HYSBYSIAD PREIFATRWYDD LLAWN
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD LLAWN
Ar gyfer buddion yr aelodau a buddiolwyr a gweinyddir gan Gronfa Bensiwn Dyfed
Hysbysiad yw hwn ar gyfer aelodau [a buddiolwyr] o Gynlluniau Pensiwn y Llywodraeth Leol, Heddlu â Diffoddwyr Tân a gweinyddwyd gan Gronfa Bensiwn Dyfed (y “Gronfa”). Fe’i paratowyd gan Cyngor Sir Caerfyrddin (yr “Awdurdod Gweinyddu”, neu “ni”) yn rhinwedd ei rôl fel yr awdurdod sy’n gweinyddu Cronfa Bensiwn Dyfed, yn ogystal a gweinyddu Cynllun Pensiwn yr Heddlu â Chynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn ar gael hefyd ar y ddolen ganlynol: xxx.xxxxxxxxxxxxxxxxxx.xxx.xx
Xxx ydyn ni’n darparu’r hysbysiad hwn ichi
Fel Awdurdod Gweinyddu’r Gronfa rydym yn dal rhywfaint o wybodaeth amdanoch (“data personol”) sy’n cael ei defnyddio gennym i weinyddu’r Gronfa ac i dalu buddion ichi. Diben yr hysbysiad hwn yw rhoi gwybodaeth ichi am y data yr ydym yn ei ddal amdanoch, sut yr ydym yn ei ddefnyddio, xxxx hawliau mewn perthynas â’r data a’r mesurau diogelu sydd wedi’u sefydlu i’w ddiogelu.
Y rhan technegol
Mae’r Awdurdod Gweinyddu yn dal data personol amdanoch yn rhinwedd ei rôl fel rheolydd data i sicrhau yr ymdrinnir yn briodol â phob mater yn ymwneud â’r Gronfa, yn cynnwys ei gweinyddu a’i rheoli. Mae hyn yn cynnwys yr angen i brosesu’ch data er mwyn cysylltu â chi, i gyfrifo, sicrhau a xxxxx xxxx buddion, i wneud gwaith modelu ystadegol ac ariannol ac at ddibenion cyfeirio (er enghraifft, pan fyddwn yn asesu faint o arian sydd xx xxxxx i ddarparu buddion yr aelodau a sut y dylai’r arian hwnnw gael ei fuddsoddi), ac i reoli rhwymedigaethau a gweinyddu’r Gronfa yn gyffredinol. Caiff rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn defnyddio’ch data personol ei darparu isod.
Yn gyffredinol, y sylfaen gyfreithiol i’n defnydd o’ch data personol fydd un neu ragor o’r canlynol:
a) xxx xxxxx inni brosesu’ch data personol i gyflawni’n rhwymedigaethau cyfreithiol fel Awdurdod Gweinyddu’r Gronfa; a
b) xxx xxxxx inni brosesu’ch data personol er mwyn cyflawni tasg xx xxxx y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol yn ein rôl fel xxxxx cyhoeddus; a
c) oherwydd bod angen inni brosesu’ch data personol i gyflawni’n rhwymedigaethau cytundebol ichi mewn perthynas â’r Gronfa (er enghraifft, o xxx gytundeb y byddwch chi’n talu cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol i’r Gronfa), neu i gymryd camau, ar xxxx cais chi, cyn ymrwymo i gontract.
Pa ddata personol ydyn ni’n ei ddal, a sut ydyn ni’n ei gael
Mae’r mathau o ddata personol rydyn ni’n ei ddal ac yn ei brosesu amdanoch yn gallu cynnwys:
• Manylion cyswllt, yn cynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriad ebost.
• Manylion adnabod, yn cynnwys dyddiad geni, rhif yswiriant gwladol a rhif gweithiwr a rhif aelodaeth. Gwybodaeth sy’n cael ei defnyddio i gyfrifo ac asesu cymhwyster am
fuddion, er enghraifft, hyd y cyfnod o wasanaeth neu aelodaeth a gwybodaeth am xxxx cyflog.
