Cwestiynau Ysgrifenedig a atebwyd rhwng 6 a 13 Ebrill 2006
Cwestiynau Ysgrifenedig a atebwyd rhwng 6 a 13 Ebrill 2006
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Xxxxxx, Arloesi a Rhwydweithiau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Xxxx Xxxxxx: Pa drafodaethau y mae ef wedi eu cael gyda Gweinidogion y Trysorlys ynghylch cynnig y Llywodraeth i werthu is-gwmni Tanwydd Niwclear Prydain, Westinghouse? (WAQ46558)
Y Prif Weinidog (Xxxxxx Xxxxxx): Nid wyf wedi cynnal unrhyw drafodaethau gyda Gweinidogion y Trysorlys am y mater hwn.
Xxx Xxxxx: Pa feincnodau a ddefnyddir i fonitro perfformiad y prif werthwr adnoddau dynol mewn perthynas â Llywodraeth Cynulliad Cymru? (WAQ46564)
Y Prif Weinidog: Wrth lunio’r fanyleb dendro am gyflenwi a recriwtio staff dros dro, tynasom sylw at y ffaith ein bod yn ymwybodol o god ymarfer drafft y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogi i brif werthwyr, a chontract drafft i ail gyflenwr am gyflenwi staff dros dro. Byddwn yn defnyddio’r
dogfennau hyn fel cymorth i feincnodi sut yr ydym yn monitro perfformiad y prif werthwr.
Xxxxxx Xxxx: A wnaiff y Prif Weinidog ddatgan ei resymau dros ddirprwyo’r swyddogaeth o bennu’r cynigion statudol ar gyfer cau Ysgol Fabanod Blaenclydach i’r Trefnydd? (WAQ46591)
Xxxxxx Xxxx: A wnaiff y Prif Weinidog esbonio’r drefn lle ceir ymgynghori ynglyn â phenderfyniadau i bennu’r cynigion statudol ar gyfer cau ysgolion? (WAQ46592)
Xxxxxx Xxxx: A wnaiff y Prif Weinidog ddatgan pryd y dywedodd ef wrth rieni ac athrawon Ysgol Fabanod Blaenclydach ei fod wedi trosglwyddo’r swyddogaeth o bennu’r cynigion statudol ar gyfer cau Ysgol Fabanod Blaenclydach i’r Trefnydd? (WAQ46593)
Xxxxxx Xxxx: A wnaiff y Prif Weinidog ddatgan sut yr hysbysodd Aelodau’r Cynulliad o’i benderfyniad i ddirprwyo’r swyddogaeth o bennu’r cynigion statudol ar gyfer cau Ysgol Fabanod Blaenclydach i’r Trefnydd? (WAQ46594)
Xxxxxx Xxxx: A wnaiff y Prif Weinidog gyhoeddi’r cyngor a dderbyniodd cyn ei benderfyniad i ddirprwyo’r swyddogaeth o bennu’r cynigion statudol ar gyfer cau Ysgol Fabanod Blaenclydach i’r Trefnydd? (WAQ46595)
Y Prif Weinidog: Wrth benderfynu ar gynigion statudol i ad-drefnu ysgolion, mae Gweinidogion o xxx ddyletswydd cyfraith gyhoeddus i ystyried yr xxxx dystiolaeth a gwybodaeth berthnasol sydd er eu bron, a llunio barn am rinweddau’r cynnig heb ragfarnu’r materion. Gofynasoch gwestiwn atodol imi yn y Cyfarfod Llawn ar 31 Ionawr am gau ysgolion yn gyffredinol, a chyfeiriasoch at gynnig Blaenclydach fel rhagair i’r cwestiwn hwnnw. Er imi ymateb i’r cwestiwn mewn ffordd gyffredinol, gofynnais i’r swyddogion am gyngor pa un y byddai modd camddehongli fy ateb fel sylw am yr achos penodol, a’i gamddehongli felly fel rhagfarniad. Ar ôl cael y cyngor a’i ystyried, deuthum i’r casgliad mai’r peth mwyaf diogel i’w wneud o safbwynt argraffiadau pobl o’m niwtraliaeth fyddai dirprwyo’r penderfyniad i Weinidog arall. Felly, dirprwyais y cyfrifoldeb dros benderfynu ar y cynnig yn ymwneud ag Ysgol Fabanod Blaenclydach a’r cynnig cysylltiol i uno ysgolion babanod ac iau Cwmclydach i’r Trefnydd, Xxxx Xxxx.
Nid oes gofyniad i ymgynghori ymlaen llaw ynglyn ag unrhyw benderfyniad i ddirprwyo i Weinidogion bwerau sydd wedi cael eu dirprwyo i mi gan y Cynulliad Cenedlaethol. Yr hyn sy’n ofynnol yn ôl y weithdrefn yw fy mod yn llofnodi offeryn dirprwyo, sy’n cael ei gadw wedyn yn swyddfa gydymffurfio’r Cynulliad. Cyhoeddwyd y penderfyniad i ddirprwyo ar y rhyngrwyd ar 2 Mawrth 2006. Cyfeiriwyd ato hefyd mewn gohebiaeth weinidogol.
Nid oes rheidrwydd i hysbysu’r rhai sydd â diddordeb am ddirprwyo o’r fath mewn unrhyw ffordd fwy penodol. Nid yw dirprwyo i Weinidog arall yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’r ffordd y caiff cynigion eu
hystyried neu y penderfynir arnynt, gan mai ar haeddiant yr achos a’r dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd y gwneir hynny yn gyfan gwbl. Ni cheir unrhyw gysylltiad wyneb-yn-wyneb â’r cynigwyr na’r gwrthwynebwyr mewn perthynas ag unrhyw gynnig statudol.
Yr ydych wedi gofyn am gael gweld y cyngor y seiliais fy mhenderfyniad i ddirprwyo’r mater i’r Trefnydd arno. Byddaf yn ystyried pa un y dylai gael ei ryddhau yn unol â’n cod ymarfer ar ganiatáu i’r cyhoedd weld gwybodaeth, y xxx xxxx xx xxxx ar xxxx://xxx.xxxxxxxxxx.xxxxx.xxx.xx. Byddaf yn cysylltu â chi’n ysgrifenedig a bydd unrhyw wybodaeth a ryddheir yn cael ei chyhoeddi hefyd.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon
Xxxx Xxxxxxx: Xxxx oedd canlyniad unrhyw drafodaethau y gallai’r Gweinidog fod wedi eu cael ynglyn â derbyn Freeview yng Nghymru? (WAQ46551)
Xxxx Xxxxxxx: Xxxx oedd canlyniad unrhyw drafodaethau y gallai’r Gweinidog fod wedi eu cael ynglyn ag argaeledd teledu diffiniad-uchel yng Nghymru o adeg ei lansio ym mis Mai 2006? (WAQ46552)
Y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon (Xxxx Xxxx): Yr wyf mewn cysylltiad rheolaidd â Llywodraeth y DU ac Ofcom ynglyn â materion darlledu sy’n effeithio ar Gymru.
Amcangyfrifir bod y gwasanaeth daearol digidol, Freeview, ar gael i 57 y cant o gartrefi Cymru ar hyn x xxxx. Bydd unrhyw un sy’n gallu cyrchu at y gwasanaethau lloeren perthnasol gan BSkyB, sydd â chyfarpar sy’n xxxxx ar gyfer teledu diffiniad-uchel ac sy’n talu’r tanysgrifiad gofynnol i BSkyB, yn gallu gwylio’r rhaglenni a fydd yn cael eu darlledu gan BSkyB yn y fformat teledu diffiniad-uchel o fis Mai. Mae’r BBC hefyd yn bwriadu dechrau ar dreialon darlledu teledu diffiniad-uchel ar loeren a chebl yr haf hwn. Eto, bydd angen cyfarpar sy’n xxxxx ar gyfer diffiniad-uchel arnoch i allu manteisio ar y fformat, ond ni fydd tanysgrifiad yn daladwy ar wahân i’r hyn y gallai gwylwyr fod yn xx xxxx’n xxxxx fel rhan o becyn tanysgrifio BSkyB neu gebl.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Xxxxxx, Arloesi a Rhwydweithiau
Xxxxxx Xxxxxxxx: Pa dargedau y mae’r Gweinidog wedi eu pennu ar gyfer cynyddu’r defnydd o gludiant cyhoeddus? (WAQ46547)
Y Gweinidog dros Xxxxxx, Arloesi a Rhwydweithiau (Xxxxxx Xxxxxx): Gosododd fframwaith trafnidiaeth 2001 i Gymru yr agenda ar gyfer gwella cludiant cyhoeddus, cludiant cymunedol a hygyrchedd i’r rhai nad oes ganddynt gar. Fel y disgrifiais yn fy adolygiad trafnidiaeth ym mis Rhagfyr 2004, xxx xxxxx gweithredu allweddol wedi cael eu sefydlu i wella ansawdd y gwasanaethau, a’r ddarpariaeth, drwy grantiau, gweithio drwy bartneriaethau a darparu consesiynau teithio i bobl dros 60
oed a phobl anabl. Bydd strategaeth drafnidiaeth Cymru yn disodli’r fframwaith trafnidiaeth i Gymru. Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar ganlyniadau i nodi hygyrchedd drwy gyfrwng cludiant cyhoeddus at wasanaethau allweddol, fel ysbytai, addysg a mannau cyflogaeth.
Xxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw newidiadau i gyllido asiantaethau busnes arloesol? (WAQ46548)
Xxxxxx Xxxxxx: Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru na’i hasiantaethau yn darparu cyllid craidd i asiantaethau xxxxxx lleol. Gall asiantaethau busnes lleol, yn ogystal ag asiantaethau xxxxxx lleol, gystadlu am gontractau drwy dendrau cystadleuol.
Xxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw newidiadau i dargedau y mae busnesau arloesol yn elfen anhepgor o’u darparu? (WAQ46549)
Xxxxxx Xxxxxx: Xxx ‘Cymru: Economi yn Ffynnu’ yn nodi fframwaith Llywodraeth y Cynulliad er mwyn hyrwyddo twf economaidd. Byddwn yn olrhain ein cynnydd drwy gyfres o ddangosyddion megis cyfanswm y gweithgarwch entrepreneuraidd (fel y’i mesurir gan Global Entrepreneurship Monitor), cofrestriadau TAW newydd a’r stoc o fusnesau sydd wedi cofrestru at ddibenion TAW fesul pen o’r boblogaeth oedran gweithio a’r cyfraddau cychwyn busnes gan raddedigion.
Xxxxxx Xxxxxxx: Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i ddenu mewnfuddsoddiad i etholaeth Ogwr? (WAQ46553)
Xxxxxx Xxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog roi manylion am gyfraniad Llywodraeth Cynulliad Cymru tuag at hyrwyddo adfywiad economaidd etholaeth Ogwr? (WAQ46554)
Xxxxxx Xxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog roi gwybodaeth am gymorth rhanbarthol dewisol a grantiau buddsoddi Llywodraeth Cynulliad Cymru yn etholaeth Ogwr? (WAQ46555)
Xxxxxx Xxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am greu swyddi yn etholaeth Ogwr? (WAQ46556)
Xxxxxx Xxxxxx: Nododd ‘Cymru: Economi yn Ffynnu’ ein gweledigaeth ar gyfer adfywio economaidd ar hyd a lled Cymru. Ein blaenoriaethau yw cynyddu cyflogaeth ymhellach a gwella ansawdd swyddi.
Ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae buddsoddiad rhaglen drefol Awdurdod Datblygu Cymru wedi canolbwyntio ar bartneriaethau lleol, a’i nod yw’r adfywio canol trefi Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr. Bydd y xxxx o’r gwaith hwn yn rhaeadru i mewn i ardaloedd cyfagos.
Bydd partneriaid Xxx Cymru yn yr Xxxxx Xxxxxx, Arloesi a Rhwydweithiau sydd newydd gael ei sefydlu yn parhau i hyrwyddo Cymru gyfan, yn cynnwys Ogwr, fel lle rhagorol i wneud busnes ynddo. Ers sefydlu’r Cynulliad, mae mewnfuddsoddwyr fel Xxxxx GQ a Georgia Pacific wedi parhau i dyfu gyda chymorth y Cynulliad.
Er 1999, mae 44 o gynigion o gymorth rhanbarthol dewisol gwerth £36.12 miliwn wedi cael eu gwneud i gwmnïau yn Ogwr. Disgwylir i’r cynigion hyn gostio rhyw £242 miliwn a chreu neu ddiogelu dros 3,300 o swyddi.
Lansiais grant buddsoddi’r Cynulliad ym mis Ebrill 2002. Ers i’r cynllun ddechrau, mae rhyw 50 o gynigion grant, gwerth £1.46 miliwn, wedi cael eu gwneud i gwmnïau yn Ogwr. Disgwylir i’r prosiectau hyn gostio £4.23 miliwn ac, er nad cynllun creu swyddi mo hwn, disgwylir i’r prosiectau greu 114 o swyddi newydd.
Xxx Xxxxx: Pa effaith y mae’r cynllun prif werthwr a gyflwynwyd yn ddiweddar wedi'i chael ar fusnesau cynhenid yng Nghymru? (WAQ46568)
Xxxxxx Xxxxxx: Dim, gan nad yw’r cynllun prif werthwr wedi cael ei gyflwyno eto. Fodd bynnag, mae manyleb y contract wedi cael ei hysgrifennu i sicrhau ein bod yn defnyddio cymaint â phosibl ar gyflenwyr lleol sy’n darparu gweithwyr dros dro.
Xxx Xxxxx: Xxxx y xxx’r Gweinidog yn ei wneud i annog busnesau bach a chanolig Cymru i ddod at ei gilydd i dendro am gontractau Llywodraeth Cynulliad Cymru? (WAQ46569)
Xxxxxx Xxxxxx: Bydd sicrhau’r gwerth gorau am arian yn parhau i fod yn feincnod i xxxx gontractau Llywodraeth Cynulliad Cymru, a nod ein rhaglenni cymorth busnes amrywiol yw helpu i ddatblygu busnesau sy’n gystadleuol. Mae ein prosiect i ddatblygu cyflenwyr lleol yn gweithio gyda busnesau bach a chanolig Cymru i’w hannog i dendro am gontractau Llywodraeth Cynulliad Cymru a chontractau eraill yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Yn ogystal, drwy ‘Gwerth Cymru’ a’r tasglu caffael busnes, yr wyf fi’n ei gadeirio, yr ydym yn annog y sector cyhoeddus yng Nghymru i fod yn effro i allu busnesau cynhenid, ac yr ydym yn datblygu cynlluniau ategol pellach i annog rhagor o gydweithredu rhwng busnesau.
Xxxxxxx Xxxxxx: A allai’r Gweinidog ddatgan a eir ati i adfachu arian WDA gan ffatri Dairygold yn Felin-fach, ac os xxxxx xxxx fydd swm yr xxxxx xxx sylw? (WAQ46573) Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad.
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad (Xxxxxx Xxxxx): Ysgrifennodd fy swyddogion at Dairygold ar 23 Mawrth 2006 yn atgyfnerthu’r farn y bydd y Cynulliad yn ceisio xxxxx y swm x xxxxx a dalwyd, sef £663,528.06, yn llawn. Nid oes ymateb swyddogol wedi dod i law oddi wrth y cwmni eto.
Xxxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog fanylu ynghylch cyfanswm y gwariant cyfalaf yng Nghymru ar ffyrdd ym mhob blwyddyn er 1999-2000? (WAQ46579)
Xxxxxx Xxxxxx: Xxx manylion y gwariant cyfalaf ar ffyrdd yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 1999- 2000 i’w gweld yn y tabl isod:
Cefnffyrdd a thraffyrdd (£ miliwn) | 1999- 2000 | 2000- 01 | 2001- 02 | 2002- 03 | 2003- 04 | 2004- 05 | 2005-06 (dros dro) |
Gwaith adeiladu newydd a gwella (1) | 33.1 | 46.6 | 44.3 | 51.6 | 51.7 | ||
51.6 | 44.5 | ||||||
Atgyweirio ac uwchraddio | 20.6 | 26.0 | 21.3 | 20.7 | 25.0 | ||
Adnewyddu | 18.4 | 27.1 | 24.7 | 27.1 | 23.4 | 25.2 | 27.8 |
Cyfanswm | 70.0 | 71.6 | 78.4 | 99.7 | 89.0 | 97.5 | 104.5 |
Grantiau i awdurdodau lleol (£ miliwn)
Grant trafnidiaeth (2) | 17.2 | 22.4 | 22.9 | 22.9 | 25.9 | 54.6 | 60.1 |
Cymeradwyaethau credyd atodol GT | 17.1 | 22.4 | 22.9 | 21.8 | 25.9 | - | - |
Grant diogelwch ffyrdd lleol (3) | - | 3.7 | 3.1 | 7.2 | 6.7 | 7.2 | 8.0 |
Cyllid cyfalaf cyffredinol | 19.8 | 19.8 | 19.8 | 19.8 | 19.8 | 19.8 | 19.8 |
Gwariant cyfalaf awdurdodau lleol (£m) ar ffyrdd, goleuadau a diogelwch ar y ffyrdd (5) | 67.0 | 81.0 | 86.0 | 88.0 | 98.0 | 110.0 | Ddim yn berth. |
Nodiadau:
Yn cynnwys gwariant ar dir.
Mae ffigurau grant trafnidiaeth 1999-2000 i 2004-05 yn cynnwys gwariant ar becynnau trafnidiaeth integredig, cynlluniau cerdded a beicio, llwybrau diogel i’r ysgol a chynlluniau rheilffyrdd.
Mae a wnelo cyfran o’r grant diogelwch ffyrdd lleol â gwariant refeniw.
O 2001, disodlwyd cymeradwyaethau credyd sylfaenol gan gyllid cyfalaf cyffredinol, sy’n cael ei ddarparu fel cymorth heb ei neilltuo ar ffurf grant cyfalaf cyffredinol a chymeradwyaethau credyd sylfaenol. Nid yw’r £19.8 miliwn o gyllid cyfalaf cyffredinol sy’n cael ei briodoli i ffyrdd yn ddim ond ffigur tybiannol ac fe’i defnyddir wrth gyfrifo’r dyraniadau cyllid cyfalaf cyffredinol llawn i xxx awdurdod lleol.
Gwariant cyfalaf awdurdodau lleol a gymerwyd o ystadegau trafnidiaeth Cymru 2004 (ISBN 0 7504 3803).
Xxxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog restru lleoliad xxxx swyddfeydd gwybodaeth Cymru ar draws y byd? (WAQ46611)
Xxxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi tabl yn dangos a) costau rhedeg a b) nifer y staff sy’n cyfateb i gyflogaeth llawn amser ym mhob un o swyddfeydd gwybodaeth Cymru? (WAQ46612)
Xxxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog restru’r xxxx gwmnïau sydd wedi buddsoddi yng Nghymru o ganlyniad i gwrdd â staff o swyddfeydd gwybodaeth Cymru? (WAQ46613)
Xxxxxx Xxxxxx: Nid oes gennym unrhyw swyddfeydd gwybodaeth i Gymru ar draws y byd.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Xxxxxxx Xxxxxxx: Yn dilyn ei hateb i gwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad 45119, 45123 a 45124, a wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o’r £17 miliwn a ddyrannwyd i awdurdodau addysg lleol er 1999 ar gyfer gwasanaethau cerdd mewn ysgolion, gan roi manylion ynglyn â phryd y’i gwariwyd, ble y cafodd ei ddyrannu ac ar xxxx y’i gwariwyd? (WAQ46546)
Y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Xxxx Xxxxxxxx): Xxx dadansoddiad o’r dyraniadau blynyddol i’r AALlau i’w weld yn nhabl 1 isod. Dylid ychwanegu at y rhain yr £1.5 miliwn a ryddhawyd i Gyngor Celfyddydau Cymru yn y flwyddyn gyllido gyntaf. Câi’r cyllid ei wario’n flynyddol yn unol â’r meini prawf a restrwyd yn y grantiau cynnal addysg a hyfforddiant a chylchlythyron y gronfa ysgolion gwell am xxx blwyddyn berthnasol. Mae Tabl 2 yn crynhoi’r wybodaeth reoli a ddarparwyd gan yr AALlau am y defnydd a wnaethpwyd o’r grant.
