Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol
Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol
2016-2017
1. Cyflwyniad
Dyma'r Adroddiad Blynyddol cyntaf ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol Conwy (2016-2020) ar gyfer y cyfnod 2016-2017.
Mae'r Ddyletswydd Gyffredinol, a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, yn gofyn i ni roi sylw dyledus i:
• ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon;
• hyrwyddo cyfle cyfartal;
• a meithrin cysylltiadau da.
Mae Rheoliadau Dyletswyddau Statudol (Cymru) 2011, y cyfeirir ato'n aml fel y Dyletswyddau Penodol, yn ei gwneud ofynnol i ni adrodd ar y meysydd canlynol, er mwyn dangos ein bod wedi rhoi ystyriaeth briodol i’r Ddeddf:
1.1 Y camau yr ydym wedi'u cymryd i nodi, casglu a defnyddio
Gwybodaeth Berthnasol, ac effeithiolrwydd y trefniadau hyn.
1.2 Cynnydd tuag at gyflawni pob amcan cydraddoldeb, gan gynnwys datganiad ar effeithiolrwydd y camau a gymerwyd
1.3 Gwybodaeth cyflogaeth benodedig, gan gynnwys gwybodaeth am staff, recriwtio, hyfforddi a thalu
Bydd gweddill yr adroddiad hwn yn cynnwys y tri phrif xxxx xxx. Dylai'r adroddiad hwn gael ei ddarllen ar y cyd ag Atodiad 1 sydd yn amlinellu’n fanwl y gweithgareddau a wneir yn erbyn ein Cynllun Gweithredu CCS ar gyfer blwyddyn gyntaf ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020.
2. Gwybodaeth Berthnasol
Defnyddiom dystiolaeth sy'n ymwneud â chydraddoldeb i’n helpu i bennu’r amcanion cydraddoldeb a nodir yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac rydym hefyd yn defnyddio data perthnasol wrth gynnal ein Hasesiadau Effaith ar Gydraddoldeb. Bydd peth o’r data wedi’i gysylltu ag ystadegau cenedlaethol a lle bynnag y mae ar gael, rydym yn ceisio defnyddio data lleol a rhanbarthol gan fod hwn yn fwy perthnasol i ni ac rydym hefyd yn ystyried gwybodaeth a gafwyd o weithgareddau ymgysylltu yng Nghonwy yn ogystal â mewn cysylltiad â’n partneriaid Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Gogledd Cymru, er enghraifft:
• Tystiolaeth ystadegol a gasglwyd mewn gwasanaethau
• Gwybodaeth a oedd yn cael ei chadw gan sefydliadau sector cyhoeddus eraill fel Ystadegau Iechyd, Addysg, Cyflogaeth a’r Heddlu
• Data Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gan gynnwys ‘A yw Prydain yn Decach?’ ac 'A yw Cymru’n Decach?'
• Gwybodaeth ac adborth o ddigwyddiadau Xxxx-ddeiliaid Rhanbarthol (manylion wedi’u cyhoeddi ar ein gwefan)
• Gwybodaeth ac adborth o ymarferion ymgysylltu lleol eraill
• Data Monitro Cyflogaeth
• Ystadegau Cydraddoldeb yn ymwneud â Chonwy
Pan ddatblygom ein Hamcanion Cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol, gwnaethom adolygu ein dogfen Data Cefndir ac Ymchwil (sydd ar gael ar wefan Conwy fel dogfen ategol i’n Cynllun Cydraddoldeb
Strategol a gyhoeddwyd) sy'n nodi’r data perthnasol a ddefnyddiwyd gennym wrth adolygu a chytuno ar ein hamcanion cydraddoldeb. Yn aml, rydym yn sylwi bod data cydraddoldeb yn ymddangos wedi dyddio oherwydd y cyfnod rhwng casglu’r data, ei nodi mewn tablau ystyrlon, ac yna eu dadansoddi a’u cyhoeddi. Felly, gallai fod yn nifer o flynyddoedd cyn ein bod yn gallu gwneud cysylltiadau cryf rhwng canlyniadau ein Hamcanion Cydraddoldeb a'r data a adroddwyd.
Mae ein xxx Gwybodaeth ac Ymchwil Gorfforaethol yn cyhoeddi dogfen yn flynyddol o'r enw "Bwletin Ymchwil Ystadegau Cydraddoldeb" sy'n darparu'r data cydraddoldeb diweddaraf sydd ar gael am gyfansoddiad y bobl yn ein Sir. Cyfeirir at yr wybodaeth xxx xxx swyddogion wrth gynnal Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb ac ymgynghoriadau. Mae'r xxx hefyd
yn cefnogi gwasanaethau pan maent yn ymgymryd ag ymgynghoriad wrth ddadansoddi'r data a gesglir o weithgareddau o'r fath.
Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi ymgysylltu llawer wrth gynnal ein Hasesiad Llesiant ac wrth ddatblygu ein Cynllun Corfforaethol ac wedi gwella ein cysylltiadau gyda grwpiau anodd eu cyrraedd wrth wneud hyn. Rydym wedi dysgu llawer o’r ymyriadau ymgysylltu hyn ac wedi ystyried yr wybodaeth wrth ganfod a datblygu ein blaenoriaethau i’r dyfodol.
Adroddodd Cyfrifiad 2011 ar gyfer Conwy bod 95.4% o'r boblogaeth yn Wyn Prydeinig, 2.2% yn Wyn Arall a 2.4% heb fod yn Wyn (yn erbyn ffigurau Cymru gyfan o 93.2%, 2.3% a 4.8% yn y drefn honno). Roedd 48.4% o'r boblogaeth yn ddynion, 24.8% yn anabl, a 0.9% yn Lesbiaid, Hoyw neu Ddeurywiol. Roedd 16.5% o'r boblogaeth yn 0-15 oed, 58.9% yn 16-64 oed, 24.6% yn 65+ oed a 3.8% yn 85+ oed. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i gymharu yn erbyn ein data monitro cydraddoldeb ein hunain i weld pa mor agos y mae’n cyd-fynd â gwneuthuriad ein cymuned leol.
Mae’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol 2016 yn dweud wrthym fod 4.5% o boblogaeth Cymru heb fod yn wyn (mae data ar gyfer Conwy yn llai dibynadwy gan ei fod yn seiliedig ar faint sampl felly data’r Cyfrifiad (2.4%) yw’r data mwyaf dibynadwy). Wrth i ni fonitro cyfansoddiad ein disgyblion ysgol, rydym yn gwybod yn 2017, bod 93.4% (i xxxx) o'r disgyblion yn Wyn Prydeinig, 2% (i fyny) yn y grŵp Xxxx Arall, 0.2% (i fyny) yn Sipsiwn/Teithwyr a 3.8% yn Bobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig. Yn 2015, dangosodd amcangyfrif poblogaeth canol blwyddyn ONS bod 48.6% yn ddynion a 51.4% yn ferched yng Nghonwy, gyda 16.3% rhwng 0-15 oed, 57.2% rhwng 16-64 oed, 26.6% 65-84 oed (sydd yn llawer uwch na chanran Cymru 20.2% neu’r DU o 17.8%) a 4% 85+ oed (o'i gymharu â Chymru ar 2.6% neu DU yn 2.3%).
Nid oes data ar gael am bobl sy'n drawsryweddol ar lefel awdurdodau unedol neu ar lefel genedlaethol. Nid oes ffynhonnell gynhwysfawr o ddata ynglŷn ag anabledd. Mae Cyfrifiad 2011 yn darparu gwybodaeth ynglŷn â salwch cyfyngol tymor hir sy’n dangos bod gan 12.1% salwch cyfyngol sy’n effeithio ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd “llawer iawn”, a 12.2% “ychydig”, a 75.8% heb unrhyw salwch cyfyngol. Xxx xxxx i 12% o’r boblogaeth yn darparu gofal di-dâl yng Nghonwy (13,605 o bobl). Mae cofrestr o bobl â nam corfforol a/neu nam ar y synhwyrau a phobl ag anableddau dysgu sy’n defnyddio’r Gwasanaethau Cymdeithasol, ond dim ond gwybodaeth am y bobl hynny sy’n defnyddio gwasanaethau’r Cyngor
sydd yma, ac yn 2015/16 roedd yn 7.2% yn erbyn ffigur Cymru gyfan o 3.0%. Daw’r unig ddata am gysylltiadau crefyddol o Gyfrifiad 2011 gyda 65% yn Gristnogion, 25% heb unrhyw grefydd, 0.5% yn Fwslemaidd, 0.3% yn Fwdhaidd, 0.2% yn Hindw a 0.1% yn Iddewig. Xxx xxx Gyfrifiad 2011 ddata ar yr iaith Gymraeg wedi'i ddadansoddi yn ôl oedran, cenedligrwydd ac ardal ddaearyddol ac mae’r Cyfrifiad Ysgolion yn darparu data am ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg. Does gan 60% o boblogaeth Conwy ddim gwybodaeth o’r Gymraeg, mae 27% yn siaradwyr Cymraeg a 20% yn siarad, ysgrifennu a darllen Cymraeg. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fwyaf cyffredin ymysg unigolion o oedran ysgol; gall 49.2% o rai 5-15 oed siarad Cymraeg ym Mwrdeistref Sirol Conwy, o gymharu â 40.3% yng Nghymru.
Nid oes data dibynadwy am faint y boblogaeth hoyw, lesbiaid neu ddeurywiol yn y DU. Mae amcangyfrifon o amrywiol ffynonellau yn amrywio o 0.3% i 10%, ond nid ydynt yn caniatáu ar gyfer pobl nad ydynt yn adrodd neu’n cam-adrodd ac xxxxx xxx'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn credu bod y ffigurau hyn wedi’u tan gyfrif. Mae'r Adran Masnach a Diwydiant yn rhoi amcangyfrif swyddogol bod 5-7% o boblogaeth Prydain yn hoyw, lesbiaid neu ddeurywiol.
Mae ein Uned Gwasanaethau Gwybodaeth a Chwsmeriaid Corfforaethol yn monitro nifer y cwynion a dderbyniwyd. Yn ystod y cyfnod 2016-2017, roedd 3 chwyn yn ymwneud â materion cydraddoldeb anabledd. Roedd un yn ymwneud â chwynion gan sawl aelod o gymuned y Byddar ynglŷn ag xxxx y contract Gwasanaethau Cymdeithasol gyda Chymdeithas y Byddar Gogledd Cymru (NWDA). Mae trefniadau wedi’u sefydlu i roi cefnogaeth ac mae trafodaethau yn parhau ynglŷn â threfniant tymor hir i gefnogi’r gymuned ehangach o bobl Fyddar yng Nghonwy.
Roedd ail xxxx yn ymwneud ag anallu cwsmeriaid i gael seddau addas i gadeiriau olwyn ar gyfer digwyddiad ond cafodd hyn ei ddatrys gan yr hyrwyddwr wedi iddynt drefnu seddau ar y platfform gwylio hygyrch.
Roedd y trydydd yn ymwneud ag ymddygiad grŵp bychan o gwsmeriaid mewn awditoriwm pan gwnaethant ruthro rhwng dau ddefnyddiwr cadair olwyn wrth adael, gan achosi i’r defnyddwyr cadair olwyn gael eu gwthio. Anfonwyd llythyr o ymddiheuriad gan esbonio ein bod yn neilltuo un o’n stiwardiaid gwirfoddol i edrych ar ôl yr ardal gadeiriau olwyn ond oherwydd nad oedd hyn wedi digwydd byddant yn trefnu hyfforddiant ac ymwybyddiaeth ychwanegol i wirfoddolwyr.
Cafwyd 57 cwyn anffurfiol Cam 1 yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn y cyfnod hwn, gyda dim ond 5 yn symud ymlaen i Gam 2 (cwyn ffurfiol). Nid oedd yr un o’r cwynion hyn yn ymwneud â materion cydraddoldeb ac roeddent yn ymwneud â chamddealltwriaeth ynglŷn â phrosesau a gweithdrefnau, cyfathrebu a swm y cyswllt.
