Cyfansoddiad CILIP Cymru Wales
Cyfansoddiad CILIP Cymru Wales
Cyhoeddwyd ar lein Ionawr 2021
Diffiniadau
Yn y Cyfansoddiad hwn:
Ystyr “CILIP” yw’r xxxxx proffesiynol ar gyfer llyfrgellwyr, arbenigwyr gwybodaeth a rheolwyr gwybodaeth, a elwir yn swyddogol yn Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth.
Ystyr “CILIP Cymru Wales” yw’r xxxxx wedi’i gyfansoddi o xxx Is-ddeddfau CILIP fel Cenedl Ddatganoledig ar gyfer hyrwyddo amcanion CILIP yng Nghymru.
Ystyr “Pwyllgor CILIP Cymru Wales” yw’r Swyddogion ac aelodau Pwyllgor Rheolaidd gyda’i gilydd.
Ystyr “Swyddogion CILIP Cymru Wales” yw deiliaid am y tro neu unrhyw unigolion a benodir i gyflawni unrhyw o’r rolau a ganlyn:
Cadeirydd
Is-gadeirydd
Ysgrifennydd
Trysorydd
Swyddog Cefnogi Cofrestriad Proffesiynol (dwy rôl)
Swyddog Cefnogi Mentora
Swyddog Cyswllt Gweithwyr Proffesiynol Newydd a Myfyrwyr
Swyddog Gweithgareddau
Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol
Swyddog Dyfarniadau
Ystyr “Bwrdd CILIP” yw’r xxxxx penderfynu sy’n llywodraethu gwaith CILIP ac yn gosod ei flaenoriaethau.
Ystyr “Rheolau CILIP Cymru Wales” yw Siarter, Is-ddeddfau a Rheoliadau Cyffredinol CILIP, Cyfansoddiad CILIP Cymru Wales ac unrhyw gyfarwyddyd a gyhoeddir i fynd gyda hwy.
Ystyr “Cyfarfod Blynyddol” yw Cyfarfod Blynyddol CILIP Cymru Wales. Ystyr “Cyfarfod Cyffredinol Arbennig” yw Cyfarfod Cyffredinol Arbennig CILIP Cymru Wales.
Ystyr “Cenedl” yw Cymru.
Ystyr “Grŵp Pwyllgor” yw’r xxxxx o Swyddogion Pwyllgor ac aelodau Rheolaidd sy’n gyfartal ag un rhan o dair o gyfanswm aelodaeth y Pwyllgor neu cyn agosed at hynny ar y gellir bod. Bydd wedi’i greu ar gyfer ymddiswyddiadau a phenodiadau a drafodir yn rhan 23.4.
Ystyr “Enwebai” yw unrhyw unigolyn a gynigir fel aelod o Bwyllgor CILIP Cymru Wales yn unol â darpariaethau rhan 23.
2. Gweledigaeth ac Amcanion
2.1 Gweledigaeth CILIP yw cymdeithas deg sy’n ffyniannus yn economaidd, gyda llythrennedd, mynediad at wybodaeth a throsglwyddo gwybodaeth yn sail i hynny. Gan weithio ledled y Genedl, mae CILIP Cymru Wales yn hyrwyddo’r gwerthoedd hyn trwy gynrychioli a chefnogi pob aelod o CILIP sy’n byw neu weithio yn y Genedl.
2.2 Amcanion CILIP Cymru Wales fydd creu teimlad o gymuned tu mewn i’r proffesiwn, gan hyrwyddo ac adeiladu dylanwad ymysg y rhai allweddol sy’n gwneud penderfyniadau mewn Llywodraeth a chefnogi aelodau CILIP i ddatblygu eu sgiliau a’u safonau proffesiynol.
3. Rheolau sy’n Llywodraethu CILIP Cymru Wales
3.1 Caiff gweithgareddau a gweithdrefnau CILIP Cymru Wales eu llywodraethu gan y cyfansoddiad hwn.
3.2 Mae’r Rheolau CILIP Cymru Wales hyn yn ategol at Reoliadau Cyffredinol CILIP a dim ond trwy gydsyniad Bwrdd CILIP y gellir eu newid.
