YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL LLECHRYD
YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL LLECHRYD
2016 – 2017
ADRODDIAD BLYNYDDOL LLAWN I RIENI / GWARCHWEIDWAID
Xxxxxx Xxxxx / Warcheidwad,
Mae`n xxxxxx xx anrhydedd i mi fel Cadeirydd y Xxxxx Llywodraethol gyflwyno adroddiad blynyddol ar gyfer Ysgol Gynradd Gymunedol Llechryd. Mae`r broses newydd o gategoreiddio ysgolion wedi nodi fod ysgol Llechryd yn ysgol werdd. Wrth i ni edrych yn ôl ar 2016 – 17 gwelwn fod yr ysgol yn parhau i gynnal y safonau uchaf o safbwynt gwaith cwricwlaidd.
Xxxxx xxx`n xxxxxx i ddiolch i`r Pennaeth, yr athrawon, cynorthwywyr dysgu, staff ategol, y rhieni / gwarchweidwaid ac wrth gwrs, yn ogystal â`r disgyblion am lwyddiant cyson yr ysgol. Mae`n amlwg fod y weledigaeth yr ysgol “O`r fesen fach i`r gangen uchaf, anelwn am ragoriaeth” yn parhau i ddylanwadu`n bositif ar y disgyblion ac yn cael effaith ar bawb sydd ynghlwm â`r ysgol.
Xxx xxx yr ysgol dïm effeithiol a gweithgar o atharwaon a chynorthwywyr sy`n cynorthwyo yn y Cyfnod Sylfaen ac yn cefnogi disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Hefyd xxx xxx yr ysgol aelodau o staff ategol sy`n cefnogi gwaith ddarparu y cyfleoedd gorau i`r disgyblion sef gofalwraig a glanhauwraig, clerc cinio, cynorthwyydd Clwb Bore a chynorthwywyr Clwb Hwyl a Sbri, a chogyddes.
Mae`r gofynion ar gyfer yr angen I gynnal Cyfarfod Blynyddol y Llywodraethwyr wedi newid. Ni fu galw dros gynnal cyfarfod o`r Llywodraethwyr gyda`r Rhieni yn unol ag adran 94 o Deddf Safonau a Threfniadadau Ysgolion (Cymru 2013) yn ystod y flwyddyn addysgol.
Newidiadau i gyfarfodydd Blynyddol y Rhieni / Llywodraethwyr
Xxx Xxxxx 94 y Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (y Ddeddf) yn gwneud newidiadau pwysig i'r trefniadau deddfwriaethol blaenorol oedd yn ymwneud â Chyfarfodydd Blynyddol y Rhieni/Llywodraethwyr. Mae'n darparu trefniadau newydd lle gall rhieni ofyn am gyfarfod gyda chorff llywodraethol.
Fodd bynnag, bydd angen i’r rhieni fodloni pedwar (4) gofyniad statudol wrth alw cyfarfod sef:-
(i) rhaid i rieni 10% o’r disgyblion cofrestredig, neu rieni 30 o’r disgyblion cofrestredig (pa un bynnag sydd isaf) arwyddo deiseb yn gofyn am gyfarfod;
(ii) rhaid xxx xxxxx y cyfarfod yw trafod materion sy'n ymwneud â'r ysgol;
(iii) y nifer fwyaf o gyfarfodydd y gall rhieni ofyn amdanynt o fewn unrhyw flwyddyn ysgol yw tri (3);
(iv) rhaid bod yna ddigon o ddiwrnodau ysgol ar ôl yn y flwyddyn ysgol i ganiatáu cyfarfod.
At hynny:-
(a) rhaid cynnal y cyfarfodydd cyn diwedd cyfnod o 25 niwrnod;
(b) mae’r cyfnod o 25 niwrnod yn cychwyn y diwrnod ar ôl derbyn y ddeiseb, ond nid yw'n cynnwys unrhyw ddiwrnod nad yw'n ddiwrnod ysgol;
(c) os oes angen cynnal cyfarfod arall o ganlyniad i ddeiseb wahanol, ni fydd y cyfnod o 25 niwrnod yn dechrau tan y diwrnod ar ôl cynnal y cyfarfod arall;
(ch) rhaid bod digon o ddyddiau ar ôl yn y flwyddyn ysgol i gynnal cyfarfod cyn diwedd y cyfnod o 25 niwrnod;
(d) bydd cyfarfodydd yn agored i xxxx rieni’r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol, y Pennaeth ac unrhyw un arall a wahoddir gan y xxxxx llywodraethol;
(dd) mae’n rhaid i hysbysiad y cyfarfodydd i’r rhieni gynnwys dyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod ynghyd â’r mater neu faterion i'w trafod.
Enw`r Clerc i`r Llywodraethwyr – Xxxxxxx Xxxxx, Xxxxx Addysg Cyngor Sir Cereidgion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UE.
