Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Safonau ac Ymchwil Math o Gontract: Parhaol, llawn amser
Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Safonau ac Ymchwil Math o Gontract: Parhaol, llawn amser
Cyflog: £75,975 - £79,878 y flwyddyn (gradd 17)
Oherwydd cynnydd mewnol llwyddiannus, hoffai CBAC benodi Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Safonau ac Ymchwil newydd i arwain yr adran Safonau ac Ymchwil yn strategol. Bydd hyn yn ymwneud â'r xxxx faterion sy'n berthnasol i brosesau dyfarnu, gwaith technegol yn ymwneud â gosod a chynnal safonau cymwysterau, adrodd ar ddata ac ystadegau i reoleiddwyr, a gwaith ymchwil sy'n gysylltiedig ag asesu.
Fel xxxxx dyfarnu mwyaf Cymru, mae CBAC yn darparu cymwysterau dwyieithog ac asesiadau dibynadwy a chefnogaeth arbenigol uniongyrchol i ysgolion a cholegau ar draws y wlad. Gyda thros 70 mlynedd o brofiad, rydym hefyd ymhlith y prif ddarparwyr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Y Cyfarwyddwr Cynorthwyol fydd yn arwain y gwaith o strwythuro a gweithredu prosesau a threfniadau rheoli ansawdd sy'n ymwneud â dyfarnu. Hefyd, bydd yn cyfrannu at y trefniadau ar gyfer cyflwyno asesiadau, gan gynnwys marcio, safoni'r marcio, dyfarnu a chyhoeddi canlyniadau, cefnogi ein cymunedau addysg drwy ddarparu cymwysterau dibynadwy, er mwyn rhoi'r cyfle i ddysgwyr gyrraedd eu potensial llawn.
Yr unigolyn hwn fydd yn atebol am ddylunio a gweithredu rhaglen o weithgaredd ymchwil ac ystadegol. Bydd hyn yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu cymwysterau, dylunio a chyflwyno asesiadau a dyfarnu a safonau. Y nod yw adeiladu ar a datblygu enw da CBAC fel brand fel arweinwyr agweddau yn y byd addysg. Arwain agweddau a rhoi cyfeiriad i ddyfarnu ac ymchwil y dyfodol, er mwyn arloesi, trawsnewid a datblygu'r xxxxx i fodloni anghenion cwsmeriaid y dyfodol a disgwyliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn meddu ar brofiad o weithio mewn rôl arwain a rheoli gyda chefndir dadansoddi data/ymchwil. Byddan nhw'n xxxxx xxx-destun a threfniadaeth addysg yng Nghymru a Lloegr ac yn meddu ar y gallu i arwain agweddau a rhoi cyfeiriad ar ddyfodol dyfarnu ac ymchwil er mwyn arloesi. Byddai'n ddymunol cael dealltwriaeth gyflawn o systemau, prosesau a llinellau amser y rheoleiddwyr ar gyfer Cyrff Dyfarnu.
Yn CBAC, rydym yn xxxxx o fod yn lle cynhwysol a chefnogol i weithio. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fuddion ardderchog, gan gynnwys: 25 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag 16 o wyliau statudol / ychwanegol, cynllun pensiwn cystadleuol a nifer o bolisïau sy'n ystyriol o deuluoedd.
Ewch i'n gwefan i lwytho copi o'r disgrifiad swydd a ffurflen gais i xxxx.
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 27 Mehefin 2023
Teitl y swydd | Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Safonau ac Ymchwil | |
Adran: | Cymwysterau ac Asesu | |
Isadran: | Safonau ac Ymchwil | |
Yn atebol i: | Cyfarwyddwr Cymwysterau ac Asesu | |
Gradd: | 17 | |
Lleoliad: | Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd – Hybrid | |
Prif ddiben y swydd: |
DISGRIFIAD SWYDD
Arwain yr adran Safonau ac Ymchwil yn strategol ar yr xxxx faterion yn ymwneud â phrosesau dyfarnu, gwaith technegol yn ymwneud â safonau, adrodd wrth y rheoleiddwyr ddata ac ystadegau yn unol â'u gofynion, ac ymchwil sy'n gysylltiedig ag asesu, a gosod a chynnal safonau cymwysterau.
Arwain y gwaith o strwythuro a gweithredu prosesau a threfniadau rheoli ansawdd sy'n ymwneud â dyfarnu a chyfrannu at drefniadau ar gyfer cyflwyno asesiadau, gan gynnwys marcio, safoni'r marcio, dyfarnu a chyhoeddi canlyniadau, cefnogi ein cymunedau addysg drwy ddarparu cymwysterau dibynadwy, er mwyn rhoi'r cyfle i ddysgwyr gyrraedd eu potensial llawn. Arwain y gwaith o ddylunio dull CBAC o osod a chynnal safonau ar draws ein cymwysterau, gweithio gyda rheoleiddwyr, cyrff dyfarnu eraill a staff CBAC.