4. Y Cynnig Craidd
4.1 Bydd CILIP Cymru Wales yn hyrwyddo nodau CILIP trwy ddarparu cynnig craidd i aelodau, tu mewn i’r adnodau sydd ar gael, er mwyn:
Canfod ac ateb anghenion aelodau; darparu cefnogaeth i aelodau gyda’u datblygiad proffesiynol parhaus trwy gydol eu gyrfa
Cefnogi’r rhai sy’n ymgymryd â chofrestriad proffesiynol
Datblygu teimlad o gymuned ymysg aelodau yn y Genedl
Cefnogi recriwtio a chadw aelodau CILIP
Sicrhau bod gan CILIP Cymru Wales bresenoldeb ar lefel Genedlaethol
Bod yn llais unedig cryf i’r gymuned Llyfrgell, Gwybodaeth a Rheoli Gwybodaeth yng Nghymru, gan eirioli ar ran aelodau
Cynyddu gwelededd CILIP Cymru Wales i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol yn Llywodraeth Cymru
Datblygu cysylltiadau gyda chyflogwyr er mwyn hyrwyddo manteision aelodaeth o CILIP Cymru Wales a chymwysterau proffesiynol.
5. Darparu’r cynnig craidd
5.1 Caiff y cynnig craidd ei ddarparu trwy gyfrwng:
Llywodraethiant a rheoli effeithiol
Datblygu Cynllun Strategol Blynyddol sy’n cefnogi nodau ac amcanion cyffredinol y xxxxx
Bod y wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar wefan CILIP
Cyfathrebu’n rheolaidd (taflen newyddion, y we a chyfryngau cymdeithasol)
Rhaglen o hyfforddiant a digwyddiadau; sicrhau y caiff y rhain eu hysbysebu trwy gyfrwng gwefan CILIP
Cefnogi Cofrestriad Proffesiynol
Cefnogaeth i bobl sy’n newydd i’r proffesiwn
Cyfrannu at ddatblygiad polisi a’r Fforwm Polisi
Cynigion a gweithgareddau wedi’u hanelu at recriwtio aelodau ar lefel leol
Darparu cynhadledd flynyddol a gynhelir ym mis Mai
Casglu at ei gilydd ymatebion, briffiau, a datganiadau polisi sy’n ymwneud yn arbennig â Chymru.
5.2 Lle mae’n gallu gwneud hynny, anogir Pwyllgor CILIP Cymru Wales hefyd i wneud y canlynol:
Creu cysylltiadau gyda darparwyr dysgu lleol achredig, er mwyn annog myfyrwyr i ddod yn weithredol o fewn y proffesiwn a CILIP Cymru Wales.
5.3 Bydd CILIP Cymru Wales yn gwneud defnydd priodol o’r Gymraeg ac yn gwneud asesiad o anghenion iaith ei aelodau pan fo’n ofynnol.
6. Cynllun busnes
6.1 Bydd swyddogion Pwyllgor CILIP Cymru Wales yn cyflenwi Cynllun Strategol Blynyddol ar waith arfaethedig i’r Pwyllgor yn flynyddol.
6.2 Caiff y Cynllun Strategol Blynyddol ei gyflwyno i Brif Swyddfa CILIP xxx blwyddyn.
7. Adroddiad Blynyddol
7.1 Bydd Swyddogion Pwyllgor CILIP Cymru Wales yn cyflwyno adroddiadau chwarterol ar ei weithgareddau i Fwrdd CILIP.
7.2 Ni fydd adroddiadau’n cael eu cyhoeddi’n llai aml na xxx un mis ar bymtheg.
7.3 Bydd yr adroddiadau’n cynnwys datganiad o’r cyfrifon ac adroddiad ariannol, a chofnod o weithgareddau cangen am y flwyddyn.
8. Llywodraethiant
8.1 Y flwyddyn llywodraethiant ar gyfer CILIP Cymru Wales fydd y flwyddyn galendr, gan ddechrau ar y 1af o Ionawr xxx blwyddyn.
9. Cyllid
9.1 Bydd CILIP Cymru Wales yn defnyddio’r sefydliad bancio swyddogol ac yn dilyn y gweithdrefnau ariannol a amlinellir yn y ddogfen Canllawiau Trysoryddion Rhwydwaith Aelodau CILIP.
9.2 Bydd y Trysorydd yn derbyn yr xxxx xxxxx sy’n ddyledus i CILIP Cymru Wales ac yn gwneud y taliadau a gyfarwyddir gan Bwyllgor CILIP Cymru Wales. Bydd pob anfoneb wedi’i chyfeirio at y Trysorydd.
