogi’r Archwilydd Cyffredinol i gyflawni ei ddyletswyddau. Caiff yr Asesiad Gwella ei lywio gan asesiad blaengar o ba mor debygol yw awdurdod o gydymffurfio â’i ddyletswydd i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus. Mae hefyd yn cynnwys asesiad ôl-weithredol i weld a yw awdurdod wedi cyflawni’r gwelliannau a gynlluniwyd ganddo er mwyn llywio barn ynglŷn â sut lwyddodd yr awdurdod i wella. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi crynodeb o gasgliadau’r Archwilydd Cyffredinol am hunanasesiad y Cyngor o’i berfformiad.
O xxx xxx amgylchiadau gall yr Archwilydd Cyffredinol hefyd gynnal arolygiadau arbennig (o xxx xxxxx 21), a bydd yn cyflwyno adroddiad amdanynt i’r awdurdodau a’r gweinidogion perthnasol, a gall eu cyhoeddi (o xxx xxxxx 22). Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn crynhoi adroddiadau archwilio ac asesu yn yr Adroddiad Gwella Blynyddol cyhoeddedig hwn (o xxx xxxxx 24). Bydd hwn hefyd yn crynhoi unrhyw adroddiadau arolygiadau arbennig.
Un o weithgareddau atodol pwysig Swyddfa Archwilio Cymru yw cydgysylltu gwaith asesu a gwaith rheoleiddio (sy'n ofynnol o xxx xxxxx 23), sy'n ystyried rhaglen waith gyffredinol pob rheoleiddiwr perthnasol mewn awdurdod gwella. Fe all yr Archwilydd Cyffredinol hefyd ystyried gwybodaeth a rennir gan reoleiddwyr perthnasol (o xxx xxxxx 33) yn ei asesiadau.
Atodiadau
Atodiad 1
Statws yr adroddiad hwn
Y Cyngor
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gwario tua £107 miliwn y flwyddyn (2010-11). Mae hyn yn cyfateb i tua £1,921 y preswylydd. Yn yr un flwyddyn, mae'r Cyngor hefyd yn gwario £15.662 miliwn ar eitemau cyfalaf.
Cyfartaledd y dreth gyngor band D yn 2010-11 ar gyfer Merthyr Tudful oedd £1,144.08 y flwyddyn. Mae hyn wedi cynyddu gan 3.2 y cant i £1,180.69 y flwyddyn ar gyfer 2011-12. Mae 93 y cant o'r anheddau yn y fwrdeistref sirol ym mandiau treth cyngor A i D.
Mae'r Cyngor yn cynnwys 33 o aelodau etholedig sy'n cynrychioli'r gymuned ac yn gwneud penderfyniadau ynghylch blaenoriaethau a'r defnydd o adnoddau. Dyma yw cyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor:
• 15 Annibynnol
• 10 Llafur
• 3 Annibynnol Merthyr
• 4 Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
• 1 Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (UKIP)
Prif Weithredwr Merthyr Tudful yw Xxxxxx Xxxxxxx, a dau gyfarwyddwr y Cyngor yw:
• Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol: Xxxxxxxx Xxxxxxxxx
• Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Gwsmeriaid: Xxxx Xxxxxx
Gwybodaeth arall
Aelod Cynulliad Etholaeth Merthyr Tudful yw:
• Xxx Xxxxx, Merthyr Tudful a Rhymni, Plaid Lafur
Aelodau Cynulliad Rhanbarthol Dwyrain De Cymru yw:
• Xxxxxxxx Xxxxxx, Plaid Geidwadol Cymru
• Xxxxxxx Xxxxxx, Plaid Cymru
• Xxxxxxx Xxxxxx, Plaid Geidwadol Cymru
• Xxxxxxx Xxxxxxx, Plaid Cymru
Atodiad 2
Gwybodaeth ddefnyddiol am Ferthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Yr Aelod Seneddol dros Ferthyr Tudful yw:
• Dai Harvard, Merthyr Tudful a Rhymni, Plaid Lafur
Am ragor o wybodaeth, gweler gwefan y Cyngor ei hun yn xxx.xxxxxxx.xxx.xx neu cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful CF47 8AN.