Bod yn atebol am ddylunio a gweithredu rhaglen o weithgaredd ymchwil ac ystadegol sy'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu cymwysterau, dylunio a chyflwyno asesiadau a dyfarnu a safonau, er mwyn adeiladu a datblygu enw da brand CBAC fel arweinwyr agweddau yn y byd addysg. Arwain agweddau a rhoi cyfeiriad i ddyfarnu ac ymchwil y dyfodol, er mwyn arloesi, trawsnewid a datblygu'r xxxxx i fodloni anghenion cwsmeriaid y dyfodol a disgwyliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch.
Meithrin ac arwain yr isadran Xxxxxxx ac Ymchwil i fodloni amcanion y gyfarwyddiaeth a datblygu diwylliant sy'n uchel ei gyflawniad ac yn ymgysylltiol.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:
Dyfarnu a Safonau
• Arwain yn strategol ar ymrwymiad CBAC ar faterion technegol ac ystadegol sy'n berthnasol i fentrau'r rheoleiddwyr yn ymwneud â gosod a chynnal safonau cymwysterau, gan gynnwys yng nghyd-destun diwygio cymwysterau.
• Arwain y gwaith o ddatblygu gallu CBAC i ddefnyddio data cyn dyfarnu ac ar ôl dyfarnu i ddeall nodweddion allweddol y garfan, nodweddion yr arholiad ac i nodi canlyniadau annisgwyl ar gyfer ysgolion/colegau ac ar gyfer arholwyr, gan gynnwys y rhaglen ar ôl yr arholiad o ddadansoddi swyddogaeth asesiadau a'u gwella.
• Sicrhau bod yr xxxx dimau perthnasol yn CBAC yn ymwybodol o safonau rheoleiddiol y mae'n rhaid cydymffurfio â nhw mewn perthynas â phrosesau dyfarnu.
• Sicrhau bod y deunyddiau ystadegol a thechnegol y mae eu xxxxxx i ddyfarnu yn unol â chynlluniau CBAC a gofynion y rheoleiddwyr yn cael eu cynhyrchu ac yn mynd drwy broses sicrhau ansawdd lawn.
Adrodd yn ôl i'r rheoleiddwyr
• Sicrhau bod casgliadau data ar gyfer y rheoleiddwyr yn cael eu cynhyrchu, yn mynd drwy broses sicrhau ansawdd ac yn cael eu cyflwyno ar amser ac yn unol â gofynion y rheoleiddwyr (Xxxx B4).
• Cynrychioli CBAC mewn cyfarfodydd y CGC a'r rheoleiddwyr sy'n ymwneud â rhannu ac adrodd am ddata.
Ymchwil
• Gweithredu fel uwch arweinydd ar gyfer contractau allanol a/neu gytundebau gwasanaeth sy'n berthnasol i ymchwil
• Mynd ati'n rhagweithiol i ymgysylltu a dylanwadu ar randdeiliaid allweddol, y rheoleiddwyr, adrannau'r llywodraeth a chyrff dyfarnu eraill yn benodol. Mae hyn yn ymwneud â materion yn ymwneud â safonau cymwysterau ac asesu, ac ymchwil.
• Cefnogi, arwain a meithrin diwylliant o gydweithio ac arloesi ar draws y Gyfarwyddiaeth Cymwysterau ac Asesu a'r xxxxx yn ehangach, fel bod ein cwsmeriaid yn cael atebion o safon uchel.
• Arwain agweddau a rhoi cyfeiriad, gan ddatblygu a chyflawni rhaglenni ymchwil, ar ddyfodol dyfarnu ac asesu, Gwneud hynny er mwyn arloesi, trawsnewid a datblygu cynhyrchion a gwasanaethau'r xxxxx i fodloni gofynion cwsmeriaid y dyfodol a disgwyliadau Addysg Bellach ac Uwch.
• Bod yn gyfrifol am gyllideb canolfannau cost diffiniedig fel y cytunwyd â’r Cyfarwyddwr Cymwysterau ac Asesu.
• Cynrychioli CBAC ar bwyllgorau a gweithgorau CGC perthnasol i sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gweithredu o fewn CBAC.
Dyletswyddau Corfforaethol
• Chi fydd yn arwain, yn cymell ac yn ysbrydoli datblygiad staff er mwyn galluogi cyflwyno cynlluniau busnes; hyfforddi a mentora eraill i feithrin xxxx a chynyddu gallu
• Byddwch chi'n fodel rôl amlwg ac ysbrydoledig, ac yn atgyfnerthu gwerthoedd craidd y xxxxx
• Byddwch chi'n gyfarwydd â'r xxxx bolisïau a gweithdrefnau cwmni perthnasol, gan sicrhau bod aelodau'r xxx wedi derbyn gwybodaeth am a hyfforddiant ar yr xxxx weithdrefnau a pholisïau a'u bod yn cydymffurfio â nhw.
