Offeryn ac Erthyglau Llywodraethu Bwrdd Corfforaeth Coleg Sir Benfro
Offeryn ac Erthyglau Llywodraethu Bwrdd Corfforaeth Coleg Sir Benfro
ATODLEN 1
YR OFFERYN LLYWODRAETHU
Mynegai
1. Dehongli
2. Aelodaeth o’r Gorfforaeth
3. Penderfynu Niferoedd Aelodau
4. Trefniadau Trosiannol
5. Penodiadau
6. Penodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd
7. Penodi'r Clerc
8. Personau sy'n Anghymwys i fod yn Aelodau
9. Tymor Swydd
10. Penderfynu Aelodaeth
11. Aelodau i beidio â dal buddiannau mewn materion sy'n yYmwneud â'r Sefydliad
12. Cyfarfodydd
13. Cworwm
14. Trafodion Cyfarfodydd
15. Cofnodion
16. Mynediad y Cyhoedd i Gyfarfodydd
17. Cyhoeddi Cofnodion a Phapurau
18. Xxxxxxxx i Aelodau
19. Copïau o'r Offeryn Llywodraethu
20. Newid Enw
21. Xxxx Sêl
22. Diwygio'r Offeryn Llywodraethu
Dehongli
1. Yn yr Offeryn Llywodraethu hwn:
(1) Ystyr “y Gorfforaeth” yw unrhyw gorfforaeth addysg xxxxxxx y xxx'r Offeryn hwn yn gymwys iddi; Ystyr “yr Offeryn hwn” yw'r Offeryn Llywodraethu hwn;
Mae “cyfarfod” yn cynnwys cyfarfod lle mae'r aelodau sy'n mynychu yn bresennol mewn mwy nag un ystafell (ar yr xxxx, drwy ddefnyddio fideo-gynadledda neu gyfleusterau tebyg, ei bod yn bosibl i xxx person sy'n bresennol yn y cyfarfod weld a/neu glywed ei gilydd). Gellir cynnal cyfarfodydd arlein;
Ystyr “yr Offeryn Llywodraethu blaenorol” yw'r offeryn llywodraethu sy'n ymwneud â'r sefydliad a oedd yn effeithiol yn union cyn mis Rhagfyr 2018;
Ystyr “materion staff” yw unrhyw un xxx xxx un o'r canlynol: penodiad, tâl, amodau gwasanaeth, dyrchafiad, ymddygiad, xxxx xxxx dro, diswyddiad neu ymddeoliad unrhyw aelod o staff;
Ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod, o ddydd Llun i ddydd Gwener, gan gynnwys ar
wahân i ŵyl banc neu ŵyl gyhoeddus arall.
(2) Mae i “aelod annibynnol”, “aelod o staff”, “aelod-fyfyriwr” ac “aelod awdurdod lleol” yr ystyron a briodolir iddynt ym mharagraff 2;
(3) Mae cyfeiriadau at “Cadeirydd”, “Is-gadeirydd” a “Clerc” yn cyfeirio at “Cadeirydd y Gorfforaeth”, “Is-gadeirydd y Gorfforaeth” a “Chlerc y Gorfforaeth”, yn y drefn honno;
(4) Mae cyfeiriadau at y sefydliad yn gyfeiriadau at y sefydliad y mae'r Gorfforaeth wedi'i sefydlu i'w rhedeg ac at unrhyw sefydliad sydd wedi'i redeg am y tro gan y Gorfforaeth drwy arfer ei phwerau o xxx Ddeddf Addysg Xxxxxxx xx Uwch 1992;
(5) Mae cyfeiriadau, mewn perthynas â'r Gorfforaeth, at gategori amrywiadwy yn gyfeiriadau at unrhyw gategori o aelodau, y mae'r nifer ohonynt y penderfynir arno yn ddarostyngedig i gael ei amrywio yn unol â pharagraffau 2 a 3;
(6) Mae'r penawdau wedi'u cynnwys er hwylustod yn unig ac nid ydynt yn effeithio ar ddehongli'r Offeryn hwn.
Aelodaeth o’r Gorfforaeth
2. (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (5) a (6) isod, rhaid i'r Gorfforaeth gynnwys:
(a) o leiaf 9 ac nid mwy na 12 o aelodau sy'n aelodau annibynnol, rhaid i hyn gynnwys o leiaf un aelod sy'n gynrychiolydd cyflogwyr lleol neu fusnesau lleol. Personau sydd wedi bod yn gweithio mewn busnes, diwydiant neu unrhyw broffesiwn neu unrhyw faes cyflogaeth arall sy'n berthnasol i weithgareddau'r sefydliad a/xxx xx'n cynrychioli buddiannau rhan o'r gymuned leol, a enwebwyd gan gorff neu gyrff cymunedol.
(b) dau aelod sy'n cael eu cyflogi ac sydd wedi'u henwebu gan staff y sefydliad (gelwir yr aelodau hyn yn "aelodau staff"). Mae'n rhaid i un aelod o staff fod wedi'i gyflogi a'i enwebu a'i ethol gan y staff addysgu a rhaid i un aelod o staff gael ei gyflogi a'i enwebu a'i ethol gan aelodau eraill o staff y sefydliad;
(c) dau aelod sy'n fyfyrwyr yn y sefydliad a etholir ac a enwebwyd gan y myfyrwyr yn y sefydliad neu (fel y caiff y Gorfforaeth benderfynu) wedi'u hethol a'u henwebu gan gymdeithas gydnabyddedig sy'n cynrychioli'r myfyrwyr yn y sefydliad (gelwir y rhain yn “aelodau- myfyrwyr");
(ch) o leiaf un a dim mwy na 3 aelod a enwebwyd gan yr awdurdodau lleol hynny y caiff y Gorfforaeth eu henwebu (gelwir yr aelodau hyn yn "aelodau awdurdod lleol");
(d) Pennaeth y sefydliad.
(2) At ddibenion yr Offeryn hwn, mae person nad yw am y tro yn cael ei gofrestru fel myfyriwr yn y sefydliad i'w drin fel myfyriwr o'r fath yn ystod unrhyw gyfnod pan fydd caniatâd wedi'i roi iddo fod yn absennol o'r sefydliad at ddibenion astudio neu deithio neu ar gyfer cyflawni dyletswyddau unrhyw swydd a ddelir ganddo mewn unrhyw undeb myfyrwyr yn y sefydliad.
(3) Mater i'r awdurdod penodi, fel a bennir ym mharagraff 5, yw penderfynu unrhyw gwestiwn ynghylch a yw unrhyw xxxxxx yn gymwysedig yn unol ag is-baragraff (1) i gael ei benodi'n aelod o’r Gorfforaeth a hwnnw’n aelod o unrhyw ddisgrifiad neu gategori.
(4) Ym mharagraff 1(a) mae “xxxxx cymunedol” yn cynnwys unrhyw gymdeithas nad yw'n cael ei rhedeg er elw.
Penderfynu Niferoedd Aelodaeth
3. (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nifer yr aelodau o'r Gorfforaeth a nifer yr aelodau ym mhob categori amrywiadwy fydd yr hyn a benderfynir gan y Gorfforaeth yn y penderfyniad mwyaf diweddar o xxx yr Offeryn Llywodraethu blaenorol.
(2) Caiff y Gorfforaeth amrywio ar unrhyw adeg y penderfyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) ac unrhyw benderfyniad dilynol o xxx y paragraff hwn ar yr xxxx:
(a) nad yw nifer aelodau'r Gorfforaeth, a benderfynir yn llai na 12 ac nid yn fwy na 20;
(b) bod nifer yr aelodau ym mhob categori amrywiadwy yn ddarostyngedig i'r terfynau sy'n gymwys i'r categori hwnnw a nodir ym mharagraff 2; a
(3) Ni fydd unrhyw benderfyniad o xxx y paragraff hwn yn effeithiol yn y fath fodd ag i derfynu penodiad unrhyw xxxxxx xxxx eisoes yn aelod o'r Gorfforaeth ar yr adeg y daw'n weithredol.
Trefniadau Trosiannol
4. Os nad oedd yr aelodaeth o'r Gorfforaeth, adeg y penderfyniad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 3(1), yn cydymffurfio o ran nifer ac aelodaeth â'r penderfyniad hwnnw ac nad oedd y Gorfforaeth, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn yr Offeryn Llywodraethu blaenorol, o xxx rwymedigaeth i'w gwneud yn ofynnol i ddiswyddo aelodau, nid oes dim yn yr Offeryn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i symud aelodau o’u swyddi, ond mae'r Gorfforaeth i sicrhau bod unrhyw benodiadau newydd yn cael eu gwneud gyda golwg ar sicrhau bod yr aelodaeth yn cydymffurfio â'r penderfyniad cyn gynted â phosibl, ond sut bynnag o fewn 4 blynedd i ddyddiad yr Offeryn hwn.
Penodiadau
5. (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), y Gorfforaeth yw'r awdurdod penodi mewn perthynas â phenodi unrhyw aelod o'r Gorfforaeth.
(2) Caiff yr awdurdod penodi wrthod penodi person os na chaiff ei fodloni bod gan y person y sgiliau a'r profiad penodedig.
(3) Caiff yr awdurdod penodi wrthod penodi person fel aelod annibynnol, aelod staff, aelod-fyfyriwr neu'n aelod:
(a) os yw wedi'i fodloni bod y person, o xxxx xxxx mlynedd cyn y dyddiad y byddai ei benodiad wedi dod yn weithredol fel arall, wedi'i ddiswyddo fel aelod o gorfforaeth addysg xxxxxxx xxx sefydliad a ddynodwyd o xxx xxxxx 28 o Ddeddf Addysg Xxxxxxx xx Uwch 1992; neu
(b) os byddai penodi'r person yn mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw reolau neu is-ddeddfau a wnaed o xxx erthygl 19 o'r Erthyglau Llywodraethu.
