Arweiniad statudol
Arweiniad statudol
Cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig wedi ei benodi gan y llys Adran 1 - Cyflwyniad
1. Cyflwyniad
1.1. Xxxx sydd yn yr Arweiniad hwn?
1.2. Rhestr Termau
1.3. Deddfwriaeth
1.4. Cefndir o ran Polisïau
1.4.1. Gwahardd croesholi droso'i hun
1.4.2. Diogelu gweithdrefnol
Adran 2 - Rôl y Cynrychiolydd Cyfreithiol Cymwysedig
2. Cynrychiolydd Cyfreithiol Cymwysedig a Benodir gan y Llys: Cylch Gwaith a Chyfrifoldebau
2.1. Diben y Rôl
2.2. Cymhwysedd
2.3. Penodi'r Cynrychiolydd Cyfreithiol Cymwysedig gan y Llys
2.3.1. Hyd y Penodiad
2.3.2. Gwrthod a Therfynu Penodiadau
3. Dyletswyddau a chyfrifoldebau
3.1. Defnyddio'r Prawf Hanfod ac Effaith Arwyddocaol o'r Cychwyn
3.2. Adolygu'r Bwndel
3.3. Gweithio gyda'r Llys a'r Partïon Gwaharddedig
3.4. Presenoldeb yn y Llys
3.5. Xxxxxx y Croesholiad
4. Terfynu Penodiad y Cynrychiolydd Cyfreithiol Cymwysedig a Benodir gan y Llys
5. Arweiniad Pellach
5.1. Gwneud Cais i fod ar y Rhestr Llys a Chofrestru ar gyfer Gwaith
5.2. Tâl i Gynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwysedig a Benodir gan y Llys a Chofrestriad â'r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol
Adran 1 – Cyflwyniad
1. Cyflwyniad
1.1 Xxxx sydd yn yr Arweiniad hwn?
Mae'r Arglwydd Ganghellor wedi cyhoeddi'r arweiniad statudol hwn am rôl cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig a benodir gan y llys o xxx xxxxx 31W(6) Deddf Achosion Priodasol a Theuluol 1984 (neu Ddeddf 1984) ac adran 85K(6) Deddf Llysoedd 2003 (Deddf 2003).
Cyhoeddwyd yr arweiniad hwn yn unol â grymoedd yr Arglwydd Ganghellor o xxx xxxxx 31Y(1) Deddf 1984 ac adran 85M(1) Deddf 2003. Bydd yr arweiniad hwn yn berthnasol ymhob achos teulu a sifil lle penodir cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig gan y llys, ac mae'n rhaid i gynrychiolwyr o'r fath ystyried ei ddarpariaethau yn unol ag adran 31Y(2) Deddf 1984 ac adran 85M(2) Deddf 2003. Mae'r darpariaethau yn Neddf 1984 y cyfeirir atynt yn yr arweiniad hwn yn ymwneud ag achosion teulu ac mae'r rheiny yn Neddf 2003 yn ymwneud ag achosion sifil, ond mae rôl y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yr un fath yn y ddau awdurdod llys.
O xxx Xxxxx 4B Deddf 1984 ac Adran 7A Deddf 2003, gwaherddir cyflawnwyr camdriniaeth neu gyflawnwyr camdriniaeth honedig a dioddefwyr neu ddioddefwyr honedig camdriniaeth rhag croesholi ei gilydd eu hunain mewn achosion teulu a sifil, xxx amgylchiadau penodol cyfyngedig. Os yw meini prawf penodol wedi eu cyflawni, gall y llys benodi un neu fwy o gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig i wneud y croesholi yn lle'r cyflawnwr neu'r cyflawnwr honedig neu yn lle'r dioddefwr neu'r dioddefwr honedig. Mae rôl y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig, fel y mae wedi ei nodi yn Neddf 1984 a Deddf 2003, yn hynod o wahanol i rôl cyfreithiwr sydd wedi ei gyfarwyddo gan xxxxx xx sy'n gweithredu yn amodol ar gyfyngiadau penodol. Nod y ddogfen hon yw rhoi arweiniad am y rôl, yn cynnwys arweiniad am y ffaith nad yw'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yn gyfrifol i'r parti gwaharddedig. Mae'r ddogfen hon hefyd yn rhoi arweiniad am y ffordd y bydd y rôl yn gweithredu'n ymarferol.
Er bod yn rhaid i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig a benodir gan y llys ystyried y canllawiau hyn, nid yw'r arweiniad yn ceisio gwahardd gallu'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig rhag defnyddio ei feirniadaeth broffesiynol. Ond, mae'n nodi'r egwyddorion a'r cyfyngiadau sy'n unigryw i'r rôl statudol hon ac y mae'n rhaid eu hadlewyrchu yng ngweithredoedd a phenderfyniadau'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig.
Bydd yr arweiniad hefyd yn helpu i esbonio rôl y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yn glir xx xxxx y llys, y partïon a'u cynrychiolwyr mewn achosion lle gallai cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig gael ei benodi gan y llys, neu lle mae wedi ei benodi gan y llys.
1.2 Rhestr Termau
Defnyddir y termau allweddol dilynol drwy'r arweiniad cyfan hwn.
Deddf 1984 | Deddf Achosion Priodasol a Theuluol 1984 |
Deddf 1999 | Deddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol 1999 |
Deddf 2003 | Deddf y Llysoedd 2003 |
Deddf 2021 | Deddf Cam-drin Domestig 2021 |
Achosion sifil | Fel y maent wedi eu diffinio yn adran 85(E) Deddf 2003: (a) achosion yn y llys sirol; (b) achosion yn yr Uchel Lys, ac eithrio: (i) achosion yn Adran Deulu yr Uchel Lys sydd wedi eu haseinio i fusnes, gan neu o xxx xxxxx 61 o (ac Atodlen 1 o) Ddeddf Uwchlysoedd 1981, i'r adran honno yn yr Uchel Lys a neb arall, ac (ii) achosion wrth arfer ei awdurdodaeth o xxx Ddeddf Estraddodi 2003; ac (c) achosion yn adran sifil y Llys Xxxx xx'n codi o'r achosion sifil o fewn paragraff (a) neu (b) |
ECHR | Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Sifil |
Achosion teulu | Fel y maent wedi eu diffinio yn adran 31Q Deddf 1984: (a) achosion yn y llys teulu; (b) achosion yn Adran Deulu yr Uchel Lys sydd wedi eu haseinio i fusnes, gan neu o xxx xxxxx 61 (ac Atodlen 1) Deddf Uwchlysoedd 1981, i'r adran honno yn yr Uchel Lys a neb arall, ac (c) achosion yn adran sifil y Llys Xxxx xx'n xxxx xxxxx o'r achosion ym mharagraff (a) neu (b) |
Cyflawnwr | Yn cynnwys cyflawnwyr a chyflawnwyr honedig |
Parti Gwaharddedig | Mewn achosion teulu, y parti sydd wedi ei wahardd rhag croesholi'r tyst/ion droso'i hun drwy gyfrwng: • unrhyw rai o adrannau 31R, 31S, neu 31T Deddf 1984; neu • cyfarwyddyd llys a roddir o xxx xxxxx 31U(1) Deddf 1984. Mewn achosion sifil, y parti a waherddir rhag croesholi'r tyst/ion droso'i hun drwy gyfrwng: • unrhyw rai o adrannau 85F, 85G, neu 85H Deddf 2003; neu • gyfarwyddyd llys a roddir o xxx xxxxx 85I(1) Deddf 2003. |
Cynrychiolydd Cyfreithiol Cymwysedig | Fel y mae wedi ei ddiffinio yn adran 31W(8)(b) Deddf 1984 ac adran 85K(8)(b) Deddf 2003: rhywun sydd, at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007, yn xxxxxx awdurdodedig mewn perthynas â gweithgaredd sy'n gyfatebol xx xxxxx hawl cynulleidfa (o fewn yr ystyr a roddir gan y Ddeddf honno) mewn achosion teulu a sifil, yn y drefn honno |
Dioddefwr | Yn cynnwys dioddefwyr a dioddefwyr honedig |
Tyst | Mae "Tyst", mewn perthynas ag unrhyw achosion, yn cynnwys rhywun sy'n xxxxx i'r achosion fel y maent wedi eu diffinio yn adran 31Q Deddf 1984 ac adran 85E Deddf 2003 |
1.3 Deddfwiaeth Achosion Teulu a Sifil
Xxx Xxxxx 65 Deddf 2021 yn mewnosod Adran 4B newydd i mewn i Ddeddf 1984. Xxx Xxxxx 4B yn gwahardd cyflawnwyr camdriniaeth neu gyflawnwyr camdriniaeth honedig rhag croesholi eu dioddefwyr1 neu ddioddefwyr honedig eu hunain mewn achosion teulu. Mae'r gwaharddiad (lle mae'n awtomatig) yn digwydd y ffordd arall hefyd, i xxxx dioddefwr rhag gorfod croesholi ei gamdriniwr neu gamdriniwr honedig.
