CODI AR REFENIW AR GYFER ASEDAU ANGHYFREDOL Clausole campione

CODI AR REFENIW AR GYFER ASEDAU ANGHYFREDOL. Caiff gwasanaethau, gwasanaethau cefnogi a chyfrifon masnachu eu debydu â’r symiau canlynol i gofnodi'r gost o ddal asedau anghyfredol yn ystod y flwyddyn: • dibrisio sy’n gallu cael ei briodoli i’r asedau sy’n cael eu defnyddio gan y gwasanaeth perthnasol. • colledion ailbrisio a lleihad yng ngwerth asedau a ddefnyddir gan y gwasanaeth lle nad oes unrhyw enillion cronedig yn y Gronfa Adbrisio Wrth Gefn y gall y colledion gael eu dileu yn eu herbyn. • amorteiddiad asedau anniriaethol sy’n gallu cael eu priodoli i’r gwasanaeth. Nid oes angen i’r Cyngor godi Treth y Cyngor i ariannu colledion dibrisiad, ailbrisiad na lleihad gwerth neu amorteiddiad. Fodd bynnag, xxx xxxxx iddo wneud cyfraniad blynyddol o refeniw tuag at leihau xx xxxxx benthyca cyffredinol, sydd gyfwerth â swm sy’n cael ei gyfrifo ar sail ddarbodus gan y Cyngor yn unol â chanllawiau statudol. Felly caiff colledion dibrisiad, ailbrisiad a lleihad gwerth neu amorteiddiadau eu disodli gan y cyfraniad i falans y Gronfa Gyffredinol / CRT, ar ffurf trafodyn addasu yn y Cyfrif Addasiadau Cyfalaf ar y Datganiad ar Symudiadau yn y Cronfeydd Wrth Gefn ar gyfer y gwahaniaeth rhwng y xxxxx a'r llall.