Risg. Nodir rhestr fanwl o’r prif risgiau i’r Gronfa yn y Datganiad Strategaeth Ariannu. Caiff risgiau sy’n deillio o fuddsoddiadau eu monitro gan y Panel Cynghori ar Fuddsoddi. Mae’r Gronfa’n cydnabod y risgiau sy’n deillio o ddal cyfran uwch o ecwitïau ac asedau eraill sy’n ceisio adenillion nag a fyddai’n cael eu dal o xxx strategaeth a yrrir gan atebolrwydd ond mae o’r farn bod y risgiau hyn yn cael eu lliniaru gan gyfamod cryf prif gyflogwyr y Gronfa a phroffil aeddfedrwydd sefydlog ei haelodaeth. i gysylltiad â marchnad gyfalaf benodol yn cael ei lliniaru i ryw raddau gan strategaeth arallgyfeirio fel yr un a ddilynir gan y Gronfa. Mae’r rheolwyr cronfa arbenigol unigol yn rheoli risg amrywio o’r meincnodau, yn unol â’r targedau a roddwyd iddynt. Adroddir ar lefelau risg cymharol ar gyfer rheolwyr gweithredol xxx chwarter a’u trafod yn flynyddol gan y Panel. Mae’r Panel yn cydnabod y gall gwall olrhain ei hun fod yn fesur cyfnewidiol o’r risgiau sy’n cael eu cymryd gan reolwr xx x xxxx cyn-ôl-ystadegau amrywio’n sylweddol o gyn- amcangyfrifon. O’r herwydd, xxx xxxxx trin xx xxxxx rhagweladwy yn ofalus. Felly defnyddir y gwall olrhain fel canllaw wrth ystyried perfformiad cyffredinol y rheolwr. Risg Hylifedd yw’r risg na all y Gronfa fodloni ei rhwymedigaethau uniongyrchol gan nad oes ganddi ddigon o asedau. Mae’r Gronfa’n monitro ei sefyllfa o ran hylifedd yn ofalus er mwyn sicrhau nad yw’n werthwr asedau hirdymor i wneud taliadau buddion. Cedwir o leiaf 80% o asedau’r Gronfa mewn ecwitïau a bondiau a restrir yn gyhoeddus y gellir eu gwireddu’n hawdd. Mae buddsoddiadau mewn eiddo ac ecwiti preifat yn fuddsoddiadau hirdymor y mae’r Gronfa’n llai tebygol o allu eu gwireddu mewn cyfnod byr. Mae risgiau gweithredol yn codi drwy weithredu strategaeth fuddsoddi’r Gronfa. Nodir y risgiau hyn isod: • Risg pontio – gall y Gronfa arwain at gostau annisgwyl mewn perthynas â throsglwyddo asedau rhwng rheolwyr a/ neu ddosbarthiadau asedau. Wrth gynnal trosglwyddiadau sylweddol, mae’r gronfa’n cymryd cyngor proffesiynol ac yn ystyried defnyddio rheolwyr pontio arbenigol er mwyn lliniaru’r risg hon pan fydd yn gost-effeithiol gwneud hynny. • Risg gwarchod – rhaid i’r Gronfa sicrhau ei bod yn cadw’r hawliau economaidd i xxxx asedau’r Gronfa, pan maent yn cael eu cadw gan geidwad neu’n cael eu masnachu. Mae’n gwneud hyn drwy ddefnyddio ceidwad byd- xxxx (Northern Trust) ar gyfer cadw asedau, defnyddio trefniadau cytundebol ffurfiol ar gyfer pob buddsoddiad a chynnal cofnod...