Disgrifiad Swydd – Swyddog Prosiect – Cysylltu Athrawon â Diwydiant
Disgrifiad Swydd – Swyddog Prosiect – Cysylltu Athrawon â Diwydiant
Swyddi gwag: 2 x swydd lawn amser ar gael i ddarparu prosiectau yn awdurdodau Pen-y- bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf
Yn atebol i: Prif Swyddog Gweithredol STEM Cymru
Tiriogaeth/ Ardaloedd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf
Rhanbarth:
Lleoliad: Gartref
Oriau: Llawn amser 37.5 awr y dydd (fel arfer rhwng 8.30 – 4.30pm, ond bydd angen gweithio ambell noswaith, yn dibynnu ar amseroedd digwyddiadau a gynhelir ar ôl ysgol).
Dyddiad
Cychwyn: Cyn gynted â phosibl
Hyd contract: Contract tymor penodol hyd 30 Mehefin 2022 yn gweithio ar y prosiect uchod
Cyflog: cyfwerth â £32,000-£35,000 pro rata (a chostau teithio) yn dibynnu ar brofiad
Diben y contract: Gweithio xxxx xxxx rheoli STEM Cymru, a thîm o Swyddogion Prosiect sydd newydd eu penodi i ddatblygu, gweithredu a darparu’n llwyddiannus y prosiect peilot ar gyfer ardaloedd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf a gyllidir gan Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.
Disgrifiad o’r Prosiect:
Bydd y Prosiect Cysylltu Athrawon â Diwydiant yn creu a darparu cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer gweithwyr addysgu proffesiynol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Bydd digwyddiadau yn cyflwyno athrawon i gyffro a rhyfeddodau gweithgynhyrchu a pheirianneg a sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r gyrfaoedd arloesol a gwerth chweil amrywiol sydd ar gael yn y sectorau Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Creadigol a Digidol ac Ynni a’r Amgylchedd yn y rhanbarth.
Bydd y prosiect hefyd yn rhoi’r cyfle i athrawon gael siaradwyr gwadd i ymweld â’u hysgolion i siarad mewn gwasanaethau disgyblion, diwrnodau allgyrsiol neu ddigwyddiadau gyrfaoedd eraill.
Manyleb Person:
Byddai’r swydd hon yn ddelfrydol ar gyfer ymgeisydd sy’n chwilio am swydd tymor byr gyda chefndir mewn diwydiant neu addysg. Bydd diddordeb neu brofiad o weithio gydag ysgolion, ymgysylltu â’r cyhoedd neu drefnu digwyddiadau yn fuddiol hefyd.
Efallai fod ymgeiswyr eisiau seibiant o’u rôl bresennol mewn diwydiant neu’n ystyried ymddeol o addysgu. Byddai’r contract yn addas hefyd ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn cyfnod sabothol neu secondiad.
Prif feysydd cyfrifoldeb ac atebolrwydd:
• Trefnu, datblygu a rheoli gwaith y prosiect uchod
• Gweithio xxx Xxxx Swyddog Gweithredol a thîm rheoli prosiect STEM Cymru
• Cadw cofnodion x xxxx weithgareddau a gwybodaeth am brosiectau, adborth, a rheoli gofynion GDPR
• Darparu data i’r Prif Swyddog Gweithredol a’r Cydlynydd Prosiectau
• Rheoli amserlen y prosiect, gweithio i amserlenni, a rheoli amser unrhyw gydweithwyr
• Nodi anghenion athrawon mewn addysg a chefnogi ysgolion yn rheolaidd
• Cyfathrebu â chwmnïau i gadarnhau prif siaradwyr
• Datblygu cysylltiadau â diwydiant a chreu digwyddiadau prosiect addas ar gyfer athrawon o fewn cwmpas y prosiect
• Caffael unrhyw ddefnyddiau xxxxx xx’n angenrheidiol er mwyn darparu a datblygu adnoddau perthnasol
• Recriwtio ysgolion a chwmnïau a chadarnhau sesiynau darparu gydag ysgolion yn yr ardal
• Darparu’r rhaglen beilot mewn ysgolion o fewn yr ardal ddynodedig yn llwyddiannus
• Trefnu a rheoli gweithdai, digwyddiadau, sesiynau darparu a gweithgareddau
• Rheoli a gweithio gyda’r Swyddog Cymorth Prosiect i sicrhau bod cynrychiolwyr yn cofrestru
• Rheoli pob agwedd ar iechyd a diogelwch y prosiect, gan gynnwys asesiadau risg a chamau gweithredu
• Cynnal a rheoli cysylltiadau ysgolion/ diwydiant drwy’r cyfnod peilot
• Sicrhau bod y prosiect peilot yn cael ei ddarparu o fewn yr amserlenni a bod dangosyddion perfformiad allweddol targed yn cael ei gyrraedd
• Mynychu cyfarfodydd grŵp rheolwyr
• Adrodd yn rheolaidd i’r Prif Swyddog Gweithredol
• Unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol gan y xxx rheoli prosiect
Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
• Profiad o weithio yn y byd addysg a/neu ddiwydiant a chysylltu â’r sectorau hyn
• Profiad o reoli/arwain prosiect
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol a gallu amlwg i gyfathrebu ag uwch reolwyr mewn addysg, diwydiant a chyrff proffesiynol
• Profiad o/ gallu amlwg i ddatblygu a darparu cyflwyniadau proffesiynol i gynulleidfa o hyd at 100 o bobl
• Hunangymhelliant a’r gallu i weithio o’ch pen a’ch pastwn xxxx hun
• Ymrwymiad i helpu i dywys pobl ifanc i yrfaoedd STEM
• Sgiliau gweinyddu cyffredinol
• Trafnidiaeth xxxx hun
Sgiliau a Phrofiad Dymunol
• Profiad o drefnu digwyddiadau a siaradwyr
• Gradd berthnasol
• Cysylltiadau mewn diwydiant a/neu addysg
• Profiad o ddigwyddiadau neu allgymorth ysgolion
• Gwybodaeth am y cwricwlwm presennol a Chwricwlwm i Gymru 2022
• Siarad Cymraeg