Cyhoeddodd yr archwilydd a benodwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol y llythyr archwilydd canlynol ar 30 Tachwedd 2011.
Yr Arweinydd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful Y Ganolfan Ddinesig
Stryd y Castell Merthyr Tudful CF47 8AN
Xxxxxx Xxxxxxxxxx Xxxxxxx
Llythyr Archwilio Blynyddol i Aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Fel y byddwch yn ymwybodol, bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyhoeddi Adroddiad Gwella Blynyddol i xxx awdurdod lleol erbyn diwedd mis Ionawr 2012, a bydd rhai o'r materion a adroddwyd yn draddodiadol yn Llythyr Archwiliad Blynyddol yr Archwilydd Penodedig yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad hwnnw. Felly, rwyf wedi cymryd y cyfle i grynhoi'r negeseuon allweddol sy'n codi o'r gwaith i gyflawni fy nghyfrifoldebau statudol yn y llythyr byr hwn sy'n ffurfio'r Llythyr Archwilio Blynyddol. Mae'r llythyr wedi'i ddylunio i fod yn ddogfen annibynnol, ond bydd hefyd yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor a'r cyhoedd fel rhan o'r Adroddiad Gwella Blynyddol, xxxxx xxx'n cyflawni fy nghyfrifoldebau adrodd o xxx y Cod Ymarfer Archwilio.
Cydymffurfiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful â'r gofynion adrodd am ei berfformiad ariannol a'i ddefnydd o adnoddau, ond mae'n parhau i ragweld diffygion ariannu yn y tymor canolig a fydd yn rhoi pwysau mawr ar ddarparu gwasanaethau'n effeithiol gydag adnoddau hyd yn oed yn fwy cyfyngedig
1 Cyfrifoldeb y Cyngor yw:
• rhoi systemau rheolaeth fewnol ar waith i sicrhau rheoleidd-dra a chyfreithlondeb trafodion ac i sicrhau bod ei asedau'n ddiogel;
• cadw cofnodion cyfrifyddu cywir;
• paratoi datganiad o gyfrifon yn unol â gofynion perthnasol; a
• sefydlu ac adolygu trefniadau priodol yn barhaus i sicrhau economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn ei ddefnydd o adnoddau.
Atodiad 3
Cofnodion Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a'u defnydd o adnoddau
2 Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a gyhoeddwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol yn gofyn fy mod yn:
• rhoi barn archwilio ar y datganiadau cyfrifyddu;
• adolygu trefniadau'r Cyngor i sicrhau economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn ei ddefnydd o adnoddau; a
• cyflwyno tystysgrif yn cadarnhau fy mod wedi cwblhau'r archwiliad o'r cyfrifon.
3 Ar 28 Medi 2011, rhoddais farn archwilio ddiamod ar y datganiadau cyfrifyddu yn cadarnhau eu bod yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol a thrafodion y Cyngor. Mae fy adroddiad wedi'i gynnwys yn y datganiad o gyfrifon. Cafodd nifer o faterion oedd yn codi o'r archwiliad cyfrifon eu hadrodd i'r aelodau yn fy adroddiad Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol.
4 O 2010/11, mae gofyn bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynhyrchu eu cyfrifon ar sail y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol. Drwy gyflwyno'r safonau newydd hyn, gosodwyd gofynion ychwanegol sylweddol ar staff cyllid y Cyngor. Er gwaethaf y pwysau ychwanegol, paratowyd y cyfrifon erbyn y terfyn amser statudol.