Cadeirydd y Llywodraethwyr – Xx Xxxxx Xxxx, Dolafon, Llechryd, Aberteifi, Ceredigion. SA43 2NL
Trefniadau etholiad nesaf y Xxxxx Llywodraethol – mi fydd yr Awdurdod Addysg a’r ysgol yn hysbysu rhieni / gwarcheidwaid am drefniadau unrhyw gyfleoedd i fod yn rhan o’r Xxxxx Llywodraethol a threfniadau etholiadau.
Aelodaeth y Xxxxx Llywodraethu:
Enw | Categori | Diwedd tymor |
Xxxxx Xxxxx Xxxxx Xxxxxx | Awdurdod Lleol | 04/05/17 09/05/2021 |
Xxxxx Xxxx Cadeirydd | Awdurdod Lleol | 24/04/2021 |
Xxxxxx Xxxxxxx | Xxxxxxxxx | 31/05/19 |
Xxxxxxx Xxxxxxxx | Cymunedol | 28/05/19 |
Xxxxx Xxxxxxxx | Xxxxxx | 01/11/18 |
Xxxxxx Xxxxx | Xxxxxx | 28/01/2021 |
Gwag | Rhiant | / |
Xxxxx Xxxxxxxxxx | Xxxxxx | 05/05/19 |
Xxxxx Xxxxx-Xxxxx | Athrawes | 05/05/2020 |
Xxxxxx Xxxxx | Pennaeth | Parhaol |
Cyllid: Gweler Atodiadau
Sut mae`r ysgol yn defnyddio`r arian a dderbynir:
• Defnyddiwyd cyllideb yr ysgol er mwyn sicrhau y profiadau addysgol gorau i`r disgyblion ac I sicrhau adnoddau addas ar eu cyfer. Cryfder y trefniant presennol yw sicrhau ein yn gallu cynnal tri dosbarth am dri ddiwnod gyda`r cyllid sydd ar gael.
• Derbynwyd cyllid ychwanegol I dargedu llythrennedd a rhifedd. Mae`r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio`n bwrpasol er mwyn diwallu anghenion disgyblion penodol, trefnwyd adnoddau a staff ychwanegol I gefnogi a chodi safonau yn y meysydd yma.
Rhoddion:
• Derbynwyd cyfraniadau hael gan y Gymdeithas Rieni. Gwerthfawrogwn yn fawr iawn.
Lwfansau neu gynhaliaeth i`r Xxxxx llywodraethu:
• Costau teithio y Llywodraethwyr – ni dalwyd unrhyw gostau i`r llywodraethwyr yn ystod y flwyddyn 2016 -17. Dymunaf ddiolch i`m cyd lywodraethwyr am roi eu gwasanaeth yn hollol wirfoddol xx xxxx a lles yr ysgol.
Presenoldeb
Sylwebaeth am bresenoldeb yr ysgol
Rydym yn bles gyda chyfartaledd presenoldeb yr ysgol. Gosodwyd targedau gan y llywodraethwyr am y dair mlynedd nesaf er mwyn parhau i wella presenoldeb.
Gwella presenoldeb:
Mae`r ysgol yn dilyn camau pendant i leihau absenoldebau. Mae`r ysgol yn cysylltu gyda rhieni / gwarchweidwaid lle xxx xxxxx presenoldeb yn xxxx xxx`n anghyson.
Targedau ar gyfer presenoldeb:
Presenoldeb ar gyfer y flwyddyn addysgol 2016 / 17 --- 95%
Disgyblion sy`n gadael yr ysgol ar ddiwedd Blwyddyn 6:
Mae disgyblion yn trosglwyddo fel arfer I Ysgol Uwchradd Aberteifi. Xxx xxx yr ysgol bartneriaeth bositif gyda`r ysgolion Uwchradd ac yn gweithredu cynlluniau pontio effeithiol. Dymunwn yn dda i`r saith o`n ddisgyblion eleni.
Meithrin cysylltiadau rhwng yr Ysgol a’r Gymuned:
Y mae’r ysgol yn un o brif sefydliadau’r pentref ac yn rhan annatod o’r gymuned leol. Mae’r ysgol yn gwneud defnydd arbennig o adnoddau lleol gan gynnwys y Parc Chwarae, Neuadd y Cwrwgl, a’r Eglwys. Bu’r ysgol ar nifer o ymweliadau addysgol gan gynnwys a.y.y.b. Bu’r ysgol yn perfformio i fudiadau lleol ac mae cefnogaeth dda iawn.
Cynhaliwyd gweithgareddau er mwyn hybu dealltwriaeth o xxxx xxxxx at achosion da yn ystod y flwyddyn. Casglwyd cyfanswm o dros £1,300 ar gyfer Plant Mewn Angen; Pabi Coch, UNICEF;
Cymdeithas Rieni ac Athrawon yr Ysgol
Hoffwn ddiolch i’r Gymdeithas Rieni ac Athrawon a xxxx gyfeillion yr ysgol am eu
cefnogaeth yn ystod y flwyddyn. Mae’r Gymdeithas Rieni ac athrawon yn weithgar a brwdfrydig iawn ac yn llwyddo i gynnal amrywiol weithgareddau i xxxx xxxxx tuag at brynu adnoddau ac i drefnu achlysuron cymdeithasol gyda naws deuluol Gymreig iddynt.
