Trefniadau diogelwch a lles. Yn aml, bydd Ffynonellau Cuddwybodaeth Dynol yn cael eu rhoi mewn sefyllfaoedd anodd sydd weithiau’n beryglus e.e. hysbysydd ar ystad dai sy’n dod i gysylltiad â gang troseddol. Rhaid rhoi trefniadau diogelwch a lles priodol ar waith ar gyfer pob Ffynhonnell Cuddwybodaeth Ddynol. Yn unol ag A.29(5), mae’n ofynnol gwneud y ddarpariaeth a ganlyn: • Pennu unigolyn a fydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb o ddydd i ddydd am ymdrin â’r Ffynhonnell Cuddwybodaeth Ddynol ar ran yr awdurdod, ac am ei diogelwch a’i lles; • Pennu unigolyn a fydd yn cadw golwg cyffredinol ar y modd y mae’r Ffynhonnell Cuddwybodaeth Ddynol yn cael ei defnyddio. Rhaid iddo fod yn unigolyn gwahanol i’r unigolyn uchod. • Pennu unigolyn a fydd yn cadw cofnod o’r modd y mae’r Ffynhonnell Cuddwybodaeth Ddynol yn cael ei defnyddio. Gall fod yn unrhyw un o’r ddau unigolyn uchod neu’n unigolyn arall. • Cadw cofnodion priodol a diogel am y modd y mae’r Ffynhonnell Cuddwybodaeth Ddynol yn cael ei defnyddio.