5 Nodwyd y materion canlynol yn ystod fy archwiliad o'r datganiad o gyfrifon:
• dylai'r Cyngor sicrhau bod ganddo drefniadau ar waith i gydymffurfio'n llawn â'r safonau cyfrifo mewn perthynas â gweithrediadau a reolir ar y cyd yn 2011/12;
• rhaid cael gwaith pellach gan y Cyngor yn 2011/12 er mwyn cysoni cofnodion asedau sefydlog a gedwir yn yr adrannau Cyllid ac Ystadau; a
• dylai'r strwythur a'r lefel o oruchwyliaeth o fewn yr adran gael ei adolygu ar gyfer cyfnodau yn y dyfodol er mwyn darparu proses fwy cadarn ar gyfer y gwaith o baratoi'r datganiad o gyfrifon ac i leihau nifer y camddatganiadau a nodir yn ystod yr archwiliad y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt gael eu nodi gan y Cyngor yn ystod y broses o gau cyfrifon.
6 Roedd fy adolygiad o drefniadau'r Cyngor i sicrhau economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn seiliedig ar y gwaith archwilio a wnaed ar y cyfrifon ac yn rhoi dibyniaeth ar y gwaith a gwblhawyd fel rhan o'r Asesiad Gwella o xxx y Mesur Llywodraeth Leol (2009). Bydd prif ganfyddiadau'r gwaith olaf hwn yn cael eu nodi yn yr Adroddiad Gwelliant Blynyddol. Yn ogystal, rwyf hefyd yn dod â'r materion canlynol i'ch sylw:
• rhaid datblygu prosesau cynllunio ariannol tymor canolig y Cyngor ymhellach er mwyn sicrhau bod yr arbedion effeithlonrwydd y mae'n rhaid eu bodloni oherwydd diffygion cyllidebol a ragwelir dros y tymor canolig yn cael eu cyflwyno gyda'r defnydd lleiaf o gronfeydd wrth gefn; a
• cydymffurfiodd Archwiliad Mewnol â safonau CIPFA, ac rydym yn parhau i ddibynnu ar eu gwaith.
7 Cyflwynais dystysgrif yn cadarnhau bod yr archwiliad o'r cyfrifon wedi cael ei gwblhau ar 28 Medi 2011.
8 Disgwylir i'r ffi archwilio ariannol ar gyfer 2010/2011 fod yn uwch na'r hyn a nodir yn yr Amlinelliad Archwilio Blynyddol ar hyn x xxxx, oherwydd faint o amser a dreuliwyd yn ystod yr archwiliad o'r datganiad o gyfrifon ar gyfer meysydd penodol, yn ymwneud yn bennaf â mabwysiadu IFRS am y tro cyntaf ac effaith ei weithredu o xxx amgylchiadau lle roedd adnoddau cyfrifyddu yn y Cyngor yn gyfyngedig. Er y cytunom yn wreiddiol na fyddai effaith archwiliad y trawsnewid yn destun tâl cynyddol, roedd y gefnogaeth a ddarparwyd gan PwC mewn gwirionedd yn fwy na'r disgwyliadau a bennwyd pan y cytunwyd ar y ffioedd.
Xxxxxxx Xxxxxxx
Archwilydd Penodedig 30 Tachwedd 2011
Xxx xxx etholwyr lleol a phobl eraill hawl i edrych ar gyfrifon y Cyngor. Pan fydd y Cyngor wedi cwblhau ei gyfrifon am y flwyddyn ariannol flaenorol, o gwmpas mis Mehefin neu fis Gorffennaf fel xxxxx, xxx’n rhaid iddo hysbysebu eu bod ar gael i bobl edrych arnynt. Gallwch gael copïau o’r cyfrifon gan y Cyngor; gallwch hefyd archwilio pob llyfr, gweithred, contract, bil, taleb a derbynneb sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar ôl trefnu eu bod ar gael. Gallwch ofyn cwestiynau i’r archwilydd am y cyfrifon am y flwyddyn mae’n eu harchwilio. Er enghraifft, gallwch yn syml iawn ddweud wrth yr archwilydd os credwch fod rhywbeth yn anghywir â’r cyfrifon neu am wastraff ac aneffeithlonrwydd yn y modd y mae’r Cyngor yn rhedeg ei wasanaethau. I gael rhagor o wybodaeth gweler taflen Swyddfa Archwilio Cymru, Cyfrifon y Cyngor: xxxx hawliau, ar ein gwefan yn xxx.xxx.xxx.xx neu drwy ysgrifennnu atom yn 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ.