Cynhaliwyd gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn gan gynnwys Ffair Haf a Ffair Aeaf, Cyngherddau, Disgo, Bore Coffi, Bore Cymdeithasol a Thaith Gerdded Noddedig. Bydd adroddiad llawn o’r gweithgareddau a’r arian a godwyd yng nghyfarfod blynyddol y Gymdeithas Rhieni yn nhymor yr Hydref.
Cyfarfodydd Rhieni / gwarcheidwaid:
Mae yna bartneriaeth dda yn bodoli gyda’r rhieni. Yn ystod y flwyddyn trefnir;
• Cyfarfod blynyddol y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon.
• Noswaith agored tymor yr Haf a gwahoddiad i’r rhieni / gwarcheidwaid i ddod i’r ysgol ar ôl derbyn adroddiadau eu plant ym mis Gorffennaf.
• Gwahoddiad i rieni / gwarcheidwaid fynychu gwasanaethau arbennig.
• Gwahoddiad i fabolgampau’r ysgol.
• Cyfarfod ar gyfer rhieni / gwarcheidwaid plant y meithrin sydd am gychwyn yn yr ysgol.
• Cyfarfod rhwng rhieni / gwarcheidwaid plant sy’n derbyn cefnogaeth a’r athrawon arbenigol.
• Mae’r pennaeth yn nodi ar xxx llythyr “os oes gennych unrhyw bryderon am addysg xxxx plentyn yna cysylltwch â mi ar unwaith”
Defnydd o’r adeilad / campws:
Cyfarfod rhieni ac athrawon yr Ysgol, rhai timau pêl-droed, gwersi Cymraeg i oedolion gyda gofal plant, Cyfarfodydd Cenedlaethol yr Urdd, Eisteddfod.
Cysylltiadau gyda’r heddlu;
Mae swyddogion o’r heddlu yn gweithio’n agos gyda’r ysgol ac yn cyfrannu yn bositif at weithgareddau addysg bersonol a chymdeithasol. Mae’r heddlu yn trafod gyda’r Cyngorhau`r Ysgol. Yn ystod y flwyddyn mae’r heddlu`n cydweithio gydag Adran Diogelwch y Ffyrdd sy`n ddarparu gwersi beicio diogel i’r disgyblion. Mae’r ysgol yn ddiolchgar am eu cydweithrediad.
Cynnydd ar Gynllun Gweithredu’r Ysgol (ar ôl arolygiad)
Mae’r ysgol wedi gweithredu’r Cynllun Gweithredu yn dilyn adroddiad Estyn ym Medi 2013. Dyma grynodeb o’r datblygiadau:
A1: Codi safonau ysgrifennu estynedig disgyblion yn eu gwaith ar draws y pynciau | Parhau i ddatblygu safonau: ers yr Arolwg, mae`r Ysgol wedi rhoi strwythur pendant mewn lle ac yn defnyddio cynllun y Sir; canlyniadau diwedd CA2 a thystiolaeth yn dangos bod cynnydd wedi digwydd. |
A2: Sicrhau cyfleoedd pellach i ddisgyblion ymateb i adborth ysgrifenedig er mwyn gwella eu gwaith | Parhau i ddatblygu safonau: adborth ysgrifenedig yn cynnwys sylwadau cadarnhaol a ffurfiannol (gwella) yn gyson; cyfleoedd penodol yn cael eu clustnodi ar gyfer gweithredu ar y sylwadau / gwella gwaith. |
A3: Mynd i’r afael â’r materion iechyd a diogelwch | Wedi mynd i`r afael a`r materion iechyd a diogelwch. |
A4: Sicrhau bod yr ysgol yn cwrdd â’r gofynion statudol ar gyfer addoli ar y cyd | Wedi sicrhau bod yr Ysgol yn cwrdd a`r gofynion statudol ar gyfer addoli ar y cyd; pob plentyn sy`n bresennol yn yr ysgol yn bresennol yn y cydaddoli. |
A5: Datblygu rôl y llywodraethwyr ymhellach i herio’r ysgol am safonau | Aelodau Xxxxx Llywodraethol yn datblygu gwell adnabyddiaeth o`r ysgol ac o`r herwydd yn monitro`n fwy effeithiol; aelodau’r xxxxx yn monitro ac yn adrodd yn ôl i’r xxxxx lawn; Llywodraethwyr yn derbyn hyffordiant ac yn datblygu rôl fwy allweddol i`r Xxxxx Llywodraethol ac yn cyfoethogi`r hunanarfarniad o`r Ysgol. |
Hunanarfarnu a Chynllun Datblygu Ysgol:
Prif flaenoriaethau’r ysgol | Effaith / canlyniad |