Mae llawer o le i wella o ran pryd a sut yr ydym yn casglu data cydraddoldeb ac rydym yn bwriadu gwella yn y xxxx hwn yn barhaus. Mae hon yn weithred barhaus o fewn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
3. Cynnydd tuag at gyflawni pob Xxxxx Xxxxxxxxxxxx
Mae Amcanion Cydraddoldeb Conwy wedi'u hamlinellu yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol. At ddiben yr adroddiad hwn, mae amcanion 2012-2015 fel a ganlyn:
• Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd
• Lleihau canlyniadau anghyfartal mewn Addysg er mwyn uchafu potensial unigolion
• Lleihau anghydraddoldeb mewn Cyflogaeth a Thâl
• Lleihau anghydraddoldeb o ran Diogelwch Personol
• Lleihau anghydraddoldeb o ran Cynrychiolaeth a Llais
• Lleihau anghydraddoldeb o ran cael Mynediad at wybodaeth, gwasanaethau, adeiladau a’r amgylchedd
Nodwyd yr amcanion hyn ar y cyd â phartneriaid sector cyhoeddus Gogledd Cymru (y cyfeirir atynt fel Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Gogledd Cymru). Mae'r Rhwydwaith yn cynnwys Arweinwyr Cydraddoldeb ym mhob un o'r chwe Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru (Conwy, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam), Bwrdd Iechyd Prifysgol Xxxxx Cadwaladr (BIPBC), Heddlu Gogledd Cymru ac Awdurdod yr Heddlu, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Ymddiriedolaeth GIG, Coleg Cambria, y Gwasanaeth Prawf ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Xxx xxx xxx Xxxxx Cydraddoldeb nifer o feysydd gweithredu yn nodi meysydd blaenoriaeth penodol ac mae ein Cynllun Gweithredu yn
amlinellu'r gweithgareddau penodol a fydd yn cyflawni'r amcanion a'r blaenoriaethau hyn.
Xxx xxx xxx xxxx gwasanaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Hyrwyddwr Cydraddoldeb sy'n cydlynu’r gwaith o gwblhau’r camau gweithredu a nodwyd ar gyfer eu xxxx gwasanaeth. Mae Hyrwyddwyr Cydraddoldeb yn cyfarfod xxx chwarter i drafod amrywiaeth xxxx o faterion Cydraddoldeb yn ogystal ag adolygu cynnydd ar y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol.
Xxxx xxx enghreifftiau o'r camau gweithredu yr ydym wedi ymgymryd â nhw yn ystod blwyddyn gyntaf ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae gwybodaeth lawn am gynnydd yr xxxx gamau gweithredu ar gyfer Blwyddyn 1 i'w gweld yn Atodiad 1.
Amcan 1 – mynd i’r afael ag anghydraddoldeb Iechyd
1.1 cynyddu nifer y bobl, mewn grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, sy’n dewis ffyrdd iach o fyw.
1.3 Gwella urddas a pharch mewn gofal i bawb, yn enwedig pobl hŷn, pobl ddiamddiffyn, trawsrywiol a phobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol.
1.5 Mynd i'r afael yn well â hawliau a dyheadau pobl â phroblemau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu.
1.6 Gweithio mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus eraill yng Ngogledd Cymru i wella ein hymdrechion ar y cyd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd lle bynnag y xx xxxx.
1.7 Cynyddu'r nifer o bobl hŷn diamddiffyn a phlant mewn cymunedau difreintiedig sy’n cael eu himiwneiddio.
Sylwer: Nid yw meysydd gweithredu 1.2 a 1.4 wedi cael eu mabwysiadu gan Xxxxx gan eu bod yn berthnasol i weithgareddau’r GIG
Mae’r prosiectau blaenoriaeth Conwy Egniol am Oes yn datblygu yn dda gyda’r prosiect Nofio Ysgol yn ymgysylltu ag ysgolion i newid eu darpariaeth nofio a datblygu’r rhaglen Llythrennedd Corfforol.
Mae gwelliannau i hysbysebu trwy gyfryngau cymdeithasol a gwell gwefan ar gyfer ein Canolfannau Hamdden gyda chyfleoedd ar gyfer sesiynau blasu wedi’u cynnig i gymunedau. Mae Canolfannau Iechyd wedi’u
datblygu a’u gwella ym Mae Colwyn a Llandudno a bydd y Ganolfan Iechyd yn Llanrwst yn agor yn fuan yn 2018.
Mae’r xxxx ysgolion wedi cwblhau Cam 3 y cynllun Ysgolion iach sy’n golygu eu bod wedi datblygu agwedd ysgol gyfan i fwyta’n iach. Bydd 36 ysgol gynradd yn cymryd rhan mewn Gwyliau Bwyd a 31 lleoliad yn y cynllun cyn-ysgol wedi cwblhau neu yn gweithio ar y safonau maeth.
Mae gwaith wedi bod ar y gweill i gynyddu’r nifer sy’n cael cinio ysgol am ddim, gan gyflwyno cinio yn y gwyliau yn ogystal â gwella bwyta’n iach i ddefnyddwyr y Gwasanaeth Ieuenctid.
Mae canolfannau awyr agored Nant BH a Pentrellyncymer wedi’u hyrwyddo i ysgolion ledled Gogledd Cymru ac maent wedi bod yn targedu ysgolion trwy hyrwyddo cefnogaeth i weithgareddau cwricwlaidd fel adolygu Mathemateg TGAU, llythrennedd a’r iaith Gymraeg trwy weithgareddau ymarferol.
Rydym yn gweithredu amryw o raglenni i fynd i’r afael â thlodi gan gynnwys Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, Cymunedau yn Gyntaf a Chefnogi Pobl. Mae’r Xxx o Amgylch y Teulu (TAF) yn darparu fframwaith ar gyfer dod â rhaglenni trechu tlodi at ei gilydd i ddiwallu anghenion teuluoedd diamddiffyn. Comisiynodd Bwrdd Trechu Tlodi a Chreu Cymunedau Cryf y Cyngor ddarn o ymchwil i edrych ar fywyd yng Nghonwy wledig. Yn benodol, roedd y gwaith yn canolbwyntio ar ddinasyddion ag anawsterau ariannol, ynghyd â’r rhai nad ydynt yn derbyn neu’n sy’n ei chael yn anodd derbyn gwasanaethau, gan edrych ar fynediad i gyngor a gwybodaeth; mynediad i’r Rhyngrwyd a data Symudol; Mynediad i wasanaethau Canolfan Byd Gwaith; Cludiant Cyhoeddus a Gwirfoddoli.
Bydd cynlluniau eraill i gefnogi pobl xxxxx o dlodi yn cynnwys rhaglen nofio am ddim, wi-fi cyhoeddus am ddim, cyfrifiaduron cyhoeddus mewn llyfrgelloedd, gwasanaeth cyngor a gwybodaeth i deuluoedd, prentisiaethau a lleoliadau gwaith ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, parthau dim galwyr di-wahoddiad, gweithgareddau am ddim mewn digwyddiadau a gynhelir gan y Cyngor a digwyddiadau celf yn Venue Cymru. Mae ein grwpiau Pobl Ifanc Creadigol am ddim wedi'u dylunio i roi sgiliau trosglwyddadwy i bobl ifanc y xxxxxxx eu defnyddio yn eu gyrfaoedd ysgol ac wrth symud ymlaen i fywyd oedolyn. Ymhlith y cyfranogwyr mae plant sy'n derbyn gofal, plant y mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn ymwybodol ohonynt, plant / pobl ifanc gydag anghenion
dysgu ychwanegol, pobl ifanc gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl a phlant o gefndiroedd heriol.
Mae ein rhaglen Amddifadedd Disgyblion Blynyddoedd Cynnar yn cefnogi ‘rhaglen parodrwydd ysgol’ ac yn annog ymgysylltiad rhieni, canolbwyntio ar ddatblygiad iaith plant, cyngor/cefnogaeth gyda thoiledu, trosglwyddo o’r cartref i flynyddoedd cynnar i’r ysgol a chefnogi datblygiad/addysg plant yn y cartref. Mae gennym gynllun cymorth lleoedd hefyd sy’n rhoi cymorth ariannol i deuluoedd ar incwm isel i’w galluogi i dderbyn gofal plant er mwyn gweithio neu hyfforddi.
Ers mis Mehefin 2015, rydym wedi bod yn darparu Cefnogaeth Cyllidebu Personol i gwsmeriaid sy’n hawlio Credyd Cynhwysol. Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael i aelwydydd xxx brosiect a ariennir gan Deuluoedd yn Gyntaf o xxxx Xxxx-dal Tai. Mae’r Grant Taliad Tai Dewisol wedi helpu pobl sy’n derbyn Xxxx-dal Tai sydd â diffyg yn eu Costau Tai.
Mae CBSC wedi sefydlu Bwrdd Prosiect sy’n cynnwys partneriaid allanol i ddatblygu canolfannau cymunedol yn y 5 clwstwr ysgol a hyrwyddo a datblygu ymyrraeth gynnar a’r rhaglen xxxx. Bydd y prosiect hwn yn gweithio gyda’r cymunedau i ddeall yr anghenion a datblygu rhaglen gymorth wedi'i theilwra i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol a nodir.
Mae’r Ganolfan Iechyd ym Mae Colwyn wedi’i ddatblygu a’i ehangu ar gyfer y xxx staff amlddisgyblaeth o’r adrannau Cefnogi Cymunedol, Iechyd, Gweithwyr Cymdeithasol a Therapyddion Galwedigaethol. Mae Canolfan
Iechyd Llandudno (Xx Xxxxxxxx) hefyd ar xxxx xx yn cynnal nifer o weithgareddau iechyd a lles ar gyfer y gymuned leol. Mae gwaith ar y Ganolfan Iechyd yn Llanrwst ar y gweill a disgwylir y bydd ar agor yn nechrau 2018.
Mae Partneriaeth Pobl Conwy (PPC) yn gweithio gyda Rhwydwaith Ymglymiad Conwy a’r Gymdeithas Alzheimer i edrych ar wneud Bae Colwyn yn Gymuned Cyfeillgar i Ddementia. Mae ein cynllun gweithredu Heneiddio’n Dda yng Nghonwy yn nodi sut y byddwn yn cefnogi unigolion a’u teuluoedd sy’n byw gyda dementia, gan gynnwys ymgysylltiad gyda’r rhai a effeithiwyd, gwella asesiad a diagnosis, hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer xxxx, hybu ymwybyddiaeth a delwedd bositif, gan gynnwys cludiant a thai yn y rhaglen.
Rydym wedi gweithio gyda chleifion a darparu gwasanaethau triniaeth cartref i gleifion a all fod wedi gwaethygu neu xxxx xxxxx cefnogaeth
ychwanegol i xxxx gorfod mynd i’r ysbyty. Rydym hefyd wedi gweithio gyda chleifion sydd eisoes mewn ysbyty seiciatryddol, xxxxx xx xxx orfodaeth neu yn anffurfiol xxxx xxxxx gwasanaethau triniaeth yn y cartref a chynllun rhyddhau diogel i gefnogi eu trosglwyddo yn ôl i’r gymuned. I’r dyfodol, byddwn yn edrych ar pa mor llwyddiannus yw’r Gwasanaethau Triniaeth yn y Cartref wrth xxxx pobl rhag gorfod mynd i’r ysbyty, a hefyd eu gallu i gefnogi trosglwyddiadau o'r ysbyty yn ôl i’r gymuned.
Mae Fforwm Gofal Integredig Conwy wedi’i ffurfio fel grŵp amlasiantaeth gweithredol sy’n ceisio cefnogi datblygiad a gweithrediad gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol, integredig yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mewn partneriaeth â’r Bwrdd Iechyd ac asiantaethau eraill a’r Sector Gwirfoddol. Mae’n ceisio hwyluso cydbenderfynu, gan arwain at well canlyniadau i bobl; eu helpu nhw i osgoi gorfod mynd i’r ysbyty, gostwng nifer yr ymyriadau diangen a gwella'r modd y cynllunnir y gwasanaeth gan alluogi integreiddio cryf. Mae’r gwaith yn bennaf yn cefnogi pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth xx xxxx gartref.
Cyflwynwyd Polisi Iechyd Meddwl yn y gweithlu yn ystod 2016 ac mae ymateb da wedi bod xxxx xxx staff. Roedd lansiad y polisi newydd yn cyd- fynd â’r Wythnos Iechyd Meddwl Cenedlaethol, pan fanteisiwyd ar y cyfle i wella ymwybyddiaeth yn y gweithlu. Cafodd hwn ei gefnogi trwy gyflwyno gwefan ryngrwyd ar wahân o’r enw “Conwy yn Malio” sydd â gwybodaeth a chanllawiau yn ogystal â sawl adnodd hunan gymorth a chyfeirio at gyrff cefnogaeth eraill sy’n ymwneud â’r rhaglen les meddyliol. Mae hwn hefyd wedi’i gefnogi gan yr Employee Assistance Programme (EAP) in your Pocket a’r Stress Free Island Apps a pharhad argaeledd Care First (gwasanaeth cynghori i weithwyr).
Mae Strategaeth Arferion sy’n Canolbwyntio ar y Person (PCP) wedi’i ddatblygu gan is-grŵp PCP sef COG 4. Lluniwyd y strategaeth gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth o Ysgol Gogarth a Conwy Connect ac mae hyfforddiant Arferion sy’n Canolbwyntio ar y Person wedi’u cyflwyno i Staff Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae Ysgol Gogarth wedi arbrofi gydag adolygiadau ar gyfer disgyblion Blwyddyn 9 mewn modd PCP. Mae Cefnogwyr PCP yn cael eu nodi yn y Gwasanaeth Addysg a
Gwasanaethau Cymdeithasol ac mae canolbwynt wedi’i sefydlu i staff sydd wedi hyfforddi mewn PCP i gael adnoddau a darparu rhwydwaith cefnogi.
Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom gynnal peilot o ddau grŵp wedi’i dargedu o blant a phobl ifanc a allai fod mewn risg o ddatblygu problemau iechyd meddwl i roi cyfleoedd o brofiadau dysgu anffurfiol o xxxx xxxx y
Celfyddydau yn ei ystyr ehangach. Roedd hwn yn llwyddiant mawr ac xxx xxxxx wedi’i sicrhau gan ACW a Phlant mewn Angen i barhau gyda’r prosiect am 18 mis pellach. Mae'r Theatrau a’r Ganolfan Gynadledda wedi parhau i weithio yn agos gydag Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy (CAT) i ddatblygu’r prosiectau hyn ac mae hefyd wedi datblygu prosiectau a dargedwyd yn benodol at bobl hŷn. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda CAT i gael cyllid ar gyfer y prosiectau hyn i’r dyfodol.
Ar ôl cynnal adolygiad o’r broses drosglwyddo a’r cwricwlwm, mae cyrsiau ‘Pontio’r Bwlch’ wedi’u datblygu yng Ngholeg Llandrillo a fydd yn cefnogi integreiddio dysgwyr o Ysgol y Gogarth i gyrsiau Addysg Xxxxxxx os yw’n bosibl. Byddwn yn parhau i fonitro’r canlyniadau, olrhain dysgwyr, rhannu arfer da a chynllunio fel sy’n briodol ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Mae Ysgol y Gogarth wedi adrodd bod y broses bontio ddiwygiedig wedi arwain at gynnydd ystyrlon pan fydd eu dysgwyr yn trosglwyddo i'r coleg.
Mae’r Rhwydwaith Cyfranogi Gwasanaethau Cymdeithasol wedi’i sefydlu ac mae’n cynnwys cynrychiolaeth o Age Connect. Mae’r prosiect Speak Up, sy’n cryfhau llais pobl hŷn sy’n byw mewn Cartrefi Gofal yng Nghonwy, wedi dechrau gyda phrosiectau mewn 2 gartref preswyl yng Nghonwy.
Rydym yn cefnogi pum fforwm Age Connect trwy gydol y wlad ac maent wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriad a gwaith datblygu gwasanaeth. Nid yw llawer o Bobl Hŷn yn defnyddio gwasanaethau ar-xxxx xx i’w cefnogi nhw gyda gwybodaeth am wasanaethau mae cyfeirlyfr cymunedol 50+.
Mae’r Polisi Diogelu Corfforaethol wedi’i ddiweddaru ac yn nodi’n glir y swyddogaethau a chyfrifoldebau – ei fod yn gyfrifoldeb ar bawb. Mae gweithdai wedi’u cynnal ledled y Cyngor i wella'r proffil Diogelu Corfforaethol.
Cyflawnodd ein Gwasanaeth Ieuenctid Farc Ansawdd Arian Llywodraeth Cymru am eu gwaith ar 3 cynllun: Prosiectau Ffitrwydd Nos Xxxxx (Bae Colwyn, Llandudno ac Abergele); grwpiau adolygu ysgolion Chwaraeon nad ydynt yn Draddodiadol; a sesiynau chwaraeon Cymunedau yn Gyntaf. Mae’r prosiectau hyn yn annog cyfranogiad mewn chwaraeon nad ydynt yn draddodiadol a gweithgareddau corfforol trwy brosiectau allgyrsiol a phrosiectau ysgol. Mae pob un o’r prosiectau yn ceisio darparu cyfleoedd pellach i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol, ymarfer xxxxx a chwaraeon nad ydynt yn draddodiadol, gan hyrwyddo sbortsmonaeth da, chwarae teg a gwaith xxx. Maent hefyd yn ceisio annog mwy o ferched ac unigolion nad ydynt yn egnïol i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol, a bod â phrofiad mwy cadarnhaol a llawn
mwynhad fel eu bod yn dychwelyd a pharhau i fod yn egnïol. Mae
ffurflenni Gwerthuso Iechyd wedi’u cwblhau ac wedi dangos gwelliant ym mhob xxxx ar ôl cwblhau’r prosiect. Yn 2016, enillodd 3 o’n gwirfoddolwyr ifanc wobrau mawreddog gan gynnwys Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn Chwaraeon Cymru, Gwobr Dewi Sant a Gwobr Xxxxxxxx Xxxxx Inspire.
Mae hyfforddiant ar gyfer ein gwirfoddolwyr ifanc wedi cynnwys actifadydd tennis, actifadydd golff stryd, actifadydd amlchwaraeon, cymorth cyntaf, diogelwch bwyd, ymwybyddiaeth cyffuriau, diogelu a hyfforddiant cynnwys yr anabl. Xxx xxxx 40 o wirfoddolwyr ifanc egnïol ynghlwm yn y prosiect, a phob un ohonynt wedi cwblhau o leiaf un achrediad hyfforddiant.
Amcan 2 – Mynd i’r afael â chanlyniadau anghyfartal mewn Addysg er mwyn gwneud y gorau o Botensial unigolion
2.1 Lleihau'r bwlch cyrhaeddiad addysgol rhwng gwahanol grwpiau
2.2 Lleihau achosion o fwlio mewn Addysg sy’n seiliedig ar hunaniaeth
2.3 Pobl Ifanc yn cael eu cefnogi wrth drosglwyddo o Addysg i Gyflogaeth.
Mae ymgysylltu â darllenwyr i hyrwyddo teitlau llyfrau, archwilio cyfleoedd darllen, annog darllenwyr i gymryd risgiau gyda’u darllen a gwella xxxxx i roi cynnig ar awduron newydd yn elfen graidd o swyddogaeth staff y llyfrgell. Mae grwpiau darllen ar draws yr awdurdod yn parhau i ffynnu ym mhob un o’r pum xxxx. Xxx nifer o ddigwyddiadau awdur llwyddiannus wedi’u darparu yn llyfrgelloedd Conwy a Bae Colwyn. Mae parhau i fuddsoddi yn y gronfa lyfrau yn sicrhau bod gan Gonwy ystod xxxx o ddeunydd o ansawdd uchel i'w hyrwyddo i ddarllenwyr mewn copi caled a fformat electronig.
Mewn partneriaeth gyda GwE, mae’r Cyngor wedi nodi ysgolion cynradd sy’n tanberfformio i’w monitro, i ddarparu cefnogaeth ar eu cyfer a darparu rhaglenni ymyrraeth, os oes angen. Mae targedau heriol yn cael eu gosod er mwyn gwella safonau disgyblion. Mae cymorth a her yn seiliedig ar yr anghenion dynodedig ‘Xxxx, Xxxx, Gwyrdd’ a model darparu, sy’n sicrhau capasiti ychwanegol i gefnogi’r ysgolion sydd â’r anghenion mwyaf. Mae blaenoriaethau wedi’u pennu ar gyfer pob cyfnod allweddol addysgol.
Mae proffil Xxxxx Xxxxx’n gadarnhaol gydag ond nifer fechan o ysgolion (dwy) xxxxx xxxxx uchel o gymorth gan yr Awdurdod Lleol a GwE. Mae
blaenoriaethau lleol wedi’u rhannu gyda phenaethiaid cynradd ac uwchradd sy’n cynnwys gwella’r cyfnod sylfaen mewn iaith a mathemateg; gwella deilliannau Cyfnod Allweddol 2 mewn mathemateg a gwyddoniaeth; sgorau rhifedd gweithdrefnol a rhesymegol; a chanlyniadau Cyfnod Allweddol 3 mewn Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.
Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda Phenaethiaid i sicrhau bod blaenoriaethau ysgolion unigol yn cyd-fynd â blaenoriaethau Awdurdod Lleol Conwy a blaenoriaethau Rhanbarthol. Mae gweithdai’n cael eu cynnal gyda’r Awdurdod Lleol/GwE/Penaethiaid i lunio cynllun busnes cadarn sy'n adlewyrchu'r meysydd i'w gwella yn y system addysg yn fanwl gywir.
Sicrhawyd cyllid ac mae’r gwerslyfr Braille Cymreig Unedig rŵan wedi’i ailysgrifennu i gynnwys newidiadau a diweddariadau i’r Cod Cymreig yn unol â’r Braille Saesneg Unedig. Mae’r gwerslyfr rŵan yn cael ei brawf ddarllen a gyda’r deunydd cwrs newydd bydd yn cynnig cymhwyster Braille cyfredol ar gyfer y rhai sy’n gweithio i gefnogi pobl ifanc a dysgwyr trwy gyfrwng Braille Cymreig.
Mae gweithdrefn i gefnogi ceiswyr lloches yng Nghonwy wedi’i ddatblygu gyda chefnogaeth gan y Gwasanaethau Plant, gan ddefnyddio Gweithdrefn Wrecsam ar gyfer Ceiswyr Lloches Ffoaduriaid. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys datblygu llyfryn arweiniad ar gyfer ysgolion Conwy. Mae Conwy wedi gwirfoddoli i fod yn ganolfan wasgariad ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.
Mae data sy’n cyfeirio at fwlio mewn ysgolion yn cael ei gasglu gan ysgolion unigol a'i rannu yn Fabanod (3 i 7 oed) Iau (7 i 11 oed) ac Uwchradd (11 i 16 oed). Mae nifer yr achosion o fwlio yn y Babanod a’r Iau yn isel o’i gymharu â'r achosion o fwlio yn yr ystod oedran Uwchradd. Mae natur y bwlio a’r achos tebygol yn cael eu cofnodi. Y tri achos bwlio mwyaf cyffredin ym mhob ystod oedran yn 2015 a 2016 oedd Camdriniaeth Corfforol, Xxxxxx a Galw Enwau. Mae polisïau bwlio mewn ysgolion wedi’u diweddaru sawl gwaith yn y blynyddoedd diwethaf. Mae hyfforddiant wedi'i gynnal ar gyfer staff a llywodraethwyr ar xxxx bwlio mewn ysgolion. Mae hyfforddiant hefyd wedi’i roi ar eithafiaeth / radicaliaeth i xxx ysgol uwchradd. Mae ‘Ymddiriedolaeth yr Heddlu a Chymuned’ Gogledd Cymru wedi cynorthwyo yn ariannol gyda chynhyrchiad i ysgolion yn edrych ar y stereoteipiau ynghylch ceiswyr lloches a ffoaduriaid.
Fel rhan o’r prosiect trawsnewid cyffredinol, mae prosesau Diogelu Plant wedi’u hadolygu a’u gwella ac mae rhaglen waith fanwl wedi’i sefydlu o
fewn CAMMS i fonitro cynnydd. Yn dilyn adborth o Gynadleddau Diogelu Plant, mae teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael mwy o ran yn y broses gynadledda, ac wedi dweud bod y broses yn well nag o’r blaen, gan ddarparu gwell adroddiadau sy’n cael eu dadlau yn dda a’u datblygu’n rhesymegol, yn eglur, cynhwysfawr ac yn ystyried pryderon mewn perthynas â dynameg y teulu ac anghenion ychwanegol. Mae elfennau Arwyddion Xxxxxxxxx wedi’u cyflwyno’r raddol i gynadleddau.
Mae prosiectau celfyddydol i bobl ifanc wedi parhau yn yr adran Theatrau a Chynadledda yn ystod 2016/17 ac rydym wedi llwyddo i gael cyllid i barhau gyda phrosiectau 'Cylch Stori', 'Grŵp Xxxx Xxxxx', 'Llefaru, Ysgrifennu, Credu', 'Beirniaid Ifanc', 'Gŵyl Gelf i’r Teulu', 'Cymryd Rhan' ac 'Inspire' ar gyfer pobl ifanc i ennill sgiliau trosglwyddadwy. Byddwn yn ceisio cyllid i barhau â’r prosiectau hyn yn 2018 oherwydd llwyddiant mawr y gwaith hwn.
