Polisi Iechyd a Diogelwch
Polisi Iechyd a Diogelwch
Perchennog:
Prif Weithredwr
Arweinydd Atebol:
Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu, Asedau a Chynaliadwyedd
Rheoli Polisi
Xxxxx Xxxxxx | Y Bwrdd |
Cyfeirnod Polisi | HSS.POL.001 |
Xxxxx i’r Strategaeth | Cynllun Corfforaethol |
Rheoli Fersiwn | |
Cymeradwywyd gan | Y Bwrdd |
Ymgynghoriad | Xxx Arwain Penaethiaid Adrannau Rheolwyr |
Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EIA) | Cynhaliwyd EIA mewn perthynas â’r polisi hwn |
Dyddiad yr adolygiad nesaf | Ebrill 2025 |
Llofnodwyd xxx |
Xxxxxx Xxx Prif Weithredwr |
Cynnwys
Rheoli Polisi 1
Cynnwys 2
Datganiad 3
Cyd-destun Cyfreithiol 4
Sefydliad 4
Cyfrifoldebau 5
Trefniadau 12
Gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch Cyflogwr 12
Gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch Landlord 14
Datganiad
Xxx Xxx Cymoedd i’r Arfordir yn cydnabod ei ddyletswyddau cyfreithiol a moesol a bod iechyd a diogelwch cydweithwyr, cwsmeriaid, contractwyr a phobl eraill y gallai ei weithredoedd effeithio arnynt, yn hollbwysig.
Xxx xxx y sefydliad drefniadau ar waith ar gyfer rheoli cyfrifoldebau’r cyflogwr a’r landlord o ran cydymffurfio ag iechyd a diogelwch.
Mae y Xxxxxxx i’r Arfordir yn cydnabod bod angen i xxx cydweithiwr weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod risgiau anaf personol a pheryglon i iechyd yn cael eu lleihau i’r eithaf yng nghyd-destun gweithgareddau’r sefydliad.
Dyma’r prif feysydd:
● Datblygu diwylliant iechyd a diogelwch cadarn
● Defnyddio’r broses Cynllunio, Gwneud, Gwirio a Gweithredu ar gyfer pob agwedd ar reoli a gwella iechyd, diogelwch a llesiant
● Nodi a chydymffurfio â’r xxxx ddeddfwriaeth gyfredol ac yn y dyfodol;
● Cwblhau asesiadau risg addas a digonol;
● Datblygu a gweithredu gweithdrefnau effeithiol a systemau gwaith diogel;
● Ymgynghori a chyfathrebu â chydweithwyr a chwsmeriaid;
● Darparu gwybodaeth, hyfforddiant, cyfarwyddyd a goruchwyliaeth addas;
● Darparu amgylchedd gwaith iach gan gynnwys cyfleusterau llesiant digonol;
● Sicrhau bod cerbydau, offer, cyfarpar a sylweddau sy’n beryglus i iechyd yn cael eu defnyddio’n ddiogel;
● Monitro ac adolygu gweithgareddau’r sefydliad i ddarparu sicrwydd a nodi cyfleoedd i wella’n barhaus.
Mae gweithredu’r polisi hwn yn llwyddiannus yn ei gwneud yn ofynnol i xxxx gynrychiolwyr y Cymoedd i’r Arfordir gymryd cyfrifoldeb a gofal rhesymol dros eu hiechyd a’u diogelwch eu hunain ac unrhyw xxxxxx arall y gallai eu gweithredoedd effeithio arnynt.
Bydd disgwyl i xxxx gynrychiolwyr y Cymoedd i’r Arfordir ddangos eu hymrwymiad drwy wneud y canlynol:
● Dilyn polisïau, gweithdrefnau a systemau gwaith diogel;
● Cydweithredu â’r sefydliad a gyda’i gilydd;
● Dangos agwedd gadarnhaol a rhagweithiol tuag at iechyd a diogelwch;
● Nodi a bwrw ymlaen â chyfleoedd i wella.
Mae’r sefydliad yn cymryd iechyd a diogelwch o ddifrif a xxxx xxxxx â chydymffurfio arwain at gamau disgyblu.