(4) Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn is-baragraffau (3) a (4), nid yw is-baragraff (1) yn rhoi hawl i'r Gorfforaeth wrthod penodi unrhyw xxxxxx yn aelod annibynnol, aelod staff, aelod-fyfyriwr neu aelod awdurdod lleol oni bai bod y person yn anghymwys i fod yn aelod o'r Gorfforaeth yn rhinwedd paragraff 8, neu, yn achos person sydd i'w benodi yn aelod annibynnol neu’n aelod awdurdod lleol, oni bai bod y Gorfforaeth wedi'i chynghori gan y Pwyllgor Chwilio (a sefydlwyd o xxx baragraffau
(3) a (4) o Erthygl 5 o’r Erthyglau Llywodraethu) i beidio â phenodi’r person hwnnw.
(5) Yn y paragraff hwn ystyr “sgiliau a phrofiad penodedig” yw sgiliau a phrofiad (ac eithrio cymwysterau proffesiynol) a bennir gan y Gorfforaeth fel rhai sy'n briodol i aelodau o'r Gorfforaeth.
(6) Pan ddaw swydd unrhyw aelod a benodwyd yn wag, mae'r Gorfforaeth (os hi yw'r awdurdod penodi) i gymryd, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, xxx xxx angenrheidiol i benodi aelod newydd i lenwi'r swydd wag.
(7) Gall aelod awdurdod lleol fod yn gynghorydd a etholwyd gan yr awdurdod lleol, yn un o gyflogeion yr awdurdod lleol yn gyflogai awdurdod lleol, neu'n unrhyw xxxxxx priodol arall a enwebir gan yr awdurdod lleol, yn ddarostyngedig i is-baragraff (3).
(8) Nid oes dim yn y cymal hwn yn rhoi hawl i'r Gorfforaeth ofyn am fwy nag un enwebiad gan unrhyw un o'r cyrff y cyfeiriwyd atynt ym mharagraffau 2(1)(b) i (ch) i lenwi unrhyw swydd wag unigol.
Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd
6. (1) Mae aelodau'r Gorfforaeth i benodi Cadeirydd a hyd at ddau Is-gadeirydd o’u plith.
(2) Nid fydd y Pennaeth nac unrhyw aelod staff neu aelod-fyfyriwr yn gymwys i'w benodi'n Gadeirydd neu'n Is-gadeirydd.
(3) Mae'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd i ddal eu swydd am y cyfnod y bydd y Gorfforaeth yn penderfynu arno.
(4) Os bydd y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd(ion) yn absennol o unrhyw gyfarfod o'r Gorfforaeth, mae'r aelodau sy'n bresennol i ddewis un o'u plith i weithredu fel Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwnnw, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2).
(5) Caiff y Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd ymddiswyddo o'i swydd ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Clerc.
(6) Os caiff y Gorfforaeth ei bodloni ar unrhyw adeg nad yw’r Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd yn gallu neu'n anaddas i gyflawni swyddogaethau'r Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd (yn ôl y digwydd), caiff y Gorfforaeth, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd, ei symud o'i swydd ac ar ôl hynny daw'r swydd yn wag.
(7) Yn y cyfarfod olaf cyn i gyfnod swydd y Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd ddod i ben, neu ar ôl ymddiswyddiad y Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd neu symud y xxxxx xxx’r llall ohonynt o’i swyddi, mae'r aelodau i benodi Cadeirydd neu Is-gadeirydd newydd, yn ôl y digwydd, o’u plith.
(8) Bydd y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd yn gymwys i gael eu hailbenodi pan ddaw eu tymhorau swydd i ben, yn ddarostyngedig i unrhyw reolau a wnaed o xxx erthygl 19 o'r Erthyglau Llywodraethu.
Penodi'r Clerc
7. (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), xxx'x Xxxxxxxxxxx i xxxxxx person i wasanaethu fel Clerc.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff 14(9) xxx xxx y Clerc hawl i fynychu pob un o gyfarfodydd y Gorfforaeth (gan gynnwys cyfarfodydd unrhyw un o bwyllgorau'r Gorfforaeth).
(3) Os digwydd i'r Clerc fod yn absennol dros dro, mae'r Gorfforaeth i benodi person i wasanaethu fel Clerc dros dro, ac mae unrhyw gyfeiriad yn yr Offeryn hwn at y Clerc yn cynnwys Clerc dros dro a benodir o xxx yr is-baragraff hwn.
(4) Mae’r Pennaeth yn anghymwys i gael ei benodi’n Glerc neu Glerc dros dro.
(5) Rhaid i'r Clerc gydymffurfio ag unrhyw un o ofynion Llywodraeth Cymru.
Personau sy'n Anghymwys i fod yn Aelodau
8. (1) Mae person sydd o xxx 18 oed yn anghymwys i'w benodi'n aelod ac eithrio fel aelod-fyfyriwr.
(2) Mae person sy'n aelod o staff y sefydliad yn anghymwys i gael ei benodi'n aelod ac eithrio fel aelod staff neu yn rhinwedd ei swydd fel Pennaeth.
(3) Mae myfyriwr yn y sefydliad yn anghymwys i gael ei benodi'n aelod ac eithrio fel aelod-fyfyriwr. Ni ddylai fod yn ofynnol i xxxxxx xxxx eisoes yn aelod ond nad yw’n aelod-fyfyrwyr, ymddiswyddo os bydd yn cofrestru yn ystod ei dymor yn y swydd ar gwrs rhan-amser yn y sefydliad ond os bydd
yn cofretru ar gwrs llawn-amser yn y sefydliad, bydd yn peidio â bod yn aelod o'r Gorfforaeth ac ar hynny daw'r swydd yn wag.
(4) Mae'r Clerc yn anghymwys i fod yn aelod.
(5) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (6) a (7), anghymhwysir person rhag dal, neu barhau i ddal swydd fel aelod os yw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr, neu os yw'n destun gorchymyn cyfyngu methdaliad, gorchymyn interim i gyfyngu methdaliad neu ymrwymiad i gyfyngu methdaliad o fewn ystyr Deddf Xxxxxx 2002 sy'n diwygio Deddf Ansolfedd 1986, neu os yw wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, gan gynnwys trefniant gwirfoddol unigol.
(6) Pan fydd person wedi ei anghymhwyso am ei fod wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr, neu am ei fod yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad, gorchymyn interim i gyfyngu methdaliad neu ymrwymiad i gyfyngu methdaliad, mae'r anghymhwysiad hwnnw yn peidio:
(a) pan fydd wedi'i ryddhau o fethdaliad, oni bai bod y gorchymyn methdaliad a wnaed yn ei erbyn wedi'i ddiddymu cyn hynny; neu
(b) os caiff y gorchymyn cyfyngu methdaliad y mae'n destun ohono ei ddad-wneud, ar y dyddiad a orchmynnir felly gan y llys; neu
(c) os caiff y gorchymyn interim i gyfyngu methdaliad y mae'n destun ohono ei ryddhau gan y llys, ar ddyddiad y rhyddhad hwnnw; neu
(ch) os caiff yr ymgymeriad i gyfyngu methdaliad y mae'n destun ohono ei ddiddymu, ar ddyddiad y diddymiad hwnnw.
(7) Pan fydd person wedi’i anghymhwyso am ei fod wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, gan gynnwys trefniant gwirfoddol unigol, a'i fod wedyn yn talu ei ddyledion yn llawn, mae'r anghymhwysiad yn peidio â bod ar y dyddiad y cwblheir talu ac mewn unrhyw achos arall mae'n peidio ar derfyn tair blynedd o'r dyddiad y caiff telerau gweithred y compownd, y trefniant neu'r trefniant gwirfoddol unigol eu bodloni.
(8) —
(a) Yn ddarostyngedig i baragraff (b) anghymhwysir person rhag dal, neu barhau i ddal, swydd fel aelod:
(i) os yw, o fewn 5 mlynedd cyn y byddai’i benodiad wedi dod yn weithredol fel arall, neu ers ei benodi, wedi’i gollfarnu boed yn y Deyrnas Unedig neu’n rhywle arall o unrhyw dramgwydd ac wedi’i ddedfrydu i xxxxxxx (boed honno’n ddedfryd ataliedig neu beidio) am gyfnod nad yw’n llai na 3 mis heb yr opsiwn o ddirwy;
(ii) os yw, o fewn 20 mlynedd cyn y dyddiad y byddai’i benodiad wedi dod yn weithredol fel arall, wedi'i gollfarnu fel y dywedwyd uchod a’i fod wedi’i ddedfrydu i xxxxxxx am gyfnod sy’n fwy xx xxx flynedd a xxxxxx; xxx
(iii) os yw wedi’i gollfarnu ar unrhyw adeg yn y modd a grybwyllwyd uchod ac wedi’i ddedfrydu i xxxxxxx am ddim llai na 5 mlynedd.
(b) At ddibenion y rheoliad hwn mae unrhyw gollfarniad gan neu gerbron llys y tu xxxxx i'r Deyrnas Unedig am dramgwydd mewn perthynas ag ymddygiad na fyddai, petai wedi digwydd mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, wedi bod yn dramgwydd o xxx y gyfraith a oedd mewn grym yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig i'w anwybyddu.
(9) Pan fydd aelod o'r Gorfforaeth yn dod yn anghymhwys i barhau i ddal swydd yn rhinwedd is- baragraff (5) neu (8), rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r Clerc ar unwaith.
Tymor Swydd
9. (1) Mae aelod o'r Gorfforaeth i ddal a gadael swydd yn unol â thelerau'i benodiad ond nid yw hyd ei dymor swydd i fod yn fwy na 4 blynedd.
(2) Mae aelod sy'n ymddeol ar ddiwedd ei dymor swydd yn gymwys i gael ai ailbenodi, yn ddarostyngedig i unrhyw reolau a wneir o xxx erthygl 19 o'r Erthyglau Llywodraethu, a bydd paragraff 5 yn gymwys i ailbenodi aelod yn yr un modd ag y mae'n gymwys i benodi olynydd i aelod.
Penderfynu Aelodaeth
10. (1) Xxxxx aelod ymddiswyddo o’i swydd ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Clerc.