9.3 Bydd y Trysorydd yn paratoi cyfrifol blynyddol CILIP Cymru Wales ar sail blwyddyn galendr.
9.4 Bydd Adran Gyllid CILIP yn archwilio’r cyfrifon blynyddol.
9.5 Bydd CILIP Cymru Wales yn gweinyddu ac yn hyrwyddo Cronfa Xxxxxxxx Xxxxx (Cronfa les sy’n agored i Aelodau CILIP Cymru Wales yn unig).
9.6 Bydd aelodaeth Bwrdd Cronfa Xxxxxxxx Xxxxx fel a ganlyn:
Cadeirydd
Is-gadeirydd
Trysorydd
Dau gynrychiolydd o’r tu xxxxx i Bwyllgor CILIP
9.7 Gwneir ceisiadau i’r gronfa gan ddefnyddio ffurflen gais sydd ar gael o Dudalennau Gwefan CILIP Cymru Wales, ac ystyrir ceisiadau yn unol â meini prawf y gronfa.
9.8 Bydd Trysorydd CILIP Cymru Wales yn goruchwylio’r Gronfa.
10. Contractau
10.1 Nid yw Pwyllgor CILIP Cymru Wales yn gallu ymuno mewn unrhyw gytundeb contract (heblaw am raglen arferol gweithgareddau CILIP Cymru Wales) sy’n golygu risg i CILIP, na derbyn grantiau heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan Brif Weithredwr CILIP neu aelod o staff CILIP y dirprwywyd y mater hwn iddynt gan y Prif Weithredwr.
10.2 Nid oes angen i CILIP Cymru Wales hysbysu Prif Swyddfa CILIP o unrhyw gontractau am wasanaeth byddant yn ymuno ynddynt os bydd cyfanswm eu gwerth yn llai na £500.
10.3 Os bydd CILIP Cymru Wales yn ymuno mewn unrhyw gontractau am wasanaethau gyda chyfanswm gwerth o £500-£2000 bydd angen eu gyrru i Brif Swyddfa CILIP fel cofnod.
10.4 Os bydd CILIP Cymru Wales yn dymuno ymuno mewn unrhyw gontractau am wasanaethau gyda chyfanswm gwerth o dros £2,000 bydd angen cael cymeradwyaeth Prif Swyddfa CILIP. Os ceir cymeradwyaeth dylai Prif Swyddfa CILIP gyd-arwyddo contract o'r fath.
10.5 Ni fydd CILIP Cymru Wales yn cynnig unrhyw gontractau cyflogaeth.
10.6 Bydd Prif Swyddfa CILIP yn darparu cyngor, cyfarwyddyd a chymeradwyaeth i CILIP Cymru Wales os bydd CILIP Cymru Wales yn ystyried sefydlu cytundeb contract.
11. Atebolrwydd
11.1 Mae CILIP yn atebol am weithredoedd CILIP Cymru Wales. Felly bydd angen i CILIP Cymru Wales gydymffurfio gyda’r gofynion ar gyfer llywodraethiant elusennau sy’n rheoleiddio CILIP. O xxx x xxxxx, bydd xxxxx i CILIP Cymru Wales ddangos ei bod yn:
Cydymffurfio gyda’r arfer gorau mewn llywodraethiant elusennau.
Cydymffurfio gyda gofynion CILIP ar gyfer llywodraethiant ariannol.
Ymgymryd â gweithgaredd sydd er lles y cyhoedd ac xx xxxx y cyhoedd.
12. Aelodaeth o CILIP Cymru Wales
12.1 Bydd pob aelod o CILIP sy’n byw yn y Genedl yn dod yn awtomatig yn aelodau llawn o CILIP Cymru Wales, a phennir hynny gan y cyfeiriad post o’u dewis hwy a ddarperir gan yr aelod.
12.2 Os digwydd newid yn y cyfeiriad a ddewiswyd gan aelod, gall yr aelod ofyn i gael parhau’n aelod o’r Rhwydwaith Aelodaeth Cenedlaethol yn ôl eu cyfeiriad blaenorol, trwy hysbysu CILIP.
13. Aelodau Gohebol
13.1 Gall unrhyw aelod o CILIP nad ydynt yn byw yn y Genedl ddod yn aelod gohebol o CILIP Cymru Wales, yn ogystal â’r Rhwydwaith Aelodau Cenedlaethol y bydd ganddynt aelodaeth ohono. Xxxxxxx wneud hyn drwy hysbysu CILIP a CILIP Cymru Wales a thalu unrhyw dâl a bennir gan Fwrdd CILIP.
13.2 Bydd gan aelod gohebol yr hawl i xxxx freintiau aelodaeth CILIP Cymru Wales ond ni chânt bleidleisio yn nhrafodion CILIP Cymru Wales na dod yn aelod o Bwyllgor CILIP Cymru Wales.