Xxx Xxxxx 66 Deddf 2021 yn mewnosod Adran 7A newydd i Ddeddf 2003 sy'n gwneud darpariaeth debyg mewn achosion sifil.
Mae'r gwaharddiadau rhag croesholi droso'i hun yn Adran 4B ac Adran 7A yn berthnasol yn awtomatig yn y sefyllfaoedd dilynol:
• Mewn achosion teulu, lle mae parti wedi derbyn rhybudd am, wedi ei gyhuddo o neu ei euogfarnu am drosedd benodol yn erbyn y dioddefwr neu'r dioddefwr honedig, nid ydynt yn gallu croesholi ddioddefwr neu ddioddefwr honedig y drosedd honno eu hunain a vice versa (hynny yw, os yw'r dioddefwr neu'r dioddefwr honedig yn xxxxx hefyd, ni allent groesholi'r cyflawnwr eu hunain) (adran 31R Deddf 1984);
• Mewn achosion sifil, lle mae parti wedi derbyn rhybuddiad am, neu eu heuogfarnu am drosedd benodol ni allent groesholi dioddefwr y drosedd honno eu hunain, a vice versa
1 Rydym wedi defnyddio'r term "dioddefwr" drwy'r arweiniad cyfan hwn i gyfeirio at rywun sydd wedi dioddef camdriniaeth. Mae Adrannau 31R a 31T Deddf 1984 ac adrannau 85F ac 85H Deddf 2003 yn cyfeirio at "ddioddefwr". Rydym yn cydnabod bod yn well gan rai pobl dermau gwahanol.
(hynny yw, os yw'r dioddefwr hefyd yn xxxxx, ni allent groesholi'r cyflawnwr eu hunain) (adran 85F Deddf 2003);
• Mewn achosion teulu neu sifil, ni chaiff unrhyw xxxxx i'r achosion y mae gwaharddiad diogelu ar rybudd mewn grym yn eu herbyn fynd ati ei hun i groesholi tyst sydd wedi ei ddiogelu gan y gwaharddiad a vice versa (hynny yw, ni all unrhyw xxxxx i'r achosion sydd wedi ei amddiffyn gan waharddiad diogelu ar rybudd fynd ati ei hun i groesholi tyst y mae'r gwaharddiad mewn grym yn ei erbyn) (adran 31S Deddf 1984 ac adran 85G Deddf 2003); neu
• Mewn achosion teulu neu sifil lle mae tystiolaeth benodol yn cael ei nodi bod rhywun sy'n dyst wedi dioddef camdriniaeth ddomestig a wnaed gan xxxxx i'r achosion, ni all y parti hwnnw i'r achosion groesholi'r tyst ei hun, a vice versa (hynny yw, lle mae tystiolaeth benodol wedi ei nodi bod rhywun sy'n xxxxx i'r achosion wedi dioddef camdriniaeth ddomestig a wnaed gan dyst, ni all y parti hwnnw groesholi'r tyst ei hun (adran 31T Deddf 1984 ac adran 85H Deddf 2003).
Mae'r rhestrau o droseddau penodol, gwaharddiadau diogelu a thystiolaeth benodol wedi eu nodi yn Rheoliadau Gwahardd Croesholi Droso'i Hun (Achosion Sifil a Theuluol) 20222.
Os nad yw unrhyw rai o'r gwaharddiadau awtomatig sydd wedi eu nodi uchod yn berthnasol, xxx xxx y llys y grym i gyfarwyddo bod parti'n cael ei wahardd rhag gwneud y croesholi ei hun lle mae'n ymddangos i'r llys y byddai caniatáu iddo wneud y croesholi ei hun yn debygol o effeithio ar ansawdd tystiolaeth y tyst neu'n debygol o achosi trallod sylweddol xxxxx xx i'r parti neu i'r tyst ac na fyddai'n mynd yn erbyn buddiannau cyfiawnder i roi cyfarwyddyd o'r fath. Mae hwn yn ddisgresiwn llydan a gallai fod yn berthnasol, er enghraifft, mewn sefyllfaoedd lle honnir bod camdriniaeth ddomestig wedi digwydd, ond nid yw'r honiadau'n sbarduno unrhyw waharddiadau awtomatig, lle mae'n rhaid i ymgyfreithwyr sy'n eu cynrychioli eu hunain groesholi tystion arbenigol, neu am resymau heblaw camdriniaeth ddomestig Mae'n rhaid i'r llys nodi ei resymau dros roi cyfarwyddyd, gwrthod cais am gyfarwyddyd, dirymu cyfarwyddyd a roddir neu wrthod cais i ddirymu cyfarwyddyd (adran 31V(4) Deddf 1984 ac adran 85J(4) Deddf 2003).
Cyflawnir yr “xxxx am ansawdd” os yw ansawdd y dystiolaeth a roddir gan y tyst wrth gael ei groesholi:
• yn debygol o gael ei ostwng os yw'r croesholi (neu'r croesholi parhaus) yn cael ei wneud gan y parti ei hun, ac
• yn debygol o gael ei wella os byddai'r llys yn rhoi'r cyfarwyddyd.
Cyflawnir yr “xxxx trallod arwyddocaol" os:
2 Rheoliadau Gwahardd Croesholi Droso'i Hun (Achosion Sifil a Theuluol) 2022 (xxxxxxxxxxx.xxx.xx)
• byddai croesholiad (neu groesholiad parhaus) y tyst gan y parti ei hun yn debygol o achosi trallod i'r tyst neu i'r parti, a
• bod y trallod yn debygol o fod yn fwy sylweddol nag y byddai pe bai'r tyst yn cael ei groesholi gan rywun heblaw'r parti ei hun.
Ystyried Opsiynau Eraill heblaw gwneud y Croesholi Ei Hun
Gallai gwahardd parti rhag gwneud y croesholi ei hun effeithio ar allu'r parti hwnnw i gyflwyno eu hachos yn effeithiol i'r llys. Mae'n rhaid ufuddhau i Erthyglau 6 ac 8 ECHR – yr hawl i gael gwrandawiad teg a'r hawl i fywyd teuluol. Felly xxx Xxxxx 4B Deddf 1984 ac Adran 7A Deddf 2003 yn cynnwys elfennau diogelu penodol sy'n berthnasol lle mae gwaharddiad yn weithredol, p'un a yw hynny'n awtomatig neu'n dilyn cyfarwyddyd a roddir gan y llys;
• Cyn penodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig, xxx xxxxx 31W o Ddeddf 1984 ac adran 85K o Ddeddf 2003 yn gofyn bod y llys yn ystyried i ddechrau a oes "dull amgen boddhaol" i'r tyst gael ei groesholi, xxx xxxx tystiolaeth fel arall y mae'r tyst wedi ei rhoi efallai o xxx groesholiad. Dylid nodi na fyddai croesholi gan y barnwr ar ran parti'n opsiwn amgen boddhaol i'r dibenion hyn3.
• Os yw'r llys yn dod i'r casgliad nad oes opsiwn boddhaol arall o xxx xxxxx 31W Deddf 1984 xxx xxxxx 85K Deddf 2003, mae'n rhaid gwahodd y parti gwaharddedig i drefnu i gynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig wneud y croesholi a gofyn bod y parti'n hysbysu'r llys o fewn amser penodol a fydd cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yn gwneud y croesholi.