Datblygu ymhellach gwaith gwahaniaethol yng NghA2 er mwyn datblygu cyfleoedd i ddisgyblion i weithio`n annibynnol; | Arsylwadau gwersi`n dangos bod disgyblion yn gweithio`n mwy annibynnol ar dasgau; |
Datblygu`r gallu i gymhwyso Mathemateg ar draws y cwricwlwm gyda`r pwyslais ar resymu a datrys problemau trwy`r Ysgol; | Cynnydd a chyflawniad disgyblion yn gwella; tystiolaeth ar draws yr Ysgol yn dangos yng gnwaith y disgyblion ac arsylwadau gwersi; gwelliant yn y sgorau Profion Rhesymu yn dangos bod disgyblion yn cyflawni mwy na 95+; |
Cytuno ar weledigaeth strategol ac ymgorffori Fframwaith Cymhwysol Digidol ar draws yr Ysgol. Ymgorffori’r weledigaeth a gwerthoedd trwy eu hymarfer dyddiol a thrwy eiriolaeth barhaus. | Bu`r weledigaeth yn cael ei chyfleu yn ystod cyfarfodydd staff. Gweithredir strategaethau ac ymyriadau er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn cyflawni ei nod o, ‘anelu am ragoriaeth’. Angen barhau ar hyn trwy cydweithio ag ystod o randdeiliaid i adolygu a sefydlu gweledigaeth a nodau’r ysgol. |
Defnyddio Grant Amddifadedd Disgyblion yn effeithiol er mwyn cau`r bwlch rhwng perfformiad disgyblion PYD / dim PYD |
Mae’r ysgol wedi gwneud cynnydd da i ddatblygu agweddau y Cynllun Datblygu Ysgol yn ystod y flwyddyn flaenorol – gellir cael copi llawn o’r CDY gan y pennaeth.
Gwelliannau a osodwyd gan y Xxxxx Llywodraethol ynglŷn â pherfformiad y disgyblion:
Targedau ar gyfer y dair mlynedd nesaf:
Gweler y targedau ar gyfer nifer y disgyblion fydd yn cyrraedd deilliant 5 neu’n uwch yn y Cyfnod Sylfaen a lefel 4 neu’n uwch yng Nghyfnod Allaweddol 2 am y dair
mlynedd nesaf. Mae’r ysgol yn gosod y targedau yma yn sgil y wybodaeth bresennol sydd gennym am y disgyblion yn ôl asesiadau athrawon blynyddol.
Yn ogystal â hyn rydym yn gosod lefel o her ar gyfer y dyfodol er mwyn codi safonau yn barhaus.
Haf 2017 | Haf 2018 | Haf 2019 | |
Cyfnod Sylfaen | 100% | 100% | 100% |
Cyfnod Allweddol 2 | 100% | 100% | 100% |
Sylwebaeth
• Mae’r ysgol wedi gwneud cynnydd da o safbwynt asesiadau’r disgyblion yn y ddau Gyfnod Allweddol.
• Mae’r canlyniadau yn adlewyrchu yn bositif ar y targedau heriol â osodwyd pob blwyddyn.
• Yn dilyn asesiadau cyson a nifer o brofion nodir pa lefel / deilliant y mae pob plentyn yn cyrraedd erbyn diwedd y flwyddyn. Ceir cysylltiad agos rhwng athrawon er mwyn cymedroli lefelau ac adnabod y ffordd ymlaen i’r plentyn unigol.
• Mae plant yn derbyn targedau cyson yn Iaith, Mathemateg, Gwyddoniaeth a Saesneg yng Nghyfnod Allweddol 2.
• Fel ysgol rydym yn anelu i sicrhau bod 100% o blant yn y Cyfnod Sylfaen a 100% o blant yn Cyfnod Allweddol 2 yn cyrraedd y lefel / deilliant
disgwyliedig (deilliant 5 neu’n uwch ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a lefel 4 neu’n uwch ar gyfer CA 2).
• Rhoddir adroddiad manwl i xxx rhiant ar ddiwedd y flwyddyn a bydd nosweithiau agored cyson a chyfle i drafod yr adroddiad diwedd y flwyddyn.
Diarddel Plant
Ni waharddwyd yr un disgybl yn ystod y flwyddyn addysgol 2016 -17
Adolygu Polisiau a strategaethau’r ysgol:
Mae’r ysgol yn adolygu polisiau yn gyson er mwyn sicrhau y ddarpariaeth orau ar gyfer y disgyblion. Yn ystod 2016 -17 adolygwyd polisiau yn ymwneud ag iechyd a
diogelwch, diogelu plant, bwlio, a rhai agweddau cwricwlaidd. Mae copiau o’r polisiau ar gael o’r ysgol neu ar y wefan. Mae’r rhestr o’r polisiau sydd wedi eu hadolygu yng nghofnodion y llywodraethwyr.