Canlyniad 3: Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn Cyflogaeth a Chyflog
3.1 Nodi a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb o ran prosesau recriwtio, cadw, hyfforddi a dyrchafu.
3.2 Bydd unrhyw fwlch cyflog rhwng y gwahanol nodweddion gwarchodedig yn cael eu canfod a’u datrys
Gall ymgeiswyr sydd ag anabledd sy’n ei wneud yn anodd iddynt lenwi cais ar-lein gysylltu ag AD i gael cymorth wrth lenwi ffurflen gais. Gall hwn fod yn gais ar bapur neu ddull arall mewn fformat hygyrch. Gall ymgeiswyr hefyd gael cymorth gan eu llyfrgell leol, lle xxxxxxx xxxx cymorth am ddim i ddefnyddio cyfrifiadur a chael mynediad i’r rhyngrwyd i’w galluogi i wneud cais.
Mae data wedi’i ddadansoddi o wybodaeth cydraddoldeb Arolwg Staff 2015. Xxxx allweddol lle roedd yr ymatebion yn rhai grwpiau yn anghymesur i’r ffigwr Cyngor cyfan oedd mewn perthynas â straen yn ymwneud â’r swydd neu straen cyffredinol. Mae llawer o waith wedi’i wneud gan y Cyngor ar gyfer pob staff i gefnogi staff gyda straen / salwch meddwl ers yr arolwg staff diwethaf, gan gynnwys gweithredu Conwy yn Malio, yr EAP (Rhaglen Cymorth i Weithwyr) yn xxxx Poced a’r App Stress Free Island, gweithredu Polisi Iechyd Meddwl a Llesiant newydd, argaeledd parhaus Care First (gwasanaeth cwnsela) yn ogystal â
hyfforddiant Rheoli Presenoldeb ychwanegol i reolwyr wrth gyflwyno polisi diwygiedig.
Mae nifer o gamau gweithredu wedi’u cymryd i gynyddu nifer y swyddogion sy’n cael hyfforddiant Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb: Cyflwyniad i’r Fforwm Rheolwyr ym mis Rhagfyr 2016; Ymweliadau â phob Uwch Dîm Rheoli i ganfod Cefnogwr ar eu xxx a fydd yn gyfrifol am sicrhau Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb fel sy’n briodol; Adolygu’r rhaglen Grŵp Adolygu Adroddiadau a Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, gan anfon nodiadau atgoffa i swyddogion ac ym mhob achos, cynnwys dyddiadau hyfforddi. Mae hyn wedi arwain at fwy na dyblu nifer yr unigolion oedd yn bresennol, gyda chyrsiau ychwanegol wedi’u trefnu yn
fwy na’r rhai sydd wedi’u rhoi ar yr amserlen yn chwarterol.
Sefydlwyd Fforwm Prentisiaeth Ysgolion Uwchradd Conwy yn 2016 ac un o’r canlyniadau oedd cefnogi Wythnos Prentisiaethau ar gyfer Bl11 yn Hydref xxx blwyddyn sy’n cynnwys Coleg Llandrillo, North Wales Training,
Gyrfa Cymru a Thîm Datblygu Busnes Conwy. Mae cyflwyniadau ar brentisiaethau a hyfforddiant wedi’u rhoi i xxx dysgwr Blwyddyn 10 yn 7 ysgol uwchradd Conwy. Mae’r panel Wythnos Prentisiaethau yn derbyn cwestiynau gan ddysgwyr gyda’r nod o ddarparu ystod xxxx o wybodaeth am brentisiaethau. Mae clip fideo wedi’i gynhyrchu gan ddysgwyr yn Ysgol Aberconwy, wedi’i gyfarwyddo gan y Gwasanaeth Ieuenctid ac mae’r adborth gan ysgolion wedi bod yn rhagorol.
Rydym wedi pasio ein targed o gefnogi 130 o bobl ddiamddiffyn (targed o 60 o bobl i ddechrau) yn nes at fod mewn gwaith drwy ddarparu sgiliau ymarferol a chyfleoedd hyfforddiant iddynt. Ym mis Mawrth 2017 daeth arian Teuluoedd yn Gyntaf i ben ac o 1 Ebrill, nodir fel prosiectau arian Ewropeaidd OPUS ac ADTRAC. Cafodd dros 84% ganlyniad cadarnhaol, gan gynnwys cyflogaeth, ennill cymhwyster, mwy x xxxxx a hunan-xxxxx, xxx xxxxx gwirfoddol. Mae adborth ar y rhaglenni “Gwaith Amdani” a STEPS wedi bod yn gadarnhaol iawn. Enghreifftiau o adborth: ‘Dwi'n mynd i'r coleg yn llawn amser.... mae gen i leoliad gwaith.... mi ddysgais i lawer ar gwrs cymorth cyntaf.... mae wedi bod yn wych wrth fy helpu i fynd ar y cwrs a gwella fy xxxxx.... byddwn yn argymell y cwrs i bawb mae’r
staff yn wybodus, trylwyr, hawdd mynd atynt, clên a hapus.... rŵan bod gen i le ar y Cwrs Gradd mewn Plismona, rwy’n teimlo fy mod rŵan ar y llwybr cywir at fy ngyrfa’.’
Cynhaliwyd Archwiliad Cyflog Cyfartal dechreuol wrth ddatblygu ein Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol blaenorol a phresennol a chyhoeddwyd
y manylion yn y dogfennau hynny. Cychwynnwyd Archwiliad Cyflog Cyfartal manylach yn 2015 a nodwyd nifer o fanylion sydd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Gweithredu Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor.
Mae’r Archwiliad Cyflog Cyfartal wrthi’n cael ei ddiweddaru a bydd canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yn y man a bydd camau gweithredu pellach yn cael eu hystyried xxxx hynny.
Nid ydym yn cyflogi staff ar gontractau oriau sero yng Nghonwy. Rydym yn cyflogi gweithwyr ar gontractau achlysurol lle nad oes oriau sicr, ond nid oes rhaid iddynt fod ar xxxx x xxxxxxx wrthod gweithio os nad ydynt ar gael.
Mae ein Ffurflen Hysbysu Rheoli Swyddi Gwag yn gofyn i reolwyr nodi’r oriau gwaith xxx wythnos, yn hytrach na chadarnhau llawn amser neu ran amser, sy’n annog rheolwyr i ystyried amryw o oriau cytundebol, gan gynnig cymaint o hyblygrwydd â phosibl. Mae ein safle recriwtio ar y we yn hyrwyddo dewisiadau gweithio’n hyblyg gan gynnwys rhan amser a rhannu swydd ac mae ein ffurflen gais ar-lein yn gofyn i ymgeiswyr a hoffent ystyried rhannu’r swydd yn ogystal â chynnig oriau llawn amser neu ran amser. Yn y tymor hir, bwriad hyn yw lleihau effaith arwahanu rhwng y rhywiau ar gyfer merched sy’n gweithio mewn swyddi cyflog isel/rhan amser.
Rydym yn galluogi ymgeiswyr i wneud cais am swyddi heb yr angen i gynnwys cyfeiriad ar y ffurflen gais er mwyn darparu ar gyfer ymgeiswyr heb gyfeiriad sefydlog, e.e. Sipsiwn a Theithwyr. Rydym hefyd wedi cynnwys y teitl enw rhyw niwtral ‘Mx’ ar ein ffurflen gais.
Rydym yn parhau i gefnogi datblygiad xxxxxx gymdeithasol yng Nghonwy ac mae hyn yn ei dro yn hwyluso cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth ac yn helpu pobl i xxxx xxxxx i fynd yn ôl i’r farchnad waith. Rydym wedi cefnogi datblygiad 93 swydd newydd ers 2003 yng Nghonwy. Mae Adroddiad ‘Cyflwr y Sector' Co-op Cymru 2017 yn nodi: ‘Mae’r sector busnes cymdeithasol yng Nghymru xxxxx £2.37bn i economi Cymru ac mae’n cefnogi tua 41,000 o swyddi’. Bydd ein cyfraniad i’r sector hwn yn parhau yng Nghonwy yn 2017/18 a thu hwnt.
Rydym wedi cynnal ein statws Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2, oedd yn disodli’r Cynllun Tic Dwbl. Mae’r Cynllun Hyderus o Ran Anabledd yn ceisio helpu cyflogwyr i wneud y gorau o’r cyfleoedd a ddaw o gyflogi pobl anabl. Mae’n gynllun gwirfoddol ac mae wedi’i ddatblygu gan gyflogwyr a chynrychiolwyr pobl anabl. Mae’r Cyngor wedi cael statws Lefel
2, sy’n cynnwys asesiad yn erbyn dau thema; ‘Canfod y bobl gywir ar gyfer xxxx busnes’ a ‘Chadw a datblygu xxxx pobl’. Fel rhan o’r cynnig hwn, rydym yn sicrhau y bydd pob ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol yn cael cyfweliad. Mae’r logo newydd wedi’i gynnwys ar xxx pennawd llythyr a dogfennau recriwtio.
Rydym wedi cymryd rhan mewn nifer o ffeiriau swyddi yn ystod y cyfnod mewn sawl lleoliad ledled y Sir, ac eleni gwnaethom hefyd gymryd rhan yn Sgiliau Cymru, yn Venue Cymru, sef digwyddiad Gogledd Cymru sy’n
targedu pobl ifanc a’u teuluoedd ledled Gogledd Cymru a thu hwnt. Rhywbeth a oedd o ddiddordeb penodol i’r unigolion a ddaeth oedd ein cynlluniau Prentisiaeth. Gwnaethom hefyd gefnogi Ysgol Xxxx Xxxxxxx gyda Digwyddiad Sgiliau Gwaith, gan wella ymwybyddiaeth o swyddi yng Nghonwy a darparu gweithdy sgiliau cyfweld ar gyfer disgyblion.
Gwnaethom gefnogi VIVA (y Rhyl) gan fenthyca un o’n Canolfannau Ieuenctid i gynnal grŵp cefnogi Trawsrywiol, y mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn ei gefnogi ar eu tudalen Facebook.
Canlyniad 4: Lleihau anghydraddoldeb o ran Diogelwch Personol
4.1 Cynyddu'r nifer o droseddau casineb ac aflonyddu sy’n cael eu hadrodd a chymryd camau i leihau achosion o droseddau casineb ac aflonyddu, gan gynnwys cam-drin a bwlio ar-lein.
4.2 Mwy o adrodd am gam-drin domestig a chamau’n cael eu cymryd i leihau cam-drin domestig
4.3 Cynyddu ymwybyddiaeth mewn cymunedau diamddiffyn ynglŷn â thwyll ar-lein a thros y ffôn.
Mae’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) yn mynd i nifer o ddigwyddiadau cymunedol i ddarparu cyngor ar xxxx troseddau a chyfeirio at sefydliadau eraill. Gyda chymorth gwirfoddolwyr Gwarchod y Gymdogaeth, rydym yn cynnal digwyddiadau amlasiantaeth rheolaidd ynglŷn ag xxxx troseddau mewn archfarchnadoedd a chanolfannau siopa ac rydym hefyd yn mynychu digwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill.
Xxx xxx y stondin wybodaeth daflenni xxxx trosedd ac offer diogelu (e.e. cloeon i wneud tai’n ddiogelach ac yn anoddach i droseddwyr eu targedu). Mae gwirfoddolwyr, staff y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, Safonau
Masnach, Swyddogion Diogelwch Cymunedol yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân yn mynd i’r digwyddiadau hyn.
Mae’r PDC yn parhau i ariannu gwasanaethau ar gyfer cam-drin sylweddau gyda gweithwyr cymdeithasol diagnosis deuol, ail sefydlu preswyl a chyllid ar gyfer y Xxx Ymateb Cyflym Cyffuriau ac Alcohol (DARRT). Xxx xxxx xxxxx y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol yn cyfrannu at ostyngiad blwyddyn ar ôl blwyddyn mewn troseddau. Rydym wedi parhau i weld lleihad mewn troseddu ieuenctid ac mae'r troseddau y rhoddwyd gwybod amdanynt wedi parhau i ostwng. Mae hyn o ganlyniad uniongyrchol i’r gwaith partneriaeth a’r gwaith caled gan wasanaethau yng Nghonwy. Mae gennym rŵan tua 1400 o barthau dim galw di wahoddiad, sy’n dawelwch meddwl mawr i drigolion, yn enwedig o gofio ein poblogaeth hŷn fawr. Rydym wedi datblygu newyddlen reolaidd i helpu i gyfathrebu yn fwy effeithiol ac rydym yn mynychu digwyddiadau yng Nghonwy sy’n hyrwyddo diogelwch yn y cartref a diogelwch personol.