Amcanion gwella Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn bod y Cyngor yn gwneud cynlluniau i wella'i swyddogaethau a'r gwasanaethau y mae'n eu darparu. Xxx blwyddyn, rhaid iddo gyhoeddi'r cynlluniau hyn, ynghyd ag 'amcanion gwella' penodol sy'n amlinellu'r pethau allweddol y mae'r Cyngor yn bwriadu ei wneud i wella. Rhaid i'r Cyngor wneud hyn cyn gynted â phosib ar ôl 1 Xxxxxx xxx blwyddyn.
Cytunodd y Cyngor yn 2011, ar y cyd â sectorau'r heddlu, iechyd, tân, gwirfoddol a chymunedol, ar weledigaeth a rennir ar gyfer Merthyr Tudful i 'gryfhau ein sefyllfa fel canolfan ranbarthol ar gyfer Blaenau'r Cymoedd, ac i fod yn lle y gellir bod yn xxxxx ohono, ble:
• mae ar bobl eisiau byw, gweithio a chael bywyd iach a bodlon yno;
• mae ar bobl eisiau ymweld ag ef, ei fwynhau a dychwelyd yno; ac
• mae ar bobl eisiau dysgu a datblygu sgiliau yno i gyflawni eu huchelgeisiau.'
Amlinellir y weledigaeth a rennir mewn dogfen a elwir yn gynllun cymunedol, gan ddwyn y teitl It's Looking Good – Merthyr Tydfil 2020 – Turning Aspirations into Reality.
Er mwyn helpu i wneud i hyn ddigwydd, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi dogfen bolisi allweddol o'r enw'r Cynllun Corfforaethol 2011/14, yn nodi'r wyth Blaenoriaeth Corfforaethol ar gyfer Gwella y mae'r Cyngor wedi gosod i'w hun i gefnogi darparu'r cynllun cymunedol a'r weledigaeth a rennir ar gyfer Merthyr Tudful. Mae'r ddogfen hon ar gael ar wefan y Cyngor yn xxxx://xxx.xxxxxxx.xxx.xx.
Atodiad 4
Amcanion gwella a hunanasesiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Wyth Blaenoriaeth Gorfforaethol ar gyfer Gwella'r Cyngor i gael eu cyflwyno dros y tair blynedd o 2011- 2014 yw:
Wyth Blaenoriaeth Gorfforaethol ar gyfer Gwella'r Cyngor i gael eu cyflwyno dros y tair blynedd o 2011-2014 yw: |
Adfywiad cymdeithasol, economaidd a ffisegol, gan gynnwys cyfleoedd i helpu preswylwyr i gael gwaith ac adfywio'r fwrdeistref sirol. |
Gofal cymdeithasol da, gan gynnwys adeiladu dau gartref preswyl newydd a chyfleuster gofal ychwanegol. |
Cyfleoedd dysgu gydol oes, gan gynnwys datblygu Ardal Ddysgu Merthyr. |
Diogelwch cymunedol, gan gynnwys canolbwyntio ar ymddygiad gwrthgymdeithasol. |
Seilwaith, gan gynnwys gwella'r rhwydwaith briffyrdd. |
Tai o ansawdd da, gan gynnwys datblygu tai fforddiadwy. |
Gwasanaethau cyhoeddus effeithlon, gan gynnwys gwella gwasanaethau cwsmeriaid a rhesymoli lle swyddfa. |
Ailgylchu a rheoli gwastraff, gan gynnwys symud i ailgylchu wythnosol a chasglu sbwriel xxx pythefnos. |
Hunanasesiad o berfformiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Mae hunanasesiad o berfformiad y Cyngor i'w weld yn ei Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2010/11 sydd ar gael gan y Cyngor ac ar y wefan yn: xxx.xxxxxxx.xxx.xx
Cynigion ar gyfer gwella | Cynnydd |