Gweithredu ar ôl adolygu polisiau:
Mae’r datblygiadau yn cael eu monitro’n gyson yn y cyfarfodydd tymhorol. Mae staff o’r ysgol wedi derbyn hyfforddiant pellach ar ddiogelu plant. Hoffwn ddiolch i bawb am gydweithio gyda’r ysgol i weithredu’r polisiau yma er lles pawb.
Chwaraeon a Gweithgareddau Allgyrsiol:
Mae’r ysgol yn darparu amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon. Mae’r disgyblion yn meithrin sgiliau a phrofiadau o’r Derbyn i fyny at Flwyddyn 6.
Mae xxx xxxxxx allgyrsiol xxxx xx’n anelu at foddio diddordebau xxxx ddisgyblion yr ysgol. Cynhelir Clwb yr Urdd yn wythnosol lle mae staff yr ysgol yn gwirfoddoli i
gynnig gweithgareddau amrywiol i’r disgyblion. Mae’r gweithgareddau yn cynnwys chwaraeon, celf, a gweithgareddau amrywiol.
Mae cysylltiad cryf yn bodoli rhwng yr ysgol â mudiad yr Urdd ac mae disgyblion yn cael profiadau cyfoethog wrth ddilyn rhaglen o weithgareddau’r flwyddyn.
Mae staff yr ysgol yn paratoi disgyblion ar gyfer yr eisteddfodau cylch, rhanbarthol a chenedlaethol ac yn profi llwyddiant mewn amrywiol feysydd ar lefel genedlaethol.
Bwyta ac yfed yn iach:
Mae’r ysgol yn hybu iechyd y disgyblion ac yn awyddus eu bod yn magu patrymau iachus o fwyta ac yfed ac yn rhan o strategaeth “Ysgolion Hybu Iechyd” Ceredigion. Enillwyd Cam 3 gyda`r Cynllun Ysgolion Iach Ceredigion ac mae`r Ysgol yn gweithio tuag at Cam 4.
Mae cinio ysgol iachus yn cael ei ddarparu yn ddyddiol ac anogir disgyblion i fwyta pecynnau bwyd iach i ginio. Mae’r siop ffrwythau ffres ar agor yn ddyddiol gan y Ffrindiau Ffit. Xxx xxxxx o ddŵr ar gael i’r disgyblion, anogir pob disgybl i ddod â photel blastig bwrpasol ar gyfer ei llenwi yn ystod y dydd.
Gwobr Platiniwm Eco-Sgolion:
Xxx xxx yr Ysgol Cyngor Eco sy`n cael ei ethol ym mhob mis Medi ac mae`r aelodau`n brysur yn sicrhau ein bod yn Ysgol gynaladwy sy`n parchu ac yn ymdrechu i wella amgylchedd yr ysgol. Enillwyd gwobr Platiniwm yng nghynllun Eco-Sgolion.
Gwobr Masnach Deg
Mae Ysgol Llechryd yn ymroi i gefnogi Masnach deg lle bynnag y xx xxxx gwneud hyn drwy :-
Sicrhau bod Masnach Deg yn rhan o Gynllun Datblygu’r Ysgol;
Ddefnyddio te, coffi a siwgr Masnach Deg yn Ystafell yr Athrawon ac mewn cyfarfodydd y Xxxxx Llywodraethol;
Defnyddio cynnyrch Masnach Deg yng ngwersi Technoleg Bwyd; Dewis peli Masnach Deg pan yn adnewyddu rhai newydd;
Gofyn i’r cwmni arlwyo gynnwys mwy o gynnyrch Masnach deg yn eu cyflenwadau; Gynnwys Masnach Deg yng Ngweithgareddau Cwricwlaidd xxx Xxxxxxxx;
Ymchwilio i’r posibilrwydd o xxxx xxxx o’r wisg ysgol wedi ei wneud gan ddefnyddio cotwm Masnach deg;
Defnyddio cynnyrch masnach deg yn y siop Ffrwythau;
Hybu Masnach Deg yn y Gymuned, yn enwedig yn ystod pythefnos Masnach Deg.
Cam cyntaf i`r Wobr Ysgol sy’n Parchu Hawliau (GYPH) Unicef y DU. - ‘Adnabyddiaeth o Ymrwymiad’ ROC:
Mae Cytundeb y Cenedloedd Unedig yngylch Hawliau Plant (CCUHP) yn ddogfen
ryngwladol sy’n diogelu hawliau a chyfrifoldebau pawb o xxx 18 oed. Nod y CCUHP yw cydnabod hawliau plant a gofalu bod heddwch, urddas, goddefgarwch, rhyddid, cydraddoldeb a chydgefnogaeth yn themâu amlwg yn eu bywydau wrth iddynt aeddfedu.
Mae’r CCUHP yn cynnwys 54 erthyl. Mae 42 ohonynt yn cynnwys hawliau ac mae 11 yn rhoi gwybodaeth am sut y dylai llywodraethau a phartneriaid gydweithio i orfodi’r cytundeb. Mae’r hawliau xxx sylw yn y CCUHP yn ymwneud â phob agwedd o fywyd a theulu plant a phobl ifanc gan gynnwys hawliau dynol a ryddid, gofal teulu, iechyd sylfaenol a lles, addysg, hamdded a bywyd diwylliannol a chamau diogelu penodol.
