DATGANIAD CYNGOR RHONDDA CYNON TAF
DATGANIAD CYNGOR RHONDDA CYNON TAF
AR BOLISI CYFLOGAU
2024/2025
Cynnwys
1. Cyflwyniad a Diben
2. Fframwaith Deddfwriaethol
3. Cwmpas a Strwythur Cyflogau
• Taliadau Ychwanegol
• Honoraria
• Secondiadau
• Cyflog ar sail Cyflawniad
• Ychwanegiadau'r Farchnad
4. Cydnabyddiaeth Ariannol Prif Swyddogion
5. Recriwtio Prif Swyddogion
6. Ychwanegiadau at Gyflog Prif Swyddogion
7. Taliadau Diswyddo
8. Ailgyflogi
9. Cyhoeddi
10. Perthynoledd Cyflogau
11. Y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol
12. Atebolrwydd a Dod i Benderfyniadau
13. Adolygu'r Polisi
1. Cyflwyniad a Diben
Cyflwyniad Arweinydd y Cyngor
1.1 Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cydnabod pwysigrwydd gweinyddu cyflog yn deg, yn wrthrychol ac yn gyson mewn ffordd sy'n annog gweithwyr i wneud cyfraniad cadarnhaol i fusnes y Cyngor. Mae'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ynglŷn â chyflog a graddio yn hanfodol i gynnal cydraddoldeb ar draws y Cyngor.
1.2 Wrth osod ei strwythur cyflogau, mae'r Cyngor yn ystyried ei flaenoriaethau corfforaethol, y rôl bwysig y mae uwch reolwyr yn ei chwarae wrth gyflawni'r nodau hynny a hefyd yn ceisio dangos gwerth am arian i drigolion y Fwrdeistref Sirol yn barhaus.
Diben
1.3 O xxx Xxxxx 112 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, mae gyda'r Cyngor "y pŵer i benodi swyddogion ar delerau ac amodau rhesymol fel y gwêl yr Awdurdod yn addas". Mae’r Datganiad ar Bolisi Cyflogau yma'n gosod dull y Cyngor o weithredu Polisi Cyflogau yn unol â gofynion Adran 38 ac Adran 40(2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (y Ddeddf).
2. Fframwaith Deddfwriaethol
2.1 Wrth bennu cyflog a chydnabyddiaeth ar gyfer ei weithwyr, bydd y Cyngor yn cydymffurfio â phob deddfwriaeth berthnasol o ran cyflogaeth.
3. Strwythur Cyflogau
3.1 Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu a gweithredu system gwerthuso swyddi ddadansoddol a gwrthrychol yn seiliedig ar ofynion y swydd ynghyd â datblygu strwythur cyflogau a graddio penodol.
3.2 Mae'r strwythur yma yn pennu cyflogau'r mwyafrif o weithlu'r Cyngor. Dyma nodweddion y strwythur cyflogau a graddio:
• Deunaw o gyflogau ar raddfa benodol;
• Ychwanegiad at gyflog am weithio ar y penwythnos - amser a thraean am weithio ar ddydd Sadwrn ac amser a xxxxxx am weithio ar ddydd Sul;
• Does dim cyfraddau uwch ar gyfer taliadau goramser;
• Does dim taliadau bonws.
3.3 Mae'r strwythur yn berthnasol i xxxx weithwyr y Cydgyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol.
3.4 Mae'r Cyngor yn parhau i dalu cyfradd Cyflog Byw Gwirioneddol a gynyddodd i £12.00 yr awr ym mis Hydref 2023. Yn unol â'n cytundeb gyda'r undebau llafur, bydd y cynnydd yma'n cael ei roi ar waith o 1 Xxxxxx xxxxx.
Bydd y cynnydd yma i £12.00 yr awr o fis Ebrill ymlaen yn effeithio ar yr xxxx staff ar Raddau 1 – 3 o system raddio'r Cyngor. Mae'n bosibl y bydd y sefyllfa yma'n newid, pan fo'r Cyngor yn derbyn cadarnhad o gynnydd cyflog y Cyd- gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol a fydd yn dod i rym o 1 Ebrill 2024.
