Teitl: Gweithiwr Cymdeithasol
Teitl: Gweithiwr Cymdeithasol
Lleoliad: Gweithio Ystwyth / Canolfan ViTCC ac Ysbyty Xxxxxxx Xxxxx Cyfarwyddiaeth: Gwasanaethau Cymdeithasol
Swyddi Rhif: BG10590
Cyflog: Gradd 8 (£36,298 – £40,478 y flwyddyn) Oriau: 37
Contract: Parhaol 37 awr
Crynodeb Swydd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn dymuno recriwtio dau Weithiwr Cymdeithasol gyda chymhelliant uchel i ymuno â’n Xxx Adnoddau Cymunedol Integredig a deinamig. Edrychwn am uinigolion sy’n cymryd yr awenau, yn angerddol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Fel rhan o’n xxx cewch gyfle unigryw i helpu hyrwyddo annibyniaeth a grymuso unigolion i gyflawni eu nodau ac uchelgais personol.
Ceisiwn ddarparu gwasanaeth xxxx-uchaf sy’n cyfoethogi llesiant ein cleientiaid, a hefyd yn gadael effaith gadarnhaol barhaus ar y gymuned gyfan. Os ydych yn unigolyn gyda chymhelliant uchel sy’n ymroddedig i wneud effaith ystyrlon, yna byddem wrth ein bodd clywed gennych!
Hysbyseb Lawn
Ydych chi yn Weithiwr Cymdeithasol ymroddedig a chreadigol sy’n awyddus i fynd â’ch gyrfa i’r lefel nesaf? Nid oes angen i chi edrych ymhellach, gan y gall y cyfle swydd yma fod yn union yr hyn rydych yn edrych amdano.
Ymunwch â’n xxx deinamig a chefnogol ym Mlaenau Gwent a’n helpu i gyflawni ein cenhadaeth o rymuso dinasyddion a’u teuluoedd i fyw bywydau annibynnol a bodlon. Fel rhan o’n Xxx Adnoddau Cymunedol cewch gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau oedolion xxxx xxxxx cefnogaeth i aros yn eu cartrefi eu hunain.
Mae’r Xxx Adnoddau Cymunedol yn wasanaeth ar y cyd a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Xxxxxxx Xxxxx a Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent, sy’n ymroddedig i roi’r ymyriad cywir ar yr adeg gywir i unigolion, gan y gweithiwr proffesiynol cywir. Fel Gweithiwr Cymdeithasol yn ein xxx, bydd gennych rôl hanfodol wrth gyflwyno darpariaeth weithredol integredig ym mhob swyddogaeth o’r Xxx.
Prif ddiben y swydd fydd gweithio’n agos gydag unigolion a’u teuluoedd, gan hyrwyddo eu llesiant ac annibyniaeth yn unol xx xxxxx gorau a deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014. Gyda chefnogaeth ein xxx ysbrydoledig, cewch xxxx grymuso i ddefnyddio xxxx creadigrwydd ac ymroddiad i helpu unigolion i gyflawni eu nodau a chyrraedd eu potensial llawn.
Rydym yn cynnig pecyn cynhwysfawr o fuddion, yn cynnwys:
• Cyflog cystadleuol
• Mynediad i gynllun pensiwn hael
• Darpariaethau gwyliau blynyddol ac arbennig hael
• Trefniadau gweithio hyblyg, yn cynnwys y gallu i weithio’n hyblyg o ran oriau a lleoliadau (lle’n berthnasol)
• Ystod xxxx o bolisïau cyfeillgar i’r teulu i gefnogi cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd
• Cynllun buddion cyflogeion sy’n rhoi mynediad i ostyngiadau a chynigion gyda gwahanol gwmnïau
• Mynediad i’n Rhaglen Xxxxxxx Xxxxxxxxxx
• Aelodaeth campfa ratach yn Ymddiriedolaeth Hamdden Xxxxxxx
• Hyfforddiant a chyfleoedd datblygu i gefnogi xxxx twf proffesiynol a datblygiad gyrfa.
Mae cyfrifoldebau cyffrous yn aros, tebyg i:
• Cynnal asesiadau gwaith cynhwysfawr i gael dealltwriaeth ddofn o anghenion yr unigolyn a chreu cynlluniau gofal personol.
• Gweithio gydag unigolion a theuluoedd i gynyddu eu llesiant a’u hannibyniaeth, gan ddefnyddio xxxx sgiliau a’ch gwybodaeth i’w helpu i gyflawni eu nodau.
• Darparu gwasanaethau cynllunio a rheoli gofal rhagorol i ddefnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd, gan sicrhau y caiff eu hanghenion eu diwallu’n llawn a’u bod yn derbyn gofal o’r ansawdd uchaf.
Sgiliau a Chymwysterau: -
• Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i sicrhau’r safonau uchaf o ymarfer proffesiynol.
• Diploma/Gradd/Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol sy’n dangos xxxx gwybodaeth ac arbenigedd fanwl yn y xxxx.
• Profiad o weithio aml-ddisgyblaeth i gydweithio’n effeithiol gyda gweithwyr proffesiynol eraill a darparu gofal ansawdd uchaf i ddefnyddwyr gwasanaeth.
• Gwybodaeth o’r ddeddfwriaeth/arweiniad a rheoliadau diweddaraf yng nghyswllt Gwasanaethau Oedolion, gan xxxx galluogi i gadw’n gyfredol gyda’r tueddiadau diweddaraf ac arferion gorau.
Os ydych yn angerddol am ddarparu gofal rhagorol a chyfoethogi bywydau y rhai mewn angen, yna dyma’ r swydd i chi!
Xxx xxxxx mynediad i gerbyd ar gyfer dibenion gwaith.
Xxx xxxxx cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru xxx gategori Rheolwyr Gofal Cymdeithasol/Gweithwyr Cymdeithasol ar gyfer y swydd hon a bydd angen cofrestru cyn dechrau yn y swydd. Mae gwybodaeth ar sut i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gael ar y wefan ddilynol xxxxx://xxxxxxxxxx.xxxxx