• O dro i dro byddwch chi'n ymgymryd â dyletswyddau ar lefel debyg yn ôl y gofyn, gan gynnwys bod yn ddirprwy i'r Cyfarwyddwr Cymwysterau ac Asesu.
Manyleb y Person
Teitl y swydd: | Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau ac Ymchwil) |
Adran: | Cymwysterau ac Asesu |
Meini prawf hynod ddymunol yw’r sgiliau a’r profiad gorau posibl a fydd gan yr ymgeisydd yn ddelfrydol. Meini prawf dymunol yw’r rhai a fyddai’n ychwanegu gwerth at y swydd os ydynt ar gael, gan gynnwys hefyd potensial am dwf a datblygiad yn y rôl.
Sgiliau a Galluoedd
Hynod Ddymunol
• Yn gallu arwain, ymgysylltu ac ysbrydoli'n effeithiol, gan annog cydweithio ar draws y gyfarwyddiaeth Cymwysterau ac Asesu a'r xxxxx yn ehangach
• Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol
• Y gallu i gyflwyno, dadansoddi a dehongli data
• Yn gallu ymgysylltu a chyfathrebu'n rhagweithiol â rhanddeiliaid allweddol a gwneuthurwyr polisi, gan ddangos sgiliau dylanwadu a thrafod effeithiol
• Y gallu i arwain agweddau a rhoi cyfeiriad ar ddyfodol dyfarnu ac ymchwil er mwyn arloesi
• Sgiliau rheoli project, a'r gallu i reoli sawl project ar unwaith
• Xxxxx yn wleidyddol, gydag urddas a hygrededd proffesiynol i ennyn xxxxx a chreu perthnasoedd llwyddiannus
• Arloesi wrth ddatrys problemau sy'n effeithio'n strategol
Dymunol
• Gallu cymhwyso egwyddorion asesu a gosod safonau'n briodol i fodloni gofynion polisi a rheoleiddiol
• Y gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwybodaeth
Hynod Ddymunol
• Gwybodaeth drylwyr am fethodolegau ymchwil ac ystadegol
• Dealltwriaeth o gyd-destun a threfniant addysg yng Nghymru.
• Gwybodaeth gynhwysfawr am strategaethau rheoli risg
• Dealltwriaeth o egwyddorion rheoli project a rheoli ansawdd
• Gwybodaeth am ddulliau ac egwyddorion gwahanol o osod safonau
Dymunol
• Gwybodaeth am reoli a dadansoddi ariannol.
• Dealltwriaeth o faterion contractiol.
• Dealltwriaeth gyflawn o systemau, prosesau a llinellau amser y rheoleiddwyr ar gyfer Cyrff Dyfarnu
Profiad
Hynod Ddymunol
• Profiad o rôl xxxxxx a rheoli, gyda chefndir mewn dadansoddi data/ymchwil
• Profiad o reoli sawl project ar unwaith
• Profiad o ffurfio a chynnal partneriaethau a pherthnasoedd strategol llwyddiannus.
• Profiad o fonitro a gwerthuso gweithdrefnau.
Dymunol
• Profiad o reoli cyllidebau a chynllunio busnes
Hyfforddiant / Cymwysterau
Hynod Ddymunol
• Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus perthnasol
Dymunol
• Tystiolaeth o Arweinyddiaeth a Datblygu Rheolaeth perthnasol
• Cymhwyster gradd (gyda dulliau meintiol priodol).
Telerau ac Amodau Gwasanaeth | Terms and Conditions of Service | |||
Teitl y Swydd: Job Title: | Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau ac Ymchwil) | |||
Cyflog: Salary: | £75,975 - £79,878 yr flywddyn | Gradd: Grade: | 17 | |
Gwyliau Blynyddol: Annual Leave: | 25 Diwrnod y flwyddyn. Mae CBAC yn caniatáu 16 o ddyddiau statudol/ychwanegol o wyliau yn ogystal ar hyn x xxxx. 25 Days per annum. In addition, the WJEC currently allows 16 statutory / additional holidays | |||
Pensiwn: Pension: | Gweithredir darpariaeth y Ddeddf Bensiwn Llywodraeth Leol The provision of the Local Government Superannuation Act apply | |||
Math o Gytundeb: | Contract Type: | |||
Llawn-amser / Full Time | ||||
Rhan-amser / Part Time | Nifer yr oriau yr wythnos No of hrs per week | |||
Llawn-amser Xxxxx Xxxxxxxxxx / Full Time Limited Term | Diwedd y Tymor End of Term | |||
Rhan-amser Xxxxx Xxxxxxxxxx / Part Time Limited Term | Diwedd y Tymor End of Term | |||
Nifer yr oriau yr wythnos No of hrs per week | 36.5 | |||
Dull Ymgeisio: | Method of Application: | |||
Dylid anfon ffurflenni wedi’u llenwi ar e-xxxx at xx@xxxx.xx.xx Completed forms should be sent by email to xx@xxxx.xx.xx |