(2) Os caiff y Gorfforaeth ei bodloni ar unrhyw adeg fod unrhyw aelod:
(a) wedi bod yn absennol o gyfarfodydd y Gorfforaeth am gyfnod sy'n hwy na 6 mis yn olynol heb ganiatâd y Gorfforaeth; neu
(b) yn methu cyflawni swyddogaethau aelod neu'n anaddas i’w cyflawni,
caiff y Xxxxxxxxxxx symud yr aelod hwnnw o’i swydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod hwnnw ac ar hynny daw'r swydd yn wag.
(3) Mae unrhyw xxxxxx xx'n aelod o'r Gorfforaeth yn rhinwedd bod yn aelod o'r staff (gan gynnwys Penadur) y sefydliad yn peidio â dal ei swydd os yw'n peidio â bod yn aelod o staff y sefydliad, ac ar hynny daw'r swydd yn wag.
(4) Bydd unrhyw xxxxxx xx'n aelod o'r Gorfforaeth yn rhinwedd y ffaith ei fod yn fyfyriwr yn y sefydliad yn peidio â dal swydd:
(a) ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae'n peidio â bod yn fyfyriwr yn y sefydliad neu ar unrhyw adeg arall yn y flwyddyn ar ôl iddo beidio â bod yn fyfyriwr y caiff y Gorfforaeth benderfynu arni; neu
(b) os caiff ei ddiarddel o'r sefydliad, ac ar hynny daw'r swydd yn wag.
Yr aelodau i beidio â dal buddiannau mewn materion sy'n ymwneud â'r Sefydliad
11. (1) Ac eithrio gyda chymeradwyaeth ysgrifenedig y Gorfforaeth, ni chaiff unrhyw aelod gymryd neu ddal unrhyw fuddiant mewn unrhyw eiddo a ddelir neu a ddefnyddir at ddibenion y sefydliad.
(2) Mae aelod a chanddo unrhyw fuddiant ariannol o ran cyflenwi gwaith neu nwyddau i'r sefydliad neu at ddibenion y sefydliad, unrhyw gontract neu gontract arfaethedig ynglŷn â'r sefydliad, neu sydd ag unrhyw fuddiant arall o ddisgrifiad a bennir gan y Gorfforaeth ar unrhyw xxxxx xx'n ymwneud â'r sefydliad, i wneud y canlynol:
(a) datgelu i'r Gorfforaeth neu i unrhyw un o bwyllgorau'r Gorfforaeth natur a maint ei fuddiant; a
(b) os yw'n bresennol mewn un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth lle mae'r cyflenwi, y contract neu'r mater arall i gael ei ystyried, peidio â chymryd rhan yn y broses o'i ystyried, na phleidleisio ar unrhyw gwestiwn ynglŷn ag ef, na chael ei gyfrif yn y cworwm sy'n bresennol yn y cyfarfod o ran penderfyniad nad oes ganddo hawl i bleidleisio arno.
(3) Rhaid i'r Clerc gadw cofrestr o fuddiannau aelodau'r Gorfforaeth a ddatgelir i'r Gorfforaeth a rhaid trefnu bod y gofrestr ar gael yn ystod oriau swyddfa arferol yn y sefydliad i unrhyw xxxxxx xx'n dymuno ei harchwilio.
(4) Nid yw'r paragraff hwn yn xxxx aelodau'r Gorfforaeth rhag ystyried na phleidleisio ar gynigion bod y Gorfforaeth yn yswirio aelodau'r Gorfforaeth yn erbyn rhwymedigaethau y byddant yn mynd iddynt ac sy'n deillio o'u swyddi nac yn xxxx y Gorfforaeth rhag sicrhau'r yswiriant hwnnw a thalu'r premiymau.
(5) Nid yw'r paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau'r staff fynd xxxxx pan fydd materion staff i'w trafod, oni fwriedir trafod unrhyw aelod unigol o'r staff yn hytrach na grŵp o staff, a hynny'n ddarostyngedig i baragraph 14(4)(ch).
Cyfarfodydd
12. (1) Mae'r Gorfforaeth i gyfarfod o leiaf unwaith xxx xxxxx, a chynnal unrhyw gyfarfodydd eraill a fydd yn angenrheidiol.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), mae pob cyfarfod i gael ei gynnull gan y Clerc, sydd i anfon at yr aelodau, o leiaf 5 niwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod, hysbysiad o'r cyfarfod a chopi o'r agenda arfaethedig.
(3) Er hynny, os bwriedir ystyried mewn unrhyw gyfarfod dâl, amodau gwaith, ymddygiad, gwaharddiad dros dro, diswyddiad neu ymddeoliad y Xxxxx, xxx'r Cadeirydd (ac nid y Clerc) i anfon at yr aelodau, o leiaf 5 niwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod, xxxx o'r eitem agenda o xxx sylw ynghyd ag unrhyw ddogfennau perthnasol.
(4) Caniateir i gyfarfod arbennig o'r Gorfforaeth gael ei alw ar unrhyw adeg gan y Cadeirydd neu ar gais ysgrifenedig unrhyw 5 aelod. Pan fydd y Cadeirydd neu, yn ei absenoldeb, yr Is-gadeirydd yn rhoi cyfarwyddyd i'r perwyl hwnnw ar y sail bod yna faterion sy'n gofyn am gael eu hystyried ar frys, mae'n ddigon os bydd yr hysbysiad yn cynnull y cyfarfod a'r agenda arfaethedig yn cael eu rhoi o fewn unrhyw gyfnod y mae'n ei bennu sy'n llai na 5 niwrnod gwaith.
(5) Mae pob aelod o'r Gorfforaeth i weithredu er lles y Gorfforaeth a chan hynny nid yw i gael ei rwymo wrth siarad a phleidleisio gan eirchion a roddir xxxx xxx unrhyw gorff neu xxxxxx arall.
(6) Caniateir i'r gofyniad i xxxxx xxx roi hysbysiad a nodir yn is-baragraffau (2), (3) a (4) gael ei fodloni drwy ei anfon drwy ddull electronig.
Cworwm
13. (1) Mae cyfarfodydd y Gorfforaeth yn gwneud cworwm os yw nifer yr aelodau sy'n bresennol yn 40% o leiaf o niferoedd yr aelodaeth (hynny yw, agregiad o’r nifer a benderfynir yn unol â pharagraff 3 (1)), sy'n gorfod cynnwys o leiaf 40% o'r aelodau annibynnol, fel y'u dangosir at ddibenion eglurhad yn y tabl isod.
Nifer yr aelodau | Cworwm |
12 | 5 |
13 | 6 |
14 | 6 |
15 | 6 |
16 | 7 |
17 | 7 |
18 | 8 |
19 | 8 |
20 | 8 |
21 | 8 |
22 | 9 |
23 | 9 |
(2) Os nad yw nifer yr aelodau a gynullir ar gyfer un o gyfarfodydd y Gorfforaeth yn ffurfio cworwm, nid yw'r cyfarfod i gael ei gynnal. Os bydd nifer yr aelodau sy’n bresennol yn ystod un o gyfarfodydd y Gorfforaeth yn peidio â ffurfio cworwm, mae'r cyfarfod i'w derfynu ar unwaith.
(3) Mewn amgylchiadau lle na ellir cynnal cyfarfod neu, yn ôl y digwydd, ni all barhau, am nad oes cworwm, caiff y Cadeirydd beri bod cyfarfod arbennig yn cael ei gynnull cyn gynted ag y bo'n gyfleus.
Trafodion Cyfarfodydd
14. (1) Mae pob cwestiwn sydd i'w benderfynu mewn un o gyfarfodydd y Gorfforaeth i'w benderfynu drwy fwyafrif syml o bleidleisiau'r aelodau sy'n bresennol ac sy'n pleidleisio ar y cwestiwn. Pan fydd y pleidleisiau wedi’u rhannu'n gyfartal, bydd Cadeirydd y cyfarfod yn cael y bleidlais fwrw.
(2) Ni chaiff aelod bleidleisio drwy ddirprwy na phleidleisio drwy'r post.
(3) Ni chaniateir i unrhyw benderfyniad yr aelodau gael ei ddad-wneud na'i amrywio mewn cyfarfod dilynol oni bai bod ystyried y dad-wneud neu'r amrywiad yn eitem fusnes benodol ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod hwnnw.
(4) Mewn sefyllfaoedd argyfwng a xxxx caniateir cymeradwyo penderfyniadau yn ysgrifenedig, ar yr xxxx bod pob Aelod o'r Bwrdd sy'n gymwys i bleidleisio ar y mater yn cael gwybodaeth gyson. Os cymerir penderfyniad yn y modd hwn, derbynnir pob pleidlais yn ysgrifenedig a bydd angen nifer yr ymatebion i gwrdd â'r hyn sy'n ffurfio cworwm ar gyfer cyfarfod. Gellir bodloni'r gofyniad am gymeradwyaeth ysgrifenedig trwy ddulliau electronig. Adroddir cofnod y penderfyniad i gyfarfod nesaf y Gorfforaeth. Gwneir yr opsiwn hwn dim ond pan fydd y Cadeirydd yn ystyried bod angen gwneud felly mewn sefyllfaoedd argyfwng neu frys, neu yn eu habsenoldeb Is-gadeirydd, a'r Pennaeth. Diffinnir sefyllfaoedd argyfwng a xxxx xx Model Llywodraethu Corfforaethol y Gorfforaeth.
(5) Mae aelod o'r Gorfforaeth sy'n aelod o staff y sefydliad, gan gynnwys y Pennaeth, i fynd xxxxx:
(a) o'r rhan honno o unrhyw un o gyfarfodydd y Gorfforaeth, neu unrhyw bwyllgor o’r Gorfforaeth, lle mae materion staff sy'n ymwneud â'r aelod hwnnw o’r staff yn unig (o'u cyferbynnu â materion staff sy'n ymwneud â phob aelod o’r staff, xxx xxx aelod o’r staff mewn dosbarth penodol) i gael eu hystyried;
(b) o'r rhan honno o unrhyw un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o’r Gorfforaeth lle mae ailbenodiad yr aelod hwnnw, neu benodiad ei olynydd, i gael ei ystyried; ac
(c) os yw'n ofynnol gan fwyafrif o'r aelodau eraill sy'n bresennol, o'r rhan honno o unrhyw un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth, lle y mae materion staff sy'n ymwneud ag unrhyw aelod o staff sy'n dal swydd uwch i'w gilydd i'w hystyried; ac
(ch) os gofynnir iddo wneud hynny gan fwyafrif o’r aelodau eraill sy'n bresennol, o'r rhan honno o unrhyw un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o’r Gorfforaeth lle mae trafodaethau sy'n ymdrin â chyflog neu amodau gwaith (unrhyw un xxx xxx un o) aelodau'r staff yn cael eu hystyried
(6) Nid yw aelod-fyfyriwr sydd o xxx 18 oed i bleidleisio, boed mewn un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o’r Gorfforaeth, ar unrhyw gwestiwn ynghylch unrhyw gynnig:
(a) ar gyfer gwario xxxxx xxx y Gorfforaeth; neu
(b) y byddai'r Gorfforaeth, neu unrhyw aelodau o'r Gorfforaeth, yn ymrwymo i unrhyw gontract o xxx y cynnig hwnnw, neu'n tynnu unrhyw ddyled neu rwymedigaeth odano (boed yn union, yn amodol neu fel arall).
(7) Ac eithrio fel a ddarperir gan reolau a wneir o xxx erthygl 14(2) o'r Erthyglau Llywodraethu sy'n ymwneud â disgyblu myfyrwyr, mae aelod-fyfyriwr i fynd xxxxx o'r xxxx honno o unrhyw un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu'r pwyllgor lle mae ymddygiad, gwaharddiad dros dro neu ddiarddeliad y myfyriwr hwnnw neu unrhyw fyfyriwr i gael ei ystyried.
(8) Mewn unrhyw achos lle mae'r Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth i drafod materion staff sy'n ymwneud ag aelod neu ddarpar aelod o staff y sefydliad, mae aelod-fyfyriwr i wneud fel a ganlyn:
(a) peidio â chymryd unrhyw ran yn y broses o ystyried neu drafod y mater o xxx sylw na phleidleisio ar unrhyw gwestiwn ynglŷn â'r mater; a
(b) pan ofynnir iddo wneud hynny gan fwyafrif o'r aelodau ac eithrio aelodau-myfyrwyr o'r Gorfforaeth neu'r pwyllgor sy'n bresennol yn y cyfarfod, mynd xxxxx o'r cyfarfod.
(9) Mae’r Clerc:
(a) i fynd xxxxx o'r xxxx honno o unrhyw un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o’r Gorfforaeth lle mae ei dâl, ei amodau gwaith, ei ymddygiad, ei ataliad dros dro, ei ddiswyddiad neu ei ymddeoliad, yn rhinwedd ei swyddogaeth fel Clerc, i gael eu hystyried; a
(b) os yw'n aelod o staff y sefydliad, i fynd xxxxx mewn unrhyw achos lle byddai'n ofynnol iddo fynd xxxxx o xxx is-baragraff (4) os oedd yn bresennol fel aelod o'r Gorfforaeth.
(10) Os yw'r Clerc yn mynd xxxxx o gyfarfod neu ran ohono o xxx is-baragraff (8), mae'r Gorfforaeth neu'r pwyllgor o'r Gorfforaeth (yn ôl y digwydd) i benodi o blith ei haelodau neu ei aelodau xxxxxx i weithredu fel Clerc hyd ddiwedd y cyfarfod hwnnw neu hyd ddiwedd y xxxx xxxxx, ac eithrio bod y Pennaeth yn anghymwys i gael ei benodi’n Glerc dros dro. Xxxx y Pennaeth gymryd y cofnodion.
Cofnodion
15. (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), mae cofnodion y cyfarfod diwethaf i gael eu trin ym mhob un o gyfarfodydd y Gorfforaeth fel eitem agenda ac, os cytunir eu bod yn gywir, mae'r cofnodion hynny i gael eu llofnodi fel rhai cywir gan Gadeirydd y cyfarfod.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol i drin cofnodion y cyfarfod diwethaf fel eitem agenda cyfarfod a gynullir o xxx baragraff 12(4) a xxxx nad yw cofnodion y cyfarfod diwethaf yn cael eu trin fel un o eitemau agenda'r cyfarfod hwnnw, yn unol â'r paragraff hwn, maent i'w trin fel eitem agenda yn y cyfarfod nesaf na fyddai'n cael ei gynnal o xxx baragraff 12(4).
(3) Mae cofnodion ar wahân i'w cymryd o'r rhannau hynny o gyfarfodydd y mae'r Clerc neu aelodau staff neu aelodau-myfyrwyr wedi mynd xxxxx ohonynt. Nid oes gan aelod o'r Gorfforaeth sy'n aelod o staff y sefydliad, aelod-fyfyriwr na'r Clerc sydd wedi mynd xxxxx o gyfarfod yn unol ag is- baragraffau (4) i (9) o baragraff 14 hawl i weld y cofnod o'r rhan honno o'r cyfarfod nac unrhyw bapurau ynglŷn â’r rhan honno, ac eithrio gyda chaniatâd datganedig Cadeirydd/Is-gadeirydd y Bwrdd Corfforaethol.
Mynediad y Cyhoedd i Gyfarfodydd
16. (1) Yn ddarostyngedig i baragraff 14, xxx xxx y canlynol hawl i fynychu cyfarfodydd y Gorfforaeth:
(a) aelod o'r Gorfforaeth;
(b) y Clerc;
(2) Mae unrhyw gwestiwn ynghylch a ddylid caniatáu i unrhyw xxxxxx arall fynychu un o gyfarfodydd y Gorfforaeth i'w benderfynu gan y Gorfforaeth.
Cyhoeddi Cofnodion a Phapurau
17. (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), mae'r Gorfforaeth i sicrhau bod copi o'r canlynol:
(a) yr agenda ar gyfer pob un o gyfarfodydd y Gorfforaeth ac unrhyw un o’i phwyllgorau;
(b) cofnodion drafft pob cyfarfod o'r fath, os ydynt wedi'u cymeradwyo gan Gadeirydd y cyfarfod;
(c) cofnodion llofnodedig pob cyfarfod o'r fath; ac
(ch) unrhyw adroddiad, dogfen neu bapur arall a ystyrir mewn unrhyw gyfarfod o'r fath
yn cael ei roi ar gael, cyn gynted â phosibl ym mhob achos, yn ystod oriau swyddfa arferol yn y sefydliad i unrhyw xxxxxx xx'n dymuno ei archwilio.
(2) Caniateir hepgor o unrhyw eitem y mae'n ofynnol ei rhoi ar gael yn unol ag is-baragraff (1), unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud â'r canlynol:
(a) person a enwir sy'n cael ei gyflogi neu y bwriedir ei gyflogi yn y sefydliad;
(b) myfyriwr a enwir yn y sefydliad neu ymgeisydd am gael ei dderbyn i'r sefydliad;
(c) y Clerc; neu
(ch) unrhyw fater y mae'r Gorfforaeth wedi'i bodloni, oherwydd natur y mater hwnnw, y dylid ymdrin ag ef yn gyfrinachol.
(3) Dylai eitemau a hepgorir o xxx baragraff (2)(ch) gael eu hadolygu'n rheolaidd gan y Gorfforaeth a'u darparu pan fyddant yn peidio â bod yn gyfrinachol.
Xxxxxxxx i Aelodau
18. Xxx xxx y Gorfforaeth bŵer i dalu i aelodau o'r Gorfforaeth unrhyw lwfansau teithio, lwfansau cynhaliaeth neu lwfansau eraill a benderfynir gan y Gorfforaeth, ond rhaid iddi beidio â thalu lwfansau sy'n talu'r aelodau am eu gwasanaethau fel aelodau.
Copïau o'r Offeryn Llywodraethu
19. (1) Xxx xxxx o'r Offeryn hwn i'w roi yn ddi-dâl i xxx aelod o'r Gorfforaeth.
(2) Xxx xxxx o'r Offeryn hwn i'w roi yn ddi-xxx xxx am dâl nad yw'n fwy na chost ei gopïo i unrhyw xxxxxx arall sy'n gofyn amdano.
(3) Rhaid trefnu bod copi o'r Offeryn hwn ar gael i'w archwilio ar gais yn ystod oriau swyddfa arferol i xxx aelod o staff a myfyrwyr Coleg Xxx Xxxxxx.
Newid Enw
20. Caiff y Gorfforaeth newid ei henw gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
Xxxx Sêl
21. Xxx xxxx sêl y Gorfforaeth yn gam sydd i'w ddilysu drwy:
(a) llofnod y Cadeirydd neu ryw aelod arall a awdurdodir xxxxx xx'n gyffredinol neu'n benodol gan y Gorfforaeth i weithredu at y diben hwnnw; a
(b) llofnod unrhyw aelod arall.
Diwygio'r Offeryn Llywodraethu
22. (1) Yn unol ag adran 22 o Ddeddf Addysg Xxxxxxx xx Uwch 1992 caniateir i'r Offeryn hwn ac Erthyglau Llywodraethu'r Gorfforaeth gael eu haddasu neu eu disodli gan benderfyniad y Gorfforaeth yn ddarostyngedig i baragraff 22(2). Cyn gwneud penderfyniad o'r fath, bydd y Gorfforaeth yn ymgynghori ag unrhyw bersonau sydd xx xxxx y Gorfforaeth yn debygol o gael eu heffeithio gan y newidiadau arfaethedig.
(2) Rhaid i'r Gorfforaeth beidio â gwneud unrhyw newidiadau i'r Offeryn Llywodraethu neu'r Erthyglau Llywodraethu a fyddai'n golygu bod y Gorfforaeth yn peidio â bod yn elusen.