3.5 Mae cyflog gweithwyr sy'n gweithio o xxx delerau ac amodau Soulbury yn cael ei bennu gan Bwyllgor Soulbury. Does dim taliadau ychwanegol na thaliadau bonws ar gyfer y grŵp yma o weithwyr.
3.6 Mae'r Cyngor yn gwneud taliadau mewn perthynas â 'thâl gwyliau' a gafodd ei weithredu er mwyn sicrhau bod yr xxxx daliadau gwyliau i weithwyr yn cael eu gwneud yn unol â'r Gyfarwyddeb Oriau Gwaith.
3.7 Mae paragraff 4 isod yn ymdrin â phennu cyflogau sy'n dod o xxx gwmpas Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol ar gyfer Prif Weithredwyr a Phrif Swyddogion Awdurdodau Lleol.
3.8 O gyflwyno derbynebau ac yn unol â pholisi'r Cyngor ar gyfer talu costau teithio, lwfansau cynhaliaeth, a chostau adleoli, mae'r Cyngor yn talu costau teithio a lwfansau cynhaliaeth rhesymol ar ben cyflogau sylfaenol. Mae'r Cyngor yn gweithredu cynllun sengl sy'n berthnasol i'w xxxx weithwyr.
3.9 Mae'r xxxx lwfansau eraill sy’n gysylltiedig â chyflogau’n amodol ar gyfraddau a drafodir yn genedlaethol neu'n lleol. Mae'r rhain yn cael eu pennu x xxxx i'w gilydd yn unol â'r trefniadau sy’n ymwneud â chydfargeinio ac/neu fel y’u pennir gan Gyfansoddiad y Cyngor a'i Gynllun Dirprwyo. Wrth bennu ei strwythur graddio a gosod lefelau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer pob swydd, mae'r Cyngor yn ystyried yr angen i sicrhau gwerth am arian o ran defnyddio arian cyhoeddus, gan gydbwyso yn erbyn yr angen i recriwtio a chadw gweithwyr sy'n gallu bodloni gofynion darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'r gymuned, ac sy'n cael eu darparu yn effeithiol ac yn effeithlon ac ar yr adegau mae galw am y gwasanaethau hynny.
3.10 Mae'r prosesau ar gyfer talu unrhyw daliadau ychwanegol dros dro ar gyfer ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol yn cael eu gweithredu yn unol â pholisïau honoraria a secondiad sy'n berthnasol i xxxx weithwyr y Cyngor (gan gynnwys Prif Swyddogion).
3.11 Dydy'r Cyngor ddim yn gweithredu system taliadau sy'n gysylltiedig â chyflawniad ar gyfer unrhyw un o'i weithwyr (gan gynnwys Prif Swyddogion).
3.12 X xxxx i'w gilydd, xxx xxxxx ystyried y farchnad gyflog allanol drwy dalu taliad atodol ar sail y farchnad er mwyn xxxx a chadw gweithwyr sydd â phrofiad, sgiliau a gallu penodol. Lle xx xxxxx ystyried y farchnad gyflog, mae'r Cyngor wedi sicrhau bod hyn wedi'i gyfiawnhau'n wrthrychol, trwy gyfeirio at dystiolaeth o gymaryddion marchnad perthnasol, gan ddefnyddio
ffynonellau data priodol sydd ar gael o fewn ac xxxx xxxxx i’r sector llywodraeth leol.