• Gwybodaeth ariannol sy’n berthnasol wrth gyfrifo neu dalu buddion, er enghraifft, manylion cyfrif banc a threth.
• Gwybodaeth am xxxx teulu, dibynyddion neu amgylchiadau personol, er enghraifft, statws priodasol a gwybodaeth berthnasol i ddosbarthu a dyrannu’r buddion sy’n daladwy ar farwolaeth.
• Gwybodaeth am xxxx iechyd, er enghraifft, i asesu cymhwyster am fuddion sy’n daladwy pan fydd iechyd rhywun yn wael, neu lle mae’ch iechyd yn berthnasol i hawliad am fuddion yn dilyn marwolaeth aelod o’r Gronfa.
• Gwybodaeth am euogfarn droseddol os yw hynny wedi golygu bod arnoch chi arian i’ch cyflogwr neu’r Gronfa ac y gallai’r cyflogwr neu’r Gronfa gael eu had-dalu o’ch buddion.
Rydym yn cael peth o’r data personol hwn yn uniongyrchol oddi wrthych chi. Gallwn hefyd gael data (er enghraifft, gwybodaeth am xxxx cyflog) oddi wrth xxxx cyflogwr/wyr cyfredol neu flaenorol neu gwmnïau a’u holynydd mewn busnes, oddi wrth aelod o’r Gronfa (lle’r ydych xxx xxx lle xxxxxxx fod yn fuddiolwr o xxx y Gronfa o ganlyniad i aelodaeth y person hwnnw o’r Gronfa) ac o amrywiaeth o ffynonellau eraill yn cynnwys cronfeydd data cyhoeddus (megis y Gofrestr Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau), ein cynghorwyr neu gyrff llywodraeth neu gyrff rheoleiddio, yn cynnwys y rheini ar y rhestr o sefydliadau y gallwn rannu’ch data personol gyda nhw, sydd wedi’i nodi isod.
Lle’r ydym yn cael gwybodaeth am rai “categorïau arbennig” o ddata neilltuol o sensitif, megis gwybodaeth am iechyd, mae mesurau diogelu ychwanegol mewn grym o xxx y ddeddfwriaeth diogelu data. Dim ond gyda’ch caniatâd chi y byddwn yn prosesu’ch data personol sy’n dod o fewn un o’r categorïau arbennig, oni bai ein bod yn gallu prosesu’r data hwn yn gyfreithlon am reswm arall a ganiateir gan y ddeddfwriaeth honno. Mae gennych yr hawl i dynnu’ch caniatâd i brosesu yn ôl ar unrhyw adeg drwy hysbysu’r Awdurdod Gweinyddu yn ysgrifenedig. Fodd bynnag, os na roddwch xxxx caniatâd, neu os byddwch yn ei dynnu’n ôl yn ddiweddarach, efallai na fydd yr Awdurdod Gweinyddu yn gallu prosesu’r wybodaeth berthnasol i wneud penderfyniadau wedi’u seilio arni, yn cynnwys penderfyniadau am xxxx xxxx buddion.
Lle’r ydych wedi darparu data personol inni am unigolion eraill, megis aelodau o’r teulu, dibynyddion neu fuddiolwyr posibl o xxx y Gronfa, cofiwch wneud yn siŵr fod yr unigolion hynny’n ymwybodol o’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr hysbysiad hwn.
Sut byddwn ni’n defnyddio’ch data personol
Byddwn yn defnyddio’r data hwn i ddelio â’r xxxx faterion yn ymwneud â’r Gronfa, yn cynnwys ei gweinyddu a’i rheoli. Gall hyn gynnwys prosesu xxxx data personol at xxx un xxx unrhyw rai o’r dibenion canlynol:
• i gysylltu â chi.
