Gwahoddiad i dendro ar gyfer darpariaeth/trwydded i Offer Rheoli Cynnwys Ar- lein
Gwahoddiad i dendro ar gyfer darpariaeth/trwydded i Offer Rheoli Cynnwys Ar- lein
Cyhoeddwyd: Dydd Llun 21 Medi 2020
Dyddiad cau ar gyfer
derbyn ceisiadau am eglurhad: Dydd Llun 28 Medi 2020 am 12:00 canol dydd
Dyddiad cau ar gyfer
cyflwyno tendrau: Dydd Llun 14 Hydref 2020 am 12:00 canol dydd
Cyflwyniad
Mae’r ddogfen hon yn gwahodd ceisiadau gan gwmnïau a sefydliadau y mae ganddynt ddiddordeb mewn darparu a/neu drwyddedu ac sy’n gallu darparu a/neu drwyddedu swît o offer ar gyfer cipio fideo ar-lein, ffrydio’n fyw a chyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol i S4C, fel y disgrifir yn fwy penodol yn y tudalennau nesaf.
Mae’r Gwahoddiad i Dendro (“GID”) yma yn cynnwys y rhannau canlynol:
Rhan 1 Gwybodaeth Gefndirol
Rhan 2 Gwybodaeth Xxxxxxx am y Cytundeb
Rhan 3 Gwybodaeth i’w Chynnwys yn yr Ymateb i’r Tendr
Rhan 4 Amlinelliad y Broses Dendro a Cheisiadau am Wybodaeth Xxxxxxx Xxxx 5 Meini Prawf Gwerthuso a Gwobrwyo’r Cytundeb
Rhan 6 Nodiadau Cyfreithiol
Atodiad 1 Cytundeb Drafft Atodiad 2 Matrics Gwerthuso
Atodiad 3 Ffurflen Wybodaeth Sylfaenol
Darllenwch y Gwahoddiad i Dendro yma yn ofalus. Mae’n bosib na fydd ymatebion i’r tendr nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion y Gwahoddiad i Dendro yma yn cael eu hystyried.
Mae’r broses dendr yma, gan gynnwys y Gwahoddiad i Dendr yma, yn ddarostyngedig i’r Nodiadau Cyfreithiol a nodir yn Rhan 6.
Rhan 1 Gwybodaeth Gefndirol
1.1 S4C
S4C yw’r unig sianel deledu Gymraeg yn y byd ac un o’r pum darlledwr teledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU. Mae’n awdurdod darlledu annibynnol a sefydlwyd o xxx Ddeddf Darlledu 1981, ac mae’n cael ei rheoleiddio gan Ddeddf Gyfathrebu 2003 a’r Ddeddf Darlledu 1990.
Mae S4C yn darparu ystod xxxx o raglenni amrywiol o safon uchel. Mae’r sianel yn darlledu dros 115 awr o raglenni Cymraeg xxx wythnos. Mae rhaglenni S4C ar gael i’w gwylio’n fyw ar wefan S4C trwy fandllydan a’r gwasanaeth gwylio ar alw ar wefan x0x.xxxxx, trwy iPlayer y BBC ac ar YouView, teledu clyfar, Sky, Freeview a nifer o blatfformau eraill.
Mae S4C wedi’i hariannu mewn ffordd unigryw trwy gymysgedd o xxxxx xxxxx, incwm masnachol a hysbysebu. Yn ogystal mae'r BBC yn darparu 10 awr o raglenni Cymraeg i S4C wedi ei ariannu gan y ffi drwydded.
Am ragor o wybodaeth am S4C, fe’ch cyfeirir at Adroddiad Blynyddol 2018/19, sydd ar gael ar wefan S4C (x0x.xxxxx), neu cysylltwch â:
Gwifren Gwylwyr S4C
Uned 1
Doc Fictoria Caernarfon Gwynedd LL55 1TH
Ffôn: 0370 600 4141
1.2 Yr Adran Gyfathrebu
Cynigir y tendr hwn gan yr Adran Gyfathrebu yn S4C. Mae’r Adran Gyfathrebu yn gyfrifol am hyrwyddo pob agwedd o S4C i’r gynulleidfa gyhoeddus gyffredinol ac mae wedi ymrwymo i gefnogi brand S4C a hyrwyddo rhagoriaeth greadigol.
1.3 Gwybodaeth am Gefndir y Cytundeb
Mae S4C yn edrych i ymrwymo i gytundeb ar gyfer darpariaeth a/neu drwydded ar gyfer platfform/offer/meddalwedd i ddarparu swyddogaethau cipio fideo ar-lein, ffrydio’n fyw a chyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol.
Mae hyn yn bennaf yn golygu galluogi ffrydio chwaraeon byw a digwyddiadau eraill i gyfryngau cymdeithasol, clipio a rhannu o ffrydiau byw er mwyn rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, yn ogystal ag uwchlwytho a chyhoeddi clipiau fideo’n uniongyrchol i gyfryngau cymdeithasol.
Mae disgrifiad pellach o’r cytundeb a gofynion S4C ar gael yn Rhan 2
Rhan 2 Gwybodaeth Xxxxxxx am y Cytundeb
2.1 Anghenion S4C
Gofynion Angenrheidiol ar gyfer pob Offer:
Rhaid i xxx ymateb tendr ddarparu mynediad i S4C a’i chwmnïau cynhyrchu enwebedig i blatfform/offer/meddalwedd a fyddai’n galluogi S4C ac/neu ei chwmnïau cynhyrchu i reoli cynnwys digidol yn effeithiol ar draws nifer o blatfformau cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein gwahanol. Rhaid i xxx platfform/offer/meddalwedd:
● Ganiatáu rheolaeth lawn, aml-haenog o freintiau defnyddiwr.
● Ganiatáu mewngofnodi/rheolaeth defnyddiwr lluosog, o fewn S4C ac ar gyfer cwmnïau cynhyrchu allanol sy’n cynhyrchu cynnwys ar gyfer S4C. (Dim cyfyngiadau ar y nifer o seddi/defnyddwyr o fewn S4C neu ar gyfer cwmnïau cynhyrchu a gytundebir gan S4C).
● Alluogi S4C i geo-blocio cynnwys.
● Trefnu ac arbed cynnwys o fewn system ffeilio hylaw sydd â chapasiti storio anghyfyngedig.
● Storio data fideo S4C a’i wneud yn hygyrch ar unrhyw adeg.
