TÎM COMISIYNU ADRODDIAD MONITRO CONTRACT
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CAERFFILI CYFADRAN GWASANAETHAU CYMDEITHASOL
XXX COMISIYNU
ADRODDIAD MONITRO CONTRACT
Enw'r Darparwr: Cartref Gofal Hill View, Aberbargod
Dyddiad(au) yr Ymweliad: Dydd Mawrth 27 Awst 2019, am
Dydd Mercher 4 Medi 2019, am
Swyddog Ymweld: Xxxxxx Xxxxxxx, Swyddog Monitro Contractau
Yn bresennol: Xxxxx Xxxxx, Rheolwr Cofrestredig
1. Cefndir
1.1 Mae Cartref Gofal Hill View wedi'i leoli yn Aberbargod ac mae'n darparu ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia. Mae'r cartref wedi'i leoli'n agos at amwynderau lleol (siopau, ysgolion ac ati), ac mae wedi'i gofrestru i ddarparu gofal dementia preswyl ar gyfer 34 o bobl. Ar adeg yr ail ymweliad roedd 1 lle gwag ar gael.
1.2 Mae'r cartref yn fawr ac mae ar 3 lefel. Mae'r cartref yn ceisio rhoi pobl i fyw ar yr un llawr â phobl eraill sydd ar gam tebyg yn eu profiad o fyw gyda dementia, er mwyn lleihau unrhyw straen a brofir ac annog ymdeimlad o lesiant.
1.3 Mae'r Rheolwr wedi'i gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru (xxxxx rheoleiddio gweithlu).
1.4 Mae'r digwyddiad blynyddol, ‘Care Home Awards’, yn cydnabod yr 20 cartref gofal a argymhellir fwyaf ym mhob rhanbarth o'r Deyrnas Unedig ac, yn ystod 2019, llwyddodd Cartref Gofal Hill View i ennill ‘Gwobr Uchaf’ xxxxx o 20, xxxx xxxx o 9.7 xxxxx o 10.
1.5 Cyflwynwyd dull gofalu ‘ar sail teimladau’ Dementia Care Matters yn Hill View pan agorodd y cartref. Mae'r ethos hwn yn hyrwyddo model gofal dementia sy'n ‘canolbwyntio ar yr unigolyn’ ac sy'n chwalu syniadau traddodiadol am ofal. Mae'r staff yn parhau i hyrwyddo'r dull hwn ac wedi ymrwymo i hyfforddiant Dementia Care Matters i wella eu gwybodaeth yn hyn o xxxx.
1.6 Xxx Xxx Comisiynu CBSC wedi cael adborth rheolaidd gan weithwyr proffesiynol sy'n ymweld o ran eu harsylwadau ar faterion gofal. Er bod rhai problemau wedi digwydd dros y misoedd blaenorol, mae'r Rheolwr xxx amser wedi gweithredu yn briodol drwy gysylltu â gweithwyr iechyd/cydweithwyr eraill a sicrhau diwallu anghenion unigolion mewn ffordd urddasol a pharchus.
1.7 Cynhaliodd AGC (Arolygiaeth Gofal Cymru) arolygiad yn y cartref, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2018. Roedd yn arolygiad cadarnhaol iawn, ac ni chodwyd dim ond dau achos o ddiffyg cydymffurfio. Roedd hefyd un argymhelliad ar gyfer gwella.
1.8 Yn dibynnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, caiff y darparwr gamau unioni a datblygiadol i'w cwblhau. Camau unioni yw rhai y mae'n rhaid eu cwblhau (yn unol â'r ddeddfwriaeth); argymhellion arfer da yw camau datblygiadol.
