Dulliau Dethol Clausole campione

Dulliau Dethol. Cytunir ar ddulliau dethol yn lleol yn unol ag amgylchiadau’r lleihad yn nifer y swyddi, y grwpiau staff xxx sylw a gofynion y gwasanaeth a’r sefydliad yn dilyn y newid. Gellir ystyried unrhyw rai o'r canlynol xxx xxx un ohonynt yn feini prawf ar gyfer dethol, o gofio ei bod yn rhaid i’r broses ddethol fod yn seiliedig ar feini prawf gwrthrychol: hyd gwasanaeth; cofnod presenoldeb; cofnod salwch (rhaid i’r defnydd o’r maen prawf hwn gael xx xxxxx’n ofalus yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010); cofnod disgyblu; cymwysterau; sgiliau; cymwyseddau; profiad gwaith; cofnodion perfformiad (yn seiliedig ar dystiolaeth ddogfennol a gwrthrychol ffurfiol e.e. dogfennau rheoli perfformiad/adolygu datblygiad. Rhaid i’r sefydliad fod yn ofalus wrth ddylunio a defnyddio ei feini prawf dethol, er mwyn osgoi defnyddio ffactorau a all wahaniaethu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn erbyn unrhyw weithwyr ar sail rhywedd, hil, anabledd, crefydd xxx xxxx, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth neu oherwydd eu bod yn drawsryweddol, yn briod neu mewn partneriaeth sifil. Dylid rhoi’r un ystyriaeth i statws cyflogaeth ran-amser ac aelodaeth o undeb llafur. Rhaid i sefydliadau gynnal asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y dull dethol a ddewisir. Bydd gweithwyr yn cael amser rhesymol i ffwrdd o’r gwaith, xxxx xxxx ac ad-dalu treuliau, i ymgynghori â rheolwyr, cynrychiolwyr undebau llafur a staff, i ymweld ag unrhyw leoliadau newydd lle y xxxxxxx chwilio am gyflogaeth amgen, i fynd i gyfweliad ac i gael hyfforddiant ac ailhyfforddiant.