CYNGOR SIR YNYS MÔN Cyfarfod: Cyngor Sir Dyddiad: 12 Mai 2016 Teitl yr adroddiad: Safonau’r Gymraeg a Pholisi Iaith y Cyngor Adroddiad gan: Prif Weithredwr Cynorthwyol – Gwella Partneriaethau, Cymunedau a Gwasanaethau Pwrpas yr Adroddiad: Cymeradwyo...
Cyfarfod: | Cyngor Sir |
Dyddiad: | 12 Mai 2016 |
Teitl yr adroddiad: | Safonau’r Gymraeg a Pholisi Iaith y Cyngor |
Adroddiad gan: | Prif Weithredwr Cynorthwyol – Gwella Partneriaethau, Cymunedau a Gwasanaethau |
Pwrpas yr Adroddiad: | Cymeradwyo Polisi Iaith Gymraeg y Cyngor |
1.0 Cyflwyniad
1.1 O xxx Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, roedd yn ofynnol i sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru baratoi cynlluniau iaith Gymraeg fel modd o egluro sut y byddent yn mynd ati i drin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru. Roedd yn ofynnol i’r Cyngor llawn fabwysiadu’r Cynllun trwy gyfraith.
1.2 Mae Mesur Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 yn seiliedig ar yr egwyddorion na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru ac y dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae’r Mesur wedi galluogi Gweinidogion Cymru bennu Xxxxxxx ymddygiad sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Derbyniodd y Cyngor hwn Hysbysiad Cydymffurfio ar y Safonau Terfynol ar 30 Medi 2015 a daeth Cynllun Iaith Gymraeg y Cyngor i ben ar 30 Mawrth 2016, sef ar y diwrnod yr oedd hi’n ofynnol i’r Cyngor gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg am y tro cyntaf.
2.0 Yr angen i fabwysiadu polisi
2.1 Mae’r Cyngor eisoes wedi bod yn cydymffurfio â nifer sylweddol o’r 160 o Safonau a osodwyd arno, a hynny’n unol â’i Gynllun Iaith a ddaeth i ben ar 30 Mawrth 2016. Roedd y Cynllun Iaith hefyd yn mynd ymhellach na’r Safonau Iaith mewn sawl xxxx xx ystyrir na ddylid gwanhau sefyllfa bresennol y Cyngor o ran yr iaith trwy gyfyngu at gydymffurfio â’r Safonau yn unig.
2.2 O ganlyniad, fe ddatblygwyd polisi iaith drafft sy’n seiliedig ar y Cynllun Iaith ac sydd hefyd yn ymgorffori’r Safonau y mae’r Cyngor o xxx ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.
2.3 Cyflwynwyd y polisi drafft i’r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 25 Ebrill 2016. Yn y cyfarfod hwnnw, dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor y derbyniwyd ystod o sylwadau ar y cynnwys. Penderfynodd y Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r polisi iaith ac awdurdodi’r swyddogion perthnasol, mewn ymgynghoriad â’r Deilydd Portffolio, i gwblhau unrhyw waith golygu pellach i’r polisi drafft cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.
2.4 Mae’r Polisi drafft xxxxxxx wedi’i addasu er mwyn adlewyrchu’n gliriach geiriad Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 – gweler Atodiad 1.
2.5 Er hwylustod, nodir y safon perthnasol, neu’r rhan perthnasol o’r Cynllun iaith, trwy’r ddogfen ddrafft. Bwriedir hepgor y cyfeiriadau hyn cyn cyhoeddi’r ddogfen derfynol.
3.0 Fframwaith Polisi’r Cyngor
3.1 Mae’r Cynllun Iaith Gymraeg wedi ei gynnwys yn Fframwaith Polisi’r Cyngor. Er dilyniant a chysondeb, argymhellir y dylai’r Polisi Iaith newydd gymryd lle’r Cynllun Iaith Gymraeg yn y Fframwaith Polisi, ond fel mater o ddewis lleol yn hytrach na gofyniad cyfreithiol.
4.0 Argymhellion
4.1 Gofynnir i’r Cyngor:
4.1.1 Gymeradwyo Polisi Iaith Gymraeg y Cyngor fel y nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad hwn
4.1.2 Ystyried yr argymhelliad canlynol a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 25 Ebrill 2016:
“argymell i’r Cyngor Sir y dylid mabwysiadu Polisi Iaith Gymraeg y Cyngor fel mater o ddewis lleol a newid fframwaith polisi’r Cyngor fel a ganlyn er mwyn adlewyrchu hynny:
dileu’r ‘Cynllun Iaith Gymraeg’ o’r rhestr o gynlluniau y mae’n rhaid i’r Cyngor eu mabwysiadu yn ôl y gyfraith (rhan 3.2.2.1.1 o’r Cyfansoddiad)
cynnwys ‘Polisi Iaith Gymraeg’ o xxx y rhestr o’r cynlluniau a’r strategaethau eraill y penderfynodd y Cyngor y dylai’r Cyngor llawn eu mabwysiadu fel mater o ddewis lleol (rhan 3.2.2.1.3 o’r Cyfansoddiad)”
Polisi Iaith Gymraeg DRAFFT
Cyngor Sir Ynys Môn Fersiwn 2.0 (Mai 2016)
Am y polisi hwn
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi mabwysiadu’r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru ac y dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae’r polisi hwn yn nodi sut y bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithredu’r egwyddor honno hyn wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru. Mae’r polisi hefyd yn esbonio sut y mae’r Cyngor yn bwriadu cydymffurfio â safonau’r Gymraeg y mae o xxx ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.
Cefnogir y Polisi gydag adnoddau ar wefan y Cyngor.
Xxxxx Adolygu
Fersiwn | Dyddiad | Crynodeb o’r newidiadau |
1.0 | Ebrill 2016 | Drafft cyntaf i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith. |
2.0 | Mai 2016 | Drafft diwygiedig i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn. |
Dyddiad yr adolygiad nesaf | |
Bydd y polisi’n cael ei adolygu : | Mai 2018 |
Cynhelir yr adolygiad gan: | Prif Weithredwr Cynorthwyol - Gwella Partneriaethau, Cymunedau a Gwasanaethau |
Manylion cyswllt:
Dylai unrhyw un sy'n dymuno cysylltu â'r Cyngor mewn perthynas â'r Polisi hwn gysylltu â'r Swyddog Iaith :
Xxxxx Xxx Xxxx
Uned Bolisi – Gwasanaethau Democrataidd Busnes y Cyngor
Cyngor Sir Ynys Môn Swyddfa'r Sir Llangefni
Ynys Môn LL77 7TW
Rhif Ffôn : 01248 752561
Rhif Ffacs : 01248 750839
Rydym yn hapus i ddarparu’r wybodaeth hon mewn fformatau eraill ar gais – defnyddiwch y manylion cyswllt uchod os gwelwch yn dda.
Mae’r ddogfen yma ar gael yn y Saesneg. Os ydych yn darllen y fersiwn electronig, defnyddiwch y ddolen “English” ar ochr dde’r bar uchaf. Os ydych yn darllen copi papur, defnyddiwch y manylion cyswllt uchod os gwelwch yn dda i xxxx xxxx o’r fersiwn Saesneg. | This document is available in English. If you are reading the electronic version, please use the “English” link on the right hand side of the top bar. If you are reading a paper copy, please use the above contact details to obtain an English version. |
Cynnwys | Tud. | |
1.0 | Rhagarweiniad Ynys Môn Cyngor Sir Ynys Môn Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru Mesur Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 Comisiynydd y Gymraeg Cynlluniau Iaith Gymraeg Safonau’r Gymraeg Hybu’r Gymraeg Cyfrifoldeb am Weithredu’r Polisi | 5 |
1.1 | 5 | |
1.2 | 5 | |
1.3 | 5 | |
1.4 | 5 | |
1.5 | 6 | |
1.6 | 6 | |
1.7 | 6 | |
1.8 | 6 | |
1.9 | 7 | |
2.0 | Datganiad Polisi | 7 |
3.0 | Cynllunio Gwasanaethau Dwyieithog | 7 |
3.1 | Ystyried effeithiau penderfyniadau polisi ar y Gymraeg | 7 |
3.2 | Defnyddio’r Gymraeg o fewn gweinyddiaeth fewnol y Cyngor | 8 |
4.0 | Cyflwyno Gwasanaethau Dwyieithog | 11 |
4.1 | Egwyddorion cyffredinol | 11 |
4.2 | Dyfarnu Contractau | 11 |
4.3 | Gwasanaethau ar ran y Cyngor gan bartïon eraill | 12 |
4.4 | Dyfarnu Grantiau | 13 |
4.5 | Cyflawni swyddogaethau statudol – Rheoleiddio | 14 |
4.6 | Partneriaeth (ffurfiol ac anffurfiol) | 14 |
4.7 | Cyd-ddarparu gwasanaethau | 15 |
4.8 | Cyrsiau a gynigir i’r Cyhoedd | 15 |
5.0 | Xxxxx â’r cyhoedd Xxxxx wyneb yn wyneb â’r cyhoedd Gohebiaeth Ffonio Cyfarfodydd nad ydynt yn agored i’r cyhoedd yn gyffredinol Cyfarfodydd sy’n agored i’r cyhoedd (yn cynnwys gwrandawiadau, ymholiadau ac achosion cyfreithiol eraill) Digwyddiadau cyhoeddus a drefnir neu a ariennir gan y Cyngor Cyfarfodydd eraill Gwefannau, gwasanaethau ar-lein a’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol Peiriannau hunanwasanaeth | 16 |
5.1 | 16 | |
5.2 | 16 | |
5.3 | 17 | |
5.4 | 18 | |
5.5 | 19 | |
5.6 | 20 | |
5.7 | 20 | |
5.8 | 21 | |
5.9 | 21 |
Cynnwys | Tud. | |
6.0 | Wyneb cyhoeddus y Cyngor | 21 |
6.1 | Hunaniaeth gorfforaethol | 21 |
6.2 | Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg a ddarperir | 22 |
gan y Cyngor | ||
6.3 | Arwyddion | 22 |
6.4 | Enwau lleoedd | 23 |
6.5 | Systemau annerch cyhoeddus a negeseuon xxxx | 23 |
6.6 | Cyhoeddi, argraffu ac arddangos deunydd cyhoeddus | 23 |
6.7 | Taflenni, llyfrynnau, ffurflenni a deunydd esboniadol | 24 |
6.8 | Datganiadau i’r wasg a’r cyfryngau | 25 |
6.9 | Hysbysebu a chyhoeddusrwydd | 25 |
6.10 | Hysbysiadau cyhoeddus a hysbysiadau swyddogol | 25 |
6.11 | Deunydd gwledol a clywedol electronig | 26 |
6.12 | Gwaith marchnata | 26 |
6.13 | Hysbysebion swyddi | 26 |
7.0 | Gweithredu’r Polisi Staffio Cwynion a wneir gan aelod o staff y Cyngor Disgyblu staff Technoleg gwybodaeth a deunyddiau cymorth a ddarperir gan y Cyngor, a’r fewnrwyd Meithrin sgiliau yn y Gymraeg drwy gynllunio a hyfforddi’r gweithlu Recriwtio ac apwyntio Hyfforddiant Y Gwasanaeth Cyfieithu Pryderon a Chwynion | 27 |
7.1 | 27 | |
7.2 | 28 | |
7.3 | 29 | |
7.4 | 29 | |
7.5 | 30 | |
7.6 | 32 | |
7.7 | 33 | |
7.8 | 34 | |
7.9 | 35 | |
8.0 | Hybu’r Gymraeg | 35 |
9.0 | Cadw Cofnodion | 36 |
10.0 | Materion Atodol | 37 |
10.1 | Rhoi cyhoeddusrwydd i safonau’r Gymraeg | 37 |
10.2 | Cyhoeddi gweithdrefn gwyno | 37 |
10.3 | Cyhoeddi trefniadau goruchwylio, hybu ayyb | 37 |
10.4 | Llunio adroddiad blynyddol | 38 |
10.5 | Rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y bwriedir cydymffurfio â safonau’r | 38 |
10.6 | Gymraeg Darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg | 38 |
11.0 | Gwella’r Gwasanaeth | 39 |
1.0 Rhagarweiniad
1.1 Ynys Môn
Dengys Cyfrifiad 2011 bod 57.2% o boblogaeth Ynys Môn (dros 3 oed) yn siarad Cymraeg o’i gymharu â 19% thros Gymru. Er bod hyn yn gosod Môn yn un o gadarnleoedd y Gymraeg ac yn un o’r ddwy Sir yng Nghymru lle xxx xxxx xxxxxx y boblogaeth yn siarad Cymraeg, mae’n dangos gostyngiad o 2.9% ers Cyfrifiad 2001. Y Cyngor Sir yw’r cyflogwr mwyaf ar yr ynys. Mae’r Cyngor yn cydnabod ei gyfrifoldeb i hyrwyddo’r iaith yn gymunedol ac fel cyflogwr i ddenu a chadw siaradwyr Cymraeg i’r sefydliad i ddarparu safon uchel o wasanaethau dwyieithog i’r cyhoedd.
1.2 Cyngor Sir Ynys Môn
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gyfrifol am ddarparu’r xxxx wasanaethau llywodraeth leol i bobl Ynys Môn.
Mae canolfan weinyddol y Sir yn Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.
Mae’r Cyngor yn darparu ei wasanaethau trwy strwythur uwch-reolaeth sydd yn cynnwys y Prif Weithredwr a dwy swydd Prif Weithredwyr Cynorthwyol newydd sydd yn gyfrifol am y meysydd canlynol:
• Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes
• Gwella Partneriaethau, Cymunedau a Gwasanaethau
Mae materion o ran yr iaith yn un o brif gyfrifoldebau’r swydd sy’n ymwneud â Gwella Partneriaethau, Cymunedau a Gwasanaethau.
Xxx xxx Benaethiaid Gwasanaeth y Cyngor gyfrifoldebau gweithredol unigol am ein gwasanaethau.
1.3 Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru
1.3.1 Mae'r Cyngor yn cefnogi amcanion Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru ac yn ystyried xx Xxxxxx Iaith Gymraeg fel cyfraniad lleol pwysig tuag at wireddu'r strategaeth genedlaethol ehangach honno. (CI 1.3)
1.4 Mesur Iaith Gymraeg (Cymru) 2011
1.4.1 Nod y Mesur Iaith newydd yw cynnig mwy o eglurder a chysondeb i siaradwyr Cymraeg o ran y gwasanaethau y xxxxxxx ddisgwyl eu derbyn yn y Gymraeg. Mae’r Gymraeg xxxxxxx yn iaith swyddogol yng Nghymru yn sgil y Mesur yma a ddaeth i rym ym mis Chwefror 2011. Mae’r Cyngor yn ymrwymo i weithredu’n gadarnhaol i ymgymryd â swyddogaethau o xxx y Mesur Iaith.