2. Ymweliad monitro blaenorol
2.1 Cynhaliwyd ymweliad Monitro Contract yn 2018 a amlygodd sawl xxxx arfer da/ datblygu. Roedd nifer fach o gamau unioni/camau datblygiadol i'r darparwr fynd i'r afael â nhw. Ailystyriwyd y camau hyn fel a ganlyn:-
Camau unioni
2.1.1 Perthnasau i lofnodi ffurflenni caniatâd teledu cylch cyfyng a sicrhau eu bod yn cael eu storio'n ddiogel. Amserlen: O fewn 3 mis. (RISCA Rheoliad 43.) Cam gweithredu wedi'i gyflawni.
2.1.2 Dod o hyd i ffurflenni digwyddiad ar gyfer dau ddyn, a'u cynnwys yn ffeiliau'r unigolion.
Amserlen: O fewn wythnos. Cam gweithredu wedi'i gyflawni.
2.1.3 Sicrhau bod polisïau/gweithdrefnau ar gael mewn perthynas â disgyblaeth staff a rheoli heintiau. Amserlen: O fewn mis. (RISCA Rheoliad 79.) Cam gweithredu wedi'i gyflawni.
2.1.4 TM i lofnodi'r contract cyflogaeth. Amserlen: O fewn mis. (RISCA Rheoliad 35.) Cam gweithredu wedi'i gyflawni.
Camau datblygiadol
2.1.5 Matrics goruchwylio i gynnwys pob dyddiad pan gynhaliwyd sesiynau goruchwylio.
Amserlen: O fewn 3 mis. (RISCA Rheoliad 36.) Cam gweithredu wedi'i gyflawni.
3. Unigolyn Cyfrifol
3.1 Roedd y gwasanaeth wedi ailgofrestru ag AGC ym mis Rhagfyr 2018 i fodloni'r gofynion cofrestru yn y rheoliadau newydd, sef Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA) a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2018.
3.2 Yr Unigolyn Cyfrifol am y gwasanaeth yw Xx X. Xxx. Yn ôl y Ddeddf, mae disgwyl y bydd yn ymweld â'r gwasanaeth o leiaf xxx chwarter er mwyn cael trosolwg o'r gwasanaeth a darparu adroddiadau ysgrifenedig ar berfformiad y cartref, a'i ansawdd. Roedd yn amlwg bod adroddiadau wedi'u llunio yn ystod y misoedd blaenorol. Edrychwyd ar yr adroddiad diweddaraf, a dangosodd fod xxxxxxx wedi'i geisio gan breswylwyr a'r staff, a bod meysydd eraill wedi'u harchwilio (yr amgylchedd, digwyddiadau, cwynion gyda chamau gweithredu wedi'u cynnwys).
3.3 Diwygiwyd Datganiad o Ddiben y cartref ym mis Rhagfyr 2018. Gwnaed y Swyddog Monitro Contractau yn ymwybodol bod y ddogfen hon yn gyfredol i raddau helaeth, a dim ond mân welliannau roedd eu xxxxxx xx mwyn ei diweddaru.
3.4 Edrychwyd ar Ganllaw Defnyddwyr y Gwasanaeth ac, ar y pryd, nid oedd dyddiad arno, felly, roedd yn anodd mesur pa mor gyfredol roedd y ddogfen.
3.5 Os/pan na fydd yr Unigolyn Cyfrifol a'r Rheolwr Cofrestredig ar gael, y cynllun wrth gefn fyddai i uwch swyddog gyflenwi yn eu habsenoldeb.
3.6 Edrychwyd ar Bolisïau a Gweithdrefnau'r cartref er mwyn sicrhau bod y polisïau allweddol/gorfodol yn bresennol, a'u bod wedi cael eu hadolygu yn ddiweddar er mwyn sicrhau eu bod yn dal i fod yn gywir ac yn gyfredol. Ar adeg yr ymweliad roedd y mwyafrif helaeth o bolisïau wedi cael eu hadolygu, ond, mae'r polisi meddyginiaeth yn parhau i gael ei adolygu oherwydd rhai ymholiadau sy'n cael eu trin gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Xxxxxxx Xxxxx.
4. Rheolwr Cofrestredig
4.1 Gofynnwyd nifer o gwestiynau i'r Rheolwr i ddarganfod sefyllfa bresennol nifer o agweddau ar y cartref, fel a ganlyn. Mae'r Rheolwr yn gyfrifol am redeg Cartref Gofal Hill View yn unig.
4.2 Mae'r cartref gofal yn gweithredu system teledu cylch cyfyng (system oruchwylio) sy'n cwmpasu'r xxxx ardaloedd cymunedol (lolfeydd, cynteddau) yn unig. Roedd y Rheolwr wedi ceisio caniatâd gan berthnasau drwy ffurflenni caniatâd wedi'u llofnodi.
4.3 Gellir addasu'r tymheredd mewn ystafelloedd gwely unigol drwy thermostatau'r rheiddiaduron er mwyn sicrhau nad yw pobl yn rhy gynnes nac yn rhy oer. Yn ogystal, yn ystod cyfnodau o dywydd xxxxx, xxx ffaniau trydan ac unedau aerdymheru ar gael.
4.4 Mae'r Rheolwr yn rhagweithiol iawn wrth anfon dogfennau Rheoliad 60 ymlaen (dull o roi gwybod am bethau sydd wedi digwydd e.e. achosion o glefydau heintus, salwch, cwympiadau ac ati).
4.5 Mae'r cartref yn mynd ati i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol (meddygon teulu, Nyrsys Seiciatrig Cymunedol ac ati) er mwyn sicrhau bod anghenion iechyd y bobl yn cael eu diwallu yn brydlon. Mae'r meddyg teulu yn galw yn y cartref yn wythnosol i adolygu anghenion iechyd y bobl. Roedd yr adborth a gafwyd gan Nyrs Seiciatrig Gymunedol tra yn y cartref yn gadarnhaol iawn.
4.6 Cyflwynir ceisiadau am Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (XxXX) ar gyfer pobl nad yw'r gallu ganddynt i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Cadarnhaodd y Rheolwr fod gan bawb, heblaw am un, gais XxXX ar xxxxx, fodd bynnag, mae rhesymau xxxxx xxxx hyn ar hyn x xxxx.
5. Hyfforddiant
5.1 Xxx xxx Xxxx View fatrics hyfforddiant sy'n cael ei gwblhau i gofnodi xxxx xxx staff wedi cael hyfforddiant a phryd y bydd yn dod i ben. Manteisir ar gyrsiau hyfforddi drwy ddarparwyr hyfforddiant allanol (sef Langfords a New Directions) sy'n darparu amrywiaeth o gyrsiau, yn ogystal â hyfforddiant drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Xxxxxxx Xxxxx a Xxxx Iechyd Meddwl Caerffili, e.e. gofal iechyd y geg, ymwybyddiaeth o sepsis, sgrinio MUST, Cymorth Ymddygiad ac ati. Mae llawer o'r hyfforddiant wedi'i leoli yn yr ystafell ddosbarth lle mae'r staff yn cael budd o fod yn rhan o sesiwn grŵp.
5.2 Mae'r xxx o staff yn parhau i xxxx xxxx o amrywiaeth xxxx o gyrsiau (cyrsiau gorfodol a chyrsiau nad ydynt yn orfodol), e.e. Cymorth Cyntaf, Codi a Chario, Diogelu,
Ymwybyddiaeth Tân, Meddyginiaeth, Cwympiadau ymhlith Pobl Hŷn, Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid, Meddyginiaeth, Gofal Ceg.
5.3 Mae'r ‘Cynnig Rhagweithiol – Mwy Na Geiriau’ (Deddf yr Iaith Gymraeg ddiwygiedig) yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddarparwyr gofal cymdeithasol gyfathrebu yn Gymraeg heb i'r person ofyn am hynny. Xxx Xxxx View yn ymwybodol o ofynion y Ddeddf ac maent yn gweithredu hyn mewn ffyrdd sy'n addas, h.y. arddangos geiriau/ymadroddion Cymraeg syml ar y waliau mewn mannau cymunedol i atgoffa'r staff o rai ymadroddion syml. Mae hefyd unigolyn sy'n byw yn y cartref yn siaradwr Cymraeg, ac mae ei hanghenion/ dymuniadau yn cael eu bodloni.
5.4 Mae mwy xx xxxxxx o'r xxx o staff wedi cyflawni NVQ/QCF Lefel 2 neu 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gyda nifer fawr o'r staff yn gweithio tuag at un o'r cymwysterau hyn ar hyn x xxxx. Cytunwyd bod hyn yn gadarnhaol o ran hyfforddiant staff, ond hefyd o ran y gofyniad i staff cartrefi gofal gofrestru yn 2022 gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
6. Staffio
6.1 Fel rhan o ethos Dementia Care Matters, mae'r cartref yn parhau i fabwysiadu ethos ‘dim gwisg ffurfiol’, sy'n hyrwyddo ymdeimlad mwy ‘cartrefol’, ac sy'n osgoi'r rhwystrau a all godi pan gaiff gwisg ffurfiol ei gwisgo.
6.2 Archwiliwyd ffeiliau dau aelod o'r staff i bennu a oes prosesau recriwtio cadarn ar waith. Roedd ffeiliau'r staff yn drefnus iawn ac roedd yn hawdd dod o hyd i wybodaeth. Roedd y ffeiliau'n cynnwys ffurflen gais fanwl, geirdaon, Contractau Cyflogaeth, ffotograff o'r aelod o'r staff a dull adnabod. Roedd tystysgrifau hyfforddiant ar gael ar gyfer llawer o'r cyrsiau a gwblhawyd. Roedd modd gweld cofnod cyfweliad ar gyfer 1 ffeil, ond roedd y llall yn absennol o'r ffeil. Tynnwyd hyn i sylw'r Rheolwr ar adeg yr ymweliad, a chadarnhaodd y byddai'n gallu dod o hyd i'r cofnod hwn.
6.3 Roedd yn amlwg o'r ddwy ffeil a welwyd fod goruchwyliaeth wedi'i chynnal xxx chwarter. Roedd y sesiynau hyn yn ymdrin â materion megis cyflawniadau personol ers y sesiwn flaenorol, heriau/anawsterau a brofwyd, dysgu a datblygu, targedau i'w gosod ac ati. Cyfeiriwyd hefyd at ddigwyddiadau blaenorol lle trafodwyd myfyrdodau ymarfer.
6.4 Mae'r xxxx staff gofal yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel rhan o'u dyletswyddau i sicrhau bod pobl yn cael eu hysgogi a bod diwrnodau pobl yn brysur mewn ffordd ystyrlon. Cyflogir ‘Mam y Tŷ’ (uwch aelod o'r staff) ar hyn o xxxx, xx xxx'n arwain y gwaith yn y xxxx hwn. Xxx'r Rheolwr hefyd wedi gwneud cysylltiadau â darparwr cymorth lleol sy'n darparu staff yn wirfoddol i gefnogi gweithgareddau, a bydd o fudd i'r gweithwyr hefyd.
6.5 Mae cadw staff yn parhau i fod yn broblem, ond, mae'r xxx rheoli yn archwilio ffyrdd o wella'r xxxx hwn, yn ogystal â gwella lefelau salwch. Ffefrir peidio â defnyddio staff asiantaethau; mae'r xxx o staff presennol yn cyflenwi pan fo diffygion.
6.6 Ar hyn o xxxx, xxx'r Rheolwr yn ceisio recriwtio gweinyddwr a fydd yn gallu cefnogi'r Rheolwr, yn ogystal â phenodi Uwch Arweinydd Xxx.