• i asesu cymhwyster am fuddion, eu cyfrifo a’u darparu ichi (ac, os ydych yn aelod o’r Gronfa, i’ch buddiolwyr ar xxxx marwolaeth).
• i nodi xxxx opsiynau posibl neu wirioneddol o ran buddion.
• at ddibenion modelu ystadegol ac ariannol a dibenion cyfeirio (er enghraifft, pan fyddwn yn asesu faint o arian sydd xx xxxxx i ddarparu buddion yr aelodau a sut y dylai’r arian hwnnw gael ei fuddsoddi).
• i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol fel awdurdod gweinyddu’r Gronfa.
• i ymdrin ag ymholiadau gan aelodau a buddiolwyr eraill ac i ymateb i unrhyw anghydfod gwirioneddol neu bosibl ynglŷn â’r Gronfa.
• i reoli rhwymedigaethau’r Gronfa, yn cynnwys ymrwymo i drefniadau yswiriant a dewis buddsoddiadau’r Gronfa.
• mewn perthynas â gwerthu, uno neu ad-drefnu corfforaethol ar unrhyw fusnes neu drosglwyddo busnes o eiddo’r cyflogwyr sy’n rhan o’r Gronfa a chwmnïau’u grŵp.
Sefydliadau y byddwn efallai yn rhannu’ch data personol gyda nhw
X xxxx i’w gilydd byddwn yn rhannu’ch data personol gyda chynghorwyr a darparwyr gwasanaethau fel y xxxxxxx ein helpu i gyflawni’n dyletswyddau, ein hawliau a’n disgresiwn mewn perthynas â’r Gronfa. Bydd rhai o’r sefydliadau hyn yn prosesu’ch data personol ar ein rhan ac yn unol â’n cyfarwyddiadau. Bydd sefydliadau eraill yn gyfrifol i chi’n uniongyrchol am eu defnydd o ddata personol rydyn ni’n ei rannu gyda nhw. Cyfeirir atyn nhw fel rheolyddion data ac rydym yn eu nodi yn y tabl isod. Gallwch weld eu polisïau diogelu data nhw eu hunain (a fydd yn gymwys i’w defnydd nhw o’ch data chi) ar eu gwefannau.
Mewn perthynas â’r Gronfa, mae’r sefydliadau hyn yn cynnwys:
Prosesyddion data • Gwasanaethau Cyfrifyddu (Cyngor Sir Caerfyddin) • Swyddfeydd olrhain ar gyfer sgrinio marwolaethau a lleoli aelodau – (ATMOS Data Services ar hyn x xxxx) • Darparwr taliadau dramor i drosglwyddo taliadau i aelod o’r cynllun sydd â chyfrifon y tu xxxxx i’r DU – (Western Union ar hyn x xxxx) • Cwmnïau argraffu – (amrywiol, fel y’u penodwyd fesul tendr) • Darparwr meddalwedd pensiynau – (Xxxxxx Xxxxxxx ar hyn x xxxx) • Cyflenwyr gwasanaethau TG, cynhyrchu a dosbarthu dogfennau • Biwro olrhain sy'n lleoli aelodau - (Target Professional Services ar hyn x xxxx, fel y’u penodwyd fesul tendr). | Rheolyddion data • Ymgynghorydd actiwaraidd – (Mercers ar hyn x xxxx) • Ymgynghorydd buddion y cynllun – Mercers ar hyn x xxxx) • Darparwyr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol – (Prudential, Standard Life & Equitable Life ar hyn x xxxx) • Cynghorydd cyfreithiol – (Eversheds ar hyn x xxxx) • Actiwari’r Gronfa – (Mercers ar hyn x xxxx) • Archwilydd allanol – (Archwiliad Cyffredinol i Gymru ar hyn x xxxx) • Archwilydd mewnol – (Cyngor Sir Caerfyrddin ar hyn x xxxx) • Cronfa ddata Yswiriant Gwladol y Gronfa – (Awdurdod Pensiynau De Swydd Efrog) • Yr Adran Gwaith a Phensiynau • Adran Actiwari’r Llywodraeth • Swyddfa’r Cabinet – at ddibenion y Cynllun Xxxx Twyll Cenedlaethol • Llywodraeth Cymru • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cenedlaethol • Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol • Swyddfa Gartref • CThEM • Llysoedd Cymru a Lloegr – i’r diben o brosesu gorchmynion rhannu pensiwn ar ysgariad |
• Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (ar gyfer gweithwyr cyfredol a cyn weithwyr yn unig)
• Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (ar gyfer gweithwyr cyfredol a cyn weithwyr yn unig)
• Heddlu Dyfed-Powys (ar gyfer gweithwyr cyfredol a cyn weithwyr yn unig)
• Cyflogwyr y Cynllun
Ym mhob achos, ni fyddwn ond yn gwneud hyn i’r graddau yr ydym yn credu bod angen rhesymol am y wybodaeth i’r dibenion hyn.
