Contract
1 Chwefror 2013
PROSIECT GWYRDD
PRESS RELEASE/ DATGANIAD I’R WASG TROI PROBLEM YN ADNODD
Nodi Viridor fel y Cynigydd a Ffefrir ar gyfer contract Prosiect Gwyrdd
Yn dilyn cyfnod o werthuso tendrau yn fanwl, mae’n xxxxxx gan Fwrdd Prosiect Prosiect Gwyrdd gyhoeddi ei argymhelliad i'r Cyd-bwyllgor y dylid nodi Viridor fel y Cynigydd a Ffefrir i roi datrysiad rheoli gwastraff sy’n gynaliadwy yn amgylcheddol ar waith ar ran y Bartneriaeth. Ni ellir dyfarnu statws Cynigydd a Ffefrir i Viridor tan iddo gael ei gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor ar 7 Chwefror, a xxxx xxx Cyngor sy'n rhan o'r Bartneriaeth mewn cyfarfodydd rhwng 26 Chwefror a 6 Mawrth.
Mae datrysiad Viridor, sy'n seiliedig ar gyfleuster Troi Gwastraff yn Ynni ym Mharc Trident yng Nghaerdydd, yn cynnig gwerth gwych am arian. O gymharu â’r trefniadau tirlenwi presennol, amcangyfrifir y bydd y 5 Cyngor yn sicrhau arbedion o fwy na £11 miliwn yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu. Ar gyfartaledd, mae hynny’n arbediad o 50% o gymharu â’r gost amcangyfrifedig o barhau i ddefnyddio safleoedd tirlenwi. Mae’r tueddiad hwn yn parhau drwy’r contract, gan fod y prosiect wedi sicrhau cyfradd chwyddiant gystadleuol iawn.
Yn ôl data gan Xxxxx, mae’r pris a gynigwyd gan Viridor yn is na’r rhan fwyaf o’r prosiectau rheoli gwastraff tebyg sydd wedi’u rhoi ar waith dros y pum mlynedd diwethaf ac mae’n sylweddol is na’r amcangyfrifon a wnaed yn 2009 yn yr Achos Busnes Amlinellol.
Gwnaeth y cyfnod caffael estynedig alluogi i drafodaethau pellach gael eu cynnal â’r ddau gynigydd olaf (Viridor a Veolia) yn ystod y cam terfynol. Amcangyfrifir bod hyn wedi arwain at leihau'r gost gyffredinol i'r bartneriaeth fwy na £90 miliwn, yn nhermau xxxxx xxxxx, dros gyfnod y gwasanaeth sef 25 mlynedd, gan alluogi’r prosiect i sicrhau’r fargen orau i drethdalwyr.
Mae’r Bartneriaeth wedi trafod â nifer o gwmnïau dros y tair blynedd ddiwethaf er mwyn cynnig datrysiad sy’n gynaliadwy yn amgylcheddol, effeithiol a fforddiadwy i drin gwastraff nad yw’n ymarferol i’w ailgylchu neu ei gompostio. Bydd Viridor yn creu ynni gwyrdd ac yn ailgylchu’r xxxx ludw o waelod y llosgydd i greu metel a deunydd adeiladu y gellir eu defnyddio. Xxx xxx Lywodraeth Cymru bolisi gwastraff sy’n canolbwyntio ar ailgylchu, ac mae’r xxxx bartneriaid yn datblygu gwasanaethau ailgylchu a chompostio i fodloni neu ragori ar y targedau hyn sy’n gyfreithiol rwymol.
Roedd y broses dendro ar agor i unrhyw dechnolegau sydd ar gael ac o ystyried polisi Llywodraeth Cymru i bennu targedau ailgylchu uchel iawn, dim ond mentrau Troi Gwastraff yn Ynni (llosgi) a gynigwyd gan y sector preifat. Ni fyddai'n fuddiol, yn eu barn nhw, i wario rhagor o arian ar ailgylchu mecanyddol pellach – a fyddai’n golygu talu costau drud heb fod angen.