Cyd-destun Cyfreithiol
Mae’r Polisi hwn yn disgrifio sefydliad, cyfrifoldebau a threfniadau y Cymoedd i’r Arfordir sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r prif ddeddfwriaeth ganlynol (fel y’i diwygiwyd a’i chefnogi gan
is-ddeddfwriaeth):
● Xxxxx Xxxxxx a Diogelwch yn y Gwaith 1974
● Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999
● Deddf Tai 2014
● Deddf Rhentu Cartrefi 2016
● Deddf Atebolrwydd Deiliaid 1957 a 1984
● Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005
● Deddf Diogelwch Tân 2021
● Deddf Cydraddoldeb 2010
Bydd pob agwedd ar y nodweddion gwarchodedig yn cael eu hystyried fel rhan o’r polisi hwn a’n trefniadau ni: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd xxx xxxx, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
Sefydliad
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i xxxx weithgareddau’r Cymoedd i’r Arfordir ac mae’n berthnasol i xxx cynrychiolydd, gan gynnwys cydweithwyr, contractwyr, ymgynghorwyr a phobl eraill a allai gael eu penodi i weithredu ar ran y sefydliad.
Xxx xxx y Cymoedd i’r Arfordir gyfrifoldebau iechyd a diogelwch fel:
● Cyflogwr cyfrifol sy’n sicrhau diogelwch ac iechyd cydweithwyr, contractwyr a phobl eraill y gallai gweithgareddau’r sefydliad effeithio arnynt. Cyfeirir at hyn fel ‘iechyd a diogelwch galwedigaethol neu gyflogwr’.
● Landlord cymdeithasol gyfrifol sy’n darparu cartrefi, lleoedd a gwasanaethau diogel ac iach. Cyfeirir at hyn fel ‘cydymffurfiaeth iechyd a diogelwch y landlord’
Wrth gyflawni’r Polisi hwn a’r gweithdrefnau cysylltiedig, bydd y sefydliad yn ymgynghori â’r canlynol ac yn eu diweddaru:
● Cydweithwyr; drwy Grwpiau Iechyd a Diogelwch mewnol ac Undebau Llafur
● Cwsmeriaid; drwy weithgareddau ymgysylltu ac arolygon
● Contractwyr a Chyflenwyr; drwy reoli contractau
Cyfrifoldebau
Bwrdd y Cymoedd i’r Arfordir (Lefel 1 - Strategol)
Yn bennaf gyfrifol am sicrhau:
● Meithrin a chynnal diwylliant iechyd a diogelwch priodol;
● Rhoddir blaenoriaeth uchel i iechyd, diogelwch a llesiant;
● Bod trefniadau effeithiol yn cael eu sefydlu a’u rhoi ar waith i reoli risgiau iechyd a diogelwch galwedigaethol a landlord ar lefelau strategol a gweithredol;
● Bod perfformiad o ran iechyd, diogelwch a chydymffurfiaeth yn cael ei fonitro;
● Bod sicrwydd yn cael ei ddarparu;
● Bod methiannau iechyd a diogelwch sylweddol yn cael eu hymchwilio a’u hadrodd;
● Y rhoddir ystyriaeth i effaith bosibl penderfyniadau o ran iechyd a diogelwch;
● Bod y sefydliad yn ymwybodol o’r ddeddfwriaeth a’r arferion da diweddaraf.