14. Tudalennau Gwe CILIP Cymru Wales
14.1 Bydd tudalennau gwe CILIP Cymru Wales yn cael eu darparu trwy ddefnyddio gwefan CILIP. Hon fydd y brif ffynhonnell ar gyfer y rhai sy’n aelodau o CILIP a’r rhai nad ydynt yn aelodau, ar gyfer cael gwybodaeth am CILIP Cymru Wales a’i gweithgareddau.
15. Pwyllgor CILIP Cymru Wales
15.1 Caiff materion CILIP Cymru Wales eu cynnal gan Bwyllgor etholedig. Rhaid i xxx aelod o’r Pwyllgor fod yn aelod llawn o CILIP Cymru Wales.
Bydd enwebiadau i Bwyllgor CILIP Cymru Wales yn digwydd yn electronig cyn cynnal y Cyfarfod Blynyddol, gyda hawl xxx xxx aelod o CILIP Cymru Wales i wneud un enwebiad.
15.2 Rhaid i’r Pwyllgor gynnwys y Swyddogion hanfodol penodedig o Bwyllgor CILIP Cymru Wales sef:
Cadeirydd
Ysgrifennydd
Trysorydd
Swyddogion Cefnogi Cofrestriad Proffesiynol
15.3 Gall y Pwyllgor gynnwys:
(a) Swyddogion Penodedig Pwyllgor CILIP Cymru Wales sef:
Is-gadeirydd
Ysgrifennydd
Trysorydd
Swyddog Cyswllt Gweithwyr Proffesiynol Newydd a Myfyrwyr
Swyddog Gweithgareddau
Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol
Swyddog Dyfarniadau
(b) Aelodau eraill cyfetholedig o’r Pwyllgor y mae’r Pwyllgor o’r farn eu bod yn briodol, i gynrychioli sectorau gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth, sefydliadau ac adrannau’r llywodraeth fel sy’n berthnasol.
15.4 Lle xx xxxx, bydd Pwyllgor CILIP Cymru Wales yn sicrhau bod y Pwyllgor yn cynnwys cynrychiolwyr o xxx un o’r sectorau cyflogaeth y daw aelodau CILIP Cymru Wales ohonynt.
15.5 Gall Pwyllgor CILIP Cymru Wales ar unrhyw adeg addasu’r rhestr o Swyddogion nad ydynt yn hanfodol, a gynhwysir ym mharagraff 15.3 (a), i greu, newid neu dynnu ymaith y rolau Swyddogion sy’n bodoli’n xxxxx xxx unrhyw rai newydd.
16. Rolau Pwyllgor Hanfodol
16.1 Bydd y Pwyllgor yn penodi Cadeirydd, Ysgrifennydd, Trysorydd a Swyddogion Cefnogi Cofrestriad Proffesiynol. Mae’r Pwyllgor yn cael ei gefnogi gan reolwr perthynas CILIP Cymru Wales, sy’n swyddog cyflogedig a benodir yn uniongyrchol gan CILIP.
16.2 Mae’r rolau hyn yn hanfodol ar gyfer rheoli CILIP Cymru Wales. Mae’n ofynnol bod gan y Swyddog CILIP Cymru Wales a benodir y sgiliau angenrheidiol i gyflawni’r rôl fel yr amlinellir yn y disgrifiad swydd sydd yn yr atodiadau i’r ddogfen hon.
17. Rôl y Cadeirydd
17.1 Y Cadeirydd yw swyddog arweiniol CILIP Cymru Wales ac mae’n gyfrifol am gyd-drefnu gweithgareddau, sicrhau y cyflawnir y cynnig craidd a’r blaenoriaethau blynyddol fel y’u disgrifir yn y cynllun busnes a gweithredu fel llefarydd allweddol i CILIP Cymru Wales. Mae disgrifiad manwl o’r swydd yn “disgrifiadau o rolau aelodau Pwyllgor CILIP Cymru Wales”.
18. Rôl yr Ysgrifennydd
18.1 Mae Ysgrifennydd CILIP Cymru Wales yn gyfrifol am y materion llywodraethiant a gweinyddiad nad ydynt yn faterion ariannol. Mae disgrifiad manwl o’r swydd yn “disgrifiadau o rolau aelodau Pwyllgor CILIP Cymru Wales”.