Mae systemau Troi Gwastraff yn Ynni modern yn defnyddio technoleg sydd wedi profi’n llwyddiannus sy’n gweithredu’n unol â safonau llym iawn o ran allyriadau. Caiff y cyfleusterau hyn eu rheoleiddio’n llym gan Asiantaeth yr Amgylchedd ac fe’u
defnyddir yn helaeth yn Sgandinafia a Gorllewin Ewrop ochr yn ochr â mentrau ailgylchu a chompostio perfformiad uchel.
Bydd y buddsoddiad o £185 miliwn gan Viridor ym Mharc Trident yng Nghaerdydd yn creu dros 360 o swyddi ar anterth y gwaith adeiladu a llawer mwy mewn cadwyni cyflenwi lleol, 36 o swyddi llawn amser pan fo’n weithredol, yn ogystal â chyfleoedd hyfforddiant a phrentisiaeth.
Ymhlith y buddion cymunedol eraill bydd cronfa gymunedol o £50,000 y flwyddyn i gefnogi prosiectau lleol yn y 5 ardal awdurdod lleol; canolfan ymwelwyr i alluogi’r cyhoedd i weld y gwaith yn mynd rhagddo; a grŵp cyswllt â’r gymuned, yn cynnwys preswylwyr, aelodau etholedig ac Asiantaeth yr Amgylchedd, i ymgysylltu â’r Prosiect.
Xx x xxxx cyfleuster Viridor drin 350,000 o dunelli o wastraff xxx blwyddyn, bydd y Prosiect yn cyflenwi 172,000 o dunelli'r flwyddyn ar gyfartaledd - sef y gwastraff sy’n weddill unwaith y bydd y cyhoedd wedi ailgylchu gymaint â phosibl.
Bydd y cyfleuster yn gallu cynhyrchu 30 Megawat o drydan, sy’n ddigon o bŵer i ddiwallu anghenion trydan 50,000 o gartrefi yn llwyr. Bydd yr incwm o werthu’r trydan yn rhoi cymhorthdal i ad-dalu’r gost i’r Partneriaid yn rhannol. Bydd y bartneriaeth hefyd yn rhannu cyfran o incwm trydan drwy’r contract, os bydd y trydan yn costio mwy na’r disgwyl. Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt hefyd rhwng Viridor a chyflenwr trydan i ddatblygu rhwydwaith gwres i gyflenwi gwres i eiddo yng Nghaerdydd. Byddai hynny’n sicrhau buddion pellach o ran yr amgylchedd, effeithlonrwydd ynni a lleihau carbon.
Dywedodd Xxxxxx Xxxx, yr Uwch Swyddog sy’n gyfrifol am y Prosiect Gwyrdd, “Mae xxxx gwastraff rhag cael ei anfon i safleoedd tirlenwi yn creu manteision amgylcheddol sylweddol ac yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru a Deddfwriaeth Ewropeaidd, xxx xxxxx datblygu ffordd o ddelio â gwastraff nad yw’n ymarferol i’w ailgylchu na'i gompostio. Y prosiect hwn a hysbysebwyd ar sail technoleg niwtral, gyda phwyslais arbennig ar yr angen i xxxx gwastraff rhag cael ei anfon i safleoedd tirlenwi a Throi Gwastraff yn Ynni, oedd yr unig ddatrysiad a gynigwyd i’r bartneriaeth.
Bydd y bartneriaeth hon yn xxxx cryn dipyn o wastraff rhag cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, ar ôl bodloni targedau ailgylchu a chompostio fel y gall yr awdurdodau partner fodloni’r gofynion gwastraff a nodir yn y gyfraith gan Lywodraeth Cymru.
Cynhelir digwyddiadau cyhoeddus i gefnogi’r cyhoeddiad a bydd rhagor o wybodaeth ar gael i breswylwyr yn y man.”
Dywedodd Xxxxxx Xxxxxx, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Viridor: “Pleser o’r mwyaf yw clywed bod Viridor wedi’i argymell fel y Cynigydd a Ffefrir, ac yn dibynnu ar benderfyniad y Cyngor, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Prosiect i wneud y trefniadau terfynol a llofnodi’r contract erbyn yr haf.”
Nodiadau i Olygyddion:
Ymgysylltu â’r Cyhoedd
• Cynhelir digwyddiadau cyhoeddus fel y gall preswylwyr ymweld a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt i staff y Project a Viridor. Caiff llyfryn A5 sy’n cynnwys gwybodaeth am y cynllun ei anfon i breswylwyr sy’n byw o fewn milltir i’r safle, a rhannau eraill o Sblot. This will be accompanied by poster advertising, media
engagement as well as information put on xxx.xxxxxxxxxxxxxx.xx.xx and xxx.xxxxxxx.xx.xx .
Cost
• I weld adroddiad 2012 ar ffioedd giât Cyfleusterau Troi Gwastraff yn Ynni, ewch i: xxxx://xxx.xxxx.xxx.xx/xxxxx/xxxxx/xxxx/Xxxx%00Xxxx%00Xxxxxx%000000.xxx
Llywodraethu
• Yn unol â’r Cytundeb Cydweithio â’r 5 Awdurdod Lleol, cyflwynir yr argymhelliad ar gyfer y Cynigydd a Ffefrir i xxx Cyngor Llawn ynghyd â Chytundeb Cydweithio newydd rhwng partneriaid cam gweithredol y contract. Cyflwynir yr adroddiad ar Brosiect Gwyrdd i’r Cynghorau Llawn ddiwedd mis Chwefror.
Cyfleuster Masnachol Viridor
• Cyfleuster masnachol yw cyfleuster Viridor, sy’n golygu y byddai’r cwmni wedi adeiladu’r seilwaith p'un a fyddai wedi ennill contract Prosiect Gwyrdd ai peidio. Mae’r cyfleuster yn cael ei adeiladu ym Mharc Trident yng Nghaerdydd ac mae wedi cael caniatâd cynllunio gan Gyngor Caerdydd a thrwydded i weithredu gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn 2010.
• Y cwmni a gynigodd maint y cyfleuster (350,000 o dunelli'r flwyddyn) ac mae’n seiliedig ar eu tybiaethau masnachol o ran faint o wastraff y bydd xxxxx xx drin yn eu barn nhw. Mae’r prosesau cynllunio a thrwyddedu ar wahân i’r broses gaffael.
Polisi a Chyllid Llywodraeth Cymru
• Mae Achos Busnes terfynol wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru gyda’r telerau contract terfynol y cytunwyd arnynt. Unwaith iddo gael ei gymeradwyo, bydd y Bartneriaeth yn cael cymhorthdal o 25% o ffi giât y cyfleuster (sef cost pob xxxxxxx a gaiff ei anfon i’r cyfleuster gan y bartneriaeth)
• I gael rhagor o wybodaeth am Strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff Llywodraeth Cymru, ewch i: xxxx://xxxxx.xxx.xx/xxxxxx/xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx/xxx/xxxxx_xxxxxxxxx/xxxxxxxxx/?x xxx=1&lang=cy
• Mae’r targedau gwastraff canlynol wedi eu pennu yn y gyfraith gan Lywodraeth Cymru.
2009/10 - 40% cyfuniad o ailgylchu a chompostio 2012/13 - 52% cyfuniad o ailgylchu a chompostio 2015/16 - 58% cyfuniad o ailgylchu a chompostio 2019/20 - 64% cyfuniad o ailgylchu a chompostio 2019/20 – uchafswm o 10% i’w waredu drwy dirlenwi
2024/25 – o leiaf 70% o gyfuniad o ailgylchu a chompostio 2024/25 – uchafswm o 5% i’w waredu drwy dirlenwi.