ATODLEN 2
YR ERTHYGLAU LLYWODRAETHU
Mynegai
1. Dehongli
2. Rhedeg y Sefydliad
3. Cyfrifoldebau'r Gorfforaeth, Y Xxxxxxxx a'r Bwrdd Academaidd
4. Y Bwrdd Academaidd
5. Dirprwyo Swyddogaethau a Phwyllgorau
6. Penodi a Dyrchafu Staff
7. Ymddygiad y Staff
8. Rhyddid Academaidd
9. Gwahardd Staff Dros Dro
10. Diswyddo Deiliaid Swyddi Uwch a'r Clerc
11. Diswyddo Staff ac eithrio Deiliaid Swyddi Uwch neu'r Clerc
12. Gwahardd y Clerc dros dro a Diswyddo'r Clerc
13. Gweithdrefnau Cwyno
14. Myfyrwyr
15. Materion Ariannol
16. Cydweithio ag Archwilydd Llywodraeth Cymru
17 Archwilio Mewnol
18. Cyfrifon ac Archwilio Cyfrifon
19 Rheolau ac Is-ddeddfau
20. Copïau o Erthyglau Llywodraethu, Rheolau ac Is-ddeddfau
21. Diwygio'r Erthyglau Llywodraethu
22. Diddymu Corfforaeth Coleg Sir Benfro
Dehongli
1. Yn yr Erthyglau Llywodraethu hyn: (1)
ystyr “y bwrdd academaidd” xx xxxxx a gyfansoddir yn unol ag erthygl 4; ystyr “yr erthyglau hyn” yw'r Erthyglau Llywodraethu hyn;
mae i “y Gorfforaeth” yr un ystyr ag sydd iddo yn yr Offeryn Llywodraethu;
mae i “aelod annibynnol”, “aelod o awdurdod lleol”, “aelod o staff” ac “aelod-fyfyriwr” yr un ystyr ag yn yr Offeryn Llywodraethu;
mae “Cadeirydd”, “Is-gadeirydd” a “Clerc” yn cyfeirio at “Gadeirydd y Gorfforaeth", “Is-gadeirydd y Gorfforaeth” a “Clerc y Gorfforaeth” yn y drefn honno;
ystyr “swydd uwch” yw swyddi Pennaeth a dim ond swyddi eraill o'r fath y mae'r Gorfforaeth yn penderfynu arnynt at ddibenion yr Erthyglau hyn;
ystyr “y staff” xx xxxx staff y sefydliad;
ystyr “Undeb y Myfyrwyr” yw unrhyw gysylltiad rhwng mwyafrif y myfyrwyr a ffurfiwyd i hyrwyddo dibenion addysgol y sefydliad a buddiannau myfyrwyr fel myfyrwyr;
ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod, o ddydd Llun i ddydd Gwener, gan gynnwys ar wahân i
ŵyl banc neu ŵyl gyhoeddus arall.
(2) Mae'r penawdau er hwylustod yn unig ac nid ydynt yn effeithio ar ddehongliad yr Erthyglau hyn.
Rhedeg y Sefydliad
2. Mae'r sefydliad i'w redeg yn unol â darpariaethau, ac unrhyw ddarpariaethau a wneir yn unol â'r Deddfau Addysg fel y'u diffinnir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996, unrhyw Ddeddfau Addysg dilynol, Deddf Dysgu a Medrau 2000, unrhyw reoliadau, gorchmynion neu gyfarwyddiadau a wneir gan Weinidogion Cymru ac sy'n ddarostyngedig iddynt, yn unol â darpariaethau'r Offeryn Llywodraethu, yr Erthyglau hyn, unrhyw reolau neu is-ddeddfau a wneir o xxx yr Erthyglau hyn ac unrhyw weithred ymddiriedolaeth sy'n rheoleiddio'r sefydliad.
Cyfrifoldebau'r Gorfforaeth, y Pennaeth a'r Bwrdd Academaidd
3. (1) Mae'r Gorfforaeth i fod yn gyfrifol am:
(a) penderfynu cymeriad addysgol a chenhadaeth y sefydliad a goruchwylio ei weithgareddau;
(b) defnyddio adnoddau yn effeithiol ac yn effeithlon, solfedd y sefydliad a'r Gorfforaeth a diogelu eu hasedau;
(c) cymeradwyo amcangyfrifon blynyddol o incwm a gwariant;
(ch) penodi, graddio, arfarnu, gwahardd dros dro a phenderfynu cyflog ac amodau gwaith deiliaid swyddi uwch a'r Clerc (gan gynnwys, pan fo'r Clerc wedi'i benodi, neu i'w benodi, fel aelod o'r staff, ei benodiad, xx xxxx, ei waharddiad dros dro a dull penderfynu ei gyflog yn rhinwedd ei swyddogaeth fel aelod o'r staff);
(d) diswyddo deiliaid swyddi uwch a'r Clerc (gan gynnwys, pan fo'r Clerc wedi'i benodi, neu i'w benodi, fel aelod o'r staff, ei ddiswyddo yn rhinwedd ei swyddogaeth fel aelod o'r staff);
(dd) pennu fframwaith ar gyfer cyflogau ac amodau gwaith pob aelod arall o'r staff;
(e) os nad oes unrhyw Fwrdd Academaidd, sicrhau bod trefniadau yn eu sefydlu i gynghori'r Pennaeth ar safonau gwaith academaidd y sefydliad, a chynllunio, cyd-drefnu, datblygu a goruchwylio’r gwaith, gan gynnwys trefniadau i dderbyn, asesu ac arholi myfyrwyr a'r gweithdrefnau ar gyfer diarddel myfyrwyr am resymau academaidd.
(2) Yn ddarostyngedig i xxxxxxxxxxxxx'r Gorfforaeth, y Pennaeth fydd Prif Weithredwr y sefydliad, a bydd yn gyfrifol am:
(a) cyflwyno cynigion i'r Gorfforaeth am gymeriad addysgol a chenhadaeth y sefydliad, ac am roi penderfyniadau'r Gorfforaeth ar waith;
(b) trefnu, cyfarwyddo a rheoli'r sefydliad ac arwain y staff;
(c) penodi, pennu, graddio, arfarnu, gwahardd dros dro staff ac eithrio deiliaid swyddi uwch neu'r Clerc a phenderfynu, o fewn y fframwaith a osodir gan y Gorfforaeth, eu cyflog a'u hamodau gwasanaeth;
(ch) diswyddo staff ac eithrio deiliaid swyddi uwch neu'r Clerc;
(d) penderfynu, ar ôl ymgynghori â'r Bwrdd Academaidd (os oes un), neu os na fydd unrhyw Fwrdd Academaidd, ar ôl ymgynghori â'r Gorfforaeth, ar weithgareddau academaidd y sefydliad, a phenderfynu ei weithgareddau eraill;
(dd) paratoi amcangyfrifon blynyddol o incwm a gwariant, i'r Gorfforaeth eu hystyried a'u cymeradwyo, a rheoli'r gyllideb a'r adnoddau, o fewn yr amcangyfrifon a gymeradwyir gan y Gorfforaeth;
(e) cadw disgyblaeth ar y myfyrwyr ac, o fewn y rheolau a'r gweithdrefnau y darperir ar eu cyfer o fewn yr Erthyglau hyn, gwahardd myfyrwyr dros dro neu eu diarddel ar sail disgyblaeth a gweithredu penderfyniadau i ddiarddel myfyrwyr am resymau academaidd.
(3) Rhaid i'r Gorfforaeth gynnal ymgynghoriad unwaith xxx blwyddyn ar yr addysg a ddarperir yng Ngholeg Sir Benfro a chynllunio'r cwricwlwm. Rhaid i'r Gorfforaeth ymgynghori â phersonau yn ardal Coleg Sir Benfro sy'n cael addysg neu hyfforddiant, cyflogwyr yn ardal Coleg Sir Benfro a chyrff sy'n cynrychioli personau sy'n byw yn ardal Coleg Sir Benfro.
(4) Rhaid i'r Gorfforaeth wneud a chyhoeddi trefniadau ar gyfer cael barn staff a myfyrwyr ar benderfynu cymeriad addysgol a chenhadaeth y sefydliad a goruchwylio ei weithgareddau.
(5) Yn ddarostyngedig i:
(a) darpariaethau'r Erthyglau hyn;
(b) cyfrifoldeb cyffredinol y Gorfforaeth; a
(c) cyfrifoldebau'r Pennaeth,
y Bwrdd Academaidd (os oes un) fydd yn gyfrifol am sicrhau bod trefniadau wedi’u sefydlu ar gyfer cynghori'r Pennaeth ar safonau gwaith academaidd y sefydliad a chynllunio, cyd-drefnu, datblygu a goruchwylio’r gwaith hwnnw, gan gynnwys trefniadau i dderbyn, asesu ac arholi myfyrwyr a'r gweithdrefnau ar gyfer diarddel myfyrwyr am resymau academaidd.
Bwrdd Academaidd
4. (1) Caiff y Gorfforaeth sefydlu Bwrdd Academaidd, sy'n cynnwys y Pennaeth (a fydd yn Gadeirydd) ac unrhyw niferoedd eraill o staff a myfyrwyr a gymeradwyir x xxxx i'w gilydd gan y Gorfforaeth. Caiff y Pennaeth enwebu Dirprwy Gadeirydd o blith aelodau'r Bwrdd Academaidd i gadeirio yn ei le pan na fydd y Pennaeth yn gallu bod yn bresennol mewn cyfarfod o'r Bwrdd Academaidd. Mae cyfnod penodiad aelodau a'r trefniadau dethol neu trefniadau ethol yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Gorfforaeth.
(2) Caiff y Bwrdd Academaidd (os oes un) sefydlu pa bynnag bwyllgorau y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn ei alluogi i gyflawni ei gyfrifoldebau, ar yr xxxx bod pob cais ar gyfer sefydlu pwyllgor o'r fath yn cael ei gymeradwyo'n gyntaf gan y Pennaeth. Mae nifer yr aelodau ar unrhyw bwyllgor o'r xxxx xx ar ba delerau y maent i ddal a gadael eu swydd i'w penderfynu gan y Bwrdd Academaidd a chaiff unrhyw bwyllgor o'r fath gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r Bwrdd Academaidd.