Mae mynd i’r afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, gan gynnwys sbwriel a graffiti, yn flaenoriaeth ar gyfer y gwasanaeth, gyda gorfodaeth a’r nifer o rybuddion talu cosb yn cynyddu i 3906 yn 2016/17, gyda 118 yn cael eu rhoi am faw cŵn. Mae’r gwasanaeth hefyd yn gweithio mewn
partneriaeth â Kingdom ar gynlluniau addysgol gyda’r nod o leihau perchnogaeth cŵn anghyfrifol a gollwng sbwriel. Mae mannau problemus o ran baw ci yn parhau i gael eu patrolio a’u monitro gan Xxxxxxxxxxx
Gadwch o’n Lân ac mae arwyddion a chamerâu baw ci a gollwng sbwriel wedi’u codi. Mae’r gwaith hefyd yn cynnwys ymdrin â chwynion xxxxx xxxx,
e.e. tipio anghyfreithlon.
Rydym yn parhau i ddefnyddio MARAC (Cynhadledd Asesu Risg Aml- asiantaeth) i reoli lefelau Dioddefwyr Cam-drin Domestig Ailadroddus. Mae nifer yr atgyfeiriadau wedi lleihau gan fod gennym rŵan gynllun arbrofol newydd o’r enw Pedwar Piler sy’n golygu ein bod yn datrys problemau ymlaen llaw, xxx xxxx yr xxxxx i anfon MARAC i drafod xxx amser. Mae’r Swyddog Camdriniaeth Domestig PGC yn sicrhau bod MARAC yn cael ei gynnal yn unol â chanllawiau gan Lywodraeth Cymru.
Mae Swyddog Trais Rhywiol Annibynnol ar gyfer pobl ifanc, a seiliwyd yn y Ganolfan Atgyfeirio Camdriniaeth Rhywiol ym Mae Colwyn, wedi’i benodi ac eisoes wedi ymgysylltu â dros 70 o bobl ifanc yn ystod y flwyddyn. Mae hyn wedi gwella ymwybyddiaeth o'r mater ymysg pobl ifanc. Mae’r ysgolion hefyd yn cynnig sesiynau Cyswllt Ysgolion ar y mater hwn.
Cynhaliwyd hyfforddiant ar xxxx ymelwa yn rhywiol ar blant ar gyfer Swyddogion Gofal Cymdeithasol, Swyddog Hyfforddiant Diogelu Awdurdodau Lleol, Gweithwyr Cymdeithasol Addysg a Chydlynwyr ABCh (Addysg Bersonol a Chymdeithasol) pob ysgol uwchradd/ysgol arbennig ac Unedau Atgyfeirio Disgyblion. Rhoddwyd Hyfforddiant Manylach hefyd ar Ddiogelwch y Rhyngrwyd i xxx staff. Mae hyfforddiant eisoes wedi’i roi ar Radicaliaeth i staff Ysgolion Uwchradd yn 2015 a chynigiwyd hyn i'r xxxx Ysgolion Cynradd yn ystod 2016.
Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn gweithio gyda Cymorth i Ferched Colwyn, Cymorth i Ferched Cymru a Relate ac maent wedi cefnogi dros 200 o rieni a phlant sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig yn ystod y flwyddyn. Rydym wedi gwneud ein cyrsiau hyfforddiant lleol ar gael i bartneriaid ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector ac mae ymagwedd o bartneriaeth i ymateb Conwy i strategaethau iechyd meddwl, hunan- niwed ac xxxx hunanladdiad. Xxx xxx 40 o gleientiaid wedi derbyn ymyraethau drwy’r Cwmpawd Xxxxx a ddarparwyd gan Mind ac mae 27 o ofalwyr i gleientiaid iechyd meddwl wedi derbyn cefnogaeth drwy wasanaeth Hafal.
Rydym yn parhau i ddefnyddio ein cyllid ar gamddefnyddio sylweddau ar gyfer ailsefydlu preswyl ac rydym yn mynychu’r Grŵp Defnyddwyr Gwasanaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau er mwyn dylanwadu ar y strategaeth a swyddogaethau gweithredol gyda phartneriaid.
Mae Saferhomes yn wasanaeth gosod offer cloi a diogelwch penodedig. Mae wedi bod ar waith ers 2006 wedi’i ariannu gan grantiau’r Swyddfa Gartref. Mae’r gwasanaeth yn galluogi’r rheiny sy’n dioddef camdriniaeth domestig, fel y nodwyd gan unrhyw weithiwr proffesiynol yn y xxxx, i gael gwiriad diogelwch cartref ac unrhyw waith diogelwch dilynol. Mae’r gwasanaeth yn cael xx xxxxx gan y Xxx Diogelwch Cymunedol ac rydym yn talu i osodwr cloeon hyfforddedig sydd wedi’i wirio gan yr heddlu ddod i wneud y gwaith gyda chymhorthydd benywaidd. Bydd holiaduron Bodlonrwydd Cwsmeriaid yn cael eu rhoi ar ôl gwneud y gwaith ac mae’r gwasanaeth yn cyflawni cyfradd bodlonrwydd 100%.
Mae’r Cydlynydd Camdriniaeth Domestig a Thrais Rhywiol yn parhau i weithio gyda’n partneriaid Trydydd Sector i hyrwyddo’r llinell gymorth Byw Heb Ofn – Cymru Gyfan a defnyddio arian ar gyfer y cynllun Cartrefi Diogelach trwy gefnogi datganiadau i’r cyfryngau ar roi gwybod am gamdriniaeth domestig yn ogystal â chefnogi ymgyrchoedd Cenedlaethol a Rhanbarthol.
Swyddogaeth graidd y Cydlynydd Camdriniaeth Domestig a Thrais Rhywiol yw trefnu digwyddiadau ymwybyddiaeth/datganiadau i’r cyfryngau ar gyfer diwrnod Ymwybyddiaeth Camdriniaeth Domestig Rhyngwladol, yr ydym yn ei wneud xxx blwyddyn. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth i leihau trosedd ac anhrefn yng Nghonwy a Sir Ddinbych a gwella xxxxx wrth roi gwybod am Gamdriniaeth Domestig a Thrais Rhywiol. Mae’r tasgau yn cynnwys Conwy Diogelach yn cyflwyno datganiadau i’r wasg am roi gwybod am gamdriniaeth domestig a chefnogi ymgyrchoedd Cenedlaethol a Rhanbarthol. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid trydydd sector i gefnogi gwella ymwybyddiaeth a chefnogi’r llinell gymorth Byw Heb Ofn – Cymru Gyfan y byddwn yn parhau i’w hyrwyddo.
Rydym wedi bod yn gweithio ar leihau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac mae rhoi gwybod wedi lleihau fis ar ôl mis ar gyfer dioddefwyr cyson ac rydym wedi bod yn defnyddio’r pwerau newydd a roddwyd i ni gan y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Mae gwirfoddolwyr Gwarchod y Gymdogaeth wedi parhau i fynychu digwyddiadau sy’n hyrwyddo xxxx troseddau a thargedu pobl ddiamddiffyn yng Nghonwy a Sir Ddinbych a hyrwyddo popeth yn ymwneud â diogelwch cymunedol.
Canlyniad 5 - Lleihau anghydraddoldeb mewn Cynrychiolaeth a Llais
5.1 Bod cyrff sy’n gwneud penderfyniadau’n dod yn fwy cynrychioliadol o’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
5.2 Bydd ymgynghoriad ac ymgysylltiad yn gwella trwy gryfhau’r cysylltiadau rhwng y Sector Cyhoeddus a grwpiau lleol a chenedlaethol sy’n cynrychioli pobl o xxx grŵp a ddiogelir.
Gwahoddwyd Aelodau Etholedig i hyfforddiant Trosedd Casineb ym mis Ebrill 2016. Trefnwyd hyfforddiant pellach i Aelodau Etholedig ar Gydraddoldeb, gan gynnwys Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb a chyfrifoldebau Aelodau fel rhan o’r Cyflwyniad i Aelodau Etholedig ar ôl yr etholiad ym mis Mai 2017. Cynhaliwyd yr hyfforddiant ar 28 Mehefin 2017 a cafodd ymateb da. Mae hyfforddiant Trosedd Casineb pellach yn cael ei drefnu trwy’r Swyddog Cydlyniant Cymunedol.
Xxx xxx xxx ysgol gyngor ysgol sy'n cyfarfod yn rheolaidd ac yn rhoi llais allweddol i bobl ifanc ym mhroses gwneud penderfyniadau eu hysgol.
Aeth yr xxxx ysgolion uwchradd, Ysgol y Gogarth a 26 ysgol gynradd i’n cynadleddau dim bwlio i baratoi ar gyfer Wythnos Dim Bwlio ym mis Tachwedd 2016. Cafodd y cynadleddau eu cefnogi gan y Comisiynydd Plant, a gynhaliodd weithdai rhyngweithiol ac Actionwork a gynhaliodd Sioe Deithiol. Prif bwrpas y cynadleddau oedd ysbrydoli athrawon a chynrychiolwyr y Cyngor Ysgol i gynnal gweithgareddau yn eu hysgolion i nodi wythnos dim bwlio. Xxx xxxxx o dystiolaeth trwy Twitter a gwefannau ysgol bod llawer o’r disgyblion oedd wedi mynychu wedi cynnal gweithgareddau i’w cyd-ddisgyblion. Mae enghreifftiau’n cynnwys: 6ed dosbarth Ysgol y Creuddyn a wnaeth fideo a chynnal gweithdai i ddisgyblion blwyddyn 7 a 8; cynhaliodd disgyblion blwyddyn 6 Pentrefoelas weithdai ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 a datblygodd y Cyfnod Sylfaen
fersiwn o’r polisi dim bwlio i ddisgyblion a rhoddwyd bocs teimladau yn yr ysgol i blant roi gwybod am fwlio; cymerodd plant Ysgol Capelulo ran mewn gweithgareddau drwy gydol yr wythnos (gan gynnwys y dosbarthiadau babanod yn ysgrifennu a pherfformio cân) gan gyflwyno eu gwaith mewn gwasanaeth arbennig; Ysgol Xxxx Xxxx a gynhaliodd 2 wasanaeth, gwneud ffilmiau byr a gosod arddangosfa ar hyd eu coridor.
Rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb xxx y ddyletswydd i ymgysylltu wrth gynnal Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb ac mae hyn yn cael ei wneud pan fod angen yn ôl natur y polisi neu’r arfer sy’n cael ei asesu, gan ystyried perthnasedd. Gwnaethpwyd rhai darnau ymgysylltu mawr yn ystod y cyfnod, ac un o’r rhain yw’r ymgysylltiad sy’n gysylltiedig â’r Asesiad Lles a’r Cynllun Corfforaethol. Bydd ymgysylltiad gyda Defnyddwyr Gwasanaeth a effeithiwyd fel arfer, a/neu staff ac undebau llafur, a gyda sefydliadau sy’n cynrychioli pobl o wahanol grwpiau a
ddiogelir. Mae dealltwriaeth ynghylch yr agwedd hon o’r broses Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb wedi cynyddu a gwella yn sylweddol o fewn gwasanaethau.
Canlyniad 6 – Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb o ran mynediad at wybodaeth, gwasanaethau, adeiladau a’r amgylchedd
6.1 Gwella mynediad at wybodaeth a chyfathrebu a phrofiad y cwsmer, yn arbennig ar gyfer pobl sydd wedi colli eu synhwyrau ac ar gyfer y rhai nad Cymraeg neu Saesneg yw eu hiaith gyntaf.