• Os nad yw'r parti'n penodi cynrychiolydd o'r fath neu'n hysbysu'r llys nad yw unrhyw gynrychiolwyr o'r fath yn gweithredu ar ran y parti yna, o xxx xxxxx 31W(5) Deddf 1984 xxx xxxxx 85K(5) Deddf 2003, mae'n rhaid i'r llys ystyried a yw'n angenrheidiol xx xxxx cyfiawnder i'r llys benodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig i wneud y croesholi (adran 31W(6) Deddf 1984 ac adran 85K(6) Deddf 2003). Os bydd y llys yn penderfynu ei fod, mae'n rhaid iddo benodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig, a ddewisir gan y llys, i groesholi'r tyst.
• Pan mae'r llys yn gwneud apwyntiad yn unol ag adran 31W(6) Deddf 1984 xxx xxxxx 85K(6) Deddf 2003, mae'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yn cael ei ariannu'n gyhoeddus a'i dalu o arian canolog fel y maent wedi eu nodi yn adran 31X Deddf 1984 ac adran 85L Deddf 2003. Byddent yn cael eu talu yn unol â'r cynllun tâl sydd wedi ei nodi yn y Rheoliadau Gwahardd Croesholiad Droso'i Hun (Ffioedd Cynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwysedig a Benodir gan y Llys) 20224 .
Ar gyfer y senario olaf hwn (lle mae'r llys yn penodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig, ar ôl cymryd y camau angenrheidiol blaenorol a dod i'r casgliadau gofynnol) y mae'r arweiniad hwn
3Gwelwch baragraff 5.3 o Gyfarwyddyd Ymarfer FPR 3AB.
4 S.I. 2022/567.
yn berthnasol. Nid yw'n berthnasol lle mae parti'n penodi eu cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig eu hunain ar wahoddiad y llys.
1.4 Cefndir y Polisi
Cododd yr addasiadau i Ddeddf 1984 o gydnabyddiaeth gynyddol ymysg y farnwriaeth, ymarferwyr, arbenigwyr camdriniaeth ddomestig a'r Llywodraeth nad oedd y gweithdrefnau llys cyfredol yn diogelu dioddefwyr camdriniaeth yn ddigonol yn y llysoedd teulu a sifil.
Cyn pasio Deddf 2021, roedd y llys teulu ac Adran Deulu yr Uchel Lys wedi defnyddio amrywiaeth o bwerau i sicrhau bod sefyllfaoedd anodd yn y llys yn cael eu trin mewn ffordd sensitif i bartïon bregus. Roedd hyn yn cynnwys, lle xx xxxx, farnwr yn gofyn cwestiynau i dyst yn uniongyrchol, neu'n derbyn croesholi wedi ei recordio'n xxxxx o achosion troseddol blaenorol. Ond, roedd rhai achosion lle nad oedd y mathau eraill hyn o dystiolaeth neu wneud croesholi'n ddigonol i brofi'r dystiolaeth yn yr achos yn drwyadl. Yn yr achosion hyn, ni allai llysoedd teulu benodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig a fyddai wedi ei xxxx xxxxx o'r cyllid canolog i wneud y croesholiad yn lle parti. Arweiniodd hyn at sefyllfaoedd lle byddai parti'n cael ei groesholi gan eu camdriniwr, sefyllfa a allai, yng ngeiriau cyn Lywydd yr adran Deulu, “achosi weithiau, ac ar rai achlysuron yn ddigon pwrpasol, i'r camdriniaeth barhau.”5 Roedd darpariaethau adran 65 Deddf 2021 wedi eu llunio i ymdrin â'r pryderon hyn.
Mewn perthynas ag achosion sifil, ym mis Ebrill 2018, argymhellodd yr Ymholiad Annibynnol i Gamdriniaeth Rhywiol Plant bod dioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth o'r fath mewn achosion llys sifil, lle maen nhw'n hawlio iawndal mewn perthynas â'r gamdriniaeth a ddioddefwyd ganddynt, yn derbyn yr un diogelwch â thystion bregus mewn achosion llys troseddol. Yn dilyn hynny, comisiynodd y Llywodraeth y Cyngor Cyfiawnder Sifil i ystyried y materion a godwyd gan yr argymhelliad hwn. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ac wedi i arbenigwyr roi eu barn, cyhoeddodd y Cyngor Cyfiawnder Sifil eu hadroddiad: "Tystion Agored i Niwed a phartïon o fewn achosion sifil – y safle cyfredol ac argymhellion dros newid", ym mis Chwefror 2020.
Derbyniodd y Llywodraeth argymhellion y Cyngor Cyfiawnder Sifil mewn perthynas â gwahardd croesholi gan xxxxx xx'n ei gynrychioli ei hun, ac mae wedi deddfu ar gyfer hyn xxxxxxx drwy'r darpariaethau yn adran 66 Deddf 2021.
Mae elfennau diogelu tebyg yn bodoli o xxx adrannau 34 - 38 Deddf 1999 i wahardd croesholi amhriodol o'r fath mewn achosion troseddol. Mae'r darpariaethau hyn wedi bod mewn grym ers mwy nag ugain mlynedd ar adeg cyhoeddi. Mae Adrannau 34 a 35 Deddf 1999 yn gwahardd pobl yn awtomatig sydd wedi eu cyhuddo o droseddau penodol rhag croesholi'r achwynwr neu dyst i'r drosedd eu hunain, tra bo adrannau 36 a 37 yn grymuso'r llys i lunio cyfarwyddyd sy'n xxxx yr diffynnydd rhag croesholi tyst ei hun mewn amgylchiadau a ragnodwyd. Xxx Xxxxx 38 yn amlinellu'r camau i'r llys eu cymryd pan mae'r gwaharddiad yn berthnasol, fel sy'n wir o xxx Xxxxx 4B Deddf 1984 ac Adran 7A Deddf 2003, pan fydd y llys yn penodi eiriolwr i wneud y croesholi. Yn union yr un ffordd ag sy'n wir yn awr mewn perthynas ag achosion teulu a sifil,
5 Unheard voices: the involvement of children and vulnerable people in the family justice system, darlith gan Xxx Xxxxx Xxxxx P (fel ydoedd xxxx hynny), Prifysgol Abertawe, Mehefin 25 2015..
nid yw'r eiriolwr a benodir i wneud y croesholi'n gyfrifol i'r sawl a gyhuddir. Felly, i raddau mawr, mae adrannau 65 a 66 Deddf 2021 yn ailadrodd y darpariaethau yn adrannau 34 - 38 o Ddeddf 1999 i ddarparu cydraddoldeb xxxx yn yr elfennau diogelu croesholi yn yr awdurdodaethau llys troseddol, teulu a sifil.
1.4.1 Gwahardd croesholi gan y person ei hun
Elfen gyntaf y darpariaethau yw'r gwaharddiad ei hun, prif bwrpas hyn yw sicrhau nad yw unrhyw un sy'n dioddef camdriniaeth yn gorfod dioddef cael eu croesholi gan eu camdriniwr neu orfod dioddef croesholi eu camdriniwr eu hunain mewn llys. Gall croesholi o'r fath achosi trallod difrifol, achosi trawma eto i'r dioddefwr ac mae ganddo'r potensial i achosi xxxxxx y gamdriniaeth, yn cynnwys ymddygiadau rheoli. Yn aml iawn gall gynnwys cyfnewidiadau gwrthdrawiadol, a mwy o bryder, oll mewn amgylchedd anghyfarwydd gyda dieithriaid yn bresennol. Yn aml iawn bydd llawer o bethau i'w colli i'r dioddefwyr o ran eu diogelwch eu hunain a diogelwch unrhyw blant. Gall effeithio ar ansawdd y dystiolaeth a roddir, gan felly effeithio ar allu'r ddau xxxxx i gyflwyno eu hachos ac, yn eu tro, ar allu'r llys i beri cyfiawnder yn effeithiol. Diben y darpariaethau yw sicrhau y bydd pob dioddefwr yn hyderus y bydd y llys yn gallu cynnig pob diogelwch iddynt y maent xx xxxxx i adael iddynt roi eu tystiolaeth orau a chymryd rhan mewn achosion yn ddiogel.
Gall y gwaharddiad godi'n awtomatig mewn sefyllfaoedd penodol neu yn ôl disgresiwn y llys (gwelwch uchod yn 1.3). Mae gwaharddiadau awtomatig, ynghyd â disgresiwn y llys, yn sicrhau bod modd darparu diogelwch digonol i bawb sydd xx xxxxx.
