CYNNWYS
Gwybodaeth
Swyddog Tai a
Ebrill 2023
CYNNWYS
1. Croeso
2. Cefndir
3. Awgrymiadau ar gyfer cwblhau cais am swydd Grŵp Cynefin
4. Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
5. Sut i ymgeisio am y swydd
6. Datganiad Cyfle Cyfartal
7. Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth
1. Croeso
Xxxxxx Xxxxxxx Ymgeisydd
Cyfeirnod y swydd: GC580-00 SWYDDOG TAI A CHEFNOGAETH
Cytundeb Parhaol 35 awr yr wythnos
Lleoliad gwaith: Hyblyg – Penygroes / Llangefni / Adre
Diolch i chi am holi ynglŷn â’r swydd uchod gyda Grŵp Cynefin ac amgaewn becyn swydd i’ch sylw.
Cofiwch nodi popeth sy’n berthnasol i’r cais gan gadw mewn cof yr hyn sydd yn y manyleb person.
1. Darllenwch y disgrifiad swydd a’r manyleb person yn ofalus.
2. Cwblhewch xxx xxxx o’r ffurflen gais.
3. Peidiwch â chynnwys CV.
Edrychwn ymlaen at dderbyn xxxx ffurflen gais, gan xxxx atgoffa i’w chyflwyno erbyn 12.00 o’r gloch y prynhawn, dydd Iau, 11 Mai 2023.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chi drwy’r cyfeiriad e-xxxx yr ydych wedi ei nodi ar xxxx ffurflen gais. Xxx xxxxx i chi wirio xxxx e-byst yn rheolaidd.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynglŷn â’r swydd, yna mae croeso i chi gysylltu â Xxxxxx Xxxxx-Xxxxxxx, Arweinydd Xxx Xxx a Chefnogaeth neu Xxxxxx Xxxxx, Rheolwr Tai a Chefnogaeth ar (0300 111 2122).
Yn gywir
Xxx Adnoddau Dynol
2. Cefndir
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Grŵp Cynefin wrth i ni barhau ar daith drawsnewidiol tuag at ddiwylliant sy’n canolbwyntio’n ddiffuant ar y cwsmer a chanlyniadau. Mae’r sector tai a’n cymunedau gwledig yn parhau i wynebu heriau mawr, yn arbennig datgarboneiddio a darparu mwy o dai fforddiadwy.
Rydym wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014, pan gawsom ein creu wrth i ddau Landlord Cymdeithasol Cofrestredig traddodiadol uno. Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder.
Mae ein cymunedau a nifer y cartrefi rydyn ni’n eu rheoli ar fin tyfu, rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy. Mae gennym uchelgeisiau mawr i adeiladu dros 350 o dai fforddiadwy newydd yn ystod y tair blynedd nesaf; 35 cartref arloesol arall i safon carbon isel / xx-xxxxxx a lleihau ein hol troed carbon o leiaf 4%.
Rydym yn ehangu ein cynnig Gofal Ychwanegol gyda dau ddatblygiad pellach, gan greu 107 cartref arall mewn dwy ardal newydd i fynd i’r afael a’r angen cynyddol, ond yn fwy na hynny byddwn yn helpu i greu lleoedd lle xxx xxx bobl ymdeimlad o gymuned ac yn gallu derbyn lefelau hyblyg o gefnogaeth fel y gallent barhau i fyw’n annibynnol mewn man y maent yn ei garu am gyfnod hirach.
Mae gennym uned fusnes, Gorwel, sy’n darparu gwasanaethau cefnogol ym meysydd camdriniaeth yn y cartref ac xxxx digartrefedd.
Xxx xxx is-gwmni hefyd yn weithredol o xxx ambarêl Grŵp Cynefin: Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych sy’n gweithio i helpu pobl hŷn drwsio, addasu, cynnal a chadw eu cartrefi fel y gallent barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle i unigolion sy’n awyddus i ddatblygu gyrfa yn y xxxx xxx mewn awyrgylch Gymreig lle mae’r amodau gwaith yn flaengar a chyfeillgar i’r teulu.
