Trefniadau cymorth Clausole campione

Trefniadau cymorth. Rhaid i reolwyr sicrhau y caiff trefniadau lleol eu sefydlu er mwyn helpu gweithwyr sydd mewn perygl o gael eu dadleoli neu y gallai eu swyddi fod mewn perygl. Gellir ystyried y pwyntiau canlynol fel rhestr wirio o gyfleusterau cymorth y gellid eu cynnig: mynediad at gyngor gyrfaol; mynediad at gwnsela; mynediad at aelodau addas o staff ar lefel uwch i weithredu fel mentoriaid a rhoi cyngor ac arweiniad allanol fel y bo'n briodol; trefniadau ar gyfer cael mynediad at swyddi gwag a/neu gyfyngu ar swyddi gwag fel y bo’n briodol, gan ddefnyddio swyddi’r GIG; cymorth a chyngor ar ysgrifennu CVs, llenwi ffurflenni cais, sgiliau cyfweliad ac ati; cymorth i gael mynediad at swyddi’r GIG, canolfannau gwaith, ymgynghorwyr recriwtio ac ati; cyfleusterau a chymorth ar gyfer anfon CVs at gyrff, sefydliadau a chyflogwyr y GIG dros Gymru gyfan; cysylltiad â chyfleoedd i ailhyfforddi, lwfansau, sefydliadau addysg ▇▇▇▇▇▇▇ ▇▇ ati, a mynediad atynt; mynediad at gyngor annibynnol ar faterion ariannol a phensiynau yn achos dileu swydd neu ymddeoliad cynnar. Nid yw’r rhestr uchod yn hollgynhwysfawr. Bwriedir iddi fod yn ganllaw cyffredinol ar feysydd i’w hystyried.