1.5 Comisiynydd y Gymraeg
1.5.1 Crëwyd swydd Comisiynydd y Gymraeg gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Prif nod Comisiynydd y Gymraeg yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Gwneir hyn drwy ddwyn sylw i’r ffaith bod statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru a thrwy osod safonau ar sefydliadau. Xxx xxx egwyddor yn sail i waith y Comisiynydd:
• Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru
• Dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny
1.6 Cynlluniau Iaith Gymraeg
1.6.1 O xxx Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, roedd yn ofynnol i sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru baratoi Cynllun Iaith Gymraeg fel modd o egluro sut y byddent yn mynd ati i drin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru bennu Safonau ymddygiad sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Bydd y Safonau hyn yn cymryd lle’r Cynlluniau Iaith.
1.6.2 Derbyniodd y Cyngor hwn 1Hysbysiad Cydymffurfio ar y Safonau Terfynol ar 30 Medi 2015. O ganlyniad, daeth Cynllun Iaith Gymraeg y Cyngor i ben ar 30 Mawrth 2016, sef ar y diwrnod y daeth hi’n ofynnol i’r Cyngor gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg am y tro cyntaf.
1.7 Safonau’r Gymraeg
1.7.1 Mae’r polisi hwn yn ymgorffori’r Safonau y mae’n ofynnol i’r Cyngor
gydymffurfio â hwy. Ceir rhestr o’r Safonau hynny ar wefan y Cyngor ac mae copïau papur, neu fformatau eraill, ar gael ar gais. Defnyddiwch y manylion cyswllt ar dudalen 2 os gwelwch yn dda.
1.8 Hybu’r Gymraeg
1.8.1 Corfforaethol - Grŵp Tasg Iaith - Mae’r Cyngor Sir wedi sefydlu Grŵp Tasg Iaith i hybu'r Gymraeg ym mhob agwedd o waith y Cyngor. Rôl y Grŵp Tasg Iaith fydd ceisio hyrwyddo'r Gymraeg yn gorfforaethol mewn modd trawsbynciol a thraws adrannol. Yn ogystal, bydd y Cyngor yn sicrhau ei fod yn cwrdd â’i ymrwymiad i'r Gymraeg trwy gyflawni'r tasgau a ganlyn:-
• Goruchwylio gweithredu Safonau’r Gymraeg
• Adolygu a sefydlu cyfundrefnau monitor
1 Yn unol ag Adran 44, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
• Trosglwyddo unrhyw risgiau o ran perfformiad i sylw’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i’w craffu’n ymhellach
1.8.2 Cymunedol – Fforwm Iaith - Mae Fforwm Iaith partneriaethol yn bodoli ar lefel sirol er mwyn rhoi ffocws strategol i’r Iaith Gymraeg ar yr Ynys. Mae’r Fforwm yn gyfrifol am adnabod blaenoriaethau a llunio Strategaeth Iaith Gymraeg sirol ar gyfer y 5 mlynedd nesaf lle rhoddir ffocws ar gynyddu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.
1.9 Cyfrifoldeb Am Weithredu’r Polisi
1.9.1 Bydd y Cyngor yn dynodi Uwch Swyddog o fewn y sefydliad i gydlynu'r iaith yn strategol ac yn gorfforaethol. Y Prif Weithredwr Cynorthwyol - Gwella Partneriaethau, Cymunedau a Gwasanaethau (‘Prif Weithredwr Cynorthwyol’) sy’n cyflawni’r swyddogaeth ar hyn x xxxx. Bydd y swyddog yma, gyda chefnogaeth yr Uned Bolisi, yn hyrwyddo gweithrediad y polisi hwn ac yn chwilio am gyfleoedd i gynghori ac annog adrannau i brif ffrydio'r Gymraeg i bolisïau a mentrau newydd.
1.9.2 Bydd y Penaethiaid Gwasanaeth yn gyfrifol am sicrhau fod eu gwasanaethau yn gweithredu yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg ynghyd â’r polisi hwn.
2.0 Datganiad Polisi
2.1 Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi mabwysiadu’r egwyddor na ddylid trin y
Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru ac y dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Y Gymraeg a'r Saesneg fydd ieithoedd swyddogol y Cyngor a bydd iddynt yr un statws a dilysrwydd yng ngweinyddiaeth a gwaith y Cyngor. Mae diogelu a hyrwyddo'r iaith Gymraeg a datblygu'r defnydd ohoni oddi fewn ac xxxx xxxxx i'r Cyngor yn un o amcanion sylfaenol y Cyngor. (CI 1.2)
2.2 Bydd gweinyddiaeth a gwaith y Cyngor yn seiliedig ar y ddwy egwyddor a nodir ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, sef:
• Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru
• Dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny
3.0 Cynllunio Gwasanaethau Dwyieithog
3.1 Ystyried effeithiau penderfyniadau polisi ar y Gymraeg
3.1.1 Sicrheir bod unrhyw gynlluniau, mentrau neu bolisïau a fabwysiedir gan y Cyngor yn cydymffurfio â gofynion y polisi hwn. (CI 2.1)
3.1.2 Bydd cyfeiriad at y polisi hwn mewn unrhyw gynlluniau, mentrau neu bolisïau o eiddo'r Cyngor lle bo hynny'n berthnasol. (CI 2.1.2)
3.1.3 Ni fydd y Cyngor yn gweithredu unrhyw fesurau a allai danseilio'r polisi hwn a'i amcanion. (CI 2.1.3)
3.1.4 Gwneir asesiad o effaith tebygol neu wirioneddol unrhyw bolisi neu arfer gwaith y bydd y Cyngor yn ei lunio neu yn ei addasu, a hynny ar gyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Rhoddir ystyriaeth i’r canlynol:
(a) pa effeithiau, os o gwbl (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael. (Safon 88)
(b) sut y gellid llunio’r polisi (neu sut y gellid newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel y byddai’r penderfyniad polisi’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif. (Safon 89)
(c) sut y gellid llunio’r polisi (neu sut y gellid newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel na fyddai’r penderfyniad polisi’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol. (Safon 90)
3.1.5 Mae’r templed asesu effaith o ran cydraddoldeb a ddatblygwyd gan y Cyngor yn cynnwys yr iaith Gymraeg fel un o’r elfennau xxxx xxxxx sylw wrth gynnal asesiad o’r fath. Hefyd, mae’r canllawiau drafft sy’n mynd gyda’r templed yn cynnwys cyngor ar y math o faterion y dylid eu hystyried o ran yr iaith. (CI 2.1.3)
3.1.6 Pan fydd y Cyngor yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, bydd y ddogfen honno’n ystyried a cheisio barn ynghylch yr effaith ar gyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Rhoddir ystyriaeth i’r canlynol:
(a) yr effeithiau (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi o xxx ystyriaeth yn eu cael (Safon 91)
(b) sut y gellid llunio neu addasu’r polisi o xxx ystyriaeth fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif. (Safon 92)
(c) sut y gellid llunio neu addasu’r polisi o xxx ystyriaeth fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol. (Safon 93)
3.1.7 Pan fydd y Cyngor yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir i’w gynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, bydd yn sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried yr effeithiau ar gyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Rhoddir ystyriaeth i’r canlynol:
(a) pa effeithiau, os o gwbl (a pha un ai ydynt yn rhai positif neu’n rhai andwyol), y byddai’r penderfyniad polisi sydd o xxx ystyriaeth yn eu cael. (Safon 95)
(b) sut y gellid gwneud y penderfyniad polisi sydd o xxx ystyriaeth fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif. (Safon 96)
(c) sut y gellid gwneud y penderfyniad polisi sydd o xxx ystyriaeth fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol. (Safon 97)
3.2 Defnyddio’r Gymraeg o fewn gweinyddiaeth fewnol y Cyngor (Safon 98)
3.2.1 Bydd y Cyngor yn defnyddio ac yn cyfeirio at y polisi hwn wrth lunio a diwygio polisïau, cynlluniau a mesurau eraill ymhob gwasanaeth, fel bod agweddau Cymraeg gwasanaeth y Cyngor yn cael eu hintegreiddio i xxx xxxx o fewn ei brosesau gweinyddol arferol. Yn ogystal, cynhelir ymarferion codi ymwybyddiaeth o egwyddorion y polisi ymhlith staff. (CI 6.5.1)
3.2.2 Bydd Aelodau'r Cyngor, y Prif Weithredwr, y Prif Weithredwyr Cynorthwyol a’r Penaethiaid Gwasanaeth yn gefnogol i xxxx fesurau'r polisi hwn. (CI 6.5.2)
3.2.3 Y Prif Weithredwr Cynorthwyol fydd yn gyfrifol am gylchredeg gwybodaeth, cyfarwyddiadau ac arweiniad am y polisi i xxx gwasanaeth, a bydd pob Pennaeth Gwasanaeth wedyn yn gyfrifol am ei gylchredeg o fewn ei (g)wasanaeth. Mae hi'n bwysig fod pob aelod o'r staff yn ymwybodol o ofynion y polisi er mwyn iddo weithio'n effeithiol. (CI 6.5.3)
3.2.4 Nod y Cyngor yw sicrhau mai Cymraeg fydd prif iaith gweinyddiaeth fewnol y Cyngor, ar xxxxx xx yn ysgrifenedig. Er mwyn cyflawni hyn bydd y Cyngor yn monitro cynnydd yn flynyddol. (CI 2.2.1)
3.2.5 Yn wyneb polisi uchod y Cyngor bydd y Penaethiaid Gwasanaeth yn gyfrifol am annog eu swyddogion i ddefnyddio'r Gymraeg wrth weithio a chyfathrebu'n fewnol, ar xxxxx xx yn ysgrifenedig. (CI 2.2.1)
3.2.6 O gydnabod yr angen statudol i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg ac yn wyneb dymuniad y Cyngor Sir i hyrwyddo'r defnydd a wneir o'r Gymraeg, bydd targedau'n cael eu gosod ac amserlen yn cael ei phennu ar gyfer gwella sgiliau (llafar ac ysgrifenedig) dwyieithrwydd staff. (CI 2.2.1)
3.2.7 Anogir staff i ddefnyddio'r Gymraeg wrth gyfathrebu â'i gilydd ar xxxxx xx yn ysgrifenedig. Darperir y pecyn meddalwedd cyfrifiadurol 'CySill/CysGair' i staff er mwyn annog a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. (CI 2.2.2) (Safon S120)
3.2.8 Serch hynny, bydd gan aelodau staff y Cyngor yr hawl i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg cyn belled ag y bo hynny'n gyson â darpariaethau'r polisi hwn ac nad yw'n amharu'n sylweddol ar effeithiolrwydd cyfathrebu mewnol. (CI 2.2.2)
3.2.9 Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg mewn cyfarfodydd o weithgorau swyddogion a chyrsiau hyfforddi staff fel bo’r angen. (CI 2.2.3)
3.2.10 Bydd pob gohebiaeth ysgrifenedig mewnol cyffredinol yn ddwyieithog, p'un ac ydyw ar bapur neu ar ffurf e-xxxx. Bydd staff yn cael eu hannog i anfon gohebiaeth at ddarllenwyr Cymraeg yn y Gymraeg. (CI 2.2.4)
3.2.11 Er mwyn sicrhau unffurfiaeth ac er mwyn osgoi dryswch, un wyddor fydd yn cael ei defnyddio wrth ddynodi paragraffau ac adrannau ayyb mewn testunau, a'r wyddor Gymraeg fydd honno. (CI 5.3.3)
3.2.12 Gydag unrhyw ohebu dwyieithog, bydd yr ohebiaeth xxxxx xx gyda’r Gymraeg yn ymddangos uwchben y Saesneg neu ar ffurf gyfochrog, gyda'r Gymraeg ar y chwith a'r Saesneg ar y dde. Bydd y ddwy iaith yn gyfartal o ran ffurf, maint, eglurder, amlygrwydd ac ansawdd. (CI 2.2.5)
3.2.13 Mae’r fewnrwyd gyfrifiadurol ‘MonITor’ wedi cael ei sefydlu i ledaenu gwybodaeth gorfforaethol i staff y Cyngor. Bydd y wybodaeth a ddarperir
trwy’r cyfrwng hwn yn ddwyieithog. Hefyd, mae’r papur newydd mewnol i’r staff, “Medra” yn cael ei gyhoeddi’n ddwyieithog. (CI 2.2.6)
3.2.14 Os bydd swyddog yn gohebu ag aelod o'r cyhoedd ar ôl siarad wyneb yn wyneb ag o/hi yn Gymraeg neu ar ôl siarad gydag o/hi dros y ffôn yn Gymraeg, bydd yr ohebiaeth honno yn Gymraeg oni bai fod yr aelod o’r cyhoedd yn dymuno derbyn gohebiaeth yn y Saesneg. (CI 4.2.4) (Safon 21)
3.2.15 Pan fydd swyddog Di-Gymraeg, neu swyddog ansicr ei Gymraeg, yn ymdrin â gohebiaeth Gymraeg bydd yn sicrhau cymorth cydweithiwr neu gyfieithwyr y Cyngor er mwyn ymateb yn Gymraeg i'r ohebiaeth. Oni ddefnyddir gwasanaeth y cyfieithwyr, defnyddir cydweithiwr sydd â Chymraeg ysgrifenedig o safon uchel. (CI 4.2.5)
3.2.16 Bydd Penaethiaid Gwasanaeth y Cyngor yn gyfrifol am sicrhau bod xxxx staff eu gwasanaethau yn ymwybodol o'r trefniadau hyn ac am hysbysu swyddogion Di-Gymraeg o'r ddarpariaeth sydd ar gael er mwyn gohebu yn Gymraeg h.y. oni allant lunio llythyr yn y Gymraeg eu hunain, dylent wneud trefniadau i'w gyfieithu i'r Gymraeg o fewn yr xxxxx xxx, os oes xxxxx, xxxx yr Uned gyfieithu i brawf- ddarllen y llythyr Cymraeg cyn ei anfon. (CI 4.2.6)