● Galluogi S4C i archifo’r xxxx ddata fideo a chwilio’r data fideo drwy archif chwiliadwy cwmwl ar-lein â rheolaeth breintiau defnyddwyr lawn, aml-xxxx
● Bod yn hawdd i’w ddefnyddio a chaniatáu integreiddio effeithiol gyda gwasanaethau trydydd
parti.
● Gefnogi fideo hyd at 1080p (lleiafswm).
● Gefnogi creu mân-luniau brodorol i’r platfformau i gyd-fynd gyda’r clipiau fideo.
● Alluogi S4C i drawsbostio cynnwys o dudalennau Facebook S4C i dudalennau Facebook eraill (Twitter yn ddymunol hefyd).
● Galluogi a rheoli y broses o symud cynnwys archif presennol.
● Gefnogi trawsbostio cynnwys (neu dechnegau tebyg) ar wahanol blatfformau
Rhaid i xxx Tendrwr hefyd ddarparu gwasanaeth cefnogi effeithiol trwy gydol cyfnod y cytundeb. Mae S4C yn disgwyl i’r tendrwr llwyddiannus ymateb i ymholiadau gan S4C ac/neu ei chwmnïau cynhyrchu yn amserol o fewn amserlenni a gytunwyd.
Oherwydd natur newidiol y diwydiant, disgwylir i Dendrwyr hefyd fedru dangos gallu i esblygu’r meddalwedd/platfform/offer i ymateb i arferion defnyddwyr sy’n newid, tueddiadau’r diwydiant, datblygiadau technolegol, a nodweddion newydd yn dod ar gael ar wahanol blatfformau.
Offer ar gyfer Cipio/Clipio’n Fyw (clipio o nifer o ffrydoedd gwe sydd eisoes yn bodoli)
Dylai’r offer hwn alluogi S4C i:
● Glipio fideos o ffrwd byw sydd eisoes yn bodoli (h.y. i ddewis adran o’r ffrwd byw a’i rannu i
nifer o blatfformau).
● Xxxxxx’r clipiau’n frodorol ar nifer o blatfformau (Facebook, Twitter a YouTube yn angenrheidiol, eraill yn ddymunol).
● Gweithio/clipio nifer o brosiectau ffrydio byw ar yr un pryd. (O leiaf 2 ffrwd byw ar yr un
pryd, gyda’r gallu i newid ffynonellau).
● Clipio o ddata hanesyddol (24 awr yn angenrheidiol, hydoedd hirach yn ddymunol).
● Cynnwys opsiynau fideo pre-roll a post-roll ar fideos.
● Cynnwys modd i isdeitlo fideos (adeiladu isdeitlau yn y platfform ac hefyd defnyddio ffeiliau
isdeitlau sy’n bodoli yn xxxxx megis ffeiliau SRT neu STL).
● Cynnwys modd i roi graffeg eraill ar fideos
● Clipio mewn amrywiaeth o aspect ratios
Offer ar gyfer Ffrydio’n Fyw (creu ffrydiau byw newydd trwy nifer o blatfformau)
Dylai’r offer hwn alluogi S4C i:
● Greu ffrwd byw ar nifer o blatfformau ar yr un pryd (Facebook a YouTube yn angenrheidiol, gwefannau a phlatfformau cymdeithasol eraill yn ddymunol).
● Clipio o’r ffrwd gwe byw (h.y. i ddewis adran o’r ffrwd fideo a’i rhannu i nifer o blatfformau.
Facebook, Twitter a YouTube yn angenrheidiol, opsiynau eraill yn ddymunol).
● Gweithio/clipio nifer o brosiectau ffrydio gwe byw ar yr un pryd. Bydd hi’n ofynnol i S4C ddefnyddio o leiaf 2 ffrwd gwe byw ar yr un pryd (3 yn ddymunol), gyda’r gallu i newid ffynonellau lle xx xxxxx.
● Xxxxx xxxx fideo o’r ffrydiau gwe a grëwyd, er mwyn galluogi gwylio ar alw trwy’r
platfformau.
● Sicrhau bod copi ar gael ar gyfer archif yn yr archif ddata fel y nodir uchod.
Offer Cyhoeddi Fideo Brodorol (uwchlwytho cynnwys a chyhoeddi trwy nifer o blatfformau)
Dylai’r offer hwn alluogi S4C i:
● Uwchlwytho cynnwys i blatfform unigol er mwyn galluogi S4C i reoli’r cynnwys yn effeithiol.
● Amserlenni a chyhoeddi fideos ar nifer o blatfformau (Facebook, Twitter a YouTube yn angenrheidiol, platfformau eraill yn ddymunol).
● Dynnu fideos oddi ar nifer o blatfformau ar ôl cyfnod o amser yn awtomatig (Facebook, Twitter a YouTube yn angenrheidiol, platfformau eraill yn ddymunol).
● Cynnwys opsiynau fideo pre-roll a post-roll ar fideos.
● Gyhoeddi fideos mewn amrywiaeth o aspect ratios.
● Anfon linc i rywun sydd ddim yn defnyddio’r platfform i wylio’r cynnwys.
● Uwchlwytho nifer o fideos i’r system ar yr un pryd
2.2 Telerau a Hyd y Cytundeb
Mae’r cytundeb drafft ynghlwm yn Atodiad 1.
Bydd y cytundeb am gyfnod cychwynnol o 1 flwyddyn gyda dau opsiwn i ymestyn hyd y cytundeb am 2 flynedd pellach..
Bydd disgwyl i’r Tendrwr llwyddiannus i gychwyn perfformio’r Cytundeb yn xxxx wedi arwyddo’r
Cytundeb.
Bydd S4C yn adolygu’r cytundeb a pherfformiad y cwmni llwyddiannus ar ôl y pedwar mis cyntaf ac mae’n cadw’r hawl i derfynu’r cytundeb ar ddiwedd y cyfnod hwn yn dilyn adolygiad o’r fath. Bydd yr adolygiad hwn yn ychwanegol i unrhyw adolygiadau rheolaidd a ddarperir yn y cytundeb.