19. Rôl y Trysorydd
19.1 Mae Trysorydd CILIP Cymru Wales yn gyfrifol am lywodraethiant a gweinyddiad ariannol. Mae disgrifiad manwl o’r swydd yn “disgrifiadau o rolau aelodau Pwyllgor CILIP Cymru Wales”.
20. Rôl y Swyddog Cefnogi Cofrestriad Proffesiynol
20.1 Mae’r Swyddog Cefnogi Cofrestriad Proffesiynol yn gyfrifol am gefnogi aelodau CILIP Cymru Wales sy’n ymgymryd â Chofrestriad Proffesiynol. Mae disgrifiad manwl o’r swydd yn “disgrifiadau o rolau aelodau Pwyllgor CILIP Cymru Wales”.
21. Swydd Is-gadeirydd
21.1 Er mwyn sicrhau cynllunio ar gyfer olyniaeth, fe etholir Is-gadeirydd yn y flwyddyn cyn i’r Cadeirydd cyfredol ymddiswyddo, yn unol â darpariaethau adran 23. Bydd yr Is-gadeirydd yn cysgodi’r Cadeirydd cyfredol.
21.2 Os nad etholir Is-gadeirydd, yn unol â darpariaethau adran 22 gall y Pwyllgor ar unrhyw adeg benodi Cadeirydd o blith aelodau’r Pwyllgor os bydd angen hynny ar gyfer cynnal busnes yn effeithiol.
22. Trefn Benodi ar gyfer Aelodau Pwyllgor CILIP Cymru Wales
22.1 Bydd aelodau Pwyllgor CILIP Cymru Wales yn cael eu hethol gan yr aelodaeth yn y cyfarfod blynyddol. Gall enwebiadau i wasanaethu ar y Pwyllgor ddod oddi wrth unrhyw ddau aelod. Gofynnir am enwebiadau gan aelodaeth CILIP Cymru Wales ddim llai nag wyth diwrnod ar hugain cyn y cyfarfod blynyddol. Rhaid i enwebiadau fod ar y ffurflen gywir ac wedi’u hanfon drwy e-xxxx i gyrraedd yr Ysgrifennydd saith diwrnod cyn dyddiad y cyfarfod blynyddol. Dyletswydd yr Ysgrifennydd fydd cynnal yr ohebiaeth electronig sy’n gysylltiedig ag ethol aelodau Pwyllgor. Bydd ethol yn digwydd trwy bleidlais gudd, os bydd angen, yn y cyfarfod blynyddol. Dyletswydd yr Ysgrifennydd fydd trefnu a chydlynu etholiad o’r fath.
22.2 Os digwydd bod nifer yr Enwebeion ar gyfer unrhyw swydd ar y Pwyllgor yn gyfartal neu’n llai na nifer y swyddi i’w llenwi, cyhoeddir wedyn bod y rhai a enwebwyd wedi cael eu hethol. Os bydd swyddi heb eu llenwi, oherwydd prinder Enwebeion neu oherwydd bod Enwebeion wedi tynnu eu henwau’n ôl, bydd Pwyllgor CILIP Cymru Wales yn eu llenwi mor fuan ag y bo’n ymarferol ar ôl y cyfarfod blynyddol.
22.3 Caiff Swyddogion ac aelodau Rheolaidd o’r Pwyllgor eu penodi am gyfnod o dair blynedd ond gellir eu hailbenodi cyn belled na fyddai hynny’n mynd yn groes i’r darpariaethau ar hyd gwasanaeth a nodir yn adran 24.
22.4 Bydd y Pwyllgor yn ceisio sicrhau y bydd xxxxx xxxxx nifer cyfartal o aelodau xxx blwyddyn. Mae hynny er mwyn cynnal cydbwysedd rhwng dod â gwybodaeth a sgiliau newydd i mewn i’r Pwyllgor a bod digon o aelodau cyfredol ar y Pwyllgor i sicrhau cydlyned.
23. Hyd gwasanaeth
23.1 Ni ddylai unrhyw Swyddog nag aelod Rheolaidd o’r Pwyllgor wasanaethu ar y Pwyllgor am fwy na chwe blynedd yn olynol. Bydd angen cael bwlch o un flwyddyn o leiaf mewn gwasanaeth cyn i aelod allu gwasanaethu eto ar y Pwyllgor.
23.2 Xxx amgylchiadau eithriadol, os gofynna Swyddog sydd ar y Pwyllgor am hynny, gall CILIP ganiatáu goddefiad dros dro ar y cyfyngiadau amser i Swyddog o’r Pwyllgor neu aelod Rheolaidd ohono, er mwyn sicrhau xxxxxx gweithgareddau CILIP Cymru Wales.