• Y cyfraddau ailgylchu a chompostio cyfunol ar gyfer y 5 awdurdod partner (dros dro) yw:
Cyfradd ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio ar gyfer 2011/12:
Caerffili – 56%
Caerdydd – 50% Xxx Xxxxx – 55% Casnewydd – 46%
Bro Morgannwg – 50%
Contract a Gwaith Partneriaeth
• Bydd y penderfyniad i ddyfarnu’r contract yn mynd i xxx Cyngor Llawn ar y dyddiadau canlynol:
1. Casnewydd: Chwefror 26
2. Caerffili: Chwefror 27
3. Caerdydd: Chwefror 28
4. Xxx Xxxxx: Chwefror 28
5. Bro Morgannwg: Mawrth 6
• Bydd y contract yn para 25 mlynedd, gyda’r posibilrwydd o estyniad o 5 mlynedd. Xxxx xxxxx y diwydiant o ran hyd contractau i sicrhau bod prosiectau seilwaith mawr yn fforddiadwy a’n cynnig gwerth da am arian i’r sector cyhoeddus.
• Gan nad yw Prosiect Gwyrdd yn endid cyfreithiol, caiff y contract ei lofnodi gan Awdurdod Cynnal, sef Cyngor Caerdydd. Yna bydd Cytundeb Cydweithio yn rheoli’r contract rhwng yr Awdurdod Arweiniol a’r Partneriaid yn ystod cyfnod y contract.
• Bydd Partneriaeth yn rheoli’r termau y cytunwyd arnynt sydd wedi’u trafod â Viridor yn ystod y broses gaffael drwy’r System Dalu a’r Fframwaith Perfformiad. Caiff y trefniadau i reoli’r contract eu rheoli gan Reolwr Contract, sy’n atebol i Bwyllgor Prosiect Gwyrdd.
• Bydd y Prosiect yn rhoi Isafswm Tal Gwarantedig i Viridor, yn seiliedig ar faint o dunelli o wastraff a ragwelwyd i gyflawni targedau gwastraff Llywodraeth Cymru. Mae’r rhagamcanion gwastraff ar gyfer cyfnod y contract wedi’u seilio ar y cyfraddau ailgylchu presennol, cyfraddau ailgylchu’r dyfodol a thwf poblogaeth dros gyfnod y contract.
Y Broses Troi Gwastraff yn Ynni
• Caiff dau fath o ludw eu cynhyrchu drwy’r broses Troi Gwastraff yn Ynni (llosgi): Lludw Gwaelod Llosgydd (tua 20% o bwysau’r gwastraff a anfonir i’r safle) a Gweddillion Rheoli Llygredd Aer (2-3% o bwysau’r gwastraff a anfonir i’r safle). Mae’r prosiect wedi rhoi rhwymedigaeth gytundebol ar Viridor i ailgylchu 100% o’r Lludw Gwaelod Llosgydd, neu bydd yn rhaid xxxx xxxx cosbau ariannol. Bydd rheolaethau cytundebol ar waith hefyd i sicrhau bod Viridor yn adolygu’r marchnadoedd ailgylchu ar gyfer Gweddillion Rheoli Llygredd Aer, gan fod y marchnadoedd hyn ond megis dechrau ar hyn x xxxx. Nod y Prosiect yw sicrhau na chaiff unrhyw wastraff ei anfon i safleoedd tirlenwi.
• Xxx xxxx grwpiau ymgyrchu yn honni bod y llwch a gynhyrchir gan y broses losgi yn wenwynig. Cyngor Asiantaeth yr Amgylchedd yw y gellir ailgylchu Lludw Gwaelod Llosgydd ac maent yn datblygu gweithdrefn ansawdd i sicrhau y gellir xxxx y gwastraff hwn rhag cael ei anfon i safleoedd tirlenwi. Mae Gweddillion Rheoli Llygredd Aer wedi’u dosbarthu’n beryglus oherwydd y caiff calch pur ei ychwanegu at y nwyon asid i niwtraleiddio’r deunydd. Felly xxx xxx y Gweddillion Rheoli Llygredd Aer gynnwys alcalinaidd. Yr arfer cyfredol yw eu hanfon i safle tirlenwi gwastraff peryglus neu gyfleuster storio (h.y. mwynglawdd halen). Mae’r sector gwastraff yn datblygu opsiynau ailgylchu ar gyfer y deunydd hwn.