4. Cydnabyddiaeth Ariannol Prif Swyddogion Diffiniad o Gydnabyddiaeth Prif Swyddog
4.1 At ddibenion y Datganiad yma, mae 'Prif Swyddogion' fel y’u diffinnir yn Adran 43 o'r Ddeddf. Dyma'r swyddi sy'n rhan o'r diffiniad statudol:
• Prif Weithredwr
• Dirprwy Brif Weithredwr / Cyfarwyddwr Cyfadran
• Cyfarwyddwyr
• Cyfarwyddwyr Gwasanaethau
• Penaethiaid Gwasanaethau
Swyddogaeth y Prif Weithredwr
4.2 Swyddogaeth y Prif Weithredwr, fel yr uwch swyddog, yw cynghori a chefnogi Cabinet y Cyngor i:
• Darparu arweinyddiaeth, gweledigaeth a chyfeiriad strategol;
• Datblygu polisïau strategol i gyflawni amcanion yr Awdurdod;
• Diffinio'r diwylliant corfforaethol a hyrwyddo gwerthoedd craidd;
• Sicrhau bod yr Awdurdod yn cyflawni ei rwymedigaethau statudol, yn ymarfer llywodraethu corfforaethol cadarn ac yn rheoli adnoddau'n effeithiol;
• Sicrhau bod cyflawniad yr Awdurdod yn cael xx xxxxx'n effeithiol.
4.3 Roedd gan Rondda Cynon Taf Gyllideb Refeniw Net gwerth £609.955 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 a rhaglen gyfalaf 3 blynedd (2023/24 i 2025/26) gwerth £314.750 miliwn (Adroddiad Cyflawniad Chwarter 2). Y Gyllideb Refeniw Net ar gyfer 2024/25 yw £631.795 miliwn a'r rhaglen gyfalaf 3 blynedd wedi'i diweddaru ar gyfer cyfnod 2024/25 i 2026/27 yw £165.630 miliwn. Mae'r Cyngor yn darparu ystod xxxx o wasanaethau ac yn cyflogi tua 10,583 o staff.
4.4 Yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf mae cyflog y Prif Weithredwr yn cael ei bennu gan feini prawf Cytundeb Tâl a Thelerau Cenedlaethol y Cyd-gyngor Trafod Telerau ar gyfer Prif Weithredwyr. Mae strwythur cyflogau'r Prif Swyddogion wedi'i seilio ar ganran o gyflog y Prif Weithredwr. Yn rhan o'r Gyfadran Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, xxx xxxx swyddi Penaethiaid Gwasanaeth yn cael eu talu ar lefel uwch graddfa gyflog Soulbury. I gael manylion am strwythur cyflogau'r Prif Swyddogion, cyfeiriwch at Adran 6 isod.
4.5 Rhaid i unrhyw newid i strwythur cyflog y Prif Weithredwr a'r Prif Swyddogion ar gyfer Cyngor Rhondda Cynon Taf gael ei bennu gan y Cabinet a'r Cyngor llawn yn ôl yr angen. Petai unrhyw newidiadau i xxxxx presennol y strwythur cyflog yn cael eu hystyried, yna byddai sylw dyledus yn cael ei roi i'r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Mae hyn yn cael ei drafod yn Adran 11 isod.
5. Recriwtio Prif Swyddogion
5.1 Xxx xxxxxx a gweithdrefnau recriwtio'r Cyngor wedi'u nodi yn rhan o Reolau Gweithdrefn Cyflogi Swyddogion yn rhan 4 o Gyfansoddiad y Cyngor.
5.2 Wrth recriwtio i xxx swydd, bydd y Cyngor yn rhoi ystyriaeth lawn a phriodol i'w bolisïau Cydraddoldeb, Recriwtio a Rheoli Newid.
5.3 Bydd y gydnabyddiaeth ariannol sydd yn cael ei chynnig i unrhyw brif swyddog sydd newydd ei benodi yn unol â'r strwythur cyflog a'r polisïau perthnasol ar waith ar adeg y penodi. Mae Llywodraeth Cymru yn argymell y dylid rhoi cyfle i'r Cyngor llawn bleidleisio ar becynnau cyflog o £100,000 ac uwch mewn perthynas â phenodiadau newydd.
5.4 Os dydy'r Cyngor ddim yn gallu recriwtio ar y raddfa sy wedi'i phennu, bydd e'n ystyried defnyddio ychwanegiadau'r farchnad yn unol â'i bolisïau perthnasol.
5.5 Os yw'r Cyngor yn parhau i fethu â recriwtio Prif Swyddogion o xxx gontract cyflogaeth, neu os oes angen cymorth dros dro i gyflenwi ar gyfer swydd wag barhaol Prif Swyddog, bydd y Cyngor, lle xx xxxxx, yn ystyried cyflogi unigolion o xxx 'gontractau ar gyfer y gwasanaeth'. Bydd yr unigolion yma yn cael eu penodi drwy broses gaffael berthnasol gan ofalu bod y Cyngor yn bodloni'i rwymedigaethau statudol a'i fod hefyd yn gallu dangos y gwerth gorau am arian ar gyfer y gwasanaeth perthnasol.
5.6 Does dim un o Brif Swyddogion y Cyngor wedi'i gyflogi o xxx y trefniant yma ar hyn x xxxx.
6. Ychwanegiadau at Gyflog Prif Swyddogion
6.1 Dydy'r Cyngor ddim yn talu unrhyw daliadau bonws, taliadau sy'n gysylltiedig â chyflawniad nac unrhyw fuddion eraill i'w Brif Swyddogion.
Manylion Cydnabyddiaeth Ariannol Prif Swyddogion
6.2 Mae'r Cyngor yn cyhoeddi manylion ei gyflogau mewn perthynas â swyddi sy'n tynnu cyflog o £60,000 o leiaf yn flynyddol yn ei Ddatganiad o Gyfrifon Blynyddol. Mae'n bwysig nodi, er bod swyddi Addysgu y tu xxxxx i gwmpas y Polisi Cyflogau yma, bydd unrhyw Athro y mae ei enillion dros y trothwy o
£60,000 yn dal i gael ei gofnodi yn Natganiad o Gyfrifon y Cyngor. Xxx xxxx
cael mynediad at Ddatganiad Blynyddol o Gyfrifon y Cyngor drwy'r ddolen ganlynol: -
xxxxx://xxx.xxxxxx.xxx.xx/XX/Xxxxxxx/XxxxxxxxxxxXxxxxxxxxxXxxxxxxx/Xxxx ementofAccounts.aspx
6.3 Rhaid i'r Cyngor benodi Swyddog Canlyniadau (Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Gwasanaethau Democrataidd ar hyn x xxxx). Xxx'r xxxx ffïoedd sy'n cael eu talu mewn perthynas â chyflawniad dyletswyddau'r Swyddog Canlyniadau yn cael eu pennu gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar gyfer etholiadau a gedwir yn ôl/Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar gyfer etholiadau datganoledig, a'u cyhoeddi yng Ngorchymyn Ffïoedd yr etholiad/refferenda perthnasol neu gan y Cyngor ei hun yn achos etholiadau'r Fwrdeistref Sirol. Mae manylion unrhyw ffioedd sy'n cael eu talu yn cael eu nodi yn y Datganiad o Gyfrifon Blynyddol y Cyngor. Mae'r Cyngor wedi penderfynu fydd dim ffioedd yn daladwy i'r swyddog canlyniadau am ddyletswyddau sy'n gysylltiedig ag ymgymryd ag etholiadau'r Fwrdeistref Sirol.
7. Taliadau Diswyddo
7.1 Xxx xxxx y Cyngor o drin taliadau statudol a dewisol pan derfynir cyflogaeth cyn cyrraedd yr oed ymddeol arferol, yn gymwys i xxx aelod o staff, gan gynnwys Prif Swyddogion ac wedi'i nodi yn ei Ddatganiad yn unol â Rheoliad 6 o Reoliadau Llywodraeth Leol (Terfynu Cyflogaeth yn Gynnar) (Digolledu Dewisol) 2006 a Rheoliadau 30(6), 30(7) a 30(8) o Reoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013.
