Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Datganiad Llywodraethu Blynyddol
2022-2023
1 Cyflwyniad
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gyfrifol am sicrhau bod ei fusnes yn cael ei gynnal yn unol â’r gyfraith a’r safonau priodol, a bod arian cyhoeddus yn cael ei ddiogelu, ei gyfrif a’i ddefnyddio’n briodol mewn modd economaidd, effeithlon ac effeithiol. Mae ganddo ddyletswydd xxx Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru 2021 i wneud trefniadau i sicrhau gwelliannau parhaus yn y modd y caiff swyddogaethau eu harfer, gan roi sylw i gyfuniad o faterion economaidd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.
Wrth dderbyn y cyfrifoldeb hwn mae’r Cyngor yn gyfrifol am roi trefniadau priodol ar waith i lywodraethu ei fusnes, i hwyluso'r gwaith o arfer ei swyddogaethau yn effeithiol, ac sy’n cynnwys trefniadau ar gyfer rheoli risg.
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn diddymu’r dyletswyddau perfformiad a nodwyd ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Daeth y Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2021. Mae’r drefn perfformiad a llywodraethu newydd (heblaw am y darpariaethau’n ymwneud ag asesiadau perfformiad panel), yn berthnasol i gynghorau o flwyddyn ariannol 2021-22 ymlaen. Mae gofyn i gynghorau gynnal hunanasesiad perfformiad blynyddol ac ateb y cwestiynau:
1) A yw’r Cyngor yn arfer ei swyddogaethau’n effeithiol?
2) A yw’r Cyngor yn defnyddio’i adnoddau yn economaidd, yn effeithiol ac yn effeithlon?
3) A oes gan y Cyngor drefniadau llywodraethu effeithiol ar gyfer sicrhau’r uchod?
Mae’r hunanasesiad cyntaf ar gyfer 2021-2022 wedi’i gymeradwyo a’i gyhoeddi ar wefan y cyngor ac mae ar gael yma. Mae’r Cyngor rŵan yn paratoi ei ail hunanasesiad ar gyfer 2022-2023 a fydd yn cael ei adrodd i ddemocratiaeth yn hydref 2023.
Mae’r trydydd cwestiwn ‘A oes gan y Cyngor lywodraethu effeithiol?’ yn cael ei ateb gan yr hunanasesiad yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol hwn.
Xxx xxx y Cyngor God Llywodraethu Corfforaethol Lleol sy’n cyd-fynd ag egwyddorion Fframwaith CIPFA/SOLACE, sef Darparu Trefniadau Llywodraethu Da Mewn Llywodraeth Leol a Fframwaith Llywodraethu sy’n cynnwys y polisïau, gweithdrefnau, ymddygiadau a’r gwerthoedd sy’n rheoli ac yn llywodraethu’r Cyngor. Mae’r datganiad hwn yn werthusiad o gydymffurfiaeth â’r Cod Lleol ac os yw’r trefniadau llywodraethu yn cefnogi darpariaeth Amcanion Corfforaethol yn effeithiol. Mae’r Datganiad hwn hefyd yn bodloni gofynion Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, sy’n gofyn i gyrff perthnasol baratoi datganiad llywodraethu blynyddol.
2 Xxxx yw Llywodraethu?
Llywodraethu Corfforaethol yw'r system a ddefnyddir i gyfarwyddo a rheoli sefydliad.
Bydd strwythur llywodraethu da yn cynnwys, fel isafswm:
Safonau llywodraethu clir a fydd yn llywodraethu sefydliad
Rolau a chyfrifoldebau llywodraethu
Mecanwaith ar gyfer mesur perfformiad sefydliad yn erbyn ei safonau llywodraethu.
Er mwyn bod yn llwyddiannus, mae’n rhaid i sefydliad feddu ar sail gadarn o lywodraethu da a rheolaeth ariannol gadarn.
3 Trefniadau Llywodraethu Corfforaethol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i sicrhau bod arferion rheoli ac egwyddorion llywodraethu da yn cael eu mabwysiadu ym mhob gweithgaredd busnes er mwyn sicrhau ymddiriedaeth y cyhoedd.
Mae’r Cod Llywodraethu Lleol yn darparu datganiad cyhoeddus sy’n nodi’r ffordd y mae’r Cyngor yn bodloni ac yn cydymffurfio ag egwyddorion Llywodraethu CIPFA.
Mae’r Cod Lleol wedi’i danategu gan Fframwaith Llywodraethu sy’n cynnwys y polisïau, gweithdrefnau, ymddygiadau a’r gwerthoedd sy’n rheoli ac yn llywodraethu’r Cyngor.
Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn darparu sicrwydd o ran trefniadau Llywodraethu’r Cyngor, ynghyd â nodi meysydd i ganolbwyntio arnynt a’u gwella yn y dyfodol. Pwrpas y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yw adrodd yn gyhoeddus ar y graddau y mae’r Cyngor yn cydymffurfio â’i god llywodraethu lleol. Mae’n nodi’r meysydd hynny xxxx xxxxx eu gwella yn ôl yr hunanasesiad.
Mae’r Cyngor yn parhau i adolygu’r meysydd i’w gwella yn ôl yr hunanasesiad ac maent yn cael eu monitro drwy’r Cynllun Gweithredu DLlB.
|
4 Ffynonellau sicrwydd ar gyfer y gwerthusiad hwn:
Sicrwydd Gofynnol |
Ffynonellau Sicrwydd |
Sicrwydd a Dderbyniwyd |
Cyflawni blaenoriaethau’r Cynllun Corfforaethol |
Cynlluniau Corfforaethol a Gwasanaeth |
Adroddiad Blynyddol Tystysgrif Cydymffurfiaeth Archwilio Cymru |
Darparu gwasanaethau yn economaidd, yn effeithlon ac effeithiol |
Adolygiadau Perfformiad Gwasanaeth. Cynllun Cydraddoldeb Strategol Hunanasesiad Blynyddol |
Adroddiad Perfformiad Corfforaethol Adroddiadau Blynyddol ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol Adolygiad Blynyddol Craffu Adolygiad a her y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Asesiad Panel Perfformiad (unwaith xxx gweinyddiaeth) |
Rheoli risgiau a phroblemau |
Fframwaith rheoli risg a phroblemau Cofrestr risg a phroblemau corfforaethol a gwasanaeth. Adolygiadau Perfformiad Gwasanaeth. |
Her allanol gan Archwilio Cymru Adolygiad craffu a herio. Adolygiad a her y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio |
Cynllunio a pherfformiad ariannol |
Adroddiadau Monitro Perfformiad Ariannol Strategaeth Ariannol Tymor Canolig Gweithdrefnau ariannol Monitro dangosyddion economaidd a derbynebau ariannol cysylltiedig |
Adrodd yn rheolaidd ar berfformiad a chyllid Datganiad Cyfrifon Blynyddol Tystysgrif Cydymffurfiaeth Archwilio Cymru
|
Effeithiolrwydd rheolaethau mewnol |
Cyfansoddiad (yn cynnwys swyddogion statudol, cynllun dirprwyo, rheolaeth ariannol a rheolau caffael) Y Cyngor, y Cabinet, Pwyllgorau a Phaneli Xxx Arweinyddiaeth Strategol / Uwch Dîm Rheoli Rheoleiddio Allanol Archwilio Mewnol
|
Adroddiadau archwilio allanol Adroddiadau archwilio mewnol Cofnodion Sgwrs Conwy
Sicrwydd Penaethiaid Gwasanaeth wedi’i gofnodi fel rhan o gyfarfodydd ymgynghori sicrwydd blynyddol. |
Ymgysylltu â'r gymuned ac atebolrwydd cyhoeddus |
Strategaeth Cynnwys y Gymuned Rhaglen Waith Ymgysylltu Polisi Cwynion |
Adborth Ymgysylltu â'r Gymuned Gwersi a Ddysgwyd Adroddiadau Ombwdsmon |
Rheoli prosiectau a darpariaeth prosiectau |
Fframwaith Rheoli Prosiectau a Rhaglenni
|
Cynllun gwireddu buddion Adroddiad ar y Gwersi a Ddysgwyd |
Prosesau caffael |
Rheolau’r Weithdrefn Gontractau Rheoliadau Ariannol |
Tystiolaethu gwerth am arian. Herio contractau a ddyfarnwyd |
Rolau a chyfrifoldebau Aelodau a Swyddogion |
Pennaeth Gwasanaeth Cyflogedig, Swyddog Monitro a Swyddog A151 |
Archwiliadau Allanol Adolygiad Blynyddol gyda’r Cabinet |
Safonau Ymddygiad |
Polisïau a Gweithdrefnau AD Codau ymddygiad |
Cwynion a dderbyniwyd |
Hyfforddiant a Datblygu Aelodau a Swyddogion |
Cynllun Dysgu a Datblygu Corfforaethol Cynllun Datblygu Aelodau |
Arolygon Staff Cofnodion Sgwrs Conwy Cofnodion hyfforddiant Adroddiadau cwblhau hyfforddiant gorfodol Adroddiadau Blynyddol Cynghorwyr |
Cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau mewnol |
Fframwaith Polisi Strategaeth Rheoli Gwybodaeth Strategaeth Ddigidol Strategaeth Seibrgadernid Safonau’r Gymraeg Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg Polisi Iechyd a Diogelwch Adroddiadau archwilio mewnol Rhannu Pryderon a threfniadau eraill i xxxx twyll
|
Arolygon Allanol Annibynnol Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch
|
Darperir dau ddarn allweddol o sicrwydd gan Archwilio Mewnol ac Allanol.
Dywedodd Pennaeth Archwilio Mewnol yn y farn Archwilio flynyddol 2022/2023 fod amgylchedd rheoli mewnol a systemau rheoli mewnol y Cyngor yn darparu sicrwydd digonol dros broses fusnes allweddol a systemau ariannol. Mae cynllun archwilio yn seiliedig ar risg trwy fap sicrwydd y Cyngor wedi’i ddefnyddio i wneud yn siŵr bod sicrwydd digonol ar gael i gefnogi’r farn flynyddol. Mae arferion gwaith wedi parhau i newid er mwyn gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd archwiliadau mewnol, gyda chanolbwynt cynyddol ar feysydd risg wedi’u nodi o fewn y map sicrwydd a symud i ffwrdd o brosesau archwilio cylchol. Mae’r cynllun archwilio mewnol yn parhau i ddarparu’r hyblygrwydd gofynnol ac ar y cyd â gwaith archwilio mewnol uniongyrchol, mae’r Pennaeth Archwilio Mewnol hefyd wedi tynnu ar ffynonellau sicrwydd ychwanegol, a grynhoir fel a ganlyn:
Canlyniadau’r xxxx archwiliadau yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2023;
Canlyniadau’r camau dilynol a gymerwyd mewn perthynas ag archwiliadau a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol;
A oes unrhyw argymhellion sylweddol neu gritigol heb eu derbyn gan y rheolwyr a'r risgiau cysylltiedig;
Effeithiau unrhyw newidiadau yn amcanion neu weithgareddau'r sefydliad;
Xxx xxx y Gwasanaeth fap sicrwydd cynhwysfawr i sicrhau bod y meysydd hynny â’r flaenoriaeth fwyaf yn derbyn sylw, bod bylchau sicrwydd yn cael eu llenwi ac nad oes unrhyw faes o ‘or-sicrwydd’;
Y gwaith a wneir gan Archwilio Cymru a rheoleiddwyr allanol eraill;
Materion yn codi o adroddiadau blaenorol i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio;
Gwaith y Grŵp Gwella ac Archwilio i fonitro risgiau corfforaethol i sicrhau bod xxxx risgiau critigol a mawr wedi eu nodi drwy’r Awdurdod;
Derbyn sicrwydd bod llif cyllido allanol wedi cael xx xxxxx’n dda a bod llywodraethu ac atebolrwydd priodol ar gyfer y defnydd o arian cyhoeddus mewn lle.
Cyflwynwyd yr Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol 2022/23 i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 15 Mai 2023.
Casgliad yr adroddiad oedd bod gan yr Awdurdod brosesau rheoli mewnol, rheoli risg a llywodraethu corfforaethol boddhaol i reoli'r gwaith o gyflawni amcanion yr Awdurdod ar gyfer y 12 mis hyd at 31 Mawrth 2023. Cafodd 94% o’r archwiliadau cynlluniedig a gafodd eu cwblhau yn ystod y flwyddyn eu hasesu fel eu bod yn darparu lefelau cadarnhaol o sicrwydd. Cafodd darganfyddiadau’r archwiliadau dilynol a gynhaliwyd yn ystod 2022/23 eu hadrodd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn chwarterol. O’r 2 gam dilynol a berfformiodd y gwasanaeth yn ystod y flwyddyn, mae 1 o’r argymhellion wedi cael eu gweithredu’n llawn, ac mae’r 11 o argymhellion gweddillol yn datblygu. Mae’r 7 o argymhellion cymedrol a’r 4 mân argymhellion sy’n parhau i ddatblygu mewn perthynas â chydymffurfiaeth â Chod Rheoli Ariannol ac archwiliadau Ffiniau Gofal.
Cyhoeddodd yr archwilwyr allanol, Archwilio Cymru farn ddiamod gwir a theg ar y cyfrifon ar gyfer 2021/22 a llythyrau cydymffurfio ar gyfer yr adolygiad o amcanion gwella a’r adroddiad blynyddol. Rydym yn aros am farn Archwilio Cymru ar gyfer 2022/23 ond gellir gweld eu Crynodeb Archwilio Blynyddol ar gyfer 2022 drwy glicio yma.
Rydym yn rhagweld y bydd archwiliad o ddatganiadau ariannol wedi ei orffen erbyn Hydref 2023 pan fydd y farn archwilio wedi ei chadarnhau.
5 Adolygiad o Effeithiolrwydd - Sut fyddwn ni’n gwybod bod ein trefniadau’n gweithio?
Mae’r datganiad hwn yn adeiladu ar ‘Ddiweddariad Ymarferydd Trefniadau Llywodraethu Da Mewn Llywodraeth Leol 2020’ y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth. Xxx xxx Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyfrifoldeb dros gynnal, o leiaf yn flynyddol, adolygiad o effeithiolrwydd ei fframwaith llywodraethu gan gynnwys y system rheolaeth fewnol. Caiff yr adolygiad o effeithiolrwydd ei lywio gan waith Uwch Dîm Rheoli’r Awdurdod sy'n gyfrifol am ddatblygu a chynnal yr amgylchedd llywodraethu, Adroddiad Blynyddol Pennaeth Gwasanaeth Archwilio Mewnol a gan sylwadau archwilwyr allanol ac asiantaethau adolygu ac arolygwyr eraill. Mae effeithiolrwydd y fframwaith llywodraethu wedi'i werthuso drwy adolygiad gan y Grŵp Gwella ac Archwilio a’r Uwch Dîm Rheoli.
DIFFINIAD O SGORIAU SICRWYDD
Mae’r sgoriau sicrwydd canlynol wedi cael eu defnyddio i hunanasesu ein rheolaethau llywodraethu.
LEFELAU SICRWYDD |
RHEOLYDDION |
RISGIAU |
SICRWYDD UCHEL |
Mae rheolaethau’n bodoli i sicrhau bod amcanion y gwasanaeth yn cael eu cyflawni ac i ddiogelu’r Awdurdod rhag risg yn y dyfodol, sy’n cael eu gweithredu yn gyson ac yn effeithiol. Ni ddaethpwyd o hyd i gamgymeriadau arwyddocaol na sylweddol. |
Angen camau gweithredu blaenoriaeth xxxx xx’n hawdd eu rheoli. |
SICRWYDD BODDHAOL |
Mae rheolaethau allweddol ar waith i gyflawni amcanion y gwasanaeth a lliniaru risgiau sylweddol y gellir eu rhagweld yn y dyfodol. Fodd bynnag, roedd rhywfaint o anghysondeb ac mae cyfleoedd yn dal i fodoli i liniaru risgiau posibl ymhellach. |
Rhywfaint o gyfleoedd yn dal i fodoli i liniaru risgiau posibl ymhellach. Rhywfaint o risg o golled, twyll, amhriodoldeb neu niwed i enw da. |
SICRWYDD CYFYNGEDIG |
Mae rheolaethau allweddol ar waith a chydymffurfir â hwy i raddau amrywiol, ond mae bylchau yn y broses sy'n golygu fod y gwasanaeth yn agored i risg. Nid yw amcanion yn cael eu cyflawni neu maent yn cael eu cyflawni heb xxxxx am arian. |
Xxx xxxxx cyflwyno rheolaethau ychwanegol a/neu wella cydymffurfiaeth â'r rhai presennol er mwyn lleihau'r risg i'r Awdurdod. Risg uchel o golled, twyll, amhriodoldeb neu niwed i enw da. |
DIM SICRWYDD |
Ystyrir bod y rheolaethau allweddol yn annigonol gydag o leiaf un dull rheoli hanfodol ar xxxx. Xxx hefyd xxxxx gwella cydymffurfiaeth â rheolaethau presennol a chafwyd hyd i wallau a hepgoriadau. |
Nid yw rheolaethau allweddol yn bodoli ac nid yw'r amcanion yn cael eu cyflawni, neu maent yn cael eu cyflawni heb sicrhau gwerth am arian. Mae’r Awdurdod yn agored i risg sylweddol iawn, a all arwain at golled ariannol fawr, embaras o risg i enw xx xxx fethu â chyflawni amcanion allweddol y gwasanaeth. |
Mae’r Model Sicrwydd Amddiffyniad Xxxx Xxxxxxx yn ganolog i’r gwerthusiad o effeithiolrwydd.
Xxx xxx yr Awdurdod brosesau sydd wedi’u hen sefydlu i sicrhau ei fod yn arfer ei swyddogaethau’n effeithiol. Mae'r prosesau adolygu perfformiad gwasanaeth a hunanasesu yn effeithiol i fonitro a gwerthuso darpariaeth y Cyngor o’i ymrwymiadau strategol a rheoleiddiol; pa mor dda y mae materion a risgiau'n cael eu rheoli ac a yw adnoddau ariannol ac anariannol yn cael eu defnyddio'n ddarbodus, yn effeithiol ac yn effeithlon.
Tanategir y mecanweithiau gwerthuso hyn gan fframwaith rheoli perfformiad cadarn sydd wedi’i ymgorffori ar xxx xxxxx o’r sefydliad, i sbarduno gwelliant a sicrhau cydymffurfiaeth. Mae’r prosesau ar gyfer cynllunio strategol a gwasanaeth yn sicrhau bod blaenoriaethau ar lefel gwasanaeth yn cyd-fynd yn uniongyrchol ag amcanion corfforaethol ac mae adnoddau’n cael eu nodi a’u dyrannu’n briodol; mae’r broses ar gyfer rheoli risg a phroblemau’n sicrhau eu bod yn cael eu rheoli ar lefel gwasanaeth a Chorfforaethol; mae’r broses ar gyfer mesur perfformiad yn sicrhau bod cynnydd yn cael ei olrhain yn agos a bod ymyriadau amserol yn cael eu defnyddio pan fo’n briodol. Mae effeithiolrwydd y prosesau hyn yn cael ei brofi drwy archwilio, craffu a herio allanol a mewnol cadarn.
1. Y llinell amddiffyn gyntaf
O xxx y llinell amddiffyn gyntaf, mae rheolwyr gweithredol yn gyfrifol am asesu, rheoli a lliniaru risgiau yn uniongyrchol. Mae gofyn i Benaethiaid Gwasanaeth gynorthwyo â pharatoi’r DLlB ar gyfer y Cyngor drwy ddarparu datganiad sicrwydd ar gyfer y fframwaith rheoli mewnol o fewn eu gwasanaeth. Mae pob Pennaeth Gwasanaeth yn gyfrifol am gyflawni’r canlyniadau sydd wedi’u nodi yn eu cynllun gwasanaeth. Maent yn gyfrifol am nodi a rheoli’r risgiau a phroblemau a allai effeithio ar ddarpariaeth gwasanaeth. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys monitro effeithiolrwydd y rheolaethau i liniaru’r risgiau a phroblemau a chymryd camau adferol pan fo rheolaethau’n xxx xxx pan nad ydynt mewn lle.
Mae Adolygiadau Perfformiad Gwasanaeth ddwywaith y flwyddyn yn parhau. Maent yn rhoi sicrwydd bod gan wasanaethau drefniadau llywodraethu cadarn. Roedd yr adolygiadau perfformiad gwasanaeth canol y flwyddyn ar gyfer 2022/23 yn darparu sicrwydd fod gwasanaethau yn gwneud cynnydd wrth ddarparu blaenoriaethau corfforaethol a gwasanaeth, bod y risgiau a phroblemau yn cael eu rheoli a bod cydymffurfiaeth reoleiddiol yn cael ei gyflawni. Fodd bynnag, yr heriau ariannol ac adnoddau sylweddol a wynebwyd xxx xxx gwasanaeth oedd prif ganolbwynt y trafodaethau adolygu. Mae gostyngiadau cyllideb, cynnydd mewn costau, heriau recriwtio a chadw ac absenoldebau staff, yn erbyn cynnydd yn y galw am wasanaethau, yn parhau i roi pwysau sylweddol ar allu’r Cyngor i gynnal y lefel bresennol o gynnydd a pherfformiad. Mae cytundeb cyffredinol rhwng swyddogion ac aelodau nad all y lefelau presennol o ddarpariaeth gwasanaeth gael ei gynnal gyda chymaint o anawsterau o ran adnoddau a heb effeithio’n negyddol ar les staff.
Cafodd yr Adroddiad Perfformiad Corfforaethol canol blwyddyn 2022/23 ar gyfer y Cynllun Corfforaethol newydd 2022-2027 ei gyflwyno i ddemocratiaeth gyda chanlyniad cyffredinol fel a ganlyn:
‘Ar y cyfan mae cynnydd da wedi cael ei wneud yn ystod y chwe mis cyntaf i ddarparu amcanion lles y Cyngor, er bod staff a Chynghorwyr wedi gweithio o fewn amgylchedd economaidd heriol ac yn dal i xxxxx o effeithiau’r pandemig.’
Mae’r Cyngor yn parhau i adfywio ac xxxxx ar ôl pandemig COVID-19. Yng Ngorffennaf 2022, symudodd y Cyngor i’w fodel gweithio hybrid cynaliadwy, gan ddarparu’r cydbwysedd iawn rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio o xxxx xx mwyn sicrhau fod darpariaeth gwasanaeth a chynhyrchiant yn effeithiol ac effeithlon i gefnogi llywodraethu a gwelliant.
Xxx xxx Xxxxx xxxxx da o reoli a rheoli ei gyllideb refeniw. Fodd bynnag, o ystyried y chwyddiant cyflog a phrisiau sylweddol o ganlyniad i’r amodau economaidd byd-xxxx cyfnewidiol yn ogystal â’r cynnydd yn y galw am wasanaethau a waethygwyd gan effeithiau hirdymor y pandemig a’r argyfwng costau byw, ni fu’n bosibl aros o fewn y gyllideb yn 2022/23. Ar ddiwedd y flwyddyn, roedd y Cyngor wedi gorwario £2.75m, a ariannwyd o'r cronfeydd wrth gefn. Cymerwyd camau yn ystod y flwyddyn i gyfyngu ar y gorwariant a lleihau'r effaith ar gronfeydd wrth gefn a balansau. Yn 2022/23 llwyddodd gwasanaethau i gyflawni'r mwyafrif helaeth o'r arbedion a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn.
O ystyried y pwysau ariannol parhaus, mae'r Cyngor yn cymryd camau gweithredol i gynllunio a rheoli ei sefyllfa ariannol yn y blynyddoedd i ddod, gan gynnwys gweithgorau cyllideb a arweinir gan Aelodau i ystyried ffurf y gwasanaethau a ddarperir yn y dyfodol. Yn ogystal, y Cyngor yw'r Cyngor cyntaf yng Nghymru i wahodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gynnal Adolygiad Ariannol gan Gymheiriaid i'w helpu i ddatblygu ei threfniadau ymhellach.
Sgôr Sicrwydd Sicrwydd Boddhaol
2. Yr ail xxxxxx amddiffyn
Mae’r ail xxxxxx amddiffyn yn cynnwys goruchwylio a monitro gweithgareddau a gwmpasir gan sawl elfen o lywodraethu mewnol (cydymffurfiaeth archwilio, rheoli risg a phroblemau, perfformiad, rheoli ariannol ac ati). Mae’r llinell amddiffyn hon yn monitro ac yn hwyluso gweithrediad arferion llywodraethu effeithiol gan reolwyr gweithredol ac yn cynorthwyo ag adrodd gwybodaeth i bawb yn y sefydliad. Mae cyfres o adroddiadau yn cael eu hysgrifennu drwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys y perfformiad corfforaethol, adroddiad blynyddol, adroddiadau ariannol, adroddiadau cydraddoldeb, llywodraethu gwybodaeth, adroddiadau craffu, adroddiadau’r Gymraeg – mae pob un o’r rhain wedi’u rhestru yn y Fframwaith Llywodraethu.
Mae Cod Rheolaeth Ariannol y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth yn gosod safonau rheoli ariannol gyda’r nod o hybu arferion da a chynorthwyo awdurdodau lleol i arddangos eu cynaladwyedd ariannol. Mae cyrff llywodraeth leol yn wynebu her barhaus i’w gwytnwch ariannol o ganlyniad i bwysau a galw sylweddol ar wasanaethau. Mae’r ansefydlogrwydd economaidd wedi ychwanegu at y pwysau hwn gan arwain at heriau ariannol newydd a sylweddol dros y blynyddoedd sydd i ddod. Yn Rhagfyr 2022, lluniodd y Cyngor ei gynllun ariannol tymor canolig, yn nodi’r gofynion cyllidol a ragwelir ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf ac yn cynllunio sut i reoli’r gofyniad o ran adnoddau o fewn yr arian sydd ar gael. Mae’r cynllun yn ymwneud â chyfnod o ddwy flynedd yn hytrach na thair i bum mlynedd, a hynny oherwydd yr ansicrwydd ariannol ac economaidd sylweddol mae’r Cyngor yn ei wynebu. Er gwaethaf cyfnod cymharol fyr y cynllun, ei nod yw helpu i greu sylfaen gynaliadwy ar gyfer cyllid y Cyngor yn y tymor hirach.
Mae’r xxxx adroddiadau xxxx xxxxx cymeradwyaeth wleidyddol wedi cael eu cyflwyno un ai i’r Cabinet neu’r Cyngor ar gyfer cymeradwyaeth, a lle bo’n briodol i un o’r pedwar Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer adolygu a herio. Mae’r adroddiadau’n gyffredinol yn nodi bod yr Awdurdod yn gwneud cynnydd da i gyflawni’r amcanion corfforaethol a strategaethau ategol eraill, ond mae heriau sylweddol yn ymwneud ag adnoddau a chapasiti. Mae’r adroddiadau’n gytbwys ac yn nodi meysydd i’w gwella lle bo’r angen. Mae rhaglen gwaith i'r dyfodol yn ei lle i sicrhau bod adroddiadau yn cael eu cyflwyno mewn modd amserol ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd gan Gadeiryddion Craffu gyda swyddogion llywodraethu.
Sgôr Sicrwydd: Sicrwydd Uchel
3. Y drydedd xxxxxx amddiffyn
Mae archwilio mewnol yn ffurfio trydedd xxxxxx amddiffyn y sefydliad. Mae swyddogaeth archwilio mewnol annibynnol gydag ymagwedd yn seiliedig ar risg tuag at waith, yn darparu sicrwydd i uwch reolwyr. Mae’r sicrwydd hwn yn cynnwys pa mor effeithiol mae’r sefydliad yn asesu ac yn rheoli llywodraethu ac yn cynnwys sicrwydd ar effeithiolrwydd y llinell amddiffyn gyntaf a’r ail. Cyflwynwyd cyfanswm o 36 barn archwilio gan Archwilio Mewnol yn 2022/23, o’r barnau hynny roedd 12 o sicrwydd boddhaol a 2 o sicrwydd cyfyngedig. Ni chafwyd casgliadau archwilio o ddim sicrwydd.
Cynhaliwyd asesiad allanol o’r gwasanaeth archwilio mewnol yn ystod 2022, gan asesu cydymffurfiaeth y Cyngor â’r Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS). Ar draws elfennau gorfodol y PSIAS, mae 56 o safonau neu feysydd o arfer gorau. Daeth yr asesiad allanol i’r casgliad fod y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn cydymffurfio â 55 o’r PSIAS ac yn cydymffurfio’n rhannol i un xxxx. Nid oedd unrhyw feysydd o ddiffyg cydymffurfio.
Mae Sefydliad yr Archwilydd Mewnol yn awgrymu graddfa o dair sgôr, ‘Cydymffurfio’n Gyffredinol’, ‘Cydymffurfio’n Rhannol’, a ‘Ddim yn Cydymffurfio’. Barn cyffredinol yr aseswr allanol yw bod y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn cydymffurfio’n gyffredinol gyda’r PSIAS a’r Cod Moeseg ym mhob xxxx arwyddocaol ac mae’n gweithredu’n annibynnol ac yn amcanol.
Mae Archwilio Allanol (Archwilio Cymru, Estyn, Arolygiaeth Gofal Cymru) yn darparu barn ar y datganiad cyfrifon, trefniadau llywodraethu’r awdurdod, a threfniadau llywodraethu a rheoli Gofal Cymdeithasol ac Addysg. Mae eu hadroddiadau archwilio am yr Awdurdod ar y cyfan yn dod i’r casgliad bod trefniadau llywodraethu da ar waith.
Xxx xxxxx unioni yn deillio o argymhellion archwilio mewnol ac allanol yn cael eu monitro’n agos i sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith ac yn effeithiol i ymdrin â’r xxxx(meysydd) risg a ddynodwyd, gan wella trefniadau llywodraethu’r awdurdod ymhellach.
Asesiad Ansawdd Xxxxxxx Xxxxxxxxx Mewnol CBSC
Sgôr Sicrwydd: Sicrwydd Uchel
Cwestiynau Allweddol Hunanasesiad Llywodraethu
A yw’r Trefniadau Llywodraethu yn effeithiol wrth gefnogi darpariaeth?
Mae’r DLlB eleni yn cynnwys cyfnod o amser pan oedd yr Awdurdod yn ymateb i amgylchedd economaidd cyfnewidiol, chwyddiant cynyddol a chynnydd sylweddol mewn cost, gan arwain at heriau a phwysau ariannol sylweddol.
Ymgysylltu â'r Gymuned:
Mae ymgysylltiad cymunedol a xxxx-ddeiliaid yn parhau i fod yn rhan ganolog o brosesau llywodraethu’r Cyngor. Mae ceisio barn a mewnbwn y rhai sy’n defnyddio ei wasanaethau a’r rhai sy’n helpu i ddarparu ei wasanaethau yn parhau i fod yn hanfodol er mwyn parhau i ddarparu ei swyddogaethau a defnyddio adnoddau mewn modd economaidd, effeithlon ac effeithiol.
Yn ystod 2022-2023 mae’r model gweithio hybrid wedi gwreiddio ymhellach yn arferion ymgysylltu’r Cyngor. Mae cyfarfodydd hybrid wedi dod yn fusnes fel arfer ac yn gweithio'n dda, gan ddarparu hyblygrwydd gwych ar gyfer presenoldeb mewn cyfarfodydd democrataidd, gan wella'r cyfleoedd ar gyfer dadl a thrafodaethau democrataidd. Mae gweithgareddau ymgysylltu yn parhau i gael eu cynnig mewn fformat hybrid, gan wella effeithiolrwydd y broses ymgysylltu ehangach.
Mae ymgysylltiad helaeth wedi parhau gyda staff ac Undebau Llafur er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd y model gweithio hybrid a sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i’r diben ac yn gwella prosesau llywodraethu a busnes.
Yn unol â’r weinyddiaeth wleidyddol 5 mlynedd, cynhaliwyd ymgysylltiad helaeth â’r gymuned ar Gynllun Lles drafft Conwy a Sir Ddinbych, er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu blaenoriaethau, pwysau a chyfleoedd cymunedol yn gywir. Hefyd cynhaliwyd ymgysylltiad helaeth ar y Cynllun Corfforaethol drafft ar gyfer 2022 - 2027, gydag adborth wedi’i gynnwys yn fersiwn terfynol y cynllun, a gafodd ei gymeradwyo a’i gyhoeddi yn Hydref 2022.
Mae canlyniad lles Cynllun Corfforaethol sy’n canolbwyntio ar hysbysu, cynnwys ein cymunedau a gwrando arnynt, ac addasu’r ffordd rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn darparu amrywiaeth o ffyrdd i bobl gyfathrebu, cydweithio ac ymgysylltu â’n gwasanaethau.
Lansiodd y Cyngor ei rhaglen waith ymgysylltu gan ddigideiddio’r broses ar gyfer cofnodi adborth a gweithgareddau ymgysylltu cymunedol. Nod y mecanweithiau ar gyfer cofnodi adborth a gweithgareddau ymgysylltu yw sicrhau fod ymgysylltiad cymunedol yn cael ei gydlynu a’i dargedu’n briodol, gan wneud y mwyaf o’i effeithiolrwydd.
Parhaodd xxxxxx Amser i Newid Cymru i fynd i’r afael â stigmas ynghylch iechyd meddwl. Darparwyd ystod o weithgareddau ymgysylltu yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys sesiynau ymgysylltu dyddiol yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a digwyddiad ar draws y sefydliad i gydnabod Diwrnod Amser i Siarad ar 2 Chwefror 2023.
Cynllunio Strategol:
Xxx xxxx cynlluniau strategol ar waith wedi eu halinio gydag amcanion lles y Cyngor yn hanfodol i sicrhau bod blaenoriaethau lleol a chenedlaethol yn cael eu darparu’n effeithiol a bod rhwymedigaethau statudol yn cael eu bodloni. Mae’r cynlluniau hyn yn tanseilio popeth mae’r Cyngor yn ei wneud ac yn darparu rhaglenni mapio effeithiol i wella perfformiad ac effeithiolrwydd gweithredol ac ymateb yn effeithiol i risgiau a chyfleoedd macro-amgylcheddol.
Mae strategaethau corfforaethol, cyllid a chynlluniau gwasanaeth yn cyd-fynd ag amcanion lles y Cynllun Corfforaethol.
Mae diwylliant o gynllunio ar sail canlyniadau wedi’i sefydlu yn y prosesau cynllunio gwasanaeth a chynllunio corfforaethol.
Mae'r xxxx gynlluniau strategol allweddol a’r risgiau a phroblemau corfforaethol yn cyd-fynd â'r amcan lles perthnasol a rhaid i'r xxxx adroddiadau a gyflwynir i'w cymeradwyo’n ddemocrataidd ddangos sut maent yn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac at ba un o amcanion lles a / neu risgiau’r Cynllun Corfforaethol y maent yn cyfrannu.
Mae pob cynllun strategol yn cael eu cynhyrchu ar ôl gweithredu prosesau ymgysylltu â'r gymuned ac yn cael eu cefnogi gyda materion rheoli adnoddau. Mae cysylltiadau positif rhwng cynllunio strategol ac ariannol, ac rydym yn parhau i adeiladu arnynt.
Penderfyniadau Allweddol:
Mae’r Cyngor yn atebol yn gyhoeddus i’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu ac xxx xxxxx dangos gonestrwydd a thryloywder yn yr xxxx benderfyniadau mae’n eu gwneud. Darparu cyfleoedd i gymunedau gael mynediad, archwilio a herio penderfyniadau’r Cyngor a chael trywydd archwilio clir o sut mae penderfyniadau yn cael eu gwneud yn datblygu ymddiriedaeth y gymuned ac yn rhoi sicrwydd bod adnoddau cyhoeddus yn cael eu defnyddio’n economaidd, effeithiol ac yn foesegol.
Mae penderfyniadau allweddol yn adlewyrchu’r effaith ar nifer o ffactorau, gan gynnwys cynaliadwyedd, ac mae'r Awdurdod yn parhau i ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy sicrhau bod y Ddeddf wedi cael ei hystyried ym mhob cynllun allweddol a phob penderfyniad allweddol a gyflwynir i ddemocratiaeth.
Trwy ein gweithdrefnau recriwtio mewnol cadarn a’r Uwch Bwyllgor Cyflogaeth, fe wnaethom reoli proses recriwtio a phenodi mewnol nifer o swyddi uwch reoli yn llwyddiannus, gan gynnwys y Prif Weithredwr, Pennaeth Cyllid, Pennaeth Archwilio a Chaffael, Pennaeth Oedolion Integredig, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Phennaeth y Gyfraith a Llywodraethu, er mwyn gwella llywodraethu ac integreiddiad prosesau busnes.
Rheoli Perfformiad:
Mae rheoli perfformiad effeithiol yn rhan hanfodol o sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei flaenoriaethau statudol, cenedlaethol a lleol, yn defnyddio ei adnoddau yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon, rheoli risg a heriau a chymell gwelliant parhaus.
Gwerth am Arian: mae polisïau Caffael y Cyngor yn cynnwys buddion cymunedol. Maent yn rhan bwysig o’n meini prawf ar gyfer dyfarnu yn ogystal â gwerth am arian. Mae rheolau caffael contractau yn gofyn bod rheolwyr yn dangos gwerth am arian, ac felly nid yw xxx amser yn golygu’r dewis rhataf.