X xxxx i’w gilydd efallai y byddwn yn darparu peth o’ch data i’ch cyflogwr a’i is-gwmnïau perthnasol (a darpar brynwyr eu busnesau) a chynghorwyr i’r diben o alluogi’ch cyflogwr i ddeall ei rwymedigaethau i’r Cynllun. Byddai’ch cyflogwr yn gyffredinol yn rheolydd ar y data personol a rennir gydag ef yn yr amgylchiadau hynny. Er enghraifft, lle mae’ch cyflogaeth chi yn ymwneud â darparu gwasanaethau sy’n ddarostyngedig i drefniant darparu o ffynhonnell allanol, gallai’r Awdurdod Gweinyddu ddarparu gwybodaeth am xxxx buddion pensiwn i’ch cyflogwr ac i ddarpar gynigwyr am y contract hwnnw pan ddaw i xxx xxx pan gaiff ei adnewyddu.
Lle gwneir cais neu os ydym o’r farn fod angen rhesymol am hynny, gallwn hefyd ddarparu’ch data i gyrff llywodraeth a sefydliadau datrys anghydfodau a gorfodi’r gyfraith, yn cynnwys y rhai a rhestrir uchod, y Rheoleiddiwr Pensiynau, yr Ombwdsmon Pensiynau a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM). Gallan nhw wedyn ddefnyddio’r data i gyflawni’u swyddogaethau cyfreithiol.
Gall y sefydliadau y cyfeirir atynt yn y paragraffau uchod ddefnyddio’r data personol i gyflawni’u swyddogaethau mewn perthynas â’r Gronfa yn ogystal ag ar gyfer modelu ystadegol ac ariannol (megis cyfrifo costau cyfartalog disgwyliedig buddion a chyfraddau marwolaethau) ac at ddibenion cynllunio, gweinyddu busnes a rheoleiddio. Xxxxxxx hefyd xxxxx’r data i drydydd partïon eraill (er enghraifft, gall yswirwyr basio data personol i gwmnïau yswiriant eraill i’r diben o ailyswirio), i’r graddau y maent yn ystyried bod gofyn rhesymol am y wybodaeth at ddiben cyfreithlon.
Mewn rhai achosion gallai’r cyrff derbyn hyn fod y tu xxxxx i’r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu y gallai’ch data personol gael ei drosglwyddo y tu xxxxx i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd i awdurdodaeth nad yw efallai yn cynnig lefel ddiogelu sy’n cyfateb i’r gofynion yng ngwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Os digwydd hyn, rhaid inni wirio bod mesurau diogelu priodol yn cael eu rhoi ar xxxxx xxxx golwg ar ddiogelu xxxx data yn unol â’r cyfreithiau cymwys. Defnyddiwch y manylion cyswllt isod os ydych am gael rhagor o wybodaeth am y mesurau diogelu sydd ar waith ar hyn x xxxx.