7.2 Mae ceisiadau'n cael eu gwneud o xxx y cynlluniau yma'n unol â Chyfansoddiad y Cyngor a'i Gynllun Dirprwyo ac maen nhw'n cael eu cytuno gan Banel Ymddeol yn Gynnar o Wirfodd y Cyngor (a'r Cyngor llawn os oes angen). Bydd pob cais i ymddeol yn gynnar yn cael ei ystyried mewn modd diduedd. Bydd y cynlluniau yn berthnasol i'r grwpiau canlynol o weithwyr:
• Cyd-gyngor Trafod Telerau ar gyfer Prif Weithredwyr
• Cyd-gyngor Trafod Telerau ar gyfer Prif Swyddogion
• Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol
• Staff sy'n cael eu cyflogi o xxx amodau a thelerau Soulbury
7.3 Gwneir taliadau diswyddo yn unol â Gorchymyn Taliadau Dileu Swydd (Xxxxxx Cyflogaeth mewn Llywodraeth Leol) (Addasiad) 1999, at ddibenion gwasanaeth di-dor, fel y mae unrhyw ail-gyflogaeth sy wedi'i datgan gan gorff sy'n dod o xxx y Gorchymyn Addasu.
7.4 Mae Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai'r Cyngor llawn gael y cyfle i bleidleisio ar gymeradwyo pecynnau diswyddo o £100,000 ac uwch i brif swyddogion sy'n gadael y sefydliad. Yn Rhondda Cynon Taf, bydd unrhyw becyn diswyddo o'r fath yn cael ei ystyried yn gyntaf gan y Panel Ymddeol yn Gynnar o Wirfodd. Bydd y Panel yma'n gwneud argymhelliad i'r Cyngor llawn
ynglŷn ag a ddylai'r Cyngor gytuno ar becyn diswyddo penodol ai peidio. Yn dilyn ystyriaeth gan y Cyngor llawn, bydd pleidlais yn cael ei chynnal ynghylch a ddylid cytuno ar y pecyn diswyddo.
7.5 Serch hynny, rhaid i Aelodau fod yn effro i hawliau cytundebol neu statudol gweithiwr a chanlyniadau posibl i'r Cyngor o beidio â chymeradwyo pecynnau a fyddai yn galluogi'r gweithiwr i hawlio iawndal am xxxxx contract.
Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai'r elfennau canlynol o becyn diswyddo gael eu cynnwys ar gyfer Prif Swyddogion wrth benderfynu a yw'r pecyn yn fwy na £100 mil:
(i) cyflog wedi'i dalu yn lle rhywbeth;
(ii) taliad diswyddo;
(iii) cost i'r awdurdod o'r straen ar y gronfa bensiwn.
7.6 Bydd unrhyw daliadau eraill sydd heb eu cynnwys o xxx y darpariaethau neu'r cyfnodau perthnasol o rybudd cytundebol yn cael eu pennu yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor a'i Gynllun Dirprwyo.
8. Ailgyflogi
8.1 Fydd y Cyngor ddim yn ail-gyflogi unrhyw swyddog xxxxx fel gweithiwr, gweithiwr asiantaeth neu ymgynghorydd, os ydy'r swyddog hwnnw wedi derbyn telerau neu daliadau diswyddo ychwanegol a oedd yn rhan o'r pecyn ymddeol yn gynnar. Bydd y swyddogion hynny sydd ddim o oedran ymddeol ac sy wedi derbyn taliad diswyddo ychwanegol yn rhan o'u pecyn diswyddo gwirfoddol yn cael eu hatal rhag cael eu cyflogi'n uniongyrchol, neu drwy asiantaeth neu yn ymgynghorydd am gyfnod o ddwy flynedd o ddyddiad terfynu'u cyflogaeth.
9. Cyhoeddi
9.1 Pan fydd y Cyngor llawn wedi'i gymeradwyo, bydd y Datganiad yma'n cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.
10. Perthynoledd Cyflogau
10.1 Mae'r gweithwyr ar y cyflogau isaf sy'n cael eu cyflogi gan y Cyngor yn cael eu cyflogi ar Raddfa 1 strwythur cyflog a graddio'r Cyngor.
