GRANTIAU LLYWODRAETH A CHYFRANIADAU Clausole campione

GRANTIAU LLYWODRAETH A CHYFRANIADAU. P’un a ydynt yn cael eu talu fel ernes, mewn rhandaliadau neu fel ôl-ddyledion, mae grantiau'r llywodraeth a chyfraniadau trydydd parti a rhoddion yn cael eu cydnabod yn ddyledus i’r Cyngor pan mae sicrwydd rhesymol: • y bydd y Cyngor yn cydymffurfio â’r amodau sydd wedi’u hatodi i’r taliad, ac • y derbynnir y grant a’r cyfraniadau. Nid yw’r symiau sy’n cael eu cydnabod yn ddyledus i’r Cyngor yn cael eu credydu i’r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr nes bydd amodau sydd ynghlwm wrth y xxxxx xxx’r cyfraniad wedi’u bodloni. Amodau yw rhagnodiadau sy’n mynnu bod manteision economaidd neu botensial gwasanaeth ased yn y dyfodol ar ffurf xxxxx xxx gyfraniad yn cael eu defnyddio gan y derbynnydd fel y nodir, xxx xxx’n rhaid dychwelyd manteision economaidd neu botensial gwasanaeth yn y dyfodol i’r trosglwyddwr. Xxx xxxxx sy’n cael ei ddwyn ymlaen fel grantiau a chyfraniadau lle nad yw’r amodau ar eu cyfer wedi’u bodloni’n cael eu cario yn y Fantolen fel credydwyr. Pan fo’r amodau wedi’u bodloni, mae’r xxxxx xxx’r cyfraniad yn cael ei gredydu i’r llinell gwasanaeth berthnasol (grantiau refeniw a chyfraniadau y gellir eu priodoli), neu Drethiant ac Incwm Grantiau Amhenodol (grantiau refeniw heb eu neilltuo a phob grant cyfalaf) yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr. Lle credydir grantiau cyfalaf i’r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr, cânt eu gwrthdroi o Falans y Gronfa Gyffredinol / CRT yn y Datganiad ynglŷn â’r Symudiadau yn y Cronfeydd Wrth Gefn. Lle nad yw’r grant wedi’i ddefnyddio eto i ariannu gwariant cyfalaf, caiff ei bostio i Gronfa Wrth Gefn Grantiau Cyfalaf Heb eu Cymhwyso. Lle bydd wedi'i gymhwyso, caiff ei bostio i'r Cyfrif Addasiadau Cyfalaf. Mae symiau yng Nghronfa Wrth Gefn Grantiau Cyfalaf Heb eu Cymhwyso’n cael eu trosglwyddo i’r Cyfrif Addasiadau Cyfalaf ar ôl iddynt gael eu cymhwyso i ariannu gwariant cyfalaf.