Mae S4C yn cynnal y broses dendro xxx xxx ddefnyddio’r weithdrefn agored xxx Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (Public Contracts Regulations 2015), felly ni chaniateir unrhyw drafodaeth ynghylch y cytundeb drafft wedi i’r tendr gael ei roi i’r Tendrwr llwyddiannus. Caniateir diwygiadau i’r cytundeb drafft er mwyn adlewyrchu’r ymateb tendro llwyddiannus a/xxx xx mwyn egluro amodau’r cytundeb draft yn unig. Trwy gyflwyno ymateb i’r GID yma, mae Tendrwyr yn cytuno, os byddant yn llwyddiannus, eu bod yn ymrwymo i gytundeb gydag S4C yn unol â’r ffurf a nodir yn Atodiad 1. Gofynnir i Dendrwyr nodi darpariaethau Rhan 6.4. yn y cyd-destun hwn.
2.3 Gwarant Rhiant Cwmni a Chonsortia
Noder efallai y bydd S4C yn gofyn i’r Tendrwr llwyddiannus ddarparu gwarantau gan riant gwmni. Os yw consortiwm yn cynnig tendr a bod ei ymateb xxxx o law yn llwyddiannus gall y bydd ar S4C eisiau: (i) i’r consortiwm ffurfio endid cyfreithiol cyn arwyddo cytundeb; a/neu (ii) cyd-atebolrwydd ac atebolrwydd unigol xxxx aelodau’r consortiwm; a/neu (iii) gwarantau a/neu ymrwymiadau gan rai neu’r oll o aelodau’r consortiwm ar ran rhai neu’r oll o aelodau eraill y consortiwm.
Rhan 3 Gwybodaeth i’w Chynnwys yn yr Ymateb i’r Tendr
3.1 Gwybodaeth Angenrheidiol
Dylai’r Tendrwyr ddarparu’r wybodaeth ganlynol fel rhan o’r ymateb tendro er mwyn dangos
yn fanwl sut y bodlonir gofynion S4C:
3.1.1 Ffurflen Wybodaeth Sylfaenol yn y ffurf y’i gosodir yn Atodiad 2.
3.1.2 Datganiad yn gosod disgrifiad o’r meddalwedd/platfform/offer a sut y caiff anghenion S4C eu diwallu. Xxxxx’r Tendrwr osod yn glir sut y bydd yn sicrhau pob elfen angenrheidiol. Dylai’r Tendrwr ddangos gallu’r gwasanaeth i gydweddu ac integreiddio ag elfennau trydydd parti, lle’n berthnasol.
3.1.3 Disgrifiad cynhwysfawr o brofiad perthnasol y Tendrwr o fewn y tair blynedd diwethaf gan gynnwys rhestr o gwsmeriaid presennol y Tendrwr sy’n debyg i S4C. Disgrifiad o hanes y meddalwedd/platfform/offer a’r modd y mae eraill wedi gwneud defnydd ohono.
3.1.4 Methodoleg y Tendrwr ar gyfer darpariaeth o wasanaeth cefnogi safon uchel a chyfathrebu effeithiol gyda S4C trwy gydol cyfnod y cytundeb. Xxxxx’r Tendrwr ddangos ei allu i gadw i fyny â datblygiadau yn y diwydiant ac i ddatblygu’r gwasanaeth ar sail parhaus.
3.1.5 Disgrifiad o ddefnyddioldeb y gwasanaeth a pha mor hawdd yw’r gwasanaeth i’w
ddefnyddio gan staff a defnyddwyr gweinyddol
3.1.6 Manylion cost y gwasanaeth i S4C. Gweler Rhan 3.2 am ragor o wybodaeth.
3.1.7 Unrhyw sylwadau cyfreithiol sy’n codi o’r Nodiadau Cyfreithiol a’r Cytundeb Drafft a
nodir yn Atodiad 1.
Mynediad Treialu/Demo
Gall S4C ofyn i Dendrwyr ddarparu mynediad treialu/demo ar gyfer staff S4C i’r gwasanaeth a gynigir gan y Tendrwr yn ystod y cyfnod gwerthuso, er mwyn galluogi S4C i asesu defnyddioldeb a pha mor hawdd yw’r gwasanaeth i’w ddefnyddio a’i allu i ddiwallu gofynion S4C. Xxxxx’r mynediad treialu/demo, i’r graddau eithaf posib, adlewyrchu’r gwasanaeth a gynigir gan y Tendrwr yn ei ymateb Tendr yn gywir. Dylid darparu’r mynediad treialu heb gost i S4C.
Gall y Tendrwyr gynnwys gwybodaeth ychwanegol pan fo hynny’n berthnasol i’w hymatebion tendro, ond ni ddylai ymatebion tendro gynnwys unrhyw wybodaeth amherthnasol nas gofynnwyd amdani yn benodol xxx xx’n ofynnol yn ôl y GID hwn gan gynnwys, er enghraifft, llenyddiaeth at ddibenion gwerthu ac amodau masnachu safonol.
Rhaid i ymatebion tendro barhau i fod yn agored am 3 mis o’r dyddiad rhoddir ar gyfer cyflwyno
ymatebion tendro
Os bydd y Tendrwr (neu, yn achos ymateb tendro a gyflwynir gan gonsortiwm, unrhyw aelod o’r consortiwm), ar unrhyw adeg, yn dod yn ymwybodol o’r ffaith bod unrhyw wybodaeth y mae (neu, yn achos ymateb tendro a gyflwynir gan gonsortiwm, unrhyw aelod o’r consortiwm) wedi ei ddarparu i S4C mewn cysylltiad â’r broses dendro hon yn anghyflawn, yn anghywir neu’n gamarweiniol mewn unrhyw ffordd neu heb fod yn gywir mwyach, rhaid hysbysu S4C o hyn ar unwaith.
3.2 Ffi
Mae S4C yn amcangyfrif y dylid medru darparu’r Gwasanaeth cyfan yn unol â gofynion S4C am ffi blynyddol o tua £60,000 - £70,000 (gan eithrio TAW). Croesawir ceisiadau sy’n cyflwyno ffigwr is.
Mae S4C yn mynnu bod y Gwasanaethau yn cael eu darparu am ffi sefydlog, gan gynnwys unrhyw gostau gosod, rheoli cyfrif, gweinyddu, staffio, cyfarfodydd a’r xxxx gostau a’r treuliau eraill sy’n codi o ddarparu’r gwasanaeth. Rhaid cyfleu’r ffi sefydlog hon mewn punnoedd xxxxxxxx xxx ei throsi i bunnoedd sterling, heb gynnwys TAW, ac mae’n rhaid iddi fod yn sefydlog trwy gydol y cytundeb.