Tabl 1: dyraniadau’r gronfa datblygu cerddoriaeth (crynswth) i’r AALlau 1999-2005 (heb gynnwys cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru)
AALl | 1999- 2000 | 2000-01 | 2001-02 | 2002-03 | 2003-04 | 2004-05 | CYFANSWM |
Blaenau Gwent | £11,000 | £66,700 | £85,000 | £90,000 | £89,000 | £51,000 | £392,700 |
Pen-y-bont ar Ogwr | £20,300 | £121,700 | £152,000 | £152,000 | £144,000 | £78,000 | £668,000 |
Caerffili | £27,900 | £168,800 | £210,000 | £221,000 | £221,000 | £126,000 | £974,700 |
Caerdydd | £45,000 | £270,300 | £353,000 | £334,000 | £300,000 | £152,000 | £1,454,300 |
Sir Gaerfyrddin | £34,100 | £202,500 | £238,000 | £238,000 | £224,000 | £122,000 | £1,058,600 |
Ceredigion | £16,300 | £97,800 | £110,000 | £105,000 | £94,000 | £48,000 | £471,100 |
Conwy | £17,900 | £107,100 | £133,000 | £139,000 | £139,000 | £78,000 | £614,000 |
Xxx Xxxxxxxx | £15,900 | £97,000 | £120,000 | £121,000 | £115,000 | £62,000 | £530,900 |
Sir y Fflint | £22,500 | £138,500 | £172,000 | £177,000 | £172,000 | £97,000 | £779,000 |
Gwynedd | £24,900 | £149,700 | £176,000 | £175,000 | £165,000 | £89,000 | £779,600 |
Merthyr Tudful | £10,400 | £62,400 | £79,000 | £80,000 | £75,000 | £41,000 | £347,800 |
Xxx Xxxxx | £13,600 | £80,500 | £97,000 | £97,000 | £92,000 | £50,000 | £430,100 |
Xxxxxxx-xxxx Port Xxxxxx | £22,900 | £134,600 | £166,000 | £169,000 | £162,000 | £89,000 | £743,500 |
Casnewydd | £20,700 | £125,500 | £167,000 | £166,000 | £156,000 | £84,000 | £719,200 |
Xxx Xxxxxx | £23,100 | £135,700 | £163,000 | £166,000 | £160,000 | £90,000 | £737,800 |
Powys | £33,900 | £205,400 | £239,000 | £219,000 | £189,000 | £93,000 | £979,300 |
Xxxxxxx Xxxxx Taf | £40,300 | £243,200 | £299,000 | £306,000 | £293,000 | £163,000 | £1,344,500 |
Abertawe | £34,100 | £201,400 | £256,000 | £256,000 | £239,000 | £130,000 | £1,116,500 |
Tor-faen | £10,000 | £90,300 | £115,000 | £111,000 | £102,000 | £54,000 | £482,300 |
Bro Morgannwg | £19,200 | £115,100 | £143,000 | £140,000 | £132,000 | £70,000 | £619,300 |
Wrecsam | £18,400 | £111,100 | £136,000 | £142,000 | £142,000 | £81,000 | £630,500 |
Ynys Môn | £12,800 | £74,700 | £90,000 | £95,000 | £95,000 | £54,000 | £421,500 |
CYFANSWM | £495,200 | £3,000,000 | £3,699,000 | £3,699,000 | £3,500,000 | £1,902,000 | £16,295,200 |
Tabl 2: y gronfa datblygu cerddoriaeth: gweithgareddau a gafodd xxxxxxx grant 1999-2005
1999- 2000 | 2000- 01 | 2001- 02 | 2002- 03 | 2003- 04 | 2004- 05 | |
Nifer y disgyblion yn ymwneud â gweithgareddau cerddorol y tu xxxxx i’r cwricwlwm: | ||||||
Lleisiol | 464 | 7964 | 19264 | 20049 | 15699 | 14499 |
Offerynnol | 4631 | 25218 | 25468 | 33845 | 29713 | 24096 |
Nifer y gweithgareddau cerddorol a gafodd xxxxxxx: | ||||||
Cerddorfeydd* | 69 | 153 | 426 | 481 |
Corau* | 16 | 25 | 97 | 98 |
gael ei gasglu am 2003-05.
*Data heb
Xxxx Xxxxxx: pa gymorth ariannol fydd ar gael i helpu Ysgol Gyfun Penyrheol i gwrdd â’r costau o orfod darparu trefniadau tymor byr ar gyfer y disgyblion ac i gwrdd ag unrhyw golledion nas yswiriwyd? (WAQ46550)
Xxxx Xxxxxxxx: Mater i Gyngor Dinas a Sir Abertawe yw hwn, mewn ymgynghoriad â chorff llywodraethu Ysgol Gyfun Penyrheol. Caniateir i awdurdodau lleol ddal elfen o’u cyllideb ysgolion yn ôl gogyfer â chymorth mewn argyfwng o xxx amgylchiadau fel y rhain. Yn fwy cyffredinol, mae’n ofynnol i awdurdodau fod â chynlluniau ar gyfer pa amgylchiadau bynnag a allai xxxx xx xxx disgwyl iddynt fod ag arian i ddelio ag argyfyngau, a bod â darpariaeth yswiriant i leihau risg o’r fath.
Xxxx Xxxxxx: Pa astudiaeth a wnaed ynglyn ag asbestos mewn adeiladau ysgol yng Nghymru, a xxxx y xxx Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gael gwared ag ef? (WAQ46557)
Xxxx Xxxxxxxx: Yr awdurdodau lleol, neu gyrff llywodraethu yn achos ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, sy’n gyfrifol am gynnal a chadw adeiladau ysgolion a hefyd am iechyd a diogelwch eu gweithwyr, yn cynnwys athrawon, a disgyblion. Creodd Rheoliad 4 o Reoliadau Rheoli Asbestos yn y Gwaith 2002, a ddaeth i rym ar 21 Mai 2004, ddyletswydd gyfreithiol newydd i reoli asbestos mewn adeiladau annomestig, yn cynnwys ysgolion.
Yn ei hanfod, mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sydd â’r ddyletswydd hon—awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu yn yr achos hwn—ganfod defnyddiau sy’n cynnwys asbestos a defnyddiau y credir eu bod yn cynnwys asbestos ar eu safleoedd. Rhaid iddynt gofnodi eu lleoliad a’u cyflwr, cynnal asesiad risg, a pharatoi a gweithredu cynllun i reoli’r risg sy’n deillio o’r defnyddiau hyn (yn cynnwys darparu gwybodaeth i’r rhai a allai darfu arnynt). Prif nod y rheoliadau yw rheoli’r risg oddi wrth ddefnyddiau sy’n cynnwys asbestos ar safleoedd i wneud yn siwr nad oes neb yn dod i gysylltiad â ffibrau asbestos, a allai arwain at afiechyd. Os yw asbestos mewn cyflwr da ac na therfir arno, nid yw’n achosi risg i iechyd.
Xxxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog gadarnhau na chynyddir lefel y ffi gyfredol ar gyfer myfyrwyr addysg uwch o Gymru sy’n astudio yng Nghymru? (WAQ46574)
Xxxx Xxxxxxxx: Yr ydym wedi rhoi ymrwymiad na cheir cynnydd uwchlaw lefel chwyddiant cyn
diwedd y degawd fan gyntaf. Mae fy swyddogion wedi bod mewn trafodaeth â’r Adran Addysg a Sgiliau i benderfynu ar y trefniadau manwl ar gyfer uwchraddio’r ffi uchaf y caniateir ei chodi yn unol â chwyddiant ar gyfer blwyddyn academaidd 2007-08.
Xxxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog fanylu ynghylch cyfanswm gwariant cyfalaf yng Nghymru ar addysg a sgiliau ym mhob blwyddyn er 1999-2000? (WAQ46580)
Xxxx Xxxxxxxx: Xxx’r gwariant cyfalaf yng Nghymru ar addysg a sgiliau xxx blwyddyn er 1999-2000 wedi bod fel a ganlyn:
£,000 0000- 0000 | £,000 2000-01 | £,000 2001-02 | £,000 2002- 03 | £,000 2003-04 | £,000 2004-05 |
88,782 | 106,811 | 123,745 | 123,279 | 139,480 | 169,224 |
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Xxxx Xxxxxx: Pa sylwadau diweddar y mae’r Gweinidog wedi eu derbyn gan geidwaid dofednod bridiau prin a ffermwyr hobi ynglyn â brechu adar? (WAQ46542)
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad (Xxxxxx Xxxxx): Nid wyf wedi derbyn unrhyw sylwadau oddi wrth xxx xx’n cadw dofednod bridiau prin na ffermwyr hobi am frechu adar. Mae’r Llywodraeth o’r farn fod canfod a lladd heidiau sydd wedi’u heintio a chysylltiadau peryglus yn gyflym a gosod mesurau i reoli symudiadau o amgylch eiddo heintiedig yn ddull mwy effeithiol ac effeithlon. Mae’r polisi ar frechu yn cael ei adolygu o hyd. Gallai fod amgylchiadau yn ystod heintiad pryd y byddai brechu xxxx yn briodol ond byddai hyn yn ddarostyngedig i asesiad o’r risg filfeddygol ar y pryd.