1 Fel mater o frys, datblygu blaenoriaethau ac amcanion gwella clir sy'n cyfrannu at y Strategaeth Gymunedol newydd a chyflawni gweledigaeth y Cyngor. | Cytunodd y Cyngor Llawn ar Flaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor ar gyfer Gwella 2010-2013 ar 15 Medi 2010, a chyhoeddwyd y rhain ar wefan y Cyngor ar 29 Medi 2010. Cafodd cynlluniau gweithredu ategol ar gyfer pob un o'r naw Blaenoriaeth Corfforaethol ar gyfer Gwella eu cynnwys hefyd yn y Cynllun Corfforaethol 2010/2013 diwygiedig a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn ar 13 Hydref 2010. Cyhoeddwyd y cynllun corfforaethol ar wefan y Cyngor ar 29 Hydref 2010. Mae'r Cynllun Corfforaethol 2011/14 cyfredol yn cynnwys blaenoriaethau'r Cyngor, sydd yn cyd- fynd â'r cynllun cymunedol a gweledigaeth y Cyngor. |
2 Paratoi a chyhoeddi Cynllun Gwella Corfforaethol newydd sydd: • yn adlewyrchu cynnwys y cyhoedd a rhanddeiliaid wrth osod blaenoriaethau; • yn amlinellu amcanion gwella'r Cyngor ynghyd â mesurau canlyniadau sy'n dangos sut ac i xx xxxxxx xxx'r Cyngor yn gwneud gwahaniaeth i fywydau dinasyddion Merthyr Tudful; ac • yn dangos arweinyddiaeth gymunedol i reoli disgwyliadau dinasyddion yng nghyd- destun lleihau gwariant cyhoeddus. | Nododd Cynllun Corfforaethol 2010/2013 y Cyngor Flaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor ar gyfer Gwella a sut maent yn cefnogi darparu'r cynllun cymunedol a gweledigaeth y Cyngor. Cyhoeddodd y Cyngor ei Gynllun Corfforaethol 2011/14 ym mis Mehefin 2011. |
Atodiad 5
Cynnydd a wnaed gan y Cyngor wrth fynd i'r afael â chynigion ar gyfer gwella a nodwyd yn Asesiad Gwella 2010 yr Archwilydd Cyffredinol
Cynigion ar gyfer gwella | Cynnydd |
3 Datblygu fframwaith strategol i gefnogi cyflawni blaenoriaethau ac amcanion gwella'r Cyngor, gan gynnwys strategaethau ar gyfer cynllunio ariannol, cynllunio gweithlu a rheoli asedau tymor canolig. | Y Cynllun Corfforaethol 2010/2013, a ddiweddarwyd ar gyfer 2011-2014, yw dogfen bolisi allweddol y Cyngor sy'n nodi Blaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor ar gyfer Gwella a sut maent yn cefnogi darparu'r cynllun cymunedol a gweledigaeth y Cyngor. Xxx xxx xxx blaenoriaeth gorfforaethol ar gyfer gwella gynllun gweithredu ategol sy'n manylu'r tasgau a'r mesurau penodol a ddefnyddir i ddangos cynnydd a gwelliant. Caiff cynnydd yn erbyn y cynlluniau gweithredu ar gyfer pob un o'r Blaenoriaethau Corfforaethol ar gyfer Gwella ei fonitro xxx chwarter gan y Bwrdd Gweithredol, y Cabinet a'r pwyllgor craffu priodol i sicrhau y gwneir cynnydd i gyflawni'r blaenoriaethau corfforaethol. Mae dangosfyrddau monitro wedi cael eu hadeiladu i mewn i system rheoli perfformiad Ffynnon i gefnogi hyn. Xxx xxx y Cyngor Gynllun Ariannol Tymor Canolig a Chynllun Rheoli Asedau ar waith. Fodd bynnag, nid oes llawer o dystiolaeth bod y cynlluniau hyn yn cyd-fynd â'i gilydd i gefnogi cyflwyno blaenoriaethau ac amcanion gwella'r Cyngor. Nid oes gan y Cyngor strategaeth weithlu yn ei lle. |
