GWARIANT REFENIW A ARIENNIR O GYFALAF TRWY STATUD Clausole campione

GWARIANT REFENIW A ARIENNIR O GYFALAF TRWY STATUD. Codir am wariant a wnaed yn ystod y flwyddyn y gellir ei gyfalafu o xxx ddarpariaethau statudol ond nad yw’n arwain at greu asedau anghyfredol fel gwariant i gyfrif refeniw’r gwasanaeth perthnasol yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr yn ystod y flwyddyn. Pan fo’r Cyngor wedi penderfynu bodloni costau’r gwariant hwn o adnoddau cyfalaf presennol neu drwy fenthyca, bydd trosglwyddiad yn y Datganiad am Symudiadau yn y Cronfeydd Wrth Gefn o Falans y Gronfa Gyffredinol / CRT i’r Cyfrif Addasiadau Cyfalaf wedyn yn gwrthdroi’r symiau a godir fel nad oes unrhyw effaith ar lefel treth y cyngor / rhenti’r CRT.