Mwy na thai
Rydym eisoes yn adnabyddus am wneud mwy na rheoli a gosod tai yn unig. Rydym yn gweithredu fel Strwythur Grŵp, gydag arbenigedd ac adnoddau mewn byw’n annibynnol, addasiadau a gwasanaethau cymorth i bobl ifanc 16-24 oed, pobl hŷn a’r rhai sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl yn ein cymunedau yn ogystal a gwasanaethau cefnogol ar gyfer trais domestig ac xxxx digartrefedd. Mae ein cymunedau gwledig yn bwysig i ni ac felly hefyd yr amgylchedd, gyda phrosiect ein warden ynni gyda degawd o brofiad yn ein cymunedau.
Rydyn ni’n gwybod trwy ein prosiectau sydd wedi ennill sawl gwobr, megis Y Shed a HWB Dinbych, y gallwn ni wneud gwahaniaeth go iawn i unigolion a’u cymunedau ac rydyn ni’n dda am gael partneriaid i weithio gyda’i gilydd i gyflawni mwy nag y gallen ni yn unigol i adfywio cymunedau a chreu cyfleoedd.
Dyma ychydig mwy am xxxx ydym ni’n ei olygu pan fyddwn ni’n sôn am ‘Mwy na thai’ Cartrefi addas o safon mewn llefydd y mae pobl yn xxxxx ohonynt
Bydd ein cartrefi yn y dyfodol yn ddiogel ac yn arloesol, yn cynnwys y dyluniadau diweddaraf lle
gallwch chi weithio gartref. Byddant yn gartrefi am oes, gyda thechnoleg glyfar, yn rhatach i’w rhedeg, yn xxxxxx xxxx ac yn lleoedd cysylltiedig a mannau gwyrdd hawdd eu cyrraedd lle gall ffrindiau, teuluoedd a phlant chwarae, tyfu a chyfarfod yn ddiogel.
Gwasanaethau a phrofiadau rhagorol i’n cwsmeriaid
Rydym am i bobl fod eisiau byw yn ein cartrefi, cael ein hymatebion yn iawn y tro cyntaf ac i’n cwsmeriaid ddweud bod ein gwasanaethau’n rhagorol. Ac mae’n hawdd i’n tenantiaid gysylltu a ni pryd bynnag maen nhw eisiau neu angen.
Gwella bywydau
Byddwn yn gwneud gwahaniaeth i iechyd a lles y bobl yn ein cymunedau. Bydd ein gwaith yn parhau i fynd i’r afael ag effeithiau tlodi (tlodi bwyd, tlodi digidol a thlodi tanwydd) a’u lleihau, gan ddod o hyd i atebion a chyfleoedd sy’n newid bywydau sy’n galluogi pobl i xxxx xxxxx o dlodi.
Byddwn yn gweithio’n agos gyda phobl i’w galluogi i aros yn eu cartrefi yn ddiogel ac yn annibynnol cyhyd ag y xx xxxx, a pharhau i weithio gyda phartneriaid i gefnogi grwpiau bregus ac amrywiol o bobl, ac xxxx digartrefedd a chefnogi’r rhai sy’n dioddef cam-drin domestig.
Cynnal cymunedau
Bydd ein cymunedau’n ffynnu a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i hwyluso a chefnogi hyn. Byddwn yn gatalydd ar gyfer newid cadarnhaol yn ein cymunedau, gan fuddsoddi mewn gwella iechyd a lles ein cymunedau wrth weithio gydag asiantaethau a grwpiau eraill i adfywio cymunedau.
Yn ogystal ag adeiladu mewn ardaloedd trefol, bydd gennym hefyd ffocws gwirioneddol ar ein cymunedau gwledig lle mae ail gartrefi yn arwain at eithrio pobl ifanc lleol trwy beri iddynt gael eu prisio xxxxx o’r farchnad.