4 Symleiddio a chryfhau trefniadau rheoli perfformiad, gan sicrhau bod cynllunio gwasanaethau yn cyd-fynd yn glir â blaenoriaethau corfforaethol, a yn cael ei wneud yn gyson a bod monitro perfformiad strategol yn gadarn ac yn heriol. | Mae Fframwaith Rheoli Perfformiad a Risg wedi cael ei ysgrifennu yn nodi'r dull y bydd y Cyngor yn ei ddefnyddio i gynllunio busnes ar lefel strategol a gweithredol, at fonitro a chyfrifoldeb, at fecanweithiau adrodd yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol am drefniadau perfformiad a threfniadau risg ar y Cyngor. Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda byrddau rheoli gwasanaeth ac unigolion i drafod gofynion y cynlluniau hyn a sut y byddant yn cael eu defnyddio i fonitro cynnydd yn erbyn y cynllun cymunedol a'r cynllun corfforaethol wrth symud ymlaen. |
Cynigion ar gyfer gwella | Cynnydd |
5 Wrth weithredu ei gynlluniau i wella craffu, dylai'r Cyngor roi trefniadau ar waith i sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau'n glir ac y rhoddir amser i'r materion a ystyrir yn fwyaf pwysig. | Mae pwyllgorau craffu newydd yn eu lle, ac maent wedi derbyn nifer o gyflwyniadau o amgylch rôl craffu, gan ganolbwyntio ar faterion strategol a rheoli perfformiad. Cafodd y Prif Weithredwr a Phwyllgor Craffu'r Ganolfan Gorfforaethol y dasg o adolygu'r broses a gymerwyd i nodi'r Blaenoriaethau Corfforaethol ar gyfer Gwella. Sefydlwyd Grŵp Tasg a Gorffen o ganlyniad. Paratowyd adroddiadau ar gyfer pob pwyllgor i graffu ar ddangosyddion perfformiad cenedlaethol 2009-10 ym mis Tachwedd 2010. Mae pwyllgorau'n datblygu cynlluniau gwaith a fydd yn integreiddio'r Blaenoriaethau Corfforaethol ar gyfer Gwella a'r cynllun cymunedol. Mae aelodau craffu yn mynd i sesiynau hyfforddiant a ddarperir gan y Gronfa/Prosiect Datblygu Craffu (Partneriaeth o 4 Awdurdod) a noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi darparu cynigion ar gyfer hyfforddi aelodau craffu a ddatblygir mewn partneriaeth â CLlLC. |
6 Sicrhau cynlluniau gweithredu yn cefnogi cyflwyno'r Blaenoriaethau Corfforaethol ar gyfer Gwella, a chynlluniau busnes gwasanaeth yn ymgorffori amcangyfrifon realistig o arian, staff ac adnoddau eraill angenrheidiol i gyflawni'r camau gweithredu arfaethedig, ac adolygu eu fforddiadwyedd yng nghyd-destun llai o adnoddau. | Er mwyn penderfynu ar Flaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor ar gyfer Gwella 2011-2014, cynhaliwyd gweithdy gyda'r Bwrdd Gweithredol a'r Cabinet ar 13 Ebrill 2011. Roedd hyn yn cynnwys ymarfer i nodi'r risgiau a xxxxx xxxx y Cyngor rhag cyflawni ei flaenoriaethau, gan gynnwys fforddadwyedd a gallu. |
7 Cyhoeddi blaenoriaethau a chynlluniau gwella yn gynharach yn y flwyddyn ac egluro pa ganlyniadau buddiol y gall dinasyddion eu disgwyl. | Cyhoeddodd y Cyngor ei Gynllun Corfforaethol 2011/14 ym mis Mehefin 2011, dri mis yn gynharach nag yn 2010 ac o fewn yr amserlen a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. |