Dylai Tendrwyr nodi’r ffi sy’n daladwy am y gwasanaethau a’r rhestr daliadau awgrymedig mewn ffordd eglur. Dylai Tendrwyr nodi’r rhagdybiaethau y mae’r ffi wedi eu seilio arnynt, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar y gwasanaeth ac unrhyw elfennau a allai achosi ffioedd uwch.
3.3 Uchafswm Tudalennau
Dylai Tendrwyr geisio bod yn gryno wrth ddrafftio eu hymatebion i’r GID yma. Ni ddylai ymateb i’r GID yma fod yn hirach na 10 tudalen A4 o hyd (ac eithrio’r Ffurflen Wybodaeth Sylfaenol) ac ni ddylid defnyddio maint ffont llai na Georgia 10. Mae S4C yn cadw’r hawl i eithrio o’r broses dendro unrhyw ymateb i’r GID nad sydd yn cydymffurfio â’r gofynion hyn.
Nid yw’r cyfyngiad tudalennau uchod yn cynnwys unrhyw ddogfennau yr atodir i’r brif ddogfen ymateb i’r GID.
Rhan 4 Amlinelliad y Broses Dendro a Cheisiadau am Wybodaeth Xxxxxxx
4.1 Amlinelliad y Broses Dendro
Dylir pob ymgeisydd nodi efallai bydd gofyn iddynt gymryd rhan mewn cyfweliad gyda S4C fel
rhan o’r broses tendro fel rhan o’r broses tendro.
Bydd y broses dendro yn cynnwys y camau canlynol:
Cam 1 | Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am eglurhad | 12.00 canol dydd, Dydd Llun 28 Medi 2020 |
Cam 2 | Darparu ymatebion i’r cesiaidau am wybodaeth xxxxxxx | Dydd Gwener 2 Hydref 2020 |
Cam 3 | Dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion tendr | 12.00 canol dydd, Dydd Mercher 14 Hydref 2020 |
Cam 4 | Dechrau ar y gwaith o werthuso’r ymatebion tendr | Dydd Mercher 14 Hydref 2020* |
Cam 5 | Cyfweliadau, os y cynhelir | 19 o Hydref 2020* |
Cam 6 | Hysbysu canlyniadau’r gwerthuso | 21 Hydref 2020* |
Cam 7 | Arwyddo cytundeb | Dydd Mawrth 27 Hydref 2020* |
Noder y gall y dyddiadau sydd wedi eu marcio â * newid.
4.2 Cyflwyno Ymatebion Tendro
Gofynnir i Dendrwyr gyflwyno ymateb tendro yn Gymraeg neu yn Saesneg yn unol â gofynion y GID hwn, ar ffurf electronig, erbyn y dyddiad cau ar gyfer cael ymatebion tendro a nodir yn Rhan 4.1 uchod.
Dylid nodi “Tendr Offer Rheoli Cynnwys Ar-lein” yn eglur ar ymatebion tendro a’u hanfon
mewn neges e-xxxx at: xxxxx@x0x.xxxxx
Caniateir i dendrau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg neu yn Saesneg. Ni fydd tendr a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg.
NI FYDD UNRHYW YMATEBION TENDRO A FYDD YN CAEL EU CYFLWYNO AR ÔL Y DYDDIAD CAU AR GYFER CAEL YMATEBION TENDRO A NODIR YN RHAN 4.1 UCHOD, NEU Y DERBYNNIR GAN S4C I UNRHYW GYFEIRIAD AC EITHRIO’R CYFEIRIAD A NODIR UCHOD, YN CAEL EU HYSTYRIED A CAIFF UNRHYW YMATEBION TENDRO O’R FATH EU HEPGOR O’R BROSES DENDRO HON.
Ni fydd S4C yn gyfrifol am unrhyw ddiffygion yn y system ddosbarthu neu am unrhyw ymatebion tendro a fydd yn mynd ar xxxx, a fydd yn cael eu hoedi neu a fydd yn ddiffygiol. Mae Tendrwyr yn gyfrifol am sicrhau bod eu hymatebion tendro (ac unrhyw atodiadau) yn cael eu paratoi mewn xx xxxx (gan ystyried y posibilrwydd y bydd staff yn absennol neu y gallai methiannau technegol godi) a’u bod yn cael eu cyflwyno cyn y dyddiad cau ar gyfer cael ymatebion tendro, a nodir yn Rhan 4.1 uchod.
Sylwer mai 20Mb yw’r uchafswm o ran maint negeseuon e-xxxx y xxxx S4C eu derbyn ac mai’r ffurfiau a ganiateir ar gyfer ffeiliau yw Word, Excel, PDF a Jpeg. Mae’r ffurfiau hyn yn dderbyniol fel Ffeiliau Zip. Dylai Tendrwyr fod yn ymwybodol y gallai eu ISP (Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd) eu xxxxxx xxxxx cyfyngiadau is o ran maint negeseuon e-bost ac felly, fe’u cynghorir i holi eu ISP neu eu hadran TG eu hunain ynghylch unrhyw gyfyngiadau ar faint negeseuon ymhell cyn y dyddiad anfon a’r dyddiad cau.
Ni fernir bod prawf o anfon deunydd yn cyfateb â phrawf bod deunydd wedi cyrraedd, a chynghorir Tendrwyr i geisio cydnabyddiaeth ar ffurf neges e-xxxx ar wahân bod y deunydd wedi cyrraedd.
4.3 Ystyried Ymatebion Tendro
Bydd S4C yn ystyried yr xxxx ymatebion tendro y derbynnir gan S4C sydd yn cydymffurfio â’r gofynion a nodir yn y GID hwn a’r xxxx wybodaeth a gafwyd o unrhyw fynediad treialu/demo yn unol â’r weithdrefn a’r meini prawf a nodir yn Rhan 5 isod. Bydd dyfarnu cytundeb yn cael ei seilio ar asesiad S4C o’r ymateb tendro sy’n cynnig y fantais economaidd fwyaf, yn unol â’r meini prawf a nodir yn Rhan 5 isod. Hysbysir pob Tendrwr a gyflwynodd ymateb i’r GID o ganlyniad gwaith gwerthuso S4C mewn neges e-xxxx. Gweler Rhan 5.4 ymhellach isod.
4.4 Esbonio Ymatebion Tendro
Efallai y bydd S4C yn gofyn i Dendrwyr ddarparu gwybodaeth xxxxxxx a/xxx esboniad ynghylch unrhyw faterion yn eu hymatebion tendro.