1.4.2 Diogelwch gweithdrefnol
Ail elfen y darpariaethau yw'r diogelwch gweithdrefnol sydd i'w weld yn adran 31W Deddf 1984 ac adran 85K Deddf 2003 sydd wedi eu bwriadu i ddiogelu hawliau Erthygl 6 ac 8 xxx parti mewn achosion lle mae gwaharddiad yn berthnasol, p'un a yw hynny'n awtomatig neu'n dilyn cyfeiriad a roddir gan y llys. Bwriedir bod gweithrediad y diogelwch hwn yn gweithio mewn ffordd ddilyniannol. Yn gyntaf, mae'r llys yn ystyried a oes dulliau amgen boddhaol i'r tyst gael ei groesholi neu o gael y dystiolaeth allai fod wedi ei roi o xxx groesholiad. Os nad, mae'r llys yn gwahodd y parti a waharddwyd i drefnu i gynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig groesholi'r tyst. Dim ond os na wneir apwyntiad o'r fath y mae'n rhaid i'r llys ystyried a yw'n angenrheidiol, xx xxxx cyfiawnder, i'r tyst gael ei groesholi gan gynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig sydd wedi ei benodi gan y llys i gynrychioli buddiannau'r parti. Os bydd y llys yn penderfynu ei fod xx xxxx cyfiawnder, maen rhaid i'r llys ei hun benodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig i groesholi'r tyst xx xxxx y parti
Mae Erthygl 6(1) yr ECHR yn gwarantu'r hawl i wrandawiad sydd yn deg yn weithdrefnol, ac mae hyn yn cynnwys rhoi cyfle rhesymol i xxx parti gyflwyo eu hachos a'u tystiolaeth o xxx amodau nad ydynt yn eu rhoi xxx anfantais sylweddol o'i gymharu â'r parti arall.6 Ymhellach, xxx xxx unigolyn yr hawl i fynd gerbron parti neu dyst sy'n gwneud honiad.7 Er nad yw hynny yr un fath â hawl i ofyn “cwestiynau digyfyngedig gan dyst dim ond er mwyn profi'r dystiolaeth”,
6 Regner v. y Xxxxxxxxxx Xxxxx Rhif Ymgeisio 35289/11 yn [146].
7 Trwy Xxx Xxxxx Xxxxx P (fel ydoedd xxxx hynny) yn Re S-W (Children) (Care Proceedings: Final care order at case management hearing) [2015] EWCA Civ 27 yn [57].
mae'r Llys Xxxx wedi dweud bod yn rhaid i lys fod yn “effro i sicrhau nad yw unrhyw riant (ac felly unrhyw xxxxx) heb gael yr hawl i esbonio hanfod eu hachos i dystion ar y rhannau hynny o'u tystiolaeth a allai gael effaith sylweddol ar y canlyniad.”8
Mae Erthygl 8 yr ECHR yn gwarantu nad amherir ar yr hawl i fywyd teulu a bywyd preifat heblaw pan fo'n angenrheidiol ac yn unol â'r gyfraith. Mae'r llysoedd wedi dweud, yng nghyd- destun materion llys teulu, y gall hawliau Erthygl 8 y partïon “ond cael eu cyfiawnhau os ydynt wedi penderfynu'n effeithiol a chywir” am y materion ffeithiol gerbron y llys.9
Bwriad yr elfennau diogelu gweithdrefnol yn Adran 4 Deddf 1984 ac Adran 7A Deddf 2003 yw rhoi'r amrywiaeth o gymorth sy'n angenrheidiol i'r llys i sicrhau bod hawliau Erthygl 6 ac 8 ECHR y parti gwaharddedig yn cael eu diogelu. Mae'r darpariaethau'n nodi llwybr i'r llys ganfod y dulliau a fydd yn diogelu'r hawliau hyn ymhob achos. Cyn i lys allu ystyried a ddylai benodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig, mae'n rhaid iddo yn gyntaf ystyried a oes modd sicrhau'r dystiolaeth drwy ddulliau eraill. Yna mae'n rhaid iddo gynnig cyfle i'r parti gwaharddedig drefnu eu cynrychiolaeth gyfreithiol eu hunain at ddibenion y croesholi.
Dim ond ar ôl i'r opsiynau hynny gael eu harchwilio ac y penderfynir eu bod yn annigonol y bydd y llys yn troi ei feddwl at y posibilrwydd o benodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig i groesholi'r tyst er mwyn diogelu hawliau Erthygl 6 ac 8 ECHR. Mae hawliau parti o xxx Erthyglau 6 ac 8 yr ECHR yn fwy tebygol o gael eu hamddiffyn os bydd cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yn cael ei benodi mewn achosion sydd, er enghraifft, yn cynnwys materion tystiolaethol cymhleth, tystiolaeth feddygol gymhleth neu dystiolaeth arbenigol arall, neu lle xxx xxxxx holi tyst a allai achosi trallod neu a allai fod yn heriol. Mewn amgylchiadau o'r xxxx, xxx holi gan gynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yn fwy tebygol o sicrhau tystiolaeth a fydd yn galluogi i'r llys ddod i benderfyniad ar sail gwybodaeth gywir, sydd ynddo'i hun o'r xxxx gorau i'r partïon.
8 ibid yn [58].
9 Trwy'r Arglwydd Dyson MR (fel ydoedd xxxx hynny) yn Re K and H (Children) [2015] EWCA Civ 543 yn [47].
Adran 2 - Rôl Cynrychiolydd Cyfreithiol Cymwysedig
2. Cynrychiolydd Cyfreithiol Cymwysedig a Benodir gan y Llys: Cylch Gwaith a Chyfrifoldebau
2.1 Diben y Rôl
Diben y darpariaethau croesholi yn Neddf 2021 yw sicrhau na fydd unrhyw ddioddefwr neu ddioddefwyr honedig yn cael eu croesholi gan eu camdriniwr neu gamdriniwr honedig nac yn gorfod croesholi eu camdriniwr neu gamdriniwr honedig eu hunain. Am y rheswm hwn, mae'r darpariaethau croesholi'n gwahardd yn awtomatig unrhyw groesholi gan 'xxxxx gwaharddedig' ei hun (fel y mae wedi ei ddiffinio yn adran 1 yr arweiniad hwn) xxx amgylchiadau penodol. Os nad yw'r gwaharddiadau awtomatig yn berthnasol, mae'r darpariaethau'n rhoi'r grym i'r llys roi cyfarwyddyd sy'n xxxx croesholiad gan y parti ei hun os bydd meini prawf penodol yn cael eu cyflawni.
Lle gwaherddir y parti rhag croesholi droso'i hun, xxxxx xx'n awtomatig neu trwy ddilyn cyfarwyddyd llys, mae darpariaethau Deddf 2021 yn galluogi i'r llys benodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig (fel sydd wedi ei ddiffinio yn adran 1 yr arweiniad hwn) i wneud y croesholiad os yw'n cyfateb ag amodau penodol. Bydd y llys yn penodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig dim ond mewn achosion lle does dim dulliau boddhaol eraill o sicrhau'r dystiolaeth, lle nad yw'r parti gwaharddedig wedi penodi eu cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig ei hun ac os yw'r llys yn teimlo y byddai xx xxxx cyfiawnder i wneud ei benodiad ei hun.
Pwrpas canolog cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig a benodir gan y llys yw sicrhau bod yr achosion yn parhau'n deg, drwy wneud y croesholi y mae'r parti gwaharddedig wedi ei wahardd rhag ei weithredu.