Nid ydym yn defnyddio’ch data personol at ddibenion marchnata ac ni fyddwn yn rhannu’r data hwn gydag unrhyw un i’r diben o farchnata i chi nac i unrhyw fuddiolwr.
Pa mor hir ydyn ni’n cadw’ch data personol
Ein nod yw cadw'ch Gwybodaeth Bersonol Pensiwn ar ein systemau ar gyfer yr hiraf o'r cyfnodau canlynol:
a) i'n galluogi i gyflawni ein rhwymedigaethau o ran gweinyddu'r Cynllun ac unrhyw wasanaethau y gofynnwyd amdanynt;
b) am y cyfnod sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith; a
c) am y cyfnod i'n galluogi i ddangos tystiolaeth, mewn perthynas ag unrhyw hawliad a wneir gennych chi, yn ymwneud â'ch aelodaeth o'r Cynllun, gan gynnwys, heb gyfyngiad, p'un a gawsoch ad-daliad o gyfraniadau, a oedd wedi talu taliad trosglwyddo neu wedi cymryd lwmp swm yn lle pob un neu ran o fuddion xxxx Cynllun.
Bydd hyn yn golygu y bydd prosesu xxxx Gwybodaeth Bersonol Pensiwn yn parhau ar ôl i chi roi'r gorau i gael unrhyw fuddion yn y Cynllun.
Xxxx hawliau
Os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o’r hawliau hyn neu os oes gennych gwestiynau neu bryderon ynglŷn â’r prosesu ar xxxx data personol, cysylltwch â Gweinyddwr y Gronfa fel y nodir isod. Mae gennych hawl hefyd i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ynglŷn â’r hysbysiad preifatrwydd hwn neu weithgareddau prosesu’r Awdurdod Gweinyddu – gallwch wneud hynny drwy’r wefan uchod neu’i llinell gymorth.
Mae’r data personol yr ydym yn ei ddal amdanoch yn cael ei ddefnyddio i weinyddu xxxx buddion o'r Gronfa xx x xxxx i’w gilydd efallai y byddwn yn gofyn ichi am wybodaeth xxxxxxx i’r diben hwn. Os na fyddwch yn darparu gwybodaeth o’r fath, neu os byddwch yn gofyn am i’r data personol yr ydym yn ei ddal yn xxxxx xxxx ei ddileu neu am gyfyngu arno, gallai hyn effeithio ar dalu buddion i chi (neu’ch buddiolwyr) o xxx y Gronfa. Mewn rhai achosion gallai olygu nad yw’r Awdurdod Gweinyddu yn gallu dechrau xxxx xxxx pensiwn neu fod rhaid iddo xxxx xxxx pensiwn (os yw eisoes yn cael xx xxxx).
Diweddariadau
Efallai y byddwn yn diweddaru’r hysbysiad hwn x xxxx i’w gilydd. Lle’r ydym yn gwneud hyn, byddwn yn hysbysu’r aelodau o’r newidiadau a’r dyddiad pan fydd y newidiadau’n dod i rym.
Cysylltu â ni
Cysylltwch â gweinyddwr y Gronfa am ragor o wybodaeth:
Cronfa Bensiwn Dyfed (fel y'i gweinyddir gan Gyngor Sir Caerfyrddin) Neuadd y Sir
Caerfyrddin SA31 1JP
Rhif Ffôn: 01267 224 043
Cyfeiriad E-xxxx: xxxxxxxxx@xxxxxx.xxx.xx Gwefan: xxx.xxxxxxxxxxxxxxxxxx.xxx.xx
Swyddog Diogelu Data
Gallwch hefyd gysylltu â’n swyddog diogelu data am ragor o wybodaeth: Xxxx Xxxxxxx
Swyddog Diogelu Data Cyngor Sir Caerfyrddin Neuadd y Sir Caerfyrddin
SA31 1JP