Prif Weithredwr (Lefel 1 – Strategol)
Yn atebol i’r Bwrdd, a gyda chyfrifoldeb dirprwyedig gan y Bwrdd dros yr xxxx faterion sy’n ymwneud ag iechyd, diogelwch a chydymffurfio ac am sicrhau bod y sefydliad yn cael y strwythur a’r adnoddau sefydliadol angenrheidiol i ddatblygu, gweithredu a gwerthuso system reoli addas a digonol. Bydd y Prif Weithredwr yn:
● Darparu arweinyddiaeth iechyd a diogelwch strategol
● Hyrwyddo diwylliant iechyd a diogelwch cadarnhaol drwy ddangos ymrwymiad clir i gyflawni safonau uchel o ran rheoli iechyd a diogelwch ac annog pob cydweithiwr i gyfrannu at wella safonau;
● Datblygu’r polisi iechyd a diogelwch a sicrhau bod y polisi a’r xxxx drefniadau yn addas ac yn ddigonol
● Sicrhau bod y polisi iechyd a diogelwch yn cael ei adolygu, ei ddiweddaru, ei ddeall a’i weithredu’n effeithiol;
● Cytuno ar safonau perfformiad ar gyfer iechyd, diogelwch a llesiant;
● Sicrhau bod adnoddau digonol yn cael eu darparu ar gyfer gweithredu’r polisi hwn yn effeithiol;
● Hyrwyddo cyfleoedd ymgynghori priodol a sicrhau bod gwybodaeth ar gael i gydweithwyr mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a llesiant;
● Sicrhau bod rheoli iechyd a diogelwch yn rhan annatod o strategaethau a chynllun corfforaethol y Cymoedd i’r Arfordir a bod yr xxxx weithgareddau’n cydymffurfio â’r gyfraith ac yn gyson ag arferion gorau;
● Sicrhau bod polisi iechyd a diogelwch yn cael ei adolygu drwy adroddiad blynyddol i’r Bwrdd ac yn ogystal, y bydd gwybodaeth yn cael ei darparu i’r Bwrdd xxxx xxxxx o ansawdd a chysondeb i sicrhau llywodraethu da;
● Penodi gwasanaethau arbenigol i ddarparu cyngor penodol yn ôl yr angen.
Cyfarwyddwyr Gweithredol (Lefel 1 – Strategol)
Yn atebol i’r Prif Weithredwr ac yn gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth iechyd, diogelwch a llesiant a sicrhau bod y polisi hwn yn cael ei roi ar
waith ar gyfer pob xxxx o xxx eu rheolaeth. Yn hyn o xxxx byddant yn:
● Darparu arweinyddiaeth iechyd, diogelwch a llesiant strategol;
● Hyrwyddo diwylliant iechyd, diogelwch a llesiant cadarnhaol drwy ddangos ymrwymiad clir i gyflawni safonau uchel ac annog pob cydweithiwr i gyfrannu at wella safonau;
● Sicrhau bod amgylchedd iach a diogel yn cael ei ddarparu i bawb;
● Sicrhau bod adnoddau yn cael eu darparu ar gyfer iechyd, diogelwch a llesiant cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol;
● Monitro perfformiad a chymryd camau cywiro lle xx xxxxx;
● Sicrhau bod anghenion hyfforddiant diogelwch cydweithwyr yn cael eu nodi a’u diwallu, ac yn ogystal bod gwybodaeth a chyfarwyddyd yn cael eu dosbarthu i’r xxxx bartïon perthnasol;
● Adolygu, arolygu a gwella trefniadau iechyd a diogelwch gyda’r nod o wella perfformiad;
● Sicrhau bod trefniadau ar waith ar gyfer ymgynghori ac ymgysylltu â chydweithwyr;
● Cymryd rhan yn y gwaith o ymchwilio i ddigwyddiadau difrifol a chymryd camau i’w cywiro;
● Hyrwyddo diwylliant lle mae iechyd, diogelwch a llesiant cydweithwyr yn flaenoriaeth sefydliadol, arwain drwy esiampl, mynd ati i hyrwyddo mentrau ac arferion da; monitro perfformiad iechyd, diogelwch a llesiant.
Cyfarwyddwyr, Penaethiaid Gwasanaeth a Rheolwyr (Lefel 2 – Xxx Rheoli)
Bydd Cyfarwyddwyr, Penaethiaid Gwasanaeth a Rheolwyr yn:
● Darparu arweinyddiaeth iechyd, diogelwch a llesiant o fewn eu swyddogaeth;
● Hyrwyddo diwylliant cadarnhaol o fewn eu swyddogaeth drwy ddangos ymrwymiad clir i gyflawni safonau uchel o ran rheoli iechyd a diogelwch ac annog pob cydweithiwr i gyfrannu at wella safonau;
● Sicrhau bod rhaglenni iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu a’u monitro;
● Sicrhau bod yr xxxx adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol;
● Sicrhau bod y trefniadau ar gyfer eu swyddogaeth yn addas, yn ddigonol ac yn cael eu gweithredu’n briodol;
● Sicrhau bod perfformiad yn cael ei fonitro a’i reoli’n effeithiol o fewn eu swyddogaeth;
● Cymryd perchnogaeth dros y gweithdrefnau y maent yn arweinydd atebol drostynt;
● Tynnu sylw’r Cyfarwyddwr Gweithredol at unrhyw bryderon difrifol neu achosion o xxxxx’r gyfraith y maent yn ymwybodol ohonynt.
Rheolwyr Llinell a Goruchwylwyr (Lefelau 3 a 4 – Tactegol)
Rôl Rheolwyr Llinell a Goruchwylwyr yw cefnogi’r gwaith o weithredu’r Polisi a’r trefniadau hyn. Bydd rheolwyr llinell a goruchwylwyr yn:
● Hyrwyddo diwylliant cadarnhaol o fewn eu swyddogaeth drwy ddangos ymrwymiad clir i gyflawni safonau uchel o ran rheoli iechyd a diogelwch ac annog pob cydweithiwr i gyfrannu at wella safonau;
● Cynnal asesiadau risg a’u cadw’n gyfredol a sefydlu mesurau rheoli effeithiol;
● Sicrhau bod rhaglenni iechyd a diogelwch yn gydgysylltiedig;
● Sicrhau bod cydweithwyr yn eu xxx yn ymgysylltu ac yn cydweithredu mewn materion iechyd a diogelwch, yn deall yr asesiadau risg perthnasol ac yn dilyn systemau gwaith diogel;
● Sicrhau bod iechyd, diogelwch a llesiant yn eitem ar agenda pob cyfarfod xxx;
● Annog pob cydweithiwr i ddangos ymddygiad diogel, meithrin diwylliant diogelwch cadarnhaol a rhoi gwybod am xxx digwyddiad (gan gynnwys damweiniau a damweiniau a fu bron â digwydd) yn brydlon;
● Ymchwilio i xxx digwyddiad (gan gynnwys damweiniau a damweiniau fu bron â digwydd) gan gymryd unrhyw gamau angenrheidiol i ddelio â’r sefyllfa ac xxxx hyn rhag digwydd eto;
● Sicrhau bod cydweithwyr yn eu xxx yn derbyn gwybodaeth, hyfforddiant, cyfarwyddyd a goruchwyliaeth briodol;
● Sicrhau bod cydweithwyr yn mynychu’r apwyntiadau iechyd galwedigaethol gofynnol.
Cydweithwyr (Lefel 5 – Gweithredol)
Cyfrifoldeb pob cydweithiwr yw:
● Cymryd camau rhesymol i ofalu am eu hiechyd a’u diogelwch eu hunain, ac iechyd a diogelwch pobl eraill y gallai eu gweithgarwch gwaith effeithio arnynt;
● Ymgysylltu’n gadarnhaol a chydweithio â chydweithwyr, contractwyr a chwsmeriaid ar faterion iechyd, diogelwch a llesiant;
● Rhoi gwybod am unrhyw bryderon difrifol, na ellir eu datrys drwy drefniadau iechyd a diogelwch sefydledig, yn unol â’r ‘Weithdrefn Codi Pryderon’;
● Dangos ymddygiad diogel a meithrin diwylliant diogelwch cadarnhaol drwy wneud y canlynol:
● Ymarfer ymddygiad diogel ac xxxx xxx amser
● rhoi gwybod am xxx digwyddiad (gan gynnwys damweiniau a damweiniau a fu bron â digwydd) yn brydlon;
● Cwblhau’r xxxx hyfforddiant perthnasol;
● Defnyddio cyfarpar a deunyddiau gwaith yn gywir, gan gynnwys cyfarpar diogelu personol;
● Xxxxx xxxx bolisïau, gweithdrefnau, asesiadau risg a systemau gwaith diogel y cwmni;
● Peidio ag ymyrryd ag unrhyw xxxx a ddarperir at ddibenion sicrhau iechyd a diogelwch, na chamddefnyddio unrhyw xxxx o’r xxxx;
Rheolwr Iechyd a Diogelwch
Yn atebol i’r Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu, Asedau a Chynaliadwyedd a bydd yn sicrhau bod y sefydliad yn cael cyngor iechyd, diogelwch a llesiant cymwys sy’n gymesur â maint a chymhlethdod gweithgareddau a risgiau iechyd a diogelwch y sefydliad.
Rôl y Rheolwr Iechyd a Diogelwch yw sicrhau bod system rheoli iechyd a diogelwch y sefydliad yn addas ac yn ddigonol. Bydd y rheolwr iechyd a diogelwch yn:
● Hyrwyddo datblygiad diwylliant iechyd, diogelwch a llesiant y sefydliad ar y cyd â’r Rheolwr Gweithrediadau Pobl
● Darparu cyngor ac arweiniad cymwys ar iechyd a diogelwch i’r sefydliad;
● Cadw golwg ar ddeddfwriaeth iechyd, diogelwch a llesiant sy’n newid;
● Datblygu a chynnal system reoli addas a digonol wedi’i chofnodi;
● Datblygu a chynnal dangosyddion perfformiad priodol a monitro perfformiad; gan dynnu sylw at dueddiadau a nodwyd ac ymateb yn briodol iddynt;
● Llunio adroddiadau cyfnodol sy’n rhoi sicrwydd i’r Xxx Arwain a’r Bwrdd;
● Ymchwilio i ddigwyddiadau sylweddol er mwyn pennu achosion sylfaenol a rhoi cynlluniau gweithredu ar gyfer gwella ar waith;
● Cysylltu ag awdurdodau gorfodi yn ôl yr angen;
● Cefnogi grwpiau iechyd a diogelwch y cwmni i gyflawni eu swyddogaethau;
● Cynghori’r sefydliad ar hyfforddiant a datblygiad iechyd a diogelwch;
● Cydlynu dull y sefydliad o asesu risg a systemau gwaith diogel;
● Cynnal rhwydwaith cyfathrebu gyda sefydliadau allanol i sicrhau arfer da a, lle xx xxxxx, casglu gwybodaeth, ymarferion meincnodi, ac ati;
Contractwyr sy’n atebol i Reolwr Contract perthnasol y Cymoedd i’r Arfordir
Bydd y Cymoedd i’r Arfordir yn sicrhau bod yr xxxx gontractwyr yn dangos y cymwyseddau iechyd a diogelwch gofynnol sy’n gymesur â maint a chymhlethdod eu gweithgareddau cyn eu penodi. Bydd pob contractwr yn:
● Cydymffurfio â’r xxxx ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol a’r xxxx rwymedigaethau cytundebol sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaeth diogel (gan gynnwys Polisi Iechyd a Diogelwch y Cymoedd i’r Arfordir);
● Cydweithredu â’r Cymoedd i’r Arfordir a chydlynu gweithgareddau gan gynnwys rhannu gwybodaeth berthnasol am iechyd a diogelwch;
● Sicrhau bod asesiadau risg addas a digonol yn cael eu cynnal a’u cyfathrebu a’u gweithredu’n effeithiol;
● Darparu goruchwyliaeth ddigonol i sicrhau bod amodau diogel ac
ymddygiad diogel yn cael eu cynnal;
● Adrodd, cofnodi ac ymchwilio i unrhyw ddigwyddiadau sy’n digwydd;
Undebau Llafur
Yn ogystal â chynrychioli cydweithwyr ar xxx mater sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch, bydd cynrychiolwyr Undebau Llafur yn cael y cyfleuster i:
● Archwilio’r gweithle x xxxx i’w gilydd am beryglon iechyd a diogelwch; cyflwyno sylwadau ac ymchwilio i gwynion a godir gan aelodau undebau llafur a chydweithwyr eraill
● Cynrychioli cydweithwyr mewn ymgynghoriadau iechyd a diogelwch;
● Mynychu cyfarfodydd grwpiau iechyd a diogelwch penodol mewn cysylltiad ag unrhyw un o’r swyddogaethau uchod.
Trefniadau
I gefnogi’r Polisi hwn ac i sicrhau bod y sefydliad yn rheoli risgiau perthnasol yn effeithiol, mae’r trefniadau canlynol wedi’u sefydlu:
Gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch Cyflogwr
Teitl | Arweinydd Atebol |
Cofnodi damweiniau, digwyddiadau a damweiniau a fu bron â digwydd | Rheolwr Iechyd a Diogelwch |
Cyfarpar Sgrin Arddangos (DSE) | Rheolwr Iechyd a Diogelwch |
Mathau o Lwch | Rheolwr Iechyd a Diogelwch |
Digwyddiadau | Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu |
Diogelwch Tân | Pennaeth Asedau a Chynaliadwyedd |
Cymorth Cyntaf | Rheolwr Iechyd a Diogelwch |
Sylweddau Peryglus - Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) | Rheolwr Iechyd a Diogelwch |
Trefniadau Iechyd a Diogelwch ar gyfer Ymgynghori ar Faterion Iechyd Galwedigaethol, Diogelwch a Thân (OHSF) | Rheolwr Iechyd a Diogelwch |
Archwiliad Iechyd a Diogelwch | Rheolwr Iechyd a Diogelwch |
Gwaith Poeth | Rheolwr Iechyd a Diogelwch |
Gweithio ar xxxx pen xxxx hun | Rheolwr Iechyd a Diogelwch |
Rheoli Ymddygiad Heriol | Pennaeth Tai |
Rheoli contractwyr - Prosiectau adeiladu - Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015 | Pennaeth Datblygu ac Adfywio |
Codi a Chario | Rheolwr Iechyd a Diogelwch |
Mamau Newydd a Menywod Beichiog | Rheolwr Gweithrediadau Pobl |
Contractwyr nad ydynt yn CDM | Pennaeth Datblygu ac Adfywio |
Sŵn | Rheolwr Iechyd a Diogelwch |
Iechyd Galwedigaethol | Rheolwr Gweithrediadau Pobl |
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) | Rheolwr Iechyd a Diogelwch |
Radon | Pennaeth Asedau a Chynaliadwyedd |
Asesu Risg | Rheolwr Iechyd a Diogelwch |
Rhannu Gwybodaeth (Rhybudd a Marcwyr Llesiant) | Pennaeth Tai |
Offer miniog/gwaredu gwastraff peryglu | Rheolwr Iechyd a Diogelwch |
Gweithle Di-fwg | Swyddog Rheoli Cyfleusterau |
Straen ac Iechyd Meddwl | Rheolwr Gweithrediadau Pobl |
Camddefnyddio Sylweddau | Rheolwr Gweithrediadau Pobl |
Hyfforddiant | Partner Pobl Dysgu a Datblygu |
Trafnidiaeth | Arweinydd y Gwasanaeth Depo a Thrafnidiaeth |
Gwasanaethau Tanddaearol ac Uwchben | Rheolwr Iechyd a Diogelwch |
Cyfarpar Dirgrynu | Rheolwr Iechyd a Diogelwch |
Ymwelwyr | Swyddog Rheoli Cyfleusterau |
Cyfleusterau Llesiant | Swyddog Rheoli Cyfleusterau |
Cyfarpar Gwaith/PUWER | Rheolwr Iechyd a Diogelwch |
Gweithio ar Uchder | Rheolwr Iechyd a Diogelwch |
Egwyddorion gweithio’n fwy clyfar | Rheolwr Gweithrediadau Pobl |
Pobl ifanc, pobl ddibrofiad a gwirfoddolwyr | Rheolwr Gweithrediadau Pobl |
Cynlluniau Rheoli Iechyd a Diogelwch Landlord
Teitl | Arweinydd Atebol |
Asbestos | Pennaeth Cydymffurfio a Rheoli Cyfleusterau (FM) |
Trydan | Pennaeth Cydymffurfio a Rheoli |
Cyfleusterau (FM) | |
Ystadau | Partner Busnes Masnachol a Chymunedau |
Tân a Diogelwch | Pennaeth Asedau a Chynaliadwyedd |
Gwresogi (gan gynnwys nwy) | Pennaeth Cydymffurfio a Rheoli Cyfleusterau (FM) |
Mecanyddol | Pennaeth Cydymffurfio a Rheoli Cyfleusterau (FM) |
Dŵr | Pennaeth Cydymffurfio a Rheoli Cyfleusterau (FM) |