Wrth benderfynu a ddylid penodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig, mae'n rhaid i'r llys ystyried a ydyw o fudd cyfiawnder i'r tyst gael ei groesholi gan gynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig a benodir gan y llys i gynrychioli buddiannau'r parti. Pan fydd y llys yn penderfynu gwneud penodiad, mae'n bwysig i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig gofio hyn:
• nid nhw yw cynrychiolydd y llys sy'n eu penodi ond maen nhw'n atebol i'r llys;
• maent wedi eu penodi i groesholi xx xxxx y parti (adran 31W(6) Deddf 1984 ac adran 85K(6) Deddf 2003); a
• dydyn nhw ddim yn gyfrifol i'r parti (adran 31W(7) Deddf 1984 ac adran 85K(7) Deddf 2003). Am nad yw cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig yn cael eu penodi i weithredu ar ran y parti gwaharddedig yn y ffordd y mae eiriolwyr cyfreithiol cyffredin yn ei wneud, does ganddyn nhw ddim y berthynas 'twrnai-cleient' traddodiadol gyda'r parti gwaharddedig ac felly nid ydynt yn gyfrifol i'r parti gwaharddedig. Er y bydden nhw'n datblygu diddordebau'r parti gwaharddedig yn ystod y croesholi, ni chaiff y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig geisio cyflwyno achos cyfan y parti gwaharddedig ac ni ddylai dderbyn cyfarwyddiadau gan y parti gwaharddedig yn y ffordd y byddai cyfreithiwr y parti ei hun yn ei wneud fel arfer. Fodd bynnag, yn y mwyafrif o achosion, disgwylir i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig gwrdd â'r parti gwaharddedig i sicrhau gwybodaeth berthnasol a fydd yn ffurfio sylfaen y croesholi ac yn hysbysu'r gwaith o ddrafftio'r datganiad sefyllfa.
Nid oes gan gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig gylch gwaith gyda chwmpas rhydd. Ni chânt eu penodi i weithredu fel 'eiriolwyr i'r llys' (a elwir hefyd yn 'amicus curiae') sy'n cael eu penodi'n fwyaf cyffredin i helpu'r llys gyda materion cyfreithiol penodol drwy roi gwybodaeth neu gyngor am gwestiynau yn ymwneud â chyfraith neu ffaith. Mae cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig a benodir gan y llys yn eistedd yn rhywle rhwng y ddau rôl mwy traddodiadol hyn, ac mae'n rhaid iddyn nhw gofio xxx amser am ddiben cyfyngedig ac unigryw eu rôl mewn achosion teulu a sifil.
Mae rôl y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig mewn achosion teulu a sifil yn rôl newydd ond nid yw'n annhebyg i rôl eiriolwr a benodir gan y llys mewn achosion troseddol o xxx ddarpariaethau adran 38 Deddf 1999 (gwelwch adran 1). Fodd bynnag, xx xxx dim ond xx xxxx y xxxx a gyhuddir y penodir yr eiriolwyr yn y cynllun troseddol cyfatebol i groesholi'r tyst, gall y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig mewn achosion teulu neu sifil gael eu penodi gan y llys i groesholi tyst ar ran y xxxxx xxxxx xxx'r llall. Efallai hefyd bod adegau mewn achosion teulu neu sifil lle bydd y llys efallai angen penodi mwy nag un cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yn yr achos, er enghraifft, un i groesholi yn lle'r cyflawnwr a'r llall i groesholi yn lle'r dioddefwr. Xxxxx, xxx'r amgylchiadau lle gellir penodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig mewn achosion teulu a sifil yn ehangach nag ydynt yn y llysoedd troseddol.
Cafodd paramedrau rôl cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig a benodir gan y llys mewn achosion troseddol eu harchwilio yn achos ABBAS v Gwasanaeth Xxxxx y Goron10 lle dywedodd yr Arglwyddes Justice Xxxxxx:
Heb os, mae rôl eiriolwr adran 38 wedi ei chyfyngu i gyflawni eu dyletswydd yn gywir fel croesholwr tyst penodol. Mae Adrannau 36 a 38 Deddf 1999 oll yn ymwneud â diogelu tystion bregus rhag cael eu croesholi gan y sawl a gyhuddir. Felly, ni ddylid meddwl bod gan eiriolwr a benodir o xxx xxxxx 38 gylch gwaith gyda chwmpas rhydd i wneud y treial ar ran y sawl a gyhuddir. Eu dyletswydd broffesiynol a'u dyletswydd statudol fyddai sicrhau eu bod mewn sefyllfa i wneud y croesholiad yn iawn. Mae'n golygu hefyd bod eu penodiad yn dod i ben, o xxx xxxxx 38, ar ddiwedd y croesholi, ac eithrio i'r graddau y mae'r llys yn penderfynu fel arall. Yn dechnegol, nid oes gan y cyfreithiwr xxxxxxx rôl yn yr achosion wedi hynny.'
Felly, maen nhw'n annhebygol o fod yn gymhlethdodau moesegol i gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig a benodir gan y llys nad ydynt yn gyfrifol i'r parti gwaharddedig ac sydd heb berthynas gytundebol â nhw.
2.2 Cymhwysedd
Mae'n hanfodol bod cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig sydd wedi eu penodi gan y llys yn sensitif ac yn dangos dealltwriaeth am anghenion ac elfennau bregus y tyst wrth wneud y croesholi. Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn dda am ddefnyddio technegau croesholi i helpu i alluogi tystion bregus i roi eu tystiolaeth orau a mwyaf cywir. Mae hyn o fudd i'r tystion eu hunain ac xx xxxx cyfiawnder.
Mae'n rhaid i xxx cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig a benodir gan y llys feddu ar dystysgrif ymarfer gyfredol a bod wedi derbyn hyfforddiant mewn eiriolaeth a thystion bregus (neu wneud ymrwymiad i dderbyn hyfforddiant o'r fath o xxxx xxxx mis i gofrestru ar restr y llys o gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig – gwelwch adran 2.3) sy'n cael ei ddarparu neu ei gymeradwyo gan eu xxxxx proffesiynol. Mae'n rhaid iddynt hefyd feddu ar y sgiliau a'r profiad angenrheidiol o groesholi tystion bregus mewn gwrandawiadau sy'n cael eu herio.
Mae cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig sydd â hyfforddiant arbenigol mewn camdriniaeth ddomestig ychwanegol ar faterion fel ymddygiad gorfodol a rheolaethol, camdriniaeth economaidd, camdriniaeth seicolegol a chamdriniaeth ar ôl gwahanu yn gymwys hefyd i wneud y gwaith hwn.
Nid oes angen i gyfreithwyr gael cymhwyster Hawliau Uwch Cynulleidfa i ymddangos neu wneud croesholi xxxxx xx yn y llys teulu neu'r llys sirol. Fodd bynnag, bydd angen cymhwyster Hawliau Uwch Cynulleidfa i ymddangos mewn achosion mewn 'uwchlysoedd', ac at y dibenion hyn, dyma nhw:
• yr Uchel Lys (Adran Deulu ar gyfer achosion teulu, xxx Xxxxx Mainc y Frenhines neu'r Adran Siawnsri ar gyfer achosion sifil); ac
• adran sifil y Llys Xxxx.
10 [2015] EWHC 579 (Gweinyddol) yn [44] .
2.3 Penodi Cynrychiolydd Cyfreithiol Cymwysedig gan y Llys
Bydd angen i gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig sydd â'r hyfforddiant priodol fel y mae wedi ei nodi yn adran 2.2. gofrestru eu diddordeb mewn gwneud y gwaith hwn gyda Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (HMCTS). Bydd llysoedd lleol yn cadw rhestr o gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig sydd ar gael i wneud gwaith croesholi mewn achosion teulu a sifil. Bydd y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi yn gyfrifol am reoli a diweddaru'r rhestr. Gallwch weld rhagor o wybodaeth am gofrestru ar restr y llys o gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig yn:
Bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi'n cysylltu â'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig cyntaf ar y rhestr ac os na all y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig hwnnw dderbyn y penodiad, yna bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi yn cysylltu â'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig nesaf fel y mae'n ymddangos ar y rhestr ac, os oes angen, yn gweithio eu ffordd i xxxx y rhestr nes canfyddir cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig sy'n gallu derbyn y penodiad. Mae'r system hon yn caniatáu ar gyfer arferion da ac yn sicrhau bod modd ymgysylltu'n gyflym â chynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig pan fo'r angen mewn ffordd eglur ac agored. Unwaith y mae'r llys yn cysylltu â'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig ac unwaith y mae'r cynrychiolydd wedi cytuno i dderbyn y penodiad, darperir gorchymyn a gynhyrchir gan y llys sy'n amlinellu maint ei benodiad/phenodiad ac yn arbennig bod:
• y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yn atebol i'r llys ac nid i'r parti gwaharddedig;
• penodiad y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yn dod i ben ar ddiwedd yr achosion neu pan mae'r llys yn gorchymyn hynny;
• y penodiad yn bersonol i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig a benodir gan y llys ac nid i'r Siambrau neu i gwmni cyfreithiwr y cynrychiolydd hwnnw; a
• caiff y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig ond hawlio am gostau paratoi ar gyfer y croesholi a'i gyflawni.