3.2.17 Bydd pecyn CysGair ar gael ar gyfer pob swyddog a bydd y Cyngor yn hyrwyddo'r defnydd o becynnau meddalwedd Cymraeg a dwyieithog yn gorfforaethol. (Safon 120) (CI 4.2.7; CI 6.5.4)
3.2.18 Darperir geiriad neu logo ar gyfer llofnodion e-xxxx staff sy’n eu galluogi i ddynodi a ydynt yn siarad Cymraeg yn rhugl neu’n dysgu’r iaith. (Safon 134) (gweler hefyd 6.5.21)
4.0 Cyflwyno Gwasanaethau Dwyieithog
4.1 Egwyddorion cyffredinol
4.1.1 Bydd y Cyngor yn darparu gwasanaeth cyflawn i'r cyhoedd yn Gymraeg ac yn Saesneg ar draws xx xxxx wasanaethau. Ni fydd dewis yr iaith yr ymdrinnir â hi wrth ymhél â gwaith y Cyngor, boed hi'n Gymraeg neu'n Saesneg, yn amharu ar effeithiolrwydd a safon y gwasanaeth hwn. (CI 3.1)
4.1.2 Y nod fydd darparu gwasanaeth o safon ymhob agwedd o waith y Cyngor - ymhob gwasanaeth, yn fewnol ac yn allanol, ac yn ysgrifenedig ac ar xxxxx, yn unol ag ymrwymiadau'r polisi hwn. (CI 3.1)
4.1.3 Bydd safon y gwasanaeth hwn yn destun arolygu cyson gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol, gyda'r nod o wella'r safon yn barhaus. Defnyddir amryw o ddulliau gwahanol i fonitro megis gwerthuso'r elfennau Gofal Cwsmer a chynhyrchu Adroddiad Blynyddol. (CI 3.1)
4.1.4 Bydd y Prif Weithredwr Cynorthwyol hefyd yn gyfrifol am oruchwylio’r gwasanaeth dwyieithog a dderbynnir gan sefydliadau cyhoeddus eraill yng Nghymru y bydd y Cyngor yn ymwneud â nhw, gyda’r nod o annog, hwyluso a chefnogi’r sefydliadau hyn i ddarparu gwasanaeth dwyieithog cyflawn i’r cyhoedd. (CI 3.1)
4.2 Dyfarnu Contractau
4.2.1 Bydd unrhyw wahoddiadau i dendro am gontract a gyhoeddir gan y Cyngor yn cael eu cyhoeddi yn ddwyieithog, ac ni fydd fersiwn Gymraeg o unrhyw wahoddiad yn cael ei drin yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono. (Safon 76)
4.2.2 Pan fydd y Cyngor yn cyhoeddi gwahoddiadau i dendro am gontract, bydd yn datgan yn y gwahoddiad y caniateir i dendrau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd tendr a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg. (Safon 77)
4.2.3 Ni fydd y Cyngor yn trin tendr a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael tendrau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i dendrwyr am benderfyniadau). (Safon 77A)
4.2.4 Os bydd y Cyngor yn cael tendr yn Gymraeg, a bod angen cyfweld â
thendrwr fel rhan o’r asesiad o’r tendr, bydd y Cyngor yn cynnig cynnal y cyfweliad hwnnw yn Gymraeg ac, os yw’r tendrwr yn dymuno hynny, cynhelir y cyfweliad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol). (Safon 78)
4.2.5 Pan fydd y Cyngor yn rhoi gwybod i dendrwr xxxx yw’r penderfyniad mewn perthynas â thendr, bydd yn gwneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y tendr yn Gymraeg. (Safon 80)
4.3 Gwasanaethau ar ran y Cyngor gan bartïon eraill
4.3.1 Bydd unrhyw gytundeb neu drefniant a wneir gyda thrydydd parti, ac sydd yn ymwneud â darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru, yn gyson â thelerau'r polisi hwn. Bydd hyn yn cynnwys (heb gyfyngiad) gwasanaethau a gaiff eu contractio xxxxx. (CI 3.2.1)
4.3.2 Yn achos unrhyw wasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan drydydd parti, bydd y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol yn gyfrifol am sicrhau bod manylion llawn am ofynion penodol y Polisi Iaith sy'n berthnasol i'r gwasanaeth a gontractir xxxxx yn cael eu cyflwyno i ddarpar ddarparwr. Bydd y Pennaeth Gwasanaeth hefyd yn gyfrifol am fonitro'r gydymffurfiaeth hon â'r polisi. (CI 3.2.1)
4.3.3 Bydd y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw ddarpar ddarparwyr yn ymwybodol bod angen iddynt fodloni'r Cyngor y xxxxxxx ddarparu gwasanaeth dwyieithog, yn unol ag agweddau perthnasol y polisi iaith, i'r gwasanaeth/xxxx xxx sylw. (CI 3.2.1)
4.3.4 Yn wyneb goblygiadau Rheoli Perfformiad, dibyniaeth y Cyngor ar asiantaethau, cwmnïau, ymgynghorwyr proffesiynol, cyrff gwirfoddol ac unigolion allanol i gyflawni rhai o'i ddyletswyddau, mae hi'n bwysig bod y Cyngor, trwy gyfrwng y trefniadau i osod cytundeb i asiantaethau, cwmnïau, ymgynghorwyr proffesiynol, cyrff gwirfoddol ac unigolion allanol yn sicrhau bod yr asiantaeth, cwmni, ymgynghorwyr proffesiynol, cyrff gwirfoddol neu'r unigolion hynny yn gweithredu unrhyw elfennau perthnasol o'r polisi hwn wrth ymdrin â'r cyhoedd ym Môn. (CI 3.2.2)
4.3.5 Mae'r polisi hwn yr un mor berthnasol i unrhyw asiantaeth neu gwmni allanol sy'n darparu gwasanaeth ar ran y Cyngor ag ydyw i'r Cyngor ei hun wrth ymdrin â'r cyhoedd. (CI 3.2.3)
4.3.6 Wrth osod unrhyw gytundeb, bydd y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol yn gyfrifol am sicrhau bod yr asiantaeth neu'r cwmni sy'n ymgymryd â gwaith, sy'n ymwneud â darparu gwasanaeth i'r cyhoedd, ar ran y Cyngor, yn cydymffurfio ag anghenion ieithyddol penodol y gwasanaeth yn erbyn y polisi hwn. Gwneir hynny trwy gynnwys manylion perthnasol am ofynion y polisi yn y dogfennau tendro a yrrir at yr asiantaeth neu'r cwmni perthnasol. (CI 3.2.4)
4.3.7 Lle bydd disgwyl i drydydd parti ddarparu deunydd ysgrifenedig neu wneud cyflwyniadau i gyfarfodydd cyhoeddus y Cyngor, bydd y Pennaeth
Gwasanaeth perthnasol yn gyfrifol am sicrhau bod y ddarpariaeth honno’n ddwyieithog trwy gynnwys amodau penodol o fewn y cytundeb gyda’r trydydd parti xxx sylw. (CI 3.2.4)
4.4 Dyfarnu Grantiau
4.4.1 Bydd y Cyngor yn ystyried effeithiau’r materion a ganlyn ar gyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, pan fydd yn gwneud penderfyniadau ynghylch dyfarnu grant –
(a) pa effeithiau, os o gwbl (a pha un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol), y byddai dyfarnu grant yn eu cael;
(b) sut y gellid gwneud neu weithredu penderfyniad (er enghraifft, drwy osod amodau grant) fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif;
(c) sut y gellid gwneud neu weithredu penderfyniad (er enghraifft, drwy osod amodau grant) fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol;
(ch) a oes angen gofyn i’r ymgeisydd am grant am unrhyw wybodaeth ychwanegol er mwyn cynorthwyo’r Cyngor i asesu effaith dyfarnu grant. (Safon 94)
4.4.2 Bydd unrhyw ddogfennau y bydd y Cyngor yn eu cyhoeddi sy’n ymwneud â cheisiadau am grant yn cael eu cyhoeddi yn ddwyieithog, ac ni fydd y Cyngor yn trin fersiwn Gymraeg o’r dogfennau hynny yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohonynt. (Safon 71)
4.4.3 Pan fydd y Cyngor yn gwahodd ceisiadau am grant, bydd yn datgan yn y gwahoddiad y caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg ac na fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. (Safon 72)
4.4.4 Ni fydd y Cyngor yn trin ceisiadau am grant a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael ceisiadau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i ymgeiswyr am benderfyniadau). (Safon 72A)
4.4.5 Os bydd y Cyngor yn cael cais am grant yn Gymraeg, a bod angen cyfweld ag ymgeisydd fel rhan o asesiad y Cyngor o’r cais, bydd y Cyngor yn cynnig cynnal y cyfweliad yn Gymraeg ac, os yw’r ymgeisydd yn dymuno hynny, cynhelir y cyfweliad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol). (Safon 73)
4.4.6 Pan fydd y Cyngor yn rhoi gwybod i ymgeisydd xxxx yw’r penderfyniad mewn perthynas â chais am grant, bydd yn gwneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y cais yn Gymraeg. (Safon 75)
4.4.7 Bydd y Cyngor yn annog sefydliadau, cyrff neu unigolion, nad ydynt yn cynrychioli cyrff cyhoeddus ond sydd yn derbyn nawdd ariannol gan y Cyngor hwn i ddarparu ei wasanaethau i'r cyhoedd yn ddwyieithog neu’n Gymraeg. (CI 3.3.1)
4.4.8 Yn yr un modd, yn achos sefydliadau, cyrff neu unigolion, nad ydynt yn cynrychioli cyrff cyhoeddus, y bydd y Cyngor yn cydweithio gyda nhw, neu yn achos unrhyw bartneriaeth rhwng y Cyngor a sefydliadau, cyrff neu unigolion eraill, anogir prosiectau neu bartneriaethau o'r fath i ddarparu eu gwasanaethau i'r cyhoedd yn ddwyieithog. (CI 3.3.2)
4.4.9 Yn achos unrhyw nawdd sy'n cael ei gynnig i sefydliadau, cyrff neu unigolion, bydd y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol yn gyfrifol am annog derbynnydd y nawdd i ddefnyddio cyfran o'r nawdd hwnnw er mwyn hyrwyddo'r Gymraeg yn ei weithgareddau. Bydd y Pennaeth Gwasanaeth hefyd yn gyfrifol am fonitro sut mae'r Gymraeg wedi cael ei hyrwyddo. (CI 3.3.3)
4.5 Cyflawni Swyddogaethau Statudol – Rheoleiddio
4.5.1 Bydd y Cyngor, wrth weithredu swyddogaeth o reoleiddio, yn annog unrhyw sefydliad, xxxxx xxx unigolyn, nad ydyw’n cynrychioli xxxxx cyhoeddus, i ddefnyddio'r Gymraeg yn ei weithgareddau. Yn ôl yr angen, darperir cyngor ar arfer da. (CI 3.4.1)
4.5.2 Bydd y Cyngor, wrth brynu gwasanaethau gan drydydd parti ar ran y cyhoedd, mewn amgylchiadau na chyfeiriwyd atynt yn xxxxx, yn annog y trydydd parti i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru. (CI 3.4.2)
4.5.3 Bydd gofyn i'r Pennaeth Gwasanaeth perthnasol annog y xxxx xx'n xxxx xx reoleiddio ganddo/i i hyrwyddo’r Gymraeg yn ei weithgareddau e.e. cynhyrchu taflenni, arwyddion, hysbysebion dwyieithog. Bydd y Pennaeth Gwasanaeth hefyd yn gyfrifol am fonitro sut mae'r Gymraeg wedi cael ei hyrwyddo. (CI 3.4.3)
4.6 Partneriaeth (ffurfiol ac anffurfiol) (CI 3.5)
4.6.1 Pan fo'r Cyngor yn arwain partneriaeth, yn strategol ac yn ariannol, bydd yn sicrhau fod y ddarpariaeth gyhoeddus yn cydymffurfio â gofynion y Polisi Iaith hwn.
4.6.2 Pan fo'r Cyngor yn ymuno â phartneriaeth y xxx xxxxx arall yn ei harwain, bydd mewnbwn y Cyngor i'r bartneriaeth yn cydymffurfio â gofynion y Polisi Iaith hwn a bydd y Cyngor yn annog y partïon eraill i gydymffurfio.
4.6.3 Pan fo'r Cyngor yn gweithredu fel rhan o gonsortia, bydd yn annog y consortia i fabwysiadu polisi iaith. Wrth weithredu'n gyhoeddus yn enw'r Consortia bydd y Cyngor yn gweithredu'n unol â gofynion y Polisi Iaith hwn.
4.6.4 Pan fo'r Cyngor yn ymuno â neu'n ffurfio partneriaeth, bydd yn gofyn i'r darpar bartneriaid am eu polisïau iaith neu'r modd y maent yn bwriadu gweithredu yn ddwyieithog. Fel rhan o xxx partneriaeth, bydd y Cyngor yn cynnig cyngor a chymorth i'r partïon eraill sy'n rhan o'r bartneriaeth.
4.7 Cyd-ddarparu Gwasanaethau (CI 3.6)
4.7.1 Mae trefniadau cyd-ddarparu a chyd-ariannu gwasanaethau yn allweddol i’r dyfodol ac yn faes y bydd gofyn i’r Cyngor ei ddatblygu fwyfwy. Wrth ddatblygu strwythurau a chytundebau gydag eraill, bydd y Cyngor yn gwarchod a sicrhau disgwyliadau trigolion y Sir o safbwynt gwasanaethau dwyieithog.
4.7.2 Wrth ddrafftio ac adolygu cytundebau cyd-ddarparu a chyd-ariannu, bydd y Cyngor yn sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y Polisi hwn a hynny er mwyn sicrhau nad yw’r trefniadau’n arwain at unrhyw ddirywiad mewn darpariaeth ddwyieithog i’r cyhoedd. Byddwn yn monitro’r cytundebau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth.
4.7.3 Bydd y Cyngor yn manteisio ar y cyfle a gynigir i godi ymwybyddiaeth o broffil a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg o fewn y Sir gyda’n cyd-ddarparwyr ac i gydweithio tuag at well darpariaeth ddwyieithog ar draws wasanaethau.
4.7.4 Bydd y Cyngor hwn yn pwyso am gyfleoedd i alluogi aelodau staff i barhau i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg wrth gyd-ddarparu.