6.2 Gwella mynediad ymarferol at wasanaethau, cludiant, yr amgylchedd adeiledig a llefydd agored.
Yn ddiweddar, rydym wedi datblygu ein safleoedd mewnrwyd a rhyngrwyd ac wrth geisio tynnu’r rhwystrau i Wybodaeth a Gwasanaethau rydym wedi dilyn yr egwyddorion hygyrchedd a nodwyd yng Nghynllun Hygyrchedd y We y World Wide Web Consortium, xx xxxxx gorau arall, gan gynnwys fel y disgrifir yn xxxx://xxx.xxx.xx. Mae'r agwedd hon wedi’i chynllunio i ehangu mynediad i wybodaeth ar-lein trwy symud rhwystrau ar gyfer rhai dyfeisiau neu dechnolegau (cynorthwyol) a ddefnyddiwyd gan ymwelwyr â’r safleoedd. Cyn i’r datblygiad safle newydd ddechrau, cafwyd hyfforddiant hygyrchedd ac archwiliad gan y Xxxx Trust. Cafwyd hyfforddiant pellach gan SiteImprove a oedd hefyd yn darparu’r gwasanaeth sicrwydd ansawdd awtomataidd a ddefnyddiwyd yn fewnol i brofi’r gwefannau ar gyfer
cydymffurfiaeth â’r safonau uchod. Mae cydymffurfiaeth yn cael ei fesur yn allanol yn yr adroddiad Better Connected gan Socitm.
Yn ogystal â gwelliannau i safonau technegol, mae’r dyluniad ymatebol yn golygu bod y safleoedd newydd yn gweithio y gorau xxxxxxx ar draws ystod xxxx o ddyfeisiau a ffactorau (PC, tabledi, ffonau clyfar, teledu clyfar, ayyb), gan agor mynediad xxxx i grwpiau y tu hwnt i’r cyfrifiadur pen desg cartref gyda chyswllt rhyngrwyd sefydlog. Yn fuan ar ôl y lansiad, aeth y Xxx Gwe i Fforwm Mynediad Conwy i gyflwyno a derbyn adborth. Ni wnaeth y grŵp nodi unrhyw broblemau mynediad penodol ond rhoddwyd adborth am y safle yn gyffredinol.
Roedd gan y safle cyhoeddus dwyieithog gyfnod adolygu mewnol estynedig a rhyddhad beta cyhoeddus 2 fis i gasglu adborth gan xxxx ymwelwyr y safle cyn y lansiad. Roedd pob tudalen yn cynnwys swyddogaeth adborth defnyddwyr a oedd yn galluogi pobl i raddio’i ddefnyddioldeb ac ychwanegu sylwadau testunol. Mae’r un pecyn adborth ar gael i’r xxxx ymwelwyr ac mae’r data yn cymell rhoi gwybod am fodlonrwydd yn ogystal â chanfod problemau mynediad a gwybodaeth i’w datblygu ymhellach neu eu rhannu gyda’r gwasanaeth Cyngor perthnasol fel xxxx x xxxxxx welliant barhaus.
Mae taflen profedigaeth “Pan fydd rhywun yn marw” wedi’i chynhyrchu i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau presennol i'r rhai sy'n profi marwolaeth sydyn ac mae 2000 o gopïau wedi’u hargraffu. Cynhaliwyd digwyddiad ymgynghori ar Gynllunio Gofal Ymlaen Llaw, Trefniadau
Diogelu rhag Colli Rhyddid, Byw Nawr/Live Now, Gwasanaeth Diwedd Oes Conwy a XxxxXxxxxx.xxx ar gyfer gweithwyr proffesiynol. Dosbarthwyd y taflenni i swyddfeydd meddyg teulu yng Nghonwy, Trefnwyr Angladdau, ysbytai, timau nyrsio yn y gymuned, crwner, amlosgfa a’r cyhoedd. Mae’r daflen wedi’i hysbysebu gyda Newyddlen CPP a Bwletin Conwy.
Rydym wedi parhau i gefnogi rhaglenni cynhwysiad digidol cenedlaethol a lleol ac ym mis Mawrth 2017 cawsom achrediad Siarter Digidol Cymru i gydnabod ein swyddogaeth wrth ddarparu sgiliau digidol a chefnogi pobl i fynd ar-lein. Yn ddiweddar, gwnaethom ymddangos ym mlog Trechu Tlodi Cydweithredfa Cymru ar gyfer gwaith partneriaeth gyda’r Ganolfan Byd Gwaith a Chymunedau Digidol Cymru. Mae’r gwaith yn llwyddiannus a bydd yn barhaus.
Mae Wi-Fi am ddim rŵan ar gael rhwng Porth Eirias a Pier Bae Colwyn. Mae Wi-Fi am ddim hefyd ar gael yn safleoedd y Cyngor gan gynnwys y cyfleusterau hamdden a llyfrgelloedd. Gall ysgolion ddewis defnyddio’r cyfleuster ar gais. Rydym hefyd yn archwilio i osodiad y Pwyntiau Mynediad Gwybodaeth i Dwristiaid a leolir yn y Sir ac ystyried ehangu
ymhellach pan fydd cyfleoedd ariannu grant yn xxxx x xxxx fo tystiolaeth o ddefnydd llwyddiannus. Rydym hefyd yn archwilio ardaloedd lle gellir ymestyn y wi-fi presennol i ymwelwyr i ardaloedd gwledig.
Fel etifeddiaeth Prosiect Cynhwysiant Ariannol Conwy a Sir Ddinbych rhoddwyd 500 trwydded e-ddysgu cynhwysiant ariannol i CBSC i’w defnyddio erbyn 31 Mawrth 2017. Erbyn y dyddiad hwn, roedd 419 o’r 500 trwydded wedi’u defnyddio, sy’n cael ei ystyried fel canlyniad rhagorol i CBSC ac yn dangos ein hymrwymiad i’r rhaglen cynhwysiant ariannol.
Rhoddwyd hyfforddiant i’r Aelodau hefyd.
Rydym yn hyrwyddo defnydd ein gwasanaethau ar-lein i hawlio Lleihad Xxxx-dal Tai/Treth y Cyngor a defnyddio’r Mynediad i Hawlwyr a Mynediad Landlordiaid, trwy annog defnydd y gwasanaethau hyn i’r cyhoedd dros y ffôn, yn ein Swyddfeydd Xxxx-dal Ardal ac ar ein llythyrau hysbysu. Mae gennym gyfrifiaduron ar gael i’w defnyddio gan y cyhoedd yn ein Ardaloedd Aros Swyddfeydd Xxxx-dal Ardal gyda chymorth gan staff os oes angen.
Yn y flwyddyn ariannol 2016/17, roedd 534 o gwsmeriaid wedi hawlio Gostyngiad Xxxx-dal Tai/Treth y Cyngor gan ddefnyddio’r ffurflenni hawlio ar-xxxx, xx’n gynnydd o’i gymharu â’r flwyddyn ariannol flaenorol, sef 404. Nifer y tanysgrifiadau cyfredol ar gyfer y Cynnyrch Mynediad Landlordiaid yw 71 a’r Cynnyrch Mynediad Hawlydd yn 140.
Mae’r xxxx ysgolion rŵan wedi cael mynediad hunan wasanaeth i weld hawl cyfredol disgyblion eu hysgol i ginio ysgol am ddim, yn hytrach na gorfod aros am restr wythnosol.
Dechreuwyd hawlio Credyd Cynhwysol (CC) yng Nghonwy o 4 Mai 2015 ond ar hyn x xxxx dim ond ceiswyr swydd sengl sy’n gwneud cais newydd sy’n cael eu gwahodd i hawlio CC. Mae Cyngor Conwy yn cael xxxxx xxx yr Xxxxx Gwaith a Phensiynau i gefnogi cwsmeriaid i hawlio ar-lein a darparu Cefnogaeth Cyllidebu Personol (CCP) pan fo angen. Mae'r nifer sy’n derbyn CCP wedi bod yn araf er ein bod wedi edrych ar ffyrdd o gynyddu hyn, e.e. cynllun arbrofol yn darparu gwasanaeth yn y Ganolfan Waith, deunydd hyrwyddo, a thrafodaethau gyda’r Ganolfan Waith i sicrhau eu bod yn hyrwyddo’r gwasanaeth yn eu trafodaeth gyda chwsmeriaid.
Rydym yn parhau i gynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i drafod a monitro effaith a sicrhau ein bod yn gwneud y cyfan a allwn i gefnogi pobl Conwy.
Mae Protocol Gogledd Cymru ar gyfer gwersylloedd Sipsiwn a Theithwyr wedi’i ddatblygu trwy Fforwm Llety Sipsiwn a Theithwyr Gogledd Cymru a‘i
gymeradwyo gan y Cabinet. Mae gweithdrefnau manwl ar gyfer ymdrin â gwersyll, a’i reoli, wedi’i ddatblygu. Mae’r gweithdrefnau hefyd yn ymwneud â phobl yn cysgu ar y stryd yn y Sir.
Mae’r cysyniad o roi gwerth ar ddewis unigolion a’u dewis iaith a diwylliant wedi’i wreiddio ym mhopeth a wnawn. Rydym wedi bod yn cynnal y ‘Cynnig Gweithredol' trwy’r cynllun gweithredu Mwy Na Geiriau a gwnaed argraff arnom gyda nifer yr unigolion sy’n dymuno i’w gohebiaeth fod yn Gymraeg a Saesneg a hefyd nifer y defnyddwyr gwasanaeth sy’n dymuno i’w gwasanaeth fod trwy gyfrwng y Gymraeg. Gallwn hefyd gofnodi dewis iaith y defnyddiwr ar ein systemau, a gallwn ofyn bod y gofal dilynol yn sensitif yn ieithyddol. Cynhaliwyd Ymwybyddiaeth i’r ‘Cynnig Gweithredol' fel rhan o’r rhaglen Gofal Cymdeithasol a Fframwaith Cyflwyno, lle mae staff mewnol ac allanol yn bresennol. Mae’r xxxx siaradwyr Cymraeg yn yr Awdurdod yn gwisgo cortyn gwddf Iaith Gwaith ac mae dysgwyr Cymraeg yn gwisgo’r cortynnau dysgwyr. Wrth ddatblygu manylebau gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau newydd, mae’r gallu i ddarparu gwasanaethau yn yr iaith o’u dewis yn faen prawf allweddol.
Yn dilyn llwyddiannau blaenorol yn Venue Cymru, mae perfformiadau digyffro wedi cael eu trefnu ar gyfer y pantomeim ac rydym yn edrych ymlaen i ymestyn hyn i gynyrchiadau eraill lle bo’n bosibl. Mae perfformiadau digyffro wedi eu cynllunio i groesawu pobl a fyddai’n cael budd o berfformiad digyffro, gan gynnwys pobl gyda chyflyrau Sbectrwm Awtistig, synhwyraidd a chyfathrebu neu bobl gydag anabledd dysgu. Mae agwedd hamddenol tuag at sŵn a symudiad a gwneir newidiadau bach i’r golau a’r effeithiau xxxx yn y sioeau hyn. Mae Theatr Colwyn hefyd wedi cyflwyno dangosiadau digyffro o’u rhaglen sinema. Mae Venue Cymru hefyd wedi cynnal nifer o berfformiadau gydag arwyddo BSL a disgrifiadau xxxx yn ystod y cyfnod gyda’r cwmnïau sy’n ymweld â’r theatr. Byddwn yn parhau i wneud hynny yn ystod cyfnod 17/18 ac yn ceisio datblygu’r gwasanaeth hwn ymhellach.
Xxx xxx Theatr Colwyn bartneriaeth gyda’r Xxxxx Theatre, Lancaster ac maent wedi trefnu Dangosiadau Addas i Ddementia o rai o’r sioeau poblogaidd fel Calamity Xxxx, Singing in the Rain, The Wizard of Oz a Summer Holiday. Pwrpas y dangosiadau yw rhoi cyfle i bobl sy’n byw â dementia a phroblemau cof i fwynhau digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol gyda’u teulu a’u ffrindiau. Yn ystod y sioeau, bydd y goleuadau ymlaen, y xxxx wedi’i addasu a gall pobl godi a symud o gwmpas. Yn ystod yr egwyl, mae Côr Conwy yn perfformio caneuon adnabyddus o’r sioeau, a cafwyd ymateb da iawn i hyn.
Mae rhaglenni’r Cyngor yn cael eu hadolygu yn rheolaidd i sicrhau bod Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb (AEG) yn cael eu cynnal fel sy’n briodol ac mae hyn hefyd yn helpu i wella dealltwriaeth o berthnasedd a’r angen am AEG gydag uwch reolwyr a swyddogion. I sicrhau bod gwasanaethau hefyd yn cynnal AEG ar adeg pan fyddant yn datblygu eu cynigion, mae’r Cynllun Gwaith i'r Dyfodol hefyd yn cael ei adolygu yn achlysurol a negeseuon e-xxxx yn cael eu hanfon at swyddogion yn eu hatgoffa i ystyried AEG lle bo’n briodol. Mae gwasanaethau hefyd yn enwebu Pencampwyr AEG o xxx xxx rheoli i sicrhau bod rhywun yn herio eu gwasanaeth unigol pan fo polisïau ac arferion yn cael eu datblygu i sicrhau eu bod yn meddwl am gynnal AEG ar gam ffurfio’r polisi neu arferion.