Twf cadarn a chynaliadwy
Byddwn yn parhau i adeiladu tai diogel, fforddiadwy o ansawdd rhagorol, gan gynnig tai ar gyfer gwahanol ddeiliadaethau sy’n diwallu angen lleol, boed yn ddemograffig, yn gymdeithasol neu’n economaidd. Lle bynnag y xx xxxx, byddwn yn adeiladu cartrefi i xxxxx xx-xxxxxx ac yn chwilio am gyfleoedd i ddenu grantiau ar gyfer adeiladau newydd ac ôl-osod i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi presennol.
Byddwn yn archwilio cyfleoedd i ddefnyddio ein harbenigedd i adeiladu tai ar gyfer eu gwerthu ar y farchnad er mwyn cynhyrchu cyfleoedd i fuddsoddi mewn tai rhent mwy fforddiadwy a pharhau i geisio cyfleoedd gweithio rhanbarthol a lleol trwy weithio mewn partneriaeth sy’n ychwanegu gwerth, yn cyfateb i’n gwerthoedd ac yn helpu i adeiladu mwy o gartrefi.
Mwy o wybodaeth - ewch ar ein gwefan xxx.xxxxxxxxxxx.xxx
3. Awgrymiadau ar gyfer cwblhau cais am swydd gyda Grŵp Cynefin
Yn Grŵp Cynefin mae ein hethos yn canolbwyntio ar alluogi, cefnogi a grymuso pobl, ac mae hynny'n cynnwys ein staff. Gyda hyn mewn golwg rydym wedi tynnu ynghyd ychydig o gyngor ac awgrymiadau defnyddiol ar sut i gwblhau cais am swydd wag gyda Grŵp Cynefin. Rydym am asesu pobl ar eu gorau fel y gallwn gael gwir ddealltwriaeth o addasrwydd i'r rôl ac i'n sefydliad.
Y pethau sylfaenol
Mae'n swnio'n syml ond mae'r pethau sylfaenol hyn yn gwneud gwahaniaeth i'ch cais.
• Cwblhewch y cais yn llawn gan roi sylw arbennig i xxxxx a dyddiadau swyddi. Peidiwch â gadael dyddiadau'n wag - os oes gennych fwlch yn xxxx cyflogaeth dywedwch wrthym am hyn, ni fydd yn effeithio ar ein hasesiad
• Gwiriwch xxxx sillafu a'ch gramadeg
• Sicrhewch fod xxxx cais yn cael ei gyflwyno'n dda yn electronig. Rydym yn asesu cymwysiadau yn gyffredinol ar gyfer llythrennedd cyfrifiadurol a defnyddio Microsoft Office
Deall y rôl / swydd
Mae ein ffurflen gais yn gofyn am xxxx dealltwriaeth o addasrwydd i’r rôl fel y gallwch ffitio o fewn diwylliant a gwerthoedd ein sefydliad.
• PEIDIWCH â diystyru na rhuthro'r cwestiynau hyn - maen nhw'n rhan o'n hasesiad
• PEIDIWCH â chopïo na llên-ladrata o gynnwys ar-xxxx xxx ein gwefan
• COFIWCH ymchwilio i'r pwnc (os oes angen) a ffurfio'ch casgliad xxxx hun
• COFIWCH ymchwilio i ddarpariaethau Grŵp Cynefin a’r is-gwmnïau.
Datganiad personol - y darn pwysig iawn!
Bydd xxxx datganiad personol yn cael ei farcio gan grŵp o aseswyr (o leiaf dau o bobl) yn annibynnol yn erbyn manyleb unigolyn y rôl. Y fanyleb person yw'r ddogfen olaf yn y pecyn swydd xxx amser a bydd yn cynnwys set o feini prawf hanfodol a ddymunol.
• GWNEWCH YN SIWR xxxx bod yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol, yn benodol lefel y profiad sy'n ofynnol ar gyfer y rôl. Ni fydd ceisiadau nad ydynt yn cwrdd â'r lefel ofynnol o brofiad yn cael eu hasesu ymhellach
• COFIWCH deilwra'ch cais gan ddarparu manylion ac enghreifftiau ar gyfer pob gofyniad yn y fanyleb person.