Xxxx Xxxxxx: Pa sylwadau diweddar y mae’r Gweinidog wedi eu derbyn am amddiffyn rhywogaethau xxx fygythiad a gedwir mewn swau rhag ffliw adar? (WAQ46543)
Xxxxxx Xxxxx: Nid wyf wedi derbyn unrhyw sylwadau am amddiffyn rhywogaethau xxx fygythiad a gedwir mewn swau rhag ffliw adar. Mae’r Llywodraeth wedi archebu 2.3 miliwn dos o frechlyn fel darpariaeth wrth gefn ar gyfer anifeiliaid sw. Bydd y dosau hyn yn cael eu danfon yn fuan a, chyn
gynted ag y bydd y gweithdrefnau sicrhau ansawdd wedi cael eu cwblhau, byddant yn xxxxx i’w defnyddio erbyn dechrau mis Mai.
Xxxxxxx Xxxxxx: Yn dilyn y cwestiwn a’r drafodaeth frys yn y Cyfarfod Llawn ar 31 Ionawr, a’i adroddiad dilynol i’r pwyllgor Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad ar 16 Chwefror, pa drafodaethau neu ohebiaeth xxxxxxx y xxx’r Gweinidog wedi’u cael gyda DEFRA ynghylch rhoi’r gorau i ariannu IGER? (WAQ46571)
Xxxxxxx Xxxxxx: Yn dilyn y cyhoeddiad am golli swyddi, a’r cwestiwn a’r drafodaeth frys ddilynol yn y Cyfarfod Llawn ar 31 Ionawr, pa drafodaethau neu ohebiaeth y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda DEFRA ynghylch rhoi’r gorau i ariannu IGER? (WAQ46572)
Xxxxxx Xxxxx: Xxx fy swyddogion wedi cael cyfarfodydd gyda DEFRA i bwysleisio pwysigrwydd IGER Aberystwyth a’i ffermydd ymchwil cysylltiol yng Nghymru er mwyn cynnal ymchwil sy’n berthnasol i ddatblygwyr polisi a diwydiant Cymru. Yn gynnar ym mis Mawrth, cyfarfu fy swyddogion ag IGER a DEFRA i drafod y sefyllfa ariannu, ac i gefnogi cais gan IGER i’r UE. Mae strategaeth arloesi a thystiolaeth DEFRA i fod i gael eu cwblhau’r haf hwn, ac mae fy swyddogion yn dal i gysylltu â DEFRA ynglyn â sut y mae’r strategaeth hon yn ateb anghenion ymchwil Cymru. Mae fy swyddogion yn cyfrannu hefyd tuag at adolygiad o seilwaith ymchwil diwydiannau’r tir gan y cyngor sy’n cynghori DEFRA ynglyn â gwyddoniaeth.
Mae fy swyddogion hefyd wedi gweithio gyda’r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol, er enghraifft drwy’r fforwm ymchwil cymhwysol, i bwysleisio ein pryderon a phwysigrwydd bod â seilwaith seiliedig ar y tir i ymgymryd ag ymchwil ar sail Cymru a Lloegr. Mae’r pryderon hyn yn cynnwys goblygiadau’r datganiad diweddar gan y cyngor ymchwil am ei drefniadau i gyllido ei sefydliadau ymchwil i’r dyfodol. Mae fy swyddogion hefyd yn ystyried a yw’r adleoli ar staff Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad i Aberystwyth yn darparu cyfleoedd swyddi i staff yn IGER.
Xxxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi tabl yn dangos faint o wastraff cartrefi a ailgylchwyd yng Nghymru ar gyfer y pum mlynedd diwethaf? (WAQ46604)
Xxxxxx Xxxxx: Xxx’r gwastraff cartrefi a ailgylchwyd ac a gompostiwyd (ar wahân ac fel cyfanswm) yn ardaloedd yr awdurdodau lleol dros y pum mlynedd ddiwethaf y mae gwybodaeth ar gael amdanynt wedi’i nodi yn y tablau canlynol.
Ailgylchu a chompostio gwastraff cartrefi [1] 2000-01 i 2004-05.
Rhwng 2000-01 a 2003-04, cafwyd y data o’r arolygon rheoli gwastraff trefol a gynhaliwyd gan
Lywodraeth Cynulliad Cymru. Casglwyd data 2004-05 oddi wrth WasteDataFlow[2].
Cesglir y data hwn ar wahân i wybodaeth dangosyddion perfformiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n cael ei chasglu gan yr uned ddata llywodraeth leol. Mae’r setiau data yn cael eu croeswirio a’u dilysu. Canlyniadau dangosyddion perfformiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r rhai sy’n mesur perfformiad yn erbyn y targedau ailgylchu trefol yn strategaeth wastraff y Cynulliad.
[1] Megis yn Atodlen 1 at Reoliadau Gwastraff a Reolir 1992, er y cydnabyddir y gallai rhywfaint o wastraff masnachol neu ddiwydiannol fod wedi’i gynnwys yn y cyfansymiau.
Awdurdod Lleol | Ailgylchu a chompostio gwastraff cartrefi (tunelli metrig) | ||||
2000-01 | 2001-02 | 2002-03 | 2003-04 | 2004-05 | |
Blaenau Gwent | 1,075 | 1,401 | 2,047 | 6,829 | 8,587 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 4,002 | 6,283 | 10,077 | 9,496 | 11,372 |
Caerffili | 3,607 | 5,340 | 9,238 | 13,712 | 20,685 |
Caerdydd | 5,254 | 8,588 | 12,047 | 24,473 | 14,992 |
Sir Gaerfyrddin | 5,386 | 7,044 | 8,457 | 12,846 | 17,095 |
Ceredigion | 4,851 | 6,122 | 8,156 | 11,060 | 14,451 |
Conwy | 9,437 | 13,288 | 12,499 | 13,523 | 6,425 |
Xxx Xxxxxxxx | 1,711 | 2,041 | 4,874 | 6,590 | 8,183 |
Xxx x Xxxxxx | 5,768 | 6,188 | 11,078 | 14,315 | 17,529 |
Gwynedd | 3,455 | 3,568 | 5,263 | 8,871 | 9,867 |
Ynys Môn | 1,398 | 1,160 | 2,163 | 3,825 | 4,364 |
Merthyr Tudful | 750 | 887 | 1,611 | 2,927 | 3,219 |
Xxx Xxxxx | 3,354 | 5,001 | 5,821 | 8,043 | 12,495 |
Xxxxxxx-xxxx Port Xxxxxx | 2,031 | 1,991 | 1,868 | 8,493 | 13,598 |
Casnewydd | 5,330 | 7,692 | 11,015 | 14,648 | 15,346 |
Xxx Xxxxxx | 6,919 | 11,096 | 11,307 | 11,025 | 9,936 |
Powys | 5,039 | 10,145 | 12,806 | 17,039 | 21,262 |
Xxxxxxx Xxxxx Taf | 3,531 | 5,324 | 9,893 | 11,990 | 17,336 |
Abertawe | 9,429 | 12,510 | 17,728 | 25,023 | 26,729 |
Tor-faen | 2,442 | 2,022 | 5,424 | 8,435 | 7,345 |
Bro Morgannwg | 3,345 | 5,788 | 7,570 | 9,204 | 13,899 |
Wrecsam | 1,633 | 2,514 | 7,993 | 9,283 | 11,739 |
CYMRU | 89,746 | 125,993 | 178,936 | 251,651 | 286,455 |
Awdurdod Lleol | Ailgylchu gwastraff cartrefi (tunelli metrig) | ||||
2000-01 | 2001-02 | 2002-03 | 2003-04 | 2004-05 | |
Xxxxxxx Gwent | 1,075 | 1,401 | 1,864 | 5,807 | 7,049 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 4,002 | 4,311 | 4,677 | 5,097 | 8,123 |
Caerffili | 3,262 | 4,600 | 5,540 | 6,575 | 15,858 |
Caerdydd | 5,254 | 6,539 | 7,807 | 10,714 | 9,528 |
Sir Gaerfyrddin | 3,844 | 4,680 | 5,662 | 9,241 | 12,461 |
Ceredigion | 4,851 | 5,697 | 6,887 | 8,675 | 11,526 |
Conwy | 4,410 | 5,034 | 6,779 | 6,935 | 5,177 |
Xxx Xxxxxxxx | 1,711 | 1,866 | 2,694 | 3,412 | 4,752 |
Xxx x Xxxxxx | 5,768 | 6,188 | 7,029 | 8,856 | 10,374 |
Gwynedd | 3,455 | 3,568 | 5,050 | 8,123 | 8,512 |
Ynys Môn | 1,398 | 1,160 | 1,739 | 2,311 | 3,420 |
Merthyr Tudful | 750 | 763 | 1,229 | 2,392 | 2,661 |
Xxx Xxxxx | 2,891 | 3,701 | 3,772 | 4,681 | 6,100 |
Xxxxxxx-xxxx Port Xxxxxx | 2,031 | 1,991 | 1,868 | 6,987 | 8,681 |
Casnewydd | 4,330 | 5,717 | 6,922 | 8,583 | 10,483 |
Xxx Xxxxxx | 4,578 | 5,471 | 5,956 | 5,861 | 6,335 |
Powys | 3,431 | 7,899 | 9,155 | 11,992 | 14,376 |
Xxxxxxx Xxxxx Taf | 3,077 | 4,453 | 8,328 | 9,732 | 13,308 |
Abertawe | 4,844 | 6,159 | 10,060 | 14,696 | 19,293 |
Tor-faen | 1,935 | 1,841 | 3,422 | 5,762 | 5,583 |
Bro Morgannwg | 2,667 | 4,392 | 5,369 | 6,246 | 8,421 |
Wrecsam | 1,633 | 2,514 | 5,034 | 5,659 | 6,555 |
CYMRU | 71,196 | 89,944 | 116,842 | 158,336 | 198,577 |
Awdurdod Lleol | Compostio gwastraff cartrefi (tunelli metrig) | ||||
2000-01 | 2001-02 | 2002-03 | 2003-04 | 2004-05 | |
Xxxxxxx Gwent | 0 | 0 | 183 | 1,023 | 1,538 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 0 | 1,972 | 5,400 | 4,399 | 3,249 |
Caerffili | 345 | 740 | 3,698 | 7,137 | 4,827 |
Caerdydd | 0 | 2,049 | 4,240 | 13,759 | 5,465 |
Sir Gaerfyrddin | 1,542 | 2,364 | 2,795 | 3,605 | 4,635 |
Ceredigion | 0 | 425 | 1,269 | 2,385 | 2,924 |
Conwy | 5,027 | 8,254 | 5,720 | 6,588 | 1,248 |
Sir Ddinbych | 0 | 175 | 2,180 | 3,178 | 3,431 |
Sir y Fflint | 0 | 0 | 4,049 | 5,459 | 7,155 |
Gwynedd | 0 | 0 | 213 | 748 | 1,355 |
Ynys Môn | 0 | 0 | 424 | 1,514 | 943 |
Merthyr Tudful | 0 | 124 | 383 | 536 | 558 |
Xxx Xxxxx | 463 | 1,300 | 2,048 | 3,362 | 6,395 |
Xxxxxxx-xxxx Port Xxxxxx | 0 | 0 | 0 | 1,506 | 4,917 |
Casnewydd | 1,000 | 1,975 | 4,093 | 6,065 | 4,863 |
Xxx Xxxxxx | 2,341 | 5,625 | 5,352 | 5,165 | 3,601 |
Powys | 1,608 | 2,246 | 3,652 | 5,047 | 6,886 |
Xxxxxxx Xxxxx Taf | 454 | 871 | 1,565 | 2,258 | 4,027 |
Abertawe | 4,585 | 6,351 | 7,668 | 10,327 | 7,436 |
Tor-faen | 507 | 181 | 2,002 | 2,673 | 1,762 |
Bro Morgannwg | 678 | 1,396 | 2,202 | 2,958 | 5,478 |
Wrecsam | 0 | 0 | 2,959 | 3,624 | 5,185 |
CYMRU | 18,550 | 36,049 | 62,094 | 93,314 | 87,878 |
Xxxxx Xxxxxx: Pa dargedau y mae’r Gweinidog wedi’u gosod ar gyfer ailgylchu gwastraff cartrefi dros
a) y pum mlynedd ddiwethaf b) y pum mlynedd nesaf? (WAQ46605)
Xxxxxx Xxxxx: Xxx’r targedau ailgylchu a chompostio i’r awdurdodau lleol yn y strategaeth wastraff i Gymru wedi cael eu gosod ar gyfer gwastraff trefol, fel y’i mesurir gan ddangosyddion perfformiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, nid gwastraff cartrefi. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith mai’r targedau yn y gyfarwyddeb tirlenwi yw arallgyfeirio gwastraff trefol bioddiraddadwy fel nad yw’n mynd i
safleoedd tirlenwi. Y targedau yn y strategaeth wastraff i Gymru yw:
erbyn 2003-04, ailgylchu/compostio o leiaf 15 y cant o wastraff trefol gydag isafswm o 5 y cant o gompostio (a dim ond compost sy’n deillio o wastraff sydd wedi’i ddidoli yn y tarddle yn cyfrif) a 5 o ailgylchu;
erbyn 2006-07, ailgylchu/compostio o leiaf 25 y cant o wastraff trefol gydag isafswm o 10 y cant o gompostio (a dim ond compost sy’n deillio o wastraff sydd wedi’i ddidoli yn y tarddle yn cyfrif) a 10 o ailgylchu; ac
erbyn 2009-10 a thu hwnt, ailgylchu/compostio o leiaf 40 y cant o wastraff trefol gydag isafswm o 15 y cant o gompostio (a dim ond compost sy’n deillio o wastraff sydd wedi’i ddidoli yn y tarddle yn cyfrif) a 15 o ailgylchu.
Xxxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi rhestr yn dangos canran y gwastraff cartrefi a ailgylchwyd xxx xxx awdurdod lleol yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf y mae ffigurau ar gael ar eu cyfer? (WAQ46606)
Xxxxxx Xxxxx: Dangosir canran y gwastraff cartrefi a ailgylchwyd ac a gompostiwyd xxx xxx awdurdod lleol yng Nghymru yn 2004-05, y flwyddyn ddiwethaf y mae ffigurau ar xxxx xxxxxx, yn y tabl isod.
Awdurdod lleol | 2004-05 | ||||
Ailgylchu gwastraff cartrefi (tunelli metrig) | Compostio gwastraff cartrefi (tunelli metrig) | Canran a ailgylchwyd | Canran a gompostiwyd | Canran y gwastraff cartrefi a ailgylchwyd ac a gompostiwyd | |
Xxxxxxx Gwent | 7,049 | 1,538 | 15.8 | 3.5 | 19.3 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 8,123 | 3,249 | 12.8 | 5.1 | 17.9 |
Caerffili | 15,858 | 4,827 | 17.8 | 5.4 | 23.3 |
Caerdydd | 9,528 | 5,465 | 6.4 | 3.6 | 10.0 |
Sir Gaerfyrddin | 12,461 | 4,635 | 13.4 | 5.0 | 18.4 |
Ceredigion | 11,526 | 2,924 | 24.7 | 6.3 | 31.0 |
Conwy | 5,177 | 1,248 | 8.6 | 2.1 | 10.7 |
Xxx Xxxxxxxx | 4,752 | 3,431 | 9.3 | 6.7 | 16.1 |
Xxx x Xxxxxx | 10,374 | 7,155 | 12.0 | 8.2 | 20.2 |
Gwynedd | 8,512 | 1,355 | 12.2 | 1.9 | 14.1 |
Ynys Môn | 3,420 | 943 | 8.6 | 2.4 | 10.9 |
Merthyr Tudful | 2,661 | 558 | 8.5 | 1.8 | 10.3 |
Xxx Xxxxx | 6,100 | 6,395 | 12.5 | 13.1 | 25.7 |
Xxxxxxx-xxxx Port Xxxxxx | 8,681 | 4,917 | 10.7 | 6.1 | 16.8 |
Casnewydd | 10,483 | 4,863 | 15.5 | 7.2 | 22.7 |
Xxx Xxxxxx | 6,335 | 3,601 | 10.5 | 6.0 | 16.4 |
Powys | 14,376 | 6,886 | 21.7 | 10.4 | 32.1 |
Xxxxxxx Xxxxx Taf | 13,308 | 4,027 | 10.6 | 3.2 | 13.8 |
Abertawe | 19,293 | 7,436 | 15.6 | 6.0 | 21.7 |
Tor-faen | 5,583 | 1,762 | 11.6 | 3.6 | 15.2 |
Bro Morgannwg | 8,421 | 5,478 | 13.6 | 8.9 | 22.5 |
Wrecsam | 6,555 | 5,185 | 8.7 | 6.8 | 15.5 |
CYMRU | 198,577 | 87,878 | 12.5 | 5.5 | 18.1 |
Cesglir y data hwn ar wahân i wybodaeth dangosyddion perfformiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n cael ei chasglu gan yr uned ddata llywodraeth leol. Mae’r setiau data yn cael eu croeswirio a’u dilysu. Canlyniadau dangosyddion perfformiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r rhai sy’n mesur perfformiad yn erbyn y targedau ailgylchu trefol yn strategaeth wastraff y Cynulliad.
Xxxxx Xxxxxx: All y Gweinidog gadarnhau faint o arian a roddwyd x’x neilltu gan Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru i ddysgu i fenywod Mwslimaidd sut mae genweirio? (WAQ46607)
Xxxxx Xxxxxx: All y Gweinidog gadarnhau a oes gan Asiantaeth yr Amgylchedd unrhyw gynlluniau i gynnal cyrsiau genweirio ar gyfer a) menywod Sikh, b) menywod Iddewig, c) menywod Cristnogol, d) menywod sy'n anghredinwyr? (WAQ46608)
Xxxxx Xxxxxx: All y Gweinidog gadarnhau a fydd a) menywod Sikh, b) menywod Iddewig, c) menywod Cristnogol, d) menywod sy'n anghredinwyr yn cael cymryd rhan yn y cyrsiau genweirio a gynhelir am ddim gan Asiantaeth yr Amgylchedd i fenywod Mwslemiaid? (WAQ46609)
Xxxxx Xxxxxx: All y Gweinidog gadarnhau pa ganran o fenywod Mwslemiaid sydd wedi cymryd rhan yn y cyrsiau genweirio a gynhelir am ddim gan Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n dod o’r gymuned Mwslemiaid Shia? (WAQ46610)
Xxxxxx Xxxxx: Nid oes arian yn cael ei neilltuo’n benodol i gyllido digwyddiadau genweirio i grwpiau neilltuol, ac nid oes ystadegau’n cael eu casglu am gredoau crefyddol y rhai sy’n mynychu’r digwyddiadau.
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid
Xxx Xxxxx: Pa gymorth y mae rheolwyr caffael Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei roi ar hyn o xxxx xx mwyn annog busnesau bach a chanolig Cymru i ddod at ei gilydd i dendro am gontractau Llywodraeth Cynulliad Cymru? (WAQ46565)
Y Gweinidog Cyllid (Xxx Xxxxx): Xxx rheolwyr caffael Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gosod contractau ar sail cystadleuaeth deg ac agored er mwyn sicrhau’r gwerth gorau am arian. I gynorthwyo busnesau bach a chanolig eu maint i ymgeisio am fusnes gan y Cynulliad, maent yn mynychu digwyddiadau ‘Cwrdd â’r Prynwr’, yn cyhoeddi canllawiau ar sut i dendro, yn hysbysebu cyfleoedd contract ar wefan ‘Buy4Wales’ ac yn cynnig adroddiad llawn yn ôl i ymgeiswyr aflwyddiannus. Ar yr achlysuron hyn, maent yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio gydag eraill i wella’r fantais gystadleuol.
Mae’r Cynulliad yn gosod rhai contractau ar sail ceisiadau consortiwm, tra bo contractau eraill yn cael eu rhannu’n gyfrannau, gan roi’r cyfle i fusnesau bach a chanolig eu maint i ymgeisio am gontractau mwy.
Xxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ba gymorth pellach y gallai rheolwyr caffael Llywodraeth Cynulliad Cymru ei roi er mwyn annog busnesau bach a chanolig Cymru i ddod at ei gilydd i dendro am gontractau Llywodraeth Cynulliad Cymru? (WAQ46566)
Xxx Xxxxx: Rhaid i reolwyr caffael y Cynulliad Cenedlaethol drin pob cyflenwr mewn modd teg a chyson. Mae’r ateb a roddwyd i WAQ46565 yn amlinellu’r camau sy’n cael eu cymryd ar hyn x xxxx i sicrhau bod busnesau bach a chanolig yn cael gwybod am y prosesau contractio a’r cyfleoedd contract sydd ar gael.
Mae rhannau eraill o’r Cynulliad yn annog datblygiad busnesau bach a chanolig, fel ein prosiect i ddatblygu cyflenwyr lleol, a thynnaf xxxx sylw at yr ateb a roddwyd gan Xxxxxx Xxxxxx i WAQ46569.
Xxx Xxxxx: Pa feincnodau a ddefnyddir i fonitro perfformiad y prif werthwr adnoddau dynol mewn perthynas ag awdurdodau lleol yng Nghymru? (WAQ46567)
Xxx Xxxxx: Contract un ffynhonnell, yn gweithio mewn partneriaeth â chyflenwyr eilaidd i reoli anghenion recriwtio parhaol a thros dro sefydliad, yw cytundeb prif werthwr.
Nid oes trefniadau o fewn y Cynulliad i reoli eu perfformiad. Mae pob awdurdod lleol yn gyfrifol am ei swyddogaethau adnoddau dynol ei hun, yn cynnwys pob agwedd o recriwtio.
Xxxxxx Xxxxxxxx: Sut y mae’r Gweinidog yn bwriadu dyrannu’r £13m o gyllideb y DU sydd i’w wario, yn ôl y cyhoeddiad, ar addysg? (WAQ46570)
Xxx Xxxxx: Cyhoeddais ein cynlluniau i ddefnyddio’r symiau canlyniadol o gyllideb y DU yn fy natganiad Cabinet ar 28 Mawrth.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Xxxxxxxx Xxxxxx: Pa gyngor y mae grwp strategaeth feddyginiaethau Cymru gyfan wedi ei roi ynglyn ag effeithiolrwydd y cyffuriau a ddefnyddir ar hyn x xxxx i drin salwch meddwl? (WAQ46510)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Xxxxx Xxxxxxx): Deallaf nad oes cais wedi cael ei wneud am i grwp strategaeth feddyginiaethau Cymru gyfan ymgymryd â’r dasg hon.
Xxxxxxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog restru pob canllaw a gyhoeddwyd gan y Cynulliad er 1999 ynglyn â rhagnodi cyffuriau i drin salwch meddwl? (WAQ46515)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx manylion yr xxxx gyhoeddiadau, yn cynnwys canllawiau, i’w gweld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n ofynnol yn ôl cam gweithredu allweddol 36 o’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer oedolion fod timau gofal sylfaenol, timau iechyd meddwl cymunedol a byrddau iechyd lleol yn datblygu systemau rheoli meddyginiaethau ar gyfer y bobl hynny y mae meddyginiaeth yn rhan o’u cynllun gofal.
Xxxxxxxx Xxxxxx: Faint o gleifion yng Nghymru sy’n cael eu trin â benzodiazepines ar hyn x xxxx yng Nghymru? (WAQ46516)
Xxxxx Xxxxxxx: Nid yw’r wybodaeth hon yn cael ei dal yn ganolog.
Xxxxxxxx Xxxxxx: Yn dilyn yr archwiliad cyhoeddus i’r defnydd o benzodiazepines ddechrau’r 1990au, sawl archwiliad arall o’r fath a wnaed, ac a wnaiff y Gweinidog eu rhestru? (WAQ46517)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx dangosyddion rhagnodi sy’n cael eu defnyddio gan y byrddau iechyd lleol i fonitro rhagnodi benzodiazepines, yn benodol i fonitro’r defnydd ohonynt ar sail barhaus. Mae’r defnydd yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol ers i’r cyngor gael ei roi.
Xxxxxxxx Xxxxxx: Pa adolygiad y mae’r Gweinidog wedi ei wneud o argymhellion Adran Iechyd Gweriniaeth Iwerddon ynglyn â defnyddio benzodiazepines? (WAQ46518)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx fy swyddogion yn ystyried adroddiad Gweriniaeth Iwerddon. Mae’r canfyddiadau yn ategu casgliadau adroddiad cyffelyb a baratowyd yng Nghymru yn yr 1990au cynnar. Un o ganlyniadau’r adroddiad hwnnw oedd bod cyngor wedi cael ei roi i’r GIG yng Nghymru ar ragnodi benzodiazepines. Mae’r patrymau rhagnodi yn cael eu monitro’r rheolaidd.
Xxxxxxxx Xxxxxx: Pa bwysau sy’n cael eu cwrdd wrth drosglwyddo £32m o hyblygrwydd diwedd blwyddyn i XXXxxx xx ymddiriedolaethau? (WAQ46519)
Xxxxx Xxxxxxx: Y £32 miliwn a drosglwyddwyd o hyblygrwydd diwedd blwyddyn yw’r cyllid a gyhoeddais ar 23 Chwefror 2005 sydd i gael ei ryddhau i GIG Cymru yn 2005-06 i helpu i gyrraedd y targedau amseroedd aros a osodwyd ar gyfer 31 Mawrth 2006. Cafodd y trosglwyddiad o gyllidebau canolog i’r gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ei weithredu ddiwedd blwyddyn 2005-06 am resymau gweinyddol.
Xxxxxxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog restru’r XXXxxx xxxx wedi nodi eu bod xxx bwysau i anelu at gwrdd â thargedau amseroedd aros 2005-06? (WAQ46520)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx amseroedd aros 2005-06 yn heriol, ond mae’r XXXxxx i gyd yn ymdrechu i’w cyrraedd erbyn 31 Mawrth 2006.
Xxxxxxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog restru’r dyraniad i xxx ymddiriedolaeth a BILl yn y £32
miliwn a drosglwyddwyd i gwrdd â’r pwysau o gyflawni targedau amseroedd aros 2005-06? (WAQ46521)
Xxxxx Xxxxxxx: Trafodwyd hyn yng nghyfarfod y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 13 Gorffennaf 2005 ac fe’ch cyfeiriaf at HSS(2)-09-05, papur 4.
Xxxxxxxx Xxxxxx: O’r £13.8 miliwn a ddygwyd ymlaen o 2004-05 i 2005-06 yng nghyllidebau XXXxxx xx ymddiriedolaethau: a) sut y rhannwyd y swm hwn rhwng y cyrff; b) at ba ddibenion y caniatawyd iddo gael ei ddwyn ymlaen; ac c) a yw hyn yn wariant untro neu a yw’r swm i’w gynnwys fel elfen reolaidd? (WAQ46522)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx’r ymatebion i xxx xxxx o’r cwestiwn wedi’u nodi isod:
Bwrdd Xxxxxx Xxxxx | £000’s |
Bwrdd Iechyd Lleol Conwy | 200 |
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Ddinbych | 500 |
Bwrdd Iechyd Lleol Sir y Fflint | 850 |
Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd | 400 |
Bwrdd Iechyd Lleol Wrecsam | 300 |
Bwrdd Iechyd Lleol Ynys Môn | 325 |
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Benfro | 388 |
Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd | 450 |
Bwrdd Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf | 2,500 |
Bwrdd Iechyd Lleol Blaenau Gwent | 560 |
Bwrdd Iechyd Lleol Caerffili | 500 |
Bwrdd Iechyd Lleol Casnewydd | 900 |
Bwrdd Iechyd Lleol Merthyr Tudful | 1,038 |
Arall (cyllidebau’n ymwneud â XXXxxx) | 1,000 |
Is-gyfanswm | 9,911 |
Ymddiriedolaethau GIG | |
Ymddiriedolaeth GIG Pontypridd a Rhondda | 400 |
Ymddiriedolaeth GIG Felindre | 1,452 |
Is-gyfanswm | 1,852 |
Cyllid Hysbysu Gofal Iechyd | 2,000 |
Cyfanswm | 13.763 |
a) Yr oedd yr £13.8 miliwn o danwariant y cytunwyd arno a gariwyd drosodd o 2004-05 yn rhannu fel a ganlyn:
b) Gofynnwyd am y tanwariant o £13.8 miliwn yn 2004-05 i helpu i gynnal sefydliadau GIG, drwy roi iddynt rywfaint o hyblygrwydd i wella eu cynllunio a’u rheolaeth ariannol drwy gario’r tanwariant a oedd wedi’i gynllunio drosodd. Yr un maen prawf a osodwyd oedd bod yn rhaid i xxx xxxxx gyflawni’r tanwariant yr oedd wedi’i gynllunio a’u bod yn cyrraedd eu targedau ariannol yn 2004-05.
c) Elfennau untro oedd y tanwariant a darparwyd y cyllid o £13.8 miliwn iddynt yn 2005-06 ar y sail nad yw’n gyllid rheolaidd.
Xxxxxxxx Xxxxxx: At ba ddiben y gwnaed y trosglwyddiad refeniw i gyfalaf o £11.5 miliwn o gronfeydd hyblygrwydd diwedd blwyddyn i xxxxxx wariant cyfalaf yr ymddiriedolaethau a chyfalaf y byrddau iechyd lleol? (WAQ46523)
Xxxxx Xxxxxxx: Yr oedd angen y trosglwyddiad o £11.5 miliwn i sicrhau bod y gwariant cyfalaf wedi’i gynllunio ar gyfer rhai cynlluniau a oedd wedi cael eu nodi’n wreiddiol fel cynlluniau refeniw, e.e.