Mae gwaith sylweddol wedi’i ddechrau er mwyn amlygu’r angen i gynyddu faint o dai fforddiadwy sydd yn y sir. Mae Asesiad y Farchnad Dai Leol 2016 wedi’i baratoi ynghyd â chynllun Darparu Tai Fforddiadwy drafft sydd wedi’i rannu gyda’r Xxx Arwain Strategol a gyda’r Bartneriaeth Tai Strategol. Mae gweithgor o aelodau/swyddogion wedi’i sefydlu i ystyried prosesau darparu gan ddefnyddio eiddo sy’n bod eisoes yn ogystal ag adnoddau CBSC (tir a’r gallu i gael cyllid). Xxx Xxx Fforddiadwy’n faes blaenoriaeth ar gyfer y Cynllun Corfforaethol nesaf.
Rydym yn parhau i weithio gyda’n partneriaid Cymdeithasau Tai i ymateb i’r angen sylweddol am fwy o dai fforddiadwy yng Ngonwy. Xx xxx nifer cymharol xxxx x xxx cymdeithasol sydd yng Nghonwy o gymharu â gweddill Cymru, mae ein prosesau i ddyrannu’r adnodd cyfyngedig hwn yn gadarn ac yn effeithlon. Mae’r Gofrestr Dai Gyffredinol yn sicrhau bod yr xxxx gymdeithasau tai lleol yn cydweithio i ddyrannu tai cymdeithasol sydd ar gael. Mae hyn yn cynnig gwell gwasanaeth i gwsmeriaid a oedd gynt yn cwblhau sawl cais ar gyfer y cymdeithasau unigol, yn cynnig gwell defnydd o adnoddau cyfyngedig ar draws pob cymdeithas ac mae’n sicrhau bod eiddo’n cael ei ddyrannu’n gyson i’r rhai sydd xx xxxxx fwyaf.
Xxx xxx Partneriaeth Datrysiadau Tai Conwy 29 aelod o staff ar draws Cartrefi Conwy, Cyngor Conwy a’r Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth sy’n darparu ystod o wasanaethau xxxx digartrefedd a dewisiadau tai. Ers agor i’r cyhoedd 2 flynedd yn ôl, mae nifer ymwelwyr y gwasanaeth wedi cynyddu o 5,000 yn y flwyddyn gyntaf i 8,000 yn yr ail a llawer o’r rheini o ganlyniad i well ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth.
18 mis ar ôl cyflwyno Deddf Tai (Cymru) 2014, mae Conwy’n arwain y ffordd mewn sawl agwedd ar wasanaethau xxxx digartrefedd a dewisiadau
tai ac, efallai yn fwyaf nodedig, mae ein trefniadau partneriaeth yn cael eu hystyried yn arfer cadarnhaol yn genedlaethol. Byddwn yn canolbwyntio’n benodol ar gydweithio gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol i ddiwallu anghenion pobl ifanc ac i sicrhau bod “Llwybrau Cadarnhaol at fod yn Oedolyn". Byddwn yn adeiladu ar ein gwaith gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Xxxxx Cadwaladr i gefnogi rhyddhau cleifion yn amserol i liniaru’r pwysau ar Wasanaethau Iechyd a lleihau “blocio gwelyau” mewn ysbytai lleol a pharhau i weithio gyda Cartrefi Conwy ar ddewisiadau tai ac xxxx
digartrefedd yn dilyn newidiadau diweddar i’r Lwfans Tai Lleol a rheolau Xxxx-dal Tai.
Mae Venue Cymru a Theatr Xxxxxx wedi parhau gyda'u haelodaeth o’r cynllun mynediad i’r anabl cenedlaethol HYNT, i sicrhau bod cynnig cyson ar gael i ymwelwyr gyda xxx xxx ofynion mynediad penodol. Y bwriad yw y bydd hyn yn parhau ar gyfer 2017/18.
Mae llyfryn safonau gwasanaeth ar Gludiant o'r Cartref i'r Ysgol ar gyfer plant Anghenion Addysg Arbennig wedi’i ddatblygu fel bod rhieni yn gwybod pa safon gwasanaeth i’w ddisgwyl; mae mannau consesiynol yn cael cyhoeddusrwydd ac mae ffurflenni cais ar gael yn electronig ar wefan CBSC. Mae strategaeth ehangach yn cael ei datblygu a fydd yn cynnwys ystyried gwneud gwybodaeth olrhain contractwyr yn hygyrch i rieni fel y xxxxxxx olrhain lleoliad cludiant eu plentyn.
4. Gwybodaeth Cyflogaeth Benodol
4.1 Adroddiadau Monitro Cyflogaeth
Mae Adroddiadau Monitro Cyflogaeth blynyddol Cyngor Conwy yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan xxx blwyddyn. Mae’r Dyletswyddau Penodol, a nodir yn y Dyletswyddau Statudol (Cymru) 2011, yn gofyn i sefydliadau cyhoeddus adrodd yn flynyddol ar y meysydd canlynol ar gyfer pob nodwedd warchodedig:
• Gweithwyr sy’n gweithio i ni ar 31 Mawrth xxx blwyddyn
• Ymgeiswyr am swyddi dros y flwyddyn ddiwethaf
• Gweithwyr sydd wedi gwneud cais yn fewnol i newid swydd (olrhain ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus)
• Ymgeiswyr ar gyfer hyfforddiant, a faint fu’n llwyddiannus
• Gweithwyr sy’n cwblhau’r hyfforddiant
• Gweithwyr sy’n rhan o weithdrefnau cwyno fel achwynydd neu fel person y gwnaed cwyn yn ei erbyn
• Gweithwyr sy'n destun gweithdrefnau disgyblu
• Gweithwyr sy'n gadael a'r rhesymau dros adael
Hefyd, mae’n rhaid i sefydliadau cyhoeddus gymharu’r dynion a merched a gyflogir, yn ôl swydd, graddfa, cyflog, math o gontract (gan gynnwys contractau parhaol a chyfnod penodol) a phatrymau gwaith (gan gynnwys llawn amser, rhan amser a phatrymau hyblyg eraill).
Mae’r adroddiadau hyn yn monitro’r gweithlu a’r gweithlu posibl a defnyddir yr wybodaeth hon i adolygu effeithiolrwydd ein polisïau ac arferion cyflogaeth ac i ystyried a fu unrhyw ddiffyg posibl o ran tegwch neu hyd yn oed gwahaniaethu. Mae data sy'n dangos y gallai fod potensial ar gyfer diffyg tegwch neu wahaniaethu wrth ddefnyddio polisi neu arfer yn cael ei ymchwilio yn fwy manwl ac os bydd angen, bydd camau adferol yn cael eu cymryd i'w ddileu drwy adolygu'r polisi neu arfer perthnasol. Rydym yn adolygu ein xxxx bolisïau yn achlysurol ac yn cynnal Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb lle mae hyn yn berthnasol.
Rydym yn defnyddio gwybodaeth monitro cyflogaeth i'n helpu i ganfod unrhyw faterion cydraddoldeb allweddol sy’n gofyn am gamau penodol; a yw’n gweithlu yn adlewyrchu’r gymuned leol; mesur cynnydd xxx blwyddyn; canfod camau posibl i ddatblygu cydraddoldeb neu feithrin perthnasau da ac wrth gynnal Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb.
Rydym wedi cymryd camau i wella’r data ar fonitro cydraddoldeb ar gyfer ein staff, tra'n derbyn bod rhaid i ni barchu nad yw pob gweithiwr yn dymuno darparu’r wybodaeth bersonol neu sensitif hon. Credwn ei bod yn bwysig ein bod yn rhoi cyfle i weithwyr gael eu cyfrif os ydynt yn dymuno hynny. Mae'r ffurflen gais bapur (sydd rŵan ond yn cael ei ddefnyddio at ddibenion hygyrchedd) a’r ffurflen gais ar-lein yn rhoi eglurhad ynghylch xxx fod data monitro cydraddoldeb yn cael ei gasglu, a sut y bydd yn cael ei ddefnyddio, gan roi sicrwydd ynghylch y Ddeddf Diogelu Data a chyfrinachedd.
Xxx xxxxx i ymgeiswyr lenwi ein ffurflen monitro cydraddoldeb fel rhan o e-recriwtio oherwydd bod y rhan hon yn orfodol, er bod y rhan fwyaf o’r meysydd yn rhoi dewis i staff nodi: “mae’n well gen i beidio â dweud”.
Rydym yn ehangu'r defnydd o’n cyfleuster “hunanwasanaeth” fel y gall staff fewngofnodi o’r rhyngrwyd gartref, a ddylai wella ymhellach y data cydraddoldeb sydd gennym ar gyfer staff.
Mae ein Hadroddiad Monitro Cyflogaeth diweddaraf ar gyfer 2016-17 ar gael ar ein gwefan o xxx yr xxxxx Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Mae gennym y data canlynol ar gyfer staff yng Nghonwy:
100% | Rhyw |
100% | Oedran |
99.40% | Statws Priodasol / Partneriaeth Sifil |
48.40% | Hil |
42.5% | Anabledd |
35.5% | Crefydd/ Credo |
35.6% | LGB |
26.1% | Trawsrywedd |
Mae’r data ym mhob categori wedi gwella ychydig ers y llynedd. Mae’r ffigurau hyn yn dangos faint o bobl sydd wedi darparu gwybodaeth am xxx nodwedd warchodedig, nid yr union nifer o bobl yn y grŵp hwnnw. Wrth ddefnyddio gwybodaeth o’r categorïau gyda lefelau data is, mae’n rhaid cymryd gofal wrth gymryd bod y ffigurau hyn yn cynrychioli ein gweithlu.
Dengys ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer 2016-17 ein bod yn cyflogi 4163 o staff ar gontract parhaol neu dymor penodol, y mae 73.2% ohonynt yn fenywaidd a 26.8% yn wrywaidd; mae 56% wedi nodi eu bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil; 1.8% ag anabledd; 0.5% yn Lesbiaidd, Hoyw neu Ddeurywiol; 1.2% yn Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME). Mae ein gweithlu staff achlysurol yn cynnwys 75% o ferched a 25% o ddynion, er na fydd pob aelod o staff wedi eu cynnwys yn y cyfrif hwn yn y gwaith drwy'r amser, gan eu bod fel arfer yn cael eu galw i weithio yn ôl yr angen.
Roedd llai o geisiadau yn ystod y cyfnod hwn (2996 o’i gymharu â 3401 y flwyddyn flaenorol) ar gyfer 513 swydd wag (205 y llynedd). Roedd cyfartaledd o 5.8 cais ar gyfer pob swydd wag. Cafwyd cynnydd o 14.8% yn nifer yr ymgeiswyr gwrywaidd eleni. Roedd 45.16% o'r xxxx ymgeiswyr yn ferched a 58.8% yn ddynion. Denwyd 4.87% o ymgeiswyr anabl (yr un faint â’r llynedd) ond roedd niferoedd i xxxx i 146 (o 163 y llynedd), ond mae hyn yn adlewyrchu’r lleihad yn nifer cyffredinol y ceisiadau. Rydym wedi xxxx 1.17% BME, sy'n cyfateb i 35 o ymgeiswyr, sydd ddim ond 2 yn fwy na’r llynedd. Mae hyn yn ymddangos yn isel o’i gymharu â Chyfrifiad 2011 (2.3%).
Rydym yn parhau i gyflogi mwy o staff rhan amser (53%) na staff llawn amser (47%) gyda 88% o staff rhan-amser yn ferched. Merched sy’n dal 59% o’r swyddi parhaol llawn amser. Mae 80% o staff llawn amser Contract Tymor Penodol (FTC) yn ferched a 88% o staff rhan-amser FTC yn ferched. Merched hefyd sydd yn dal swyddi achlysurol yn bennaf, sef 75%.
Cafodd 42% o ymgeiswyr benywaidd eu rhoi ar restr fer, 42% o ymgeiswyr anabl (5.17% o’r cyfanswm ar y rhestr fer), a 29% o ymgeiswyr BME (0.83% o’r cyfanswm ar y rhestr fer). Gwnaed 341 o benodiadau yn ystod y flwyddyn, gyda 59% yn ferched, 41% yn ddynion, 3% yn anabl (o’i gymharu â 1.2% yn y gweithlu) a 0.5% yn BME (o’i gymharu â 0.8% yn y gweithlu).