4.8 Cyrsiau a gynigir i’r cyhoedd
4.8.1 Os bydd y Cyngor yn cynnig cwrs addysg sy’n agored i’r cyhoedd, bydd yn ei gynnig yn Gymraeg. Bydd y Cyngor yn gwneud hyn ymhob amgylchiad, ac eithrio pan fo asesiad a gynhaliwyd yn unol â rhan 4.8.2 isod yn dod i’r casgliad nad oes angen i’r cwrs hwnnw gael ei gynnig yn Gymraeg (Safon 84)
4.8.2 Os bydd y Cyngor yn datblygu cwrs addysg sydd i’w gynnig i’r cyhoedd, bydd yn asesu’r angen i’r cwrs hwnnw gael ei gynnig yn Gymraeg; a sicrheir bod yr asesiad wedi ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor. (Safon 86)
5.0 Xxxxx â’r cyhoedd
5.1 Xxxxx xxxxx yn wyneb â’r cyhoedd
5.1.1 Bydd croeso i bobl siarad yn Gymraeg neu yn Saesneg wrth ymdrin â staff y Cyngor. Ni fydd unrhyw xxxxxx xxxx am gael gwasanaeth derbynfa Cymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol xx xxxxxxx sydd am gael gwasanaeth derbynfa Saesneg. Bydd angen i wasanaethau gymryd camau i sicrhau bod eu staff rheng flaen, sy'n gwasanaethu'r cyhoedd o ddydd i ddydd, x.x. xxxxx gydag ymholiadau, ateb galwadau ffôn, yn siarad Cymraeg. Mae pob Adain Gwasanaeth o fewn y Cyngor fel arfer yn gallu darparu gwasanaeth dwyieithog. (Safon 64) (CI 4.1)
5.1.2 Os bydd y xxxx xx'n galw yn un o sefydliadau'r Cyngor yn siarad Cymraeg a'r swyddog sy'n ei (g)wasanaethu yn methu siarad Cymraeg, dylai'r swyddog esbonio na all siarad Cymraeg a gofyn a ydyw'r cwsmer yn dymuno siarad hefo siaradwr Cymraeg. Os bydd y cwsmer yn dymuno siarad hefo siaradwr Cymraeg dylid nôl swyddog dwyieithog i wasanaethu'r cwsmer. (Mewn
achosion lle bo'r swyddog sy'n gwasanaethu yn ddysgwr(aig), anogir y swyddog i ddefnyddio ac ymarfer ei G/Chymraeg). (CI 4.1)
5.1.3 Yn y modd hwn, nod y Cyngor yw hysbysu ei gwsmeriaid am y polisi a'i amcanion, yn ogystal â'r hyn y xxxxxxx xx ddisgwyl gan y Cyngor yng nghyswllt gwasanaeth dwyieithog cyflawn. (CI 4.1)
5.1.4 Bydd y Cyngor yn sicrhau ac yn hyrwyddo amgylchedd dwyieithog gweledol yn swyddfeydd ac adeiladau'r Cyngor sy’n agored i’r cyhoedd. Arddangosir arwydd sy’n datgan (yn ddwyieithog) fod croeso i bersonau ddefnyddio’r
Gymraeg yn y dderbynfa a bydd staff yn y dderbynfa sy’n gallu darparu gwasanaeth derbynfa Cymraeg yn gwisgo bathodyn sy’n cyfleu hynny. (Safonau 67 a 68) (CI 4.6.2)
5.1.5 Mewn llecynnau arddangos, bydd y deunydd a arddangosir yn ddwyieithog. (CI 4.6.2)
5.2 Gohebiaeth
5.2.1 Bydd croeso i unrhyw un ohebu yn ysgrifenedig â'r Cyngor yn y Gymraeg neu'r Saesneg fel ei gilydd. Bydd yr ohebiaeth yn cael ei hateb gan y Cyngor yn iaith yr ohebiaeth wreiddiol a bydd llythyrau a anfonir gan y Cyngor, boed y rheiny yn Gymraeg neu yn Saesneg, yn cael eu llofnodi. Bydd llythyrau, ym mha iaith bynnag y bônt, yn cael eu hateb yn unol â'r targedau ateb llythyrau corfforaethol (o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y llythyr gwreiddiol neu o fewn targedau eraill y cytunwyd arnynt). (Safonau 1 a 6) (CI 4.2.1)
5.2.2 Pan fo'r Cyngor yn cychwyn gohebiaeth, gwneir hynny yn newis iaith y derbynnydd os yw hynny'n wybyddus ac, os nad ydyw, bydd yr ohebiaeth yn ddwyieithog. (Safon 5) (CI 4.2.2)
5.2.3 Pan fo swyddog yn cychwyn gohebiaeth gyda chorff cyhoeddus arall, anogir y swyddog i ohebu'n Gymraeg. (CI 4.2.2)
5.2.4 Gellir gohebu â chorff cyhoeddus y tu xxxxx i Gymru fodd bynnag yn iaith y wlad lle lleolir y xxxxx hwnnw yn unig. Xxx xxxx cyrff cyhoeddus a’u canolfannau yn Lloegr hefyd yn gwasanaethu Cymru. Mewn achosion o’r fath, anogir swyddogion y Cyngor hwn i ohebu’n Gymraeg gyda chyrff o’r fath. (CI 4.2.2)
5.2.5 Bydd unrhyw bapur newydd, cylchlythyrau neu lythyrau safonol a yrrir at y cyhoedd yn ddwyieithog. (Safonau 4 a 6) (CI 4.2.3)
5.2.6 Os bydd swyddog yn gohebu ag aelod o'r cyhoedd ar ôl siarad wyneb yn wyneb ag o/hi yn Gymraeg neu ar ôl siarad gydag o/hi dros y ffôn yn Gymraeg, bydd yr ohebiaeth honno yn Gymraeg oni bai fod yr aelod o’r cyhoedd yn dymuno derbyn gohebiaeth yn y Saesneg. (CI 4.2.4)
5.2.7 Bydd y Cyngor yn datgan –
(a) mewn gohebiaeth, a
(b) mewn cyhoeddiadau a hysbysiadau swyddogol sy’n gwahodd personau i anfon ymateb neu i anfon gohebiaeth ato,
ei fod yn croesawu cael gohebiaeth yn Gymraeg, y bydd yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi. (Safon 7)
5.2.8 Darperir geiriad ar gyfer cyflogeion fydd yn eu galluogi i gynnwys fersiwn Gymraeg o’u manylion cyswllt mewn negeseuon e-byst, ac i ddarparu
fersiwn Gymraeg o unrhyw neges sy’n hysbysu pobl eraill nad ydynt ar gael i ateb negeseuon ebost. (Safon 135)
5.2.9 Mewn achosion lle fo'r Cyngor yn defnyddio gwasanaeth postio uniongyrchol, bydd y testunau cysylltiedig yn ddwyieithog, gyda'r Gymraeg ar y chwith neu uwchben y Saesneg, pa ddiwyg bynnag sydd fwyaf perthnasol. Yn ogystal, bydd y ddwy iaith yn gyfartal o ran ffurf, maint, eglurder, amlygrwydd ac ansawdd. (CI 5.11)
5.2.10 Pan fydd swyddog Di-Gymraeg, neu swyddog ansicr ei Gymraeg, yn ymdrin â gohebiaeth Gymraeg bydd yn sicrhau cymorth cydweithiwr neu gyfieithwyr y Cyngor er mwyn ymateb yn Gymraeg i'r ohebiaeth. Oni ddefnyddir gwasanaeth y cyfieithwyr, defnyddir cydweithiwr sydd â Chymraeg ysgrifenedig o safon uchel. (CI 4.2.5)
5.2.11 Bydd Penaethiaid Gwasanaeth y Cyngor yn gyfrifol am sicrhau bod xxxx staff eu gwasanaethau yn ymwybodol o'r trefniadau hyn ac am hysbysu swyddogion Di-Gymraeg o'r ddarpariaeth sydd ar gael er mwyn gohebu yn Gymraeg h.y. oni allant lunio llythyr yn y Gymraeg eu hunain, dylent wneud trefniadau i'w gyfieithu i'r Gymraeg o fewn y gwasanaeth neu, os oes xxxxx, xxxx yr Uned gyfieithu i brawf- ddarllen y llythyr Cymraeg cyn ei anfon. (CI 4.2.6)
5.3 Ffonio
5.3.1 Bydd croeso i bobl siarad yn Gymraeg neu yn Saesneg wrth ffonio'r Cyngor. (Safon 10) (CI 4.3.2)
5.3.2 Bydd galwadau a dderbynnir i: unrhyw un o brif rifau ffôn y Cyngor,
unrhyw rifau llinell cymorth neu rif canolfan alwadau,
unrhyw rif llinell uniongyrchol
yn cael eu hateb yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn gyntaf. Trwy gychwyn y cyfarchiad yn Gymraeg, bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i’r xxxx xx’n galw bod gwasanaeth Gymraeg ar gael. Ni fydd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth gyfarch y galwr. (Safonau 8, 9 a 20) (CI 4.3.1)
5.3.3 Os bydd y xxxx xx'n galw yn siarad Cymraeg a'r swyddog sy'n ateb yn methu â chynnal y sgwrs yn Gymraeg ar ôl gwneud y cyfarchiad, dylai'r swyddog esbonio na all siarad Cymraeg a gofyn a ydyw'r galwr yn dymuno siarad hefo siaradwr Cymraeg. Os bydd y galwr yn dymuno siarad hefo siaradwr Cymraeg dylid trosglwyddo'r alwad i siaradwr Cymraeg a all ymdrin â'r mater, neu, onid oes neb ar gael, hysbysu'r galwr y bydd siaradwr Cymraeg yn ei ffonio'n ôl cyn gynted â phosibl. (Mewn achosion lle bo'r swyddog sy'n ateb galwad yn ddysgwr(aig), anogir y swyddog i ddefnyddio ac ymarfer ei G/Chymraeg). (Safonau 10, 17 ac 18) (CI 4.3.3)
5.3.4 Bydd negeseuon ar xxxx beiriannau ateb y Cyngor yn ddwyieithog, gyda'r neges Gymraeg yn gyntaf, ac yn rhoi gwybod i’r galwr fod modd gadael neges yn Gymraeg. (Safon 16) (CI 4.3.4; CI 5.1.2)
5.3.5 Bydd unrhyw system ffôn wedi ei hawtomeiddio sydd gan y Cyngor yn darparu’r gwasanaeth cyfan wedi ei awtomeiddio yn ddwyieithog. (Safon 22)
5.3.6 Pan fydd y Cyngor yn hysbysebu rhifau ffôn, llinellau cymorth neu wasanaethau canolfannau galwadau, ni fydd yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. (Safon 12)
5.3.7 Os bydd y Cyngor yn cynnig gwasanaeth Cymraeg ar ei brif rif ffôn (neu ar un o’i brif rifau ffôn), ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, bydd rhif ffôn y gwasanaeth Cymraeg yr un peth â rhif ffôn y gwasanaeth Saesneg cyfatebol. (Safon 13)
5.3.8 Pan fydd y Cyngor yn cyhoeddi ei brif rif ffôn, neu unrhyw rifau ar gyfer llinellau cymorth neu wasanaethau canolfannau galwadau, bydd yn nodi (yn Gymraeg) ei fod yn croesawu galwadau yn Gymraeg. (Safon 14)
5.3.9 Os oes gan y Cyngor ddangosyddion perfformiad ar gyfer xxxxx â galwadau ffôn, bydd yn sicrhau nad yw’r dangosyddion perfformiad hynny yn trin galwadau ffôn a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na galwadau a wneir yn Saesneg. (Safon 15)
