Diogelu Enillion yn y Tymor Byr Clausole campione

Diogelu Enillion yn y Tymor Byr. Bydd Diogelu Cyflog yn y Tymor Byr yn berthnasol pan fydd yn rhaid i weithiwr, drwy newid sefydliadol, ymgymryd â newid a all effeithio ar ei enillion ond na fydd yn golygu bod angen newid graddfa/band cyflog. Un enghraifft fyddai newid i batrwm gwaith/shifftiau. Dylai sefydliadau sicrhau y bydd unrhyw sefyllfa lle y gall gweithiwr fod yn destun diogelu yn y tymor byr yn cael ei rheoli’n barhaus a bod yr effaith ar y gweithiwr yn cael ei lleihau cyn belled ag y xx xxxx. Xxx xxx weithwyr hawl i enillion penodol (“enillion y gellir eu diogelu”) gael eu diogelu ar ôl y newid, yn unol â’r tabl canlynol – Hyd at 2 flynedd 2 Ar ôl 2 flynedd o wasanaeth 4 Ar ôl 3 blynedd o wasanaeth 6 Ar ôl 4 blynedd o wasanaeth 8 Ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth 12 Caiff enillion y gweithiwr eu diogelu ar lefel y cyflog wythnosol/misol cyfartalog a dalwyd yn ystod y 17 wythnos/pedwar mis yn union cyn y diwrnod cyntaf o gyflogaeth yn y swydd newydd, neu yn unol â’i rota flaenorol os bydd hynny’n berthnasol. Ar gyfer gweithwyr sydd wedi bod ar Gyfnod Mamolaeth, caiff cyfnod cyfeirio cynrychiadol ei nodi er mwyn sicrhau y caiff lefel briodol o ddiogelu yn y tymor byr ei defnyddio. Dyma’r enillion sy’n gymwys i gael eu diogelu: Oriau contract Taliadau oriau anghymdeithasol Oriau ychwanegol/goramser rheolaidd xxx xxx gontract Lwfansau ar gyfer: Dyletswydd/gwaith wrth gefn/ar alwad a wneir Unrhyw lwfansau / enillion priodol eraill a ddisgrifir yn y Llawlyfr Telerau ac Amodau perthnasol. Caiff enillion yn y swydd/rota/patrwm shifftiau newydd eu gwrthbwyso yn erbyn enillion y gellir eu diogelu. Os bydd yr enillion yn y rota/patrwm shifftiau newydd ar gyfer unrhyw gyfnod tâl penodol yn fwy na’r enillion y gellir eu diogelu, daw’r trefniadau diogelu enillion i ben a chaiff yr enillion yn y rota/patrwm shifftiau newydd eu talu’n llawn ar gyfer y cyfnod tâl penodol hwnnw. Wrth gyfrifo enillion, y cyfraddau a ddefnyddir i gyfrifo taliadau mewn perthynas ag oriau ychwanegol, goramser, gwaith shifft a dyletswyddau ychwanegol eraill fydd y rhai sy'n berthnasol i'r swydd newydd. Bydd xxxxxx trefniadau diogelu enillion yn y tymor byr yn amodol ar unrhyw oramser, gwaith shifft ar alwad, gwaith mewn argyfwng a dyletswyddau ychwanegol, lle bo hynny’n berthnasol, y gall fod angen i’r gweithiwr ymgymryd â nhw yn y swydd newydd hyd at y lefel lle mae enillion yn y swydd newydd yn cyfateb i’r enillion a ddiogelir. Y tu hwnt i’r pwynt hwn, bydd trefniadau arferol yn berthnasol a chaiff taliadau eu gwneud ar y...