2.3.1 Hyd y Penodiad
Am fod y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yn cael ei benodi'n benodol gan y llys i ddiogelu hawliau Erthygl 6 ac 8 y parti gwaharddedig, mae eu penodiad yn ymestyn dim ond cyn belled ag y mae'r gwaharddiad yn effeithio ar yr hawliau hynny. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd rôl y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yn gyfyngedig i groesholi'r tyst neu'r tystion y mae'r parti gwaharddedig wedi ei xxxx rhag eu holi droso'i hun. Bydd y tyst neu'r tystion sydd i gael eu croesholi wedi eu nodi yn yr un gorchymyn llys â'r un sy'n penodi'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig.
Bydd penodiad statudol y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yn dechrau pan wneir hyn gan y llys. Bydd y penodiad hwn yn terfynu ar ddiwedd y gweithdrefnau neu pan mae'r llys yn gorchymyn hynny. Nod hyn yw sicrhau bod penodiad y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yn dod i ben ar ddiwedd yr achosion cyfan, yn hytrach nag ar ddiwedd gwrandawiadau unigol. Mae hyn yn golygu na fydd angen i'r barnwr fynd yn ôl i ddechrau'r broses o wahardd y croesholi xxx tro a phenodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig pan fo
angen gwaharddiad ar wneud y croesholi ei hun. Os oes angen gwneud croesholi pellach sydd wedi ei effeithio gan y gwaharddiad, bydd y llys yn ad-alw'r un cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig, neu (os nad yw hynny'n bosibl) yn penodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig newydd.
2.3.2. Gwrthod a Therfynu Apwyntiadau
Mae'n bwysig nad oes gan y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig a benodir gan y llys wrthdaro buddiannau yn yr achos. Os bydd gwrthdaro buddiannau, mae'n rhaid i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig roi gwybod i'r llys ar unwaith nad ydynt yn gallu derbyn y penodiad. Os bydd sefyllfa'n codi lle nad yw cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig a benodir gan y llys yn gallu gwneud y croesholi unrhyw xxxx yn ystod yr achosion, bydd angen iddyn nhw rhoi gwybod i'r llys ar unwaith. Mewn achos o'r fath, bydd y llys yn terfynu penodiad y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig ac yn penodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig newydd. Bydd terfyniad penodiad cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig mewn achos yn cael ei gadarnhau gan orchymyn llys.
3. Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Bydd achosion sy'n gofyn am benodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yn wahanol i'w gilydd, felly nid yw'r arweiniad hwn yn rhoi rhestr ragnodedig o ddyletswyddau y mae'n rhaid i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig a benodir eu gwneud oherwydd bydd y gwaith sy'n ofynnol yn amrywio yn unol â ffeithiau'r achos. Fodd bynnag, dylid tywys y cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig drwy gydol eu cyfranogaeth gan egwyddorion allweddol a nodir yn y prawf effaith arwyddocaol a hanfod.
3.1 Defnyddio'r Prawf Effaith Arwyddocaol a Hanfod o'r Cychwyn
Roedd Xxx Xxxxx Xxxxx P (fel ydoedd xxxx hynny) yn yr achos Llys Xxxx Re S-W (Plant) (Achosion Gofal: Gorchymyn gofal terfynol mewn gwrandawiad rheoli achos)11 yn nodi pwysigrwydd rhoi hanfod achos y parti gwaharddedig i dystion ar y rhannau hynny o'u tystiolaeth a allai gael effaith sylweddol ar ganlyniad yr achosion.
I amddiffyn hawliau Erthygl 6 ac 8 y parti gwaharddedig yn effeithiol, mae'n rhaid i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig roi hanfod achos y parti gwaharddedig i'r tyst, ar y rhannau hynny o achos y tyst a allai gael effaith sylweddol ar ganlyniad yr achosion. Gallai'r parti gwaharddedig awgrymu cwestiynau i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig y mae xx xxx hi eisiau eu gofyn i'r tyst. Xx x xxxxxx'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig roi ystyriaeth i awgrymiadau fel yma, yn y pendraw dylid ond gofyn cwestiynau i'r tyst os ydyn nhw'n ymwneud â hanfod achos y parti gwaharddedig, ac maen nhw am y rhannau hynny o achos y tyst a allai gael effaith sylweddol ar ganlyniad yr achosion. Mae'n rhaid i'r cynrychiolydd
(11) [2015] EWCA Civ 27 yn [57].
cyfreithiol cymwysedig fod yn xxxxx a bod â'r dulliau cywir i allu gwneud croesholiad er mwyn cyflawni'r diben hwn.
I wneud y rôl croesholi'n effeithiol, ac yn unol â'u cyfrifoldebau proffesiynol, bydd angen i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig wneud y gwaith paratoadol sy'n angenrheidiol i wneud y croesholi fel darllen papurau llys. Mae'n rhaid i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig sicrhau ei fod xx xxx ei bod hi'n gwbl gyfarwydd â'r dystiolaeth a'r materion yn yr achos a'u bod wedi derbyn digon o wybodaeth am achos y parti gwaharddedig i allu croesholi a phrofi'r dystiolaeth yn effeithiol. Mae'n rhaid i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig sicrhau bod y croesholi a wneir yn darparu digon o wybodaeth i'r llys i ddod i gasgliad am y materion sy'n codi yn ystod yr achos.
3.2 Adolygu'r Bwndel
Bydd y llys yn cyfarwyddo bod y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig (neu gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig mewn achosion lle mae mwy nag un cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig wedi ei benodi gan y llys) yn gallu cyrchu'r bwndel llys cyfan, neu rannau o'r bwndel fel y mae'r llys wedi ei gyfarwyddo, ac erbyn pryd y mae'r mynediad i gael ei roi. Os nad oes bwndel llys, bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi'n paratoi ac yn darparu'r bwndel llys i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig. Mae'n rhaid i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig a benodir gan y llys sicrhau ei fod xx xxx ei bod hi'n gwbl gyfarwydd â chynnwys y bwndel llys a'r dystiolaeth er mwyn gallu croesholi'r tyst neu'r tystion yn effeithiol, ac i sicrhau bod hanfod achos y parti gwaharddedig yn cael ei roi i'r tyst neu'r tystion yn gywir.
3.3 Gweithio gyda'r Llys a'r Partïon Gwaharddedig
O gychwyn y penodiad, dylai'r llys a'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig penodedig benderfynu'n glir xxxx yw maint ymarferol y gwaharddiad. Bydd y llys yn cyflwyno gorchymyn yn unol â pharagraff 2.3, yn arbennig, sy'n nodi pwy yw'r tyst neu'r tystion sydd i gael eu croesholi gan y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig.
Bydd angen i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig gwrdd â'r parti gwaharddedig i ddeall hanfod achos y parti gwaharddedig a chytuno â'r parti gwaharddedig a'r llys pa faterion fydd yn derbyn sylw yn y croesholi. Gellir penderfynu pa faterion fydd yn derbyn sylw yn y croesholi, er enghraifft, yn ystod gwrandawiad cychwynnol os bydd y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yn cael ei benodi'n ddigon cynnar. Dylai'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig geisio'r wybodaeth xxxxxxx xx'n ofynnol gan y llys a'r parti gwaharddedig er mwyn gallu gwneud eu dyletswyddau'n gywir. Gallai hyn gynnwys cael papurau ychwanegol sy'n berthnasol i achos y parti gwaharddedig a'u hystyried, cyn y gwrandawiad gyda'r croesholiad. Gallai'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig geisio arweiniad hefyd gan y barnwr ynglŷn â phroblemau ymddangosiadol yn yr achos. Yn rhan o'r broses hon, efallai y bydd angen i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig wneud cyflwyniadau i'r llys am y materion allweddol sy'n berthnasol i fuddiannau achos y parti gwaharddedig.
Argymhellir bod y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yn paratoi datganiad sefyllfa byr i helpu i ganfod a chulhau'r materion a fydd yn ffocws i'r croesholiad.