Roedd 63% o'r xxxx achosion Salwch, Cwyno/Bwlio ac achosion disgyblu/galluedd yn ymwneud gweithwyr benywaidd, sydd yn is na'r proffil gweithlu o 74% yn ferched a 26% yn ddynion.
Roedd nifer uwch o achosion Salwch, Cwyno/Bwlio ac achosion disgyblu/galluedd yn ymwneud â gweithwyr o fewn yr ystod oedran 45-54, sy’n cyd-fynd yn fras â’r gweithlu gyda 27% o gyfanswm y gweithlu yn y grŵp oedran hwn.
Roedd yr achosion cwyno/bwlio yn cynnwys 57% o ferched, sy’n dangos bod nifer uwch o ddynion wedi cyflwyno cwynion o gymharu â phroffil y gweithlu, gyda 75% o’r xxxx achosion cwyno/bwlio gan weithwyr yn y grŵp oedran 55-64. Roedd 63% o achosion o absenoldeb oherwydd salwch yn ferched sydd ar ochr gywir y proffil gweithlu yn fras. Mae nifer yr achosion disgyblu/galluedd wedi lleihau ar gyfer dynion a merched eleni, ond yn nodedig ar gyfer dynion. Roedd 63% o’r achosion disgyblu/galluedd yn
ferched, sy’n adlewyrchu proffil y gweithlu yn fras.
Roedd 83% o'r 525 o ymadawyr yn wirfoddol, 71% ohonynt yn fenywod. O'r rhai a adawodd yn anwirfoddol, roedd 49% ohonynt yn staff yr oedd eu contract dros dro wedi dod i ben, gadawodd 14% o weithwyr oherwydd diswyddiadau gorfodol a chafodd 36% o weithwyr eu diswyddo (cafodd 58% eu diswyddo ar sail iechyd gwael). Gadawodd 12 o weithwyr anabl y sefydliad yn ystod y cyfnod, 9 yn wirfoddol, a 3 aelod o staff BME.
Mae'r canlyniadau a adroddwyd yn adroddiad Monitro Cyflogaeth 2016-17 yn dangos rhywfaint o welliant mewn recriwtio Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) a grwpiau anabl, yn ogystal â nifer o dueddiadau yn symud
yn nes at y proffil xxxxxxxx. Mae manylion llawn a dadansoddiad o'r data i'w gweld yn Adroddiad Monitro Cyflogaeth 2016-17 ar ein gwefan.
4.2 Cyflog Cyfartal a Gwahaniaethau Cyflog
Deddf Cydraddoldeb 2010 yw'r ffynhonnell ddeddfwriaethol gyfredol ar gyflog cyfartal ar gyfer y nodwedd warchodedig rhyw. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i ferched a dynion gael eu talu ar delerau'r un mor ffafriol lle maent yn cael eu cyflogi ar 'waith tebyg' neu 'waith a ystyrir yn gyfwerth' neu 'waith x xxxxx cyfartal'. Mae Cyngor Conwy yn gweithredu cynllun Gwerthuso Swyddi (GS) a weithredwyd ar 1 Rhagfyr 2010. Mae hyn yn golygu bod pob swydd yng Nghyngor Conwy wedi cael sgôr yn seiliedig ar lefel yr wybodaeth a sgiliau, swm y creadigrwydd, cymhlethdod y cysylltiadau a pherthnasau, pa adnoddau y maent yn gyfrifol amdanynt, lefel a chymhlethdod y penderfyniadau a chanlyniadau, pa mor gymhleth yw’r gofynion gwaith, gofynion corfforol, amodau gwaith a'r cyd-destun.
Yna bydd y sgôr ar gyfer y swydd yn cyd-fynd â Graddfa.
Mae gennym uchafswm o 4 pwynt cynnydd mewn graddfa ac fel arfer bydd staff yn cychwyn ar y gwaelod ac yn symud ymlaen xxx blwyddyn i’r lefel nesaf nes eu bod yn cyrraedd top y raddfa, cyn belled eu bod wedi bod yn perfformio yn foddhaol. Xxx xxx y Rheolwyr y dewis o symud staff i lefel uwch yn gynt, ond fel arfer bydd hyn yn cael ei wneud oherwydd perfformiad eithriadol neu bwrpasau cadw staff. Ni ellir symud y tu hwnt i’r raddfa.
Nid oes gennym unrhyw gynlluniau bonws ar waith ar gyfer o staff ar Delerau ac Amodau Statws Sengl. Mae staff yn derbyn taliadau ychwanegol os ydynt yn gweithio oriau anghymdeithasol neu goramser, ond mae hyn yn cael ei gymhwyso i'r xxxx staff yn y Cyngor a chaiff xx xxxx'n seiliedig ar ddata taflenni amser, a gwblhawyd gan y gweithiwr.
Ar hyn x xxxx nid oes cyfraddau'r farchnad a gytunwyd ar xxxxx, xxx unrhyw amddiffyniad wedi’i gyfyngu i 12 mis (yn achos sefyllfa diswyddo/adleoli os yw cyflog yn lleihau un gradd), nid ydym yn gweithredu cyflog sy'n gysylltiedig â pherfformiad neu gymhwysedd (heblaw'r hyn a ddisgrifir uchod o fewn gradd) ac mae’r unig drefniadau gwahanol gyflog arall yn ymwneud â Rheoliadau TUPE (Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth) lle mae telerau ac amodau wedi’u diogelu wedi trosglwyddo gyda gweithiwr.
Rydym yn talu lwfansau am fod wrth gefn a bod ar alw pan a phryd fod angen i staff weithio y tu xxxxx i'w oriau arferol ar gyfer gwaith argyfwng.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn argymell y dylai bylchau cyflog o 5% neu fwy gael eu trin fel rhai sylweddol.
Mae Archwiliad Cyflog Cyfartal diweddaraf a gynhaliwyd yn 2017 yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau rhwng -1.8% a +0.4%, ac yng Ngraddfeydd G01, G03-G06 a G09, mae’r cyflog yn fwy ffafriol o ychydig i ferched. Wrth edrych ar y bwlch cyflog cyffredinol rhwng y rhywiau ar draws yr xxxx raddfeydd Statws Sengl (G01-G12), mae’r bwlch wedi lleihau i 7.53%, gan ddangos lleihad xxxxxxx o 13.1% ers 2011. Pan fyddwn yn ychwanegu’r gweithlu cyfan, gan gynnwys staff dysgu a staff ysgol eraill, mae’r bwlch cyflog cyffredinol rhwng y rhywiau ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn 4.39%, gan ddangos lleihad sylweddol ers 2009 o 15.8%
fel y dangosir yn y tabl isod.
Bwlch Cyflog | 2009 cyn GS | 2009 ar ôl GS | 2011 | 2015 | 2017 |
Bwlch cyflog rhwng y rhywiau rhwng Graddfeydd G01- G12 | 1.1 i 0% | 0.8 i 1.9% | -1.8 i 0.4% | ||
Cyfanswm bwlch cyflog rhwng y rhywiau Graddfeydd G01- G12 | 13.1% | 9.3% | 7.53% | ||
Bwlch cyflog rhwng y rhywiau ym mhob swydd | 16.2% | 15.8% | 8.83% | 6.5% | 4.39% |
Bwlch cyflog Anabledd | -10% | 0% | |||
Bwlch cyflog BME | 2.45% | 6.35% |
Mae 30% o’r xxxx swyddi yng Ngraddfa G01 (cyflog isaf) ac 85% o'r xxxx ddeiliaid swyddi yn ferched, sydd ddim yn anghyffredin yn y sector cyhoeddus oherwydd natur llafur-ddwys y gwaith a wneir. Arwahanu
galwedigaethol yw un o’r prif resymau xxx fod bwlch cyflog yn parhau. Yn draddodiadol, mae merched yn llawer mwy tebygol o weithio yn y meysydd coginio, glanhau, gofalu, arlwyo a chlerigol (sy’n dueddol o gynnig cyflogau is) na dynion, sy’n fwy tebygol o weithio mewn adwerthu, adeiladu a chludiant. Mae’r bwlch cyflog wedi’i effeithio gan ffactorau fel cyfran y dynion a merched sy’n gweithio rhan amser neu mewn gwahanol swyddi.
Roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y sector cyhoeddus yn 17.8% yn 2016 a 17.7% yn 2017 (ffynhonnell: Arolwg Blynyddol ONS o Oriau ac Enillion).
Mae 42% o staff wedi darparu gwybodaeth am eu hanabledd. Mae 48% o staff wedi darparu gwybodaeth am eu Hil. Y bwlch cyflog cyffredinol ar gyfer Hil yw 6.35% ac Anabledd yn 0%. Mae’r bwlch cyflog ar gyfer Hil yn ymddangos yn sylweddol yn unol â chanllawiau EHRC, ond mae’r ffigwr wedi’i wyrgamu gan nifer fechan o staff sy’n cael eu cynnwys yn y data sy’n ei gwneud yn anodd llunio unrhyw gasgliadau ystyrlon. Nid yw’n ymddangos bod bwlch cyflog rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, ond eto dylid nodi’r set data cyfyngedig.
Rydym wedi gwneud peth cynnydd gyda merched mewn swyddi rheoli uwch gyda 50% uwch reolwyr yn ferched, a 47%, 50% a 62% yn y 3 graddfa uchaf G10, G11 a G12 yn y drefn honno yn ferched.
Mae ein Hadroddiad Monitro Cyflogaeth diweddaraf 2015-16 yn dangos bod merched yn cael eu cynrychioli yn llai cyfrannol yn y graddau G06, G09, G10 a G11, ond mae llawer mwy o ferched yn y Graddau G01, G04 a G08. Mae hefyd yn dangos bod cymhareb gyffredinol y gweithlu (76:24) wedi’i adlewyrchu yn bennaf ym mhob ystod cyflog ar wahân i £16-20K,
£40-45K a £50+, lle maent yn 57%, 49% a 53% yn y drefn honno. Yn y categori dros £50K, roedd 53% yn ferched, sydd yr un fath â’r llynedd. Mae’n xxxxx nodi bod nifer y bobl yn yr ystodau cyflog uwch yn llawer llai a xxxx xxxx ei effeithio gan benodiad unigol. Mae'r categori dros £50,000 yn cynnwys y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr, Penaethiaid Gwasanaeth, Prif Athrawon, Dirprwy Brif Athrawon ac Ymgynghorwyr/ Arolygwyr Addysg.
Nid yw’r diwygiad i’r Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau) 2017 a ddaeth i rym o Ebrill 2017 yn
berthnasol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru neu’r Xxxxx xxx fod gennym y Rheoliadau Dyletswydd Statudol (Cymru) 2011 sydd eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddilyn y gofynion rhoi gwybod am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
5. Casgliad
Nodwyd 137 cam gweithredu ym mlwyddyn gyntaf ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020. Mae 124 o gamau gweithredu (91%) wedi eu cwblhau yn llwyddiannus ac mae llawer o'r rhai a gwblhawyd yn parhau i fod ar y gweill. Mae 13 cam gweithredu arall (9%) lle mae gwaith wedi dechrau ond nad yw wedi’i gwblhau xxxxx xxx’r rhain yn cael eu cario drosodd i flwyddyn 2 fel y gallwn roi gwybod amdanynt yn adroddiad y flwyddyn nesaf.
Fel y gwelir, mae llawer o waith wedi’i wneud yn y flwyddyn ddiwethaf i symud tuag at gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb, gyda’r amcan cyffredinol o wella tegwch, eglurder a chyfiawnder i bawb gyda darpariaeth gwasanaeth a chyflogaeth. Byddwn yn parhau i wella ein casgliad a defnydd o ddata cydraddoldeb ac rydym yn teimlo ein bod wedi gwneud cynnydd da wrth ymgysylltu yn well gyda’n cymuned er ein bod yn cydnabod bod lle ar gyfer gwelliant xxx amser. Byddwn yn parhau i ddefnyddio data cydraddoldeb ac adborth i ategu ein polisïau a gweithdrefnau trwy’r broses Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb.
Gallwn fod yn xxxxx o’r hyn rydym wedi’i gyflawni fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad hwn, pan mae cyllidebau ac adnoddau wedi parhau i fod yn heriol iawn. Rydym yn gwybod na allwn eistedd yn ôl, a bod angen i ni ddal i ymdrechu i sicrhau hawliau xxxx ddinasyddion Conwy.