Dirprwyo Swyddogaethau a Phwyllgorau
5. (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon, caiff y Gorfforaeth sefydlu pwyllgor o'r Gorfforaeth at unrhyw ddiben neu swyddogaeth, ac eithrio'r rhai a briodolir mewn mannau eraill yn yr Erthyglau hyn i'r Pennaeth neu i'r Bwrdd Academaidd, a chaiff ddirprwyo pwerau fel a ganlyn:
(a) i bwyllgor o'r fath;
(b) i’r Cadeirydd neu, yn ei absenoldeb, yr Is-gadeirydd; neu
(c) i’r Pennaeth.
(2) Mae nifer yr aelodau ar bwyllgor a sefydlir o xxx yr erthygl hon, ac ar ba delerau y maent i ddal a gadael swydd, i'w benderfynu gan y Gorfforaeth.
(3) Mae'r Gorfforaeth i sefydlu pwyllgor, a elwir y Pwyllgor Chwilio, i gynghori ar:
(a) benodi aelodau annibynnol ac aelodau awdurdod lleol;
(b) unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud ag aelodaeth a phenodiadau y bydd y Gorfforaeth yn eu cyfeirio ato.
(4) Rhaid i’r Gorfforaeth beidio â phenodi unrhyw xxxxxx yn aelod annibynnol neu’r awdurdod lleol fel aelod o'r Gorfforaeth, onid yw wedi ystyried yn gyntaf gyngor y Pwyllgor Chwilio ynglyn â hynny. Caiff y Gorfforaeth wneud rheolau sy'n pennu'r gweithdrefnau ar gyfer dull gweithredu’r Pwyllgor Chwilio, a bydd copi o unrhyw reolau o'r fath, ynghyd â chylch gwaith y Pwyllgor Chwilio, ar gael i'w harchwilio gan unrhyw xxxxxx yn ystod oriau swyddfa arferol yn y sefydliad.
(5) Mae'r Gorfforaeth i sefydlu pwyllgor, a elwir y Pwyllgor Archwilio, i gynghori ar faterion sy'n ymwneud â threfniadau archwilio'r Gorfforaeth a'i systemau rheolaeth fewnol. Mae'r Pwyllgor Archwilio i gynnwys o leiaf 3 xxxxxxx a xxxx gynnwys aelodau o staff y Gorfforaeth ac eithrio'r rhai sydd mewn swyddi uwch ac mae i weithredu'n unol ag unrhyw ofynion gan Lywodraeth Cymru.
(6) Mae'r Gorfforaeth i sefydlu pwyllgor a elwir yn Bwyllgor Canolfan Lefel A, i oruchwylio gweithrediad y Ganolfan Lefel A. Nodir y swyddogaethau a'r cyfrifoldebau yn y ddogfen Llywodraethu Corfforaethol.
(7) Gall unrhyw bwyllgor a sefydlir gan y Gorfforaeth (ac eithrio'r Pwyllgor Adrodd, y Pwyllgor Arbennig neu unrhyw bwyllgor arall a ffurfir at ddibenion erthyglau 10 neu 11) gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r Gorfforaeth.
(8) Serch hynny, rhaid i'r Gorfforaeth beidio â dirprwyo'r canlynol:
(a) penderfynu cymeriad addysgol a chenhadaeth y sefydliad;
(b) cymeradwyo'r amcangyfrifon blynyddol o incwm a gwariant;
(c) y cyfrifoldeb dros sicrhau solfedd y sefydliad a'r Gorfforaeth a gwarchod eu hasedau; (ch) penodi'r Pennaeth, y Clerc neu ddeiliad unrhyw swydd uwch;
(d) y cyfrifoldeb dros wrando’r xxxx yn erbyn diswyddo'r Pennaeth, deiliad unrhyw swydd uwch, neu, pan fo'r Clerc yn aelod o'r staff, gwrando xxxx y Clerc yn erbyn ei ddiswyddo yn rhinwedd ei swyddogaeth fel aelod o'r staff;
(dd) addasu neu ddirymu'r Erthyglau hyn.
(9) Mae'r Gorfforaeth i sicrhau bod datganiad ysgrifenedig o'i pholisi ynghylch:
(a) presenoldeb personau mewn cyfarfodydd pwyllgor nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor; a
(d) cyhoeddi cofnodion cyfarfodydd pwyllgor,
ar gael i'w archwilio gan unrhyw xxxxxx yn ystod oriau swyddfa arferol yn y sefydliad.
(10)Caiff y Pennaeth ddirprwyo unrhyw un o'i swyddogaethau, ac eithrio rheoli'r gyllideb a'r adnoddau, i aelodau priodol eraill o staff. Mae’r dirprwyo hwnnw a graddau'r dirprwyo hwnnw i'w cymeradwyo x xxxx i'w gilydd gan y Gorfforaeth.
Penodi a Dyrchafu Staff
6. (1) Mae pob aelod o’r staff i wasanaethu o xxx gontract cyflogaeth gyda'r Gorfforaeth.
(2) Pan fydd swydd wag neu swydd wag ddisgwyliedig yn codi mewn swydd uwch, bydd y Gorfforaeth yn:
(a) hysbysebu'r swydd wag mewn cyhoeddiadau o'r xxxx xx'n cylchredeg drwy'r Deyrnas Unedig fel y gwêl yn briodol; a
(b) penodi panel dethol sy'n cynnwys:
i) (os yw'r swydd wag yn un am swydd Pennaeth) o leiaf 2 aelod a dim mwy na 4 aelod o'r Gorfforaeth gan gynnwys y Cadeirydd a/neu'r Is-gadeirydd; neu
ii) (os yw'r swydd wag yn un ar gyfer unrhyw swydd uwch arall) y Pennaeth, ac o leiaf 2 aelod arall o'r Gorfforaeth; a
iii) (os yw'r swydd wag yn un ar gyfer unrhyw uwch swydd) cynghorwr annibynnol, na chaiff fod yn aelod o'r Gorfforaeth, os bernir bod hynny'n briodol.
(3) Mae aelodau o'r panel dethol i gymryd y camau canlynol:
(a) penderfynu trefniadau ar gyfer dethol ymgeiswyr i'w cyfweld;
(b) cyfweld yr ymgeiswyr hynny; ac
(c) os ydynt o'r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, argymell un o'r ymgeiswyr y maent wedi'i gyfweld i'r Gorfforaeth ei benodi.
(4) Os yw'r Gorfforaeth yn cymeradwyo argymhelliad y panel dethol, mae'r person hwnnw i'w benodi.
(5) Os nad yw aelodau'r panel dethol yn gallu cytuno ar xxxxxx i'w argymell i'r Gorfforaeth, neu os nad yw'r Gorfforaeth yn cymeradwyo eu hargymhelliad, caiff y Gorfforaeth ei gwneud yn ofynnol i'r panel ailgymryd y camau a bennir yn is-baragraffau (a) i (c) o Erthygl 6(3), gan ailhysbysebu, neu beidio ag ailhysbysebu, y swydd wag yn gyntaf.
(6) Gall fod yn ofynnol i aelod o’r staff weithredu fel Pennaeth neu weithredu mewn unrhyw swydd uwch arall, os bydd swydd wag yn xxxx xxx fod deiliad y swydd honno yn absennol dros dro, a bydd ganddo xxxx ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r Pennaeth neu ddeiliad y swydd uwch arall honno (yn ôl y digwydd), tra bod y swydd yn wag neu tra bod deiliad y swydd yn absennol. Yn unol â hynny, mae unrhyw gyfeiriad yn yr Offeryn Llywodraethu neu yn yr Erthyglau hyn at y Pennaeth i gynnwys person sy'n gweithredu fel Pennaeth yn unol â'r paragraff hwn.
Ymddygiad Staff
7. Ar ôl ymgynghori â'r staff, mae'r Gorfforaeth i wneud rheolau sy'n ymwneud ag ymddygiad y staff.
Rhyddid Academaidd
8. Wrth wneud rheolau o xxx erthygl 7, mae'r Xxxxxxxxxxx i roi sylw i'r angen i sicrhau bod gan staff academaidd y sefydliad ryddid o fewn y gyfraith i gwestiynu a phrofi doethineb cyffredin, ac i gyflwyno syniadau newydd a lleisio barn ddadleuol neu amhoblogaidd, heb roi eu hunain mewn perygl o golli eu swyddi neu unrhyw freintiau y xxxxxxx fod yn eu mwynhau yn y sefydliad.
Gwahardd Staff Dros Dro
9. (1) Caiff y Cadeirydd, neu yn ei absenoldeb, yr Is-gadeirydd, wahardd dros dro ddeiliad swydd uwch, a hynny ar gyflog, am gamymddwyn neu am reswm xx xxx frys arall. Rhaid i'r Cadeirydd neu'r Is- gadeirydd roi gwybod am waharddiad o'r fath mewn ysgrifen i'r Gorfforaeth o fewn 2 ddiwrnod gwaith neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl hynny.
(2) Caiff y Pennaeth wahardd dros dro o’i ddyletswydd, a hynny ar gyflog, unrhyw aelod o'r staff ac eithrio deiliad swydd uwch, am gamymddwyn neu am reswm xx xxx frys arall.
(3) Xxx xxx unrhyw un a waherddir o’i dyletswyddau dros dro o xxx baragraff (1) neu (2) hawl i xxxx xxxx wrth y Pennaeth, neu, yn achos deiliad swydd uwch, oddi wrth y Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd, hysbysiad ysgrifenedig o'r gwaharddiad dros dro, yn nodi'r rhesymau dros wneud y penderfyniad i wahardd dros dro.
