Teitl: Cydlynydd Marchnata a Recriwtio (Gwasanaeth Mabwysiadu De ddwyrain Cymru)
Teitl: Cydlynydd Marchnata a Recriwtio (Gwasanaeth Mabwysiadu De ddwyrain Cymru)
Lleoliad: Gweithio Ystwyth / Mamhilad, Pont-y-pŵl Cyfarwyddiaeth: Gwasanaethau Plant
Rhif y Swydd: BG14361
Cyflog: Gradd 5 (£27,334 - £30,296 pro rata/y flwyddyn) Oriau: 18.5
Contract: Parhaol
Crynodeb o’r Swydd
Cynorthwyo'r Grŵp Cydweithredol i ddatblygu a gweithredu strategaeth i recriwtio darpar fabwysiadwyr. Cydlynu ystod o weithgareddau marchnata a recriwtio a dilyn ymholiadau gan ddarpar fabwysiadwyr mewn modd amserol a phroffesiynol.
Prif Gyfrifoldebau
Gweithio ochr yn ochr â'r rheolwr yn y xxx recriwtio ac asesu i wneud y mwyaf o gyfleoedd hysbysebu a hyrwyddo mabwysiadu yn y rhanbarth.
Postio ymholiadau ac ymatebion cyfryngau cymdeithasol cymeradwy a chynnal cronfa ddata at ddibenion adrodd.
Cynhyrchu gwybodaeth reoli ar sylw yn y cyfryngau a chanlyniadau xxx chwarter.
Gweithio gyda swyddogion cyfathrebu yn y pum awdurdod lleol sy'n ffurfio rhanbarth Mabwysiadu De ddwyrain Cymru.
Gweithio gyda'r cydweithwyr Marchnata a gomisiynwyd gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
Cynorthwyo i ddatblygu gwefan annibynnol ar gyfer y gwasanaeth. Bod yn gyfrifol am gymeradwyo a llanlwytho cynnwys ar y wefan. Cadw at bolisïau a gweithdrefnau ariannol y Cyngor.
Cydymffurfio â rhannau perthnasol datganiad polisi'r Awdurdod ar iechyd a diogelwch a llesiant yn y gwaith.
Cadw at egwyddorion y Polisi Cydraddoldeb Corfforaethol a sicrhau ymrwymiad i ymarfer gwrthwahaniaethol.
Ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol yn ôl yr angen.