7. Archwiliad o Ffeiliau a Dogfennaeth
7.1 Archwiliwyd ffeiliau dau breswylydd fel rhan o'r broses fonitro. Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys ffotograff, manylion sylfaenol, a Chynlluniau Personol (Cynlluniau Gwasanaeth) yn ymwneud â phob xxxx gofal (e.e. gofal personol, cyfathrebu, maeth ac ati), Asesiadau Risg addas (e.e. cwympiadau, rheiliau gwely, meddyginiaeth ac ati) a chofnodion ymweliadau proffesiynol.
7.2 Roedd y Cynlluniau Personol yn gynhwysfawr iawn ac wedi'u hysgrifennu mewn modd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan adlewyrchu anghenion a dymuniadau'r unigolyn. Roedd perthnasau wedi bod yn rhan o lunio ac adolygu'r dogfennau hyn yn fisol, gydag unrhyw gamau newydd yn cael eu cytuno hefyd.
7.3 Roedd cofnodion dyddiol yn cynnwys llawer o fanylder am anghenion y person, ac yn adlewyrchu'r wybodaeth yn y cynlluniau personol.
7.4 Roedd yn amlwg o'r cofnodion ymweliadau proffesiynol fod gweithwyr iechyd proffesiynol yn cymryd rhan yn rheolaidd yng ngofal y bobl, lle mae e.e. Nyrsys Seiciatrig Cymunedol, meddygon teulu, gweithwyr cymdeithasol, ciropodyddion wedi dogfennu eu bod wedi ymweld.
7.5 Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys dogfen o'r enw ‘Dyma fi’ sydd wedi cael ei datblygu gan Gymdeithas Alzheimer's. Mae'r ddogfen hon yn galluogi gwybodaeth i gael ei chasglu, megis cefndir teuluol yr unigolyn, digwyddiadau pwysig mewn bywyd, pobl/lleoliadau, dewisiadau, arferion a phersonoliaeth; nod hyn yw helpu staff i leihau gofid unrhyw unigolyn a diwallu ei anghenion.
7.6 Roedd dogfennau ‘DNACPR’ (Na Cheisier Dadebru Cardio-anadlol) wedi eu ffeilio yn ffeiliau'r unigolyn. Dogfen gyfreithiol yw hon sy'n darparu arweiniad ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol wrth weithredu os yw'r unigolyn yn cael ataliad y galon. Bydd clinigwyr, yr unigolyn a'i berthnasau wedi ystyried ac ymgynghori'n ofalus i ddod i'r penderfyniad.
7.7 Edrychwyd ar ‘restr wirio Gofal Personol’ a ddefnyddir i ddogfennu'r xxxx ofal sy'n cael ei ddarparu xxx dydd. Roedd hon wedi'i llenwi'n llawn, xx xxx dim ond unwaith y dydd yr oedd gofal ceg yn cael ei nodi, ni waeth a oedd hyn yn digwydd yn amlach. Cytunodd y Rheolwr i ychwanegu colofn/colofnau ychwanegol at y rhestr wirio er mwyn gallu nodi gofal ceg, a'r amlder, yn llawnach.
8. Systemau sicrhau ansawdd
8.1 Cynhaliwyd arolygon Sicrhau Ansawdd eleni, a gofynnwyd am adborth gan breswylwyr, gweithwyr proffesiynol, teuluoedd ac aelodau'r staff. Mae'r Darparwr yn ymwybodol ei bod xxxxxxx yn ofynnol i'r rhain gael eu cyflawni xxx 6 mis. Dangoswyd gwybodaeth ar ffurf graffiau gyda'r naratif wedi'i nodi hefyd. Dylai'r broses Sicrhau Ansawdd hefyd gynnwys dadansoddiad o wybodaeth arall a gasglwyd am y gwasanaeth, e.e. materion a gwersi a ddysgwyd wrth ddadansoddi cwynion ac unrhyw faterion diogelu, patrymau/tueddiadau a nodwyd drwy ddigwyddiadau arwyddocaol a allai fod wedi digwydd, canlyniadau adroddiadau arolygu/ymweliadau monitro, archwiliadau ac ati.