Bydd y llys yn nodi'n glir i'r parti gwaharddedig nad yw'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yn gyfreithiwr iddynt a'u bod wedi eu penodi gan y llys dim ond i groesholi tyst neu dystion penodol. Mae'n rhaid i'r cynrychiolydd cyfreithiol hefyd gyfathrebu'n glir xxxx yw natur gyfyngedig eu rôl a'u perthynas â'r parti gwaharddedig. Mae'n rhaid iddyn nhw ddangos yn glir nad oes ganddynt berthynas gytundebol â'r parti gwaharddedig Hefyd, mae'n rhaid i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig ddangos yn glir na allent roi cyngor na chynrychioli'r parti gwaharddedig drwy gydol yr achos ond cânt eu penodi gan y llys i wneud rôl gyfyngedig iawn. Ni all y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig helpu i baratoi dogfennaeth neu helpu i gydymffurfio â chyfarwyddiadau. Bydd angen i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig a benodir gan y llys esbonio i'r parti gwaharddedig na xxxxxx xxxx'r cyfrinachedd sydd fel arfer yn gysylltiedig â pherthynas rhwng cyfreithiwr a chleient (braint broffesiynol gyfreithiol) a bod goblygiadau mewn achosion teulu a sifil i ddatgelu defnydd nad yw'n ddefnyddiol i achos y parti gwaharddedig.
Gallai'r parti gwaharddedig awgrymu cwestiynau y mae eisiau eu gofyn i'r tyst neu dystion a gallai'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig roi ystyriaeth i awgrymiadau o'r fath. Yn y pen draw, fodd bynnag, dylid ond gofyn cwestiynau i'r tyst os ydyn nhw'n ymwneud â hanfod achos y parti gwaharddedig, ac maen nhw'n debygol o roi gwybodaeth i'r llys i alluogi iddo ddod i gasgliad am y materion y mae'n rhaid iddo eu penderfynu. Er bod angen i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig sicrhau manylion yr achos y mae'r parti gwaharddedig eisiau eu dwyn ymlaen, a hynny er mwyn hysbysu ei ddull o groesholi, ni ddylai'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig gymryd cyfarwyddiadau gan y parti gwaharddedig unrhyw xxxx.
Efallai y bydd achosion sy'n codi lle nad yw'r parti gwaharddedig yn cydymffurfio â'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig sydd wedi'i benodi gan y llys a gallai wrthod darparu gwybodaeth ofynnol a fydd yn sylfaen i'r croesholiad. Pan fydd hyn yn digwydd, efallai y bydd yn rhaid i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig gyfyngu'r croesholi i faterion y mae'r barnwr yn cyfarwyddo eu bod yn berthnasol cyhyd ag y gellir ei weld o bapurau'r llys yn yr achosion. Yna dylai'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig ddweud xxxx yw'r materion hyn wrth y parti gwaharddedig. Efallai y bydd adegau hefyd pan mae gwrthodiad parti gwaharddedig i gydweithredu â'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig wedi digwydd oherwydd eu diffyg gallu. Gallai hyn olygu nad yw'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yn gallu sicrhau unrhyw wybodaeth neu gymorth gan y parti gwaharddedig. Mewn sefyllfaoedd fel yma, efallai na fydd y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig ond yn gallu croesholi'r tyst ar faterion sy'n amlwg o'r papurau achos. Pan fydd hyn yn digwydd, mae'n rhaid i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig dynnu sylw'r llys at unrhyw faterion sy'n ymwneud â gallu'r parti gwaharddedig i gymryd rhan yn llawn yn yr achosion a'u deall. Mae'n rhaid i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig hefyd dynnu sylw'r llys at yr angen posibl am gyfarwyddiadau cyfranogi neu fesurau arbennig fel cyfryngwr cofrestredig
Yn y mwyafrif o achosion bydd yr angen am gynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig i ymdrin yn uniongyrchol â'r parti arall ar faterion arwyddocaol yn gyfyngedig. Dylid cymryd gofal arbennig os nad yw'r parti arall wedi ei gynrychioli'n gyfreithiol, neu os yw'r parti arall yn dyst i gael ei groesholi hefyd. Mewn unrhyw ymwneud uniongyrchol â'r parti arall neu eu cynrychiolydd, dylai'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig gyfathrebu'n glir xxxx yw natur gyfyngedig eu rôl a'u perthynas â'r parti gwaharddedig a'r llys.
3.4 Presenoldeb yn y Llys
Bydd angen i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig fynd i'r gwrandawiad canfod ffeithiau arwyddocaol wrth gwrs lle mae'r croesholiad yn mynd i ddigwydd. Efallai y bydd gwrandawiadau eraill sy'n digwydd rhwng eu penodiad gan y llys a'r croesholiad/ ail groesholiad sy'n gofyn am bresenoldeb y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig. Wrth benderfynu a yw'n angenrheidiol mynd i'r gwrandawiadau hyn, dylai'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig ddefnyddio'r prawf effaith arwyddocaol a hanfod fel y mae wedi ei nodi ym mharagraff 3.1.
Er enghraifft, byddai angen i gynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig fynd i wrandawiad cychwynnol sydd wedi ei drefnu i benderfynu ar y materion sydd i dderbyn sylw mewn croesholiad. O'i gymharu â hynny, ni fyddai angen iddynt fynd i wrandawiad o gais a wneir gan y xxxxx xxxxx xxx'r llall nad yw'n ymwneud â'r materion i'w croesholi xxx xx'n annhebygol o effeithio ar weithrediad y croesholiad.
Dylai'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig ddefnyddio eu barn i benderfynu ar y gwrandawiadau perthnasol a fydd yn gofyn am eu presenoldeb. Os oes rhaid i amrywiol dystion (heblaw'r tyst y mae'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig wedi ei benodi i'w groesholi) roi tystiolaeth dros nifer o ddiwrnodau, mae'n debygol na fydd angen i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig fynychu heblaw pan wrandewir ar dystiolaeth a allai gysylltu â hanfod achos y parti gwaharddedig, xxx xx'n xxxx allweddol o dystiolaeth y tyst. Gallai'r barnwr ystyried i xx xxxxxx y xxx xxxxx presenoldeb y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig a rhoi cyfarwyddiadau ynglŷn â pha wrandawiadau y mae'n rhaid i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig fynd iddynt.
3.5 Xxxxxx y Croesholiad
Dylai'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig baratoi cwestiynau sy'n rhoi 'hanfod' achos y parti gwaharddedig i'r tyst, ar y rhannau hynny o achos y tyst a allai gael effaith arwyddocaol ar ganlyniad yr achosion. Mae'n rhaid i'r cwestiynau a ofynnir mewn croesholiad fod at ddiben profi tystiolaeth y tyst neu'r tystion, o gyflwyno achos y parti gwaharddedig i'r tyst a galluogi'r llys i dderbyn tystiolaeth i'w alluogi i wneud penderfyniad wedi ei hysbysu'n gywir am y materion y mae'n rhaid iddo eu penderfynu.
Gan y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig y mae'r disgresiwn i reoli'r croesholiad wrth iddo ddatblygu (h.y. i ffurfio cwestiynau a gweithredu'n ddynamig mewn ymateb i atebion a roddir gan y tyst), fel bod y croesholi'n bodloni'r prawf effaith arwyddocaol a hanfod. Ond, mae'n rhaid i gynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig sydd wedi'i benodi gan y llys gofio natur gyfyngedig eu rôl xxx amser ac osgoi'r awydd i weithredu fel eiriolwr i achos ehangach y parti gwaharddedig. Mae'n rhaid i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig gofio'r ffaith bod yn rhaid croesholi tyst gyda sensitifrwydd xxx amser a gydag ystyriaeth haeddiannol i elfennau bregus y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig.
Ni ddisgwylir i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig wneud cyflwyniadau i'r llys ar ran y parti gwaharddedig y maen nhw'n gwneud y croesholi ar eu cyfer.
4.Terfynu Penodiad y Cynrychiolydd Cyfreithiol Cymwysedig a Benodir gan y Llys
Terfynir penodiad y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig a benodir gan y llys pan ddaw'r achosion i xxx xxx pan fydd y llys yn gorchymyn hynny. Wedi iddo gael ei derfynu, heblaw bod y llys yn cyfarwyddo'n wahanol, bydd y llys yn rhoi gwybod am ganlyniad y gwrandawiad i'r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig.