5.3.10 Pan fydd y Cyngor yn ffonio unigolyn am y tro cyntaf, bydd yn sefydlu dewis iaith yr unigolyn ar y cychwyn.
5.4 Cyfarfodydd nad ydynt yn agored i’r cyhoedd yn gyffredinol
5.4.1 Os bydd y Cyngor yn gwahodd un person yn unig i gyfarfod (neu i gyfarfod i drafod mater sy’n ymwneud â llesiant y person), bydd y Cyngor yn:
(a) gofyn i’r unigolyn a yw’n dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, a
(b) os yw’r unigolyn yn hysbysu’r Cyngor ei (f)bod yn dymuno hynny,
cynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol). (Safonau 23 a 25)
5.4.2 Os bydd y Cyngor yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod (nad yw’n ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddir):
(a) bydd y Cyngor yn gofyn i xxx person a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, (Safon 27) ac,
(b) os yw o leiaf 10% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi hysbysu’r Cyngor eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, bydd yn trefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod. (Safon 27A)
(c) os yw pawb a gafodd wahoddiad wedi hysbysu’r Cyngor eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, cynhelir y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol). (Safon 27CH)
5.4.3 Os bydd y Cyngor yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod y cyfarfod hwnnw yn ymwneud â llesiant un neu ragor o’r unigolion a wahoddwyd, bydd y Cyngor yn:
(a) gofyn i’r unigolyn hwnnw neu i xxx un o’r unigolion hynny a yw’n dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, ac
(b) os yw’r unigolyn hwnnw, neu os yw pob un o’r unigolion hynny, yn hysbysu’r Cyngor ei fod yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, cynnal y cyfarfod hwnnw yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol). (Safon 28)
5.5 Cyfarfodydd sy’n agored i’r cyhoedd (yn cynnwys gwrandawiadau, ymholiadau ac achosion cyfreithiol eraill)
5.5.1 Anfonir gwahoddiadau i gyfarfodydd yn ddwyieithog a bydd croeso i staff y Cyngor a'r cyhoedd, mewn cyfarfodydd cyhoeddus a drefnir gan y Cyngor, siarad Cymraeg neu Saesneg yn ôl eu dymuniad gan y bydd y Cyngor yn cynnal y cyfarfodydd yn ddwyieithog. Defnyddir offer cyfieithu parhaol yn yr ystafelloedd hynny o eiddo'r Cyngor lle mae offer o'r fath, neu fel arall defnyddir offer cyfieithu symudol. Wrth ateb cwestiwn gan aelod o'r cyhoedd mewn cyfarfod o'r fath, bydd yr ymateb yn yr iaith y gofynnwyd y cwestiwn ynddi. (Safon 31) (CI 4.4.1)
5.5.2 Hysbysir y cyhoedd mewn cyfarfodydd o'r fath bod offer cyfieithu ar gael ac y bydd croeso iddynt ddefnyddio eu dewis iaith. Fodd bynnag y nod fydd gwneud cyfarfodydd dwyieithog yn norm fel na fydd angen cyhoeddiadau o'r fath. (Safon 32) (CI 4.4.2)
5.5.3 Mewn cyfarfodydd cyhoeddus gwneir pob ymdrech i sicrhau y bydd swyddogion sy'n gwasanaethu'r Cyngor yn swyddogion dwyieithog. Oni ellir trefnu hyn, defnyddir offer cyfieithu symudol y Cyngor i sicrhau y gall y rhai sy'n bresennol siarad yn eu dewis iaith. Gwneir pob ymdrech i sicrhau fod delwedd a gweinyddiaeth y cyfarfodydd yn ddwyieithog. (CI 4.4.3)
5.5.4 Yn achos cyfarfodydd o'r fath, bydd y xxxx xx'n gyfrifol am drefnu'r cyfarfod hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod neges yn cael ei chyfleu ar raglen, gwahoddiad, neu hysbyseb sydd ynglŷn â'r cyfarfod, i ddynodi y bydd gwasanaeth cyfieithu ar gyfer y Di-Gymraeg yn y cyfarfod. Bydd yn gyfrifoldeb ar Gadeirydd y cyfarfod i roi arweiniad ar y defnydd iaith ar gychwyn y cyfarfod. Bydd hyn yn dwyn pwysau oddi ar y swyddogion mewn cyfarfodydd o'r fath i gyfeirio at y gwasanaeth cyfieithu ac yn gwneud y drefn o gynnal cyfarfodydd dwyieithog yn un naturiol. (Safonau 30 a 33) (CI 4.4.4)
5.5.5 Os bydd y Cyngor yn arddangos unrhyw ddeunydd ysgrifenedig mewn cyfarfod a drefnwyd sy’n agored i’r cyhoedd, bydd yn sicrhau bod y deunydd hwnnw’n cael ei arddangos yn ddwyieithog, ac ni fydd unrhyw destun Cymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na’r testun Saesneg. (Safon 34)
5.6 Digwyddiadau cyhoeddus a drefnir neu a ariennir gan y Cyngor
5.6.1 Os bydd y Cyngor yn trefnu digwyddiad cyhoeddus, neu’n ariannu o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus, bydd yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg:
wrth hybu’r digwyddiad (er enghraifft, o ran y ffordd y mae’r digwyddiad yn cael ei hysbysebu neu y rhoddir cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad). (Safon 35)
yn y digwyddiad (er enghraifft, mewn perthynas â gwasanaethau a gynigir i bersonau sy’n bresennol yn y digwyddiad, mewn perthynas ag arwyddion a arddangosir yn y digwyddiad, ac mewn perthynas â chyhoeddiadau xxxx a wneir ynddo). (Safon 36)
5.7 Cyfarfodydd eraill
5.7.1 Bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau xxx amser y bydd staff sy'n dod i gysylltiad â'r cyhoedd, boed hynny yn y swyddfa, yn y cartref, ar safle ayyb, yn ddwyieithog. (CI 4.5.1)
5.7.2 Oni fydd hyn yn bosibl yn y swyddfa dylai'r swyddog Di-Gymraeg esbonio i'r aelod o'r cyhoedd xxx sylw na all siarad Cymraeg a gofyn a ydyw'n dymuno siarad hefo siaradwr Cymraeg. Os bydd yr aelod o'r cyhoedd yn dymuno siarad Cymraeg dylid nôl swyddog dwyieithog i ddelio gyda'r mater. (Mewn achosion o'r fath lle bo'r swyddog yn ddysgwr(aig), anogir y swyddog i ddefnyddio ac ymarfer ei G/Chymraeg). (CI 4.5.1)
5.7.3 Yn achos cyfarfodydd y tu xxxxx i adeiladau'r Cyngor e.e. cyfarfodydd yng nghartrefi aelodau o'r cyhoedd neu gyfarfodydd yn y xxxx, gwneir trefniadau i sicrhau mai swyddog dwyieithog fydd yn mynd i’r cyfarfod. Os bydd y Cyngor yn ymwybodol o ddewis iaith y cwsmer ymlaen llaw, bydd gallu ieithyddol y swyddog yn adlewyrchu hynny. (CI 4.5.2)
5.8 Gwefannau, gwasanaethau ar-lein a’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol
5.8.1 Bydd unrhyw gysylltiadau â’r cyhoedd trwy gyfrwng cyfrifiadurol e.e. gwefan y Cyngor, gwasanaethau ar-lein, e-xxxx, sgriniau cyffwrdd, systemau xxxx cyhoeddus, offer fideo gynadledda, rhwydweithiau cymdeithasol (megis facebook, twitter ayyb) yn cydymffurfio gyda’r ddarpariaeth xxx ‘Gohebiaeth’ uchod. (Safon 58 a 59) (CI 4.6.1)
5.8.2 Bydd unrhyw ddeunydd neu wybodaeth a roddir ar wefan y Cyngor yn gwbl ddwyieithog, xxxx xxxxx iaith ar y dudalen agoriadol, ac ni fydd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg ar wefan y Cyngor. (Safon 52 a 56) (CI 4.6.1)
5.8.3 Lle mae tudalen Gymraeg sy’n cyfateb i dudalen Saesneg ar wefan y Cyngor, nodir yn glir ar y dudalen Saesneg bod y dudalen hefyd ar gael yn Gymraeg, a darperir xxxxx uniongyrchol at y dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg cyfatebol. (Safon 55)
5.8.4 Bydd pob ap y mae’r Cyngor yn ei gyhoeddi yn gweithredu’n llawn yn ddwyieithog, ac ni fydd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran yr ap hwnnw. (Safon 57)
5.9 Peiriannau Hunanwasanaeth
5.9.1 Bydd y Cyngor yn sicrhau bod unrhyw beiriannau hunanwasanaeth sydd ganddo yn gweithio’n llawn yn ddwyieithog, ac ni fydd yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â’r peiriant hwnnw. (Safon 60 ERBYN MEDI 2016)
6.0 Wyneb cyhoeddus y Cyngor
6.1 Hunaniaeth Gorfforaethol
6.1.1 Bydd wyneb cyhoeddus a hunaniaeth gorfforaethol y Cyngor yn gwbl ddwyieithog ac ni fydd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. (Safon 83) (CI 5.1.1)
6.1.2 Bydd hyn yn cynnwys enw'r Cyngor a'i wasanaethau, a'i xxxx gyfeiriadau perthnasol, ei logo, ei slogan corfforaethol, papur pennawd, cyhoeddiadau a'i xxxx ddeunydd ysgrifenedig cyhoeddus boed hwnnw ar ffurf adroddiad, arwydd, ffurflen, hysbysiad, rhybudd neu ysgrifen ar adeilad, cerbyd neu beiriant o eiddo'r Cyngor. (CI 5.1.2)
6.1.3 Yn achos arwyddeiriau megis "Môn Mam Cymru", ni fyddant yn cael eu cyfieithu. (CI 5.1.3)
6.2 Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg a ddarperir gan y Cyngor
6.2.1 Bydd y Cyngor yn hybu unrhyw wasanaeth Cymraeg a ddarperir ganddo, a hysbysebu’r gwasanaeth hwnnw yn ddwyieithog. (Safon 81)
6.2.2 Bydd unrhyw gyhoeddusrwydd neu ddogfen y mae’r Cyngor yn ei llunio, neu wefan y mae’n ei chyhoeddi, sy’n cyfeirio at y gwasanaeth Saesneg yn nodi bod gwasanaeth cyfatebol ar gael yn Gymraeg. (Safon 82)
6.3 Arwyddion
6.3.1 Bydd xxxx arwyddion mewnol ac allanol y Cyngor (gan gynnwys arwyddion/ marciau ffyrdd) yn gwbl ddwyieithog. (CI 5.2.1)
6.3.2 Bydd y testun Cymraeg ar arwyddion yn gywir o ran ystyr a mynegiant. (Safon 63)
6.3.3 Pan fydd y Gymraeg a'r Saesneg yn ymddangos gyda'i gilydd ar arwyddion byddant yn gyfartal o ran ffurf, maint, eglurder, amlygrwydd ac ansawdd, a bydd y Gymraeg xxxxx xx uwchben y Saesneg, neu os ydyw'r ddwy iaith yn gyfochrog ar y chwith. Os bydd yn rhaid eu darparu ar wahân, byddant yn gyfartal o ran ffurf, maint, eglurder, amlygrwydd ac ansawdd a bydd yr arwydd Cymraeg un ai uwchben yr un Saesneg neu os byddant ochr yn ochr, ar y chwith. (Safon 61 a 62) (CI 5.2.3)
6.3.4 Cyn bo ceisiadau cynllunio am arwyddion yn cael eu caniatáu, anogir y sawl a fydd yn holi am fanylion cyflwyno cais cynllunio i osod arwydd(ion) dwyieithog ac yn unol â hyn bydd y Gwasanaeth Cynllunio yn cynnwys 'Cymorth Dylunio' i'r ymgeisydd, sef taflen fer sy'n rhoi cymorth a chyngor iddo/i gynllunio a chyfieithu arwydd. Bydd y daflen hon yn ddwyieithog. (CI 5.2.4)
6.3.5 Pan fydd y Cyngor yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd yn ei weithle (gan gynnwys arwyddion dros dro), bydd unrhyw destun sy’n cael ei arddangos ar yr arwydd yn cael ei arddangos yn Gymraeg (pa un ai ar yr un arwydd sy’n arddangos y testun Saesneg cyfatebol neu ar arwydd ar wahân), ac ni fydd y testun Cymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na’r testun Saesneg. (Safon 141)
6.3.6 Pan fydd y Cyngor yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd yn ei weithle (gan gynnwys arwyddion dros dro), a bod yr arwydd hwnnw’n cyfleu'r un wybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhoddir y testun Cymraeg mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf. (Safon 142)
6.3.7 Bydd y Cyngor yn sicrhau bod y testun Cymraeg ar arwyddion a arddangosir yn ei weithle yn gywir o ran ystyr a mynegiant. (Safon 143)
6.4 Enwau lleoedd
6.4.1 Bydd y Cyngor yn arddel y fersiwn Gymraeg yn unig o enwau lleoedd, afonydd, mynyddoedd ayyb, ac ar sefydliadau'r Cyngor heblaw mewn achosion lle mae'r Cyngor wedi cydnabod fersiwn Saesneg swyddogol. (CI 5.2.2)
6.4.2 Lle cydnabyddir fersiwn Saesneg swyddogol dylid ei defnyddio mewn cyd- destun Saesneg yn unig. (CI 5.2.2)
6.4.3 Lle enwir strydoedd neu ystadau newydd, bydd yr enwau newydd yn cael eu seilio ar enwau cynhenid, hanesyddol yr ardal yn Gymraeg. Pan fo'n rhaid bathu enw newydd, gwneir hynny'n Gymraeg yn unig. (CI 5.2.2) Mae’r Polisi ar Enwi a Rhifo Strydoedd a Thai yn amlinellu pwerau’r Cyngor Sir mewn perthynas ag enwi a rhifo strydoedd ac annog ymarfer da yn ogystal â darparu arweiniad i ddatblygwyr a phreswylwyr ar enwi a rhifo strydoedd a thai o fewn y sir – xxxx://xxx.xxxxxxx.xxx.xx/xxxxxxxxxxxx-x-xxxxxx/xxxxxx- priffyrdd-a-phalmentydd/enwi-strydoedd-a-rhifo-eiddo/
6.5 Systemau annerch cyhoeddus a negeseuon xxxx
6.5.1 Pan fydd y Cyngor yn cyhoeddi neges dros system annerch gyhoeddus, gwneir y cyhoeddiad hwnnw yn ddwyieithog gyda chyhoeddiad yn Gymraeg yn gyntaf. (Safon 87)
6.5.2 Pan fydd y Cyngor yn gwneud cyhoeddiadau dros offer xxxx yn ei weithle, bydd y cyhoeddiad hwnnw gael ei wneud yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn gyntaf. (Safon 144)
6.6 Cyhoeddi, argraffu ac arddangos deunydd cyhoeddus
6.6.1 Bydd unrhyw ddeunydd cyhoeddus neu ddeunydd hysbysebu a gyhoeddir gan y Cyngor, yn gwbl ddwyieithog. Bydd hyn yn cynnwys adroddiadau, cofnodion, ffurflenni, polisïau, is-ddeddfau ayyb. (Safonau 37 a 38) (CI 5.3.1)
6.6.2 Bydd hyn hefyd yn cynnwys deunydd cyrff a chwmnïau eraill a fydd o dro i dro yn cael ei arddangos yn adeiladau'r Cyngor. (CI 5.3.1)
6.6.3 Bydd deunydd printiedig yn cael ei gyhoeddi'n ddwyieithog ar yr un ddalen neu yn yr un ddogfen (fel y bo'n briodol), ac yn gyfochrog, gyda'r Gymraeg ar y chwith a'r Saesneg ar y dde. (CI 5.3.2)
6.6.4 Lle nad ydyw'n bosibl neu'n ymarferol cyhoeddi deunydd printiedig yn y ddwy iaith ar yr un ddalen neu yn yr un ddogfen, bydd y ddwy iaith yn gyfartal o ran ffurf, maint, eglurder, amlygrwydd ac ansawdd, ac yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd a bydd hi'r un mor hawdd i xxxx xxxx o'r testun yn y xxxxx iaith xxx'r llall. Bydd y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir bod y ddogfen hefyd ar gael yn Gymraeg yn ogystal â datganiad i’r gwrthwyneb. (Safon 49) (CI 5.3.2)
fersiwn hygyrch yn cael ei chyhoeddi hefyd. (CI 5.3.2)