Rheoleiddio ac effaith ar iechyd
• Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn rheoleiddio pob cyfleuster Troi Gwastraff yn Ynni, a gellir llawrlwytho gwybodaeth am y broses reoleiddio o’r wefan yn www.environment- xxxxxx.xxx.xx/.
• Mae’n rhaid i xxx xxxxxx gwastraff sy’n cynnwys llosgi gydymffurfio â’r Gyfarwyddeb Llosgi Gwastraff. Mae’r ddeddf hon yn gosod rheoliadau caeth ar allyriadau o xxx math o dechnolegau Troi Gwastraff yn Ynni, gan gynnwys Pyrolysis, Nwyeiddio a Throi Gwastraff yn Ynni gyda Gwres ac Ynni Cyfunol (Llosgi). Mae’r technolegau hyn yn ofynnol i fonitro allyriadau i sicrhau eu bod o leiaf yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau yng Nghyfarwyddeb Llosgi Gwastraff yr Undeb Ewropeaidd (2000/76/EC) sy’n nodi rheoliadau gollyngiadau llym ar lygryddion. Mae’r Gyfarwyddeb wedi’i rhoi ar waith yng Nghymru a Lloegr gan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr)
2007. O Ebrill 2008 disodlodd y rhain Reoliadau Xxxx a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000. Gellir gweld canllawiau ar y ddeddfwriaeth hon drwy ddilyn y ddolen ganlynol: xxxx://xxx.xxxxx.xxx.xx/xxxxxxxxxxx/xxxxxxx/xxxxxxxxxx/xx-xxxxxxxxxxxxx/xxx/
• Cyhoeddodd yr Asiantaeth Diogelu Iechyd ddau adroddiad ym mis Medi 2009 a mis Chwefror 2010 a oedd yn mynd i’r afael ag effeithiau iechyd llosgi gwastraff dinesig. Gellir gweld yr adroddiadau drwy ddilyn y ddolen ganlynol: xxxx://xxx.xxxxxxxxxx.xxx.xx/xxxxxxxxxxxxxx/xxxx/XXX- 13%20for%20web%20with%20security.pdf
• Mae’r effeithiau cymharol ar iechyd gyda gwahanol ddulliau o waredu gwastraff wedi’u hystyried yn fanwl mewn adroddiad a luniwyd ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra 2004). Gellir gweld crynodeb o’r gwaith ymchwil helaeth hwn drwy ddilyn y ddolen ganlynol: xxxx://xxxxxxx.xxxxx.xxx.xx/xxxxxxxxxxx/xxxxx/xxxxxxxxxx/xxxxxxxxx/xxxxxx-xxxxxx.xxx
• Roedd y gwaith ymchwil hwn, ‘The Review of the Environmental and Health Effects of Waste Management Municipal Solid Waste and Similar Wastes’, yn ystyried 23 astudiaeth o safon uchel ar batrymau afiechydon o amgylch safleoedd Troi Gwastraff yn Ynni a phedwar papur yn edrych ar effeithiau iechyd safleoedd Troi Gwastraff yn Ynni. Daeth i’r casgliad nad oes cyswllt pendant rhwng gwaith Troi Gwastraff yn Ynni ac effeithiau negyddol ar iechyd.
(Diwedd)
Paratowyd gan Prosiect Gwyrdd E-xxxx: xxxx@xxxxxxxxxxxxxx.xx.xx
Ffôn: 02920 717566