5. Arweiniad Pellach
5.1 Gweud Cais i fod ar Restr a Chofrestr am Waith y Llys
Fel y dywedwyd yn gynharach yn yr arweiniad hwn, bydd llysoedd lleol yn cadw rhestr o gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig sydd ar gael i wneud y gwaith croesholi mewn achosion teulu ac achosion sifil. Mae'r system hon yn caniatáu arferion da ac yn sicrhau bod modd ymgysylltu â chynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig yn gyflym, pan fo'u xxxxxx, mewn ffordd eglur ac agored. Dylai cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig sydd â diddordeb mewn gwneud gwaith croesholi ac sydd eisiau cael eu cofrestru ar y rhestr o gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig a gynhelir gan y llys ysgrifennu at eu llysoedd lleol. Yn yr un modd, dylai cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig sydd eisiau dod oddi ar y rhestr hefyd ysgrifennu at eu llysoedd lleol mewn xx xxxx i ddweud eu bod eisiau dod oddi ar y rhestr Bydd y rhestr hon yn cael ei hadolygu'n chwarterol gan y llysoedd.
Bydd angen i'r xxxx gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig a benodir gan y llys gael eu cofrestru gyda'r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol er mwyn gwneud gwaith croesholi mewn achosion teulu a sifil, er nad yw'r gwaith hwn wedi ei gyfyngu i gyfreithwyr sy'n gwneud gwaith cymorth cyfreithiol ar hyn x xxxx.
5.2 Tâl am Gynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwysedig a Benodir gan y Llys a Chofrestriad â'r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol (LAA)
Mae'r cynllun tâl am gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig wedi ei lunio i annog y gweithgareddau cywir sy'n angenrheidiol oherwydd y swyddogaeth croesholi ac i ostwng y tebygolrwydd y bydd cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig yn mynd y tu hwnt i'w cylch gwaith penodol iawn sydd wedi ei gyfyngu gan statud. Mae cyfraddau'r ffioedd, strwythur a rheolau wedi eu nodi mewn rheoliadau sef Rheoliadau Gwahardd Croesholi Droso'i Hun (Ffioedd Cynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwysedig a Benodir gan y Llys) 202212 Bydd ffioedd wedi eu xxxx xxxxx o gronfeydd canolog a bydd y taliadau wedi eu gweinyddu gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol. Rhaid gwneud hawliadau am dâl o fewn 3 mis i'r gwrandawiad, yn amodol ar unrhyw amgylchiadau eithriadol a nodir i'r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol.
Er mwyn derbyn tâl am waith a wneir fel cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig o xxx y cynllun tâl, mae'n rhaid i'r cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig fod yn gofrestredig â'r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol a bod â rhif cyfrif cymorth cyfreithiol. Er mwyn bod yn eglur,
12 Rheoliadau Gwahardd Croesholi Droso'i Hun (Ffioedd Cynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwysedig a Benodir gan y Llys) 2022 (xxxxxxxxxxx.xxx.xx)
nid yw'r cynllun tâl yn gynllun cymorth cyfreithiol, ond bydd taliadau'n cael eu cyflwyno gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol drwy rif cyfrif cymorth cyfreithiol.
Nid oes angen i gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig sydd â chyfrifon cymorth cyfreithiol cyfredol wneud cais am gyfrif newydd. Dim ond cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig heb gyfrif cymorth cyfreithiol gweithredol xxxx xxxxx gwneud cais.
Mae arweiniad manwl am wneud cais am gyfrif â'r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol wedi ei gyhoeddi yn:
Diweddarwch xxxx manylion gyda'r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol - XXX.XX (xxx.xxx.xx)
Cyfreithwyr
Nid oes angen i gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig sy'n gyfreithwyr mewn cwmni sy'n bodoli'n xxxxx xxxx chyfrif a chontract cymorth cyfreithiol gweithredol wneud cais am gyfrif newydd. Dim ond cyfreithwyr nad ydynt yn rhan o gwmni sy'n bodoli'n xxxxx xxxx chyfrif a contract cymorth cyfreithiol gweithredol xxxx xxxxx gwneud cais am gyfrif.
Mae'n rhaid i gyfreithwyr sydd heb gyfrif cymorth cyfreithiol neu dystysgrif Hawliau Uwch Cynulleidfa gwblhau ac anfon y ffurflen a'r dogfennau a ganlyn. Mae'n rhaid i chi roi tic yn y blwch ar gyfer 'gwrandawiadau traddodi' ar y ffurflen.
• Ffurflen AC1A gyflawn.
• Copi o'u hyswiriant indemniaeth.
• Copi o'u Tystysgrif TAW (Os ydynt wedi cofrestru ar gyfer TAW).
• Cadarnhad nad oes gennych dystysgrif Hawliau Cynulleidfa Uwch a'ch bod yn gwneud cais am gyfrif o xxx y 'Cynllun Cynrychiolydd Cyfreithiol Cymwysedig Gwahardd Croesholi eu Hunain’.
Eiriolwyr-Gyfreithiwr
Nid oes angen i gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig sy'n eiriolwyr-gyfreithwyr gyda chyfrifon cymorth cyfreithiol cyfredol xxxxx xx ar eu cyfer eu hunain fel unigolion neu yn rhan o gwmni cymorth cyfreithiol ar gontract, wneud cais am gyfrif newydd. Dim ond eiriolwyr- gyfreithwyr heb gyfrif cymorth cyfreithiol gweithredol xxxx xxxxx gwneud cais am gyfrif.
Mae'n rhaid i eiriolwyr-gyfreithwyr sydd heb gyfrif cymorth cyfreithiol gwblhau a chyflwyno'r ffurflen a'r dogfennau a ganlyn oherwydd, heb y rhain, ni fydd yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol yn gallu creu a chyflwyno rhif cyfrif cymorth cyfreithiol:
• Ffurflen AC1A.
• Copi o'u hyswiriant indemniaeth.
• Copi o'u Tystysgrif TAW (os ydynt wedi eu cofrestru ar gyfer TAW).
• Copi o'u tystysgrif o Hawliau Cynulleidfa Uwch (lle bo'n berthnasol).
Bargyfreithwyr
Does dim angen i gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig sy'n fargyfreithwyr gyda chyfrifon cymorth cyfreithiol cyfredol wneud cais am gyfrif newydd. Dim ond bargyfreithwyr heb gyfrif cymorth cyfreithiol gweithredol xxxx xxxxx gwneud cais am gyfrif.
Mae'n rhaid i fargyfreithwyr mewn practis annibynnol gwblhau a chyflwyno'r dogfennau a ganlyn oherwydd, heb y rhain, ni fydd yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol yn gallu creu a chyflwyno rhif cyfrif cymorth cyfreithiol:
• Ffurflen AC1B.
• Copi o'u tystysgrif ymarfer neu lythyr gan Fwrdd Xxxxxxx'r Bar yn cadarnhau eu bod wedi cwblhau eu chwe mis cyntaf o dymor prawf.
• Copi o'u tystysgrif TAW (os ydynt wedi cofrestru ar gyfer TAW) (tystysgrif TAW yr unigolyn ac nid un eu cwmni).
Ymarferwyr CILE
Nid oes angen i gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig sy'n Ymarferwr CILEX (Cyfreithiwr ac Eiriolwyr CILEX) sydd â chyfrifon cymorth cyfreithiol cyfredol wneud cais am gyfrif newydd. Dim ond Eiriolwyr CILEX sydd heb gyfrif cymorth cyfreithiol gweithredol xxxx xxxxx gwneud cais am gyfrif.
Mae'n rhaid i ymarferwyr CILEX sydd heb gyfrif cymorth cyfreithiol gwblhau a chyflwyno'r ffurflen a'r dogfennau a ganlyn oherwydd, heb y rhain, ni fydd yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol yn gallu creu a chyflwyno rhif cyfrif cymorth cyfreithiol:
• Ffurflen AC1A.
Mae rhagor o fanylion ynglŷn â sut i hawlio tâl am waith a wneir i'w gweld yn yr arweiniad i gostau a gynhyrchir ar y xxx xxx y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol sydd ar gael ar: