Croniadau incwm a gwariant. Rhoddir cyfrif am weithgarwch ariannol yn y flwyddyn y mae’n digwydd, nid yn unig pan dderbynnir neu pan wneir taliadau xxxxx xxxxx. Yn benodol: • Xxxxx refeniw o werthu nwyddau ei gydnabod pan fydd y Cyngor yn trosglwyddo risgiau a manteision sylweddol perchnogaeth i’r prynwr a’i bod yn debygol y bydd y Cyngor yn elwa o fanteision ariannol y trosglwyddiad neu’r posibiliadau y mae’n ei gynnig o ran gwasanaethau. • Caiff refeniw o ddarparu gwasanaethau ei gydnabod pan gall y Cyngor fesur yn ddibynadwy y canran o’r trosglwyddiad sydd wedi ei gwblhau a’i bod yn debygol y bydd y Cyngor yn elwa o fanteision ariannol y trosglwyddiad neu’r posibiliadau y mae’n ei gynnig o ran gwasanaethau. • Cofnodir cyflenwadau fel gwariant wrth iddynt gael eu defnyddio - lle bo bwlch rhwng dyddiad derbyn cyflenwadau a'r defnydd ohonynt, cânt eu cynnwys fel stoc ar y Fantolen. • Caiff treuliau sy’n gysylltiedig â derbyn gwasanaethau (gan gynnwys gwasanaethau a ddarperir gan gyflogwyr) eu cofnodi fel gwariant pan dderbynnir y gwasanaethau yn hytrach xx xxxx wneir taliadau. • Rhoddir cyfrif am incwm a llog sy'n dderbyniadwy ar fuddsoddiadau, ac sy'n daladwy ar fenthyciadau fel incwm a gwariant ar sail y gyfradd log gyfredol ar gyfer yr offeryn ariannol xxx sylw, yn hytrach na'r llifoedd xxxxx xxxxx a osodwyd neu a bennwyd gan y contract. • Pan gydnabuwyd refeniw a gwariant, ond na dderbyniwyd neu na thalwyd unrhyw xxxxx xxxxx, caiff dyledwr neu gredydwr ar gyfer y swm perthnasol ei gofnodi ar y Fantolen. Lle gallai amhariad fod ar ddyledion, bydd balans dyledwyr yn cael ei ostwng ar sail y gwahaniaeth rhwng y swm cario a llifoedd xxxxx xxxxx diwygiedig yn y dyfodol, a chodir tâl am yr amhariad hwnnw o refeniw.