Polisi a Gweithdrefnau Corfforaethol Clausole campione

Polisi a Gweithdrefnau Corfforaethol. Ar 29 Mehefin 2017 mabwysiadodd y Cyngor y polisi RIPA diwygiedig, ac awdurdodwyd y Swyddog Monitro (Uwch Swyddog Cyfrifol) i wneud mân newidiadau. Xxx xxxxx newid y Polisi er mwyn cyfeirio at y Cod Ymarfer diwygiedig - Cuddwylio ac Ymyrryd ag Eiddo a Chod Ymarfer diwygiedig - Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol, dyddiedig Awst 2018. Yn sgil yr awgrymiadau yn adroddiad arolygiad Swyddfa'r Comisiynwyr Arwylio 12/4/16 (paragraff 6.1 ii) mae'r Ddogfen Bolisi a Gweithdrefnau Corfforaethol (Tachwedd 2015) wedi’i diwygio i gynnwys Canllawiau Arwylio i Swyddogion nad ydynt yn cael eu rheoleiddio gan RIPA. Mae'r ddogfen bolisi'n rhoi sylw cynhwysfawr i'r mater hwn. Fodd bynnag, xxx xxxxx sicrhau ei bod yn cael ei rhannu â phob gwasanaeth (yn unol â pharagraff 7.7 adroddiad Swyddfa'r Comisiynwyr Arwylio) i sicrhau bod staff sy'n llai cyfarwydd â RIPA yn gwybod y gallai eu defnydd nhw o'r cyfryngau electronig at ddibenion busnes y cyngor wrthdaro â phreifatrwydd pobl eraill ac y dylai fod yn destun prosesau llym RIPA. Nodir "na fyddai'n anodd i swyddogion brwdfrydig, drwy amryfusedd, "grwydro" i dir gweithgareddau sydd o fewn cwmpas y darpariaethau statudol. Hyd yn oed os ydynt yn llawn bwriadau da, gall fod yn anghyfreithlon". Xxx xxxxx clustnodi pa wasanaethau allai ddod o xxx y categori hwn. Mae'r Ddogfen Bolisi a Gweithdrefnau Corfforaethol (Mehefin 2017) wedi’i chyhoeddi ar wefan y Cyngor, ac mae wedi cael ei rhannu â phob Pennaeth Gwasanaeth. Bydd hyfforddiant penodol yn cael ei gynnig yn ôl yr xxxxx xx mwyn codi ymwybyddiaeth o'r risgiau posib. Cynigir hyfforddiant addas i’r staff priodol (a nodwyd fel rhai a allai gwympo i mewn i’r categori hwn) megis yr un a drefnir gan Gyngor Sir Penfro ar 22 Tachwedd 2018, bydd hyfforddiant o’r fath yn cynnwys codi ymwybyddiaeth am yr uchod a hyfforddiant ynghylch y newidiadau i’r Canllawiau RIPA a ddaeth i rym ym mis Awst 2018. Mae’r hyfforddiant wedi cael ei gydlynu gan Xxxxxx Xxx Xxxxxx.