4.5 Ceisiadau am Wybodaeth Xxxxxxx
Rhaid gwneud pob math o gyswllt mewn perthynas â’r broses dendro hon, gan gynnwys unrhyw geisiadau am wybodaeth xxxxxxx a/xxx arweiniad wrth gwblhau ymatebion tendro, ar ffurf neges e-xxxx i S4C, a’u hanfon at xxxxx@x0x.xxxxx
Ni ddylai Tendrwyr drafod neu ofyn am wybodaeth ynghylch y broses dendro hon mewn unrhyw ffordd gan unrhyw swyddog, cyflogai, asiant neu gynghorwr arall S4C.
Anogir Tendrwyr i nodi unrhyw arweiniad a/neu wybodaeth xxxxxxx y xxx’n bosib y bydd xx xxxxxx arnynt mewn cysylltiad â’r broses dendro hon, cyn gynted ag y xx xxxx. Y dyddiad cau er mwyn cyflwyno ceisiadau am wybodaeth xxxxxxx a/xxx arweiniad yw Dydd Llun 28 Medi 2020 am 12 canol dydd. Ni ystyrir unrhyw geisiadau a fydd yn cael eu gwneud ar ôl y dyddiad cau hwn. Bydd S4C yn ceisio xxxxx â’r xxxx geisiadau a wneir cyn y dyddiad cau hwn mewn ffordd brydlon.
Er mwyn sicrhau tegwch a thryloywder, sylwer y bydd yr xxxx geisiadau am wybodaeth xxxxxxx a/xxx arweiniad ynghylch y broses dendro hon, ynghyd ag ymatebion S4C i geisiadau o’r fath, yn cael eu datgelu i’r xxxx Dendrwyr. Bydd datgeliadau o’r fath yn cael eu gwneud gan eu postio ar wefan S4C ar xxxx://xxx.x0x.xxxxx/xx/xxxxxxxxx/xxxx/00000/xxxxxxx/
Os bydd Tendrwyr o’r farn bod unrhyw gais am wybodaeth xxxxxxx a/xxx arweiniad y byddant yn ei wneud yn sensitif ar lefel fasnachol, rhaid iddynt nodi “sensitif yn fasnachol” yn eglur ar y cais, a nodi’r rhesymau xxx eu bod o’r farn ei bod yn sensitif ar lefel fasnachol. Sylwer, fodd bynnag, y bydd S4C yn penderfynu, yn unol â’i disgresiwn llwyr, a yw’n ystyried bod unrhyw gais o’r fath yn sensitif ar lefel fasnachol. Os bydd S4C yn penderfynu bod cais yn sensitif ar lefel fasnachol, ni fydd S4C yn datgelu’r cais na’i hymateb i gais o’r fath, i Dendrwyr eraill. Os bydd S4C yn penderfynu nad yw cais yn sensitif ar lefel fasnachol, bydd yn hysbysu’r Tendrwr o hyn. Os bydd y Tendrwr yn cytuno nad yw’r cais yn sensitif ar lefel fasnachol, bydd S4C yn ymateb i’r cais a bydd ganddi’r hawl i ddatgelu’r cais, a’i hymateb iddo, i’r xxxx Dendrwyr. Os na fydd y Tendrwr yn cytuno nad yw’r cais yn sensitif ar lefel fasnachol neu os na fydd yn hysbysu S4C a yw’n cytuno cyn pen un diwrnod gwaith, ystyrir bod y cais yn cael ei dynnu yn ôl ac ni fydd S4C yn ymateb iddo. Ni fydd unrhyw xxxx yn y paragraff hwn yn cael ei ddehongli fel rhywbeth sy’n cyfyngu ar allu S4C i ddatgelu unrhyw wybodaeth i unrhyw unigolyn mewn unrhyw ffordd, er mwyn cydymffurfio â’i hymrwymiadau rhyddid gwybodaeth, fel yr amlinellir yn Rhan 6.6 isod.
Bernir bod unrhyw geisiadau ac unrhyw ymatebion iddynt a ddatgelir i’r xxxx Dendrwyr, yn rhan o’r GID hwn.
Rhan 5 –Meini Prawf Gwerthuso a Gwobrwyo’r Cytundeb
5.1 Profi Cydymffurfiaeth
Cyn cychwyn ar y broses ffurfiol o werthuso’r ymatebion tendro, bydd S4C yn archwilio’r ymatebion tendro er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion y GID yn llawn. Gellid gwrthod ymatebion tendro nad ydynt yn cydymffurfio. Bydd S4C yn gwerthuso ymatebion tendro sy’n cydymffurfio yn llawn, yn unol â’r darpariaethau a nodir yn y Rhan 5 hwn.