10.2 Mae'r berthynas rhwng cyfradd cyflogau’r rheiny sydd ar y cyflogau isaf a chyflogau’r Prif Swyddogion yn cael ei phennu gan y prosesau sy'n cael eu defnyddio i bennu’r strwythurau cyflogau a graddio, fel sy'n cael ei nodi yn y Datganiad yma.
10.3 Yn unol â gofynion adran 38(2) o'r Ddeddf, mae'n ofynnol i'r Datganiad yma ddatgan y berthynas rhwng cyflog Prif Swyddogion a'i weithwyr sydd ddim yn Brif Swyddogion.
10.4 Mae'r canllawiau statudol sydd wedi'u cyhoeddi gan Weinidogion Cymru o xxx Xxxxx 40(2) o'r Ddeddf yn argymell defnyddio lluosrifau tâl fel ffordd o fesur y berthynas rhwng cyfraddau cyflogau ar draws y gweithlu â thâl yr uwch reolwyr, yn unol ag Adroddiad Xxxxxx 'Review of Fair Pay in the Public Sector' (2010).
10.5 Roedd adolygiad Xxxxxx yn argymell cyhoeddi'r lluosrifau tâl - y gymhareb rhwng y cyflog uchaf a'r enillion canolrifol ar gyfartaledd ar draws sefydliad, fel ffordd o ddangos y berthynas honno, a daeth i'r casgliad mai'r mesur mwyaf perthnasol ar gyfer yr enillion canolrifol fyddai enillion cyfwerth ag amser llawn yr xxxx weithwyr sy'n cael eu cyflogi.
10.6 Yn unol ag argymhelliad adroddiad Xxxxxx, y gymhareb rhwng cyflog y Prif Weithredwr ac enillion canolrifol y gweithlu gan ddefnyddio lefelau cyflog presennol y Cyngor yw 1:6.
10.7 Er does dim gofyniad cyfreithiol yng Nghymru i wneud hynny, er mwyn tryloywder ac ecwiti caiff ei ystyried yn arfer da i adrodd ar y bwlch cyflog rhywedd. Gan ddefnyddio'r dull cyfrifo wedi'i argymell, y bwlch cyflog cyfun yn Rhondda Cynon Taf ar hyn o xxxx xx 8.1%.
11. Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol
11.1 Yn unol ag Adran 143A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, mae gyda Xxxxxx Xxxxxxxxxx Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (“yr IRP”) bwerau i wneud argymhellion mewn perthynas ag unrhyw xxxxxx xx'n xxxx o Ddatganiad ar Bolisi Cyflogau'r Awdurdod sy’n ymwneud â chyflog y Prif Weithredwr.
11.2 Os yw'r Cyngor yn bwriadu newid gwerth cyflog y Prif Weithredwr (ac eithrio newid sydd yn gymesur i newid cyffredinol sy'n effeithio ar y staff eraill), yna mae'r Cyngor yn gorfod ymgynghori â'r panel annibynnol am y newid arfaethedig. Yna, mae'n ofynnol i'r Cyngor ystyried argymhellion y Panel ar y cynnig.
12. Atebolrwydd a Dod i Benderfyniadau
12.1 Mae Cyfansoddiad y Cyngor a'i Gynllun Dirprwyo yn nodi'r weithdrefn ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn perthynas â recriwtio, cyflogau, telerau ac amodau a threfniadau diswyddo mewn perthynas â xxxx weithwyr y Cyngor.
13. Adolygu'r Polisi
13.1 Bydd y Datganiad ar Bolisi Cyflogau yma'n cael ei adolygu’n barhaus, gan ystyried datblygiadau yng ngoleuni arferion gorau allanol a deddfwriaeth. Bydd y Cyngor yn sicrhau bod y Datganiad ar Bolisi Cyflogau'n cael ei
ddiweddaru’n flynyddol yn unol â gofynion Deddf Lleoliaeth 2011. Bydd y Datganiad ar Bolisi Cyflogau blynyddol yn cael ei osod ger bron y Cyngor llawn xxx blwyddyn i'w gymeradwyo.