8.2 Cynhaliwyd cyfarfodydd staff yn rheolaidd gyda phresenoldeb da. Roedd llawer o bynciau wedi cael eu trafod, yn eu plith roedd e.e. lefelau salwch, gweithgareddau, y dull
Dementia Care Matters, adborth cadarnhaol a gafwyd ac ati. Cynhaliwyd cyfarfodydd preswylwyr yn flaenorol, ond, nid oeddent xxx amser yn cyflawni'r canlyniad a ddymunir.
8.3 Oriau gwaith Mam y Tŷ yw 7.00am tan 3.00pm ac nid yw'n mynychu'r cyfarfodydd trosglwyddo dyddiol sy'n digwydd ar ddechrau pob shifft (6.00am/6.00pm). Maent yn darllen y llyfr log trosglwyddo ar ddechrau eu shifft ac yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth/ gyfarwyddiadau llafar gan arweinydd y xxx xxx'r uwch aelod o staff ar ôl cyrraedd. Maent hefyd yn mewnbynnu/dibynnu ar unrhyw wybodaeth, drwy'r llyfr trosglwyddo/arweinydd xxx, y xxx xxxxx ei rhannu yn ôl drwy'r broses drosglwyddo.
Cynnal a Chadw'r Cartref
8.5 O ran cynnal a chadw'r cartref, mae'n ymddangos bod gwiriadau cynnal a chadw rheolaidd ar waith i sicrhau bod atgyweiriadau'r cartref yn cael eu cwblhau. Ymhlith y meysydd xxx sylw xxx e.e. cynnal a chadw cadeiriau olwyn, tymheredd y dŵr, glanhau pennau cawodydd. Byddai'r ddogfennaeth mewn perthynas â glanhau pennau cawodydd yn elwa ar fod yn fwy cadarn.
8.6 Ail-baentiwyd ardal y lolfa yn ystod y flwyddyn flaenorol ac amnewidiwyd y to gwastad.
Diogelwch Tân/Iechyd a Diogelwch
8.7 Dyddiad Asesiad Risg Tân diweddaraf y Cartref yw mis Gorffennaf 2018. Gwnaed trefniadau i'r Swyddog Tân gynnal ailymweliad i ddiweddaru'r asesiad risg oherwydd dylid cynnal y xxxxx xxx blwyddyn. Gwnaed nifer o argymhellion o'r blaen o ganlyniad i'r asesiad risg, a chyflawnwyd 80% yn ystod yr ymweliad ym mis Hydref 2018. Cadarnhaodd y Rheolwr fod yr xxxx argymhellion xxxxxxx wedi'u cyflawni.
8.8 Cynhaliwyd ymarferion tân misol yn rheolaidd, a chadwyd cofnodion da. Roedd y cofnodion yn cynnwys enwau'r staff a oedd yn bresennol, y camau a gymerwyd ar adeg yr ymarfer ac adroddiad ar sut aeth yr ymarfer tân.
Rheoli arian pobl
8.9 Mae taflenni cofnodi unigol ar waith ar gyfer pob unigolyn sydd xxxxx xxxxx i brynu eitemau a gwasanaethau (e.e. apwyntiadau trin gwallt, trin traed ac ati). Mae'r ffeil a gedwir yn cynnwys taflenni unigol lle mae trafodion yn cael eu cofnodi gan ddau lofnodwr. Ymhlith yr unigolion sydd wedi'u hawdurdodi i fod yn llofnodwyr mae'r Rheolwr/uwch aelod o'r staff/Unigolyn Cyfrifol.
8.10 Gellid gweld bod derbynebau ynghlwm wrth y taflenni cofnodi fel prawf o bryniant.
9. Adborth gan Breswylwyr/Perthnasau
9.1 Gwnaeth preswylydd sylw ar gymaint y mwynhaodd ei phryd amser cinio, a pha mor braf a phoeth ydoedd.
9.2 Cadarnhaodd perthynas ei bod yn fodlon iawn ar y gofal y mae ei mam yn ei gael yn Hill View, gan ddweud na allai weld dim o'i le ar y Cartref. Rhoddwyd enghreifftiau hefyd o sut roedd ei mam wedi cael cymorth mor dda ar ôl dychwelyd o'r ysbyty yn hwyr yn y nos.