6.6.6 Bydd deunydd arddangos cysylltiol mewn perthynas ag arddangosfeydd, cynadleddau a seminarau yn ddwyieithog xxx amser gyda'r Gymraeg ar y chwith neu uwchben y Saesneg, pa ddiwyg bynnag sydd fwyaf perthnasol. Yn ogystal, bydd y ddwy iaith yn gyfartal o ran ffurf, maint, eglurder, amlygrwydd ac ansawdd. (CI 5.10)
6.7 Taflenni, llyfrynnau, ffurflenni a deunydd esboniadol
6.7.1 Bydd unrhyw daflenni, llyfrynnau, ffurflenni a deunydd esboniadol a lunnir at ddefnydd y cyhoedd yn gwbl ddwyieithog. (Safonau 40 a 50) (CI 5.4.1)
6.7.2 Bydd deunydd printiedig o'r fath yn cael ei gyhoeddi'n ddwyieithog ar yr un ddalen neu yn yr un ddogfen (fel y bo'n briodol), yn gyfochrog, gyda'r Gymraeg ar y chwith a'r Saesneg ar y dde. (CI 5.4.2)
6.7.3 Pan fydd y Cyngor yn llunio dogfen neu ffurflen yn y Gymraeg ac yn Saesneg (pa un ai ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio), bydd y ddwy iaith yn gyfartal o ran ffurf, maint, eglurder, amlygrwydd ac ansawdd, ac yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd a bydd hi'r un mor hawdd i xxxx xxxx o'r testun yn y xxxxx iaith xxx'r llall. (Safonau 48, 49) (CI 5.4.2)
6.7.4 Lle nad ydyw'n bosibl neu'n ymarferol cyhoeddi taflenni, llyfrynnau, ffurflenni a deunydd esboniadol yn y ddwy iaith ar yr un ddalen neu yn yr un ddogfen, bydd y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir bod y ddogfen hefyd ar gael yn
Gymraeg yn ogystal â datganiad i’r gwrthwyneb. (Safon 50A)
6.7.5 Os bydd y Cyngor yn llunio ffurflen yn y Gymraeg ac yn Saesneg (pa un ai ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio), ni fydd yn gwahaniaethu rhyngddynt o ran unrhyw ofynion sy’n berthnasol i’r ffurflen (er enghraifft mewn perthynas ag unrhyw ddyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen neu mewn perthynas â’r amser a ganiateir ar gyfer ymateb i gynnwys y ffurflen) (Safon 50B)
6.7.6 Os bydd y cyngor yn mewnosod gwybodaeth ar fersiwn Gymraeg o ffurflen (er enghraifft, cyn xx xxxxxx at aelod o’r cyhoedd er mwyn iddo wirio’r cynnwys xxx xx mwyn iddo lenwi gweddill y ffurflen), sicrheir bod yr wybodaeth y mewnosodir yn cael ei mewnosod yn Gymraeg. (Safon 51)
6.7.7 Gall ffurflenni neu ddeunydd esboniadol fod yn rhan o'r prif destun neu ar wahân. Os bydd ar wahân, rhaid sicrhau y bydd ar gael ar yr un pryd a'r prif destun. (CI 5.4.3)
fersiwn hygyrch yn cael ei chyhoeddi hefyd. (CI 5.4.2)
6.7.9 Mae'r Cyngor yn cynhyrchu Llyfryn Twristiaeth Ynys Môn fel rhan o'i strategaeth i farchnata'r awdurdod lleol a'i bartneriaid i gynyddu'r nifer o ymwelwyr i'r Ynys ac i roi gwybodaeth ddefnyddiol a pherthnasol iddynt am yr hyn sydd gan Ynys Môn i'w gynnig. Bydd pob llawlyfr a thaflen sy'n darparu gwybodaeth dwristiaeth fanwl, ac sy'n cael eu cylchredeg trwy Ogledd Cymru, yn cael eu cynhyrchu'n ddwyieithog. (CI 5.4.4)
6.8 Datganiadau i’r wasg a’r cyfryngau
6.8.1 Bydd pob datganiad gan y Cyngor i'r wasg neu i'r cyfryngau yn gwbl ddwyieithog. (CI 5.5.1)
6.8.2 Bydd cysylltiadau â'r wasg neu'r cyfryngau yn Gymraeg neu'n Saesneg, gan ddibynnu ar iaith y gohebydd perthnasol. Oni fydd swyddog yn gwybod am allu ieithyddol gohebwyr dylai gysylltu trwy ohebiaeth ddwyieithog. (CI 5.5.2; CI 5.6.4)
6.9 Hysbysebu a Chyhoeddusrwydd
6.9.1 Bydd ymgyrchoedd hysbysebu a chyhoeddusrwydd y Cyngor yn rhai cwbl ddwyieithog ym mha bynnag ffurf y bo e.e. datganiadau, taflenni, posteri, rhybuddion ayyb. (CI 5.6.1)
6.9.2 Bydd y fersiwn Gymraeg uwchben y fersiwn Saesneg, neu lle bo'r testun yn gyfochrog, bydd y fersiwn Gymraeg ar y chwith, a byddant yn gyfartal o ran ffurf, maint, eglurder, amlygrwydd ac ansawdd, boed hynny yn y wasg, ar hysbysfyrddau neu fel arall. (CI 5.6.2)
6.9.3 Yr unig eithriad fydd yn achos rhaglenni radio neu deledu. Bydd iaith yr hysbyseb yn dibynnu ar y sianel xxx sylw. Yn achos sianelau a dderbynnir yng Nghymru (boed y rheiny drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg), bydd hysbysebion yn ddwyieithog. Ar y llaw arall, yn achos sianelau a dderbynnir yn Lloegr yn bennaf, bydd unrhyw hysbysebion a ddarlledir arnynt yn Saesneg yn unig. (CI 5.6.3)
6.10 Hysbysiadau Cyhoeddus a Hysbysiadau Swyddogol
6.10.1 Bydd hysbysiadau cyhoeddus swyddogol y Cyngor yn rhai cwbl ddwyieithog ar ffurf gyfochrog gyda'r testun Cymraeg ar y chwith. Lle na fydd hyn yn ymarferol, bydd un testun uwchben y llall gyda'r Gymraeg uchaf. Ymhob achos fodd bynnag, bydd y testunau yn gyfartal o ran ffurf, maint, eglurder, amlygrwydd ac ansawdd, boed hynny yn y wasg, ar hysbysfyrddau neu fel arall. (Safonau 69 a 70) (CI 5.7)
6.10.2 Mae’n bwysig nodi nad yw meddalwedd darllen sgrin yn gallu darllen testun mewn modd rhesymegol pan mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn ymddangos yn gyfochrog ar yr un dudalen. Y rheswm am hyn yw bod y meddalwedd yn darllen o’r chwith i’r dde ar draws y dudalen. Os yw’r Gymraeg a’r Saesneg yn ymddangos ar yr un dudalen mewn deunydd electronig, dylid sicrhau bod fersiwn hygyrch yn cael ei chyhoeddi hefyd. (CI 5.7)
6.11 Deunydd gweledol a chlywedol electronig
6.11.1 Bydd deunydd gweledol a chlywedol electronig sy'n gysylltiedig â gwasanaethu'r cyhoedd un ai yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn gyntaf, neu yn Gymraeg a Saesneg ar wahân (pa un bynnag sydd yn briodol). Bydd y xxxxx iaith xxx'r llall ar gael xxx amser xxxx bynnag fo iaith y gynulleidfa. Pan fo'r gynulleidfa yn ddwyieithog, dylid defnyddio'r ddwy iaith gan ddefnyddio'r Gymraeg yn gyntaf. (CI 5.9)
6.12 Gwaith marchnata
6.12.1 Bydd unrhyw ymgyrchoedd marchnata a gynhelir gan, neu ar ran y Cyngor yn rhai cwbl ddwyieithog (ac eithrio rhai ymgyrchoedd y tu xxxxx i Gymru i ddenu mewnfuddsoddiad neu dwristiaid). (CI 5.13)
6.12.2 Golyga hyn y bydd unrhyw waith hysbysebu, cyhoeddi, ymchwil yn gwbl ddwyieithog, ac yn achos arolygon ymchwil, bydd y Cyngor yn sicrhau y bydd staff a fydd yn dod i gysylltiad â’r cyhoedd, byddent nhw yn uniongyrchol gyflogedig gan y Cyngor, neu o gwmni/xxxxx allanol trwy
gytundeb, yn ddwyieithog, ac yn cynnwys gwasanaeth cwbl ddwyieithog i’r cyhoedd e.e. wrth gwblhau holiaduron. Yn ogystal, cynigir unrhyw gyfweliad yn Gymraeg neu Saesneg. Gallai arolygon hefyd fod yn ceisio barn siaradwyr Cymraeg yn benodol, er mwyn cael darlun o safon ac amrediad y gwasanaeth Cymraeg. (CI 5.13)
6.13 Hysbysebion Swyddi
6.13.1 Bydd hysbysebion ar gyfer swyddi yn gwbl ddwyieithog, ynghyd â’r deunydd atodol a nodir isod. Bydd hysbysebion yn cynnwys datganiad y caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ni fydd fersiynau Cymraeg o’r dogfennau a nodir isod yn cael eu trin yn llai ffafriol nag unrhyw fersiynau Saesneg. (Mae hyn yn cynnwys hysbysebion yn y wasg Saesneg yng Nghymru ac mewn cylchgronau neu bapurau newydd yn Lloegr): (CI 5.8)
(a) ffurflenni cais am swyddi;
(b) deunydd esboniadol ynghylch y broses ar gyfer ymgeisio am swyddi;
(c) gwybodaeth am y broses gyfweld, neu am unrhyw ddulliau asesu eraill wrth ymgeisio am swyddi;
(ch) swydd-ddisgrifiadau (Safonau 136A rhannol, 137 a 137A)
6.13.2 Bydd hysbysebion printiedig o'r fath yn gyfochrog gyda'r Gymraeg ar y chwith. Lle na fydd hyn yn ymarferol, bydd un testun uwchben y llall gyda'r Gymraeg uchaf. Ymhob achos fodd bynnag, bydd y testunau yn gyfartal o ran ffurf, maint, eglurder, amlygrwydd ac ansawdd, boed hynny yn y wasg, ar hysbysfyrddau neu fel arall. (Safon 137A) (CI 5.8)
6.13.3 Mae’n bwysig nodi nad yw meddalwedd darllen sgrin yn gallu darllen testun mewn modd rhesymegol pan mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn ymddangos yn gyfochrog ar yr un dudalen. Y rheswm am hyn yw bod y meddalwedd yn darllen o’r chwith i’r dde ar draws y dudalen. Os yw’r Gymraeg a’r Saesneg yn ymddangos ar yr un dudalen mewn deunydd electronig, dylid sicrhau bod fersiwn hygyrch yn cael ei chyhoeddi hefyd. (CI 5.8)
6.13.4 Yn achos swyddi mewn ysgolion, cyfrifoldeb y llywodraethwyr yw hysbysebu’r swyddi hynny a mater iddynt hwy yw penderfynu ar natur, cost a chynnwys yr hysbysebion ond disgwylir i’r Xxxxx Llywodraethol weithredu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor. Hysbysebir yn ddwyieithog ar y we ac yn y wasg. (CI 5.8 – diwygiedig)
6.13.5 Bydd hysbysebion mewn papurau/cylchgronau Cymraeg eu hiaith yn Gymraeg yn unig. (CI 5.8)
7.0 Gweithredu’r Polisi
7.1 Staffio
7.1.1 Pan fydd y Cyngor yn cynnig swydd newydd i unigolyn, bydd yn gofyn i’r unigolyn hwnnw a yw’n dymuno i’r contract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau gael ei ddarparu yn Gymraeg; ac os yw’r unigolyn yn dymuno hynny bydd yn darparu’r contract yn Gymraeg. (Safon 99)
7.1.2 Bydd y Cyngor yn –
(a) gofyn i xxx cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ohebiaeth bapur sy’n ymwneud â’i gyflogaeth, ac sydd wedi ei chyfeirio ato’n bersonol, yn Gymraeg, a
(b) os yw cyflogai yn dymuno hynny,
darparu unrhyw ohebiaeth o’r xxxx xxxx yn Gymraeg. (Safon 100)
7.1.3 Bydd y Cyngor yn gofyn i xxx cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu anghenion neu ofynion ei hyfforddiant yn
Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny bydd yn darparu unrhyw ddogfennau o’r xxxx xxxx yn Gymraeg. (Safon 101)
7.1.4 Bydd y Cyngor yn gofyn i xxx cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu ei amcanion perfformiad yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny bydd yn darparu unrhyw ddogfennau o’r xxxx xxxx yn Gymraeg. (Safon 102)
7.1.5 Bydd y Cyngor yn gofyn i xxx cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu neu’n cofnodi ei gynllun gyrfa yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny bydd yn darparu unrhyw ddogfennau o’r xxxx xxxx yn Gymraeg. (Safon 103)
7.1.6 Bydd y Cyngor yn gofyn i xxx cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw
ffurflenni sy’n cofnodi ac yn awdurdodi gwyliau, absenoldebau o’r gwaith, ac oriau gwaith hyblyg, yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny bydd yn darparu unrhyw ffurflenni o’r xxxx xxxx yn Gymraeg. (Safon 104)
7.1.7 Os bydd y Cyngor yn cyhoeddi unrhyw bolisïau, gan gynnwys y materion isod, fe’u cyhoeddir yn ddwyieithog:
Ymddygiad yn y gweithle (Safon 105) Iechyd a lles yn y gweithle (Safon 106)
Cyflogau neu fuddion yn y gweithle (Safon 107) Rheoli perfformiad (Safon 108)
Absenoldeb o’r gwaith (Safon 109) Amodau gwaith (Safon 110) Patrymau gwaith (Safon 111)
7.2 Cwynion a wneir gan aelod o staff y Cyngor
7.2.1 Bydd y Cyngor yn caniatáu i xxx aelod o’i staff wneud cwynion yn Gymraeg, ac ymateb i unrhyw xxxx a wnaed amdano ef yn Gymraeg. (Safon 112)
7.2.2 Bydd y Cyngor yn datgan mewn unrhyw ddogfen sydd ganddo sy’n nodi ei weithdrefnau ar gyfer gwneud cwynion y caiff pob aelod o staff wneud cwyn iddo yn Gymraeg, ac ymateb i xxxx a wnaed amdano xx xxx hi yn Gymraeg; a bydd yn rhoi gwybod i xxx aelod o staff am yr hawl honno. (Safon 112A)
7.2.3 Os bydd y Cyngor yn cael cwyn gan aelod o staff neu’n cael cwyn ynghylch aelod o staff, a bod angen cyfarfod â’r aelod hwnnw o staff, bydd yn cynnig cynnal y cyfarfod yn Gymraeg ac, os yw’r aelod o staff yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, cynhelir y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol). (Safon 113)
7.2.4 Pan fydd y Cyngor yn rhoi gwybod i aelod o staff xxxx yw’r penderfyniad mewn perthynas â chŵyn a wneir gan yr aelod hwnnw, neu mewn perthynas â chŵyn a wneir amdano xx xxx hi, bydd yn gwneud hynny yn Gymraeg os yw’r aelod hwnnw o staff –
(a) wedi gwneud y xxxx yn Gymraeg,
(b) wedi ymateb yn Gymraeg i xxxx amdano xx xxx hi,
(c) wedi gofyn bod cyfarfod ynglŷn â’r xxxx yn xxxx xx gynnal yn Gymraeg, neu
(ch) wedi gofyn am gael defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfod ynglŷn â’r xxxx. (Xxxxx 115)
7.3 Disgyblu staff
7.3.1 Bydd y Cyngor yn caniatáu i xxx aelod o staff ymateb yn Gymraeg i honiadau a wneir yn ei erbyn mewn unrhyw broses ddisgyblu fewnol. (Safon 116)
7.3.2 Bydd y Cyngor yn datgan mewn unrhyw ddogfen sydd ganddo sy’n nodi trefniadau’r Cyngor ar gyfer disgyblu staff y caiff unrhyw aelod o staff ymateb yn Gymraeg i unrhyw honiadau a wneir yn ei erbyn ac, os bydd yn dechrau gweithdrefn ddisgyblu mewn perthynas ag aelod o staff, rhoi gwybod i’r aelod hwnnw o staff am yr hawl honno. (Safon 116A)
7.3.3 Os bydd y Cyngor yn trefnu cyfarfod ag aelod o staff ynghylch achos disgyblu mewn perthynas â’i ymddygiad, bydd yn cynnig cynnal y cyfarfod yn Gymraeg ac, os yw’r aelod o staff yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, cynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol). (Safon 117)
7.3.4 Pan fydd y Cyngor yn rhoi gwybod i aelod o staff xxxx yw’r penderfyniad yn dilyn proses ddisgyblu, bydd yn gwneud hynny yn Gymraeg os yw’r aelod hwnnw o staff wedi ymateb i honiadau yn ei erbyn yn Gymraeg, wedi gofyn bod cyfarfod ynglŷn â’r broses ddisgyblu yn cael ei gynnal yn Gymraeg, neu wedi gofyn am gael defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfod ynglŷn â’r broses ddisgyblu. (Safon 119)