5.2 Gwerthuso
Dyfarnir y cytundeb ar sail y tendr sy’n cynnig y fantais economaidd fwyaf. Er mwyn asesu pa dendr sydd yn cynnig y fantais economaidd fwyaf, bydd panel o gynrychiolwyr S4C yn gwerthuso ac yn sgorio’r ymatebion i’r GID yma, yn unol â’r meini prawf a’r pwysoliadau canlynol:
Cwestiynau Cydymffurfio:
Meini Gwerthuso | Prawf | Dull Gwerthuso | ||
Ffurflen Wybodaeth Sylfaenol: | ||||
Adran 1 | Gwybodaeth Cyflenwr | am y | Nid yw’n cael ei sgorio, ond mae’n rhaid i’r xxxx xxxx ei chwblhau | |
Adran 2 | Seiliau dros Waharddiad Gorfodol | Derbyniol – Wedi’i chwblhau gyda phob ymateb yn “Nac ydy”, neu “Ydy” gyda thystiolaeth o gamau adferol derbyniol Annerbyniol – Heb ei chwblhau neu unrhyw un neu fwy o’r ymatebion yn “Ydy” heb dystiolaeth o gamau adferol derbyniol. | ||
Adran 3 | Seiliau Waharddiad Disgresiwn | dros yn ôl | Derbyniol – Wedi’i chwblhau gyda phob ymateb yn “Nac ydy”, neu “Ydy” gyda thystiolaeth o gamau adferol derbyniol Annerbyniol – Heb ei chwblhau neu unrhyw un neu fwy o’r ymatebion yn “Ydy” heb dystiolaeth o gamau adferol derbyniol. | |
Adran 4 | Modiwlau Ychwanegol Yswiriant | Derbyniol – Wedi’i chwblhau phob ymateb yn “Ie” Annerbyniol – Heb ei chwblhau neu unrhyw un neu fwy o’r ymatebion yn “Na”. | gyda | |
Cydraddoldeb | Derbyniol – Wedi’i chwblhau gyda phob ymateb i C1 a C2 yn “Nac oes”, neu “Oes” gyda thystiolaeth o gamau adferol derbyniol, a gyda’r ateb i C3 yn “Oes” |
Annerbyniol – Heb ei chwblhau neu ymateb i C1 a/neu C2 yn “Oes” heb dystiolaeth o gamau adferol derbyniol, a/neu’r ateb i C3 yn “Nac oes”. | ||
Rheoli Amgylcheddol | Derbyniol – Wedi’i chwblhau gyda’r ymateb i C1 yn “Nac ydy”, neu “Ydy” gyda thystiolaeth o gamau adferol derbyniol, a gyda’r ymateb i C2 yn “Oes” Annerbyniol – Heb ei chwblhau neu ymateb i C1 yn “Ydy” heb dystiolaeth o gamau adferol derbyniol, a/xxx xxxx’r ymateb i C2 yn “Nac oes”. | |
Iechyd a Diogelwch | Derbyniol – Hunanardystio wedi’i gwblhau a’r ymateb i C2 yn “Nac ydy” neu’n “Ydy” gyda thystiolaeth o gamau adferol derbyniol, a’r ymateb i C3 yn “Oes” Annerbyniol – Hunanardystio heb ei gwblhau neu ymateb i C2 yn “Ydy” heb dystiolaeth o gamau adferol derbyniol, a/neu’r ymateb i C3 yn “Nac oes”. | |
Diogelu Data | Derbyniol – Hunanardystio wedi’i gwblhau a’r ymateb i C2 yn “Nac ydy” neu’n “Ydy” gyda thystiolaeth o gamau adferol derbyniol, a’r ymateb i C3 yn “Oes” Annerbyniol – Hunanardystio heb ei gwblhau neu ymateb i C2 yn “Ydy” heb dystiolaeth o gamau adferol derbyniol, a/neu’r ymateb i C3 yn “Nac oes”. | |
Adran 8 | Datganiad | Nid yw’n cael ei sgorio, ond mae’n rhaid i’r rhan hon gael ei chwblhau. |
Cwestiynau ansoddol:
Criteria | Sgorio | |
1 | Gallu i ddiwallu anghenion S4C gan gynnwys cydweddoldeb â gwasanaethau trydydd parti | 35% |
2 | Profiad perthnasol, cwsmeriaid cyfredol a xxxxx y meddalwedd/platfform/offer | 5% |
3 | Safon y gwasanaethau cefnogi gan gynnwys cyfathrebu effeithiol gydag S4C a datblygu’r gwasanaeth | 10% |
4 | Defnyddioldeb a pha mor hawdd yw’r gwasanaeth i’w ddefnyddio | 20% |
5 | Ffi | 25% |
6 | Sylwadau ar y cytundeb drafft | 5% |
CYFANSWM | 100% |
Bydd y broses werthuso yn cynnwys asesiad llawn o’r tendrau a ddarparwyd ar sail y Meini Prawf Gwerthuso a restrwyd uchod. Noder y bydd S4C yn defnyddio’r fethodoleg ganlynol ar gyfer asesu’r ymatebion fesul maen prawf:
Sgôr | Categori | Proffeil |
0 | Ymateb sero / Gwan iawn | Methwyd â mynd i’r afael â gofynion S4C neu does dim tystiolaeth wedi ei ddarparu i fynd i’r afael â gofynion S4C. |
1 | Gwan | Cynnig gwan o ran mynd i’r afael â gofynion S4C xxx xxxx thystiolaeth gwan i gefnogi y byddai’r cynnig yn cael ei gyflawni, sydd â bylchau mawr, nad yw’n argyhoeddi mewn sawl ffordd neu sydd â diffyg credadwyedd difrifol. |
2 | Llai na Boddhaol | Cynnig sy’n llai na boddhaol o ran mynd i’r afael â gofynion S4C neu sydd â thystiolaeth cefnogol llai na boddhaol, sydd â bylchau cymedrol xxx xx’n amherthnasol neu’n methu ag argyhoeddi. |
3 | Boddhaol | Cynnig boddhaol o ran mynd i’r afael â gofynion S4C neu sydd â thystiolaeth boddhaol y byddai’r cynnig yn cael ei gyflawni ond sydd â mân fylchau xxx xx’n methu ag argyhoeddi i raddau neu sydd â diffyg credadwyedd. |
4 | Da | Cynnig da i fynd i’r afael â gofynion S4C sydd â thystiolaeth da i gefnogi y byddai’r cynigion yn cael eu cyflawni sy’n ddigonol (mewn termau ansoddol), yn argyhoeddi ac yn gredadwy. |
5 | Arbennig | Cynnig arbennig sy’n mynd i’r afael â ac yna’n rhagori ar ofynion S4C mewn ffordd y mae S4C yn ystyried sy’n cynnig (yng nghyd-destun nodau ac amcanion S4C a nodir yn adran 2) gwasanaethau ychwanegol sy’n gost-effeithiol ac y gellir eu cyflawni ac sydd â thystiolaeth arbennig i gefnogi y byddai’r cynigion yn cael eu cyflawni, sy’n gyson, cynhwysfawr a chymhellol. |
5.3 Anghymhwyso Ymatebion Tendro/Tendrwyr
Mae S4C yn cadw’r hawl i anghymhwyso ymateb tendro a/neu Dendrwr o’r broses dendro hon
ar unrhyw adeg os:
(a) na fydd ymateb tendro yn cydymffurfio ag unrhyw rai o ofynion y GID hwn;
(b) bydd unrhyw wybodaeth a ddarparir i S4C gan y Tendrwr perthnasol (neu, yn achos consortiwm, unrhyw un o’i aelodau), yn anghyflawn, yn anghywir neu’n gamarweiniol mewn unrhyw ffordd, neu os na fydd yn gywir mwyach;
(c) bydd y Tendrwr wedi cynllwynio gydag unrhyw unigolyn (heb gynnwys, pan fo’r Tendrwr yn gonsortiwm, cynllwynio rhwng aelodau’r consortiwm mewn cysylltiad ag ymateb tendro y consortiwm) mewn perthynas neu mewn cysylltiad gyda’i ymateb tendro neu ymateb tendro unrhyw Dendrwr arall.
Ni fydd y cam o anghymhwyso unrhyw ymateb tendro neu Dendrwr yn amharu ar unrhyw hawliau neu rwymedïau eraill S4C.