10. Arsylwadau
10.1 Roedd rhannau o'r Cartref yn lân ac yn ffres yn ystod yr ymweliadau monitro.
10.2 Gwelwyd bod y rhyngweithio a'r ymgysylltu rhwng y staff a'r bobl sy'n derbyn gofal yn effeithiol iawn, gyda'r staff yn ddigyffro, yn ddi-frys, yn gynnes ac yn gyfeillgar. Roedd y bobl yn edrych wedi ymgartrefu, yn derbyn gofal da ac yn drwsiadus. Yn ystod un o'r ymweliadau, roedd pobl yn manteisio ar siop trin gwallt yn y Cartref, sy'n ddymunol iawn.
10.3 Mae'r dull hamddenol yn parhau, sy'n amlwg pan fyddwch yn cerdded i mewn i'r cartref am y tro cyntaf. Mae'r cartref yn gyfforddus iawn, gyda soffas a chadeiriau i bobl eu defnyddio yn y lolfa, a phethau cofiadwy i ysgogi'r synhwyrau ac eitemau cyffyrddadwy. Gwelwyd map o'r byd ar un o'r waliau, a oedd yn cynnwys sylwadau gan bobl ar eu xxxx gyrchfannau gwyliau.
10.4 Xxx xxx y Cartref gysylltiadau â'r eglwys leol, sy'n cynnal dosbarth crefft wythnosol, a'r ysgolion cynradd/meithrin lleol, sy'n cymryd rhan weithredol ym mywyd y Cartref.
10.5 Mae ‘bagiau gweithgareddau’ wedi'u creu i berthnasau eu defnyddio er mwyn cael pethau i'w gwneud gyda'r person y maent yn ymweld ag ef, e.e. posau, gemau ac ati.
10.6 Mae ystafelloedd gwely'r bobl wedi cael eu personoli yn unol â dewisiadau'r bobl e.e. eu ffotograffau eu hunain, eiddo personol ac ati, ac maent wedi cael eu haddurno a'u dodrefnu i safon uchel, gyda'r ystafelloedd yn edrych yn lân iawn ac mewn cyflwr da.
10.7 Mae ardal feranda awyr agored fach i bobl ei defnyddio sy'n cynnwys lle eistedd a chanopi, ac sydd wedi'i haddurno ag eitemau garddio. Mae aelod o'r teulu wedi datblygu'r ardal hon ymhellach, drwy blannu ychydig o lysiau, gwelyau blodau mewn potiau ac ati. Rhoddwyd gwybod i'r Swyddog Monitro Contractau fod pobl yn mwynhau defnyddio'r man awyr agored hwn.
Arsylwadau amser bwyd
10.8 Mae'r profiad amser bwyd yn Hill View yn groesawgar iawn, gyda gwahoddiadau'n cael eu cynnig i aelodau'r teulu a'r Swyddog Monitro Contractau i fod yn rhan o hyn. Roedd yn amlwg bod prydau bwyd wedi'u paratoi'n hyfryd. Ar un o'r diwrnodau, roedd gan y bobl y dewis o bysgod a sglodion, pys a saws tartar, neu salad. Roedd y pysgod a'r sglodion wedi'u rhoi ar bapurau newydd gwrth-saim i wneud i'r pryd edrych fel pysgod a sglodion traddodiadol yn eu deunydd lapio. Clywyd pobl yn gwneud sylwadau cadarnhaol ar eu prydau bwyd, gan ddweud ‘mae hyn yn hyfryd’, ac ‘mae hyn yn braf ac yn boeth’.