7.4 Technoleg gwybodaeth a deunyddiau cymorth a ddarperir gan y Cyngor, a’r fewnrwyd
7.4.1 Bydd y Cyngor yn darparu meddalwedd gyfrifiadurol ar gyfer gwirio sillafu a gramadeg y Gymraeg i’n staff, a darparu rhyngwynebau Cymraeg ar gyfer meddalwedd (pan fo rhyngwyneb ar gael). (Safon 120)
7.4.2 Bydd y Cyngor yn sicrhau –
(a) bod testun pob tudalen ar ei fewnrwyd ar gael yn Gymraeg,
(b) bod pob tudalen Gymraeg ar ei fewnrwyd yn gweithredu’n llawn, ac
(c) nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg ar ei fewnrwyd. (Safon 121 – ERBYN MEDI 2016)
7.4.3 Lle xxx xxx y Cyngor dudalen Gymraeg ar ein mewnrwyd sy’n cyfateb i dudalen Saesneg, bydd yn nodi’n glir ar y dudalen Saesneg bod y dudalen hefyd ar gael yn Gymraeg, a bydd yn darparu xxxxx uniongyrchol i’r dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg cyfatebol. (Safon 124)
7.4.4 Bydd y Cyngor yn neilltuo a chynnal tudalen (neu dudalennau) ar ei fewnrwyd sy’n darparu gwasanaethau a deunydd cymorth i hybu’r Gymraeg ac i gynorthwyo xxxx staff i ddefnyddio’r Gymraeg. (Safon 125)
7.4.5 Bydd y Cyngor darparu’r rhyngwyneb a’r dewislenni ar ei dudalennau mewnrwyd yn ddwyieithog. (Safon 126)
7.5 Meithrin sgiliau yn y Gymraeg drwy gynllunio a hyfforddi gweithlu
7.5.1 Er mwyn gallu sicrhau nad ydym yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, bydd y Cyngor yn mabwysiadu Strategaeth Sgiliau Ieithyddol er mwyn sicrhau bod y swyddogion hynny y mae'n rhesymol disgwyl iddynt ddelio gyda'r cyhoedd yn medru gwneud hynny yn newis iaith y cyhoedd. (CI 6.1.1)
7.5.2 Bydd y Cyngor yn sicrhau y bydd gweithleoedd o fewn yr awdurdod, sydd â chysylltiad â'r cyhoedd, yn cynnwys swyddog(ion) dwyieithog digonol (gan gynnwys dysgwyr sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg hyd at lefel sydd yn dderbyniol i ofynion y swydd), fel bod gwasanaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg ar gael i'r cyhoedd. (CI 6.1.1)
7.5.3 Mae’r broses Adolygu Perfformiad yn darparu asesiad blynyddol o
feistrolaeth ar iaith pob aelod o’r staff ynghyd ag unrhyw anghenion datblygu. (Safon 127) (CI 6.1.1)
7.5.4 Bydd rhai swyddi lle na fydd eu deiliaid yn dod i gysylltiad â'r cyhoedd. Serch hynny, oherwydd natur rhai o'r swyddi hyn, bydd gofyn i'r deiliaid fod â sgiliau dwyieithog fydd yn amrywio o swydd i swydd. Yn achos rhai swyddi eraill, lle na fydd y swyddogion yn dod i gysylltiad â'r cyhoedd a lle na fydd y gallu i siarad Cymraeg yn sgil hanfodol ar gyfer y swydd, bydd y swyddogion hynny yn cael eu hannog i ddysgu Cymraeg er mwyn hwyluso'r cydweithio gyda staff o fewn eu hunedau/gwasanaethau, a rhwng gwasanaethau yn gyffredinol. (CI 6.1.2)
7.5.5 Bydd y Cyngor yn dynodi pa sgiliau ieithyddol llafar ac ysgrifenedig sydd eu xxxxxx ar gyfer pob swydd. Bydd y gofynion hyn yn unigryw ar gyfer pob swydd ac yn nodi'r hyfedredd sydd xx xxxxx ar xxxxx xx yn ysgrifenedig ar gyfer pob swydd a bydd y wybodaeth hon yn cael ei chynnwys wrth hysbysebu unrhyw swydd yn y dyfodol, ac yn cael ei chofnodi'n ganolog ar sail penodiadau. (CI 6.1.3)
7.5.6 Bydd angen i xxx Pennaeth Gwasanaeth ystyried yn ofalus natur a dyletswyddau'r swyddi unigol sydd o fewn eu cyfrifoldebau a phennu pa sgiliau ieithyddol sydd eu xxxxxx ar gyfer pob swydd a balans ieithyddol y xxx. Dylid cyflwyno’r wybodaeth honno i’w hystyried gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ac i’w chymeradwyo gan y pwyllgor gweithredol. (CI 6.1.4)
7.5.7 Cydnabyddir fod cynllunio ieithyddol yn bwysig ynghyd â chael cyfundrefn o fonitro faint o siaradwyr Cymraeg sydd o fewn y sefydliad. Bydd y Cyngor yn asesu sgiliau Cymraeg ei gyflogeion. (Safon 127) (CI 6.1.4)
7.5.8 Bydd y Cyngor yn darparu hyfforddiant yn Gymraeg yn y meysydd a ganlyn, os y darperir hyfforddiant o’r fath yn Saesneg –
(a) recriwtio a chyfweld;
(b) rheoli perfformiad;
(c) gweithdrefnau cwyno a disgyblu; (ch) ymsefydlu;
(d) xxxxx â’r cyhoedd; ac
(dd) iechyd a diogelwch. (Safon 128)
7.5.9 Bydd y Cyngor yn darparu hyfforddiant (yn Gymraeg) ar ddefnyddio’r Gymraeg yn effeithiol mewn cyfarfodydd; cyfweliadau; a gweithdrefnau cwyno a disgyblu. (Safon 129)
7.5.10 Darperir cyfleoedd yn ystod oriau gwaith i gyflogeion gael gwersi Cymraeg sylfaenol, ac i gyflogeion sy’n rheoli pobl eraill gael hyfforddiant ar
ddefnyddio’r Gymraeg yn eu rôl fel rheolwyr. (Safon 130)
7.5.11 Darperir cyfleoedd i gyflogeion sydd wedi cwblhau hyfforddiant Cymraeg sylfaenol gael hyfforddiant pellach yn rhad ac am ddim er mwyn datblygu eu sgiliau yn yr iaith. (Safon 131)
7.5.12Darperir cyrsiau hyfforddi er mwyn i gyflogeion ddatblygu –
(a) ymwybyddiaeth o’r Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth am xxxxx yr iaith a’i lle yn niwylliant Cymru);
(b) dealltwriaeth o’r ddyletswydd i weithredu yn unol â safonau’r Gymraeg;
(c) dealltwriaeth am y modd y gellir defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. (Safon 132)
7.5.13 Nod y Cyngor yw darparu cyrsiau addas ar xxx xxxxx i gryfhau sgiliau ieithyddol y staff er mwyn gwireddu'r polisi hwn. Mae'r Strategaeth Hyfforddiant Iaith yn rhan allweddol o gyfundrefn datblygiad personol y Cyngor. (CI 6.2.1)
7.5.14 Rhoddir anogaeth gref i xxx swyddog o fewn y Cyngor ddysgu neu wella’i Gymraeg. Bydd y math o gwrs a gynigir yn fater i'r Cyngor ei drafod gyda'r swyddog xxx sylw. Xxxx amrywio o gyrsiau ar gyfer dechreuwyr pur i gyrsiau gloywi ysgrifenedig i'r rheiny sy'n rhugl yn y Gymraeg ar xxxxx/ysgrifenedig. (CI 6.2.1)
7.5.15 Rhoddir blaenoriaeth i'r swyddogion hynny y mae'n ofynnol iddynt fod â hyfedredd yn y Gymraeg er mwyn cydymffurfio â'u disgrifiad swydd xxx xxxx cyflogi, a hefyd i ddechreuwyr sydd yn dod i gysylltiad â'r cyhoedd. (CI 6.2.2)
7.5.16 Darperir cyrsiau addas ar gyfer staff ynghyd â chefnogaeth yn y gweithle. (CI 6.2.3)
7.5.17 Darperir hyfforddiant Cymraeg i ddysgwyr/a rhai xxxx xxxxx gloywi yn unol â Strategaeth Hyfforddiant Cymraeg y Cyngor a fydd, ymysg pethau eraill, yn:
• asesu anghenion dysgwyr a’r rheini xxxx xxxxx gloywi ac yn gosod targedau iddynt;
• monitro cyrhaeddiad dysgwyr a’r rheini xxxx xxxxx gloywi;
• galluogi staff i weithio yn eu dewis iaith ar xxxxx xxx yn ysgrifenedig;
• cynyddu sgiliau llafar ac ysgrifenedig staff dwyieithog. (CI 6.2.4)
7.5.18 Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol fydd yn gyfrifol am arolygu'r darpariaethau dysgu Cymraeg. (CI 6.2.5)
7.5.19 Darperir hyfforddiant arbenigol hefyd mewn meysydd penodol sydd yn berthnasol i waith y Cyngor. (CI 6.2.6)
7.5.20 Sicrheir fod swyddogion sy’n dysgu Cymraeg yn mynychu nifer penodol o oriau hyfforddiant iaith mewn blwyddyn. (CI 6.2.7)
7.5.21 Pan fydd y Cyngor yn darparu gwybodaeth i gyflogeion newydd (er enghraifft, fel xxxx x xxxxxx ymsefydlu), darperir gwybodaeth er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o’r Gymraeg. (Safon 133)
7.5.22 Darperir geiriad neu logo ar gyfer llofnodion e-xxxx staff sy’n eu galluogi i ddynodi a ydynt yn siarad Cymraeg yn rhugl neu’n dysgu’r iaith. (Safon 134)
7.6 Recriwtio ac Apwyntio
7.6.1 Pan fydd y Cyngor yn asesu’r anghenion ar gyfer swydd newydd neu swydd wag, bydd yn asesu’r angen am sgiliau yn y Gymraeg, a’i chategoreiddio fel swydd pan fo un neu ragor o’r canlynol yn gymwys –
(a) bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol;
(b) bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir rhywun i’r swydd;
(c) bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu
(ch) nad yw sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol. (Safon 136)
7.6.2 Os bydd y Cyngor wedi categoreiddio swydd fel un sy’n gofyn bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol, yn ddymunol neu fod angen eu dysgu, bydd yn pennu hynny wrth hysbysebu’r swydd. (Safon 136A - rhannol)
(CI 6.3.1 - rhannol)
7.6.3 Oni ellir penodi person dwyieithog i swydd lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol yn dilyn hysbyseb o'r fath, bydd y swydd honno yn cael ei hail hysbysebu gyda'r un xxxx(au) ieithyddol. (CI 6.3.1)
7.6.4 Fodd bynnag, yn achos yr ail hysbyseb gogyfer rhai swyddi penodol, bydd croeso i bersonau heb sgiliau Cymraeg ymgeisio am y swyddi hyn. Gyda rhai swyddi eraill, bydd yn angenrheidiol cael swydd ddwyieithog o'r cychwyn cyntaf er mwyn diwallu gofynion y gwasanaeth. Os penodir ymgeisydd di- Gymraeg i’r swydd gofynnir iddo/iddi dderbyn, fel xxxx penodi, dargedau datblygu sgiliau iaith Gymraeg yn codi o’r fanyleb person i’r swydd a chytuno ar gyfnod amser penodol i gyrraedd lefel rhuglder derbyniol yng nghyswllt bodloni gofynion y swydd. Bydd y Cyngor yn rhoi pob cymorth o ran ariannu cyrsiau a neilltuo amser o'r gwaith, i alluogi swyddogion di-Gymraeg i ddysgu'r iaith. Bydd y Cyngor hefyd yn monitro cynnydd yn rheolaidd er mwyn asesu pa mor briodol yw'r cwrs i'r unigolyn. (CI 6.3.1)
7.6.5 Ar gyfer rhai swyddi penodol, bydd cymal yn cael ei gynnwys mewn ail hysbysebion o'r fath i ddynodi eu bod yn ail-hysbysebion ac yn dynodi fod croeso i bersonau heb sgiliau Cymraeg ymgeisio am y swydd. Yn ogystal, yn y pecyn gwybodaeth am y swydd a ddarperir i ymgeiswyr, rhoddir gwybodaeth am yr xxxx i ennill sgiliau ieithyddol fel y nodir uchod. (CI 6.3.1)
7.6.6 Ni fydd y Cyngor yn trin cais am swydd a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, o ran y dyddiad cau yr ydym yn ei osod ar gyfer cael ceisiadau, ac o ran amseriad rhoi gwybod i unigolion ynghylch penderfyniadau). (Safon 137B)
7.6.7 Bydd ffurflenni cais y Cyngor am swyddi yn rhoi lle i unigolion nodi eu bod yn dymuno cael cyfweliad neu’r dull arall o asesiad yn Gymraeg ac, os yw unigolyn yn dymuno hynny, cynhelir unrhyw gyfweliad neu ddull arall o asesiad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol). (Safon 138)
7.6.8 Pan fydd y Cyngor yn rhoi gwybod i unigolyn xxxx yw’n penderfyniad mewn perthynas â chais am swydd, gwneir hynny yn Gymraeg os gwnaed y cais yn Gymraeg. (Safon 140)
7.6.9 Bydd Grŵp Tasg Iaith y Cyngor yn derbyn adroddiadau chwarterol ar benodiadau staff a bydd unrhyw risgiau’n cael eu trosglwyddo i sylw’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i’w craffu ymhellach. (CI 6.3.1)
7.7 Hyfforddiant
7.7.1 Wrth drefnu hyfforddiant, bydd gofyn hysbysu swyddogion am gyrsiau priodol sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y Cyngor yn darparu hyfforddiant lle bynnag y bo hynny'n briodol i hwyluso gweithredu'r polisi hwn. Bydd yn cyflawni hynny trwy asesu xxxx yw anghenion hyfforddiant staff y Cyngor. (CI 6.4.1)
7.7.2 Bydd anogaeth i swyddogion ddilyn cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg pan fo hynny'n berthnasol. (CI 6.4.1)
7.7.3 Yn achos cyrsiau a ddarperir yng Nghymru trwy gyfrwng y Saesneg, bydd y Prif Weithredwr yn gyfrifol am annog y cyrff arholi/asesu perthnasol i gynnig cyfle ieithyddol cyfartal i fyfyrwyr, fel y xxxxxxx sefyll arholiadau/gyflwyno gwaith i'w asesu, yn Gymraeg. (CI 6.4.2)
7.8 Y Gwasanaeth Cyfieithu
7.8.1 Bydd y Cyngor yn cyflogi xxx o gyfieithwyr cymwys er mwyn cyfieithu unrhyw ddeunydd a fydd yn cael ei gyhoeddi. Bydd y xxx cyfieithu’n defnyddio i’r eithaf technoleg newydd a fyddai’n cefnogi a chryfhau capasiti’r gwasanaeth. (CI 6.6.1)
7.8.2 Pan fo sefydliad preifat, xxxxx preifat, neu unigolyn yn cyflwyno unrhyw ddogfennau, adroddiadau neu lythyrau i’r Cyngor yn Saesneg yn unig, a’r angen yn codi i gyflwyno’r testun i Bwyllgor neu Banel, yna disgwylir i’r sefydliad preifat, xxxxx preifat neu unigolyn i gyflwyno'r wybodaeth yn ddwyieithog. (CI 6.6.2)
7.8.3 Disgwylir i gyrff cyhoeddus gyflwyno pob gohebiaeth ac adroddiad yn ddwyieithog neu’n Gymraeg ond anogir cyrff yn y sectorau gwirfoddol a phreifat i gyflwyno gohebiaeth yn ddwyieithog, gan arddel yr egwyddor o beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. (CI 6.6.2)
7.8.4 Bydd gan bawb yr hawl i siarad Cymraeg neu Saesneg yn ôl eu dymuniad yng nghyfarfodydd y Cyngor a darperir offer cyfieithu ar y pryd i gyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg yn xxxx gyfarfodydd y Cyngor pan fo'i angen. (CI 6.6.3)
7.8.5 Xxx amgylchiadau lle bydd yr offer yn torri yn ystod cyfarfod, bydd y cyfieithydd/ cyfieithwyr yn cyfieithu'n bersonol i'r sawl xxxx xxxxx cyfieithiad. Onid yw hyn yn ymarferol, gofynnir i'r rheiny sydd yn bresennol yn y cyfarfod ac sy’n ddibynnol ar wasanaeth cyfieithu, symud at xxxxxx addas a fydd yn crynhoi'r drafodaeth ar adegau cyfleus, a hynny xxx reolaeth y Cadeirydd. Yn ogystal, ar ddiwedd pob trafodaeth bydd y Cadeirydd yn trefnu i grynhoi’r drafodaeth a'r penderfyniad yn Saesneg.