(4) Mae'r gweithdrefnau ar gyfer gwahardd staff dros dro o xxx baragraffau (1) a (2) i'w pennu mewn rheolau a wneir gan y Gorfforaeth ar ôl ymgynghori â'r staff. Mae'r rheolau i gynnwys darpariaeth:
(a) y caiff unrhyw xxxxxx xxxx wedi'i wahardd dros dro am 3 wythnos neu fwy apelio mewn ysgrifen i'r Gorfforaeth yn erbyn y gwaharddiad dros dro, ac eithrio nad oes unrhyw hawl o'r fath i apelio os yw'r achos dros ddiswyddo'r person yn cael ei ystyried o xxx erthygl 10 neu 11;
(b) rhaid ystyried unrhyw xxxx a wneir o xxx is-baragraff (a) uchod cyn gynted ag y bo'n ymarferol;
(c) mae gwaharddiad dros dro y xxx xxxx yn xxxx xx gwneud yn ei erbyn i barhau i weithredu tra'n aros i'r xxxx xxxx ei phenderfynu.
Diswyddo Deiliaid Swyddi Uwch a'r Clerc
10. (1) Yn yr erthygl hon, ystyr “staff uwch perthnasol” yw deiliaid swyddi uwch a'r Clerc, os yw hefyd yn aelod o'r staff.
(2) Ar ôl ymgynghori ag uwch staff perthnasol, mae'r Gorfforaeth i wneud rheolau, gan bennu’r gweithdrefnau (gan gynnwys terfynau amser priodol sy'n ymwneud â’r gweithdrefnau hynny) ar gyfer diswyddo staff uwch perthnasol ac ystyried eu hapelau. Rhaid i’r rheolau hynny ymgorffori darpariaethau sy'n bodloni gofynion yr erthygl hon ac egwyddorion cyfiawnder naturiol.
(3) Os yw'n ymddangos y gall fod achos dros ddiswyddo aelod o'r uwch staff perthnasol, mae'r mater i'w gyfeirio at Bwyllgor Adrodd y Gorfforaeth.
(4) Rhaid i Bwyllgor Adrodd fod wedi ei ffurfio o ddim llai nag un a dim mwy na 5 aelod o'r Gorfforaeth. Fodd bynnag, nid yw'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Pennaeth ac aelodau staff ac aelodau-myfyrwyr yn gymwys i fod yn aelodau.
(5) Mae'r Pwyllgor Adrodd i archwilio'r achos dros ddiswyddo a llunio adroddiad ysgrifenedig, gan gynnwys argymhellion, i'w hystyried gan Bwyllgor Arbennig o'r Gorfforaeth, ac xxx xxxx o’r adroddiad hwn i’w anfon at y person y mae'n ymwneud ag ef.
(6) Rhaid i Bwyllgor Arbennig gynnwys dim llai na 3 aelod o'r Gorfforaeth. Ni fydd aelodau'r Pwyllgor Adrodd, y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Pennaeth ac aelodau staff ac aelodau-myfyrwyr yn gymwys i fod yn aelodau.
(7) Bydd y Pwyllgor Arbennig yn ystyried yr adroddiad a baratowyd gan y Pwyllgor Adrodd ac yn gwahodd y person o xxx sylw i ddod i gyfarfod.
(8) Bydd y Pwyllgor Arbennig yn cymryd unrhyw gamau y mae'n barnu eu bod yn briodol o xxx yr amgylchiadau, a gall y camau hynny gynnwys diswyddo'r person o xxx sylw. Xxx'r Pwyllgor Arbennig i gadarnhau ei benderfyniad mewn ysgrifen i'r person o xxx sylw, ac mae llythyr o'r fath i gynnwys cadarnhad o'r hawl i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad gan y Pwyllgor Arbennig a'r weithdrefn dros wneud hynny. Bydd diswyddiad y gwneir xxxx yn xx xxxxx yn weithredol heb ystyried unrhyw xxxx xxxx yn yr arfaeth.
(9) Os bydd aelod o'r staff uwch perthnasol wedi mynegi ei fwriad i apelio, mae'r Gorfforaeth (ac eithrio aelodau o'r Pwyllgor Adrodd, y Pwyllgor Arbennig ac unrhyw aelodau staff ac aelodau-fyfyrwyr) i wahodd y person o xxx sylw i apelio i ddod i gyfarfod ac i ystyried unrhyw dystiolaeth newydd a gyflwynir. Mae penderfyniad y Pwyllgor Arbennig i’w adolygu gan y Gorfforaeth.
(10)Rhaid i'r Gorfforaeth gadarnhau ei phenderfyniad i'r person o xxx sylw mewn ysgrifen.
Diswyddo Staff ac Eithrio Deiliaid Swyddi Uwch neu'r Clerc
11. (1) Yn yr erthygl hon, ystyr “staff perthnasol” yw staff ac eithrio deiliaid swyddi uwch neu'r Clerc.
(2) Ar ôl ymgynghori â'r staff perthnasol, mae'r Gorfforaeth i wneud rheolau, gan bennu’r gweithdrefnau (gan gynnwys terfynau amser priodol sy'n ymwneud â’r gweithdrefnau hynny) ar gyfer diswyddo staff perthnasol ac ystyried eu hapelau. Rhaid i'r rheolau hyn ymgorffori darpariaethau sy'n bodloni'r Erthygl hon ac egwyddorion cyfiawnder naturiol.
(3) Os yw'r Pennaeth o'r xxxx x xxxx fod achos dros ddiswyddo aelod o’r staff perthnasol, caiff benderfynu penodi Swyddog Adrodd. Mae'r Swyddog Adrodd (os oes un) i archwilio'r achos dros ddiswyddo a llunio adroddiad ysgrifenedig, gan gynnwys argymhellion, i'r Pennaeth ei ystyried, ac xxx xxxx ohono i gael ei anfon at y person o xxx sylw.
(4) Mae'r Pennaeth i ystyried yr adroddiad a baratowyd gan y Swyddog Adrodd (os oes un). Os nad oes adroddiad wedi'i baratoi, rhaid i'r Pennaeth nodi mewn ysgrifen yr amgylchiadau sydd wedi'i arwain i ystyried diswyddo, ac anfon y rhain at y person o xxx sylw. Xxx'r Pennaeth i wahodd y person o xxx sylw i ddod i gyfarfod.
(5) Mae'r Pennaeth i gymryd unrhyw gamau y mae'n barnu eu bod yn briodol o xxx yr amgylchiadau, a gall y camau hynny gynnwys diswyddo'r person o xxx sylw. Xxx'r Pennaeth i gadarnhau ei benderfyniad mewn ysgrifen i'r person o xxx sylw, ac mae llythyr o'r fath i gynnwys cadarnhad o'r hawl i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad gan y Penneath a'r weithdrefn ar gyfer gwneud hynny. Bydd diswyddiad y gwneir xxxx yn xx xxxxx yn weithredol heb ystyried yr xxxx xxxx yn yr arfaeth.
(6) Os bydd aelod o'r staff perthnasol wedi mynegi ei fwriad i apelio, bydd y Gorfforaeth (ac eithrio'r Pennaeth a'r Swyddog Adrodd (os oes un) ac unrhyw aelodau staff neu aelodau-myfyrwyr) yn gwahodd y person o xxx sylw i ddod i gyfarfod xxxx xx xxx i ystyried unrhyw dystiolaeth newydd a gyflwynir. Mae penderfyniad y Xxxxxxxx i'w adolygu gan y Gorfforaeth.
(7) Rhaid i'r Gorfforaeth gadarnhau mewn ysgrifen ei phenderfyniad i'r person o xxx sylw.
Gwahardd y Clerc dros dro a Diswyddo'r Clerc
12. Ni fydd y gofyniad i ddilyn y gweithdrefnau a nodir yn erthyglau 9 a 10 yn achos Clerc sydd hefyd yn aelod o’r staff, yn rhagfarnu hawl y Gorfforaeth i gymryd camau mewn perthynas â gwahardd y Clerc dros dro o’r swydd y mae wedi’i penodi xxxx xxx mewn perthynas â therfynu ei benodiad o xxx baragraff 7 o'r Offeryn Llywodraethu yn unol ag unrhyw gytundeb ar wahân sy'n ymwneud â'i benodiad fel Clerc.
Gweithdrefnau Cwyno
13. Ar ôl ymgynghori â'r staff, mae'r Gorfforaeth i wneud rheolau sy'n pennu gweithdrefnau y gall staff eu dilyn i geisio sicrhau bod unrhyw achosion cwynion ynglyn â’u cyflogaeth yn cael eu cywiro.
Myfyrwyr
14. (1) Mae unrhyw Undeb Myfyrwyr i redeg a rheoli ei fusnes a'i gronfeydd ei hun yn unol â chyfansoddiad a gymeradwyir gan y Xxxxxxxxxxx ac mae i gyflwyno xxx blwyddyn gyfrifon sydd wedi'u harchwilio i'r Gorfforaeth. Ni fydd unrhyw ddiwygiad i'r cyfansoddiad hwnnw neu gamau i’w ddad-wneud ohono, yn rhannol neu'n gyfan, yn ddilys oni bai ei fod wedi'i gymeradwyo gan y Gorfforaeth.
(2) Ar ôl ymgynghori â'r Bwrdd Academaidd (os oes un) a chynrychiolwyr y myfyrwyr, mae'r Gorfforaeth i wneud rheolau ynghylch ymddygiad y myfyrwyr, gan gynnwys gweithdrefnau ar gyfer gwahardd dros dro a diarddel.
(3) Wrth arfer y cyfrifoldebau a nodir yn erthygl 3(3) ac ar ôl ymgynghori â'r Gorfforaeth a chynrychiolwyr y myfyrwyr, rhaid i'r Bwrdd Academaidd (os oes un) gynghori'r Pennaeth ar y gweithdrefnau ar gyfer diarddel myfyriwr am fod safon xx xxxxx yn anfoddhaol neu am reswm academaidd arall. Os nad oes Bwrdd Academaidd, rhaid i'r Gorfforaeth, ar ôl ymgynghori â chynrychiolwyr y myfyrwyr, gynghori'r Pennaeth ar y gweithdrefnau hynny.