Hysbysu Gofal Iechyd a robotiaid fferylliaeth, yn cael eu cofnodi’n gywir yn y cyfrifon fel asedau cyfalaf.
Xxxxx Xxxxxxxxx: Pa gamau gweithredu a sefydlwyd er mwyn sicrhau bod y cyllid ychwanegol a roddwyd gan y Gweinidog fis Hydref diwethaf ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn cael ei ddefnyddio gan XXXxxx i ddarparu gwasanaethau gwirioneddol ychwanegol, ac nid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer agweddau eraill ar wasanaethau iechyd? (WAQ46544)
Xxxxx Xxxxxxx: Yr oedd yn ofynnol i’r XXXxxx gynhyrchu cynlluniau wedi’u costio yn dangos canlyniadau cydlynol a cherrig milltir mesuradwy. Ymysg y meini prawf a fabwysiadwyd wrth gytuno ar y cynlluniau hyn yr oedd nodi dangosyddion perfformiad a sicrhau y gallai’r XXXxxx ddangos sut y byddai’r cyllid ychwanegol yn darparu gwell gwasanaethau iechyd meddwl y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir wrth gyflawni targedau presennol fframwaith gwasanaeth a chyllid 2005-06. Fel rhan o’r broses i reoli’r cyllid hwnnw, mae’n ofynnol i’r XXXxxx gyflwyno adroddiad cynnydd ar 31 Rhagfyr 2006 i gynnwys cyflawniadau a fesurir yn erbyn dangosyddion perfformiad y cytunwyd arnynt.
Xxxxx Xxxx Xxxxx: A yw’r Gweinidog yn ymwybodol o unrhyw gynlluniau i docio niferoedd staff yn y GIG? (WAQ46545)
Xxxxx Xxxxxxx: Ar hyn x xxxx, nid oes cynlluniau i docio niferoedd staff yn y GIG. Yn wir, mae’r nifer o staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru wedi cynyddu 2,270 rhwng 2004 a 2005.
Mae’r buddsoddiad yr ydym wedi ei wneud yn hyfforddi rhagor o fyfyrwyr hefyd yn cael effaith ac yn arwain at fwy o staff i’r GIG. Yr ydym wedi gweithio hefyd gyda’r ymddiriedolaethau i ddatblygu strategaethau recriwtio a chadw cenedlaethol a lleol. Mae’r rhain yn sicrhau ein bod wedi hyfforddi’r nifer iawn o staff i ddiwallu anghenion ymddiriedolaethau ar draws Cymru. Wrth inni weithio tuag at dargedau staffio 2010, gobeithiaf weld nifer staff y GIG yn parhau i gynyddu wrth i’r nifer o swyddi gwag fynd yn llai.
Xxxx Xxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddweud i ble y byddai’n rhaid i gleifion sy’n dioddef x xxxxxx y xxxxxxx yn sir Gaerfyrddin fynd i dderbyn triniaeth Brachy? (WAQ46559)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx therapi Xxxxxx yn un o’r tri math o driniaeth gydnabyddedig am xxxxxx y xxxxxxx. Y ddau fath arall yw radiotherapi a phrostadectomi radical. Mae therapi Brachy yn golygu gosod gleiniau o ïodin ymbelydrol yn y chwarren brostad yn lle llawdriniaeth radical (prostadectomi). Mae’n driniaeth adnabyddus sydd wedi cael ei hasesu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol, a phrofwyd ei bod yn effeithiol mewn achosion cynnar x xxxxxx y xxxxxxx. Nid yw therapi Brachy erioed wedi bod ar gael yng Nghymru ac yr ydym yn anfon tua chwe chlaf y flwyddyn o sir Gaerfyrddin i Leeds i gael y driniaeth.
Xxxx Xxxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddweud a oes triniaeth uwchsain benodol, dwysedd uchel, ar gael i bobl sy’n dioddef x xxxxxx y xxxxxxx yng Nghymru? (WAQ46560)
Xxxxx Xxxxxxx: Dim ond fel rhan o dreial clinigol y mae triniaeth uwchsain benodol ar gael yn y DU ar hyn x xxxx.
Xxxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad yn ôl amser aros, Ymddiriedolaeth a Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer y rhai sydd ar restr aros am Therapïau Sglerosis Ymledol yng Nghymru? (WAQ46561)
Xxxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y bobl sy’n aros am Therapïau Addasu Clefydau ar gyfer Sglerosis Ymledol yng Nghymru? (WAQ46562)
Xxxxx Xxxxxxx: Nid yw’r wybodaeth hon yn cael ei dal yn ganolog.
Xxxxx Xxxxxx: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sefyllfa Comisiwn Iechyd Cymru o ran cyllido therapïau addasu clefydau ar gyfer sglerosis ymledol yng Nghymru? (WAQ46563)
Xxxxx Xxxxxxx: Yn ystod blwyddyn ariannol 2005-06, mae Comisiwn Iechyd Cymru wedi buddsoddi
£2.5 miliwn mewn therapïau addasu clefydau ar gyfer sglerosis ymledol a’r seilwaith angenrheidiol i ofalu am a monitro cleifion sy’n defnyddio’r cyffuriau hyn. Mae’n bwysig nodi bod y lefel gyfredol o gyllid yn sylweddol uwch na’r dyraniad gwreiddiol o £1.7 miliwn, a ryddhawyd i’r comisiynwyr yn 2002. Mae hyn yn adlewyrchu galw cynyddol am therapïau addasu clefydau ar draws pob un o dair canolfan Cymru. Yn niffyg cyllid ychwanegol ar gyfer therapïau addasu clefydau, mae’r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Gomisiynu wedi cytuno na ddylai Comisiwn Iechyd Cymru ymgymryd ag achosion newydd y tu hwnt i’r lefel gyfredol o gyllid. Yn y cyfamser, mae Comisiwn Iechyd Cymru wedi ymrwymo i gynnal y ddarpariaeth gwasanaeth gyfredol i gleifion sydd ar hyn x xxxx yn cael therapïau addasu clefydau yng Nghymru ar gyfer gweddill 2005-06 a 2006-07.
Xxxxxx Xxxx: Yn dilyn ei ateb i WAQ46274, WAQ46275 a WAQ46276, a wnaiff y Gweinidog ddatgan pryd, ar ôl gwneud diagnosis bod gan glaf ffurf ar ffliw pandemig, y mae ymgynghorwyr meddygol yn argymell rhoi’r cyffur gwrth-firws Tamiflu? (WAQ46575)
Xxxxxx Xxxx: Yn dilyn ei ateb i WAQ46274, WAQ46275 a WAQ46276, pa gyngor meddygol y mae’r
Gweinidog wedi’i dderbyn ynghylch ble dylid storio cyrsiau o tamiflu er mwyn gwarchod y cyhoedd yn y ffordd orau bosibl? (WAQ46576)
Xxxxxx Xxxx: Yn dilyn ei ateb i WAQ46274, WAQ46275 a WAQ46276, pa sicrwydd y mae’r Gweinidog wedi gofyn amdano, neu wedi’i gael, y byddai stociau o Tamiflu a glustnodwyd ar gyfer Cymru ond a gedwir yn Lloegr yn cael eu gwarchod er mwyn trin cleifion yng Nghymru pe ceid ffliw pandemig y tu xxxxx i Gymru? (WAQ46577)
Xxxxxx Xxxx: Yn dilyn ei ateb i WAQ46274, WAQ46275 a WAQ46276, a wnaiff y Gweinidog ddatgan amcan o’r amser y byddai’n ei gymryd, rhwng diagnosis y Meddyg Teulu a derbyn triniaeth, i glaf yn (a) Sir Benfro, (b) Llandudno, (c) Dolgellau, (ch) Caergybi, (d) Llanbedr Pont Steffan, (dd) Aberdâr ac (e) Abergwesyn dderbyn cwrs o Tamiflu o’r stoc a gedwir yn Lloegr? (WAQ46578)
Xxxxx Xxxxxxx: Fe’m cynghorir, ar sail profiad yn erbyn ffliw tymhorol, y gellir disgwyl i gyffuriau gwrthfeirysol oseltamivir (Tamiflu) a weinyddir o fewn 48 awr i’r symptomau ymddangos, a pharhau i’w cymryd am bum diwrnod, leihau hyd a difrifoldeb y symptomau. Po gynharaf y rhoddir y cyffuriau gwrthfeirysol i xxxxxx xxx, y mwyaf yw’r xxxx i’w iechyd. Mae fy swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol i ddatblygu system dosbarthu cyffuriau gwrthfeirysol a all gyflenwi triniaeth i unrhyw gyfeiriad yng Nghymru cyn gyflymed â phosibl, a hynny’n sicr yn gyfforddus o fewn y ffenestr o gyfle therapiwtig.
Pan dderbynnir y cyffuriau gwrthfeirysol o’r depo yn Lloegr, byddant yn cael eu dal mewn storfa ganolog yng Nghymru. Trefniant dal dros dro yn unig yw hwn, gan mai’r bwriad yw y byddant yn cael eu dal ledled y wlad. Bydd y system ddosbarthu sy’n cael ei datblygu yn hwyluso mynediad hawdd at gyffuriau gwrthfeirysol ym mhob rhan o Gymru ar sail 24 awr, saith diwrnod yr wythnos. Ni allaf ddweud faint o amser y bydd yn ei gymryd i ddanfon cyflenwadau i rannau penodol o’r wlad ar hyn o bryd gan fod hyn yn rhan o’r gwaith cynllunio sydd ar y gweill.
Hoffwn xxxx sicrhau unwaith yn rhagor fod y cyffuriau gwrthfeirysol a brynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn cael eu neilltuo i gael eu defnyddio yng Nghymru yn unig. Gallaf gadarnhau bod y swyddogion yn cwblhau’r trefniadau i dderbyn ein swmp gyflenwad interim a gynlluniwyd ar gyfer y gwanwyn hwn. Bydd hyn yn golygu bod mwy na 364,000 o gyrsiau gwrthfeirysol yma yng Nghymru. Byddir yn trefnu bod ail gyflenwad yn cael ei ddanfon ar ôl mis Medi 2006 wedi i’r gwneuthurwr ddarparu’r cyflenwadau sydd wedi eu rhestru yn unol â’r cynlluniau.