Er enghraifft, nid yw'n ddigonol dweud “Rwy'n chwaraewr xxx da”. I sgorio'r mwyafrif o bwyntiau byddwch chi'n rhoi enghraifft i ni o amser lle buoch chi'n gweithio fel rhan o dîm a xxxx oedd y canlyniad.
• COFIWCH gynnwys pob un o ofynion y fanyleb person
• COFIWCH gynnwys penawdau a'i gwneud hi'n hawdd i'r asesydd weld pa ofyniad yn y fanyleb person rydych chi'n cyfeirio ato
• Nid yw ychydig o frawddegau yn ddigon o hyd ar gyfer datganiad personol. Bydd datganiad da yn darparu’r xxxx xxxxx o fanylion sydd eu xxxxxx xxxxx ond bydd yn glir ac yn gryno - tua 2 dudalen A4 yn fras.
Pwynt cyswllt
Mae ein pecynnau swyddi xxx amser yn cynnwys pwynt cyswllt ar gyfer gwybodaeth xxxxxxx. Os ydych chi am ddarganfod mwy am y rôl neu wirio'ch addasrwydd, defnyddiwch y wybodaeth gyswllt a ddarperir.
4. Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
GRŴP CYNEFIN
DISGRIFIAD SWYDD
SWYDDOG TAI Â CHEFNOGAETH
Adran: | Gwasanaethau Cymunedol |
Yn atebol i: | Arweinydd Xxx Xxx a Chefnogaeth |
Yn gyfrifol am: | Dim yn berthnasol |
Lleoliad y swydd: | Hyblyg - Pen y Groes / Llangefni / gweithio o adref |
Datblygu cyfleoedd cyfranogiad effeithiol i denantiaid
•
Gweithio’n effeithiol fel rhan o’r xxx xxx â chefnogaeth er mwyn darparu gwasanaeth rheolaeth tai effeithiol ac effeithlon i denantiaid a chleientiaid eraill, yn unol â pholisïau, gweithdrefnau a safonau Gofal Cwsmer y Gymdeithas.
•
Cydweithio’n effeithiol gydag Asiantau Rheoli, darparwyr cefnogaeth a chydweithwyr eraill i sicrhau bod tenantiaid a thrigolion yn derbyn gwasanaethau rheolaeth tai o’r safon uchaf posibl; cynnal adolygiadau gwasanaeth; sicrhau gosod eiddo yn effeithiol; uchafu incwm rhent y Gymdeithas; xxxxx gydag achosion o ymddygiad gwrth gymdeithasol.
•
Gweithredu fel y prif gyswllt i’r Gymdeithas ar gyfer tenantiaid, Asiantau Rheoli, gweithwyr proffesiynol a’r gymuned leol yn gyffredinol
•
DIBEN Y SWYDD:
CYFRIFOLDEBAU’R SWYDD:
1. Sicrhau gwasanaeth rheolaeth tai effeithiol i denantiaid a thrigolion mewn llety â chefnogaeth mewn cydweithrediad â’r Asiant Rheoli/darparwr cefnogaeth, yn unol â pholisïau, gweithdrefnau a safonau gofal cwsmer y Gymdeithas.
2. Darparu wybodaeth a chymorth ymarferol i Asiantau Rheoli/darparwyr cefnogaeth a chydweithwyr mewnol ac allanol ar faterion rheolaeth tai yn y xxxx xxx â chefnogaeth.
3. Meithrin a hyrwyddo cyfathrebu effeithiol gydag Asiantau Rheoli’r Gymdeithas. Cynnal cyfarfodydd rheolaidd i drafod cynlluniau a rhannu gwybodaeth ac ymarfer da.
4. Cynnig cymorth a chefnogaeth i denantiaid/darpar denantiaid bregus a’u cynrychiolwyr, gan arwydd bostio rhai xxxx xxxxx cymorth mwy arbenigol.
5. Cydweithio â’r Arweinydd Xxx i adolygu a monitro gwasanaethau landlord Asiantau Rheoli’r Gymdeithas, gan gynnal adolygiadau gwasanaeth effeithiol.
6. Cydweithio i sicrhau bod eiddo’n cael eu gosod yn amserol gan ddarparu contract deiliadaeth priodol.
7. Sicrhau uchafu incwm y Gymdeithas drwy weinyddu a monitro cyfrifon rhent a thâl gwasanaeth yn gywir. Cadw gwybodaeth yn gyfredol, gan gynnwys agor tenantiaethau a chyfrifon newydd a xxxx cyfrifon yn amserol. Cysylltu fel fo xxxxx xxxx’r xxxxx xxxx-dal tai a chynrychiolwyr tenantiaid. Cydweithio â’r Arweinydd Xxx i weinyddu codiadau rhent a thâl gwasanaeth.
8. Ymateb yn brydlon i achosion o anghydfod cymdogion neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Darparu cyngor a chasglu tystiolaeth a chydweithio gydag Asiantau Rheoli ac asiantaethau eraill, a thrafod achosion difrifol gyda’r Arweinydd Xxx a chyfreithwyr arbenigol.
9. Mynychu cyfarfodydd aml-asiantaethol ar ran y Gymdeithas.
10. Datblygu perthynas weithio ragorol gyda chydweithwyr allanol, swyddogion gweithredol yr awdurdodau lleol, yr heddlu, cymdeithasau tai a mudiadau trydydd sector eraill
11. Cynrychioli’r Gymdeithas mewn achosion llys sirol, gan sicrhau dilyn protocolau llys a chyflwyno tystiolaeth yn gywir ac yn broffesiynol.
12. Sicrhau cofnodi gwybodaeth rheoli eiddo ar systemau cyfrifiadurol yn gywir a’i cadw yn gyfredol.
13. Gweinyddu trefniadau darparu ac adnewyddu nwyddau xxxx mewn eiddo â chefnogaeth.
14. Cyd-weithio’n agos gyda staff yr Adran Arloesedd a Thwf yn ystod y broses datblygu ac addasu eiddo. Hyrwyddo a rhannu gwybodaeth am gynlluniau newydd.
15. Cyd-weithio’n agos gyda’r Xxx Cynnal a Chadw i gynnal safonau a chyflwr eiddo’r Gymdeithas.
16. Cydweithio i sicrhau fod cyfleoedd cyfranogiad ac ymgynghori priodol ac effeithiol i denantiaid a thrigolion mewn cynlluniau tai â chefnogaeth.
17. Cyfrannu at y gwaith o sefydlu proffil o denantiaid y Gymdeithas i’n galluogi i gynllunio’r busnes at y dyfodol a sicrhau cyfle cyfartal wrth ddarparu gwasanaethau.
18. Paratoi gwybodaeth, adroddiadau neu astudiaethau achos yn unol â gofynion y swydd.
19. Bod yn ymwybodol o ddatblygiadau a deddfwriaethau yn y xxxx xxx â chefnogaeth.
20. Mynychu cyfarfodydd mewnol ac allanol yn ôl yr angen.
CYFRIFOLDEBAU CORFFORAETHOL: | |
Cyflawni Gwasanaeth | • Cyflawni’r gwaith i safon uchel, ar amser ac o fewn cyllidebau • Ymateb i gwsmeriaid mewnol ac allanol yn ddi-oed ac yn broffesiynol • Darparu cyngor a wybodaeth i gyd-weithwyr/cwsmeriaid • Cyflwyno adroddiadau rheolaidd o fewn cyfrifoldebau’r swydd • Cydymffurfio gyda phob polisi ac unrhyw ddeddfwriaeth perthnasol |
Perfformiad | • Cyfrannu tuag at gyflawni Safonau Perfformiad Allweddol yn llwyddiannus • Gweithio tuag at nodau ac amcanion Grŵp Cynefin a chefnogi datblygiad y xxxxx |
Polisïau a Phrosesau | • Gweithio yn unol â xxxx bolisïau a phrosesau Grŵp Cynefin • Sicrhau bod polisïau a phrosesau yn cyd-fynd â gofynion deddfwriaethol, rheolaethol ac ymarferion da • Adolygu a chynnig gwelliannau i bolisiau i gefnogi gwelliant parhaus |
Ariannol a Chyllidebol | • Cyfrannu i reoli cyllidebau’n effeithiol |
Arall | • Cynrychioli Grŵp Cynefin yn effeithiol yn allanol trwy gyfleu delwedd broffesiynol a phositif ar xxx achlysur • Ymrwymiad i gyfranogi tenantiaid ym mhob agwedd o’r gwaith |
Nid yw’r Disgrifiad Swydd uchod yn rhestr xxxx gynhwysfawr o ddyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd.