Mae hawliau yn eiddio i bawb. Maent yn hawliau syflaenol sy’n eiddo i xxx bod dynol, waeth xxxx yw ein gwaith. Mae hawliau yn galluogi i ffynnu, gyrraedd ein llawn botensial ac i gyfrannu at gymdeithas. Mae hawliau yn cynnwys llawr o agweddau ar fywyd xxx dydd, o’r hawl i gael bwyd, cysgod, addysg ac iechyd hyd at yr hawl i ryddid meddwl, crefyddol a hunan fynegiant.
Ein bwriad yma yn Ysgol Gynradd Llechryd yw darparu’r addysg gorau poibl i’r plant yn ein gofal. Er mwyn llwyddo mae’n bwysig datblygu partneriaeth gryf rhwng y plant, yr athrawon a’r cartref gyda phob un ohonynt yn cydweithio er lles y plentyn.
Mae Ysgol Gynradd Llechryd wedi ennill Gwobr Cam Cyntaf Ysgol Sy'n Parchu Hawliau ROC gan Unicef UK am wreiddio egwyddorion Confensiwn y CU ar Hawliau'r Plentyn yn ei hethos a'i chwricwlwm.
Mae addysgu am hawliau'r plant yn gwreiddio ym mhopeth y mae'r ysgol yn ei wneud ac wedi rhoi hwb i hunan-xxxxx y disgyblion a gwella harmoni yn y dosbarth ac ar yr iard chwarae.
Mae`r erthryglau hawliau'r Ysgol i'w gweld ar draws yr ysgol i amlygu hawliau a sut dylai plant ymddwyn fel nad ydynt yn gwrthod hawliau pobl eraill hefyd.
Mae Mrs Xxxxx Xxxxx-Xxxxx wedi gweithio'n agos gyda staff a disgyblion i sicrhau bod mewnbwn yr xxxx xxxxx yn xxxx xx gynnwys wrth wneud penderfyniadau yn yr ysgol.
Fe fyddwn ni`n anelu at Lefel 1 and ac wedyn 2.
Newidiadau i Lawlyfr yr Ysgol:
Mae’r llawlyfr yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru yn dymhorol. Xxx xxxx o’r llawlyfr ar gael yn yr ysgol neu drwy law’r pennaeth. Bu newidiadau i gynnwys y llawlyfr yn ystod y flwyddyn gyfredol er mwyn gwella’r diwyg.
Dyddiadau’r tymor ar gyfer y flwyddyn (gweler atodiad 2)
Diwrnodau cau HMS (gweler atodiad 2)
Amserau Sesiynau
Cyfnod Sylfaen | CA2 | |
Dechrau`r dydd | 9:00 | 9:00 |
Egwyl | 10:15-10:45 | 10:15 – 10:45 |
Cinio | 11:55 | 11:55 |
Dechrau`r prynhawn | 1:00 | 1:00 |
Egwyl y prynhawn | 2:15 – 2:30 | |
Diwedd y dydd | 3:30 | 3:30 |
Cwricwlwm a threfniadaeth addysgu:
Mae ansawdd ac amrywiaeth y profiadau dysgu a ddarperir i’r disgyblion ar draws yr ysgol yn bwysig iawn i ni. Cynigir cwricwlwm xxxx a chytbwys sy’n cwrdd â’r xxxx ofynion statudol. Mae’r athrawon yn parhau i adolygu’r cwricwlwm yn sgil datblygiadau newydd. Mae pwyslais mawr yn cael ei osod ar ddatblygu sgiliau
cyfathrebu, sgiliau rhif, sgiliau TGCh a sgiliau meddwl. Mae’r ysgol wedi cynllunio’n fanwl ar gyfer gweithredu’r Cyfnod Sylfaen a’r newidiadau i’r cwricwlwm o Fedi 2015 ymlaen. Mae’r Fframwaith yn cael ei gweithredu’n llawn drwy’r ysgol a cheir adroddiadau i rieni yn nodi cynnydd y disgyblion yn y meysydd yma.
Anghenion Dysgu Ychwanegol:
Mae’r ysgol yn gwneud pob ymdrech i sicrhau fod pob plentyn yn teimlo’n rhan annatod o fywyd a gwaith yr ysgol ac yn cyflawni eu potensial fel unigolion. Mae’r ysgol yn adolygu y polisi Anghenion Dysgu Ychwanegol yn rheolaidd er mwyn sicrhau cefnogaeth addas i ddisgyblion.
