Cynllunio gyrfa a chymorth i weithwyr a gaiff eu dadleoli Clausole campione

Cynllunio gyrfa a chymorth i weithwyr a gaiff eu dadleoli. Caiff mecanweithiau lleol eu sefydlu er mwyn rhoi cymorth i’r gweithwyr hynny a gaiff eu dadleoli neu y gall fod angen cymorth arnynt i addasu i amgylchedd gwaith newydd. Nodau datblygu cynllun o’r xxxx xx: cadw sgiliau a phrofiad o fewn GIG Cymru; osgoi colli staff yn ddiangen a lleihau costau dileu swyddi; rhoi cymorth effeithiol i unigolion y mae eu gyrfaoedd yn mynd drwy gyfnod o newid; sicrhau y caiff gweithwyr eu trin yn deg ac yn gyfartal ym mhob rhan o GIG Cymru; rhoi cymorth personol i’r gweithwyr hynny na chânt eu dadleoli o bosibl, ond sy’n poeni’n gyffredinol am effeithiau newid sefydliadol arnynt. Polisi Newid Sefydliadol