10.9 Ymgymerwyd â'r amser bwyd mewn modd di-frys, gyda'r staff gofal yn darparu cymorth, lle roedd angen. Gwahoddwyd aelod o'r teulu, a oedd yn ymweld, i fod yn rhan o'r amser bwyd ac roedd sgyrsiau'n cael eu cynnal, ynghyd â chwarae cerddoriaeth gefndir. Roedd llieiniau byrddau, matiau bwrdd, pupur a halen, a fasys o flodau wedi'u gosod ar y byrddau. Roedd diodydd â gwahanol flasau ar gael, ac yn cael eu cynnig drwy gydol amser bwyd.
10.10 Gwnaed cwpl o sylwadau gan y bobl sy'n derbyn gofal, sef bod rhaid iddynt weithiau aros cryn dipyn o amser i'w prydau gyrraedd.
11. Camau Gweithredu Camau Unioni
11.1 Diweddaru (os oes angen) / rhoi dyddiad / rhoi dyddiad adolygu yn achos y Canllaw Defnyddwyr Gwasanaeth. Amserlen: O fewn 2 fis. (RISCA Rheoliad 19.)
11.2 Ychwanegu cofnod cyfweliad at y ffeil yn achos yr aelod o'r staff HT. Amserlen: O fewn 2 fis. (RISCA Rheoliad 35.)
11.3 Sicrhau Ansawdd (Adolygiad o Ansawdd Gofal) i gynnwys dadansoddiad pellach o'r Cartref (e.e. gwersi a ddysgwyd, canlyniadau adroddiadau arolygu ac ati) – gweler cymal
8.1 uchod am wybodaeth xxxxxxx a RISCA. Amserlen: Ar unwaith ac yn barhaus.
(RISCA Rheoliad 80.)
Camau Datblygiadol
11.4 Datblygu rhestr wirio Gofal Personol i gynnwys lle i ofalyddion gofnodi pan fydd gofal ceg yn cael ei wneud fwy nag unwaith y dydd. Fel arall, defnyddio ffurflenni Monitro Gofal Ceg Bwrdd Iechyd Prifysgol Xxxxxxx Xxxxx i gofnodi'r wybodaeth hon. Amserlen: O fewn 2 fis.
11.5 Cadw cofnodion o xxx pen cawod sydd wedi'i lanhau yn y Cartref fel ei bod yn hawdd gwybod pa rai sydd wedi'u glanhau. Amserlen: O fewn 2 fis ac yn barhaus.
12. Casgliad
12.1 Mae Cartref Gofal Hill View i'w ganmol am gyflawni'r ‘Wobr Uchaf’ xxxxx o 20 o Gartrefi Gofal yn y Deyrnas Unedig, gan fod hwn yn gyflawniad go iawn.
12.2 Mae'r bobl yn parhau i fyw mewn amgylchedd sy'n ysgogol, yn llachar, yn ddeniadol, wedi'i ddodrefnu'n dda ac mewn cyflwr da.
12.3 Mae dogfennaeth y preswylwyr yn fanwl iawn ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ac mae ffeiliau'r staff yn cynnwys yr wybodaeth angenrheidiol er mwyn penodi. Mae'r staff yn derbyn cyfoeth o hyfforddiant er mwyn iddynt allu cyflawni eu rolau.
12.4 Er bod nifer o faterion wedi'u hamlygu yn ystod y flwyddyn, mae'r Rheolwr yn parhau i fod yn agored ac yn dryloyw wrth hysbysu'r gweithwyr proffesiynol priodol, ac mae unrhyw faterion/pryderon xxx amser yn cael eu trin yn effeithiol, yn cynnwys y gweithwyr proffesiynol perthnasol, ac mae anghenion y preswylwyr wrth wraidd penderfyniadau. Mae'r adborth a gafwyd gan weithwyr proffesiynol sy'n ymweld ac aelodau o'r teulu wedi bod yn gadarnhaol iawn.
12.5 Hoffai'r Swyddog Monitro ddiolch i'r Rheolwr a'r xxx o staff am eu hamser a'u croeso yn ystod yr ymweliadau monitro.