Mae Bwrdd Cyfleoedd Conwy, Adolygiadau Perfformiad Gwasanaeth, Byrddau Prosiect a Rhaglenni i gyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer adolygiad, her a thrafodaethau ar gyfer gwella. Mae’r Cynllun Awgrymiadau Staff hefyd yn gwahodd Staff i gyflwyno syniadau ar gyfer gwelliannau.
Mae Adroddiadau Blynyddol ac adroddiadau ar y prif bwyntiau yn dystiolaeth bod ein hamcanion, yn gyffredinol, yn cael eu cyflawni er gwaethaf heriau ariannol sylweddol. Dros y blynyddoedd diweddar rydym wedi gorfod addasu targedau ac mewn rhai meysydd, gwneud penderfyniad i greu dirywiad a reolir yn unol â gostyngiad mewn cyllidebau.
Pan fydd tystiolaeth o berfformiad xxxx xxxxx ei wella, mae cynlluniau gweithredu yn cael eu rhoi ar waith a’u monitro.
Mae staff perthnasol sy’n gyfrifol am weithredu Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi datblygu cynlluniau gweithredu a’u rhoi ar waith.
A oes rhwystrau i gyflawniadau?
Roedd y rhwystrau mwyaf arwyddocaol i gyflawniad yn 2022/23 yn cynnwys: cynaliadwyedd y sector gofal cymdeithasol; effaith statws mesurau arbennig y bwrdd iechyd; cynnydd mewn digartrefedd a diffyg tai fforddiadwy; ac anawsterau mewn recriwtio i swyddi gwag mewn meysydd gwasanaeth allweddol, yn ogystal â dileu rhai swyddi gwag er mwyn bodloni targedau lleihau’r gyllideb.
Yn ystod 2022/23, ein materion blaenoriaeth uchel oedd:
Cyfeirnod y Mater |
Disgrifiad o’r Mater |
CI 1 |
Mae newidiadau demograffig, fel y gyfradd enedigaethau’n gostwng, yn effeithio ar leoedd mewn ysgolion cynradd a bydd hyn yn effeithio ar ysgolion uwchradd yn y dyfodol. |
CI 10 |
Mae cost lleoliadau addysg arbenigol / annibynnol wedi cynyddu’n sylweddol dros y 2 flynedd ddiwethaf, ac mae hyn yn rhoi pwysau ariannol ar y gwasanaeth. |
CI 11 |
Dim capasiti i gynnal gorfodaeth amgylcheddol |
CI 13 |
Methu â recriwtio i rai swyddi ar draws yr awdurdod |
CI 15 |
Mae’r sector gofal yn anghynaladwy ac nid yw’n tyfu ar yr un cyflymder â’r galw. |
CI 16 |
Ni all Gofal Cymdeithasol fodloni anghenion cynyddol poblogaeth Conwy gan fod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gofyn am ffocws mwy ataliol ac o ganlyniad i’r argyfwng yn y sector Gofal Cymdeithasol sydd wedi effeithio ar argaeledd staff a lleoliadau. |
CI 17 |
Diffyg darpariaeth tai fforddiadwy addas. |
CI 18 |
Mae lefelau digartrefedd wedi cynyddu. |
CI 19 |
Nid oes adnoddau digonol i ddarparu pecynnau gofal hanfodol o fewn y sector gofal cartref o ganlyniad i staff yn gadael y sector a phroblemau recriwtio cyffredinol. |
CI 21 |
Mae prosesau busnes a threfniadau cydweithredol yn cael eu heffeithio gan statws Mesurau Arbennig Bwrdd Iechyd Prifysgol Xxxxx Cadwaladr. |
Fodd bynnag, ar ôl dweud hynny, mae Adroddiad Perfformiad Corfforaethol Canol Blwyddyn 2022/23 yn xxxxxx xx gwaethaf pwysau ychwanegol digynsail, gwnaed cynnydd da i gyflawni amcanion y Cynllun Corfforaethol.
Mae caledi ariannol a chapasiti is staff sy’n ymgymryd â mwy o rolau gan nad yw aelodau newydd o staff yn cael eu cyflogi yn parhau’n rhwystr sylweddol. Rydym yn parhau i fodloni arbedion cyllideb ond mae hyn mynd yn fwy heriol xxx blwyddyn, ac o ganlyniad, rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd i gynyddu ffioedd neu leihau xxx xxxx rhai darpariaethau gwasanaeth.
Rydym parhau i edrych ar ffyrdd o archwilio a manteisio ar gyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, megis Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Rydym wedi sicrhau £18 miliwn gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i wella isadeiledd teithio llesol a chadernid rhag llifogydd yn y sir. Fodd bynnag, bydd y cyllid yn dod i ben yn 2024 a 2025.
Er bod gennym drosolwg o xxx partneriaeth strategol ranbarthol ac yn bresennol ym mhob un, mae’n dirlun cymhleth ac xxx xxxxx rheolaeth ofalus i sicrhau nad yw’r byrddau yn dyblygu nac yn gwrthdaro.
A yw llywodraethu yn cefnogi darpariaeth yr amcanion?
Mae’r Awdurdod yn parhau i adolygu rheolaethau mewnol a gwneud newidiadau lle xx xxxxx yn ôl y ddeddfwriaeth. Mae Archwilio Mewnol yn adolygu eu Map Sicrwydd yn rheolaidd, sy’n cael ei ddefnyddio i lywio’r Cynllun Archwilio Mewnol.
Mae’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn cwblhau hunanasesiad blynyddol o’i berfformiad er mwyn dangos ei fod yn derbyn ei gyfrifoldebau a bod ei drefniadau’n effeithiol. Mae cynllun gweithredu cywiro yn cael ei lunio lle nodir meysydd ar gyfer gwella.
Mae Pennaeth Gwasanaethau Archwilio a Chaffael a’r Rheolwr Archwilio yn cyfarfod timau rheoli gwasanaethau’n rheolaidd i drafod eu risgiau, pryderon a gofynion diweddaraf. Mae hyn yn sicrhau bod Archwilio Mewnol wedi eu diweddaru’n llawn ac yn ymwybodol o faterion sy'n dod i'r amlwg a risgiau a bydd yn gallu canolbwyntio adnoddau yn y prif feysydd blaenoriaeth a risg ar y pryd.
Mae adroddiadau perfformiad ddwywaith y flwyddyn i ddemocratiaeth ac uwch reolwyr a gall yr xxxx reolwyr gael mynediad at ddata perfformiad drwy CAMMS ar unrhyw adeg.
Mae’r Gofrestr Risgiau Gorfforaethol yn cyd-fynd â’r amcanion lles ac mae mesurau a datganiadau dulliau mewn lle i gefnogi pob gweithred gorfforaethol.
Mae sianeli i’r cyhoedd a staff allu rhoi eu barn drwy ymarferion ymgysylltu â'r gymuned, e-ddeisebau, gwerthusiadau staff a phorthol ar gyfer syniadau staff.
Mae mecanweithiau adborth mewn lle drwy’r cyfryngau cymdeithasol, briffiau staff, digwyddiadau ymgysylltu i staff a fforwm rheolwyr.
Xxx xxx xxx prosiect a rhaglen gynllun gwireddu buddion mewn lle ac fe gedwir cofnodion o’r gwersi a ddysgwyd sydd yn cael eu rhannu drwy’r Fforwm Rheoli Prosiectau a Rhaglenni.
Cynhaliwyd rhaglen foderneiddio barhaus ar draws yr Awdurdod cyfan i sicrhau ein bod yn bodloni’r gostyngiadau uchelgeisiol i’r gyllideb a sicrhau ein bod mor effeithlon â phosibl. Mae’r Prosiect Doethwaith yn parhau â’n gwaith moderneiddio ac adnewyddu ar ôl y pandemig.
Mae adolygiad o’n prif ystâd swyddfeydd wedi’i gwblhau ac mae’r achos busnes amlinellol wedi’i gymeradwyo er mwyn ystyried yn fanylach yr achos busnes llawn ar gyfer datrysiad 1 swyddfa yng Nghoed Pella.
Xxxx ydym ni’n ei wneud yn dda?
Mae swyddogaethau a dyletswyddau wedi'u diffinio'n glir er mwyn galluogi Aelodau a Swyddogion i gydweithio er mwyn cyflawni’r un diben, ac i benderfynu ar yr ymyriadau sydd eu xxxxxx i fodloni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a’r canlyniadau corfforaethol. Mae cynllun cynefino cynhwysfawr yn ei le i sicrhau bod yr xxxx aelodau etholedig newydd yn cael eu cefnogi i ddeall eu rolau a chyfrifoldebau a sut mae’r cyngor yn gweithio - yn enwedig o ran llywodraethu.
Mae cynllun sefydlu cynhwysfawr hefyd mewn lle ar gyfer uwch reolwyr newydd er mwyn sicrhau bod ganddynt y wybodaeth a’r gefnogaeth sydd xx xxxxx arnynt i berfformio eu rôl yn effeithiol, gan gyfrannu tuag at lywodraethu effeithiol o’r sefydliad.
Yn ogystal â dychwelyd i Gyflwyniadau Corfforaethol wyneb yn wyneb, mae tudalen cynefino newydd wedi’i ddatblygu er mwyn cyflwyno xxxx aelodau o staff newydd ac fel ffynhonnell iddynt gyfeirio ato wrth iddynt ddatblygu yn eu rôl newydd.
Pennir xxx blaenoriaeth gorfforaethol a risgiau a phroblemau corfforaethol i Uwch Reolwyr ac Aelodau Cabinet fel xx xxxx eu xxxx i gyfrif ynghylch effeithiolrwydd y gweithredu.
Mae trefniadau cadarn ar gyfer rheolaeth ariannol effeithiol trwy weithdrefnau cyfrifyddu a rheoliadau ariannol yr Awdurdod. Mae'r rhain yn cynnwys gweithdrefnau cynllunio cyllideb sefydledig, sydd yn destun asesiad risg, ac adroddiadau rheolaidd i'r aelodau'n cymharu rhagolygon o wariant refeniw a chyfalaf i gyllidebau blynyddol a phroses Fframwaith Cynllunio Busnes sy'n cefnogi proses dyrannu adnoddau'r Awdurdod.
Er gwaethaf 15 mlynedd o galedi, xxx xxx yr Awdurdod xxxxx da o xxxxx xx gynlluniau gwario o fewn y gyllideb a gymeradwywyd. Mae Adroddiadau Gwella Blynyddol olynol gan Archwilio Cymru wedi dod i’r casgliad bod yna reolaeth fewnol dda.
Er gwaethaf y rhwystrau a’r heriau a nodir, mae’r Awdurdod wedi darparu nifer o gyflawniadau yn erbyn ei amcanion lles.
Canlyniad 1 – Mae pobl yng Nghonwy’n gwerthfawrogi ac yn edrych ar ôl yr amgylchedd
Gosod isadeiledd gwefru cerbydau trydan yn un o’n depos i gefnogi ein fflyd drydanol.
Plannu 2,000 o goed sbesimen yn ein planhigfa newydd, a fydd yn cael eu plannu yn y sir ar ôl iddyn nhw aeddfedu.
Gosod 7,300 o oleuadau stryd LED – 3,000 kWh yn fwy na’r targed lleihau ynni.
Gosod goleuadau stryd solar, fel rhan o gynllun prawf, gyda’r bwriad o dreialu hyn ar safleoedd eraill.
Parhau i wella llwybrau teithio llesol gan ddatblygu 7 cynllun teithio llesol yn y sir, yn cynnwys: Cyswllt RSPB Glan Conwy; adeiladu Pont Dolgarrog, Towyn i Fae Cinmel a Xxxx Xxxx yng Nghyffordd Llandudno.
Dechrau’r ‘Cynllun casglu Podback’ gan gasglu podiau coffi ar gyfer eu hailgylchu ar ymyl palmant.
Sefydlu contract gyda Chyngor Sir Ddinbych ar gyfer gweithredu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, gan alluogi trigolion o’r ddwy sir i ddefnyddio’r Canolfannau ar draws y ddwy sir.
Parhau ar y trywydd iawn i gyflawni’r targed blynyddol ar gyfer ailddefnyddio gwastraff, ailgylchu a chompostio, gyda chyfradd ailgylchu canol y flwyddyn o 70%.
Parhau ar y trywydd iawn i gyflawni’r targed blynyddol ar gyfer glanweithdra strydoedd, xxxx xxxx strydoedd wedi cael statws B neu uwch ar gyfer eu lefel o lanweithdra yng nghanol y flwyddyn (100%);
Rydym wedi sicrhau £18 miliwn gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i wella isadeiledd teithio llesol a chadernid rhag llifogydd yn y sir.
Canlyniad 2 – Mae pobl yng Nghonwy yn byw mewn sir sydd ag economi lewyrchus a diwylliant yn ganolog iddi
Partneru â Syniadau Mawr Cymru i ddarparu digwyddiad yn Llandudno sef ‘Syniadau Mawr Cymru ar Daith’, gan ddarparu gweithdai i entrepreneuriaid / busnesau newydd.
Xxxx cyllid i alluogi datblygiad o gynlluniau adfywio / cynlluniau lleoedd ar gyfer ein trefi. Mae Cyngor Tref Tywyn a Bae Cinmel ar fin cwblhau eu Cynllun Lle.
Cefnogi Cynghorau Tref gwledig, yn bennaf, Llanfairfechan, Penmaenmawr, Conwy a Llanrwst, yn eu gwaith â Chymorth Cynllunio Cymru i lunio cynllun o restr blaenoriaethau wedi’u nodi gan y gymuned.
Cwblhau Cynllun Adfywio 10 Mlynedd Llandudno i wella / cynnal Llandudno ymhellach.
Lansio ymgyrch ‘Dewch i Gonwy y Gaeaf Hwn’, a oedd yn cynnwys datblygu a chynhyrchu canllaw poced yn amlygu gweithgareddau, atyniadau a digwyddiadau ar gael yng Nghonwy trwy gydol y flwyddyn.
Cyhoeddi ein Strategaeth Ddiwylliant Creu Conwy a Strategaeth Llyfrgell a Gwybodaeth.
Gwneud cynnydd da o ran defnyddio llyfrgelloedd fel canolbwynt cymunedol, gan gynnwys defnyddio Llyfrgell Llanrwst i gefnogi pobl sy’n byw yn ardal wledig Conwy a’n ‘Rhaglen Drysau Agored’, hyrwyddo llyfrgelloedd, adeiladau ffydd a dinesig, trwy ystod o weithgareddau chwareus ac anturus.
Sicrhau dros £391,000 o gyllid allanol ar gyfer y celfyddydau/treftadaeth.
Cynyddu lefel ymgysylltiad digidol yn sylweddol o ran ein celfyddydau creadigol, treftadaeth, amgueddfeydd, llyfrgelloedd a theatrau, gyda mwy na 11.5 miliwn o ymweliadau i’n cyfryngau cymdeithasol a gwefannau, o’i gymharu â 990,000 ar gyfer canol y flwyddyn flaenorol a 1.2 miliwn ar gyfer 2021/22.
Cefnogi 668 o fusnesau trwy ein canolbwynt busnes, fforymau busnes trefol a sesiynau galw heibio am y Grant Datblygu Busnes Gwledig.
Sicrhau cyllid o £250,000 ar gyfer prosiect ‘Amdani Conwy’, i ddatblygu cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer cymunedau gwledig ac unigolion sydd ag anableddau.
Canlyniad 3 – Mae pobl yng Nghonwy wedi'u haddysgu ac yn fedrus
Darparu cymorth i ysgolion i weithredu’r cwricwlwm newydd, gan gynnwys darparu deunyddiau cefnogi ar gyfer addysgu a dysgu a chynnig dysgu proffesiynol i ddylunio a chynllunio’r cwricwlwm.
Ar y trywydd iawn i fod wedi trosglwyddo disgyblion o fewn pob grŵp blwyddyn gorfodol i’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ar gyfer y plant hynny y mae’r ALl yn gyfrifol amdanynt o xxx y Ddeddf ADY.
Cynnal Ffair Swyddi hynod lwyddiannus ym Mae Colwyn a ddenodd dros 170 o geiswyr gwaith, gan gynnwys pobl ifanc a 70 o fusnesau lleol a rhanbarthol a fynychodd i hyrwyddo ystod xxxx o gyfleoedd gan gynnwys swyddi gwag a phrentisiaethau. Cynigiwyd nifer o gyfleoedd swyddi i bobl ifanc o ganlyniad i hyn.
Canfod 24 o rolau yn gymwys ar gyfer pobl ifanc, gyda 10 o gynigion swyddi wedi’u gwneud a 7 o bobl ifanc yn derbyn swydd fel rhan o’r rhaglen Kickstart.
Recriwtio dau aelod o staff dynodedig i weithio ar y ‘Prosiect Gwarant i Xxxx Xxxxx’. Bydd y swyddogion hyn yn canfod ac ymgysylltu gyda phobl ifanc ac yn datblygu prosiectau effeithiol i gynnwys ac ysbrydoli pobl ifanc ar eu siwrnai tuag at hyfforddiant neu gyflogaeth.
Trefnu diwrnod cyflogadwyedd a sgiliau trwy Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy, i hyrwyddo cyfleoedd i Adawyr Gofal Conwy, fel rhan o Wythnos Gadawyr Gofal Cenedlaethol. Cofrestrodd 7 o adawyr gofal i’r rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy.
Derbyn cyllid Ton 5 gan Lywodraeth Cymru i adnewyddu adnoddai xxxx a gweledol yn ein hysgolion.
Gwella’n sylweddol y cymarebau dyfeisiau digidol i ddisgyblion ac wedi uwchraddio’r perifferolion i alluogi ysgolion i addysgu gyda’r dechnoleg ddiweddaraf, fel rhan o’n Strategaeth Ddigidol.
Symud 68% o’n hysgolion cynradd, ysgolion arbennig a safleoedd unedau cyfeirio disgyblion i drefniadau cefnogaeth TG llawn a chefnogi 88% o’n hysgolion uwchradd gyda’u cysylltiad â’r rhwydwaith.
Recriwtio swyddog datblygu iechyd a lles newydd i gefnogi dysgwyr i reoli a gwella eu hiechyd meddwl a lles.
Creu Cynnydd ac Ymweliadau Xxxxxx Drws, sef rhaglen gymorth wedi’i thargedu ar gyfer pobl ifanc 16+ NEET (Ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) i oresgyn rhwystrau cymhleth i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Rydym wedi gweld canlyniadau cadarnhaol i gyfranogwyr, gan gynnwys dychwelyd i addysg a sicrhau cyflogaeth. Mae adroddiadau misol yn parhau i ddangos tuedd gadarnhaol ac mae Conwy ar hyn x xxxx ar xxxxxx XXXX o 4%, sy’n is na’r targed cenedlaethol o 8%.
Canlyniad 4 – Xxx xxx bobl yng Nghonwy fynediad at xxxx fforddiadwy xx xxxxx x xxxxx uchel sy’n gwella safon eu bywyd
Sefydlu grŵp strategol maint cywir, yn cynnwys partneriaid Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac awdurdodau lleol Gogledd Cymru, i gydlynu gweithgareddau sy’n annog symudedd o fewn tai cymdeithasol i wneud y defnydd gorau o’r stoc presennol. Mae datblygiad ym Mae Colwyn a fydd yn rhoi blaenoriaeth i ymgeiswyr sydd eisiau symud i dŷ llai, wedi cael ei gymeradwyo a bydd yn dechrau ar y safle cyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Cyhoeddi ein Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym
Datblygu Fframwaith Datblygu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, gan symleiddio’r ffordd mae’r Cyngor yn rheoli ei dir ar gyfer dibenion cynlluniau tai fforddiadwy gan bartneriaid datblygu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
Gweithredu dull wedi’i dargedu i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, trwy ddyrannu swyddogion i ardaloedd dynodedig er mwyn dadansoddi’r problemau a chanfod datrysiadau.
Creu 10 o unedau tai newydd a oedd yn gartrefi gwag cyn hynny.
Cefnogi 447 o bobl ifanc digartref trwy ‘Rhaglen y Dderwen’.
Canlyniad 5 – Mae pobl yng Nghonwy yn ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel
Gwneud y 10 llyfrgell yn fannau diogel fel rhan o gynllun peilot a datblygu canllawiau ar hyn ar gyfer xxxx wasanaethau blaen CBSC.
Cyhoeddi ein Strategaeth Seibrgadernid a chyflwyno hyfforddiant gorfodol seibrgadernid i staff.
Cynnal y 4ydd cynhadledd diogelu gorfforaethol blynyddol gyda chanolbwynt eleni ar gam-drin/cam-fanteisio ar-lein a cham-drin domestig ymysg pobl hŷn.
Adolygu a diweddaru’r Polisi Diogelu Corfforaethol.
Sefydlu Fforwm Ymarfer Amlasiantaethol Camdrin Domestig, gan ddarparu cyfleoedd i asiantaethau perthnasol gydweithio i fodloni anghenion a rheoli’r risgiau ar gyfer unigolion sy’n profi camdriniaeth.
Ail-sefydlu’r Grŵp Lleisiau Uchel, lle xxxx xxxxx a phobl ifanc xxx ofal yr Awdurdod Lleol siarad am eu profiadau a rhannu eu barn. Mae hyn yn galluogi gweithwyr proffesiynol i ddysgu am yr hyn sy’n mynd yn dda ar gyfer y plant hyn a xxxx ellir ei wneud yn wahanol.
Aildrefnu’r prosesau cefnogi ac ymyrraeth i deuluoedd er mwyn gallu gweithio’n gynt gyda theuluoedd, fel ffordd o xxxx y symudiad i wasanaethau gofal a reolir.
Canlyniad 6 – Mae pobl yng Nghonwy yn iach
Atgyfnerthu effaith cadarnhaol ein canolfannau i deuluoedd trwy barhau i ddarparu cymorth a chefnogaeth, megis rhaglen Xxxxxx Xxxxxx, gan ddarparu gwasanaethau hawliau lles a sesiynau coginio a bwyta. Mae’r sesiynau hyn yn profi’n effeithiol i alluogi a grymuso teuluoedd i ddysgu sgiliau bywyd allweddol a gwella eu bywydau.
Datblygu 4 llwybr i helpu’r rhai sy’n gadael gofal i gadw’n iach yn y meysydd iechyd rhywiol, beichiogrwydd a rhianta.
Penodi Arweinydd Awtistiaeth ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych er mwyn sicrhau bod Conwy yn bodloni ei ddyletswyddau o xxx y Cod Ymarfer ar gyfer darparu gwasanaethau awtistiaeth.
Cadw ein statws sefydliad sy’n deall dementia.
Cadw contractau gydag ystod o ddarparwyr i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn gallu cael mynediad at gymorth a seibiant priodol. Mae strategaeth yn cael ei datblygu er mwyn sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn gallu osgoi argyfwng a diffyg o ran darpariaeth gofal.
Buddsoddi mewn gwelliannau i’n canolfannau hamdden, gan gynnwys adnewyddu campfa ac offer newydd ym Mae Colwyn a Chyffordd Llandudno, a chae 3G newydd yn Abergele.
Cynyddu nifer y bobl ifanc 11-16 oed gydag Aelodau Ffit Iau i 329 yng nghanol y flwyddyn, o’i gymharu â 56 ar ddiwedd 2021/22.
Sicrhau’r lefel aelodaeth uchaf erioed ar gyfer Ffit Conwy, gyda chyfanswm o 5,204 o aelodaeth yng nghanol y flwyddyn.
Cyflawni 100% ar gyfer cleientiaid Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Xxxxx (NERS) lle mae eu hiechyd wedi gwella ar ôl cwblhau’r rhaglen ymarfer xxxxx.
Recriwtio 5 o weithwyr cefnogi dementia i helpu cefnogi unigolion sy’n byw gyda dementia i barhau’n iach.
Cyflawni 98% o becynnau ail-alluogi sydd wedi lleihau’r angen am gefnogaeth, cynnal yr un lefel o gefnogaeth neu liniaru’r angen am gefnogaeth. Mae hyn yn ganlyniad cadarnhaol iawn o ystyried y galw parhaus ar y gwasanaeth.
Gwella capasiti ceginau ysgolion sydd wedi arwain at xxxx ddysgwyr y cyfnod sylfaen yn cael cynnig pryd ysgol am ddim. CBSC yw un o’r unig 8 o Gynghorau yng Nghymru sydd wedi cyflawni hyn.
Parhau ar y trywydd iawn i gynnig prydau ysgol am ddim i xxxx ddysgwyr cynradd erbyn Medi 2023. Mae hyn yn arwain at sawl mantais, yn cynnwys: helpu teuluoedd gyda chostau byw, hyrwyddo bwyta’n iach, a gwella sgiliau cymdeithasol, ymddygiad a chyrhaeddiad.
Canlyniad 7 – Mae pobl yng Nghonwy yn byw mewn sir ble mae’r Gymraeg yn ffynnu, a gall pobl gymryd rhan mewn pob agwedd ar fywyd cymunedol yn Gymraeg
Cyhoeddi Cynllun Strategol 10 mlynedd Cymraeg mewn Addysg
Cefnogi 14 o aelodau staff i basio eu harholiadau Cymraeg.
Parhau i wneud cynnydd da gyda’r Cynllun ‘Cymraeg Gwaith’, gyda 36 aelod o staff a 9 Cynghorydd yn cymryd rhan.
Cynnal sesiynau Paned a Sgwrs 3 gwaith yr wythnos yng Nghoed Pella er mwyn i staff ymarfer eu sgiliau sgwrsio Cymraeg dros baned.
Parhau i wneud cynnydd da gyda’r Cynllun Sgwrsio, gan ymestyn y cynllun i Gynghorwyr, gyda 15 pâr o ddysgwyr/unigolion rhugl sy’n cwrdd yn rheolaidd i sgwrsio yn Gymraeg.
Dylunio cwrs newydd i ddatblygu sgiliau ysgrifennu Cymraeg siaradwyr rhugl, sydd eisoes yn llawn.
Darparu 386 o weithgareddau hyrwyddo’r Gymraeg yn ein llyfrgelloedd, gan gynnwys: amser stori ddwyieithog wythnosol; digwyddiadau i gefnogi Merched y Wawr; cefnogi dysgwyr Cymraeg trwy raglen ‘Ffrindiau Darllen’, helpu pobl gyda’u xxxxx i ddysgu a siarad Cymraeg.
Canlyniad 8 – Mae pobl yng Nghonwy yn cael gwybodaeth, yn cael eu cynnwys ac yn cael llais a xxxxxxx gyfrannu at gymuned ble mae eu cefndir a’u hunaniaeth yn cael ei werthfawrogi a’i barchu
Penodi aelod o staff newydd i ddarparu cydymffurfiaeth y Cyngor â safonau hygyrchedd y we.
Gweithio gyda 4 Cyngor Tref ac ymgysylltu gyda’u cymunedau i gynhyrchu cynlluniau creu lleoedd a fydd yn creu ein tystiolaeth llawr gwlad o’r angen i ddatblygu lleoedd lle mae pobl eisiau byw.
Dechrau datblygu ein cynllun gweithredu Cymru Wrth-hiliol, yn dilyn lansiad cynllun cenedlaethol Llywodraeth Cymru.
Adolygu a diweddaru ein Strategaeth Ymgysylltu â'r Gymuned i gynnwys ein dyletswyddau statudol mewn perthynas â chyfranogiad y cyhoedd yn unol â Deddf Etholiadau Llywodraeth Leol (Cymru) 2021.
Canlyniad 9 – Mae CBSC yn wydn
Cyhoeddi ein Cynllun Corfforaethol 2022-2027.
Cyhoeddi ein hunanasesiad blynyddol gyntaf ar gyfer 2021-2022 yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Cyhoeddi ein Fframwaith Doethwaith a gweithredu ein model gweithio hybrid.
Gosod monitorau CO2 yn ein swyddfeydd i fonitro ansawdd yr aer a sicrhau awyru digonol, gan ddiogelu lles staff a chwsmeriaid a pharhad y gwasanaeth.
Datblygu Sgwrs Conwy gyda lansiad ffurfiol wedi’i gynllunio ar gyfer dechrau 2023.