23.3 Ni fydd y darpariaethau a ddisgrifir ym mharagraff 24.1 yn weithredol ar gyfer y deiliaid am y tro neu unrhyw un a benodir i gyflawni unrhyw rai o’r rolau a ganlyn:
Rheolwr Perthnasau
Swyddog Cefnogi Cofrestriad Proffesiynol
24. Absenoldeb o Gyfarfodydd
24.1 Os bydd Swyddog neu aelod arferol o’r Pwyllgor yn absennol heb fod hynny wedi’i gytuno, am dri chyfarfod yn olynol o’r Pwyllgor, gall y Pwyllgor ddod â’u haelodaeth o’r Pwyllgor i ben.
25. Nifer Cyfarfodydd o’r Pwyllgor
25.1 Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod ddim llai na phedair gwaith y flwyddyn. Bydd angen i gworwm o un rhan o dair ac un aelod ychwanegol o gyfanswm aelodaeth y Pwyllgor fod yn bresennol. Gellir cynnull cyfarfodydd ychwanegol os bydd angen hynny xx xxxx y Cadeirydd.
26. Trefn i’w dilyn mewn Cyfarfodydd o’r Pwyllgor
26.1 Xxx xxxxx i CILIP Cymru Wales redeg cyfarfodydd effeithiol a chymryd agwedd resymol a chyfrifol tuag at ddilyn trefn briodol.
26.2 Dylid rhoi o leiaf bythefnos o rybudd o’r cyfarfod a’i raglen.
26.3 Bydd Cadeirydd Pwyllgor CILIP Cymru Wales yn cadeirio’r cyfarfod. Fel arall, bydd y cyfarfod yn ethol cadeirydd o blith y bobl sy’n bresennol.
26.4 Bydd yr Ysgrifennydd yn cymryd cofnodion o xxx cyfarfod. Bydd y rhain yn nodi dyddiad y cyfarfod, pwy oedd yn bresennol a xxxxx cryno o’r cyfarfod. Byddant yn cael eu darllen i’r cyfarfod nesaf os cytunir eu bod yn gywir neu wedi cael eu newid yn briodol.
26.5 Bernir bod cyfarfodydd Pwyllgor, cyfarfodydd blynyddol a chyfarfodydd cyffredinol arbennig yn gyfarfodydd agored, ac eithrio pan fydd rheswm xxxxx xxxx gymryd unrhyw eitem neu eitemau yn breifat fel busnes neilltuedig.
26.6 Ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn cyfarfodydd o’r Pwyllgor, bydd angen cworwm o un rhan o dair ac un aelod ychwanegol o gyfanswm aelodaeth y Pwyllgor fod yn bresennol, yn gorfforol neu’n electronig.
26.7 Gall Pwyllgor CILIP Cymru Wales sefydlu Is-bwyllgorau Tasg a Gorffen yn ôl yr angen ar gyfer cynnal busnes y Pwyllgor yn effeithiol.
27. Pleidleisio
27.1 Bydd pleidleisiau mewn cyfarfodydd o’r Pwyllgor yn cael eu penderfynu gan fwyafrif o bleidleisiau’r aelodau sy’n bresennol yn gorfforol neu’n electronig, trwy godi dwylo neu bleidlais gudd os yn briodol.
27.2 Os bydd nifer y pleidleisiau’n gyfartal, bydd gan y Cadeirydd ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
28. Cyfarfodydd Blynyddol
28.1 Cynhelir cyfarfod blynyddol CILIP Cymru Wales unwaith xxx blwyddyn galendr yn y lleoliad ac ar yr adeg a bennir gan Bwyllgor CILIP Cymru Wales, cyn belled ag y bo dim mwy nag un mis ar bymtheg yn mynd heibio rhwng cyfarfodydd o’r fath.
28.2 Gellir hefyd gynnal cyfarfodydd blynyddol ar lein, a bydd CILIP yn darparu canllawiau ar gyfer hynny.
28.3 Y cworwm ar gyfer cyfarfod blynyddol CILIP Cymru Wales fydd xxxxxx yr aelodau Pwyllgor sy’n gwasanaethu, ac un aelod ychwanegol.