5.4 Dyfarnu Cytundeb
Yn unol â darpariaethau Rhan 6.1 isod ac ar ôl cwblhau’r gwaith o werthuso ymatebion tendro, bydd S4C yn hysbysu Tendrwr o ganlyniadau’r gwaith gwerthuso. Bydd gofyn i’r Tendrwr y bu eu hymateb tendro yn llwyddiannus, i ymrwymo i gytundeb gydag S4C ar ffurf y cytundeb drafft. Ni fydd unrhyw gytundeb yn cael ei ffurfio oni bai a nes bod S4C yn arwyddo’r cytundeb. Ni fydd unrhyw dderbyniad llafar neu ysgrifenedig o unrhyw dendr, neu hysbysiad bod Tendrwr wedi bod yn llwyddiannus, yn gyfystyr â rhwymyn cytundeb.
Rhan 6 Nodiadau Cyfreithiol
6.1 Dim ymrwymiad i gynnig y cytundeb
Ni fydd unrhyw xxxx yn y GID hwn neu unrhyw gyfathrebu rhwng S4C a’r Tendrwr ynghylch y broses dendro neu’r ymateb tendro yn gyfystyr â chontract i ddarparu unrhyw wasanaeth y rhoddir sylw iddo yn y broses dendro hon, neu warant neu gyflwyniad y bydd unrhyw gontract yn cael ei ddyfarnu neu y gallai unrhyw gontract gael ei ddyfarnu.
Mae S4C yn cadw’r hawl i dynnu yn ôl o a/xxx xxxxx a/xxx ohirio’r broses dendro hon ar unrhyw adeg, i beidio dyfarnu unrhyw gontract o ganlyniad i’r broses dendro hon, i ychwanegu at, diwygio a/neu egluro amodau a thelerau’r GID hwn a/neu i fynnu bod Tendrwyr yn esbonio eu hymatebion tendro a/neu yn darparu gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas ag ef.
6.2 Gwrthdaro rhwng Buddiannau
Rhaid i xxx Tendrwr ddarparu manylion os rhagwelir y gallai fod gwrthdaro rhwng buddiannau unigolion sy’n ymwneud â’r cais a staff S4C, mae hyn er mwyn galluogi S4C i sicrhau ei fod yn neilltuo staff i’r broses dendro nad oes ganddynt unrhyw berthynas bersonol gydag unrhyw gais.
6.3 Cytundeb Drafft
Nodir y cytundeb drafft ar gyfer darparu’r Gwasanaethau yn Atodiad 1.
Rhaid cynnwys unrhyw sylwadau am y cytundeb drafft yn xxxx cais, fel y nodir xx Xxxx 3.1. Fel arall, trwy gyflwyno’ch tendr, bernir xxxx bod wedi derbyn yr amodau a’r telerau sy’n ymddangos yn y cytundeb drafft.
Nid yw cynnwys sylwadau am y cytundeb yn xxxx tendr yn golygu bod S4C yn eu derbyn. Mae S4C yn cadw’r hawl i ddiwygio’r cytundeb drafft ar ôl ei gyhoeddi, unwaith y bydd manylion y cais buddugol yn hysbys, er mwyn cydymffurfio ag amodau penodol y trefniant y cytunwyd arnynt gyda’r Tendrwr llwyddiannus. Os na fydd y cytundeb yn cael ei gwblhau yn foddhaol ar ôl dyfarnu’r tendr, mae S4C yn cadw’r hawl i ddyfarnu’r tendr i Dendrwr arall neu i ail- dendro’r cytundeb.
6.4 Codau Ymarfer a Chanllawiau
Bydd yn rhaid i’r Tendrwr llwyddiannus gydymffurfio â’r codau ymarfer, y ddeddfwriaeth a’r
canllawiau canlynol (ymhlith eraill):
• Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch
• Deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad Amrywiaeth S4C
• Hysbysiad Cydymffurfio S4C (h.y. yn nodi’r Safonau Iaith Gymraeg perthnasol)
• Polisi Amddiffyn Plant S4C
• Polisi Cyfryngau Cymdeithasol S4C
• Cod Darlledu Ofcom
• Canllawiau Brand S4C
• Gofynion Technegol S4C
Dylai pob Tendrwr gynnwys y gost o gydymffurfio â’r uchod (gan gynnwys cost cyngor priodol) yn y cais. Mae nifer o’r canllawiau hyn ar gael ar Wefan Cynhyrchu S4C sef xxxx://xxx.x0x.xxxxx/xx/xxxxxxxxx/xxxx/0000/xxxxxxxxxx/.
6.5 Rhyddid Gwybodaeth
Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (“RhG”) 2000 yn weithredol i S4C. Os bydd unrhyw Dendrwr o’r farn bod unrhyw wybodaeth a ddarperir ganddo i S4C yn sgil y gwahoddiad hwn, o natur gyfrinachol neu sensitif yn fasnachol, dylai’r Tendrwr nodi hynny yn benodol gan nodi’r rhesymau dros ystyried y fath wybodaeth yn wybodaeth sensitif. Bydd S4C yn ystyried hyn wrth benderfynu a fydd yn rhyddhau’r wybodaeth wrth ymateb i geisiadau RhG. Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr dderbyn y bydd S4C yn rhyddhau gwybodaeth o’r fath os bydd yn cael cyngor cyfreithiol bod yn rhaid iddo wneud hynny er mwyn cydymffurfio gyda Deddf RhG. Mae S4C yn cadw’r hawl i benderfynu yn ei ddisgresiwn llwyr os yw unrhyw wybodaeth arbennig wedi ei eithrio rhag ei ddadlenni.
6.6 Diogelu Data
Trwy gyflwyno ymateb rydych yn cadarnhau xxxx bod wedi hysbysu pob unigolyn a adnabyddir yn yr ymateb tendr xxxx bod yn mynd i rannu eu data personol yn y modd hwn. Rydych yn cydnabod y bydd S4C yn prosesu’r xxxx wybodaeth bersonol a ddarparwyd fel rhan o’ch ymateb yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 a Deddf Diogelu Data 2018. Mae Hysbysiad Preifatrwydd S4C ar gael ar xxx.x0x.xxxxx, a byddwch yn hysbysu pob unigolyn y mae eu data personol yn cael ei ddarparu i S4C o’r cymal 6.6 hwn. Bydd S4C yn prosesu unrhyw ddata personol a ddarparwyd yn xxxx ymateb tendr ar y sail ei fod yn xxxx diddordeb xxxxx xxx ac S4C i brosesu’r xxxx ddata sydd wedi’u ddarparu gennych fel rhan o’r ymateb tendr ar gyfer y pwrpas o werthuso’r ymateb i dendr.