Materion Ariannol
15. Mae'r Gorfforaeth i bennu'r polisi a ddefnyddir i benderfynu’r ffioedd dysgu a'r ffïoedd eraill sy'n daladwy i'r Gorfforaeth (yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau a osodir ar grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill a delir neu a wneir gan Lywodraeth Cymru).
Cydweithredu ag Archwilydd Llywodraeth Cymru
16. Mae’r Gorfforaeth i gydweithredu ag unrhyw xxxxxx a awdurdodir gan Lywodraeth Cymru i archwilio unrhyw atebion ac, yn benodol, i ganiatáu i unrhyw xxxxxx o'r xxxx weld unrhyw ddogfennau neu gofnodion a ddelir gan y Gorfforaeth gan gynnwys cofnodion a gedwir ar gyfrifiaduron.
Archwilio Mewnol
17. (1) Ar yr adegau y mae’n barnu eu bod yn briodol, mae'r Gorfforaeth i archwilio a gwerthuso ei systemau rheolaeth ariannol fewnol (neu drefnu iddynt gael eu harchwilio a'u gwerthuso ar ei ran) er mwyn sicrhau eu bod yn cyfrannu at ddefnydd priodol, economaidd, effeithlon ac effeithiol ar adnoddau'r Gorfforaeth.
(2) Rhaid i'r Gorfforaeth beidio â phenodi unrhyw bersonau (“archwilwyr mewnol”) i gyflawni'r gweithgareddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) ar xx xxxx os penodir y personau hynny yn archwilwyr allanol o xxx erthygl 18.
Cyfrifon ac Archwilio Cyfrifon
18. (1) Mae'r Gorfforaeth i:
(a) gadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â'r cyfrifon; a
(b) paratoi datganiad o gyfrifon mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol y Gorfforaeth.
(2) Mae’r datganiad:
(a) i roi darlun gwir a theg o gyflwr busnes y Gorfforaeth ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ac o incwm a gwariant y Gorfforaeth, a'i mewnlifoedd ac all-lifau xxxxx xxxxx yn y flwyddyn ariannol; a
(b) i gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Lywodraeth Cymru ynglyn â’r wybodaeth sydd i'w chynnwys ynddo, y modd y mae'r wybodaeth i gael ei chyflwyno, y dulliau a'r egwyddorion i’w dilyn ar gyfer ei baratoi ac amser a modd ei gyhoeddi.
(3) Mae'r cyfrifon (gan gynnwys unrhyw ddatganiad a baratoir o xxx yr erthygl hon) i gael eu harchwilio gan bersonau (“archwilwyr allanol”) a benodir gan y Gorfforaeth (yn ddarostyngedig i baragraff (5)) ar gyfer pob blwyddyn ariannol.
(4) Mae'r archwilwyr hyn i gael eu penodi ac mae gwaith archwilio arall i gael ei gyflawni, yn unol ag unrhyw ofynion gan Lywodraeth Cymru.
(5) Rhaid i'r Gorfforaeth beidio â phenodi personau'n archwilwyr allanol o xxx baragraff (3) ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol os yw'r personau hynny wedi'u penodi hefyd yn archwilwyr mewnol o xxx Erthygl 17.
(6) Yn yr erthygl hon, o ran y Gorfforaeth:
(a) ystyr “blwyddyn ariannol” yw'r flwyddyn ariannol gyntaf a phob cyfnod dilynol o 12 mis (ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn is-baragraff (c));
(b) ystyr “y flwyddyn ariannol gyntaf” yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y sefydlwyd y Gorfforaeth ac sy'n dod i xxx xxxxx ai ar yr ail 31 Gorffennaf ar ôl y dyddiad hwnnw neu'n dod i ben ar ryw ddyddiad arall a benderfynir gan y Gorfforaeth gyda chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru; a
(c) os diddymir y Xxxxxxxxxxx:
(i) mae’r flwyddyn ariannol xxxx yn dod i ben ar ddyddiad xxxxxxx'x Xxxxxxxxxxx; a
(ii) caiff y Gorfforaeth, gyda chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, benderfynu bod yr hyn a fyddai wedi bod yn ddwy flynedd ariannol olaf y Xxxxxxxxxxx i’w drin fel blwyddyn ariannol unigol at ddibenion yr erthygl hon.
Rheolau ac Is-ddeddfau
19. Xxx xxx y Gorfforaeth y pŵer i wneud rheolau ac is-ddeddfau sy'n ymwneud â materion o'r fath mewn perthynas â llywodraethu a rhedeg y sefydliad fel y gwêl yn dda. Bydd y rheolau a’r is-ddeddfau hynny yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Offeryn Llywodraethu a'r Erthyglau hyn.
Copïau o Erthyglau Llywodraethu, y Rheolau a'r Is-ddeddfau
20. Xxx xxxx o'r Erthyglau hyn, a chopi o unrhyw reolau ac is-ddeddfau, i'w rhoi i xxx aelod ac i'w rhoi ar gael i unrhyw xxxxxx eu harchwilio, yn ystod oriau swyddfa arferol yn y sefydliad, os bydd y person hwnnw yn gofyn am gael gwneud hynny.
Diwygio’r Erthyglau Llywodraethu
21. Caniateir i'r Erthyglau hyn gael eu haddasu neu eu disodli yn unol ag adran 22 o Ddeddf Addysg Xxxxxxx xx Uwch 1992.
Diddymu Corfforaeth Coleg Sir Benfro
22. Xxxx y Gorfforaeth drwy benderfyniad ddiddymu ei hun a darparu ar gyfer trosglwyddo ei hawliau a'i rhwymedigaethau eiddo ar ôl cydymffurfio â'r gofynion canlynol:
(1) Rhaid iddo gyhoeddi'r cynnig o leiaf chwe mis cyn y dyddiad a bennir yn y cynnig ar gyfer diddymu'r Gorfforaeth.
(2) Rhaid i'r cynnig gynnwys:
(a) Enw'r Gorfforaeth a Choleg Sir Benfro fel y sefydliad addysg xxxxxxx.
(b) Cyfeiriad Coleg Xxx Xxxxxx.
(c) Disgrifiad cyffredinol o'r addysg a ddarperir gan Goleg Sir Benfro.
(ch) Nifer y myfyrwyr llawn-amser, nifer y myfyrwyr rhan-amser, a chyfanswm nifer y myfyrwyr yng Ngholeg Sir Benfro.
(d) Y rheswm dros gynnig diddymu'r Gorfforaeth.
(dd) Y dyddiad a gynigir ar gyfer diddymu'r Gorfforaeth.
(e) Y ddarpariaeth addysgol sydd i'w gwneud ar gyfer y myfyrwyr hynny nad ydynt wedi cwblhau eu cyrsiau ar y dyddiad a gynigir ar gyfer diddymu'r Gorfforaeth.
(f) Y trefniadau arfaethedig ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Gorfforaeth.
(3) Rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad o'r cynnig o leiaf chwe mis cyn y dyddiad a bennir yn y cynnig ar gyfer diddymu'r Gorfforaeth.
(a) Mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal a wasanaethir gan Goleg Sir Benfro.
(b) Mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg ledled Cymru.
(c) Ar wefan Coleg Sir Benfro.
(4) Rhaid i'r hysbysiad o'r cynnig a gyhoeddir gan y Gorfforaeth gynnwys:
(a) Enw'r Gorfforaeth a Choleg Sir Benfro fel y sefydliad addysg xxxxxxx.
(b) Y dyddiad a gynigir ar gyfer diddymu'r Gorfforaeth.
(c) Y weithdrefn ar gyfer cael copi o'r cynnig.
(5) Rhaid i'r Gorfforaeth anfon copi o gynnig y diddymiad at:
(a) Xxxxx llywodraethu unrhyw sefydliad yn y sector addysg xxxxxxx o fewn ardal Coleg Sir Benfro.
(b) Xxxxx llywodraethu unrhyw sefydliad yn y sector addysg uwch o fewn ardal Coleg Sir Benfro.
(c) Xxxxx llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir sy'n darparu addysg sy'n addas i ofynion personau dros oedran ysgol gorfodol o fewn ardal awdurdod lleol y mae Coleg Sir Benfro wedi'i leoli ynddi.
(ch) Yr awdurdod lleol y mae Coleg Sir Benfro wedi ei leoli yn ei ardal.
(d) Yr Aelod Cynulliad y lleolir Coleg Xxx Xxxxxx yn ei etholaeth neu ei ranbarth.
(e) Unrhyw Aelod Cynulliad arall y mae ei etholwyr yn ymddangos i'r Gorfforaeth y byddai'r cynnig yn debygol o effeithio arnynt.
(f) Gweinidogion Cymru.
(ff) Yr Aelod Seneddol y mae Coleg Sir Benfro wedi'i leoli yn ei etholaeth.
(g) Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
(ng) Unrhyw gymdeithas a gydnabyddir gan y Gorfforaeth sy'n cynrychioli myfyrwyr yng Ngholeg Sir Benfro.
i) Unrhyw Undeb Llafur a gydnabyddir gan y Xxxxxxxxxxx sy'n cynrychioli staff Coleg Sir Benfro.
ii) Unrhyw xxxxxx xx'n gofyn am xxxx.
iii) Unrhyw xxxxxx arall y mae'n ymddangos i'r Gorfforaeth fod ganddo fuddiant.
(6) Rhaid i'r Gorfforaeth ddarparu cyfnod o un mis o leiaf sy'n dechrau ar ddyddiad cyhoeddi'r cynnig er mwyn gwneud sylwadau ar y cynnig.
(7) Rhaid i'r Gorfforaeth gymryd i ystyriaeth y farn a fynegir mewn unrhyw sylwadau a geir ar y cynnig.
(8) Rhaid i'r Gorfforaeth gyhoeddi crynodeb o unrhyw sylwadau a geir ar y cynnig a chanlyniad yr ymgynghoriad ar wefan Coleg Sir Benfro o fewn dau fis sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori a gwneud copi papur o'r crynodeb ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw xxxxxx xx'n gofyn amdano.