28.4 Bydd pob aelod o CILIP Cymru Wales yn cael o leiaf wyth diwrnod ar hugain o rybudd ysgrifenedig o xxx cyfarfod blynyddol, yn nodi lleoliad, dyddiad ac amser y cyfarfod. Nid yw’r cyfnod rhybudd yn cynnwys diwrnod cyflwyno’r rhybudd na’r diwrnod y bernir iddo gael ei gyflwyno na’r dyddiad a roddir ar gyfer y cyfarfod. Mae rhybudd ysgrifenedig yn cynnwys hysbysu trwy e-xxxx, newyddlen a hysbysu yng nghyhoeddiad “Information Professional”.
28.5 Bydd yr Ysgrifennydd yn gyfrifol am gyflwyno hysbysiad i xxx aelod o CILIP Cymru Wales o’r trefniadau ar gyfer y cyfarfod blynyddol ac yn rhoi ffurflen enwebu ar gyfer rolau Swyddogion ynghlwm gyda’r hysbysiad hwnnw.
28.6 Busnes y cyfarfod blynyddol fydd:
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blynyddol blaenorol
Derbyn Adroddiad Blynyddol Pwyllgor CILIP Cymru Wales
Derbyn cofnodion CILIP Cymru Wales
Derbyn enwau Swyddogion Pwyllgor CILIP Cymru Wales
Ystyried unrhyw gynigion a roddir gerbron y cyfarfod blynyddol
28.7 Yr aelodau sy’n bresennol fydd yn pleidleisio yn y cyfarfod blynyddol, ac ni chaniateir pleidleisio trwy ddirprwy.
29. Cyfarfodydd Cyffredinol Arbennig
29.1 Gall aelodaeth CILIP Cymru Wales hefyd alw am gynnull cyfarfod cyffredinol arbennig o’r Pwyllgor.
29.2 Os derbynnir galwad wedi’i lofnodi gan 5% neu 25 aelod o CILIP Cymru Wales, pa un bynnag rif yw’r lleiaf, gan ddweud yn eglur xxxx xx xxxxx y cyfarfod, yna mae’n rhaid i Bwyllgor CILIP Cymru Wales gynnull cyfarfod cyffredinol arbennig. Ni ddylai hynny fod dim hwyrach xx xxxx wythnos ar ôl derbyn galwad o’r fath.
29.3 Gellir cynnal cyfarfod cyffredinol arbennig ar lein, a bydd CILIP yn darparu canllawiau ar gyfer hynny.
29.4 Y cworwm ar gyfer unrhyw gyfarfod cyffredinol arbennig o Bwyllgor CILIP Cymru Wales fydd 5% neu 25 aelod o aelodaeth CILIP Cymru Wales, pa un bynnag yw’r rhif isaf.
29.5 Rhoddir rhybudd o’r fath gyfarfod cyffredinol arbennig i xxx aelod o CILIP Cymru Wales o leiaf un diwrnod ar hugain cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y cyfarfod. Bydd hynny os yw’r cyfarfod wedi’i gynnull gan Bwyllgor CILIP Cymru Wales neu os yw’n ofynnol gan aelodaeth CILIP Cymru Wales. Nid yw hyn yn cynnwys y diwrnod y cyflwynwyd y rhybudd na’r diwrnod y bernir y cafodd ei gyflwyno, na diwrnod y cyfarfod.
29.6 Os bydd Pwyllgor CILIP Cymru Wales yn methu â gweithredu ar gais gan aelodaeth CILIP Cymru Wales, xxx xxxx yr aelodau o CILIP Cymru Wales sydd wedi gofyn am y cyfarfod alw ar staff CILIP Cymru Wales gynnull cyfarfod cyffredinol arbennig o CILIP Cymru Wales.
29.7 Yr aelodau sy’n bresennol yn y cyfarfod cyffredinol fydd yn pleidleisio yno, ac ni chaniateir pleidleisio trwy ddirprwy.
29.8 Bydd unrhyw gynnig a roddir gerbron y cyfarfod yn cael ei benderfynu ar fwyafrif syml trwy godi dwylo neu bleidlais gudd fel sy’n briodol. Os bydd nifer y pleidleisiau’n gyfartal, bydd gan y cadeirydd ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
29.9 Bydd aelodau gohebol CILIP Cymru Wales yn cael mynychu cyfarfodydd cyffredinol arbennig CILIP Cymru Wales ond ni chânt bleidleisio.
30. Codi materion
30.1 Mae CILIP Cymru Wales yn cael ei annog i godi unrhyw xxxxx xx’n achosi pryder neu angen eglurhad gyda Bwrdd CILIP.
30.2 Os bydd CILIP Cymru Wales yn dymuno codi mater gyda Bwrdd CILIP, yn gyffredinol dylai’r cysylltiad cyntaf fod gan un o’r Swyddogion yn cysylltu ag aelod priodol o staff CILIP.