Yn ystod pandemig, disgwylir i’r galwadau ar wasanaethau gofal sylfaenol gynyddu ac mae hyn yn cael ei gymryd i ystyriaeth yn y gwaith cynllunio sy’n cael ei wneud gan xxxxxx gwlad y DU gyda’i gilydd. Sut bynnag y caiff cyffuriau gwrthfeirysol eu gweinyddu, gallaf gadarnhau y byddant ar gael i bobl yng Nghymru o’r cyflenwadau sy’n cael eu dal yng Nghymru.
Xxxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog fanylu ynghylch cyfanswm gwariant cyfalaf yng Nghymru ar iechyd ym mhob blwyddyn er 1999-2000? (WAQ46581)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx’r gwariant ar y rhaglen gyfalaf i GIG Cymru wedi bod fel a ganlyn:
Blwyddyn Ariannol | £ miliwn |
1998-99 | 97.18 |
1999-2000 | 90.40 |
2000-01 | 73.35 |
2001-02 | 128.14 |
2002-03 | 120.18 |
2003-04 | 125.85 |
2004-05 | 145.77 |
Mae’r ffigurau yn cynnwys cronfa foderneiddio gyfalaf ac ychwanegiadau hyblygrwydd diwedd blwyddyn at raglen gyfalaf Cymru gyfan.
Xxxxx Xxxxxxxxx: Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog ar gyfer rhaglen sgrinio canser y coluddyn? (WAQ46582)
Xxxxx Xxxxxxx: Fel rhan o fframwaith sy’n cael ei ddatblygu i fynd i’r afael â chanser y coluddyn yng Nghymru, yr wyf wedi gofyn i Gomisiwn Iechyd Cymru weithio gyda’r GIG a’r grwp cyd-drefnu gwasanaethau canser i ddatblygu cynigion ffurfiol ar gyfer xxxxxxx gyflwyno rhaglen genedlaethol i sgrinio dynion a menywod 50 i 74 oed am xxxxxx y coluddyn. Yn gefn i hyn bydd rhwydwaith hyfforddi a reolir yn cael ei sefydlu ar gyfer endosgopyddion.
Xxxxx Xxxx Xxxxx: Pa fesurau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn sicrhau bod cerbydau ysbytai yng Nghymru yn lân? (WAQ46583)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx xxx staff gyfrifoldeb i sicrhau bod safonau glendid priodol yn cael eu cynnal
ledled y GIG a mater i’r ymddiriedolaethau yw asesu glendid eu cerbydau drwy eu harolygu. Yr wyf yn cyflwyno is-ddeddfwriaeth i sicrhau bod cyfarwyddwr anweithredol ym mhob ymddiriedolaeth GIG yn gweithredu fel eiriolwr dros faterion glanhau, hylendid a rheoli heintiau. Mae criwiau ambiwlans yn cario offer glanhau arbenigol i lanhau eu cerbyd rhwng cleifion a xxxxxxx ddychwelyd i’r brif orsaf iddo gael ei lanhau’n fwy trylwyr os oes raid.
Xxxxx Xxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod y dyfarniad cyflog nyrsys a gyhoeddwyd ar 30 Mawrth 2006 yn berthnasol i xxx xxxx, boed hwy’n rhan o’r ‘Agenda ar gyfer Newid’ neu’n parhau ar system raddio Xxxxxxx? (WAQ46584)
Xxxxx Xxxxxxx: Gallaf gadarnhau y bydd hwn yn ddyfarniad cyflog i xxx nyrs pa un a ydynt wedi cael eu cymhathu i’r ‘Agenda ar gyfer Newid’ ai peidio ynteu’n dal i aros i gael eu cymhathu.
Xxxxx Xxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog fanylu ynghylch nifer y meddygon a adawodd y GIG ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ46585)
Xxxxx Xxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog fanylu ynghylch nifer y meddygon a recriwtiwyd i’r GIG ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ46588)
Xxxxx Xxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog fanylu ynghylch nifer y nyrsys a recriwtiwyd i’r GIG ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ46589)
Xxxxx Xxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog fanylu ynghylch nifer y nyrsys a adawodd y GIG ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ46590)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx gwybodaeth am staff y GIG yn cael ei chasglu’n flynyddol ar 30 Medi ac mae a wnelo â’r staff sydd mewn swydd ar y dyddiad hwnnw. Nid oes gwybodaeth am y niferoedd sydd wedi ymuno ac ymadael yn y flwyddyn rhwng un cyfrif a’r llall yn cael ei chasglu’n ganolog. Rhoddir gwybodaeth am y staff mewn swydd a’r newid net ers y flwyddyn flaenorol yn y tabl hwn:
Staff mewn swydd a’r newid net ers y flwyddyn flaenorol
Nyrsys (a) | Meddygon (b) | |||
Staff mewn swydd | Newid | Staff mewn swydd | Newid | |
30 Medi 2000 | 24,127 | +2,164 | 4,341 | +139 |
30 Medi 2001 | 24,439 | +312 | 4,312 | -29 |
30 Medi 2002 | 25,821 | +1,382 | 4,561 | +249 |
30 Medi 2003 | 26,979 | +1,158 | 4,554 | -7 |
30 Medi 2004 | 28,512 | +1,533 | 5,084 | +530 |
30 Medi 2005 | 29,416 | +904 | 5,166 | +82 |
(a) Nifer (cyfrif pennau) o staff wedi cymhwyso (yn cynnwys ymwelwyr iechyd a bydwragedd).
(b) Nifer (cyfrif pennau) o feddygon yn gweithio yn y gwasanaeth ysbytai ac iechyd cymunedol/ cyhoeddus.
Xxxxx Xxxx Xxxxx: A wnaiff y Gweinidog fanylu ynghylch cyfanswm y cyfalaf a wariwyd ar (i) ysbytai; (ii) meddygfeydd meddygon teulu; (iii) practisiau deintyddol ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ46586)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx’r gwariant ar (i) ysbytai o xxx y rhaglen gyfalaf er 1999 wedi bod yn:
Blwyddyn Ariannol | £ miliwn |
1998-99 | 97.18 |
1999-2000 | 90.40 |
2000-01 | 73.35 |
2001-02 | 128.14 |
2002-03 | 120.18 |
2003-04 | 125.85 |
2004-05 | 145.77 |
Mae’r ffigurau yn cynnwys ychwanegiadau’r gronfa foderneiddio gyfalaf a hyblygrwydd diwedd blwyddyn at raglen gyfalaf Cymru gyfan.
Ni fu gwariant cyfalaf ar (ii) meddygfeydd meddygon teulu a (iii) practisiau deintyddol.
Xxxxx Xxxx Xxxxx: Xxxx xxx’r Gweinidog yn bwriadu (i) lleihau a (ii) diddymu ffioedd presgripsiwn? (WAQ46587)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx’r Llywodraeth wedi addunedu i ddileu’r tâl presgripsiwn erbyn mis Ebrill 2007. Yr wyf newydd ostwng y tâl yng Nghymru unwaith eto i £3 a’r cam nesaf fydd ei ddiddymu’n llwyr.
Xxxxxxxx Xxxxxxx: Pa gamau a gymerwyd i sicrhau bod barn a phryderon pobl, gan gynnwys plant, ag asthma neu gyflyrau anadlol eraill, yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn y gwaith o ddatblygu’r strategaeth anadlu? (WAQ46596)
Xxxxx Xxxxxxx: Xxx’r gwaith o ddatblygu’r cyfarwyddebau datblygu a chomisiynu gwasanaethau ar gyfer cyflyrau anadlol yn gallu dibynnu llawer ar gymorth y grwp cynllunio amlbroffesiwn ac amlddisgyblaethol. Mae’r grwp hwn yn cynnwys cynrychiolwyr cleifion, yn ogystal â gweithwyr iechyd proffesiynol xx xxxx iechyd anadlol. Bydd cyfnod ymgynghori cyhoeddus o dri mis hefyd yn darparu cyfle allweddol i roi sylw i farn pobl sydd â chyflyrau anadlol.
Xxxxxxxx Xxxxxxx: A yw’r strategaeth anadlu wedi cynnal unrhyw archwiliadau o’r ddarpariaeth gwasanaeth gyfredol ar gyfer asthma mewn gofal sylfaenol ac eilaidd, ac os ydyw, pryd y maent i’w cyhoeddi? (WAQ46597)
Xxxxx Xxxxxxx: Bydd adolygiad cynhwysfawr o’r gwasanaethau ar gyfer pob cyflwr anadlol cronig, yn cynnwys asthma, yn cael ei gynnal yn gefn i weithredu’r cyfarwyddebau datblygu a chomisiynu gwasanaethau ar gyfer cyflyrau anadlol. Bydd hyn yn darparu tystiolaeth am fynychder a thueddiadau o ran cyflyrau anadlol a’r galwadau ar wasanaethau sylfaenol ac eilaidd. Bydd yn help i roi gwybod i gynllunwyr a chomisiynwyr gwasanaethau am y ffyrdd gorau o ddatblygu a gwella gwasanaethau a chefnogi pobl sydd â chyflyrau anadlol cronig ar draws Cymru.
Xxxxxxxx Xxxxxxx: A fydd y strategaeth anadlu yn rhoi dangosyddion cymharol o’r ddarpariaeth
gwasanaeth gyfredol; yn benodol, nifer y meddygon ymgynghorol cyfwerth ag amser llawn sydd â diddordeb arbennig mewn clefyd anadlol ac asthma, nifer y ffisiotherapyddion ysbyty arbenigol a ffisiotherapyddion wedi eu lleoli yn y gymuned cyfwerth ag amser llawn sydd â diddordeb mewn cyflyrau anadlol a nyrsys arbenigol sydd â diddordeb mewn cyflyrau anadlol? (WAQ46598)