Cynigion cau. (a) Caiff aelod wneud y cynigion a ganlyn, heb sylwadau, ar ddiwedd araith aelod arall:
(i) symud ymlaen i’r busnes nesaf;
(ii) y dylai’r cwestiwn gael ei ofyn nawr;
(iii) gohirio trafodaeth; neu
(iv) gohirio cyfarfod.
(b) Os caiff cynnig i symud ymlaen i’r busnes nesaf ei eilio a bod y Maer o’r farn bod yr eitem wedi’i thrafod yn ddigonol, bydd yn rhoi hawl i ymateb i gynigydd y cynnig gwreiddiol ac wedyn yn cynnal pleidlais ar y cynnig gweithdrefnol.
(c) Os caiff cynnig y dylai’r cwestiwn gael ei ofyn nawr ei eilio a bod y Maer o’r farn bod yr eitem wedi’i thrafod yn ddigonol, bydd yn cynnal pleidlais ar y cynnig gweithdrefnol. Os caiff xx xxxxx bydd yn rhoi hawl i ymateb i gynigydd y cynnig gwreiddiol cyn cynnal pleidlais ar ei gynnig.
(d) Os caiff cynnig i ohirio’r drafodaeth neu i ohirio’r cyfarfod ei eilio a bod y Maer o’r farn bod yr eitem heb ei thrafod yn ddigonol ac nad oes modd rhesymol iddi gael ei thrafod felly ar yr achlysur hwnnw, bydd yn cynnal pleidlais ar y cynnig gweithdrefnol heb roi hawl i ymateb i gynigydd y cynnig gwreiddiol.