7.8.6 Os nad oes offer cyfieithu parhaol mewn ystafell a ddefnyddir i gynnal cyfarfodydd y Cyngor a Phwyllgorau, Is-Bwyllgorau neu Banelau'r Cyngor yna, darperir offer symudol ynddi yn ôl y galw.
7.8.7 Pan fo cyfarfod yn cael ei gynnal mewn adeilad sy’n eiddo i gorff arall, a’r Cyngor yn rhan o’r gwaith trefnu, yna defnyddir yr offer symudol yn ôl y galw.
7.8.8 Bydd yr Uned Gyfieithu yn cynorthwyo yn y broses o fonitro defnydd ysgrifenedig o’r Gymraeg yng ngweinyddiaeth y Cyngor fel rhan o’r broses o gyfieithu testunau. Bydd hyn yn rhan o ymarfer o ymestyn effeithlonrwydd gwasanaethau i allu darparu gwasanaeth Cymraeg a Saesneg cyflawn heb orfod bod yn or-ddibynnol ar yr Uned Gyfieithu.
7.9 Pryderon a Chwynion
7.9.1 Daeth Polisi Pryderon a Chwynion newydd i rym yng Nghyngor Sir Ynys Môn ar 1 Ebrill, 2013 sy’n golygu yr ymatebir i gwynion mewn ffordd wahanol ac y cymerir camau i ddysgu o bryderon a fynegir gan gwsmeriaid. Mae’r polisi yn seiliedig ar y Polisi Enghreifftiol a ddatblygwyd gydag Ombwdsman Cyhoeddus Cymru fel system gyffredin i ddarparwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru ddelio ô chwynion. Fe ymgorfforir cwynion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg i’r drefn hon (rhaid i xxx cofnod nodi os yw’r xxxx yn ymwneud yn benodol â’r xxxx iaith).
8.0 Hybu’r Gymraeg
8.1 Bydd y Cyngor yn llunio, a chyhoeddi ar ei wefan, strategaeth 5 mlynedd sy’n esbonio sut y mae’n bwriadu mynd ati i hybu’r Gymraeg ac i hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn ehangach yn ei ardal; a bydd y strategaeth yn cynnwys (ymysg pethau eraill) –
(a) targed (yn nhermau canran y siaradwyr yn ei ardal) ar gyfer cynyddu neu gynnal nifer y siaradwyr Cymraeg yn ei ardal erbyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd o xxx sylw, a
(b) datganiad sy’n esbonio sut y mae’n bwriadu cyrraedd y targed hwnnw; ac fe adolygir y strategaeth a chyhoeddi fersiwn ddiwygiedig ohoni ar ei wefan o fewn 5 mlynedd i ddyddiad cyhoeddi’r strategaeth (neu i ddyddiad cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig ohoni). (Safon 145 – ERBYN MEDI 2016)
8.2 Bum mlynedd ar ôl cyhoeddi strategaeth yn unol ag 8.1 uchod bydd y Cyngor yn -
(a) asesu i xx xxxxxx y xxx wedi dilyn y strategaeth honno ac wedi cyrraedd y targed a osodwyd ganddi, a
(b) cyhoeddi’r asesiad ar ei wefan, gan sicrhau ei fod yn cynnwys yr wybodaeth a ganlyn –
(i) nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal, ac oedran y siaradwyr hynny;
(ii) rhestr o’r gweithgareddau a drefnwyd gan y Cyngor neu a ariannwyd ganddo yn ystod y 5 mlynedd flaenorol er mwyn hybu defnyddio’r Gymraeg. (Safon 146 – ERBYN MEDI 2016)
9.0 Cadw Cofnodion
9.1 Bydd y Cyngor yn cadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y cwynion y mae’n eu cael sy’n ymwneud â’i gydymffurfedd â’r safonau. (Safon 147)
9.2 Bydd y Cyngor yn cadw copi o unrhyw xxxx ysgrifenedig y mae’n ei chael sy’n ymwneud â’i gydymffurfedd â’r safonau y mae’r Cyngor o xxx ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. (Safon 148)
9.3 Bydd yn Cyngor y cadw copi o unrhyw xxxx ysgrifenedig y mae’n ei chael sy’n ymwneud â’r Gymraeg (pa un ai yw’r xxxx yn ymwneud â’r safonau y mae’r Cyngor o xxx ddyletswydd i gydymffurfio â hwy ai peidio). (Safon 149)
9.4 Bydd y Cyngor yn cadw cofnod o’r camau y mae wedi eu cymryd i sicrhau y cydymffurfir â’r safonau llunio polisi y mae’r Cyngor o xxx ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. (Safon 150)
9.5 Bydd y Cyngor yn cadw cofnod (yn dilyn asesiadau o sgiliau iaith Gymraeg ei cyflogeion a wnaed ganddo yn unol â safon 127), o nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol a, xxxx fo hynny’n wybyddus iddo, bydd yn cadw cofnod o lefel sgiliau’r cyflogeion hynny. (Safon 151)
9.6 Bydd y Cyngor yn cadw cofnod, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, o –
(a) nifer yr aelodau o staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a gynigiwyd ganddo yn Gymraeg (yn unol â safon 128), a
(b) os cynigiwyd fersiwn Gymraeg o gwrs ganddo yn unol â safon 128, y ganran o gyfanswm nifer y staff a fynychodd y fersiwn honno o’r cwrs. (Safon 152)
9.7 Bydd y Cyngor yn cadw cofnod o xxx asesiad a gynhelir (yn unol â safon 136) mewn cysylltiad â’r sgiliau Cymraeg y gallai fod eu xxxxxx mewn perthynas â swydd newydd neu swydd wag. (Safon 153)
9.8 Bydd y Cyngor yn cadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol o nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a gategoreiddiwyd (yn unol â safon 136) fel swyddi sy’n gofyn
(a) bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol;
(b) bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg unwaith y penodir rhywun i’r swydd;
(c) bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu
(ch) nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol. (Safon 154)
10.0 Materion Atodol
10.1 Rhoi cyhoeddusrwydd i safonau’r Gymraeg
10.1.1 Bydd y cyngor yn sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau y mae o xxx ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau y mae o xxx ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael –
(a) ar ei wefan, a
(b) ym mhob un o’i swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd. (Safonau 155, 161, 167, 173 a 175)
10.2 Cyhoeddi gweithdrefn gwyno
10.2.1 Bydd y Cyngor yn –
(a) sicrhau bod ganddo weithdrefn gwyno sy’n xxxxx â’r materion a ganlyn
(i) sut y mae’n bwriadu xxxxx â chwynion ynglŷn â’i gydymffurfedd â safonau’r Gymraeg y mae o xxx ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a
(ii) sut y bydd yn darparu hyfforddiant i’w staff ynglŷn â xxxxx â’r cwynion hynny,
(b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar ei wefan, ac
(c) sicrhau bod copi o’r ddogfen honno ar gael ym mhob un o’i swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd. (Safonau 156, 162 a 168)
10.3 Cyhoeddi trefniadau goruchwylio, hybu ayyb
10.3.1 Bydd y Cyngor yn –
(a) sicrhau bod ganddo drefniadau ar gyfer
(i) goruchwylio’r modd y mae’n cydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaeth y mae o xxx ddyletswydd i gydymffurfio â hwy,
(ii) hybu’r gwasanaethau a gynigir ganddo yn unol â’r safonau hynny, a
(iii) hwyluso defnyddio’r gwasanaethau hynny,
(b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r trefniadau hynny ar ei wefan, ac
(c) sicrhau bod copi o’r ddogfen honno ar gael ym mhob un o’i swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd. (Safon 157)
10.3.2 Bydd y Cyngor yn –
(a) sicrhau bod ganddo drefniadau ar gyfer goruchwylio’r modd y mae’n cydymffurfio â’r safonau llunio polisi y mae o xxx ddyletswydd i gydymffurfio â hwy,
(b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r trefniadau hynny ar ein gwefan, ac
(c) sicrhau bod copi o’r ddogfen honno ar gael ym mhob un o’i swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd. (Safon 163)
10.3.3 Bydd y Cyngor yn –
(a) sicrhau bod ganddo drefniadau ar gyfer
(i) goruchwylio’r modd y mae’n cydymffurfio â’r safonau gweithredu y mae o xxx ddyletswydd i gydymffurfio â hwy,
(ii) hybu’r gwasanaethau a gynigir ganddo yn unol â’r safonau hynny, a
(iii) hwyluso defnyddio’r gwasanaethau hynny, a
(b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r trefniadau hynny ar ei fewnrwyd. (Safon 169)
10.4 Llunio adroddiad blynyddol
10.4.1 Bydd y Cyngor yn llunio ac yn cyhoeddi adroddiad ("Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg"), yn ddwyieithog, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n xxxxx â’r modd y bu iddo gydymffurfio â safonau’r Gymraeg yr oedd o xxx ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno. (Safonau 158, 164, a 170)
10.5 Rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y bwriedir cydymffurfio â safonau’r Gymraeg
10.5.1 Bydd y Cyngor yn cyhoeddi’r ddogfen hon ar ei wefan sy’n esbonio sut y mae’n bwriadu cydymffurfio â safonau’r Gymraeg y mae o xxx ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. (Safonau 159, 165 a 171)
10.6 Darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg
10.6.1 Bydd y Cyngor yn darparu unrhyw wybodaeth y bydd Comisiynydd y
Gymraeg yn gofyn xxxxxx xx’n ymwneud â’n cydymffurfedd â safonau’r Gymraeg y mae o xxx ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. (Safonau 160, 166, 172, 174 a 176)
11.0 Gwella’r Gwasanaeth
11.1 Bydd y Cyngor yn xxxxx iawn o dderbyn sylwadau ac awgrymiadau gan ei gwsmeriaid ar sut i wella'r gwasanaeth dwyieithog a roddir iddynt.
11.2 Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau at y Prif Weithredwr Cynorthwyol a fydd yn ystyried yr hyn a dderbynnir cyn cyflwyno adroddiad i'r pwyllgor gweithredol ar unrhyw fater a fydd, xx xxxx y Prif Weithredwr Cynorthwyol, xxxxx xx ystyried gyda golwg ar newid neu ddiwygio'r polisi.