Cyfrif Addasiadau Cyfalaf Clausole campione

Cyfrif Addasiadau Cyfalaf. Mae’r Cyfrif Addasiadau Cyfalaf yn amsugno’r gwahaniaethau amseru sy’n deillio o’r gwahanol drefniadau i gyfrifo ar gyfer defnydd o asedau anghyfredol ac er mwyn ariannu caffael, adeiladu neu wella’r asedau hynny xxx ddarpariaethau statudol. Mae cost caffael, adeiladu neu wella’n cael eu debydu o’r cyfrif gan fod dibrisiad, colledion lleihad gwerth ac amorteiddiadau’n cael eu codi ar y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr (gyda phostiadau cysoni o’r Gronfa Adbrisio Wrth Gefn i drosi ffigyrau gwerth teg i sail cost hanesyddol). Mae’r Cyfrif yn cael ei gredydu gyda’r symiau a neilltuwyd gan y Cyngor i ariannu costau caffael, adeiladu a gwella. Mae’r Cyfrif hefyd yn cynnwys enillion adbrisio a gronnwyd ar Eiddo, Peiriannau ac Offer cyn 1 Ebrill 2007, y dyddiad y crëwyd y Gronfa Adbrisio Wrth Gefn i gadw enillion o’r fath. Mae Nodyn 6 yn darparu manylion ffynhonnell yr xxxx drafodion sy’n rhan o’r Cyfrif, ac eithrio’r rhai sy’n cynnwys y Gronfa Adbrisio Wrth Gefn. 375,599 Balans ar 1 Ebrill 204,537 Gwyrdroi eitemau mewn perthynas â gwariant cyfalaf sydd wedi eu debydu neu eu credydu i’r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr: