Disgrifiad o’r Gronfa Clausole campione

Disgrifiad o’r Gronfa. Gweinyddir Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg gan Gyngor Caerdydd ac mae’n rhan o CPLlL. Rheolir y cynllun gan Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013. Gweinyddir y Gronfa yn unol â’r is-ddeddfwriaeth ganlynol: • Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013 (fel y’u diwygiwyd) • Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Darpariaethau Trosiannol, Arbedion a Diwygio) 2014 (fel y’u diwygiwyd) • Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Rheoli a Buddsoddi Cronfeydd) 2016 Mae’n gynllun pensiwn xxxx diffiniedig cyfrannol a weinyddir gan Gyngor Caerdydd i ddarparu pensiynau a buddion eraill i weithwyr pensiynadwy Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg, ac eithrio athrawon sydd xxx gynllun ar wahân. Caniateir i gyflogeion amrywiaeth o gyrff eraill cofrestredig a derbyniedig yn yr ardal sirol ymuno â’r Gronfa hefyd. Goruchwylir y Gronfa gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg, sy’n un o bwyllgorau Cyngor Caerdydd. Mae aelodaeth o’r CPLlL yn awtomatig i xxx cyflogai, a all wedyn ddewis aros yn y cynllun neu wneud ei drefniadau personol ei hun y tu xxxxx i’r cynllun. Mae’r sefydliadau sy’n cymryd rhan yng Nghronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg yn cynnwys y canlynol: • Cyrff cofrestredig, sydd â hawl awtomatig i fod yn aelodau o’r Gronfa • Cyrff derbyniedig, sy’n cymryd rhan yn y Gronfa yn rhinwedd cytundeb derbyn a wnaed rhwng y Gronfa a’r cyflogwr. Mae cyrff derbyniedig yn cynnwys sefydliadau gwirfoddol, elusennol a sefydliadau dielw tebyg, neu gontractwyr preifat sy’n ymgymryd â swyddogaeth awdurdod lleol ar ôl rhoi contractau allanol i’r sector preifat.