Xxx Xxxxx Xxxxxxx yw’r llywodraethwraig sy’n gyfrifol am Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Disgyblion sydd ag anableddau:
Mae campws yr ysgol wedi ei addasu’n gyson er mwyn rhoi mynediad rhwydd i ddisgyblion sydd ag anableddau, gosodwyd rampiau a chanllawiau i hybu mynediad i ddosbarthiadau a llwyddwyd drwy gynllunio gofalus i blethu plant ag anbleddau yn llawn i gwricwlwm yr ysgol.
Categori iaith yr ysgol – Cymraeg
Defnydd o’r Gymraeg yn yr ysgol:
• Defnyddir y Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 fel y brif iaith ym mhob xxxx x xxxxx cwricwlaidd ac allgyrsiol yr ysgol. Cyflwynir Saesneg i ddisgyblion ym Mlwyddyn 3.
• Y Gymraeg yw iaith gyfathrebu naturiol yr ysgol.
• Nid oes unrhyw gyfyngiad ar ddefnydd y Gymraeg yn yr ysgol, hyrwyddir y Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd a gwaith Ysgol Llechryd.
• Mae’r ysgol yn sicrhau drwy gynllunio gofalus fod yna barhad a datblygiad cyson yn y profiadau i ddefnyddio’r Gymraeg yn xxxx weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol yr ysgol.
• Mae disgyblion yn trosglwyddo i ysgolion uwchradd lle mae cyfleoedd iddynt barhau i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg.
Trefniadau a chyfleusterau toiled:
Xxx xxx yr ysgol nifer addas o doiledau ar gyfer y disgyblion. Mae’r cyfleusterau yn cael eu glanhau yn ddyddiol gan wasanaeth glanhau yr Awdurdod Addysg.
Cynnal a chadw’r adeiladau:
Newidwyd y drws ochr. Ailosodwyd y gysgodfan beiciau / sgwterau o Ysgol Dyffryn Teifi.
Diogelwch:
Rhaid parcio’n ofalus ar y strydoedd a pheidio parcio yn yr encilfa nac ar y gwair.
Mae diogelwch yn bwysig iawn i’r llywodraethwyr, y Cyngor Ysgol a’r staff. Rhaid bod yn ofalus a pharchu eraill.
Datblygiadau diogelwch yr adeilad – mae’r ysgol wedi adnewyddu’r ffens sy’n rhan o ffin yr ysgol. Mae hyn wedi gwella diogelwch y disgyblion ac yn xxxx mynediad i ddieithriaid.
Gobeithio xxxx bod wedi cael budd o ddarllen am ddatblygiadau’r ysgol brysur hon. Cofiwch gysylltu gyda’r Pennaeth os ydych am wybodaeth xxxxxxx am ddatblygiad yr ysgol.
Cynghorydd Xxxxx Xxxx Xxxxxxxxx y Llywodraethwyr
Atodiad:
Llechryd 2323 | ||||
£ | ||||
CYFLAWNIAD ARIANNOL 2016/17 | FINANCIAL PERFORMANCE 2016/17 | |||
Mae'r Awdurdod Addysg Lleol newydd gau'r | The Local Education Authority has recently | |||
cyfrifon am y flwyddyn ariannol a ddaeth i | finalised the closure of accounts for the year | |||
ben ar 31 Mawrth 2017. Dangosir isod sut y | ended 31 March 2017. The total funding for the | |||
daethpwyd at y cyllid a benodwyd i'r ysgol. | the school has been derived as set out below. | |||
Dyraniad Cyllid Gwreiddiol yn ôl Fformiwla | 206,535 | Formula Funding Initial Allocation | ||
Newid yn Niferoedd Disgyblion | 0 | Change in Pupil Numbers | ||
AAA | 711 | SEN | ||
Arwynebedd | 0 | Floor Area | ||
Y Dreth Annomestig | 0 | National Non-Domestic Rates | ||
Cau Ysgol | 0 | School closure | ||
Addasiad Arall | 0 | Other Adjustment | ||
Dyraniad y Gronfa wrth Gefn heb ei Defnyddio | 92 | Allocation of Unutilised Contingency | ||
Dyraniad Cyllid Diwygiedig 2016/17 yn ôl | 207,338 | Revised 2016/17 Formula Funding | ||
Fformiwla | Allocation | |||
Gwariant Net | 205,840 | Net Expenditure | ||
Amrywiant | 1,498 | Variance | ||
Llog ar y Gweddillion | 0 | Interest on Balances | ||
Gwarged / (Diffyg) - 1 Ebrill 2016 | 10,872 | Surplus / (Deficit) - 1 April 2016 | ||
Gwarged / (Diffyg) - 31 Mawrth 2017 | 12,370 | Surplus / (Deficit) - 31 March 2017 |
Financial Performance 2016/17 / Cyflwyniad Ariannol 2016/17 | |||||