31. Brandio Corfforaethol
31.1 Rhaid i CILIP Cymru Wales gynnwys logo CILIP Cymru Wales priodol ar unrhyw ddeunyddiau CILIP Cymru Wales.
31.2 Bydd CILIP Cymru Wales yn cydymffurfio gyda pholisi brandio corfforaethol CILIP, yn cynnwys ar ddefnyddio logos, a ddarperir gan staff priodol CILIP.
32. Partneriaeth
32.1 Bydd CILIP Cymru Wales yn gweithio mewn partneriaeth gyda staff priodol CILIP.
32.2 Bydd aelodau CILIP Cymru Wales yn gweithio mewn partneriaeth gyda staff priodol CILIP ar xxx mater sydd o bwys ar lefelau cenedlaethol (hynny yw y Deyrnas Unedig gyfan).
32.3 Ni fydd aelodau CILIP Cymru Wales yn dechrau gweithgaredd o natur genedlaethol heb yn gyntaf ymgynghori â staff CILIP, fydd yn ymateb yn amserol i’r fath geisiadau. Bydd hyn o gymorth i sicrhau bod yr wyneb mae CILIP yn ei ddangos i’r byd yn un gydlynol a chyd-drefnus.
32.4 Yn unol gydag unrhyw Gytundeb Lefel Gwasanaeth bydd staff CILIP, yn cynnwys staff yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn ogystal â staff yn y Brif Swyddfa, yn gweithio mewn partneriaeth gydag aelodau CILIP Cymru Wales ar xxx mater sydd o bwysigrwydd Cenedlaethol. Bydd staff CILIP yn hysbysu CILIP Cymru Wales o unrhyw gynlluniau neu weithgareddau fydd yn effeithio ar waith CILIP Cymru Wales yn y Genedl.
33. Creu, cyfuno a diddymu CILIP Cymru Wales
33.1 Bydd creu, cyfuno a diddymu CILIP Cymru Wales yn cael ei bennu gan Fwrdd CILIP.
33.2 Bydd CILIP Cymru Wales yn dilyn y gweithdrefnau o ran creu, cyfuno a diddymu a ddangosir yn y cyfarwyddyd a gyhoeddir gan CILIP.
34. Creu
34.1 Bydd yr hawl i sefydlu Rhwydwaith Aelodau Newydd tu mewn i’r Genedl wedi’i freinio ym Mwrdd CILIP ac ni chaiff ei ddefnyddio oni bai fod Bwrdd CILIP o’r farn bod nifer sylweddol o aelodau neu aelodau posibl sydd yn preswylio’n arferol yn y Genedl nad yw eu hanghenion, diddordebau neu eu cyfleustra yn cael eu hateb yn ddigonol gan weithgareddau CILIP Cymru Wales.
34.2 Wrth ddefnyddio ei hawl i sefydlu Rhwydwaith Aelodau Newydd neu beidio, gall Bwrdd CILIP x xxxx i’w gilydd ailddiffinio’r ardal ddaearyddol y sefydlwyd CILIP Cymru Wales ar ei chyfer, mewn trafodaeth gyda CILIP Cymru Wales.
35. Diddymu
35.1 Gellir diddymu CILIP Cymru Wales a gall yr ardal ddaearyddol y cafodd ei sefydlwyd ar ei chyfer (yn cynnwys ei asedau) gael eu dyrannu i Rwydweithiau Aelodau Cenedlaethol eraill lle bydd Bwrdd CILIP o’r farn:
(a) Nad yw nifer yr aelodau yn CILIP Cymru Wales erbyn hynny’n cyfiawnhau bodolaeth CILIP Cymru Wales. (b) Y byddai anghenion, diddordebau neu gyfleustod aelodau CILIP Cymru Wales yn cael eu diwallu yn fwy digonol (yn ôl tystiolaeth trafodaethau gydag aelodau CILIP Cymru Wales) gan weithgareddau Rhwydwaith Aelodau Cenedlaethol sy’n bodoli’n xxxxx xxx trwy sefydlu Rhwydwaith Aelodau Cenedlaethol newydd. (c) Mai hynny yw dymuniad aelodau CILIP Cymru Wales. (d) Bod CILIP Cymru Wales yn dymuno cymryd drosodd, trwy gytundeb, weithrediad Rhwydwaith Aelodau Cenedlaethol arall.