6.7 Cyfrinachedd a Chyhoeddusrwydd
Trwy gyflwyno ymateb tendro, mae’r Tendrwyr yn cytuno cadw yn gyfrinachol unrhyw wybodaeth a ddatgelir neu a fydd ar gael i’r Tendrwyr gan S4C mewn unrhyw gyfrwng yn ystod neu mewn cysylltiad â’r broses dendro hon. Cytuna Tendrwyr i beidio defnyddio gwybodaeth o’r fath at unrhyw ddiben ac eithrio’r diben o baratoi’r ymateb tendro, ac i beidio datgelu gwybodaeth o’r fath i unrhyw unigolyn arall ac eithrio mewn ffordd gyfrinachol ac ar sail yr angen i’w gwybod, i’r unigolion hynny sy’n ymwneud â’r gwaith o baratoi’r ymateb tendro yn uniongyrchol. Ni fydd yr oblygiadau cyfrinachedd yn berthnasol i wybodaeth sydd eisoes yn gyhoeddus ar yr adeg y caiff ei datgelu.
Trwy gyflwyno ymateb i’r tendr mae Tendrwyr yn cytuno i sicrhau na fydd aelod(au) o’u staff yn gwneud datganiad cyhoeddus o unrhyw fath (gan gynnwys, heb gyfyngiad, drwy safleoedd gwe rhyngweithio cymdeithasol, megis Facebook neu Twitter neu fel arall) yn gysylltiedig â thestun y tendr hwn neu unrhyw benderfyniad S4C ynglylch unrhyw elfen o’r tendr hwn heblaw fod S4C wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig o flaen llaw i’r fath gyfathrebiad.
6.8 Ymwadiad
Nid yw S4C yn cynnig unrhyw warant neu gyflwyniad ynghylch cyflawnder neu gywirdeb unrhyw wybodaeth yn y GID hwn ac mae unrhyw ddibyniaeth ar wybodaeth o’r fath ar xxxx risg xxxx xxxxxx.
6.9 Gofynion Brand S4C
Bydd S4C yn caniatáu i’r Tendrwr llwyddiannus ddefnyddio brand S4C yn ystod cyfnod y prif gytundeb yn unol â thelerau cytundeb trwydded brand ar wahân. Bydd gofyn i’r Tendrwr llwyddiannus weithredu yn unol â gofynion Canllawiau Brand S4C sydd ar gael ar wefan S4C.
6.10 Costau’r Tendr
Mae pob Tendrwr yn gyfrifol am y costau a’r treuliau sydd yn daladwy mewn cysylltiad â’r broses tendro yma. Ni fydd S4C o xxx unrhyw xxxx yn cyfrannu tuag at y fath gostau a threuliau.
6.11 Diwygiadau i Ddogfennau Tendr
Mae S4C yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r dogfennau tendro cyn y dyddiad cau a nodir yng Ngham 1 4.1 uchod. Er mwyn galluogi ystyriaeth ar gyfer diwygiad o’r fath, gall S4C, yn unol â’i disgresiwn, ymestyn y dyddiadau a nodir yn Rhan 4.1 uchod.
6.12 Hawlfraint
Mae S4C yn berchen ar yr hawlfraint yn y GID ac unrhyw ddeunyddiau eraill a gyhoeddir neu a ddarparir gan S4C. Ni chaniateir i Dendrwyr gopïo, atgynhyrchu, defnyddio neu gyhoeddi copïau o’r GID neu ddeunyddiau o’r fath (neu unrhyw ran ohonynt) ac eithrio yn unol â’r graddau sy’n ofynnol er mwyn paratoi a chyflwyno’u hymatebion tendro.
6.13 Dim cyd-gynllunio
Drwy gynnig ymateb i’r GID hwn, mae pob Tendrwr yn cadarnhau:
1. bod yr ymateb i dendr yn “bona fide” ac yn gystadleuol;
2. nad yw’r Tendrwr wedi gosod neu newid yr ymateb yn unol ag unrhyw gytundeb neu drefniant gydag unrhyw xxxxxx arall (heblaw yng nghyswllt consortiwm, gydag aelodau eraill y consortiwm) nac wedi gofyn i unrhyw Dendrwr arall i wneud yr un peth; ac
3. nad yw’r Tendrwr wedi trafod neu ymgynghori ag unrhyw xxxxxx arall heblaw am S4C ynglyn â swm neu fras gyllideb neu bris ei ymateb i’r tendr, heblaw lle roedd y fath drafod neu ymgynghori yn gyfrinachol ac yn angenrheidiol er mwyn gwneud ymholiadau ynghylch premiwm yswiriant neu ddyfynbris ar gyfer paratoi’r ymateb i’r GID.
6.14 Ymddygiad Amhriodol
Os yw’r Tendrwr neu’r rheini sydd yn cynghori unrhyw Dendrwr yn gwneud unrhyw ymgais i ddylanwadu yn amhriodol ar y broses dendr xxx xxx’r penderfyniad i wobrwyo’r cytundeb mewn unrhyw ffordd, yna bydd gan S4C yr hawl i anghymwyso ymateb y Tendrwr yn nisgresiwn llwyr S4C. Os yw’r Tendrwr neu’r rheini sydd yn cynghori unrhyw Dendrwr yn gwneud unrhyw ymgais i ganfasio unrhyw un o weithwyr neu asiantau S4C yn gysylltiedig â’r broses gystadleuol xxx xxx yn gwneud ymgais i gael gwybodaeth gan unrhyw un o weithwyr neu asiantau S4C ynglŷn ag unrhyw sefydliad arall sydd yn tendro, yna bydd gan S4C yr hawl i anghymwyso ymateb y Tendrwr hwnnw yn nisgresiwn llwyr S4C.
6.15 Cyfraith Lywodraethol
Llywodraethir yr GID hwn gan gyfreithiau Cymru a Lloegr ac mae pob Tendrwr yn cytuno, trwy ddychwelyd ymateb tendro, ymrwymo i awdurdodaeth llwyr-gyfyngedig llysoedd Cymru a Lloegr.
CYTUNDEB
YN DDAROSTYNGEDIG I GYTUNDEB
(Gweler y ddogfen ynghlwm)