Xxxx x xxxx Aelod Siarad Eto. Ni chaiff Aelod sydd wedi siarad ar gynnig siarad eto tra bydd yn destun dadl, ac eithrio:
(a) i siarad unwaith ar welliant a gafodd ei gynnig gan Aelod arall;
(b) i gynnig gwelliant pellach os yw’r cynnig wedi’i ddiwygio ers iddo siarad ddiwethaf;
(c) os oedd ei araith gyntaf ar welliant a gafodd ei gynnig gan Aelod arall, i siarad ar y prif fater (pa un a gafodd y gwelliant y siaradodd arno ei dderbyn ai peidio);
(d) wrth arfer hawl i ateb;
(e) ar bwynt o drefn; a
(f) fel esboniad personol.