Llechryd 2323 | |||||
£ | £ | ||||
Employee Costs | Costau Gweithwyr | ||||
Teacher Costs | 133,791 | Xxxxxx Xxxxxxxx | |||
Teaching Assistant Costs | 00,000 | Xxxxxx Xxxxxxxxxxxx Xxxxx | |||
Caretaking Costs | 2,767 | Costau Gofalwyr | |||
Administrative Officers | 0 | Swyddogion Gweinyddol | |||
Supervisors Costs | 845 | Xxxxxx Xxxxxxxxxxxx | |||
Supply Teacher Costs | 6,604 | Costau Athrawon Cyflewni | |||
Other Employee Costs | 224 | Costau Gweithwyr Eraill | |||
TOTAL EMPLOYEE COSTS | 178,562 | CYF. COSTAU GWEITHWYR | |||
Premises Costs | Costau'r Adeilad | ||||
Repair and Maintenance | 2,796 | Cynnal a Chadw | |||
Grounds Maintenance | 658 | Cynnal a Chadw'r Tir | |||
Energy Costs | 5,093 | Costau Ynni | |||
General Rates | 1,944 | Trethi | |||
Water Charges | 893 | Costau Dŵr | |||
Cleaning Supplies and Services | 6,536 | Nwyddau a Gwasanaethau Glanhau | |||
TOTAL PREMISES COSTS | 17,920 | CYF. COSTAU'R ADEILAD | |||
Transport Costs | Costau Trafnidiaeth | ||||
Direct Transport Costs | 0 | Costau Trafnidiaeth | |||
Travelling Costs | 0 | Xxxxxx Xxxxxxx | |||
TOTAL TRANSPORT COSTS | 0 | CYF. COSTAU TRAFNIDIAETH | |||
Supplies and Services | |||||
Teaching Resources | 3,560 | Adnoddau Dysgu | |||
ICT Resources | 4,199 | Adnoddau TGCh | |||
Catering Costs | 00,000 | Xxxxxx Xxxxxx | |||
Service Level Agreements | 4,098 | Cytundebau Lefel Gwasanaeth | |||
Photocopying Costs | 2,457 | Costau Llungopïo | |||
Other Supplies and Services | 1,467 | Nwyddau a Gwasanaethau Eraill | |||
TOTAL SUPPLIES AND SERVICES | 27,641 | CYF. NWYDDAU A GWASANAETH | |||
GROSS EXPENDITURE | 224,123 | GWARIANT GROS | |||
Less: INCOME | Wedi'i Leihau :INCWM | ||||
Parental/PTA Income | -6,183 | Cyfraniadau Rhieni/CRhA | |||
Grants | -12,100 | Grantiau | |||
Other Income | 0 | Incwm Arall | |||
TOTAL INCOME | -18,283 | CYFANSWM YR INCWM | |||
NET EXPENDITURE | 205,840 | GWARIANT NET | |||
Funding Available | Cyllid ar Gael | ||||
Formula Funding 2016/17 | 207,338 | Cyllid yn ôl Fformiwla 2016/17 | |||
Balance b/f 1 April 2016 | 10,872 | Gweddill c/d 1 Ebrill 2016 | |||
218,210 | |||||
NET VARIANCE | 12,370 | AMRYWIANT NET | |||
INTEREST | 0 | LLOG | |||
TOTAL 16/17 SURPLUS | 12,370 | CYFANSWM ARIAN WRTH GEFN | |||
2016/17 |
RHEOLAETH LEOL YSGOLION LOCAL MANAGEMENT OF SCHOOLS Monitro Cyllidol / Financial Monitoring 2016/17 | |||||
Llechryd 2323 | |||||
Cyllid yn ôl Fformiwlâu / Formula Funding | £ | ||||
Cyllid yn ôl Fformiwlâu / Formula Funding | 206,535 | ||||
Newid yn Nifer y Disgyblion / Change for Pupil Numbers | 0 | ||||
Addysg Arbennig / Special Needs | 711 | ||||
Arwynebedd / Floor Area | 0 | ||||
Y Dreth Annomestig / NNDR | 0 | ||||
Cau Ysgol / Closed School | 0 | ||||
Eraill / Others | 0 | ||||
Cronfa wrth Gefn heb ei Defnyddio / Unutilised Contingency | 92 | ||||
Dyraniad Cyllid Diwygiedig yn ôl Fformwla | 207,338 | ||||
Revised Formula Funding Allocation | |||||
Cyflawniad Ariannol / Financial Performance | |||||
Gwariant Net/Net Expenditure | 205,840 | ||||
Amrywiant/Variance | 2016/17 | 1,498 | |||
Cyllid wrth gefn c/d 31/3/16 | |||||
Reserves b/f 31/3/16 | 10,872 | ||||
Llog ar y Gweddillion 2016/17 | |||||
Interest on Balances 2016/17 | 0 | ||||
CYFANSWM WRTH GEFN 31/3/17 | |||||
*NET FUNDS AVAILABLE 31/3/17 | 12,370 | ||||
Gwariant Net a gytunwyd gan y Pennaeth ar: | |||||
Net Expenditure as Agreed with Headteacher on: | |||||
Llofnod Cynrychiolydd yr Awdurdod | |||||
Signature of Authority's Representative | |||||