Cymesuredd Clausole campione

Cymesuredd. Ystyr cymesuredd yw sicrhau mai defnyddio’r Ffynhonnell Cuddwybodaeth Ddynol yw’r dull lleiaf ymwthiol o gael gafael ar y wybodaeth ofynnol, a hynny ar ôl ystyried yr xxxx ddulliau amgen rhesymol. Yn ogystal ag ystyried a yw defnyddio Ffynhonnell Cuddwybodaeth Ddynol yn briodol, rhaid hefyd ystyried y dull a ddefnyddir, am ba hyd y bydd yn cael ei defnyddio, a’r cyfarpar a gaiff ei ddefnyddio. Mae’r Cod ar Ffynonellau Cuddwybodaeth Dynol (Para 3.5) yn mynnu y dylid rhoi sylw i xxxxxx agwedd ar y ffurflen gais: • taro cydbwysedd rhwng maint a chwmpas y gweithgaredd arfaethedig a difrifoldeb a hyd a lled y drosedd dybiedig neu’r tramgwydd tybiedig; • egluro sut a xxxx y bydd y dulliau a ddefnyddir yn ymyrryd cyn lleied â phosibl â tharged y wyliadwriaeth ac eraill; • ystyried a yw’r gweithgarwch yn gwneud defnydd priodol a rhesymol o’r ddeddfwriaeth, ar ôl ystyried pob opsiwn amgen rhesymol, i sicrhau’r canlyniad gofynnol; • rhoi tystiolaeth, cyhyd ag y bo’n rhesymol ymarferol, o’r dulliau eraill a gafodd eu hystyried a’r rheswm dros eu diystyru. Nid yw’n dderbyniol ystyried a oes angen caniatâd ar sail disgrifiad o’r wyliadwriaeth yn unig. Rhaid ystyried y ffeithiau penodol ar sail egwyddorion cyfreithiol. Mater o farn ydyw. Rhaid nodi a rhoi disgrifiad clir o’r ymddygiad y bwriedir ei xxxx/ganfod, a rhaid esbonio xxx ei bod yn angenrheidiol defnyddio’r technegau xxxx y gofynnir am ganiatâd i’w defnyddio.