Bydd gofyn i ymgymryd â dyletswyddau eraill o fewn graddfa’r swydd x xxxx i’w gilydd mewn trafodaeth â’r Rheolwr.
Adolygir y disgrifiad swydd yn rheolaidd ac yn unol â gofynion y gwasanaeth. Caiff unrhyw newid a fwriedir ei drafod gyda deilydd y swydd.
CYFRIFOLDEBAU PERSONOL: | |
Gweithredu yn unol a gwerthoedd Grŵp Cynefin:- | |
Agored | Tryloyw yn y ffordd rydym yn gweithio ag yn gwneud penderfyniadau. Xxxxx i gydweithio er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau. |
Arloesol | Blaengar ac yn xxxxx i herio ein hunain er mwyn darganfod ffyrdd newydd o weithredu a darparu gwasanaethau o’r safon uchaf i’n cwsmeriaid. |
Cefnogol | Gweithio gydag angerdd i gefnogi ein cwsmeriaid, cyd-weithwyr a’n partneriaid yn ogystal â helpu ein cymunedau lwyddo. |
Cyflawni | Gweithredu’n broffesiynol gan ddefnyddio ein harbenigedd, er mwyn sicrhau ffyniant y cwmni a’n pobl. Anelu am welliant parhaus a gwerth am xxxxx xxx amser. |
Parch | Parchu ein gilydd ag eraill, hyrwyddo cydraddoldeb a gwrthod unrhyw ragfarn |
Sicrhau cyfrinachedd, diogelwch a chywirdeb data Hyrwyddo a gweithredu yn unol â’r Polisi Iechyd a Diogelwch Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob agwedd o’r gwaith. |
Mewnol: Aelodau eraill o’r xxx Xxx â Chefnogaeth a’r Adran Gwasanaethau Cymunedol.
Aelodau o’r Xxx Xxxxxx a Chadw a Chyllid.
Allanol: Tenantiaid a thrigolion, Asiantau Rheoli a mudiadau trydydd sector.
PRIF GYSYLLTIADAU’R SWYDD:
• Gwaith wrth ddesg mewn swyddfa neu gartref
• Ymweliadau cartref a safle.
• Oriau swyddfa safonol, ond oriau ychwanegol x xxxx i'w gilydd neu i fynychu cyfarfodydd tu xxxxx i oriau swyddfa.
• Teithio i gyfarfodydd / hyfforddiant
AMGYLCHEDD GWAITH ARFEROL:
MANYLEB PERSON SWYDDOG TAI Â CHEFNOGAETH
Ystyrir yr xxxx xxxxx prawf yn hanfodol oni nodir fel dymunol
Addysg a Chymwysterau:
Lefel A (2+)
NVQ Lefel 3 (National Vocational Qualification) BTEC Diploma Cenedlaethol
BTEC ONC (Ordinary National Certificate) City & Guilds Lefel 3
Cymhwyster xx xxxx tai â chefnogaeth Neu’r hyn sy’n cyfateb trwy brofiad
Profiad Proffesiynol:
Profiad perthnasol yn y xxxx rheolaeth tai / tai â chefnogaeth
Profiad o adolygu ansawdd gwasanaeth neu reoli perfformiad (dymunol) Profiad o ddarparu cefnogaeth neu gyngor (dymunol)
Gwybodaeth a Sgiliau:
Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r xxxx xxx â chefnogaeth
Ymwybyddiaeth o anghenion trigolion a thenantiaid mewn tai â chefnogaeth Yn medru gweithio’n dda fel rhan o dîm ac yn anibynol
Yn meddu ar sgiliau i ddatrys problemau
Yn medru defnyddio Technoleg Gwybodaeth i gyflawni’r gwaith Trwydded yrru gyfredol lawn
Yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) yn y lefelau canlynol neu lefelau uwch:
Gwrando: Yn gallu dilyn sgyrsiau arferol sy’n ymwneud â’r gwaith, yn y ddwy iaith rhwng siaradwyr rhugl.