Sefydlu Prosiect Recriwtio ac wedi gwneud cynnydd da. Mae’r gwelliannau hyd yn hyn yn cynnwys: ymgyrch farchnata gweithredol i hyrwyddol buddion allweddol o weithio i CBSC, prosesau gwneud cais a rheoli swyddi gwag gwell; hyfforddiant ar gyfer staff ar hysbysebu swyddi; fformat gwell ar gyfer disgrifiadau swyddi a tudalen gwe cynefino newydd.
Sicrhau cytundeb nawdd Stadiwm CSM a thrafod cytundeb 2 flynedd gyda URC.
Datblygu llwybr hyfforddiant i reolaeth anffurfiol yng Ngofal Cymdeithasol fel dull Meithrin xxxx staff xxxx hun i gefnogi datblygiad staff a chynllunio olyniaeth.
Parhau i weinyddu nifer o grantiau Llywodraeth Cymru ar ran ein preswylwyr a’n busnesau, yn gynnwys:
1,408 o daliadau grant cymorth i ofalwyr di-dâl – cyfanswm o £704,000;
10,829 taliad cymorth tanwydd gaeaf – cyfanswm o £2.2 miliwn;
Taliadau prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau i 3,000 o aelwydydd yn ystod pob gwyliau ysgol.
Cyflawni’r perfformiad gorau yng Nghymru o ran nifer y cwsmeriaid sydd wedi dewis cael eu biliau’n electronig (50%) a thalu drwy ddebyd uniongyrchol (87.5%).
Gwneud cynnydd da wrth weithredu prosiect y System Ariannol Graidd Newydd, i sicrhau cadernid hirdymor ein systemau ariannol, gyda dyddiad ‘mynd yn fyw’ yn gynnar yn y flwyddyn ariannol newydd.
Ymgorffori’r hawliadau TAW 4 ysgol sefydledig yn uniongyrchol i hawliadau TAW misol y Cyngor, gan wella cydymffurfiaeth.
Xxxx xxxxx ni ei wneud yn well? Ar xxxx xxxx xxxxx i ni gadw’r pwyslais?
Gwella cynaliadwyedd y sector gofal cymdeithasol yn wyneb heriau recriwtio ac economaidd ar gyfer yr awdurdod lleol a’r darparwyr gofal.
Rheoli’r galw cynyddol am ein gwasanaethau gofal cymdeithasol, galw nad ydym erioed wedi’i weld o’r blaen.
Gwella dewisiadau llety gofal cymdeithasol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghonwy, gan leihau’r angen am leoliadau preswyl y tu xxxxx i’r sir.
Gweithredu’r Rhaglen Tai newydd er mwyn mynd i’r afael â’r galw sylweddol am wasanaethau tai.
Bydd hyn yn cynnwys:
Rheoli’r lefelau digartrefedd uchel a digynsail. Roedd 34% o’r achosion o ddigartrefedd wedi’u hatal ar ganol y flwyddyn, mae’r gyfradd xxxx wedi gostwng i lefel sy’n is o lawer na’r cyfraddau sydd wedi’u hadrodd ar gyfer y mesur hwn. Fodd bynnag, roedd hyn i’w ddisgwyl oherwydd effaith y polisi ‘pawb i mewn’.
Rheoli’r galw cynyddol am dai fforddiadwy er gwaethaf bod llai o drosiant yn y stoc dai bresennol a’r cyflenwad yn brin.
Rheoli nifer cynyddol yr aelwydydd mewn llety dros dro
Rheoli ein hisadeiledd ffisegol er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel, yn gynaliadwy ac yn gadarn rhag yr hinsawdd.
Lliniaru effeithiau Newid Hinsawdd ac addasu yn eu sgil, a gweithio at ein targed carbon sero-net.
Cynnwys Carbon Sero-Net yn ein dulliau caffael a diweddaru ein strategaeth gaffael.
Derbyn eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y cyllid sydd ar gael i ddarparu prosiectau xxx y rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.
Diweddaru ein Cynllun Rheoli Asedau i gynnal dull strategol i reoli ein hasedau.
Dal i gefnogi ein trigolion a’n busnesau wrth ymateb i’r heriau economaidd.
Gwella ein dulliau recriwtio a chadw staff er mwyn sicrhau gweithlu cynaliadwy.
Gwella’r gyfradd sy’n cwblhau ein hyfforddiant diogelu ar gyfer staff newydd drwy adnabod rhwystrau rhag cwblhau’r hyfforddiant, yn enwedig i weithwyr achlysurol.
Gwella ein seibergadernid a pharhad gwasanaethau yn sgil cynnydd yn y galw am wasanaethau digidol a mwy o fygythiadau xxxxxx o’r tu xxxxx, megis y rhyfel yn Wcráin.
Cael datrysiad i warchod dogfennau digidol yn yr hirdymor.
Datblygu dulliau cydweithredol o weithredu mesurau ataliol i hybu iechyd a lles er mwyn lleihau’r ddibyniaeth ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Gwella cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag anableddau.
Gwella presenoldeb dysgwyr yn y cyfnod ar ôl y pandemig, sydd ar hyn x xxxx yn 89.4%. Rhagwelir y bydd y xxxxx xxx Lywodraeth Cymru i ariannu ein 4 aelod o staff cefnogi presenoldeb yn dod i ben fis Mawrth 2023.
Monitro effaith ein dull gweithio hybrid ar ansawdd gwasanaethau, diwylliant timau a lles staff.
Parhau i gynnig cymaint â phosib o gyfleoedd i’n staff ddysgu a defnyddio’r Gymraeg, ac i blant a phobl ifanc gael mynediad at yr iaith drwy eu haddysg.
Parhau i gyfrannu at y targed cenedlaethol o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 fel y pennir yn strategaeth ‘Cymraeg 2050’ y llywodraeth.
6 Materion Llywodraethu
Rydym wedi cael cyngor ar oblygiadau canlyniad yr adolygiad o effeithiolrwydd y fframwaith llywodraethu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, y Prif Bwyllgor Trosolwg a Chraffu a’r Cabinet ac mae’r trefniadau yn parhau i fod yn addas i'r diben ac yn cadw at y fframwaith llywodraethu. Mae’r meysydd y dylid eu datrys gyda chamau gweithredu newydd wedi’u hamlinellu isod.
Nid oes problemau llywodraethu sylweddol, ond drwy ein gweithdrefnau llywodraethu rydym yn ymwybodol o’n risgiau a’n materion ac yn eu rheoli, ond yn dilyn proses o hunan-arfarnu i adolygu ein heffeithiolrwydd, rydym wedi nodi’r camau canlynol:
A1 Rhoi camau gweithredu’r MTFP ar waith, gan gynnwys gwella aliniad prosesau cynllunio busnes ac ariannol, i helpu i wireddu gweledigaeth y Cyngor.
A2 Adeiladu ar y rhaglen sefydlu aelodau a datblygu cynllun hyfforddi a datblygu aelodau parhaus.
A3 Sicrhau bod mecanweithiau yn eu lle i fonitro'r modd y cyflwynir strategaethau allweddol.
A4 Sicrhau bod pob agwedd ar hyfforddiant llywodraethu yn cael eu cynnwys yng nghynllun dysgu a datblygu’r Cyngor.
A5 Adolygu a gwella dull y Cyngor o reoli risg.
A6 Rhoi cynllun gweithredu hunanasesu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar waith.
Ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, cynigir cymryd camau i ddatrys y materion uchod i wella ein trefniadau llywodraethu ymhellach. Byddwn yn cyfuno’r cynllun gweithredu hwn gyda’r camau a ddynodwyd yn yr hunanasesiad o berfformiad i ffurfio un cynllun gweithredu.
Mae ein trefniadau llywodraethu corfforaethol wedi parhau i fod yn effeithiol i gefnogi’r Cyngor i addasu a darparu gwasanaethau heb unrhyw broblemau â pharhad. Byddwn yn sicrhau bod y dull cadarn hwn ar gyfer llywodraethu yn parhau yn 2023-2024 ac yn y dyfodol wrth i ni barhau i fodloni’n heriau. Mae ein trefniadau llywodraethu wedi gweithio’n dda i addasu i bwysau anferthol, ac er nad ydym eto’n gwybod xxxx fydd yr effeithiau hirdymor o ran cyllid cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus, xx xxxxx’r newid fod yn ddwys, ond hefyd darparu cyfleoedd newydd ac xxx xxxxx i ni barhau i sicrhau bod ein Fframwaith Llywodraethu yn addas i’r diben.
Casgliad
Xxx xxx yr Awdurdod fynediad at wybodaeth gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn modd tryloyw mewn cyfarfodydd cyhoeddus a gofnodir. Mae’r trefniadau llywodraethu wedi cefnogi’r awdurdod yn effeithiol drwy gyfnod anodd parhaus. Drwy xxxxxx xxxxxxxx, mae pob aelod etholedig wedi cael gwybod am eu cyfrifoldebau cyfansoddiadol. Mae penderfyniadau yn destun craffu allanol a mewnol effeithiol a lle y canfyddir gwendidau, mae cynlluniau gweithredu’n cael eu rhoi ar waith ar unwaith a’u monitro. Yn seiliedig ar yr hunanasesiad hwn, y casgliad cyffredinol yw bod ein trefniadau llywodraethu ar gyfer y cyfnod 2022/2023 yn addas i’r diben ac yn cefnogi cyflawni ein hamcanion yn effeithiol.
Llofnodwyd Llofnodwyd
Dyddiad Dyddiad
Rhun Ap Xxxxxx Y Cynghorydd Xxxxxxx XxXxxxxxx
Prif Weithredwr Arweinydd y Cyngor
15 | Tudalen