Datblygwr y Wê
Datblygwr y Wê
Swydd ddisgrifiad
Bydd y Datblygwr y Wê yn gyfrifol am ymgymryd â'r gwaith datblygu sydd wedi'i grisialu yn rhan o strategaeth ddigidol S4C. Yn bennaf, mae'r gwaith hwn yn ymwneud â datblygu Chwaraewr Clic S4C, gan wella profiad y defnyddiwr a chyflwyno nodweddion newydd.
Fel Datblygwr y Wê, byddwch yn gyfrifol am:
• ddatblygu rhaglenni gwe, llwyfannau a gwefannau;
• adolygu a diweddaru swyddogaeth a dyluniad Clic S4C ledled yr xxxx lwyfannau perthnasol;
• cyflawni dyletswyddau'r Datblygwr a'r Dylunydd Gwefannau, yn ôl yr angen;
• cynorthwyo â'r gwaith o hyfforddi/mentora'r xxx cyfathrebu, ac arwain y gwaith hwnnw pan fo angen
• gweithio'n agos gyda'r rheolwr llwyfannau er mwyn sicrhau bod newidiadau'n cael eu gwneud yn brydlon;
• trafod a chydweithio â chyflenwyr trydydd parti;
• cymorth technegol cyffredinol/diweddariadau ar gyfer rhaglenni gwe a gwefannau S4C (yn ystod oriau gwaith yn ogystal â'r tu xxxxx i oriau gwaith, pan fo angen);
• darparu a chynorthwyo â gofynion technegol ar gyfer rhaglenni gwe a gwefannau neu ddiweddariadau S4C;
• rheoli'r broses o weithredu rhaglennu gwe a gwefannau a/neu ddiweddariadau S4C, a hynny yn fewnol neu'n allanol gan drydydd partïon, a thrafod unrhyw oblygiadau o ran cost;
• sefydlu gwefannau sy'n defnyddio System Rheoli Cynnwys (CMS) S4C
• arwain yr xxxx hyfforddiant mewnol ar CMS, a chynghori'r staff pan fo problemau/materion yn codi;
• gosod tudalennau ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau ar-lein unigryw a drefnwyd;
• profi gwefannau er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cynhyrchu gwefannau S4C;
• bod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant a thechnegau arfer gorau;
Fel Datblygwr y Wê, byddwch hefyd:
• yn gyfrifol, yn bersonol ac ar y cyd ag aelodau eraill o'r staff, am sicrhau bod S4C yn cyflawni ei nodau corfforaethol, yn ogystal â rhagoriaeth greadigol;
• yn sicrhau bod S4C yn gweithredu'n effeithiol ac yn unol â'i hymrwymiadau statudol a strategol;
• yn hyrwyddo cyfathrebu effeithiol er mwyn cyflawni'r nodau corfforaethol;
• yn cyfrannu at drafodaethau a chyfarfodydd sy'n ymwneud â'ch cyfrifoldebau craidd, yn ogystal â meysydd eraill, lle bo hynny'n briodol, a xxxx yr ystyrir bod hynny o fudd i S4C;
• yn gyfrifol am weithio yn unol â nod S4C i greu amgylchedd gweithio parchus, urddasol a diogel ar gyfer xxxx xxx-weithwyr;
• yn gweithio yn unol â'r Polisi Iechyd a Diogelwch ac yn gweithredu unrhyw argymhellion sy'n deillio o asesiadau risg er mwyn sicrhau amgylchedd gweithio diogel ar gyfer y staff;
• yn gweithio mewn modd sy'n hyrwyddo amgylchedd gwaith cyfeillgar.
Manyleb y Person
Rhinweddau | Hanfodol | Dymunol |
Cymwysterau | • Gradd mewn xxxx pwnc perthnasol | |
Profiad | • Profiad o weithio xx xxxx rhaglenni gwe, yn benodol JavaScript | • Profiad o ddefnyddio fframwaith JavaScript, er enghraifft React neu Angular • Profiad o ddatblygu ap symudol |
Sgiliau a Gwybodaeth | • Sgiliau datrys problemau da • Gwybodaeth drylwyr am HTML/CSS • Gwybodaeth am hygyrchedd y we a gwerthfawrogiad ohono • Gwybodaeth sylfaenol am Optimeiddio Peiriannau Chwilio | • Gwybodaeth am ddatblygu rhaglenni gwe a Rhaglennu sy'n ymateb i Wrthrych • Gwybodaeth am systemau rheoli’r ffynhonnell, er enghraifft GIT • Y gallu i gyfathrebu'n rhugl yn Gymraeg gyda staff a chwsmeriaid ar xxx xxxxx, yn ysgrifenedig ac ar xxxxx |
Nodweddion personol | • Y gallu i ddysgu ac addasu i dechnolegau newydd |
Manylion eraill
Lleoliad: Yn hyblyg – Caerfyrddin, Caerdydd a/neu Gaernarfon. X xxxx i'w gilydd, bydd disgwyl i chi deithio i ba le bynnag y bydd S4C yn gofyn yn rhesymol i chi weithio.
Cyflog: Dibynnol ar brofiad
Contract: Contract parhaol
Oriau gwaith: 35¾ awr yr wythnos. Yn sgil natur y rôl, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio y tu xxxxx i oriau swyddfa arferol, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: Rhaid i bawb sy’n cael ei benodi gan S4C wneud cyfnod prawf o 6 mis er mwyn adolygu perfformiad, ymddygiad a phresenoldeb. Mae S4C yn cadw’r hawl i ddod â chytundeb i ben yn ystod y cyfnod prawf, gydag wythnos o rybudd.
Gwyliau: Yn ogystal â Gwyliau banc statudol, byddwch yn gymwys i gael 26 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl.
Pensiwn: Xxx xxxx gan aelodau o staff ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygir o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 12:00 ar 31 Ionawr 2019, a hynny i xxxxxxxx.xxxxx@x0x.xxxxx neu i'r Adran Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Ni dderbynnir CVs.
Sylwch nad yw e-xxxx yn ddull gwarantedig o gyflwyno cais. Rydym yn ceisio anfon cadarnhad trwy e-xxxx at xxx ymgeisydd cyn pen deuddydd ar ôl i'r cais ddod i law (o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus). Os na chewch gadarnhad trwy e-xxxx gan S4C cyn pen deuddydd, ffoniwch 03305 880428 a gofynnwch am y Xxx Adnoddau Dynol.
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu gefndir economaidd-gymdeithasol, oedran, statws teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr rhan-amser neu lawn-amser, crefydd, gwleidyddiaeth, tueddfryd rhywiol, ailbennu rhyw, beichiogrwydd a mamolaeth, y defnydd o iaith (heblaw lle bo'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd) nac unrhyw wahaniaeth amherthnasol arall, ac mae wedi ymrwymo i ystyried amrywiaeth mewn modd cadarnhaol. Mae S4C yn croesawu ac yn cymell ceisiadau am swyddi gan grwpiau sydd, o bosibl, heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys merched, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Mae egwyddorion cystadleuaeth agored a theg ar waith, a phenderfynir ar benodiadau ar sail teilyngdod.