Darllen: Yn gallu deall deunydd cyffredin, a deunydd technegol gyda geiriadur, yn y ddwy iaith.
Siarad: Yn gallu cynnal sgwrs go fanwl am faterion gwaith arferol yn y ddwy iaith. Ysgrifennu: Yn gallu drafftio testun arferol, gyda chymorth golygyddol, yn y ddwy iaith.
Arwain a Rheoli
Yn medru gweithio’n effeithiol gan ganolbwyntio ar ganlyniadau Ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau cwsmer rhagorol
Yn meddu ar arddull i weithio ar y cyd
Crynodeb o’r Telerau ac Amodau SWYDDOG TAI Â CHEFNOGAETH | |
Math o gytundeb | Parhaol |
Cyflog | Band D, Pwynt 1 – 5 £27,335 - £30,764 Cynigir y swydd ar bwynt isaf y band Telir cyflog ar yr 20fed o xxx mis |
Gwyliau: | 30 diwrnod y flwyddyn ynghyd â’r gwyliau banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd |
Teithio: | Defnyddiwr car hanfodol |
Pensiwn: | Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS) |
Cyfnod prawf: | 6 mis |
Oriau gweithio a threfniant gwaith | 35 awr yr wythnos Llun - Gwener Gweithredir cynllun fflecsi |
Tâl salwch | Gweithredir cynllun tâl salwch galwedigaethol. |
Absenoldebau Arbennig | 5 diwrnod pro rata xxxx xxxx mewn unrhyw gyfnod o 12 mis i ofalu am ddibynyddion penodol 2 diwrnod pro rata xxxx xxxx i briodi, i symud tŷ, i ysgaru. Amser credyd rhesymol ar gyfer apwyntiadau meddygol. Hyd at 10 diwrnod pro rata xxxx xxxx ar achlysur o brofedigaeth. Hyd at 3 mis pro rata xxxx xxxx i ofalu am berthynas agos gydag afiechyd terfynol |
Gwiriad GDG: | Mae’r swydd hon wedi ei heithrio o’r Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 ac fel rhan o’r drefn recriwtio staff, bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gael ei g/wirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Oherwydd eithrio Grŵp Cynefin o effeithiau’r Ddeddf hon, bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus ddatgelu pob trosedd mae xx xxx hi wedi ei gael yn euog ohonynt hyd yn oed os yw’r rheini yn rhai a fuasai wedi darfod yn unol â’r Ddeddf ac na fuasai fel arfer yn gorfod cael eu datgelu. Os bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn peidio datgelu trosedd a bod Grŵp Cynefin yn darganfod bod trosedd wedi ei chofnodi yn ei erbyn xx xxx hi, bydd y cytundeb cyflogaeth yn cael ei derfynu yn syth ac heb unrhyw benderfyniad pellach. |
5. Sut i ymgeisio am y swydd
Cwblhewch y ffurflen gais a’i chyflwyno erbyn xxxxxx dydd, dydd Iau 11 Mai 2023.
Byddwch yn derbyn e-xxxx yn cadarnhau ein bod wedi ei derbyn xxxx cais.
6. Datganiad Cyfle Cyfartal
Mae Grŵp Cynefin yn derbyn gofynion cyfreithiol Deddf Cydraddoldeb 2010 ynghyd â deddfwriaethau eraill perthnasol a’u goblygiadau. Mae gweithdrefnau yn eu lle i oresgyn gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol.
Mae polisïau Grŵp Cynefin yn cael eu monitro a’u hadolygu’n rheolaidd i sicrhau bod unigolion yn cael eu trin yn deg.
7. Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gofynnwn yn garedig i chi hefyd gwblhau’r linc i’r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant fydd yn yr e-xxxx yn cadarnhau ein bod wedi derbyn xxxx cais.